Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Priodasgerdd Elin Morys

Oddi ar Wicidestun
I Dywysog Cymru Barddoniaeth Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Bonedd a Chynheddfau'r Awen

AWDL BRIODASGERDD

ELIN MORYS, merch Lewis Morris, Ysw., o Allt Fadog
ac yn awr gwraig Rhisiart Morys, o Fathafarn, 1753.

[Yn mhob argraphiad o'r blaen, dywedir mai yn 1754 y cymerodd
y briodas hon le, ond cyfeiria'r bardd at y Briodasgerdd mewn
llythyr at R. Morris, dyddiedig Rhagfyr 17, 1753, ac at W. Morris,
Rhagfyr 18. Gweler LLYTHYRAU, tudal. 66, 67, 74.]


UST! tewch oll! arwest[1] a chân.
Gawr[2] hai, ac orohian!
Melus molawd,
A bys a bawd,
Llon lwysawd llawen leisiau,
Aml iawn eu gwawd,[3] mil yn gwau,
Wawr hoywaf, orohian
A cherdd y chân.

Tros y rhiw tores yr haul,
Wên bore, wyneb araul;
Mae'n deg min dydd,
Tawel tywydd,
O'r nentydd arien[4] untarth,
Ni cheidw gŵydd o chaid gwarth;
"Dwyre,[5] ddyn wenbryd eirian,"
Yw'n cerdd a'n cân.

"Na âd le i gwsg yn d'ael, Gwen,
Disgleiria, dwywes[6] glaerwen,
Fein ais fwyn wâr,
E'th gair a'th gâr,
Dyn geirwar (dawn a gerych)
Ag e'n bâr; Gwen wiw, y bych
I'r hoyw walch orohian,"
Yw'n cerdd a'n cân.

Na arhô hwnt yn rhy hir,
Waisg Elin, e'th ddisgwylir ;
Dwg wisg, deg ael,
Dda-wisg ddiwael;
Dwg urael,[7] diwyg eurwerth,
Na fo gael un o fwy gwerth;
Aur osodiad ar sidan
I'r lwys wawr lân.

Ar hyd y llawr, y wawr wych,
Cai irddail ffordd y cerddych,
Gwiwryf gwyros,[8]
A rhif o'r rhos,
Da lios, deuliw ewyn,[9]
Brysia, dos; ber yw oes dyn;
Du'ch ellael,[10] deuwch allan,
Yw'n cerdd a'n cân.

O chlywi, wenferch Lewys,
Dwyre[11] i'r Llan, draw o'r llys,
Canweis cenynt
O'th ol i'th hynt,
A llemynt â'u holl ymhwrdd,
Felly gynt fe ae llu gwrdd
I'r Eglwys, wawr rywioglan,
A'r glwys wr glân.

Wedi rhoi yn rhwydd sicrwydd serch
I'r mwynfab, orau meinferch,
Hail[12] i'n hoyw-wledd,
Dwg win, deg wedd;
Dwg o anedd digynil,
Ddogn o fedd, ddigon i fil,
A chipio pib a chwpan
Yw'n cerdd a'n cân.


Rhodder, a chlêr a'i haeddant,
Bwyd a gwin, be deuai gant,
I gyd ni gawn
Iechyd wych-iawn
Y ddau nwyfiawn ddyn iefanc,
O bott llawn, byd da, a llanc;
Gwr gwaraidd a gwraig eirian,
Par glwys pêr glân.

A fedro, rhoed drwy fodrwy
Deisen fain, dwsin neu fwy,
Merched mowrchwant,
I'w ced a'u cânt,
Dispiniant[13] hwy does peinioel[14],
Rhwy maint chwant rhamant a choel,
Cysur pob gwyrf yw cusan-
Yw'n cerdd a'n cân.

Y nos, wrth daflu'r hosan,[15]
Cais glol y llancesau glân,
O chwymp a'i chael,
Eurwymp urael,
Ar ryw feinael wyrf unig,
Gweno ddu-ael, gwn ni ddig,
Rhyned os syr ei hunan.
Yn wyrf hen wan.

Yn iach cân i'r rhianedd,
Dêl i'r rhai'n dal wŷr a hedd,
Mae bro mwy bri[16]
Eto iti,
Gyr weddi, gu arwyddiad,
I Dduw Tri, e ddaw it' rad,
Byd hawdd, a bywyd diddan.
A cherdd a chân.

Dod i'th wr blant, mwyniant mawr,
Dod wyrion i'th dad eurwawr,
A he o hil
Hapus hepil,

Dieiddil, Duw a wyddiad,
Ie, gan mil, egin mad;
Llaw Duw iddynt, llu diddan,
Hil glwys, hael glân.

Gyr sin[17] i wan gresynol,
I Dduw a wnair, e ddaw'n ol;
Afiaeth ofer
Y sydd îs ser;
Goreu arfer, gwawr eurfain,
Moli dy Ner mal dy nain,[18]
Gwiwnef it' hwnt, gwynfyd da;
Amen yma.

Nodiadau

[golygu]
  1. Cerdd offerynol.
  2. Bloedd.
  3. Canmoliaeth.
  4. Barug.
  5. Tyred.
  6. Duwies
  7. Urael—lleianwisg deg a drudfawr.
  8. Dail bytholwyrdd.
  9. Ewyn y don
  10. Ael.
  11. Tyred.
  12. Cyfeiriad at hen ddefod Gymreig mewn priodasau. Gwasanaethu wrth fwrdd y wledd; o hyn y tardd y gair heilyn am butler.
  13. Ymddihatru, ymddiosg, ymddiblisgo.
  14. Eplesedig.
  15. LLYTHYRAU, 76.
  16. Yn nghopi W. Morris, "Mae rhodd mwy rhi."
  17. Elusen.
  18. Margred Morris; gweler tudal. 32.