Beibl (1620)/1 Corinthiaid

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Rhufeiniaid Beibl (1620)
1 Corinthiaid
1 Corinthiaid
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
2 Corinthiaid

EPISTOL CYNTAF PAUL YR APOSTOL AT Y CORINTHIAID

PENNOD 1

1:1 Paul, wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes,

1:2 At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, o’r eiddynt hwy a ninnau:

1:3 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Ar¬glwydd Iesu Grist.

1:4 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu;

1:5 Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth;

1:6 Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch:

1:7 Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Har¬glwydd Iesu Grist:

1:8 Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist.

1:9 Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.

1:10 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un fam.

1:11 Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chloe, fod cynhennau yn eich plith chwi.

1:12 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist.

1:13 A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y’ch bedyddiwyd chwi?

1:14 Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i i neb ohonoch, ond Crispus a Gaius;

1:15 Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun.

1:16 Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall.

1:17 Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer.

1:18 Canys yr ymadrodd am y groes, i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni’r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw.

1:19 Canys ysgrifenedig yw. Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf.

1:20 Pa le y mae’r doeth? pa le mae’r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd?

1:21 Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.

1:22 Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb:

1:23 Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb;

1:24 Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw.

1:25 Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion.

1:26 Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd:

1:27 Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn;

1:28 A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai’r pethau sydd:

1:29 Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef.

1:30 Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth:

1:31 Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.


PENNOD 2

2:1 A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw.

2:2 Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio.

2:3 A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr.

2:4 A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth:

2:5 Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw.

2:6 A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu.

2:7 Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni:

2:8 Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant.

2:9 Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef.

2:10 Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd.

2:11 Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw.

2:12 A nyni a dderbyniasom, nid ysbryd y byd, ond yr Ysbryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw.

2:13 Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol.

2:14 Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt.

2:15 Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd.yn barnu pob peth; eithr efe nis bernir gan neb.

2:16 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.


PENNOD 3

3:1 A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist.

3:2 Mi a roddais i chwi laeth i’w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn nis gallech, ac nis gellwch chwaith eto yr awron, ei dderbyn.

3:3 Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol?

3:4 Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol?

3:5 Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un?

3:6 Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd.

3:7 Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd.

3:8 Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun.

3:9 Canys cydweithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.

3:10 Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu.

3:11 Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw’r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.

3:12 Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl;

3:13 Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a’i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a’r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.

3:14 Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr.

3:15 Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân.

3:16 Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch?

3:17 Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi.

3:18 Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffôl, fel y byddo doeth.

3:19 Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw: oherwydd ysgrifenedig yw, Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra.

3:20 A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.

3:21 Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi:

3:22 Pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Ceffas, ai’r byd, ai bywyd, ai angau,. ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; y mae pob peth yn eiddoch chwi;

3:23 A chwith yn eiddo Crist; a Christ yn eiddo Duw.


PENNOD 4

4:1 Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw.

4:2 Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon.

4:3 Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun.

4:4 Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu.

4:5 Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau’r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw.

4:6 A’r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o’ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall.

4:7 Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn?

4:8 Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi.

4:9 Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion.

4:10 Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus.

4:11 Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd;

4:12 Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â’n dwylo’n hunain. Pan y’n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y’n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef;

4:13 Pan y’n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn.

4:14 Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl.

4:15 Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl.

4:16 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, byddwch ddilynwyr i mi.

4:17 Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys.

4:18 Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi.

4:19 Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, os yr Arglwydd a’i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu.

4:20 Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu.

4:21 Beth a fynnwch chwi? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?


PENNOD 5

5:1 Mae’r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad.

5:2 Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon.

5:3 Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly,

5:4 Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a’m hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist,

5:5 Draddodi’r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo’r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.

5:6 Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does?

5:7 Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni:

5:8 Am hynny cadwn wâyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.

5:9 Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr, na chydymgymysgech â godinebwyr:

5:10 Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â’r cybyddion, neu â’r cribddeilwyr, neu ag eilunaddolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd.

5:11 Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilunaddolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.

5:12 Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?

5:13 Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o’ch plith chwi.


PENNOD 6

6:1 A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint?

6:2 Oni wyddoch chwi y barna’r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf?

6:3 Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn?

6:4 Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys.:

6:5 Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?

6:6 Ond bod brawd yn ymgyfreithio brawd, a hynny gerbron y rhai di-gred?

6:7 Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled?

6:8 Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i’r brodyr.

6:9 Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godin¬ebwyr, nac eilunaddolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr,

6:10 Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.

6:11 A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.

6:12 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim.

6:13 Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff.

6:14 Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef.:

6:15 Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a’u gwneuthur yn ael¬odau putain? Na ato Duw.

6:16 Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd.

6:17 Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd, un ysbryd yw.

6:18 Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.

6:19 Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain?

6:20 Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.


PENNOD 7

7:1 Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf: Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig.

7:2 Ond rhag godineb, bydded i bob gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun.

7:3 Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys da; a’r un wedd y wraig i’r gŵr.

7:4 Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i’r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i’r wraig.

7:5 Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd.

7:6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn.

7:7 Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn.

7:8 Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a’r gwragedd gweddwon. Da yw iddynt os arhosant fel finnau.

7:9 Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.

7:10 Ac i’r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr;

7:11 Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â’i gŵr: ate na ollynged y gŵr ei wraig ymaith.

7:12 Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi-gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith.

7:13 A’r wraig, yr hon y mae iddi ŵr di-gred, ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef.

7:14 Canys y gŵr di-gred a sancteiddir trwy’r wraig, a’r wraig ddi-gred a sanct¬eiddir trwy’r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt.

7:15 Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw’r brawd neu’r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a’n galwodd ni i heddwch.

7:16 Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig?

7:17 Ond megis y darfu i Dduw rannu i bob un, megis y darfu i’r Arglwydd alw pob un, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll.

7:18 A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac adgeisied ddienwaediad. A alwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno.

7:19 Enwaediad nid yw ddim, a dien¬waediad nid yw ddim, ond cadw gorchmynion Duw.

7:20 Pob un yn yr alwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed.

7:21 Ai yn was y’th alwyd? na fydded gwaeth gennyt; eto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach.

7:22 Canys yr hwn, ac ef yn was, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i’r Arglwydd ydyw: a’r un ffunud yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd, a alwyd, gwas i Grist yw. 7:23 Er gwerth y’ch prynwyd; na fyddwch weision dynion.

7:24 Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hynny arhosed gyda Duw.

7:25 Eithr am wyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd: ond barn yr ydwyf yn ei roi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon.

7:26 Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, oherwydd yr anghenraid presennol, mai da, meddaf, i ddyn fod felly. .

7:27 A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig.

7:28 Ac os priodi hefyd, ni phechaist: ac os prioda gwyry, ni phechodd. Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.

7:29 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyr. Y mae yn ôl, fod o’r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt;

7:30 A’r rhai a wylant, megis heb wylo; a’r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a’r rhai a brynant, megis heb feddu;

7:31 A’r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.

7:32 Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau’r Arglwydd, pa wedd y bodlona’r Arglwydd:

7:33 Ond y neb a wreicaodd, sydd yn gofalu am bethau’r byd, pa wedd y bodlona ei wraig.

7:34 Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae’r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae’r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i’w gŵr.;

7:35 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd-dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddi-wahân.

7:36 Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros nodau e ihoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant.

7:37 Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur.

7:38 Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.

7:39 Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi’r neb a fynno; yn unig yn yr Arglwydd.

7:40 Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly, yn fy marn i: ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf.


PENNOD 8

8:1 Eithr am yr hyn a aberthwyd i eilunod, ni a wyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu.

8:2 Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod.

8:3 Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir ganddo ef.

8:4 Am fwyta gan hynny o’r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un.

8:5 Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,)

8:6 Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef,

8:7 Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.

8:8 Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwytawn, yn helaethach; nac onis bwytawn, yn brinnach.

8:9 Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i’r rhai sydd weiniaid.

8:10 Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau’n wan, i fwyta’r pethau a aberthwyd i eilunod;

8:11 Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di, dros yr hwn y bu Crist farw?

8:12 A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist.

8:13 Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytaf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.


PENNOD 9

9:1 Onid wyf fi yn apostol? onid wyf fi yn rhydd? oni welais i Iesu Grist ein Harglwydd? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?

9:2 Onid wyf yn apostol i eraill, eto yr wyf i chwi: canys sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd.

9:3 Fy amddiffyn i, i’r rhai a’m holant, yw hwn;

9:4 Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac yfed?

9:5 Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer, megis ag y mae i’r apostolion eraill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Ceffas?

9:6 Ai myfi yn unig a Barnabas, nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio?

9:7 Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o’i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd?

9:8 Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn? neu onid yw’r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn?

9:9 Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu. Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu?

9:10 Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, mai mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr mewn gobaith, i fod yn gyfrannog o’i obaith.

9:11 Os nyni a heuasom i chwi bethau ysbrydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol?

9:12 Os yw eraill yn gyfranogion o’r awdurdod hon arnoch, onid ydym ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bob peth, fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist.

9:13 Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig, yn bwyta o’r cysegr? a’r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor, yn gyd-gyfranogion o’r allor?

9:14 Felly hefyd yr ordeiniodd yr Ar¬glwydd, i’r rhai sydd yn pregethu’r efengyl, fyw wrth yr efengyl.

9:15 Eithr myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn: ac nid ysgrifennais y pethau hyn, fel y gwnelid felly i mi: canys gwell yw imi farw, na gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer.

9:16 Canys os pregethaf yr efengyl, nid oes orfoledd i mi: canys anghenraid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl.

9:17 Canys os gwnaf hyn o’m bodd, y mae i mi wobr: ond os o’m hanfodd, ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl.

9:18 Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi, pan efengylwyf, osod efengyl Crist yn rhad, fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl.

9:19 Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy.

9:20 Ac mi a ymwneuthum i’r Iddewon megis yn Iddew, fel yr enillwn yr Idd¬ewon; i’r rhai dan y ddeddf, megis dan y ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd dan y ddeddf;

9:21 I’r rhai di-ddeddf, megis di-ddeddf, (a minnau heb fod yn ddi-ddeddf i Dduw, ond dan y ddeddf i Grist,) fel yr enillwn y rhai di-ddeddf.

9:22 Ymwneuthum i’r rhai gweiniaid megis yn wan, fel yr enillwn y gwein¬iaid: mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai.

9:23 A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl, fel y’m gwneler yn gyd-gyfrannog ohoni.

9:24 Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond bod un yn derbyn y gamp? Felly rhedwch, fel y caffoch afael.

9:25 Ac y mae pob un a’r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym mhob peth: a hwynt-hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig; eithr nyni, un anllygredig.

9:26 Yr wyf fi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel un yn curo’r awyr:

9:27 Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.


PENNOD 10

10:1 Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a’u myned oll trwy y môr;

10:2 A’u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr;;

10:3 A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol;: .

10:4 Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol: canys hwy a yfasant o’r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn: a’r Graig oedd Crist.

10:5 Eithr ni bu Dduw fodlon i’r rhan fwyaf ohonynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch.

10:6 A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy.

10:7 Ac na fyddwch eilunaddolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae.

10:8 Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.

10:9 Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan seirff.

10:10 Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distryw¬iwyd gan y dinistrydd.

10:11 A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd.

10:12 Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.

10:13 Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.

10:14 Oherwydd paham, fy anwylyd, ffowch oddi wrth eilunaddoliaeth.

10:15 Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd.

10:16 Ffiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw?

10:17 Oblegid nyni yn llawer ydym un bara, ac un corff: canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o’r un bara.

10:18 Edrychwch ar yr Israel yn ôl cnawd: onid yw’r rhai sydd yn bwyta ebyrth, yn gyfranogion o’r allor?

10:19 Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddiwedyd? bod yr eilun yn ddim, neu’r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim?

10:20 Ond y pethau y mae’r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion a’r cythreuliaid.

10:21 Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid.

10:22 Ai gyrru’r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? a ydym ni yn gryfach nag ef?

10:23 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.

10:24 Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un yr eiddo arall.

10:25 Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod:

10:26 Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder.

10:27 Os bydd i neb o’r rhai di-gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod.

10:28 Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a’i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyf¬lawnder.

10:29 Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall?

10:30 Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran, paham y’m ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano?

10:31 Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw.

10:32 Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw:

10:33 Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.


PENNOD 11

11:1 Byddwch ddilynwyr i mi, megis yr wyf finnau i Grist.

11:2 Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi.

11:3 Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw.

11:4 Pob gŵr yn gweddïo neu yn proffwydo, a pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben.

11:5 Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen: canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio.

11:6 Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged.

11:7 Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben, am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: a’r wraig yw gogoniant y gŵr.

11:8 Canys nid yw’r gŵr o’r wraig, ond y wraig o’r gŵr.

11:9 Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig; eithr y wraig er mwyn y gŵr.

11:10 Am hynny y dylai’r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion.

11:11 Er hynny nid yw na’r gŵr heb y wraig, na’r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd.

11:12 Canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r gŵr, felly y mae’r gŵr trwy’r wraig: a phob peth sydd o Dduw.

11:13 Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn ben¬noeth?

11:14 Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes a fydd gŵr, mai amarch yw iddo?

11:15 Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes, clod yw iddi: oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi.

11:16 Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw.

11:17 Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth.

11:18 Canys yn gyntaf, pan ddeloch yng¬hyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu.

11:19 Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg, fel y byddo’r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi.

11:20 Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i’r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn.

11:21 Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw.

11:22 Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo’r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a gammolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.

11:23 Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Bod i’r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara:

11:24 Ac wedi iddo ddiolch, efe a’i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.

11:25 Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf.

11:26 Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo.

11:27 Am hynny, pwy bynnag a fwytao’r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd.

11:28 Eithr holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o’r bara, ac yfed o’r cwpan.

11:29 Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd.

11:30 Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno.

11:31 Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni’n bernid.

11:32 Eithr pan y’n berriir; y’n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na’n damnier gyda’r byd.

11:33 Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwyta, arhoswch eich gilydd.

11:34 Eithr os bydd newyn ar neb, bwyt¬aed gartref: fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf.


PENNOD 12

12:1 Eithr am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fynnwn i chwi fod heb wybod.

12:2 Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y’ch tywysid.

12:3 Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy’r Ysbryd Glân.

12:4 Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd.

12:5 Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd.

12:6 Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb:

12:7 Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd.

12:8 Canys i un, trwy’r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb, ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd,

12:9 Ac i arall ffydd, trwy’r un Ysbryd, ac i arall ddawn i iacháu, trwy’r un Ysbryd;

12:10 Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau.

12:11 A’r holl bethau hyn y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o’r neilltu megis y mae yn ewyllysio.

12:12 Canys fel y mae’r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau’r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd.

12:13 Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag at Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd.

12:14 Canys y corff nid yw un aelod eithr llawer.

12:15 Os dywed y troed. Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai am hyiOtty nid yw efe o’r corff?

12:16 Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff, ai am hynny nid yw hi o’r corff?

12:17 Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r dywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad?

12:18 Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe.

12:19 Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff?

12:20 Ond yr awron llawer yw’r aelodau, eithr un corff.

12:21 Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.

12:22 Eithr yn hytrach o lawer, yr ael¬odau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol:

12:23 A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch.

12:24 Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol:

12:25 Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd.

12:26 A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd-ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau.

12:27 Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran.

12:28 A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau.

12:29 Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb?

12:30 A oes gan bawb ddoniau i iacháu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu?

12:31 Eithr deisyfwch y doniau gorau: ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.


PENNOD 13

13:1 Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian.

13:2 A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim.

13:3 A phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesâd i mi.

13:4 Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo,

13:5 Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg;

13:6 Nid yw lawen am anghyfiawnder, ond cydlawenhau y mae â’r gwirionedd;

13:7 Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.

13:8 Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.

13:9 Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo.

13:10 Eithr pan ddelo’r hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir.

13:11 Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd.

13:12 Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megis y’m hadwaenir.

13:13 Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.


PENNOD 14

14:1 Dilynwch gariad, a deisyfwch ddoniau ysbrydol; ond yn hytrach fel y proffwydoch.

14:2 Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw; canys nid oes neb yn gwrando; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau.

14:3 Eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, a chyngor, a chysur.

14:4 Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, sydd yn ei adeiladu ei hunan: eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn adeiladu yr eglwys.

14:5 Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr; ond yn hytrach broffwydo ohonoch: canys mwy yw’r hwn sydd yn proffwydo, na’r hwn sydd yn llefaru â thafodau; oddieithr iddo ei gyfieithu, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth.

14:6 Ac yr awr hon, frodyr, os deuaf atoch gan lefaru â thafodau, pa lesâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy broffwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth?

14:7 Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn?

14:8 Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel? .

14:9 Felly chwithau, oni roddwch â’r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.

14:10 Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar.

14:11 Am hynny; oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i’r hwn sydd yn llef¬aru, a’r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad.

14:12 Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys.

14:13 Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru a thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu.

14:14 Canys os gweddïaf a thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddinrwyth.

14:15 Beth gan hynny? Mi a weddïaf â’r ysbryd, ac a weddïaf â’r deall hefyd: canaf â’r ysbryd, a chanaf â’r deall hefyd.

14:16 Canys os bendithi â’r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle’r anghyfarwydd. Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?

14:17 Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, oad y llall nid yw yn; cael ei adeiladu.

14:18 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll:

14:19 Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr.

14:20 O frodyr, na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith.

14:21 Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni’m gwrandawant felly, medd yr Arglwydd.

14:22 Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i’r rhai sydd yn credu, ond i’r rhai di-gred: eithr proffwydoliaeth, nid i’r rhai di-gred, ond i’r rhai sydd yn credu.

14:23 Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi-gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu?

14:24 Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un di-gred neu annysgedig i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, a fernir gan bawb:

14:25 Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddy¬wedyd fod Duw yn wir ynoch.

14:26 Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un ohonoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatguddiad, y mae ganddo gyfieithiad. Gwneler pob peth er adeiladaeth.

14:27 Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un.

14:28 Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; eithr llefared wrtho’i hun, ac wrth Dduw.

14:29 A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill.

14:30 Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf.

14:31 Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb.

14:32 Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i’r proffwydi.

14:33 Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd, fel yn holl eglwysi’r saint.

14:34 Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniatawyd iddynt lefaru; ond bod yn ddarostyngedig, megis ag y mae’r gyfraith yn dywedyd.

14:35 Ac os mynnant ddysgu dim, ymofynnant â’u gwŷr gartref: oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys.

14:36 Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe?

14:37 Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd, neu yn ysbrydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt.

14:38 Eithr od yw neb heb wybod, bydded heb wybod.

14:39 Am hynny, frodyr, byddwch awydd¬us i broffwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr.

14:40 Gwneler pob peth yn weddaidd, ac mewn trefn.


PENNOD 15

15:1 Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll;

15:2 Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer.

15:3 Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythurau;

15:4 A’i gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythurau;

15:5 A’i weled ef gan Ceflas, yna gan y deuddeg.

15:6 Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron, eithr rhai a hunasant.

15:7 Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion.

15:8 Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gen¬nyf finnau hefyd, megis gan un annhymig.

15:9 Canys myfi yw’r lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw.

15:10 Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a’i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi.

15:11 Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt-hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.

15:12 Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw?

15:13 Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith:

15:14 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.

15:15 Pe a’n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw; canys ni a dystiasom am Dduw ddarfod iddo gyfodi Crist: yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir.

15:16 Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith.

15:17 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau.

15:18 Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist.

15:19 Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o’r holl ddynion ydym ni.

15:20 Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.

15:21 Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw.

15:22 Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb.

15:23 Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef.

15:24 Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a’r Tad: wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth.

15:25 Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed.

15:26 Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau.

15:27 Canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddaros¬tyngodd bob peth iddo.

15:28 A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i’r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll.

15:29 Os amgen, beth a wna’r rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? paham ynteu y bedyddir hwy dros y meirw?

15:30 A phaham yr ydym ninnau mewn perygl bob awr?

15:31 Yr ydwyf’beunydd yn marw, myn eich gorfoledd yr hon sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

15:32 Os yn ôl dull dyn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Effesus, pa lesâd sydd i mi, oni chyfodir y meirw? Bwytawn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym.

15:33 Na thwyller chwi: y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da.

15:34 Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch: canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn.

15:35 Eithr fe a ddywed rhyw un. Pa fodd y cyfodir y meirw? ac a pha ryw gorff y deuant?

15:36 O ynfyd, y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw.

15:37 A’r peth yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall.

15:38 Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun.

15:39 Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar.

15:40 Y mae hefyd gyrff nefol, a chyrff daearol: ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daearol.

15:41 Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogon¬iant y sêr: canys y mae rhagor rhwnn seren a seren mewn gogoniant.

15:42 Felly hefyd y mae atgyfodiad meirw. Efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth:

15:43 Efe a heuir mewn amarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorff anianol, ac a gyfodir yn gorff ysbrydol.

15:44 Y mae corff anianol, ac y mae corff ysbrydol.

15:45 Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a’r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau.

15:46 Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol.

15:47 Y dyn cyntaf o’r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o’r nef.

15:48 Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd.

15:49 Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol.

15:50 Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.

15:51 Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf:

15:52 Canys yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir.

15:53 Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb.

15:54 A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth.

15:55 O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth?

15:56 Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw’r gyfraith.

15:57 Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

15:58 Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.


PENNOD 16

16:1 Hefyd am y gasgl i’r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau.

16:2 Y dydd cyntaf o’r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi.

16:3 A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem.

16:4 Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi.

16:5 Eithr mi a ddeuaf atoch, gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.)

16:6 Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf.

16:7 Canys nid oes i’m bryd eich gweled yn awr ar fy hynt; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi, os cenhadu’r Arglwydd.

16:8 Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn.

16:9 Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer.

16:10 Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi-ofn gyda chwi: canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau.

16:11 Am hynny na ddiystyred neb ef: ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo ataf fi: canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr.

16:12 Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas.

16:13 Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch.

16:14 Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad.

16:15 Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,)

16:16 Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i’r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio.

16:17 Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a’i cyflawnasant;

16:18 Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a’r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai.

16:19 Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda’r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych.

16:20 Y mae’r brodyr oll yn eich annerch. Anerchwch eich gilydd â chusan sancteiddiol.

16:21 Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun.

16:22 Od oes neb nid yw yn caru’r Ar¬glwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha.

16:23 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi.

16:24 Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen.

Yr epistol cyntaf at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi, gyda Steff¬anas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.