Beibl (1620)/Caniad Solomon
← Pregethwr | Beibl (1620) Caniad Solomon Caniad Solomon wedi'i gyfieithu gan William Morgan |
Eseia → |
CANIAD SOLOMON.
PENNOD 1
1:1 Cân y caniadau, eiddo Solomon.
1:2 Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin.
1:3 Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant.
1:4 Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu.
1:5 Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon.
1:6 Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i’r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun ms cedwais.
1:7 Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
1:8 Oni wyddost ti, y decaf o’r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid.
1:9 I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais, fy anwylyd.
1:10 Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a’th wddf gan gadwyni.
1:11 Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.
1:12 Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl.
1:13 Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr, rhwng fy mronnau yr erys dros nos.
1:14 Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi.
1:15 Wele di yn deg, tŷ anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod.
1:16 Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd.
1:17 Swmerau ein tai sydd gedrwydd, ein distiau sydd ffynidwydd.
PENNOD 2
2:1 Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi.
2:2 Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched.
2:3 Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a’i ffrwyth oedd felys i’m genau.
2:4 Efe a’m dug i’r gwindy, a’i faner drosof ydoedd gariad.
2:5 Cynheliwch fi â photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad.
2:6 Ei law aswy sydd dan fy mhen, a’i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio.
2:7 Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
2:8 Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau.
2:9 Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt.
2:10 Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedr odd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth:
2:11 Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith;
2:12 Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad,
2:13 Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a’r gwinwydd a’u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.
2:14 Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a’th olwg yn hardd.
2:15 Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd: canys y mae i’n gwinllannoedd egin grawnwin.
2:16 Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minnau yn eiddo yntau; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili.
2:17 Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau; tro, bydd debyg, fy anwylyd, i iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether.
PENNOD 3
3:1 Lliw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.
3:2 Codaf yn awr, ac af o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a’r ystrydoedd, ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.
3:3 Y gwylwyr, y rhai a aent o amgylch y ddinas, a’m cawsant: gofynnais, A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid?
3:4 Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac ms gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a’m hymddug.
3:5 Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
3:6 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch megis colofnau mwg, wedi ei pherarogli â myrr, ac â thus, ac â phob powdr yr apothecari?
3:7 Wele ei wely ef, sef yr eiddo Solomon; y mae trigain o gedyrn o’i amgylch, sef o gedyrn Israel.
3:8 Hwynt oll a ddaliant gleddyf, wedi eu dysgu i ryfel, pob un â’i gleddyf ar ei glun, rhag ofn liw nos.
3:9 Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus.
3:10 Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei lenni o borffor; ei ganol a balmantwyd â chariad, i ferched Jerwsalem.
3:11 Ewch allan, merched Seion, ac edrychwch ar y brenin Solomon yn y goron a’r hon y coronodd ei fam ef yn ei ddydd dyweddi ef, ac yn nydd llawenydd ei galon ef.
PENNOD 4
4:1 Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau; dy wallt sydd fel diadell o eifr, y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead.
4:2 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif, y rhai a ddaethant i fyny o’r olchfa; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen, ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil.
4:3 Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad, a’th barabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.
4:4 Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dy arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn.
4:5 Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili.
4:6 Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau, af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus.
4:7 Ti oll ydwyt deg, fy anwylyd; ac nid oes ynot frycheuyn.
4:8 Tyred gyda mi o Libanus, fy nyweddi, gyda mi o Libanus: edrych.o ben Amana, o gopa Senir a Hennon, o lochesau y llewod, o fynyddoedd y llewpardiaid.
4:9 Dygaist fy nghalon, fy chwaer a’m dyweddi; dygaist fy nghalon ag un o’th lygaid, ag un gadwyn wrth dy wddf.
4:10 Mor deg yw dy gariad, fy chwaer, a’m dyweddi! pa faint gwell yw dy gariad na gwin, ac arogl dy olew na’r holl beraroglau!
4:11 Dy wefusau, fy nyweddi, sydd yn diferu fel dil mêl: y mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus.
4:12 Gardd gaeëdig yw fy chwaer, a’m dyweddi: ffynnon gloëdig, ffynnon seliedig yw.
4:13 Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau, a ffrwyth peraidd, camffir, a nardus;
4:14 Ie, nardus a saffrwn, calamus a sinamon, a phob pren thus, myrr, ac aloes, ynghyd â phob rhagorol berlysiau:
4:15 Ffynnon y gerddi, ffynnon y dyfroedd byw, a ffrydiau o Libanus.
4:16 Deffro di, ogleddwynt, a thyred, ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd, feliy gwasgarer ei pheraroglau: deaed fy anwylyd i’w ardd, a bwytaed ei ffrwyth peraidd ei hun.
PENNOD 5
5:1 Deuthum i’m gardd, fy chwaer, a’m dyweddi: cesglais fy myrr gyda’m perarogi, bwyteais fy nil gyda’m mêl, yfais fy ngwin gyda’m llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.
5:2 Myfi sydd yn cysgu, a’m calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a’m gwallt â defnynnau y nos.
5:3 Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt?
5:4 Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a’m hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn.
5:5 Mi a gyfodais i agori i’m hanwylyd; a’m dwylo a ddiferasant gan fyrr, a’m bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y do.
5:6 Agorais i’m hanwylyd; ond fy an¬wylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni’m hatebodd.
5:7 Y gwylwyr y rhai a ânt o amgylch y ddinas, a’m cawsant, a’m trawsant, a’m harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf.
5:8 Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.
5:9 Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o’r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly?
5:10 Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil.
5:11 Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân.
5:12 Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys.
5:13 Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili ŷd diferu myrr diferol.
5:14 Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir.
5:15 Ei goesau fel colofnau marnor wedi en gosod ar wadnau o aur coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol a chedrwydd.
5:16 Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
PENNOD 6
6:1 I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o’r gwragedd? i ba le y trodd dy anwyl¬yd? fel y ceisiom ef gyda thi.,
6:2 Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili.
6:3 Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a’m hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.
6:4 Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog.
6:5 Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a’m gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead.
6:6 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o’r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg.
6:7 Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.
6:8 Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.
6:9 Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd: y merched a’i gwelsant, ac a’i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a’r gordderchwragedd, a hwy a’i canmolasant hi.
6:10 Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?
6:11 Euthum i waered i’r ardd gnau, i edrych am frwythydd y dyffryn, i weled, a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.
6:12 Heb wybod i mi y’m gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.
6:13 Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.
PENNOD 7
7:1 Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint.
7:2 Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili.
7:3 Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid.
7:4 Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Bethrabbim, dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.
7:5 Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.
7:6 Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a’m hyfrydwch!
7:7 Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a’th fronnau i’r grawnsypiau.
7:8 Dywedais, Dringaf i’r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawnganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;
7:9 A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.
7:10 Eiddo fy anwylyd ydwy fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef.
7:11 Tyred, fy anwylyd, awn i’r maes, a lletywn yn y pentrefi.
7:12 Boregodwn i’r gwinllannoedid, edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau; yno y rhoddaf fy nghariad i ti.
7:13 Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.
PENNOD 8
8:1 O na bait megis brawd i mi, yn sugno bronnau fy mam! pan y’th gawn allan, cusanwn di; eto ni’m dirmygid.
8:2 Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a’m dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau.
8:3 Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a’i law ddeau a’m cofleidiai.
8:4 Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
8:5 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.
8:6 Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.
8:7 Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dy am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.
8:8 Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani?
8:9 Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian, ac os drws yw hi, ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd.
8:10 Caer ydwyf fi, a’m bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd.
8:11 Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baalhamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian.
8:12 Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi.
8:13 O yr hon a drigi yn, y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.
8:14 Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.