Beibl (1620)/Diarhebion

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

PENNOD 1 1:1 Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel;

1:2 I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr;

1:3 I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;

1:4 I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr.

1:5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:

1:6 I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.

1:7 Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.

1:8 Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam:

1:9 Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.

1:10 Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna.

1:11 Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:

1:12 Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew:

1:13 Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:

1:14 Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd:

1:15 Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.

1:16 Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.

1:17 Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain.

1:18 Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu.

1:19 Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.

1:20 Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd:

1:21 Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd,

1:22 Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth?

1:23 Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.

1:24 Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;

1:25 Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd:

1:26 Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni;

1:27 Pan ddêl amoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi:

1:28 Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt:

1:29 Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant:

1:30 Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd.

1:31 Am hynny hwy a gant fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain.

1:32 Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha.

1:33 Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.

PENNOD 2 2:1 Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;

2:2 Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;

2:3 Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall;

2:4 Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig;

2:5 Yna y cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW.

2:6 Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod.

2:7 Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodia yn uniawn.

2:8 Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint.

2:9 Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus

2:10 Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;

2:11 Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw:

2:12 I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;

2:13 Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;

2:14 Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;

2:15 Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:

2:16 I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;

2:17 Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei DUW.

2:18 Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw.

2:19 Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.

2:20 Fel y rhodiech di at hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn.

2:21 Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gant aros ynddi.

2:22 Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.

PENNOD 3 3:1 Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion:

3:2 Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.

3:3 Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi : clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.

3:4 Felly y cei di ras a deall da gerbron DUW a dynion.

3:5 Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun.

3:6 Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.

3:7 Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni.

3:8 Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.

3:9 Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth:

3:10 Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.

3:11 Fy mab, na ddirmyga gerydd yr ARGLWYDD; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef;

3:12 Canys y neb a fyddo DUW yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.

3:13 Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan.

3:14 Canys gwell yw ei fiarsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.

3:15 Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.

3:16 Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.

3:17 Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch.

3:18 Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.

3:19 Yr ARGLWYDD trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.

3:20 Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.

3:21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.

3:22 Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf.

3:23 Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda.

3:24 Pan orweddych, nid ofni, ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys.

3:25 Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo.

3:26 Canys yr ARGLWYDD a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.

3:27 Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.

3:28 Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.

3:29 Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.

3:30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.

3:31 Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef.

3:32 Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.

3:33 Melltith yr ARGLWYDD sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.

3:34 Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig.

3:35 Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.

PENNOD 4 4:1 Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall.

4:2 Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith.

4:3 Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam.

4:4 Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw.

4:5 Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.

4:6 Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di.

4:7 Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall.

4:8 Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.

4:9 Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.

4:10 Gwrando, fy mab, a derbyn ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.

4:11 Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.

4:12 Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng: a phan redech, ni thramgwyddi.

4:13 Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi. cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.

4:14 Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.

4:15 Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.

4:16 Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddyntn gwympo rhyw ddyn.

4:17 Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.

4:18 Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.

4:19 Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.

4:20 Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.

4:21 Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon.

4:22 Canys bywyd ydynt i’r neb an caffont, ac iechyd i’w holl gnawd.

4:23 Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.

4:24 Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.

4:25 Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen.

4:26 Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn.

4:27 Na thro at y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.

PENNOD 5 5:1 Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall:

5:2 Fel y gellych ystyried pwyll, a’th wefusau gadw gwybodaeth.

5:3 Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl, a’i genau sydd lyfnach nag olew:

5:4 Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog.

5:5 Ei thraed hi a ddisgynnant i angau; a’i cherddediad a sang uffern.

5:6 Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symud ei chamre hi, heb wybod i ti.

5:7 Yr awr hon gan hynny, O blant, gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau.

5:8 Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi, ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi:

5:9 Rhag i ti toddi dy harddwch i eraill, a’th flynyddoedd i’r creulon:

5:10 Rhag llenwi yr estron â’th gyfoeth di, ac i’th lafur fod yn nhŷ y dieithr;

5:11 Ac o’r diwedd i ti ochain, wedi i’th gnawd a’th gorff gurio,

5:12 A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd!

5:13 Ac na wrandewais at lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i’m dysgawdwyr!

5:14 Bûm o fewn ychydig at bob drwg, yng nghanol y gynulleidfa a’r dyrfa.

5:15 Yf ddwfr o’th bydew dy hun, a ffrydiau allan o’th ffynnon dy hun.

5:16 Tardded dy ffynhonnau allan, a’th ffrydiau dwfr yn yr heolydd.

5:17 Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig, ac nid yet eiddo dieithriaid gyda thi.

5:18 Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid.

5:19 Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i’w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol.

5:20 A phaham, fy mab, yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti?

5:21 Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef.

5:22 Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun.

5:23 Efe a fydd farw o eisiau addysg; a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn.

PENNOD 6 6:1 Y mab, os mechnïaist dros dy gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr,

6:2 Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau.

6:3 Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â’th gymydog.

6:4 Na ddyro gwsg i’th lygaid, na hun i’th amrantau.

6:5 Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr.

6:6 Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth:

6:7 Nid oes ganddo neb i’w arwain, i’w lywodraethu, nac i’w feistroli;

6:8 Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf.

6:9 Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o’th gwsg?

6:10 Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu.

6:11 Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.

6:12 Dyn i’r fall, a gŵr anwir, a rodia a genau cyndyn.

6:13 Efe a amneidia â’i lygaid, efe a lefara â’i draed, efe a ddysg â’i fysedd.

6:14 Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau.

6:15 Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.

6:16 Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr ARGLWYDD: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef:

6:17 Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a’r dwylo a dywalltant waed gwirion,

6:18 Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni,

6:19 Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.

6:20 Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam.

6:21 Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf.

6:22 Pan rodiech, hi a’th gyfarwydda; pan orweddych, hi a’th wylia; pan ddeffroych, hi a gydymddiddan â thi.

6:23 Canys cannwyll yw y gorchymyn; a goleuni yw y gyfraith; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg:

6:24 I’th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr.

6:25 Na chwennych ei phryd hi yn dy galon; ac na ad iddi dy ddal â’i hamrantau.

6:26 Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr.

6:27 A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad?

6:28 A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed?

6:29 Felly, pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bydd lân.

6:30 Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid, pan fyddo arno newyn:

6:31 Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ.

6:32 Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr; y neb a’i gwnêl, a ddifetha ei enaid ei hun.

6:33 Archoll a gwarth a gaiff efe; a’i gywilydd ni ddileir.

6:34 Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial.

6:35 Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn; ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.

PENNOD 7 7:1 Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi.

7:2 Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad.

7:3 Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon.

7:4 Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares:

7:5 Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw a’r ymadrodd gwenieithus.

7:6 Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt,

7:7 A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo,

7:8 Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi.

7:9 Yn y cyfnos gyda’r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll:

7:10 Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar.

7:11 (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ:

7:12 Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)

7:13 Hi a ymafaelodd ynddo, ac a’i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho,

7:14 Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned:

7:15 Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwiho am dy wyneb; a chefais afael arnat.

7:16 Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.

7:17 Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes a sinamon.

7:18 Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.

7:19 Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell:

7:20 Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol.

7:21 Hi a’i troes ef â’i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a’i cymhellodd ef.

7:22 Efe a’i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i’r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi:

7:23 Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.

7:24 Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau.

7:25 Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi.

7:26 Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer â laddodd hi.

7:27 Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.

PENNOD 8 8:1 Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain?

8:2 Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll.

8:3 Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain:

8:4 Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais.

8:5 Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus.

8:6 Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn.

8:7 Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni.

8:8 Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd.

8:9 Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth.

8:10 Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig

8:11 Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.

8:12 Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.

8:13 Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi.

8:14 Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.

8:15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder.

8:16 Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear.

8:17 Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt.

8:18 Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder.

8:19 Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig.

8:20 Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn:

8:21 I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.

8:22 Yr ARGLWYDD a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed.

8:23 Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear.

8:24 Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.

8:25 Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd:

8:26 Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd.

8:27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:

8:28 Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchbetn a phan nerthodd efe ffynhon-nau y dyfnder:

8:29 Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear:

8:30 Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser;

8:31 Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.

8:32 Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i.

8:33 Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi.

8:34 Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i.

8:35 Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr ARGLWYDD.

8:36 Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â’i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.

PENNOD 9 9:1 Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn.

9:2 Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd.

9:3 Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas:

9:4 Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,

9:5 Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais.

9:6 Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall.

9:7 Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.

9:8 Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di.

9:9 Dyro addysg i’r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiwn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth.

9:10 Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall.

9:11 Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes.

9:12 Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a’i dygi.

9:13 Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim:

9:14 Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas,

9:15 I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn:

9:16 Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy byrmag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho,

9:17 Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd.

9:18 Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.

PENNOD 10 10:1 Diarhebion Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam.

10:2 Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau.

10:3 Ni edy yr ARGLWYDD i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus.

10:4 Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.

10:5 Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf.

10:6 Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.

10:7 Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.

10:8 Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp

10:9 Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam-dry ei ffyrdd, a fydd hynod.

10:10 Y neb a amneidio â’i lygaid, a bair flinder: a’r ffôl ei wefusau a gwymp.

10:11 Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn, ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.

10:12 Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd.

10:13 Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall.

10:14 Y doethion a ystofiant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl.

10:15 Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu tlodi.

10:16 Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod.

10:17 Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni.

10:18 A guddio gas â gwefusau celwyddog, a’r neb a ddywed enllib, sydd ffôl.

10:19 Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod; ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol.

10:20 Tafod y cyfiawn sydd fel arian


detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig.

10:21 Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw.

10:22 Bendith yr ARGLWYDD a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi.

10:23 Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb.

10:24 Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, DUW a’i rhydd.

10:25 Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth

10:26 Megis finegr i’r ddannedd , a mwg i’r llygaid, felly y bydd y diog i’r neb ai gyrrant.

10:27 Ofn yr ARGLWYDD a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.

10:28 Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a ddefydd amdano.

10:29 Ffordd yr ARGLWYDD sydd gadernid i’r perffaith: ond dinistr fydd i’r rhai a wnant anwiredd.

10:30 Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear.

10:31 Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a’r tafod cyndyn a dorrir ymaith.

10:32 Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.

PENNOD 11 11:1 Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef.

11:2 Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb.

11:3 Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt.

11:4 Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau.

11:5 Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus.

11:6 Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni.

11:7 Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef : a gobaith y trawrs a gyfrgollir.

11:8 Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef.

11:9 Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth.

11:10 Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd.

11:11 Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi.

11:12 Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn.

11:13 Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.

11:14 Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch.

11:15 Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel.

11:16 Gwraig rasol a gaiff anrhydedd, a’r galluog a gânt gyfoeth.

11:17 Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun.

11:18 Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i’r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr.

11:19 Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau.

11:20 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD y neb sydd gvndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd.

11:21 Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir.

11:22 Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr.

11:23 Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter.

11:24 Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi.

11:25 Yr enaid hael a fraseir: a’r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd.

11:26 Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a’i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a’i gwertho.

11:27 Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw.

11:28 Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen.

11:29 Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt; a’r ffôl a fydd gwas i’r synhwyrol ei galon.

11:30 Ffrwyth y cyfiawn sydd megis y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth.

11:31 Wele, telir i’r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i’r drygionus a’r pechadur?

PENNOD 12 12:1 Y neb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.

12:2 Gŵr da a gaiff ffafr gan yr ARGLWYDD: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe.

12:3 Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga.

12:4 Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.

12:5 Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a. chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.

12:6 Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt.

12:7 Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.

12:8 Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.

12:9 Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei.hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara.

12:10 Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon.

12:11 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw.

12:12 Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.

12:13 Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder.

12:14 Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.

12:15 Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall.

12:16 Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd.

12:17 Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll.

12:18 Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth.

12:19 Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr.

12:20 Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd.

12:21 Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg.

12:22 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a rygnant fodd iddo ef.

12:23 Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.

12:24 Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.

12:25 Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a’i llawenha hi.

12:26 Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt.

12:27 Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr.

12:28 Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

PENNOD 13 13:1 Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd.

13:2 Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd.

13:3 Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir.

13:4 Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras.

13:5 Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.

13:6 Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.

13:7 Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.

13:8 Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.

13:9 Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.

13:10 Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda’r pwyllog y mae doethineb.

13:11 Golud a gasgler trwÿ oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega.

13:12 Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.

13:13 Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.

13:14 Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.

13:15 Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.

13:16 Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.

13:17 Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.

13:18 Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.

13:19 Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.

13:20 Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.

13:21 Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn.

13:22 Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a a roddwyd i gadw i’r cyfiawn.

13:23 Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.

13:24 Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a’i câr ef, a’i cerydda mewn amser.

13:25 Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.

PENNOD 14 14:1 Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo.

14:2 Yr hwn sydd yn rhodio yn ei uniondcr, sydd yn ofni yr ARGLWYDD; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef.

14:3 Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt.

14:4 Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.

14:5 Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau.

14:6 Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus.

14:7 Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth.

14:8 Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.

14:9 Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd; ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da.

14:10 Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi.

14:11 Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua.

14:12 Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.

14:13 Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.

14:14 Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.

14:15 Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre.

14:16 Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus.

14:17 Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar.

14:18 Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth.

14:19 Y rhai drygionus a ymyostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.

14:20 Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.

14:21 A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.

14:22 Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni.

14:23 Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi.

14:24 Coron y doethion yw eu cyfoeth; ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb.

14:25 Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau.

14:26 Yn ofn yr ARGLWYDD y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa.

14:27 Ofn yr ARGLWYDD yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau.

14:28 Mewn amlder y bobl y rnae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog.

14:29 Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd.

14:30 Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn.

14:31 Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef.

14:32 Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw.

14:33 Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir.

14:34 Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod.

14:35 Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol; ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.

PENNOD 15 15:1 Ateb arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint.

15:2 Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda; ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb.

15:3 Ym mhob lle y y mae llygaid yr ARGLWYDD, yn canfod y drygionus a’r daionus.

15:4 Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd.

15:5 Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall.

15:6 Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.

15:7 Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly.

15:8 Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder.

15:9 Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: , ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo.

15:10 Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd: a’r neb a gasao gerydd, a fydd marw.

15:11 Uffern a dinistr sydd gerbron yr ARGLWYDD: pa faint mwy, calonnau plant dynion?

15:12 Ni châr y gwatwarwr mo’r neb a’i ceryddo; ac nid â at y doethion.

15:13 Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd.

15:14 Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb.

15:15 Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen.

15:16 Gwell yw ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD, na thrysor mawr a thrallod gydag ef.

15:17 Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef.

15:18 Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson.

15:19 Ffordd y diog sydd fel cae drain; ond ffordd yr uniawn sydd wastad.

15:20 Mab doeth a lawenha ei dad: ond uchel dyn ffôl a ddiystyra ei fam.

15:21 Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn

15:22 Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor - ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt.

15:23 Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser!

15:24 Ffordd y bywyd sydd fry i’r synhwyrol, i ochel uffern obry.

15:25 Yr ARGLWYDD a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw.

15:26 Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond geiriau y glân ŷnt beraidd.

15:27 Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw.

15:28 Calon y cyfiawn a f yfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg.

15:29 Pell yw yr ARGLWYDD oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn.

15:30 Llewyrch y llygaid a lawenha y galon; a gair da a frasâ yr esgyrn.

15:31 Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion.

15:32 Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall.

15:33 Addysg doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.

PENNOD 16 16:1 Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr ARGLWYDD y mae.

16:2 Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa yr ysbrydion.

16:3 Treigla dy weithredoedd ar yr ARGLWYDD, a’th feddyliau a safant.

16:4 Yr ARGLWYDD a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r anauwiol hefyd erbyn y dydd drwg.

16:5 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog.

16:6 Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn Yr ARGLWYDD y mae ymado oddi wrth ddrwg.

16:7 Pan fyddo ffyrdd gŵrr yn rhyngu bodd i’r ARGLWYDD, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef.

16:8 Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.

16:9 Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr ARGLWYDD a gyfarwydda ei gerddediad ef.

16:10 Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn.

16:11 Pwys a chloriannau cywir, yr ARGLWYDD a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god.

16:12 Ffiaidd yw i frehinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd.

16:13 Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn.

16:14 Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega.

16:15 Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar.

16:16 Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunolt a yw nag arian.

16:17 Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid.

16:18 Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp.

16:19 Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion.

16:20 A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, O gwyn ei fyd hwnnw!

16:21 Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth.

16:22 Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb.

16:23 Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau.

16:24 Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn.

16:25 Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth.

16:26 Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo.

16:27 Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth.

16:28 Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion.

16:29 Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda.

16:30 Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben.

16:31 Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder.

16:32 Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas.

16:33 Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae ei holl lywodraethiad ef.

PENNOD 17 17:1 Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson.

17:2 Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr.

17:3 Y tawddlestr sydd i’r arian, a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr ARGLWYDD.

17:4 Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg.

17:5 Y neb a watwaro y tlawd, sydd yn gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog.

17:6 Coron yr hynafgwyr yw en hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.

17:7 Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog.

17:8 Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna.

17:9 Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.

17:10 Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith.

17:11 Y dyn drwg sydd â’i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef.

17:12 Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â’r ffôl yn ei ffolineb.

17:13 Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â’i dŷ ef.

17:14 Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni.

17:15 Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr ARGLWYDD ydynt ill dau.

17:16 Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo?

17:17 Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi.

17:18 Dyn heb bwll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill.

17:19 Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed.

17:20 Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg.

17:21 Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd.

17:22 Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn.

17:23 Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes, i gamdroi llwybrau barn.

17:24 Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd.

17:25 Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad, a chwerwder i’w fam.

17:26 Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn.

17:27 Gŵr synhwyrol a atal ei yriadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd.

17:28 Y ffôl, tawo,a gyfrifir yn ddoeth; a’r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.

PENNOD 18 18:1 Y neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth.

18:2 Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun.

18:3 Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd.

18:4 Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo.

18:5 Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.

18:6 Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau.

18:7 Genau y ffôl yw ei ddinistr, a’i wefusau sydd fagi i’w enaid.

18:8 Geiriau yr hustyngwÿr sÿdd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol.

18:9 Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i’r treulgar.

18:10 Tŵr cadarn yw enw yr ARGLWYDD: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel.

18:11 Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.

18:12 Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydeddy bydd gostyngeiddrwydd.

18:13 Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.

18:14 Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd?

18:15 Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.

18:16 Rhodd dyn a ehanga arno, ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid.

18:17 Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef.

18:18 Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.

18:19 Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a’u hymryson sydd megis trosol castell.

18:20 A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef.

18:21 Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef.

18:22 Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr ARGLWYDD.

18:23 Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin.

18:24 Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.

19:1 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, iialr triws ei wefusau, ac yntau yn ffôl.

19:2 Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; ar hwn sydd brysur ei draed a becha.

19:3 Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr ARGLWYDD.

19:4 Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeilhon: hond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog.

19:5 Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc.

19:6 Llawer ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael.

19:7 Holl frodyr y tlawd â’i casânt ef - pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato

19:8 A gaffo ddoethitleb a gâr ei enaid: a gadwo ddeeall a ennill ddaioni.

19:9 Tyst celwyddog ni bydd dieuog, a thraethwr celwyddau a ddifethir.

19:10 Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid.

19:11 Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned drog gamwedd.

19:12 Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt

19:13 Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus.

19:14 Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr ARGLWYDD yw gwraig bwyllog.

19:15 Syrthni a bair drymgwsg: ac enaod twyllodrus a newyna.

19:16 Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeuluso ei ffyrdd fydd farw.

19:17 Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r ARGLWYDD; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn.

19:18 Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha.

19:19 Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a’i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn.

19:20 Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd.

19:21 Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr ARGLWYDD, hwnnw a saif.

19:22 Deisyfiad dyn yw ei dragaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog.

19:23 Ofn yr ARGLWYDD a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef.

19:24 Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau.

19:25 Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth.

19:26 Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr

19:27 Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth.

19:28 Tyst y fall a watwar farn: a geniau y drygionus a lwnc anwiredd

19:29 Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.

PENNOD 20 20:1 Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.

20:2 Megis rhuad flew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun.

20:3 Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth.

20:4 Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim.

20:5 Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan.

20:6 Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun.- ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?

20:7 Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef.

20:8 Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg.

20:9 Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod?

20:10 Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr ARGLWYDD bob un o’r ddau.

20:11 Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith.

20:12 Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr ARGLWYDD a wnaeth bob un o’r ddau.

20:13 Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara.

20:14 Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia.

20:15 Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr.

20:16 Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones.

20:17 Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean.

20:18 Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela.

20:19 Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau.

20:20 Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du.

20:21 Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir.

20:22 Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac efe a’th achub.

20:23 Ffiaidd gan yr ARGLWYDD amryw bwysau; a chlorian twyflodrus nid yw dda.

20:24 Oddi wrth yr ARGLWYDD y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun?

20:25 Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn.

20:26 Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt.

20:27 Cannwyll yr ARGLWYDD yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol.

20:28 Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd.

20:29 Gogoniant gwŷr ieuanc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn.

20:30 Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.

PENNOD 21 21:1 Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr ARGLWYDD: efe a’i try hi lle y mynno.

21:2 Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa y calonnau.

21:3 Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr ARGLWYDD nag aberth.

21:4 Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.

21:5 Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig.

21:6 Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau.

21:7 Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn.

21:8 Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.

21:9 Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.

21:10 Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg, nid grasol yw ei gynlydog yn ei olwg ef.

21:11 Pan gosber gwatgwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyh wybodaeth.

21:12 Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae DUW yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.

21:13 Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef.

21:14 Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf.

21:15 Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd.

21:16 Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.

21:17 Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a’r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog.

21:18 Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a’r troseddwr dros yr uniawn.

21:19 Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda graig anynad ddicllon.

21:20 Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a’u llwnc hwynt.

21:21 Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.

21:22 Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno.

21:23 Y neb a gadwo ei enau a’i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.

21:24 Y balch a’r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch.

21:25 Deisyfiad y diog a’i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio:

21:26 Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.

21:27 Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg?

21:28 Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad.

21:29 Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd.

21:30 Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr ARGLWYDD.

21:31 Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr ARGLWYDD.

PENNOD 22 22:1 Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur.

22:2 Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr ARGLWYDD yw gwneuthurwr y rhai hyn oll.

22:3 Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.

22:4 Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd

22:5 Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy.

22:6 Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi.

22:7 Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg.

22:8 Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla.

22:9 Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd.

22:10 Bwrw allan y gwatwarwr, a’r gynnen ac â allan; ie, yr ymryson a’r gwarth a dderfydd.

22:11 Y neb a garo lendid calon, am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo.

22:12 Llygaid yr ARGLWYDD a gadwant wybodaeth; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr.

22:13 Medd y diog, Y mae llew allan; fo’m lleddir yng nghanol yr heolydd.

22:14 Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr ARGLWYDD yn ddig wrtho, a syrth yno.

22:15 Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a’i gyr ymhell oddi wrtho.

22:16 Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanega ei gyfoeth, a’r neb a roddo i’r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau.

22:17 Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth.

22:18 Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau.

22:19 Fel y byddo dy obaith yn yr AR-GLWYDD, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti.

22:20 Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth,

22:21 I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y. gwirionedd i’r neb a anfonant atat?

22:22 Nac ysbeilia mo’r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth.

22:23 Canys yr ARGLWYDD a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a’u gorthrymo hwynt.

22:24 Na fydd gydymaith i’r dicllon; ac na chydgerdda â gŵr llidiog:

22:25 Rhag i ti ddysgu ei lwybrau ef, a chael magl i’th enaid.

22:26 Na fydd un o’r rhai a roddant eu dwylo,o’r rhai a fachnïant am ddyled.

22:27 Oni bydd gennyt i dalu, paham y cymerai efe dy wely oddi tanat?

22:28 Na symud mo’r hen derfyn, yr hwn a osododd dy dadau.

22:29 A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl? efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.

PENNOD 23 23:1 Pan eisteddych i fwyta gyda thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron.

23:2 A gosod gyllell ar dv geg, os byddi ddyn blysig.

23:3 Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys bwyd twyllodrus ydyw.

23:4 Nac ymflina i ymgyfoethogi: dod heibio dy synnwyr dy hun.

23:5 A beri di i’th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith megis eryr tua’r wybr.

23:6 Na fwyta fwyd y drwg ei lygad; ac na chwennych mo’i ddanteithion ef.

23:7 Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthyt, Bwyta ac yf; a’i galon heb fod gyda thi.

23:8 Y tamaid a fwyteaist a fwri i fyny, a’th eiriau melys a golli.

23:9 Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau.

23:10 Na symud mo’r hen derfyn; ac na ddos i feysydd yr amddifaid:

23:11 Canys eu gwaredwr hwynt sydd nerthol: ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.

23:12 Gosod dy galon ar addysg, a’th glustiau ar eiriau gwybodaeth.

23:13 Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn: os curi ef â gwialen, ni bydd efe farw.

23:14 Cur ef â gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag uffern.

23:15 Fy mab, os dy galon di fydd doeth, fy nghalon innau a lawenycha;

23:16 Ie, fy arennau a grychneidiant, pan draetho dy wefusau di gyfiawnder.

23:17 Na wynfyded dy galon wrth bechaduriaid: ond aros yn ofn yr ARGLWYDD yn hyd y dydd.

23:18 Canys yn ddiau y mae gwobr; ac ni phalla dy ddisgwyliad.

23:19 Erglyw, fy mab, a bydd ddoeth; a chyfawydda dy galon yn y ffordd.

23:20 Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win; ymysg y rhai glythion ar gig.

23:21 Canys y meddw a’r glwth a ddaw i dlodi: a chysgu a bair fyned mewn gwisg garpiog.

23:22 Gwrando ar dy dad a’th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio.

23:23 Prŷn y gwir, ac na werth; felly doethineb, ac addysg, a deall.

23:24 Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr; a’r neb a genhedlo fab doeth, a lawenha o’i blegid.

23:25 Dy dad a’th fam a lawenycha; a’r hon a’th ymddûg a orfoledda.

23:26 Fy mab, moes i mi dy galon; dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i.

23:27 Canys ffos ddofn yw putain: a phydew cyfyng yw y ddieithr.

23:28 Ie, hi a gynllwyn fel gwilliad; ac a chwanega bechaduriaid ymysg dynion.

23:29 I bwy y mae gwae? i bwy y mae ochain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gwelïau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion?

23:30 I’r neb sydd yn aros wrth y gwin: i’r neb sydd yn myned i ymofyn am win cymysgedig.

23:31 Nac edrych ar y gwin pan fyddo goch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn.

23:32 Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr.

23:33 Dy lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a’th galon a draetha drawsedd.

23:34 Ti a fyddi megis un yn cysgu yng nghanol y môr, ac fel un yn cysgu ym mhen yr hwylbren.

23:35 Curent fi, meddi, ac ni chlafychais; dulient fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a af rhagof; mi a’i ceisiaf drachefn.

24:1 A chenfigenna wrth wŷr annuwiol; ac na chwennych fod gyda hwynt:

24:2 Canys eu calon a fyfyria anrhaith, a’u gwefusau a draetha flinder.

24:3 Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y sicrheir ef:

24:4 A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd.

24:5 Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth.

24:6 Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.

24:7 Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth.

24:8 Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler.

24:9 Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus.

24:10 Os llwfrhei mewn amser cyfyngder, bychan yw dy nerth.

24:11 Gwared y rhai a lusgir i angau: a ymadawit â’r neb sydd barod i’w lladd?

24:12 Os dywedi, Wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a’r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni wŷr efe? ac oni thâl efe i bob un yn ôl ei weithred?

24:13 Fy mab, bwyta fêl, canys da yw; a’r dil mêl, canys melys yw i’th enau.

24:14 Felly y bydd gwybodaeth doithineb i’th enaid: os cei di hi, yn ddiau fe fydd gwobr, a’th obaith ni phalla.

24:15 Na chynllwyn di, O annuwiol, wrth drigfa y cyfiawn; na anrheithia ei orffwysfa ef.

24:16 Canys seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwiolion a syrhtinat mewn drygioni.

24:17 Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:

24:18 Rhag i’r ARGLWYDD weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef atat ti.

24:19 Nac ymddigia oherwydd y drwgweithredwyr; na chenfigenna wrth yr annuwiolion:

24:20 Canys ni bydd gwobr i’r drygionus: cannwyll yr annuwiolion a ddiffoddir.

24:21 Fy mab, ofna yr ARGLWYDD a’r brenin, ac nac ymyrr â’r rhai anwastad:

24:22 Canys yn ddisymwth y cyfyd cu distryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?

24:23 Dyma hefyd bethau doethion Nid da derbyn wyneb mewn barn.

24:24 Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol, Cyfiawn wyt; y bobl a’i melltithiant ef, cenhedloedd a’i ffieiddiant ef:

24:25 Ond i’r neb a’i ceryddo, y bydd hyfrydwch; a bendith dda a ddigwydd iddynt.

24:26 Pawb a gusana wefusau y neb a atebo eiriau uniawn.

24:27 Darpara dy orchwyl oddi allan, a dosbartha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ.

24:28 Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydog: ac na huda â’th wefusau

24:29 Na ddywed, Mi a wnaf iddo ef fel y gwnaeth yntau i minnau; mi a dalaf i’r gŵr yn ôl ei weithred.

24:30 Mi a euthum heibio i faes y dyn diog, a heibio i winllan yr angall;

24:31 Ac wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a’i fagwyr gerrig a syrthiasai i lawr.

24:32 Gwelais hyn, a mi a ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg.

24:33 Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig wasgu dwylo i gysgu:

24:34 Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.

PENNOD 25 25:1 Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda.

25:2 Anrhydedd DUW yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan.

25:3 Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio.

25:4 Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i’r gof arian lestr.

25:5 Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder.

25:6 Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr.

25:7 Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid.

25:8 Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog.

25:9 Ymresyma â’th gymydog ei hun; ond na ddatguddia gyfrinach i arall:

25:10 Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i’th gywilydd na thro ymaith.

25:11 Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian yn cerfiedig.

25:12 Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol.

25:13 Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid.

25:14 Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law.

25:15 Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn.

25:16 Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.

25:17 Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu.

25:18 Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem.

25:19 Hyder ar ffalswr yn riydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu.

25:20 Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd ya canu caniadau i galon drist.

25:21 Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed:

25:22 Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r ARGLWYDD a dâl i ti.

25:23 Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar.

25:24 Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang.

25:25 Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell.

25:26 Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr.

25:27 Nid da bwyta llawer o fâl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydrdd yw.

25:28 Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.

PENNOD 26 26:1 Megis ôd yr haf, neu law y cynhaeaf, felly nid cymwys i’r ffôl anrhydedd.

26:2 Fel yr aderyn wrth grwydro, a’r wennol wrth ehedeg, felly y felltith ddiachos ni ddaw.

26:3 Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd.

26:4 Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yrt gyffelyb iddo.

26:5 Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun.

26:6 Y neb a yrro negesau gydag un angall, a dyr ymaith y traed, ac a yf golled.

26:7 Nid gogyhyd esgeiriau y cloff: felly dameg yng ngenau ffyliaid.

26:8 Fel un yn rhwymo carreg mewn tafl; felly y gwna y neb a anrhydeddo ffôl.

26:9 Fel draen yn myned i law dyn meddw; felly y mae dihareb yng ngenau yr angall.

26:10 Y DUW mawr yr hwn a luniodd bob peth, sydd yn gobrwyo y ffôl ac yn talu i’r troseddwyr.

26:11 Megis y mae y ci yn dychwelyd at ei chwydfa; felly y mae y ffôl yn dychwelyd at ei ffolineb.

26:12 A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw.

26:13 Y mae llew mawr ar y ffordd, medd y diog, y mae llew yn yr heolydd.

26:14 Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try y diog yn ei wely.

26:15 Y diog a guddia ei law yn ei fynwes; blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn.

26:16 Doethach yw y diog yn ei olwg ei hun, na seithwyr yn adrodd rheswm.

26:17 Y neb wrth fyned heibio a ymyrro â chynnen ni pherthyn iddo, sydd megis un yn cymryd ci erbyn ei glustiau.

26:18 Fel dyn gwallgofus a daflo bentewion tân, saethau, ac arfau marwolaeth;

26:19 Felly y mae y gŵr a dwyllo ei gymydog, ac a ddywed, Onid cellwair yr ydwyf?

26:20 Megis pan ddarfyddo y coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddo athrodwr, derfydd y gynnen.

26:21 Fel glo i’r marwor, a choed i’r tân; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen.

26:22 Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol.

26:23 Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddrll o lestr pridd; felly y mae gwefusau poeth, a chalon ddrwg.

26:24 Y digasog a ragrithia â’i wefusau, ac yn ei galon yn bwriadu twyll:

26:25 Pan ddywedo efe yn deg, nac ymddiried iddo: canys y mae saith ffieidd-dra yn ei galon ef.

26:26 Trwy gyfrwyster y cuddir digasedd: ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynulleidfa.

26:27 Y neb a gloddio bydew, a syrth ynddo; a’r neb a dreiglo garreg, ato y dychwel.

26:28 Y tafod celwyddog a gasa y neb a gystuddio efe; a’r genau gwenieithus a wna ddinistr.

PENNOD 27 27:1 Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.

27:2 Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.

27:3 Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau.

27:4 Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?

27:5 Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig.

27:6 Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus.

27:7 Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys.

27:8 Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth.

27:9 Olew ac arogl-darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon.

27:10 Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.

27:11 Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo.

27:12 Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.

27:13 Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chmner wystl ganddo dros y ddieithr.

27:14 Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.

27:15 Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.

27:16 Y mae yr hwn a’i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.

27:17 Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.

27:18 Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwÿtÿ o’i ffrwyth ef: a’r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.

27:19 Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn.

27:20 Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.

27:21 Fel y tawddlestr i’r arian, a’r ffwrnais i’r aur: felly y mae gŵr i’w glod.

27:22 Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef.

27:23 Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.

27:24 Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?

27:25 Y gwair a flaendardda, a’r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir.

27:26 Yr ŵyn a’th ddillada, ac o’r geifr y cei werth tir.

27:27 Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i’th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i’th lancesau.

PENNOD 28 28:1 Yr annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid: ond y rhai cyfiawn sydd hy megis llew.

28:2 Oherwydd camwedd gwlad, aml fydd ei phenaethiaid: ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol, y pery hi yn hir.

28:3 Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion, sydd debyg i liffddwfr yr hwn ni ad luniaeth.

28:4 Y rhai a ymadawant â’r gyfraith, a ganmolant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith, a ymladd â hwynt.

28:5 Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr ARGLWYDD, a ddeallant bob peth.

28:6 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog.

28:7 Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i ond y loddestwyr, a gywilyddia ei dad.

28:8 Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd.

28:9 Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd.

28:10 Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni.

28:11 Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus a’i chwilia ef allan.

28:12 Pan fyddo llawen y cyfiawn, y mae anrhydedd mawr: ond pan ddyrchafer yr annuwiolion, y chwilir am ddyn.

28:13 Y neb a guddio ei bechodau, ni lwydda: ond y neb a’u haddefo, ac a’u gadawo, a gaiff drugaredd.

28:14 Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol: ond y neb a galedo ei galon, a ddigwydda i ddrwg.

28:15 Fel y llew rhuadus, a’r arth wancus, yw llywydd annuwiol i bobl dlodion.

28:16 Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasao gybydd-dra, a estyn ei ddyddiau.

28:17 Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i’r pwll; nac atalied neb ef.

28:18 Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith.

28:19 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi.

28:20 Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond y neb a brysuro i fod yn gyfoethog, ni bydd digerydd.

28:21 Nid da derbyn wyneb: canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam.

28:22 Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno.

28:23 Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na’r neb a draetho weniaith â’i dafod.

28:24 Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam, ac a ddywed, Nid yw hyn gamwedd, sydd gymar i ddinistriwr.

28:25 Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen: i ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, a wneir yn fras.

28:26 Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun, sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog, a achubir.

28:27 Y neb a roddo i’r tlawd, ni bydd angen arno: ond y neb a guddio ei lygaid, a gaiff lawer o felltithion.

28:28 Pan ddyrchafer yr annuwiol, dynion a ymguddia: ond wedi darfod amdanynt, yr amlheir y cyfiawn.

PENNOD 29 29:1 Gwr a geryddir yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth.

29:2 Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia.

29:3 Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda.

29:4 Brenin trwy fam a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a’i dinistria hi.

29:5 Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i’w dreaed ef.

29:6 Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen.

29:7 Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod.

29:8 Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint.

29:9 Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch.

29:10 Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef

29:11 Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a’i hatal hyd yn ôl.

29:12 Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol.

29:13 Y tlawd a’r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a’r ARGLWYDD a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.

29:14 Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth.

29:15 Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam.

29:16 Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy.

29:17 Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i’th enaid.

29:18 Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef.

29:19 Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb.

29:20 A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef.

29:21 Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o’i febyd, o’r diwedd efe a fgdd fel mab iddo.

29:22 Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a’r llidiog sydd aml ei gamwedd.

29:23 Balchder dyn a’i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.

29:24 Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega.

29:25 Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD a ddyrchefir.

29:26 Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr ARGLWYDD y mae barn pob dyn.

29:27 Ffiaidd gab y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.

PENNOD 30 30:1 Geiriau Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal.

30:2 Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf.

30:3 Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd.

30:4 ‘Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?

30:5 Holl air DUW sydd bur: tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo.

30:6 Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a’th gael yn gelwyddog.

30:7 Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na ormedd hwynt i mi cyn fy marw.

30:8 Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â’m digoedd o fara.

30:9 Rhag i mi ymlenwi, a’th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr ARGLWYDD? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer

30:10 Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a’th gael yn euog.

30:11 Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a’i mam ni fendithia.

30:12 Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei aflendid.

30:13 Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw eu llygaid! a’i hamrantau a ddyrchafwyd.

30:14 Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau, a’i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a’r anghenus o blith dynion.

30:15 I’r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon:

30:16 Y bedd; y groth anihlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a’r tân ni ddywed, Digon.

30:17 Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a’r cywion eryrod a’i bwyty.

30:18 Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen:

30:19 Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr yfed ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn.

30:20 Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd,

30:21 Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef:

30:22 Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd;

30:23 Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres.

30:24 Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn:

30:25 Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf;

30:26 Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig;

30:27 Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd;

30:28 Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin.

30:29 Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus:

30:30 Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb;

30:31 Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn.

30:32 Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau.

30:33 Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan a’r ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.

PENNOD 31 31:1 Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.

31:2 Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau?

31:3 Na ddyro i wragedd dy nerth; na’th ffyrdd i’r hyn a ddifetha frenhinoedd.

31:4 Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn:

31:5 Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o’r rhai gorthrymedig.

31:6 Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i’r rhai trwm eu calon.

31:7 Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac ac un na feddylio am ei flinfyd mwy.

31:8 Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr.

31:9 Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a’r anghenus.

31:10 Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl.

31:11 Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith.

31:12 Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd.

31:13 Hi a gais wla^n a llin, ac a’i gweithia a’i dwylo yn ewyllysgar.

31:14 Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell.

31:15 Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau.

31:16 Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.

31:17 Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.

31:18 Hi a wêl fod ei marsiandiaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos.

31:19 Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail.

31:20 Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus.

31:21 Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.

31:22 Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.

31:23 Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.

31:24 Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.

31:25 Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.

31:26 Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.

31:27 Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.

31:28 Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi:

31:29 Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.

31:30 Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gwy gaiff glod.

31:31 Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.