Beibl (1620)/Esra
← 2 Cronicl | Beibl (1620) Esra Esra wedi'i gyfieithu gan William Morgan |
Nehemeia → |
LLYFR EZRA.
PENNOD 1
1:1 Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr ARGLWYDD o enau Jeremeia, y gyffrôdd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd,
1:2 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda.
1:3 Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei DDUW gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiled dŷ ARGLWYDD DDUW Israel, (dyna y DUW), yr hwn sydd yn Jerwsalem.
1:4 A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac a golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ DDUW, yr hwn sydd yn Jerwsalem.
1:5 Yna y cododd pennau-cenedl Jwda a Benjamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn oedd yn Jerwsalem.
1:6 A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, â golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.
1:7 A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun:
1:8 Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd, ac a’u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda.
1:9 A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll.
1:10 Deg ar hugain o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o lestri eraill.
1:11 Yr holl lestri, y aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda’r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.
PENNOD 2
2:1 A dyma feibion y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud, yr hon a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a Jwda, pob un i’w ddinas ei hun;
2:2 Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwyr pobl Israel:
2:3 Meibion Paros, dwy fil a deuddeg ac wyth ugain.
2:4 Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.
2:5 Meibion Ara, saith gant a phymtheg a thrigain.
2:6 Meibion Pahath-Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg.
2:7 Meibion Elam, mil dau dant a phedwar ar ddeg a deugain.
2:8 Meibion Sattu, naw cant a phump a deugain.
2:9 Meibion Saccai, saith gant a thrigain.
2:10 Meibion Bani, chwe chant a dau a deugain.
2:11 Meibion Bebai, chwe chant a thri ar hugain.
2:12 Meibion Asgad, mil dau cant a dau ar hugain
2:13 Meibion Adonicam, chwe chant a chwech a thrigain.
2:14 Meibion Bigfai, dwy fil ac onid pedwar trigain.
2:15 Meibion Adin, pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain.
2:16 Meibion Ater o Heseceia, onid dau pum ugain.
2:17 Meibion Besai, tri chant a thri ar hugain.
2:18 Meibion Jora, cant a deuddeg.
2:19 Meibion Hasum, dau cant a thri ar hugain.
2:20 Meibion Gibbar, pymtheg a phedwar ugain.
2:21 Meibion Bethlehem, cant a thri ar hugain.
2:22 Gwŷr Netoffa, onid pedwar trigain
2:23 Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain.
2:24 Meibion Asmafeth, dau a deugain.
2:25 Meibion Ciriath-arim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain.
2:26 Meibion Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain.
2:27 Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain.
2:28 Gwŷr Bethel ac Ai, dau cant a thri war ar hugain.
2:29 Meibion Nebo, deuddeg a deugain.
2:30 Meibion Magbis, cant ac onid pedwar trigain.
2:31 Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.
2:32 Meibion Harim, tri chant ac ugain.
2:33 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant a phump ar hugain.
2:34 Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain.
2:35 Meibion Senaa, tair mil a chwe chant a deg ar hugain.
2:36 Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri.
2:37 Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain.
2:38 Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain.
2:39 Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.
2:40 Y Lefiaid: meibion Jesua a Chadmiel, o feibion Hodafia, pedwar a ddeg a thrigain.
2:41 Y cantoriaid: meibion Asaff, cant ac wyth ar hugain.
2:42 Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un deugain.
2:43 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth,
2:44 Meibion Ceros, meibion Siaha, meibion Padon,
2:45 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub,
2:46 Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan,
2:47 Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia,
2:48 Meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam,
2:49 Meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai,
2:50 Meibion Asna, meibion Mehunim, meibion Neffusim,
2:51 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur,
2:52 Meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa,
2:53 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama,
2:54 Meibion Neseia, meibion:Hatiffa.
2:55 § Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth, meibion Peruda,
2:56 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel,
2:57 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Ami.
2:58 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain.
2:59 A’r rhai hyn a aethant i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt:
2:60 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.
2:61 A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt.
2:62 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhiith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. .
2:63 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac a Thummim.
2:64 Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain:
2:65 Heblaw eu gweision a’u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau.
2:66 Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain;
2:67 Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain.
2:68 Ac o’r pennau-cenedl pan ddaethant i dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr ARGLWYDD, i’w gyfodi yn ei le.
2:69 Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid,
2:70 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid, a rhai o’r bobl, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd, a holl Israel yn eu dinasoedd.
PENNOD 3
3:1 A phan ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr.
3:2 Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a’i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel mab Salathiel, a’i frodyr, ac a adeiladasant allor Duw Israel, i offrymu aml offrymau poeth, fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr Duw.
3:3 A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion, (canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlad,) ac a offrymasant arni boeth-offrymau i’r ARGLWYDD, poethoffrymau bore a hwyr.
3:4 Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn ysgrifenedig, ac a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei ddydd;
3:5 Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau, a holl sanctaidd osodedig wyliau yr ARGLWYDD, offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun, a offrymasant i’r ARGLWYDD.
3:6 O’r dydd cyntaf i’r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i’r ARGLWYDD. Ond teml yr ARGLWYDD ni sylfaenasid eto.
3:7 Rhoddasant hefyd arian i’r seiri maen, ac i’r seiri pren; a bwyd, a diod, ac olew, i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Jopa: yn ôl caniatâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.
3:8 Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ DDUW i Jerwsalem, yn yr ail fis, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeinaid ar Lefiaid, a’r rhai oll a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem; ac a osodasant y Lefiaid, o fab ugeinmlwydd ac uchod, yn olygwyr ar waith tŷ yr ARGLWYDD.
3:9 Yna y safodd Jesua, a’i feibion a’l frodyr, Cadmiel a’i feibion, meibion Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ DDUW: meibion Henadad, â’u meibion hwythau a u brodyr y Lefiaid.
3:10 A phan oedd y seiri yn sylfaenu teml yr ARGLWYDD, hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwisgoedd ag utgyrn, a’r Lefiaid meibion Asaff â symbalau, i foliannu yr ARGLWYDD, yn ol ordinhad Dafydd brenin Israel.
3:11 A hwy a gydganasant, wrth foliannu ac wrth glodfori yr ARGLWYDD, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel. A’r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr ARGLWYDD, am sylfaenu tŷ yr ARGLWYDD.
3:12 Ond llawer o’r offeiriaid ‘r Lefiaid, a’r pennau-cenedl, y rhai oedd hen, ac a welsent y tŷ cyntaf, wrth sylfaenu y tŷ hwn yn eu golwg, a wylasant â llef uchel; a llawer oedd yn dyrchafu llef mewn bloedd gorfoledd:
3:13 Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd oddi wrth sain wylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a’r sŵn a glywid ymhell.
PENNOD 4
4:1 Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y gaethglud yn adeiladu y deml i ARGLWYDD DDUW Israel;
4:2 Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau-cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr hwn a’n dug ni i fyny yma.
4:3 Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua, a’r rhan arall o bennau-cenedl Israel, wrthynt, Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i’n Duw ni; eithr nyni a gydadeiladwn i ARGLWYDD DDUW Israel, o megis y’n gorchmynnodd y brenin Cyrus, brenin Persia.
4:4 A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu,
4:5 Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia.
4:6 Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.
4:7 Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel, a’r rhan arall o’u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg.
4:8 Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifenydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn a Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn:
4:9 Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr Elamiaid,
4:10 A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a’r rhan arall tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser.
4:11 Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef, sef at Artacsercses y brenin, Dy wasanaethwyr o’r tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser.
4:12 Bid hysbys i’r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a’r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau.
4:13 Yn awr bydded hysbys i’r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi drysor y brenhinoedd.
4:14 Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i’r brenin,
4:15 Fel y ceisier yn llyfr historiau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historiau, (ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad-fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.
4:16 Yr ydym yn hysbysu i’r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a’r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon.
4:17 Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o’r tu hwnt i’r afon, Tangnefedd, a’r amser a’r amser.
4:18 Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.
4:19 A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd-dod a gwrthryfel.
4:20 A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon, ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.
4:21 Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i’r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto.
4:22 A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?
4:23 Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a’u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.
4:24 Yna y peidiodd gwaith tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem, ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.
PENNOD 5
5:1 Yna y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a broffwydasant i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw Duw Israel y proffwydasant iddynt.
5:2 Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.
5:3 pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn?
5:4 Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma?
5:5 A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius; ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn.
5:6 Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai: tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’i gyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai oedd o’r tu yma i’r afon, at y brenin Dareius:
5:7 Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn, yr ysgrifenasid ynddo; Pob heddwch i’r brenin Dareius.
5:8 Bydded hysbys i’r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef, a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a’i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt.
5:9 Yna y gofynasom i’r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur yma?
5:10 Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt.
5:11 A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd, ac a’i seiliodd ef.
5:12 Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a’u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a’r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon.
5:13 Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ DDUW hwn.
5:14 A llestri tŷ DDUW hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a’u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog;
5:15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt i’r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ DDUW yn ei le.
5:16 Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ DDUW yn Jerwsalem. Ac o’r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef.
5:17 Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon, a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ DDUW hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn.
PENNOD 6
6:1 Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn; a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau, lle y cedwid y trysorau yn Babilon.
6:2 A chafwyd yn Achmetha, yn y Llys yn nhalaith Media, ryw lyfr, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth:
6:3 Yn y flwyddyn gyntaf i’r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ DDUW o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei uchder, ac yn drigain cufydd ei led:
6:4 Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul o dŷ y brenin.
6:5 A llestri tŷ DDUW hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem, i’w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ DDUW.
6:6 Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i’r afon, Setharbosnai, a’ch cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o’r tu hwnt i’r afon, ciliwch oddi yno.
6:7 Gadewch yn llonydd waith y tŷ DDUW hwn: adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i DDUW yn ei le.
6:8 Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ DDUW hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o’r deyrnged o’r tu hwnt i’r afon, y rhoddir traul i’r gwŷr hyn, fel na pheidio y gwaith.
6:9 A’r hyn a fyddo angenrheiduil i boethoffrymau DUW y nefoedd, yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn yd, yn halen, yn win, ac yn olew, yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddi-baid:
6:10 Fel yr offrymont aroglau peraidd i DDUW y nefoedd, ac y gweddïont dros einioes y brenin, a’i feibion.
6:11 Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o’i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny.
6:12 A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo DUW yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
6:13 Yna Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, Setharbosnai, a’u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.
6:14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn DUW Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia.
6:15 A’r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.
6:16 A meibion Israel, yr offeiriaid a’r Lefiaid, a’r rhan arall o feibion y gaethglud, a gyssegrasant y tŷ hwn eiddo DUW mewn llawenydd;
6:17 Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech-aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.
6:18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu diosbarthiadau, a’r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth DUW yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses.
6:19 Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf.
6:20 Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn, yn lân i gyd oll, ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain.
6:21 A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud, a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a fwytasant,
6:22 Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr ARGLWYDD a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ DDUW, DUW Israel.
PENNOD 7
7:1 Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
7:2 Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,
7:3 Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
7:4 Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
7:5 Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf:
7:6 Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai ARGLWYDD DDUW Israel: a’r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr ARGLWYDD ei DDUW arno ef.
7:7 A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses.
7:8 Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i’r brenin.
7:9 Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei DDUW gydag ef.
7:10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr ARGLWYDD, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.
7:11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr ARGLWYDD, a’i ddeddfau ef i Israel.
7:12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf DUW y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser.
7:13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o’i offeiriaid ef, a’i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi.
7:14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy DDUW yr hon sydd yn dy law di,
7:15 Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i DDUW Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem,
7:16 A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem:
7:17 Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a’u bwyd-offrymau, a’u diod-offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem.
7:18 A’r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur a’r rhan arall o’r arian a’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich DUW.
7:19 A’r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy DDUW, dod adref o flaen dy DDUW yn Jerwsalem.
7:20 A pheth bynnag ychwaneg a fyddo anghenraid i dŷ dy DDUW, yr hyn a ddigwyddo i ti ei roddi, a roddi di o drysordy y brenin.
7:21 A minnau y brenin Artacsercses ydwyf yn gosod gorchymyn i holl drysorwyr y tu hwnt i’r afon, beth bynnag a geisio Esra, offeiriad, ac ysgrifennydd deddf Duw y nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd;
7:22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur.
7:23 Beth bynnag yw gorchymyn DUW y nefoedd, gwneler yn ddyfal i dŷ DUW y nefoedd: canys paham y byddai llidiowgrwydd yn erbyn teyrnas y brenin a’i feibion?
7:24 Yr ydym yn hysbysu i chwi hefyd, am yr holl offeiriaid, a’r Lefiaid, cantorion, porthorion, Nethiniaid, a gweinidogion y tŷ DDUW hwn, na ellir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na threth.
7:25 Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy DDUW, yr hwn sydd yn dy law, gosod gwyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy DDUW; a dysgwch y rhai nis medrant.
7:26 A phwy bynnag ni wnelo gyfraith dy DDUW, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa un bynnag ai i farwolaeth, ai i’w ddeol, ai i ddirwy o dda; ai i garchar.
7:27 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn sydd yn Jerwsalem:
7:28 Ac a barodd i mi drugaredd o flaen y brenin a’i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin. A mi a gynorthwywyd, fel yr oedd llaw yr ARGLWYDD fy Nuw arnaf fi, a chesglais o Israel benaethiaid i fyned i fyny gyda mi.
PENNOD 8
8:1 A dyma eu pennau-cenedl hwynt, a’u hachau, y rhai a aeth i fyny gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin, allan o Babilon.
8:2 O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion Dafydd; Hattus:
8:3 O feibion Sechaneia, o feibion Pharos; Sechareia: a chydag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid.
8:4 O feibion Pahath-Moab; Elihoenai mab Seraheia, a chydag ef ddau cant o wrywiaid.
8:5 O feibion Sechaneia; mab Jahasiel, a chydag ef dri chant o wrywiaid.
8:6 O feibion Adin hefyd; Ebed mab Jonathan, a chydag ef ddeg a deugain o wrywiaid.
8:7 Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid.
8:8 Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid.
8:9 O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid.
8:10 Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o wrywiaid.
8:11 Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid.
8:12 Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant.
8:13 Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid.
8:14 Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid.
8:15 A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a’r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi.
8:16 Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion:
8:17 A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, y pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido, a’i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw.
8:18 A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a’i feibion, a’i frodyr, ddeunaw;
8:19 A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merasi, a’i frodyr, a’u meibion, ugain;
8:20 Ac o’r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a’r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau.
8:21 Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio gerbron ein DUW ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i’n plant, ac i’n golud oll.
8:22 Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i ceisiant ef, a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef.
8:23 Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd amom.
8:24 Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o’u brodyr gyda hwynt;
8:25 Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a’i gynghoriaid, a’i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.
8:26 Ie, pwysais i’w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur;
8:27 Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres melyn da, mor brydferth ag aur.
8:28 A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i’r ARGLWYDD; a’r llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i ARGLWYDD DDUW eich tadau.
8:29 Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a phennau-cenedl Israel yn Jerwsalem, yng nghelloedd tŷ yr ARGLWYDD.
8:30 Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a’r aur, a’r llestri, i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni. ;
8:31 A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa, ar y deuddegfed dydd o’r mis cyntaf i fyned i Jerwsalem: a llaw ein ein Duw oedd arnom ni, ac a gwaredodd o law y gelyn, a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd.
8:32 A ni a ddaethom i Jerwsalem, ac a arosasom yno dridiau.
8:33 Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a’r aur, a’r llestri, yn nhŷ ein DUW ni, trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad; ac Eleasar mab Phinees oedd gydag ef; a Josabad mab Jesua, a Noadeia mab Binnui, y Lefiaid, oedd gyda hwynt;
8:34 Wrth rifedi ac wrth bwys pob un: a’r holl bwysau a ysgrifennwyd y pryd hwnnw.
8:35 Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o’r caethiwed, a offrymasant boethoffrymau i DDUW Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar again o ŵyn, a deuddeg o fychod yn bech-aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r ARGLWVDD.
8:36 A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a thywysogion y tu hwnt i’r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw.
PENNOD 9
9:1 Ac wedi darfod hynny, y tywysogion a ddaethant ataf fi, gan ddywedyd, Nid ymneilltuodd pobl Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, oddi wrth bobl y gwledydd: gwnaethant yn ôl eu ffieidd-dra hwynt; sef y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid, a’r Amoriaid.
9:2Canys cymerasant o’u merched iddynt eu hun, ac i’w meibion; a’r had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd: a llaw y penaethiaid a’r tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn.
9:3 Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a’m gwisg, ac a dynnais wallt fy mhen a’m barf, ac a eisteddais yn syn.
9:4 Yna yr ymgasglodd ataf fi bob un a’r a ofnodd eiriau Duw Israel, am gamwedd y rhai a gaethgludasid; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth prynhawnol.
9:5 Ac ar yr aberth prynhawnol mi a gyfodais o’m cystudd; ac wedi i mi rwygo fy nillad a’m gwisg, mi a ostyngais ar fy ngliniau, ac a ledais fy nwylo at yr ARGLWYDD fy NUW,
9:6 Ac a ddywedais, O fy NUW, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti, fy Nuw; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben, a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd.
9:7 Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwledydd, i’r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddiw.
9:8 Ac yn awr dros ennyd fechan y daeth gras oddi wrth yr ARGLWYDD ein Duw, i adael i ni weddill i ddianc, ac i roddi i ni hoel yn ei le sanctaidd ef; fel y goleuai ein Duw ein llygaid, ac y rhoddai i ni ychydig orffwystra yn ein caethiwed.
9:9 Canys caethion oeddem ni; ond ni adawodd ein DUW ni yn ein caethiwed, eithr parodd i ni drugaredd o fluen brenhinoedd Persia, i roddi i ni orffwystra iddyrchafu tŷ ein Duw ni, ac i gyfodi ei leoedd anghyfannedd ef, ac i roddi i ni fur yn Jwda a Jerwsalem.
9:10 Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn, O ein Duw? canys gadawsom dy orchmynion di,
9:11 Y rhai a orchmynnaist trwy law dy weision y proffwydi, gan ddywedyd, Y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu, gwlad halogedig yw hi, trwy halogedigaeth pobi y gwledydd, oblegid eu ffieidd-dra hwynt, y rhai a’i llanwasant hi â’u haflendid o gwr bwygilydd.
9:12 Ac yn awr, na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na chymerwch eu merched hwynt i’ch meibion chwi, ac na cheisiwch eu heddwch hwynt na’u daioni byth: fel y cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlad, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion byth.
9:13 Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd, a’n mawr gamwedd, am i ti ein Duw ein cosbi yn llai na’n hanwiredd, a rhoddi i ni ddihangfa fel hyn;
9:14 A dorrem ni drachefn dy orchmynion di, ac ymgyfathrachu a’r ffiaidd bobl hyn? oni ddigit ti wrthym, nes ein difetha, fel na byddai un gweddill na dihangol?
9:15 ARGLWYDD DDUW Israel, cyfiawn. ydwyt ti; eithr gweddill dihangol ydym ni, megis heddiw; wele ni o’th flaen di yn ein camweddau; canys ni allwn ni sefyll o’th flaen di am hyn.
PENNOD 10
10:1 Ac wedi i Esra weddïo a chyffesu, gan wylo a syrthio i lawr o flaen tŷ DDUW, tyrfa fawr o Israel a ymgasglasant ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant: canys y bobl a wylasant ag wylofain mawr
10:2 Yna y llefarodd Sechaneia mab Jehiel, o feibion Elam, ac a ddywedodd wrth Esra, Ni a bechasom yn erbyn ein DUW, ac a gytaliasom â gwragedd dieithr o bobl y wlad: etc yn awr y mae gobaith i Israel am hyn.
10:3 Yn awr, gan hynny, gwnawn gyfamod â’n Duw, ar fwrw allan yr holl wragedd, a’u plant, wrth gyngor yr ARGLWYDD, a’r rhai a ofnant orchmynion ein DUW: a gwneler yn ôl y gyfraith.
10:4 Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi: ymwrola, a gwna.
10:5 Yna y cyfododd Esra, ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a holl Israel, ar wneuthur yn ôl y peth hyn. A hwy a dyngasant.
10:6 Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ DUW, ac a aeth i ystafell Johanan mab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr; canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud.
10:7 A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem, ar i holl feibion y gaethglud ymgaslu i Jerwsalem;
10:8 A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau, yn ôl cyngor y penaethiaid a’r henuriaid, efa a gollai ei holl olud, ac yntau a ddidolid oddi wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid.
10:9 Felly holl wyr Jwda a Benjamin a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau: hynny oedd y nawfed mis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis; a’r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ DDUW, yn crynu o achos y peth hyn, ac o achos y glawogydd.
10:10 Ac Esra yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a bechasoch, ac a gytaliasoch aâ gwragedd dieithr, gan ychwanegu ar bechod Israel.
10:11 Ac yn awr rhoddwch foliant i ARGLWYDD DDUW eich tadau, a gwnewch ei ewyllys ef; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.
10:12 A holl dyrfa Israel a atebasant, ac a ddywedasant aâ llef uchel, Yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur.
10:13 Eithr y bobl sydd lawer, a’r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll allan, ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw: canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn.
10:14 Safed yn awr ein penaethiaid o’r holl dyrfa, a deued y rhai o’n dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosodedig, a henuriaid pob dinas, a’u barnwyr gyda hwynt, nes troi dicter ein Duw oddi wrthym am y peth hyn.
10:15 Yn unig Jonathan mab Asahel, a Jahaseia mab Ticfa, a osodwyd ar hyn: Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a’u cynorthwyasant hwy.
10:16 A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad, a’r gwŷr oedd bennau-cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o’r degfed mis, i ymofyn am y peth hyn.
10:17 A hwy a wnaethant ben â’r holl wyr a gytaliasent â gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o’r mis cyntaf.
10:18 A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a’i frodyr; Maaseia, ac Elieser, a Jarib, a Gedaleia.
10:19 A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o’r praidd dros eu camwedd.
10:20 Ac o feibion Immer, Hanani, a Sebadeia.
10:21 Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac Usseia.
10:22 Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa.
10:23 Ac o’r Lefiaid; Josabad, a Simei, a Chelaia, (hwnnw yw Celita,) Pethaheia,, Jwda, ac Elieser.
10:24 Ac o’r cantorion; Eliasib: ac o’r porthorion; Salum, a Thelem, ac Uri.
10:25 Ac o Israel: o feibion Paros; Rameia, a Jeseia, a Malcheia, a Miamin, ac Eleasar, a Malcheia, a Benaia.
10:26 Ac o feibion Elam; Mataneia, Sechareia, a Jehiel, ac Abdi, a Jeremoth, ac Eleia.
10:27 Ac o feibion Sattu; Elioenai, Eliasib, Mataneia, a Jeremoth, a Sabad, ac Asisa.
10:28 Ac o feibion Bebai; Jehohanan, Hananeia, Sabbai, ac Athlai.
10:29 Ac o feibion Bani; Mesulam, Maluch, ac Adaia, Jasub, a Seal, a Ramoth.
10:30 Ac o feibion Pahath-Moab; Adna, a Chelal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, a Binnui, a Manasse.
10:31 Ac o feibion Harim; Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon,
10:32 Benjamin, Maluch, a Semareia.
10:33 O feibion Hasum; Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai, Manasse, a Simei.
10:34 O feibion Bani; Maadai, Amram, ac Uel,
10:35 Benaia, Bedeia, Celu,
10:36 Faneia, Meromoth, Eliasib,
10:37 Mataneia, Matenai, a Jaasau,
10:38 A Bani, a Binnui, Simei,
10:39 A Selemeia, a Nathan, ac Adaia,
10:40 Machnadebai, Sasai, Sarai,
10:41 Asareel, a Selemeia, a Semareia,
10:42 Salum, Amareia, a Joseff.
10:43 O feibion Nebo; Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadua, a Joel, a Benaia.
10:44 Y rhai hyn oll a gymerasent wragedd dieithr: ac yr oedd i rai ohonynt wragedd a ddygasai blant iddynt.