Beibl (1620)/Nehemeia

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search

PENNOD 1

1:1 Geiriau Nehemeia mab Hachaleia. A bu ym mis Cisleu, yn yr ugeinfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhinllys Susan,

1:2 Ddyfod o Hanani, un o’m brodyr, efe a gwŷr o Jwda, a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o’r caethiwed, ac am Jerwsalem.

1:3 A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a’i phyrth a losgwyd â thân.

1:4 A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron Duw y nefoedd;

1:5 A dywedais, Atolwg, ARGLWYDD DUW y nefoedd, y DUW mawr ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion:

1:6 Bydded, atolwg, dy glust yn clywed, a’th lygaid yn agored, i wrando ar weddi dy was, yr hon yr ydwyf fi yn ei gweddïo ger dy fron di yr awr hon ddydd a nos, dros feibion Israel dy weision, ac yn cynesu pechodau meibion Israel, y rhai a bechasom i’th erbyn: myfi hefyd a thŷ fy nhad a bechasom.

1:7 Gwnaethom yn llygredig iawn i’th erbyn, ac ni chadwasom y gorchmynion, na’r deddfau, na’r barnedigaethau, a orchmynnaist i Moses dy was.

1:8 Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Os chwi a droseddwch, myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd:

1:9 Ond os dychwelwch ataf fi, a chadw fy ngorchmynion, a’u gwneuthur hwynt, pe gyrrid rhai ohonoch chwi hyd eithaf y nefoedd, eto mi a’u casglaf hwynt oddi yno, ac a’u dygaf i’r lle a etholais i drigo o’m henw ynddo.

1:10 A hwy ydynt dy weision a’th bobl, y rhai a waredaist â’th fawr allu, ac â’th law nerthol.

1:11 Atolwg, ARGLWYDD, bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was, ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw: llwydda hefyd, atolwg, dy was heddiw, a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn. Canys myfi oedd drulliad i’r brenin.


PENNOD 2

2:1 Ac ym mis Nisan, yn yr ugeinfed flwyddyn i Artacsercses y brenin, yr oedd gwin o’i flaen ef: a mi a gymerais y gwin, ac a’i rhoddais i’r brenin. Ond ni byddwn arferol o fod yn drist ger ei fron ef.

2:3 Am hynny y brenin a ddywedodd wrthyf, Paham y mae dy wynepryd yn drist, a thithau heb fod yn glaf? nid yw hyn ond tristwch calon. Yna yr ofnais yn ddirfawr:

2:4 A dywedais wrth y brenin, Byw fyddo’r brenin yn dragywydd: paham na thristái fy wyneb, pan fyddai y ddinas, tŷ beddrod fy nhadau, wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu hysu â thân?

2:4 A’r brenin a ddywedodd wrthyf. Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno? Yna y gweddïais ar DDUW y nefoedd.

2:5 A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi.

2:6 A’r brenin a ddywedodd wrthyf, a’i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo amser.

2:7 Yna y dywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i’r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda;

2:8 A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i’r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i’r tŷ yr elwyf iddo. A’r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy NUW arnaf fi.

2:9 Yna y deuthum at y tywysogion o’r tu hwnt i’r afon, ac a roddais iddynt lythyrau y brenin. A’r brenin a anfonasai dywysogion y llu, a marchogion gyda mi.

2:10 Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel.

2:11 Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem, ac a fûm yno dridiau.

2:12 A chyfodais liw nos, myfi ac ychydig wŷr gyda mi, ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy NUW yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem: ac anifail nid oedd gennyf, ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno.

2:13 A mi a euthum allan liw nos, trwy borth y glyn, ar gyfer ffynnon y ddraig, ac at borth y dom, a deliais sylw ar furiau Jerwsalem y rhai oedd wedi eu dryllio, a’i phyrth y rhai oedd wedi eu hysu a thân.

2:14 Yna y tramwyais i borth y ffynnon, ac at bysgodlyn y brenin: ac nid oedd le i’r anifail oedd danaf i fyned heibio.

2:15 A mi a euthum i fyny gan lan yr afon liw nos, ac a ddeliais sylw ar y mur, ac a ddychwelais, ac a ddeuthum trwy borth y glyn, ac felly y troais yn

ôl.

2:16 A’r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i, na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i’r Iddewon, nac i’r offeiriaid, nac i’r pendefigion, nac i’r penaethiaid, nac i’r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.

2:17 Yna y dywedais wrthynt, Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo, fod Jerwsalem wedi ei dinistrio, a’i phyrth wedi eu llosgi â thân: deuwch, ac adeiladwn fur Jerwsalem, fel na byddom mwyach yn waradwydd.

2:18 Yna y mynegais iddynt fod llaw fy NUW yn ddaionus tuag ataf; a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedasai efe wrthyf. A hwy a ddywedasant, Cyfodwn, ac adeiladwn. Felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni.

2:19 Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, hyn, hwy a’n gwatwarasant ni, ac a’n dirmygasant, ac a ddywedasant, Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin?

2:20 Yna yr atebais hwynt, ac y dywedais wrthynt, DUW y nefoedd, efe a’n llwydda ni; a ninnau ei weision ef a gyfodwn, ac a adeiladwn: ond nid oes i chwi ran, na chyfiawnder, na choffadwriaeth yn Jerwsalem.


PENNOD 3

3:1 Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd, a’i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy a’i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel.

3:2 A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr Jericho. A cherllaw iddynt hwy yr adeiladodd Saccur mab Imri.

3:3 A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod; hwynt-hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant ei ddorau, ei gloeau, a’i farrau.

3:4 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia, mab Cos. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia, mab Mesesabeel. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana.

3:5 A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd.

3:6 A Jehoiada mab Pasea, a Mesulam mab Besodeia, a gyweiriasant yr hen borth; hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant i fyny ei ddorau, a’i gloeau, a’i farrau.

3:7 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad, a Jadon y Meronothiad, gwŷr Gibeon a Mispa, hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i’r afon.

3:8 Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussid mab Harhaia, o’r gofaint aur. Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia, mab un o’r apothecariaid: a hwy a gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan.

3:9 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Reffaia mab Hur, tywysog banner rhan Jerwsalem.

3:10 A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd Jedaia mab Harumaff, ar gyfer ei dŷ. A Hattus mab Hasabneia a gyweiriodd gerllaw iddo yntau.

3:11 Malcheia mab Harim, a Hasub mah Pahath-Moab, a gyweiriasant ran arall, a thŵr y ffyrnau.

3:12 A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Salum mab Halohes, tywysog hanner rhan Jerwsalem, efe a’i ferched.

3:13 Porth y glyn a gyweiriodd Hanun, a thrigolion Sanoa; hwynt-hwy a’i hadeiladasant ef, ac a osodasant ei ddorau ef, ei gloeau, a’i farrau, a mil o gufyddau ar y mur, hyd borth y dom.

3:14 Ond porth y dom a gyweiriodd Malcheia mab Rechab, tywysog rhan o Beth-haccerem; efe a’i hadeiladodd, ac a osododd ei ddorau, ei gloeau, a’i farrau.

3:15 A Salum mab Col-hose, tywysog rhan o Mispa, a gyweiriodd borth y ffynnon; efe a’i hadeiladodd, ac a’i todd, ac a osododd ei ddorau ef, ei gloeau, a’i farrau, a mur pysgodlyn Siloa, wrth ardd y brenin, a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd.

3:16 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemeia mab Asbuc, tywysog hanner rhan Bethsur, hyd ar gyfer beddrod Dafydd, a hyd y pysgodlyn a wnaethid, a hyd dŷ cedyrn.

3:17 Ar ei ôl ef y cyweiriodd y Lefiaid, a’r marchnadyddion ar gyfer Rehum mab Bani. Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Hasabeia, tywysog hanner rhan Ceila, yn ei fro ei hun.

3:18 Ar ei ôl ef eu brodyr hwynt a gyweiriasant, Bafai mab Henadad, tywysog hanner rhan Ceila.

3:19 A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Eser mab Jesua, tywysog Mispa, ran arall ar gyfer y ddringfa i dŷ yr arfau, wrth y drofa.

3:20 Ar ei ôl ef Baruc mab Sabbai yn awyddus a gyweiriodd y mesur arall, o’r drofa hyd ddrws ty Eliasib yr archoffeiriad.

3:21 Ar ei ôl ef Meremoth mab Ureia, fab Cos, a gyweiriodd y mesur arall, o ddrws tŷ Eliasib hyd dalcen ty Eliasib.

3:22 Ac ar ei ôl ef yr offeiriaid, gwŷr y gwastadedd, a gyweiriasant.

3:23 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Benjamin, a Hasub, gyferbyn a’u tŷ. Wedi yntau Asareia mab Maaseia, mab Ananeia, a gyweiriodd wrth ei dŷ.

3:24 Ar ei ôl yntau Binnui mab Henadad a gyweiriodd fesur arall, o dy Asareia hyd y drofa, sef hyd y gongl.

3:25 Palal mab Usai, ar gyfer y drofa, a’r tŵr sydd yn myned allan o ucheldy y brenin, yr hwn sydd wrth gyntedd y carchar. Ar ei ôl ef, Pedaia mab Paros.

3:26 A’r Nethiniaid, y rhai oedd yn trigo yn Offel, hyd ar gyfer porth y dwfr, tua’r dwyrain, a’r tŵr oedd yn myned allan.

3:27 Ar ei ôl yntau y Tecoiaid a gyweiriasant fesur arall, ar gyfer y tŵr mawr sydd yn myned allan, hyd fur Offel.

3:28 Oddi ar borth y meirch, yr offeiriaid a gyweiriasant bob un gyferbyn â’i dŷ.

3:29 Ar eu hôl hwynt Sadoc mab Immer a gyweiriodd ar gyfer ei dŷ. Ac ar ei ôl yntau y cyweiriodd Semaia mab Sechaneia, ceidwad porth y dwyrain.

3:30 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Hananeia mab Selemeia, a Hanun chweched mab Salaff, y mesur arall. Ar ei ôl yntau Mesulam mab Berecheia a gyweiriodd ar gyfer ei ystafell.

3:31 Ar ei ôl yntau Malcheia, mab y gof aur, a gyweiriodd hyd dŷ y Nethiniaid, a’r marchnadyddion ar gyfer porth Miffcad, hyd ystafell y gongl.

3:32 A rhwng ystafell y gongl a phorth y defaid, yr eurychod a’r marchnadyddion a gyweiriasant.


PENNOD 4

4:1 Pan glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu y mur, efe a gynddeiriogodd ynddo, ac a lidiodd yn ddirfawr, ac a watwarodd yr Iddewon.

4:2 Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a llu Samaria, ac a ddywedodd, Beth y mae yr Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur? a adewir iddynt hwy? a aberthant? a orffennant mewn diwrnod? a godant hwy y cerrig o’r tyrrau llwch, wedi eu llosgi?

4:3 A Thobeia yr Ammoniad oedd yn ei ymyl, ac efe a ddywedodd, Er eu bod hwy yn adeiladu, eto ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerrig hwynt.

4:4 Gwrando, O ein Duw; canys yr ydym yn ddirmygus: dychwel hefyd eu gwaradwydd ar eu pennau hwynt, a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed:

4:5 Ac na orchuddia eu hanwiredd hwynt, ac na ddileer eu pechod hwynt o’th ŵydd di: canys digiasant dydi gerbron yr adeiladwyr.

4:6 Felly nyni a adeiladasom y mur: a chyfannwyd yr holl fur hyd ei hanner: canys yr oedd gan y bobl galon i weithio.

4:7 Ond pan glybu Sanbalat, a Thobeia, a’r Arabiaid, a’r Ammoniaid, a’r Asdodiaid, gwbl gyweirio muriau Jerwsalem, a dechrau cau yr adwyau; yna y llidiasant yn ddirfawr:

4:8 A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem, ac i’w rhwystro.

4:9 Yna y gweddiasom ar ein DUW, ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nos, o’u plegid hwynt.

4:10 A Jwda a ddywedodd, Nerth y cludwyr a wanhaodd, a phridd lawer sydd, fel na allwn ni adeiladu y mur.

4:11 A’n gwrthwynebwyr a ddywedasant, Ni chânt wybod, na gweled, nes i ni ddyfod i’w mysg hwynt, a’u lladd, a rhwystro eu gwaith hwynt.

4:12 A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt, dywedasant wrthym ddengwaith, O’r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni, y byddant arnoch chwi.

4:13 Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf, o’r tu ôl i’r mur, ac yn y lleoedd uchaf; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â’u cleddyfau, â’u gwaywffyn, ac a’u bwâu.

4:14 A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr ARGLWYDD mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai.

4:15 A phan glybu ein gelynion fod peth yn hysbys i ni, DUW a ddiddymodd eu cyngor hwynt, a ninnau oll a ddychwelasom at y mur, bawb i’w waith.

4:16 Ac o’r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a’u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a’r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda.

4:17 Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a’r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac a’r llaw arall yn dal arf.

4:18 Canys pob un o’r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun, ac yn adeiladu: a’r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i.

4:19 A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd.

4:20 Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn, yno ymgesglwch atom. Ein DUW ni a ymladd drosom.

4:21 Felly yr oeddem ni yn gweithio yn y gwaith: a’u hanner hwynt yn dal gwaywffyn, o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y sêr.

4:22 Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl, Lletyed pob un â’i was yn Jerwsalem, fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos, a’r dydd mewn gwaith.

4:23 Felly myfi, a’m brodyr, a’m gweision, a’r gwylwyr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad, ond a ddiosgai pob un i’w golchi.


PENNOD 5

5:1 Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a’u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr.

5:2 Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a’n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.

5:3 Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a’n gwinllannoedd, a’n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn.

5:4 Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a’n gwinllannoedd.

5:5 Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a’n merched yn weision, ac y mae rhai o’n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i’w rhyddhau; canys gan eraill y mae ein meysydd a’n gwinllannoedd hyn.

5:6 Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a’r geiriau hyn.

5:7 Fy nghalon hefyd a feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a’r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd. A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr.

5:8 Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i’r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb.

5:9 A mi a ddywedais, Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein DUW ni, o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion?

5:10 Myfi hefyd, a’m brodyr, a’m llanciau, ydym yn echwynno iddynt arian ac ŷd: peidiwn, atolwg, â’r ocraeth yma.

5:11 Rhoddwch atolwg, iddynt heddiw eu meysydd, eu gwinllannoedd, a’u holewyddlannoedd, a’u tai drachefn; a chanfed ran yr arian, a’r ŷd, y gwin, a’r olew, yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt.

5:12 Hwythau a ddywedasant, Nyni a’u rhoddwn drachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru. Yna y gelwais yr offeiriaid, ac a’u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn.

5:13 A mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr ysgydwo DUW bob gŵr o’i dŷ, ac o’i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A’r holl gynull¬eidfa a ddywedasant. Amen: ac a folianasant yr ARGLWYDD. A’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.

5:14 Ac o’r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda, o’r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin, sef deuddeng mlynedd, ni fwyteais i na’m brodyr fara y tywysog.

5:15 Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasai o’m blaen i, fuasent drymion ar y bobli, ac a gymerasent ganddynt fara a gwin, heblaw deugain sici o arian, eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly, rhag ofn DUW.

5:16 Eithr myfi a gyweiriais ran yng ngwaith y mur hwn, ac ni phrynasom un maes: a’m holl weision i a ymgynullasant yno at y gwaith.

5:17 Ac yr oedd ar fy mwrdd i, o Iddewon ac o swyddogion, ddengwr a saith a ugain, heblaw y rhai oedd yn dyfod atom ni o’r cenhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch.

5:18 A’r hyn a arlwyid beunydd oedd un ych, chwech o ddefaid dewisol, ac adar wedi eu paratoi i mi; a phob deng niwrnod y rhoddid gwin o bob math, yn ddiamdlawd: ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog, canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl yma.

5:19 Cofia fi, O fy NUW, er lles i mi, yn ôl yr hyn oll a wneuthum i’r bobl hyn.


PENNOD 6

6:1 A phan glybu Sanbalat, a Thobeia, a Gesem yr Arabiad, a’r rhan arall o’n gelynion, adeiladu ohonof fi y mur, ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo; (er na osodaswn i y pryd hwnnw y dorau ar y pyrth;)

6:2 Yna yr anfonodd Sanbalat a Gesem ataf, gan ddywedyd, Tyred, ac ymgyfarfyddwn ynghyd yn un o’r pentrefi yng ngwastadedd Ono. Ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur niwed i mi.

6:3 Minnau a anfonais genhadau atynt hwy, gan ddywedyd, Gwaith mawr yr ydwyf fi yn ei wneuthur; oherwydd hynny ni allaf ddyfod i waered: paham y safai y gwaith, pan ymadawn ag ef, a dyfod i waered atoch chwi?

6:4 Eto hwy a anfonasant ataf fi yn y wedd hon bedair gwaith, ac yn y modd hwnnw yr atebais hwynt.

6:5 Yna Sanbalat a anfonodd ei was ataf fi y bumed waith yr un ffunud, â llythyr agored yn ei law:

6:6 Ynddo yr oedd yn ysgrifenedig, Ymysg y cenhedloedd y mae y gair, a Gasmu sydd yn dywedyd, dy fod di a’r Iddewon yn amcanu gwrthryfela: oherwydd hynny dy fod di yn adeiladu y mur, fel y byddit frenin arnynt, yn ôl y geiriau hyn;

6:7 A’th fod dithau hefyd wedi gosod proffwydi i bregethu amdanat yn Jerwsalem, gan ddywedyd, Y mae brenin yn Jwda. Ac yn awr y fath ymadroddion â hyn a glyw y brenin: gan hynny tyred yn awr, ac ymgynghorwn ynghyd.

6:8 Yna yr anfonais ato, gan ddywedyd, Ni ddarfu yn ôl yr ymadroddion hyn yr ydwyt ti yn eu dywedyd: ond o’th galon dy hun yr ydwyt yn eu dychmygu hwynt.

6:9 Oblegid hwynt-hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni, gan ddywedyd, Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith, fel nas gwneir ef. Gan hynny cryfha yn awr, O DDUW, fy nwylo i.

6:10 A mi a ddeuthum i dŷ Semaia: mab Delaia, mab Mehetabeel, yr hwn oedd wedi cau arno; ac efe a ddywedodd, Cyfarfyddwn yn nhŷ DDUW, a chaewn ddrysau y deml: canys y maent yn dyfod i’th ladd di; a lliw nos y deuant i’th ladd di.

6:11 Yna y dywedais, a ffy gŵr o’m bath i? neu pwy sydd fel myfi yr hwn a elai i’r deml, fel y byddai byw? Nid af i mewn.

6:12 Ac wele, gwybûm nad DUW a’i hanfonasai ef; ond llefaru ohono ef y broffwydoliaeth hon yn fy erbyn i: canys Tobeia a Sanbalat a’i cyflogasent ef.

6:13 Oherwydd hyn y cyflogasid ef, fel y’m hofnid i, ac y gwnawn felly, ac y pechwn; ac y byddai hynny ganddynt yn enllib i’m herbyn, fel y’m gwaradwyddent.

6:14 O fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat, yn ôl eu gweithredoedd hynny, a Noadeia y broffwydes hefyd, a’r rhan arall o’r proffwydi y rhai oedd yn fy nychrynu i.

6:15 A’r mur a orffennwyd ar y pumed dydd ar hugain o Elul, mewn deuddeng niwrnod a deugain.

6:16 A phan glybu ein holl elynion ni hynny, a gweled o’r holl genhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch, hwy a ofnasant, ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun: canys gwybuant mai trwy ein DUW ni y gwnaethid y gwaith hwn.

6:17 Ac yn y dyddiau hyn pendefigion Jwda oedd yn mynych ddanfon eu llythyrau at Tobeia; a’r eiddo Tobeia oedd yn dyfod atynt hwythau.

6:18 Canys yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef, oherwydd daw oedd efe i Sechaneia mab Ara; a Johanan ei fab ef a gymerasai ferch Mesulam mab Berecheia yn wraig iddo.

6:19 A’i gymwynasau ef y byddent hwy yn eu mynegi ger fy mron i; fy ngeiriau innau hefyd y byddent yn eu hadrodd iddo yntau. A Thobeia a anfonodd lythyrau i’m dychrynu i.


PENNOD 7

7:1 Ac wedi adeiladu y mur, a chyfodi ohonof y dorau, a gosod y porthorion, a’r cantorion, a’r Lefiaid;

7:2 Yna mi a orchmynnais i Hanani fy mrawd, ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem, canys efe oedd ŵr ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer:

7:3 A mi a ddywedais wrthynt, Nac agorer pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul, a thra fyddont hwy yn sefyll yno, caeant y drysau, a phreniant: a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem, pob un yn ei wyliadwriaeth, a phob un ar gyfer ei dŷ.

7:4 A’r ddinas oedd eang a mawr; ac ychydig bobl ynddi: a’r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu.

7:5 A’m Duw a roddodd yn fy nghalon gynnull y pendefigion, y tywysogion hefyd, a’r bobl, i’w cyfrif wrth eu hachau. A mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethai i fyny yn gyntaf, a chefais yn ysgrifenedig ynddo,

7:6 Dyma feibion y dalaith, y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i Jwda, pob un i’w ddinas ei hun,

7:7 Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Asareia, Raamia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum, Baana. Dyma rifedi dynion pobl Israel;

7:8 Meibion Paros, dwy fil cant a deuddeg a thrigain.

7:9 Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.

7:10 Meibion Ara, chwe chant a deuddc^ a deugain.

7:11 Meibion Pahath-Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg.

7:12 Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.

7:13 Meibion Sattu, wyth gant a phump a deugain.

7:14 Meibion Saccai, saith gant a thrigain.

7:15 Meibion Binnui, chwe chant ac wyth a deugain.

7:16 Meibion Bebai, chwe chant ac wyth ar hugain.

7:17 Meibion Asgad, dwy fil tri chant a dau ar hugain.

7:18 Meibion Adonicam, chwe chant a saith a thrigain. (

7:19 Meibion Bigfai, dwy fil a saith a thrigain.

7:20 Meibion Adin, chwe chant a phymtheg a deugain.

7:21 Meibion Ater o Heseceia, tri ar bymtheg a phedwar ugain.

7:22 Meibion Hasum, tri chant ac wyth ar hugain.

7:23 Meibion Besai, tri chant a phedwar ar hugain.

7:24 Meibion Hariff, cant a deuddeg.

7:25 Meibion Gibeon, pymtheg a phedwar ugain.

7:26 Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant ac wyth a phedwar ugain.

7:27 Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain.

7:28 Gwŷr Beth-asmafeth, dau a deugain.

7:29 Gwŷr Ciriath-jearim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain.

7:30 Gwŷr Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain.

7:31 Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain.

7:32 Gwŷr Bethel ac Ai, cant a thri ar hugain.

7:33 Gwŷr Nebo arall, deuddeg a deugain.

7:34 Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.

7:35 Meibion Harim, tri chant ac ugain,

7:36 Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain.

7:37 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant ac un ar hugain.

7:38 Meibion Senaa, tair mil naw cant a deg ar hugain.

7:19 Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant a thri ar ddeg a thrigain.

7:40 Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain.

7:41 Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain.

7:42 Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.

7:43 Y Lefiaid: meibion Jesua, o Cadmiel, ac o feibion Hodefa, pedwar ar ddeg a thrigain.

7:44 Y cantorion: meibion Asaff, cant ac wyth a deugain.

7:45 Y porthorion: meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, cant a thri ar bymtheg ar hugain.

7:46 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth,

7:47 Meibion Ceros, meibion Sia, meibion Padon,

7:48 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Salmai,

7:49 Meibion Hanan, meibion Gidel, meibion Gahar,

7:50 Meibion Reaia, meibion Resin, meibion Necoda,

7:51 Meibion Gassam, meibion Ussa, meibion Phasea,

7:52 Meibion Besai, meibion Meunim, meibion Neffisesim,

7:53 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur,

7:54 Meibion Baslith, meibion Mehida, meibion Harsa,

7:55 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama,

7:56 Meibion Neseia, meibion Hatiffa.

7:57 Meibion gweision Solomon: meibion Sotai, meibion Soffereth, meibion Perida,

7:58 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel,

7:59 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Amon.

7:60 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain.

7:61 A’r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel-mela, Tel-haresa, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eU tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt.

7:62 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.

7:63 Ac o’r offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt.

7:64 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth.

7:65 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim.

7:66 Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain.

7:67 Heblaw eu gweision hwynt a’u morynion, y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau.

7:68 Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain; a’u mulod yn ddau cant a phump a deugain;

7:69 Y camelod oedd bedwar cant a phymtheg ar hugain, yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain.

7:70 A rhai o’r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i’r trysor fil o ddracmonau aur, deg a deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid.

7:71 A rhai o’r tadau pennaf a roddasant i drysor y gwaith ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil a deucant o bunnau o arian.

7:72 A’r hyn a roddodd y rhan arall o’r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o bunnau yn arian, a saith a thrigain o wisgoedd offeiriaid.

7:73 A’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r porthorion, a’r cantorion, a rhai o’r bobl, a’r Nethiniaid, a holl Israel, a drigasant yn eu dinasoedd. A phan ddaeth y seithfed mis, yr oedd meibion Israel yn eu dinasoedd.


PENNOD 8

8:1 A’r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i’r heol oedd o flaen porth y dwfr, ac a ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd, am ddwyn llyfr cyfraith Moses, yr hon a orchmynasai yr ARGLWYDD i Israel.

8:2 Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr, a gwragedd, a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o’r seithfed mis.

8:3 Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr, o’r bore hyd banner dydd, gerbron y gwŷr, a’r gwragedd, a’r rhai oedd yn medru deall: a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith.

8:4 Ac Esra yr ysgrifennydd a safodd ar bulpud o goed, yr hwn a wnaethid i’r peth hyn; a chydag ef y safodd Matitheia, a Sema, ac Anaia, ac Ureia, a Hilceia, a Maaseia, ar ei law ddeau ef; a Phedaia, a Misael, a Malcheia, a Hasum, a Hasbadana, Sechareia, a Mesulam, ar ei law aswy ef.

8:5 Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl; (canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl;) a phan agorodd, yr holl bobl a safasant.

8:6 Ac Esra a fendithiodd yr ARGLWYDD, y DUW mawr. A’r holl bobl a atebasant, Amen, Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr ARGLWYDD a’u hwynebau tua’r ddaear.

8:7 Jesua hefyd, a Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia,, a’r Lefiaid, oedd yn dysgu y gyfraith i’r bobl, a’r bobl yn sefyll yn eu lle.

8:8 A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yng nghyfraith DDUW; gan osod allan y synnwyr, fel y deallent wnli ddarllen.

8:9 A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae heddiw yn sanctaidd i’r ARGLWYDD eich DUW; na alerwch, ac nac wylwch: canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith.

8:10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr ARGLWYDD yw eich nerth chwi.

8:11 A’r Lefiaid a ostegasant yr holl bobl, gan ddywedyd, Tewch: canys y dydd heddiw sydd sanctaidd, ac na thristewch.

8:12 A’r holl bobl a aethant i fwyta ac i yfed, ac i anfon ymaith rannau, ac i wneuthur llawenydd mawr; oherwydd iddynt ddeall y geiriau a ddysgasent hwy iddynt.

8:13 A’r ail ddydd, tadau pennaf yr holl bobl, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a ymgynullasant at Esra yr ysgrifennydd, i’w dysgu yng ngeiriau y gyfraith.

8:14 A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y gyfraith, yr hyn a orchmynasai yr ARGLWYDD trwy law Moses, y dylai meibion Israel drigo mewn bythod ar ŵyl y seithfed mis;

8:15 Ac y dylent gyhoeddi, a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd, a thrwy Jerwsalem, gan ddywedyd, Ewch i’r mynydd, a dygwch ganghennau olewydd, a changau pinwydd, a changau y myrtwydd, a changau y palmwydd, a changhennau o’r prennau caeadfrig, i wneuthur bythod, fel y mae yn ysgrifenedig.

8:16 Felly y bobl a aethant allan, ac a’u dygasant, ac a wnaethant iddynt fythod, bob un ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd, ac yng nghynteddoedd tŷ DDUW, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Effraim.

8:17 A holl gynulleidfa y rhai a ddychwelasent o’r caethiwed, a wnaethant fythod, ac a eisteddasant yn y bythod: canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel felly. Ac yr oedd llawenydd mawr iawn.

8:18 Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith DDUW beunydd, o’r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf. A hwy a gynallasant yr ŵyl saith niwrnod; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa, yn ôl y ddefod.


PENNOD 9

9:1 Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis hwn, meibion Israel a ymgynullasant mewn ympryd, ac mewn sachlliain, a phridd arnaddynt.

9:2 A had Israel a ymneilltuasant oddi wrth bob dieithriaid, ac a safasant, ac a gyffesasant eu pechodau, ac anwireddau eu tadau.

9:3 A chodasant i fyny yn eu lle, ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i’r ARGLWYDD eu DUW.

9:4 Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid, Jesua, a Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani, a Chenani; a gwaeddasant â llef uchel ar yr ARGLWYDD eu DUW:

9:5 A’r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich DUW o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant.

9:6 Ti yn unig wyt ARGLWYDD: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y neffoedd, a’u holl luoedd hwynt, y ddaear a’r hyn oll sydd arni, y moroedd a’r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti.

9:7 Ti yw yr ARGLWYDD DDUW, yr hwn a ddetholaist Abram, ac a’i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid, ac a roddaist iddo enw Abraham:

9:8 A chefaist ei galon ef yn ffyddlon ger dy fron di, ac a wnaethost gyfamod ag ef, ar roddi yn ddiau i’w had ef wlad y Canaaneaid, yr Hefiaid, yr Anioriaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, a’r Girgasiaid; ac a gwblheaist dy eiriau: oherwydd cyfiawn wyt.

9:9 Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch:

9:10 A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlad ef: canys gwybuost i’r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt. A gwnaethost i ti enw, fel y gwelir y dydd hwn.

9:11 Y môr hefyd a holltaist o’u blaen hwynt, fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir; a’u herlidwyr a fwriaist i’r gwaelod, fel maen i ddyfroedd cryfion:

9:12 Ac a’u harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn gwmwl, a lliw nos mewn colofn dân, i oleuo iddynt hwy y ffordd yr oeddynt yn myned ar hyd-ddi.

9:13 Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o’r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn, a chyfreithiau gwir, deddfau a gorchmynion daionus:

9:14 A’th Saboth sanctaidd a hysbysaist iddynt; gorchmynion hefyd, a deddfau, a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt, trwy law Moses dy was:

9:15 Bara hefyd o’r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o’r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt.

9:16 Ond hwynt-hwy a’n tadau ni a falchiasant, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion di;

9:17 Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i’w caethiwed yn eu cyndynrwydd: eto ti ydwyt DDUW parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt.

9:18 Hefyd, pan wnaethent iddynt lo toddedig, a dywedyd, Dyma dy dduw di yr hwn a’th ddug di i fyny o’r Aifft, a chablasent yn ddirfawr;

9:19 Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na’r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi.

9:20 Dy ysbryd daionus hefyd a roddaist i’w dysgu hwynt, ac nid ateliaist dy fanna rhag eu genau, dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched.

9:21 Felly deugain mlynedd y porthaist hwynt yn yr anialwch, heb fod arnynt eisiau dim: eu gwisgoedd ni heneiddiasant, a’u traed ni chwyddasant.

9:22 A thi a roddaist iddynt freniniaethau a phobloedd, a rhennaist hwynt i gonglau. Felly hwy a feddianasant wlad Sihon, a gwlad brenin Hesbon, a gwlad Og brenin Basan.

9:23 Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt fel sêr y nefoedd, ac a’u dygaist hwynt i’r wlad a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iddi i’w meddiannu.

9:24 Felly y meibion a aethant i mewn, ac a feddianasant y wlad, a thi a ddarostyngaist drigolion y wlad, y Canaaneaid, o’u blaen hwynt, ac a’u rhoddaist yn eu llaw hwynt, eu brenhinoedd hefyd, a phobloedd y wlad, fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys.

9:25 A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di.

9:26 Eto hwy a anufuddhasant, ac a wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o’r tu ôl i’w cefn, a’th broffwydi a laddasant, y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd am ac a gablasant yn ddirfawr.

9:27 Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a’u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr.

9:28 Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynny yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o’r nefoedd a wrandewaist, ac a’u gwaredaist hwynt yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd.

9:29 A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i’w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant.

9:30 Er hynny ti a’u hoedaist hwynt lynyddoedd lawer, ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi; ond ni wrandawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd.

9:31 Eto, er mwyn dy fawr drugareddau, ni lwyr ddifethaist hwynt, ac ni wrthodaist hwynt; canys Duw graslon a thrugarog ydwyt.

9:32 Ac yn awr, O ein DUW ni, y DUW mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn wyt yn cadw cyfamod a thrugaredd; na fydded bychan o’th flaen di yr holl flinder a ddigwyddodd i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n hoffeiriaid, ac i’n proffwydi, ac i’n tadau, ac i’th holl bobi, er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.

9:33 Tithau ydwyt gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni: canys gwirionedd a wnaethost ti, a ninnau a wnaethom yn annuwiol.

9:34 Ein brenhinoedd hefyd, ein tywysogion, ein hoffeiriaid, a’n tadau, ni chadwasant dy gyfraith, ac ni wrandawasant ar dy orchmynion, na’th dystiolaethau, y rhai a dystiolaethaist wrthynt.

9:35 A hwy ni’th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt, nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o’u blaen hwynt; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.

9:36 Wele ni heddiw yn weision; ac am am y wlad a roddaist i’n tadau ni, i fwyta ei ffrwyth a’i daioni, wele ni yn weision ynddi.

9:37 A mawr yw ei thoreth hi i’r brenhinoedd a osodaist arnom ni am ein pechodau: ac arglwyddiaethu y maent ar ein cyrff, ac ar ein hanifeiliaid, yn ôl eu hewyllys; ac yr ydym mewn cyfyngder mawr.

9:38 Ac oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfamod sicr, ac yn ei ysgrifennu; ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid, a’n hoffeiriaid, yn ei selio.


PENNOD 10

10:1 A’r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia,

10:2 Seraia, Asareia, Jeremeia,

10:3 Pasur, Amareia, Malcheia,

10:4 Hattus, Sebaneia, Maluch,

10:5 Harim, Meremoth, Obadeia,

10:6 Daniel, Ginnethon, Baruch,

10:7 Mesulam, Abeia, Miamin,

10:8 Maaseia, Bilgai, Semaia: dyma yr offeiriaid,

10:9 A’r Lefiaid: Jesua mab Asaneia, Binnui o feibion Henadad, Cadmiel,

10:10 A’u brodyr hwynt, Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan,

10:11 Micha, Rehob, Hasabeia,

10:12 Saccur, Serebeia, Sebaneia,

10:13 Hodeia, Bani, Beninu.

10:14 Penaethiaid y bobl; Paros, Pahath-Moab, Elam, Sattu, Bani,

10:15 Bunni, Asgad, Bebai,

10:16 Adoneia, Bigfai, Adin,

10:17 Ater, Hisceia, Assur,

10:18 Hodeia, Hasum, Besai,

10:19 Hariff, Anathoth, Nebai,

10:20 Magpias, Mesulam, Hesir,

10:21 Mesesabeel, Sadoc, Jadua,

10:22 Pelatia, Hanan, Anaia,

10:23 Hosea, Hananeia, Hasub,

10:24 Halohes, Pileha, Sobec,

10:25 Rehum, Hasabna, Maaseia,

10:26 Ac Ahïa, Hanan, Anan,

10:27 Maluch, Harim, Baana.

10:28 A’r rhan arall o’r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethiniaid, a phawb a’r a ymneilltuasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith DDUW, eu gwragedd hwynt, eu meibion, a’u merched, pawb a’r a oedd â gwybodaeth ac â deall ganddo,

10:29 Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu penaethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llw ar rodio yng nghyfraith DDUW, yr hon a roddasid trwy law Moses gwas DUW: ac ar gadw ac ar wneuthur holl orchmynion yr ARGLWYDD ein Harglwydd ni, a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau:

10:30 Ac ar na roddem ein merched i bobl y wlad: ac na chymerem eu merched hwy i’n meibion ni:

10:31 Ac o byddai pobl y tir yn dwyn marchnadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Saboth i’w werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Saboth, neu ar y dydd sanctaidd; ac y gadawem heibio y seithfed flwyddyn, a chodi pob dyled.

10:32 A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein DUW ni,

10:33 A thuag at y bara gosod, a’r bwyd-offrwm gwastadol, a thuag at y poeth-offrwm gwastadol, y Sabothau, y newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pechebyrth, i wneuthur cymod dros Israel, a thuag at holl waith tŷ ein DUW.

10:34 A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein DUW ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i’w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein DUW, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith:

10:35 Ac i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr ARGLWYDD :

10:36 A’r rhai cyntaf-anedig o’n meibion, ac o’n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith, a chyntaf-anedigion ein gwartheg a’n defaid, i’w dwyn i dŷ ein DUW, at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein DUW ni.

10:37 A blaenion ein toes, a’n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein DUW, a degwm ein tir i’r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni.

10:38 A bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda’r Lefiaid, pan fyddo’r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein DUW ni, i’r celloedd yn y trysordy.

10:39 Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwrn yr ŷd, y gwin, a’r olew, i’r ystafelloedd, lle y mae llestri’r cysegr, a’r offeiriaid sydd yn gweini, a’r porthorion, a’r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein DUW.


PENNOD 11

11:1 A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem: a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill.

11:2 A’r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem.

11:3 A dyma benaethiaid y dalaith, y rhai a drigasant yn Jerwsalem: ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r Nethiniaid, a meibion gweision Solomon.

11:4 A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem. O feibion Jwda; Athaia mab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel, o feibion Peres;

11:5 Maaseia hefyd mab Baruch, fab Colhose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Seehareia, fab Siloni.

11:6 Holl feibion Peres y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, oedd bedwar cant ac wyth, a thrigain o wŷr grymus.

11:7 A dyma feibion Benjamin; Salu mab, Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia.

11:8 Ac ar ei ôl ef Gabai, Salai; naw cant ac wyth ar hugain.

11:9 A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt hwy: a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas.

11:10 O’r offeiriaid: Jedaia mab Joiarib, Jachin.

11:11 Seraia mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, blaenor tŷ DDUW.

11:12 A’u brodyr y rhai oedd yn gweithio gwaith y tŷ, oedd wyth cant a dau ar hugain: ac Adaia mab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia,

11:13 A’i frodyr, pennau-cenedl, dau cant a dau a deugain: ac Amasai mab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer,

11:14 A’u brodyr hwynt, yn gedyrn o nerth, oedd gant ac wyth ar hugain: a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt.

11:15 Ac o’r Lefiaid: Semaia mab Hasub fab Asricam, fab Hasabeia fab Bunni.

11:16 Sabbethai hefyd, a Josabad, o benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o’r tu allan i dŷ DDUW.

11:17 Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o’i frodyr, ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn.

11:18 Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd, oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain.

11:19 A’r porthorion, Accub, Talmon, a’u brodyr yn cadw y pyrth, oedd gant a deuddeg a thrigain.

11:20 A’r rhan arall o Israel, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth.

11:21 Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid.

11:22 A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem, oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y cantorion oedd ar waith tŷ DDUW.

11:23 Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd, fod ordinhad safadwy i’r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd.

11:24 A Phethaheia mab Mesesabeel, o feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i’r bobl.

11:25 Ac am y trefydd a’u meysydd, rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer-Arba a’i phentrefi, ac yn Dibon a’i phentrefi, ac yn Jecabseel a’i phentrefi,

11:26 Ac yn Jesua, ac ym Molada, ac yn Beth-phelet,

11:27 Ac yn Hasar-sual, ac yn Beerseba a’i phentrefi,

11:28 Ac yn Siclag, ac ym Mechona, ac yn ei phentrefi,

11:29 Ac yn En-rimmon, ac yn Sarea, ac yn Jarmuth,

11:30 Sanoa, Adulam, a’u trefydd, Lachis a’i meysydd, yn Aseca a’i phentrefi. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom.

11:31 A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas, ac Aia, a Bethel, a’u pentrefi,

11:32 Yn Anathoth, Nob, Ananeia,

11:33 Hasor, Rama, Gittaim,

11:34 Hadid, Seboim, Nebalat,

11:35 Lod, ac Ono, glyn y crefftwyr.

11:36 Ac o’r Lefiaid yr oedd rhannau yn Jwda, ac yn Benjamin.


PENNOD 12

12:1 Dyma hefyd yr offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai a ddaethant i fyny gyda Sorobabel mab Salathiel, a Jesua: sef Seraia, Jeremeia, Esra,

12:2 Amareia, Maluch, Hattus,

12:3 Sechaneia, Rehum, Meremoth,

12:4 Ido, Ginnetho, Abeia,

12:5 Miamin, Maadia, Bilga,

12:6 Semaia, a Joiarib, Jedaia,

12:7 Salu, Amoc, Hilceia, Jedaia: dyma benaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua.

12:8 A’r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia oedd ar y gerdd, efe a’i frodyr.

12:9 Bacbuceia hefyd ac Unni, eu brodyy hwynt, oedd ar eu cyfer yn y gwyliadwriaethau.

12:10 A Jesua a genhedlodd Joiacim, a Joiacim a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhedlodd Joiada,

12:11 A Joiada a genhedlodd Jonathan, a Jonathan a genhedlodd Jadua.

12:12 Ac yn nyddiau Joiacim, yr offeiriaid hyn oedd bennau-cenedl: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;

12:13 O Esra, Mesulam; o Amareia Jehohanan;

12:14 O Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff;

12:15 O Harim, Adna; o Meraioth, Helcai;

12:16 O Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam;

12:17 O Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai;

12:18 O Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan;

12:19 Ac o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi;

12:20 O Salai, Calai; o Amoc, Eber;

12:21 O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia, Nethaneel.

12:22 Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Joiada, a Johanan, a Jadua, oedd wedi eu hysgrifennu yn bennau-cenedl: a’r offeiriaid, hyd deyrnasiad Dareius y Persiad.

12:23 Meibion Lefi, y pennau-cenedl, wedi eu hysgrifennu yn llyfr y croniclau, hyd ddyddiau Johanan mab Eliasib.

12:24 A phenaethiaid y Lefiaid, oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua mab Cadmiel, a’u brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr DUW, gwyliadwriaeth ar gyfer gwyliadwriaeth.

12:25 Mataneia, a Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, Accub, oedd borthorion, yn cadw gwyliadwriaeth wrth drothwyau y pyrth.

12:26 Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd.

12:27 Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o’u holl leoedd, i’w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.

12:28 A meibion y cantorion a ymgynullasant o’r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi,

12:29 Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem.

12:30 Yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a’r pyrth, a’r mur.

12:31 A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom:

12:32 Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda,

12:33 Asareia hefyd, Esra, a Mesulam,

12:34 Jwda, a Benjamin, a Semaia, a Jeremeia,

12:35 Ac o feibion yr offeiriaid ag utgyrn, Sechareia mab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michaia, fab Saccur, fab Asaff;

12:36 A’i frodyr ef, Semaia, ac Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Jwda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr DUW, ac Esra yr ysgrifennydd o’u blaen hwynt.

12:37 Ac wrth borth y ffynnon, yr hoa oedd ar eu cyfer hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mur, oddi ar dŷ Dafydd, hyd borth y dwfr tua’r dwyrain.

12:38 A’r ail fintai o’r rhai oedd yn moliannu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt; a minnau ar eu hôl; a hanner y bobl oedd ar y mur, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mur llydan;

12:39 Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid, a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth.

12:40 Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ DDUW, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi:

12:41 Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn:

12:42 Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A’r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor.

12:43 A’r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys DUW a’u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a’r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.

12:44 A’r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i’r offeiriaid a’r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno.

12:45 Y cantorion hefyd a’r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu DUW, a gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab.

12:46 Canys gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd y pen-cantorion, a chaniadau canmoliaeth a moliant i DDUW.

12:47 Ac yn nyddiau Sorobabel, ac yn nyddiau Nehemeia, holl Israel oedd yn rhoddi rhannau i’r cantorion, a’r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd: a hwy a gysegrasant bethau sanctaidd i’r Lefiaid; a’r Lefiaid a’u cysegrasant i feibion Aaron.


PENNOD 13

13:1 Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i gynulleidfa DUW yn dragywydd;

13:2 Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt: eto ein DUW ni a drodd y felltith yn fendith.

13:3 A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.

13:4 Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein DUW ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia:

13:5 Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd-offrymau, y thus, a’r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, a orchmynasid eu rhoddi i’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid.

13:6 Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin;

13:7 Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ DDUW.

13:8 A bu ddrwg iawn gennyf, am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o’r ystafell.

13:9 Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ DDUW, yr offrwm a’r thus.

13:10 Gwybum hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a’r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bob un i’w faes.

13:11 Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ DDUW? A mi a’u cesglais hwynt ynghyd, ac a’u gosodais yn eu lle.

13:12 Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a’r gwin, a’r olew, i’r trysordai.

13:13 A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o’r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i’w brodyr.

13:14 Cofia fi, fy Nuw oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw, ac i’w wyliadwriaethau ef.

13:15 Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.

13:16 Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem.

13:17 Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi’r dydd Saboth?

13:18 Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein DUW ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi’r Saboth.

13:19 A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau’r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth: a mi a osodais rai o’m gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth.

13:20 Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o’r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy.

13:21 A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn. O’r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach.

13:22 A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio’r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.

13:23 Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau, Ammonesau, a Moabesau, yn wragedd iddynt:

13:24 A'u plant hwy oedd yn llefaru y naill banner o'r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl.

13:25 Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt; a mi a’u tyngais hwynt trwy DDUW, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na chymerwch o’u merched hwynt i’ch meibion, nac i chwi eich hunain.

13:26 Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei DDUW, a DUW a’i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel, eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.

13:27 Ai arnoch chwi y gwrandawn, i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan droseddu yn erbyn ein DUW, trwy briodi gwragedd dieithr?

13:28 Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf.

13:29 O fy NUW, cofia hwynt, am iddynt halogi’r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a’r Lefiaid.

13:30 Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron; gosodais hefyd oruchwyliaethau i’r offeiriaid ac i’r Lefiaid, pob un yn ei waith;

13:31 Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig, ac at y blaenffrwythau. Cofia fi, O fy NUW, er daioni.