Beibl (1620)/Esther
← Nehemeia | Beibl (1620) Esther Esther wedi'i gyfieithu gan William Morgan |
Job → |
LLYFR ESTHER.
PENNOD 1
1:1 Yn nyddiau Ahasferus, (efe yw Ahasferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia, sef ar gant a saith ar hugain o daleithiau;)
1:2 Yn y dyddiau hynny, pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth, yr hon oedd yn Susan y brenhinllys,
1:3 Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a wnaeth wledd i’w holl dywysogion a’i weision, cadernid Persia, a Media, y rhaglawiaid, a thywysogion y taleithiau, oedd ger ei fron ef:
1:4 Fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd, ddyddiau lawer, sef cant a phedwar ugain o ddyddiau.
1:5 Ac wedi gorffen y dyddiau hynny, y brenin a wnaeth i’r holl bobl a gafwyd yn Susan y brenhinllys, o’r mwyaf hyd y lleiaf, wledd dros saith niwrnod, yng nghyntedd gardd palas y brenin:
1:6 Lle yr oedd llenni gwynion, gwyrddion, a rhuddgochion, wedi eu clymu â llinynnau sidan, ac â phorffor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster, a iasinct.
1:7 Ac yfed diod yr oeddynt mewn llestri aur, a chyfnewid amryw lestri, a gwin brenhinol lawer, yn ôl gallu y brenin.
1:8 Yr yfed hefyd oedd wrth ddefod, nid oedd neb yn cymell: canys gosodasai y brenin orchymyn ar bob swyddwr o fewn ei dŷ, ar wneuthur yn ôl ewyllys pawb.
1:9 Y frenhines Fasti hefyd a wnaeth wledd i’r gwragedd yn y brenhindy oedd eiddo Ahasferus y brenin.
1:10 Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen calon y brenin gan win, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Sethar, a Charcas, y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus,
1:11 Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin, yn y frenhinol goron, i ddangos i’r bobloedd ac i’r tywysogion ei glendid hi: canys glân yr olwg ydoedd hi.
1:12 Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, a’i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo.
1:13 Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oedd yn gwybod yr amserau, (canys felly yr oedd arfer y brenin tuag at bob rhai a fyddai yn gwybod cyfraith a barn:
1:14 A nesaf ato ef oedd Carsena, Sethar, i Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memuchan, saith dywysog Persia a Media, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth;)
1:15 Beth sydd i’w wneuthur wrth y gyfraith i’r frenhines Fasti, am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion?
1:16 Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a’r tywysogion, Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai, ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd, a’r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus.
1:17 Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd, fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun, pan ddywedant, Y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasti y frenhines o’i flaen, ond ni ddaeth hi.
1:18 Arglwyddesau Persia a Media, y rhai a glywsant weithred y frenhines, a ddywedant heddiw wrth holl dywysogion y brenin. Felly y bydd mwy na digon o ddirmyg a dicter.
1:19 Os bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef, ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a’r Mediaid, fel na throsedder ef, na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i’w chyfeilles yr hon sydd well na hi.
1:20 A phan glywer gorchymyn y brenin, yr hwn a wnelo efe, trwy ei holl frenhiniaeth, (yr hon sydd fawr,) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i’w gwŷr, o’r mwyaf hyd y lleiaf.
1:21 A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a’r tywysogion; a’r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan:
1:22 Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin, ie, i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl.
PENNOD 2
2:1 Wedi y pethau hyn, pan lonyddodd dicllonedd y brenin Ahasferus, efe a gofiodd Fasti, a’r hyn a wnaethai hi, a’r hyn a farnasid arni.
2:2 Am hynny gweision y brenin, y rhai oedd yn gweini iddo, a ddywedasant, Ceisier i’r brenin lancesau teg yr olwg o wyryfon:
2:3 A gosoded y brenin swyddogion trwy holl daleithiau ei frenhiniaeth, a chasglant hwythau bob llances deg yr olwg, o wyry, i Susan y brenhinllys, i dŷ y gwragedd, dan law Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd, a rhodder iddynt bethau i’w glanhau:
2:4 A’r llances a fyddo da yng ngolwg y brenin, a deyrnasa yn lle Fasti. A da oedd y peth hyn yng ngolwg y brenin, ac felly y gwnaeth efe.
2:5 Yn Susan y brenhinllys yr oedd rhyw Iddew a’i enw Mordecai, mab Jair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Jemini:
2:6 Yr hwn a ddygasid o Jerwsalem gyda’r gaethglud a gaethgludasid gyd â Jechoneia brenin Jwda, yr hwn a ddarfuasai i Nebuchodonosor brenin Babilon ei gaethgludo.
2:7 Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad, canys nid oedd iddi dad na mam: a’r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a’i mam hi farw, Mordecai a’i cymerasai hi yn ferch iddo.
2:8 A phan gyhoeddwyd gair y brenin a’i gyfraith, pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai, cymerwyd Esther i dŷ y brenin, dan law Hegai ceidwad y gwragedd.
2:9 A’r llances oedd deg yn ei olwg ef, a hi a gafodd ffafr ganddo; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i’w glanhau, a’i rhannau, a rhoddi iddi saith o lancesau golygus, o dŷ y brenin: ac efe a’i symudodd hi a’i llancesau i’r fan orau yn nhŷ y gwragedd.
2:10 Ond ni fynegasai Esther ei phobl na’i chenedl: canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai.
2:11 A Mordecai a rodiodd beunydd flaen cyntedd tŷ y gwragedd, i wybod llwyddiant Esther, a pheth a wnelid iddi.
2:12 A phan ddigwyddai amser pob llances i fyned i mewn at y brenin Ahasferus, wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mis, (canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigaeth hwynt; chwe mis mewn olew myrr, a chwe mis mewn peraroglau, a phethau eraill i lanhau y gwragedd;)
2:13 Yna fel hyn y deuai y llances at y brenin; pa beth bynnag a ddywedai hi amdano a roddid iddi, i fyned gyda hi o dŷ y gwragedd i dŷ y brenin.
2:14 Gyda’r hwyr yr âi hi i mewn, a’r bore hi a ddychwelai i dŷ arall y gwragedd, dan law Saasgas, ystafellydd y brenin, ceidwad y gordderchadon: ni ddeuai hi i mewn at y brenin mwyach, oddieithr i’r brenin ei chwennych hi, a’i galw hi wrth ei henw.
2:15 A phan ddigwyddodd amser Esther, merch Abihail ewythr Mordecai, yr hon a gymerasai efe yn ferch iddo, i fyned i mewn at y brenin, ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedasai Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd: ac Esther oedd yn cael ffafr yng ngolwg pawb a’r oedd yn edrych arni.
2:16 Felly Esther a gymerwyd at y brenin Ahasferus, i’w frenhindy ef, yn y degfed mis, hwnnw yw mis Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef.
2:17 A’r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gafodd ffafr a charedigrwydd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl wyryfon; ac efe a osododd y deyrngoron ar ei phen hi, ac a’i gwnaeth yn frenhines yn lle Fasti.
2:18 Yna y gwnaeth y brenin wledd fawr i’w holl dywysogion a’i weision, sef gwledd Esther; ac efe a wnaeth ryddid i’r taleithiau, ac a roddodd roddion yn ôl gallu y brenin.
2:19 A phan gasglwyd y gwyryfon yr ail waith, yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin.
2:20 Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl, na’i phobl; megis y gorchmynai Mordecai iddi: canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywedasai Mordecai, fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gydag ef.
2:21 Yn y dyddiau hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin, y llidiodd Bigthan a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, sef o’r rhai oedd yn cadw y trothwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.
2:22 A’r peth a wybu Mordecai; ac efe a’i mynegodd i Esther y frenhines; ac Esther a’i dywedodd wrth y brenin, yn enw Mordecai.
2:23 A phan chwilwyd y peth, fe a gafwyd felly: am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren. Ac ysgrifennwyd hynny mewn llyfr cronicl gerbron y brenin.
PENNOD 3
3:1 Wedi y pethau hyn, y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman mab Hammedatha yr Agagiad, ac a’i dyrchafodd ef; gosododd hefyd ei orseddfainc ef goruwch yr holl dywysogion oedd gydag ef.
3:2 A holl weision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, oedd yn ymgrymu, ac yn ymostwng i Haman; canys felly y gorchmynasai y brenin amdano ef: ond nid ymgrymodd Mordecai, ac nid ymostyngodd.
3:3 Yna gweision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, a ddywedasant wrth Mordecai, Paham yr ydwyt ti yn troseddu gorchymyn y brenin?
3:4 Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn, eto ni wrandawai efe arnynt hwy; am hynny y mynegasant i Haman, i edrych a safai geiriau Mordecai: canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe.
3:5 A phan welodd Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu, nac yn ymostwng iddo, Haman a lanwyd o ddicllonedd.
3:6 Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan; canys mynegasant iddo bobl Mordecai: am hynny Haman a geisiodd ddifetha yr holl Iddewon, y rhai oedd trwy holl frenhiniaeth Ahasferus, sef pobl Mordecai.
3:7 Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i’r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.
3:8 A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd, trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a’u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin; am hynny nid buddiol i’r brenin eu dioddef hwynt.
3:9 O bydd bodlon gan y brenin, ysgrifenner am eu difetha hwynt: a deng mil o dalentau arian a dalaf ar ddwylo’r rhai a wnant y weithred hon, i’w dwyn i drysorau y brenin.
3:10 A thynnodd y brenin ei fodrwy oddi am ei law, ac a’i rhoddes i Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr Iddewon.
3:11 A’r brenin a ddywedodd wrth Haman, Rhodder yr arian i ti, a’r bobl, i wneuthur â hwynt fel y byddo da yn dy olwg.
3:12 Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn.
3:13 A’r llythyrau a anfonwyd gyda’r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha yr holl Iddewon, yn ieuainc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt.
3:14 Testun yr ysgrifen, i roi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i’r holl bobloedd, i fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw.
3:15 Y rhedegwyr a aethant, wedi eu cymell trwy air y brenin, a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys. Y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed, a dinasyddion Susan oedd yn athrist.
PENNOD 4
4:1 Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid, Mordecai a rwygodd ei ddillad, ac a wisgodd sachliain a lludw, ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd â chwerw lef uchel.
4:2 Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin: ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach.
4:3 Ac ym mhob talaith a lle a’r y daethai gair y brenin a’i orchymyn iddo, yr oedd galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylofain, ac oernad; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw.
4:4 Yna llancesau Esther a’i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi. A’r frenhines a dristaodd yn ddirfawr; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai, ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano; ond ni chymerai efe hwynt.
4:5 Am hynny Esther a alwodd ar Hathach, un o ystafellyddion y brenin, yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o’i blaen hi; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai, fynnu gwybod pa beth oedd hyn, ac am ba beth yr ydoedd hyn.
4:6 Yna Hathach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas yr hon sydd o flaen porth y brenin.
4:7 A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon, i’w difetha hwynt.
4:8 Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i’w dinistrio hwynt, i’w ddangos i Esther, ac i’w fynegi iddi, ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin, i ymbil ag ef, ac i ymnhedd o’i flaen ef dros ei phobl.
4:9 A Hathach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai.
4:10 Ac Esther a ddywedodd wrth Hathach, ac a orchmynnodd iddo ddywedyd wrth Mordecai;
4:11 Holl weision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gwybod, mat pa ŵr bynnag, neu wraig, a ddelo i mewn at y brenin i’r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, un o’i gyfreithiau cf yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni’m galwyd i ddyfod i mewn at y brenin, bellach er ys deng niwrnod ar hugain.
4:12 A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther.
4:13 Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther, Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon.
4:14 Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth?
4:15 Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn:
4:16 Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded.
4:17 Felly Mordecai a aeth ymaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo.
PENNOD 5
5:1 Ac ar y trydydd dydd, Esther a ymwisgodd mewn brenhinol wisgoedd, ac a safodd yng nghyntedd tŷ y brenin o’r tu mewn, ar gyfer tŷ y brenin: a’r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrngadair yn y brenhindy gyferbyn â drws y tŷ.
5:2 A phan welodd y brenin Esther y frennhines yn sefyll yn y cyntedd, hi a gafodd ffafr yn ei olwg ef: a’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur oedd yn ei law ef tuag at Esther; ac Esther a nesaodd, ac a gyffyrddodd â phen y deyrnwialen.
5:3 Yna y brenin a ddywedodd wrthi, Beth a fynni di, y frenhines Esther? a pha beth yw dy ddeisyfiad? hyd yn lianner y frenhiniaeth, ac fe a’i rhoddir i ti.
5:4 A dywedodd Esther, O rhynga bodd i’r brenin, deled y brenin a Haman heddiw i’r wledd a wneuthum iddo.
5:5 A’r brenin a ddywedodd, Perwch i Haman frysio i wneuthur yn ôl gair Esther. Felly y daeth y brenin a Haman i ‘r wledd a wnaethai Esther.
5:6 A’r brenin a ddywedodd wrth Esther yng nghyfeddach y gwin, Beth yr wyt ti yn ei ofyn, ac fe a roddir i ti? a pheth yr wyt ti yn ei geisio? gofyn hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a’i cwblheir.
5:7 Ac Esther a atebodd, ac a ddywedodd, Fy nymuniad a’m deisyfiad yw,
5:8 O chefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin roddi fy nymuniad, a gwneuthur fy neisyfiad; deled y brenin a Haman i’r wledd a arlwywyf iddynt, ac yfory y gwnaf yn ôl gair y brenin.
5:9 Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen, ac yn hyfryd ei galon: ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin, na chyfodasai efe, ac na syflasai erddo ef, Haman a gyflawnwyd o ddicllonedd yn erbyn Mordecai.
5:10 Er hynny Haman a ymataliodd; a phan ddaeth i’w dŷ ei hun, efe a anfonodd, ac a alwodd am ei garedigion, a Seres ei wraig.
5:11 A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amldra ei feibion, a’r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt, ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin.
5:12 A dywedodd Haman hefyd, Ni wahoddodd Esther y frenhines neb gyda’r brenin i’r wledd a wnaethai hi, ond myfi; ac yfory hefyd y’m gwahoddwyd ati hi gyda’r brenin.
5:13 Ond nid yw hyn oll yn llesáu i mi, tra fyddwyf fi yn gweled Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin.
5:14 Yna y dywedodd Seres ei wraig, a’i holl garedigion wrtho, Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder, a’r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno; yna dos gyda’r brenin i’r wledd yn llawen. A da oedd y peth gerbron Hainan, am hynny efe a baratodd y crocbren.
PENNOD 6
6:1 Y noson honno cwsg y brenin a giliodd ymaith; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd; a darllenwyd hwynt gerbron y brenin.
6:2 Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, o’r rhai oedd yn cadw y trothwy; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.
6:3 A dywedodd y brenin, Pa anrhydedd neu fawredd a wnaed i Mordecai am hyn? A gweision y brenin, sef ei weinidogion ef, a ddywedasant, Ni wnaed dim erddo ef.
6:4 A’r brenin a ddywedodd, Pwy sydd yn y cyntedd? A Haman a ddaethai i gyntedd nesaf allan tŷ y brenin, i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordecai ar y pren a baratoesai efe iddo.
6:5 A gweision y brenin a ddywedasant wrtho, Wele Haman yn sefyll yn y cyntedd. A dywedodd y brenin, Deled i mewn.
6:6 A phan ddaeth Haman i mewn, dywedodd y brenin wrtho, Beth a wneir i’r gŵr y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu? Yna Haman a ddywedodd yn ei galon, I bwy yr ewyllysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nag i mi?
6:7 A Haman a ddywedodd wrth y brenin, Y gŵr y mae y brenin yn chwennycb ei anrhydeddu,
6:8 Dygant y wisg frenhinol iddo, yr hon a wisg y brenin, a’r march y merchyg y brenin arno, a rhodder y frenhinol goron am ei ben ef:
6:9 A rhodder y wisg, a’r march, yn llaw un o dywysogion ardderchocaf y brenin, a gwisgant am y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu, a pharant iddo farchogaeth ar y march trwy heol y ddinas, a chyhoeddant o’i flaen ef, Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu.
6:10 Yna y brenin a ddywedodd wrth Haman, Brysia, cymer y wisg a’r march, fel y lleferaist, a gwna felly i Mordecai yr Iddew, yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin: na ad heb wneuthur ddim o’r hyn oll a leferaist.
6:11 Felly Haman a gymerth y wisg a’r march, ac a wisgodd am Mordecai, ac a wnaeth hefyd iddo farchogaeth trwy heol y ddinas, ac a gyhoeddodd o’i flaen ef, Fel hyn y gwneir i’r gŵr y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu.
6:12 A dychwelodd Mordecai i borth y brenin. A Haman a frysiodd i’w dŷ yn alarus, wedi gorchuddio ei ben.
6:13 A Haman a adroddodd i Seres ei wraig, ac i’w holl garedigion, yr hyn oll a ddigwyddasai iddo. Yna ei ddoethion, a Seres ei wraig, a ddywedasant wrtho, Os o had yr Iddewon y mae Mordecai, yr hwn y dechreuaist syrthio o’i flaen, ni orchfygi mohono, ond gan syrthio y syrthi o’i flaen ef.
6:14 Tra yr oeddynt hwy eto yn ymddiddan ag ef, ystafellyddion y brenin a ddaethant, ac a gyrchasant Haman ar frys i’r wledd a wnaethai Esther.
PENNOD 7
7:1 Felly daeth y brenin a Haman i gyfeddach gydag Esther y frenhines.
7:2 A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd, wrth gyfeddach y gwin, Beth yw dy ddymuniad, Esther y frenhines? ac fe a roddir i ti, a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a’i cwblheir.
7:3 A’r frenhines Esther a atebodd, ac a ddywedodd, O chefais ffafr yn dy olwg di, O frenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin, rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad, a’m pobl ar fy neisyfiad.
7:4 Canys gwerthwyd ni, myfi a’m pobl, i’n dinistrio, i’n lladd, ac i’n difetha: ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenhin.
7:5 Yna y llefarodd y brenin Ahasferuts, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines, Pwy yw hwnnw? a pha le y mae efe, yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly?
7:6 A dywedodd Esther, Y gwrthwynebwr a’r gelyn yw yr Haman drygionus hwn. Yna Haman a ofnodd gerbron y brenin a’r frenhines.
7:7 A’r brenin a gyfododd yn ei ddicllonedd o gyfeddach y gwin, ac a aeth i ardd y palas: a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhines am ei einioes; canys efe a welodd fod drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin.
7:8 Yna y dychwelodd y brenin o ardd y palas i dŷ cyfeddach y gwin. Ac yr oedd Haman wedi syrthio ar y gwely yr oed Esther arno. Yna y dywedodd y brenin, Ai treisio y frenhines hefyd y mae efe yn tŷ gyda mi? Hwy’n gyntaf ag yr aeth y gair allan o enau y brenin, hwy a orchuddiasant wyneb Haman.
7:9 A Harbona, un o’r ystafellyddion, a dywedodd yng ngŵydd y brenin. Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai, yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin, yn sefyll yn nhŷ Haman, yn ddeg cufydd a deugain o uchder. Yna y dywedodd y brenin, Crogwch ef hwnnw.
7:10 Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai. Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd.
PENNOD 8
8:1 Y dwthwn hwnnw y rhoddodd brenin Ahasferus i’r frenhines Esther dŷ Haman gwrthwynebwr yr Iddewon. A Mordecai a ddaeth o flaen y brenin; canys Esther a fynegasai beth oedd efe iddi hi.
8:2 A’r brenin a dynnodd ymaith fodrwy a gymerasai efe oddi wrth Haman, ac a’i rhoddodd i Mordecai. Ac Esther a osododd Mordecai ar dŷ Haman.
8:3 Ac Esther a lefarodd drachefn gerbron y brenin, ac a syrthiodd wrth ei draed ef; wylodd hefyd, ac ymbiliodd ag ef am fwrw ymaith ddrygioni Haman yr Agagiad, a’i fwriad yr hwn a fwriadasai efe yn erbyn yr Iddewon.
8:4 A’r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur tuag at Esther. Yna Esther a gyfododd, ac a safodd o flaen y brenin,
8:5 Ac a ddywedodd, O bydd bodlon gan y brenin, ac o chefais ffafr o’i flaen ef, ac od ydyw y peth yn iawn gerbron y brenin, a minnau yn gymeradwy yn ei olwg ef; ysgrifenner am alw yn ôl lythyrau bwriad Haman mab Hammedatha yr Agagiad, y rhai a ysgrifennodd efe i ddifetha’r Iddewon sydd trwy holl daleithiau y brenin.
8:6 Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd a gaiff fy mhobl? a pha fodd y gallaf edrych ar ddifetha fy nghenedl?
8:7 A’r brenin Ahasferus a ddywedodd wrth Esther y frenhines, ac wrth Mordecai yr Iddew, Wele, tŷ Haman a roddais i Esther, a hwy a’i crogasant ef ar y pren, am iddo estyn ei law yn erbyn yr Iddewon.
8:8 Ysgrifennwch chwithau hefyd dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda, yn enw y brenin, ac inseliwch â modrwy y brenin: canys yr ysgrifen a ysgrifennwyd yn enw y brenin ac a seliwyd â modrwy y brenin, ni all neb ei datroi.
8:9 Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mis, hwnnw yw y mis Sifan, ar y trydydd dydd ar hugain ohono, ac ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, ac at y rhaglawiaid, y penaduriaid hefyd, a thywysogion y taleithiau, y rhai oedd o India hyd Ethiopia, sef cant a saith ar hugain o daleithiau, i bob talaith wrth ei hysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith: at yr Iddewon hefyd yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tafodiaith.
8:10 Ac efe a ysgrifennodd yn enw y brenin Ahasferus, ac a’i seliodd â modrwy y brenin; ac a anfonodd lythyrau gyda’r rhedegwyr yn marchogaeth at feirch, dromedariaid, mulod, ac ebolion cesig:
8:11 Trwy y rhai y caniataodd y brenin i’r Iddewon, y rhai oedd ym mhob dinas, ymgynnull, a sefyll am eu heinioes, i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha holl allu y bobl a’r dalaith a osodai arnynt, yn blant ac yn wragedd, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt;
8:12 Mewn un dydd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.
8:13 Testun yr ysgrifen, i roddi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i bob rhyw bobl; ac ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion.
8:14 Y rhedegwyr, y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a’r mulod, a aethant ar frys, wedi eu gyrru trwy air y brenin; a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys.
8:15 A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn, ac â choron fawr o aur, ac mewn dillad sidan a phorffor; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd:
8:16 I’r Iddewon yr oedd goleuni, a llawenydd, a hyfrydwch, ac anrhydedd.
8:17 Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle y daeth gair y brenin a’i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy.
PENNOD 9
9:1 Felly yn y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, pan nesaodd gair y brenin a’i orchymyn i’w cwblhau; yn y dydd y gobeithiasai gelynion yr Iddewon y caent fuddugoliaethu arnynt, (ond yn y gwrthwyneb i hynny y bu, canys yr Iddewon a arglwyddiaethasant ar eu caseion;)
9:2 Yr Iddewon a ymgynullasant yn eu dinasoedd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, i estyn llawyn erbyn y rhai oedd yn ceisio niwed iddynt: ac ni safodd neb yn eu hwynebau; canys eu harswyd a syrthiasai ar yr holl bobloedd.
9:3 A holl dywysogion y taleithiau, a’r pendefigion, a’r dugiaid, a’r rhai oedd yn gwneuthur y gwaith oedd eiddo y brenin, oedd yn cynorthwyo’r Iddewon: canys arswyd Mordecai a syrthiasai arnynt hwy.
9:4 Canys mawr oedd Mordecai yn nhŷ y brenin, a’i glod ef oedd yn myned trwy yr holl daleithiau: oherwydd y gŵr hwn Mordecai oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu.
9:5 Felly yr Iddewon a drawsant eu holl elynion â dyrnod y cleddyf, a lladdedigaeth, a distryw; a gwnaethant i’w caseion yn ôl eu hewyllys eu hun.
9:6 Ac yn Susan y brenhinllys, yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant bum cant o wŷr.
9:7 Parsandatha hefyd, a Dalffon, ac Aspatha,
9:8 Poratha hefyd, ac Adalia, ac Aridatha,
9:9 Parmasta hefyd, ac Arisai, Aridai hefyd, a Bajesatha,
9:10 Deng mab Haman mab Hammedatha, gwrthwynebwr yr Iddewon, a laddasant hwy: ond nid estynasant ^u llawar yr anrhaith.
9:11 Y dwthwn hwnnw nifer y lladdedigion yn Susan y brenhindy a ddaeth gerbron y brenin.
9:12 A dywedodd y brenin wrth Esther y frenhines, Yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant yn Susan y brenhinllys, bum cant o wŷr, a deng mab Haman; yn y rhan arall o daleithiau y brenin beth a wnaethant hwy? beth gan hynny yw dy ddymuniad? ac fe a roddir i ti; a pheth yw dy ddeisyfiad ymhellach? ac fe a’i gwneir.
9:13 Yna y dywedodd Esther, O rhyglydda bodd i’r brenin, caniataer yfory i’r Iddewon sydd yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddiw: a chrogant ddeng mab Haman ar y pren.
9:14 A’r brenin a ddywedodd am wneuthur felly, a’r gorchymyn a roddwyd yn Susan: a hwy a grogasant ddeng mab Haman.
9:15 Felly yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar hefyd, ac a laddasant dri chant o wŷr yn Susan: ond nid estynasant eu llaw ar yr ysbail.
9:16 A’r rhan arall o’r Iddewon, y rhai oedd yn nhaleithiau y brenin a ymgasglasant, ac a safasant am eu heinioes, ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion, ac a laddasant bymtheng mil a thrigain o’u caseion: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.
9:17 Ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar y bu hyn, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono y gorffwysasant, ac y cynaliasant ef yn ddydd gwledd a gorfoledd.
9:18 Ond yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono; ac ar y pymthegfed ohono y gorffwysasant, a gwnaethant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd.
9:19 Am hynny Iddewon y pentrefi, y rhai oedd yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau, oedd yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis Adar, mewn llawenydd a chyfeddach, ac yn ddiwrnod daionus, ac i anfon rhannau i’w gilydd.
9:20 A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn, ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, yn agos oc ymhell,
9:21 I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar, a’r pymthegfed dydd ohono, bob blwyddyn;
9:22 Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd, a rhoddion i’r rhai anghenus.
9:23 A’r Iddewon a gymerasant arnynt wneuthur fel y dechreuasent, ae fel yr ysgrifenasai Mordecai atynt.
9:24 Canys Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr holl Iddewon, a arfaethasai yn erbyn yr Iddewon, am eu difetha hwynt; ac efe a fwriasai Pwr, hwnnw yw y coelbren, i’w dinistrio hwynt, ac i’w difetha:
9:25 A phan ddaeth Esther o flaen y brenin, efe a archodd trwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef, yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon, ar ei ben ei hun; a’i grogi ef a’i feibion ar y pren.
9: 26 Am hynny y galwasant y dyddiau hynny Pwrim, ar enw y Pwr: am hynny, oherwydd holl eiriau y llythyr hwn, ac oherwydd y peth a welsent hwy am y peth hyn, a’r peth a ddigwyddasai iddynt,
9:27 Yr Iddewon a ordeiniasant, ac a gymerasant arnynt, ac ar eu had, ac ar yr holl rai oedd yn un â hwynt, na phallai bod cynnal y ddau ddydd hynny, yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tymor, bob blwyddyn:
9:28 Ac y byddai y dyddiau hynny i’w cofio, ac i’w cynnal trwy bob cenhedlaeth, a phob teulu, pob talaith, a phob dinas; sef na phallai y dyddiau Pwrim hynny o fysg yr Iddewon, ac na ddarfyddai eu coffadwriaeth hwy o blith eu had.
9:29 Ac ysgrifennodd Esther y frenhines merch Abihail, a Mordecai yr Iddew, trwy eu holl rym, i sicrhau ail lythyr y Pwrim hwn.
9:30 Ac efe a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon, trwy y cant a’r saith, dalaith ar hugain o frenhiniaeth Ahasferus, a geiriau heddwch a gwirionedd;
9:31 I sicrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau, fel yr ordeiniasai Mordecai yr Iddew, ac Esther y frenhines, iddynt hwy, ac fel yr ordeiniasent hwythau drostynt eu hun, a thros eu had, eiriau yr ymprydiau a’u gwaedd.
9:32 Ac ymadrodd Esther a gadarnhaodd achosion y dyddiau Pwrim hynny: ae ysgrifennwyd hyn mewn llyfr.
PENNOD 10
10:1 A’r brenin Ahasferus a osododd dreth ar y wlad, ac ar ynysoedd y môr.
10:2 A holl weithredoedd ei rym ef, a’i gadernid, a hysbysrwydd o fawredd Mordecai, â’r hwn y mawrhaodd y brenin ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Phersia?
10:3 Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nesaf i’r brenin Ahasferus, ac yn fawr gan yr Iddewon, ac yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth.