Neidio i'r cynnwys

Beibl (1620)/Job

Oddi ar Wicidestun
Esther Beibl (1620)
Job
Job

wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Salmau

LLYFR JOB

PENNOD 1

1:1 Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a’i enw Job, ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.

1:2 Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair o ferched.

1:3 A’i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion, ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain.

1:4 A’i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt.

1:5 A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant DDUW yn eu calonnau. Felly y gwnai Job yr holl ddyddiau hynny.

1:6 A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr ARGLWYDD; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt.

1:7 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.

1:8 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni?

1:9 Yna Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni DUW?

1:10 Oni chaeaist o’i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a’i dda ef a gynyddodd ar y ddaear.

1:11 Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo, ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb.

1:12 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele, yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD.

1:13 A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a’i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf.

1:14 A daeth cennad at Job, ac a ddy¬wedodd, Yr ychen oedd yn aredig, a’r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt;

1:15 A’r Sabeaid a ruthrasant, ac a’u dygasant ymaith; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf, a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.

1:16 Tra yr oedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Tân Duw a syrthiodd o’r nefoedd, ac a losgodd y defaid, a’r gweision, ac a’u hysodd hwynt; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.

1:17 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Y Caldeaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant i’r camelod, ac a’u dygasant ymaith, ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf; a minnau fy hun yn unig a ddi¬hengais i fynegi i ti.

1:18 Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Dy feibion a’th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf:

1:19 Ac wele, gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch, ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llanciau, a buant feirw; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti.

1:20 Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;

1:21 Ac a ddywedodd, Noeth y deuthum o groth fy mam, a noeth y dychwelaf yno. Yr ARGLWYDD a roddodd, a’r ARGLWYDD a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr ARGLWYDD.

1:22 Yn hyn i gyd ni phechodd Job, ac ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn DUW.

PENNOD 2

2:1 A dydd a ddaeth i feibion Duw ddy¬fod i sefyll gerbron yr ARGLWYDD; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt i sefyll gerbron yr ARGLWYDD.

2:2 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.

2:3 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, i’w ddifa ef heb achos?

2:4 A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Croen am groen, a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes.

2:5 Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd, ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb.

2:6 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele ef yn dy law di; eto cadw ei hoedl ef.

2:7 Felly Satan a aeth allan oddi ger¬bron yr ARGLWYDD, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun.

2:8 Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw.

2:9 Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltthia DDUW, a bydd farw.

2:10 Ond efe a ddywedodd wrthi, Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion: a dderbyniwn ni gan DDUW yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Yn hyn i gyd ni phechodd Job a’i wefusau.

2:11 A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro.

2:12 A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a ddyrchaf¬asant eu llef, ac a wylasant; rhwygasant hefyd bob un ei fantell, a thaenasant Iwch ar eu pennau tua’r nefoedd.

2:13 Felly hwy a eisteddasant gydag ef, ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef: canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.

PENNOD 3

3:1 Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd.

3:2 A Job a lefarodd, ac a ddywedodd,

3:3 Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw.

3:4 Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno.

3:5 Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno.

3:6 Y nos honno, tywyllwch a’i cymero, na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd.

3:7 Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi.

3:8 A’r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a’i melltithio hi.

3:9 A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd:

3:10 Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.

3:11 Paham na bum farw o’r bru? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth?

3:12 Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?

3:13 Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.

3:14 Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;

3:15 Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;

3:16 Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.

3:17 Yno yr annuwiolion a beidiant a’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig.

3:18 Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; nic chlywant lais y gorthrymydd.

3:19 Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.

3:20 Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid?

3:21 Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig?

3:22 Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?

3:23 Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno?

3:24 Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.

3:25 Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.

3:26 Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.

PENNOD 4

4:1 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,

4:2 Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion?

4:3 Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu.

4:4 Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu.

4:5 Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist.

4:6 Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a’th obaith?;

4:7 Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith?

4:8 Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a heuant ddrygioni, a’u medant.

4:9 Gan anadl Duw y difethir hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant.

4:10 Rhuad y llew, a llais y llew creulon, a dannedd cenawon y llewod, a dorrwyd.

4:11 Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd.

4:12 Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono.

4:13 Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion,

4:14 Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i’m holl esgyrn grynu.

4:15 Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll.

4:16 Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy Ilygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd,

4:17 A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach na’i wneuthurwr?

4:18 Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd:

4:19 Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd a’u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?

4:20 O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried.

4:21 Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.

PENNOD 5

5:1 Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o’r saint y troi di?

5:2 Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth.

5:3 Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio; ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth.

5:4 Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd.

5:5 Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a’r sychedig a Iwnc eu cyfoeth.

5:6 Er na ddaw cystudd allan o’r pridd, ac na flagura gofid allan o’r ddaear:

5:7 Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny.

5:8 Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar DDUW y rhoddwn fy achos:

5:9 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi:

5:10 Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:

5:11 Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawd¬wriaeth.

5:12 Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.

5:13 Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir.

5:14 Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.

5:15 Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.

5:16 Felly y mae gobaith i’r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn.

5:17 Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.

5:18 Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a’i ddwylo ef a iachant.

5:19 Mewn chwech o gyfyngderau efe a’th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi.

5:20 Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf.

5:21 Rhag ffrewyll tafod y’th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo.

5:22 Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear.

5:23 Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.

5:24 A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â’th drigfa, ac ni phechi.

5:25 A chei wybod hefyd mai Iluosog fydd dy had, a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear.

5:26 Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd, fel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser.

5:27 Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.

PENNOD 6

6:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

6:2 O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau!

6:3 Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf.

6:4 Oherwydd y mae saethau yr Hollall¬uog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn.

6:5 A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant?

6:6 A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy?

6:7 Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi.

6:8 O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl!

6:9 Sef rhyngu bodd i DDUW fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a’m torri ymaith.

6:10 Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd.

6:11 Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl?

6:12 Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres?

6:13 Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf?

6:14 I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog.

6:15 Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd;

6:16 Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt:

6:17 Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o’u lle.

6:18 Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir.

6:19 Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt.

6:20 Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant.

6:21 Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch.

6:22 A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi?

6:23 Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn?

6:24 Dysgwch fi, a myfi a dawaf: A gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais.

6:25 Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi?

6:26 Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt?

6:27 Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill.

6:28 Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd.

6:29 Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.

6:30 A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?

PENNOD 7

7:1 Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog?

7:2 Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith:

7:3 Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi.

7:4 Pan orweddwyf, y dywedaf. Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.

7:5 Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd.

7:6 Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith.

7:7 Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach.

7:8 Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.

7:9 Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach.

7:10 Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy.

7:11 Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid.

7:12 Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf?

7:13 Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwytha fy nghwynfan;

7:14 Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau:

7:15 Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl.

7:16 Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau.

7:17 Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?

7:18 Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment?

7:19 Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn?

7:20 Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?

7:21 A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.

PENNOD 8

8:1 Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac ddywedodd,

8:2 Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf?

8:3 A ŵyra DUW farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder?

8:4 Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd;

8:5 Os tydi a foregodi at DDUW, ac a weddïi ar yr Hollalluog;

8:6 Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus.

8:7 Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr.

8:8 Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt:

8:9 (Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:)

8:10 Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon?

8:11 A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr?

8:12 Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn.

8:13 Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng DUW dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr;

8:14 Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef.

8:15 Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery.

8:16 Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan.

8:17 Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig.

8:18 Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais.

8:19 Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill.

8:20 Wele, ni wrthyd DUW y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus;

8:21 Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd.

8:22 A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.

PENNOD 9

9:1 Yna Job a atebodd ac a ddywedodd,

9:2 Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw?

9:3 Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil.

9:4 Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth; pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?

9:5 Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.

9:6 Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle, fel y cryno ei cholofnau hi.

9:7 Yr hwn a ddywed wrth y haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.

9:8 Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr.

9:9 Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau.

9:10 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.

9:11 Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a a rhagddo, ac ni chanfyddaf ef.

9:12 Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?

9:13 Oni thry DUW ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.

9:14 Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?

9:15 I’r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â’m barnwr.

9:16 Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd.

9:17 Canys efe a’m dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos.

9:18 Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a’m lleinw â chwerwder.

9:19 Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi?

9:20 Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn.

9:21 Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes.

9:22 Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol.

9:23 Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed.

9:24 Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?

9:25 A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni.

9:26 Aethant heibio megis llongau buain, megis yr eheda eryr at ymborth.

9:27 Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf:

9:28 Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion.

9:29 Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer?

9:30 Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân;

9:31 Eto ti a’m trochi yn y pwll; a’m dillad a’m ffieiddiant.

9:32 Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn.

9:33 Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau.

9:34 Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi:

9:35 Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.

PENNOD 10

10:1 Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.

10:2 Dywedaf wrth DDUW, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.

10:3 Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?

10:4 Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?

10:5 A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,

10:6 Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?

10:7 Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o’th law di.

10:8 Dy ddwylo di a’m gweithiasant, ac a’m cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.

10:9 Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i’r pridd drachefn?

10:10 Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws?

10:11 Ti a’m gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a’m diffynnaist i âg esgyrn ac â gïau.

10:12 Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd.

10:13 A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi.

10:14 Os pechaf, ti a’m gwyli, ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd.

10:15 Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;

10:16 Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.

10:17 Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn.

10:18 Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth? O na buaswn farw, ac na’m gwelsai llygad!

10:19 Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd.

10:20 Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig;

10:21 Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau;

10:22 Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.

PENNOD 11

11:1 A Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,

11:2 Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus?

11:3 Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a’th waradwyddo?

11:4 Canys dywedaist. Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di.

11:5 Ond, O na lefarai DUW, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn,

11:6 A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i DDUW ofyn gennyt lai nag a haeddai dy anwiredd.

11:7 A elli di wrth chwilio gael gafael ar DDUW? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd?

11:8 Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod?

11:9 Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr.

11:10 Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef?

11:11 Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny?

11:12 Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt.

11:13 Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef;

11:14 Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddefi anwiredd drigo yn dy luestai:

11:15 Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni:

11:16 Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.

11:17 Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd.

11:18 Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.

11:19 Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a’th ddychryno, a llawer a ymbiliant â’th wyneb.

11:20 Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.

PENNOD 12

12:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

12:2 Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb.

12:3 Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn?

12:4 Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar DDUW, ac efe a’i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith.

12:5 Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â’i draed.

12:6 Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi DUW, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo.

12:7 Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid, a hwy a’th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.

12:8 Neu dywed wrth y ddaear, a hi a’th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti.

12:9 Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn?

12:10 Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.

12:11 Onid y glust a farna ymadroddion? a’r genau a archwaetha ei fwyd?

12:12 Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau.

12:13 Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo.

12:14 Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno.

12:15 Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a’u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear.

12:16 Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a’r twyllodrus.

12:17 Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr.

12:18 Efe sydd yn dattod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt.

12:19 Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith; ac a blyga y rhai cedyrn.

12:20 Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodil y ffyddlon; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen.

12:21 Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion.

12:22 Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni.

12:23 Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac yn eu distrywio hwynt: efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd, ac efe a’u dwg hwynt i gyfyngdra.

12:24 Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

12:25 Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.

PENNOD 13

13:1 Wele, fy llygad a welodd hyn oll, fy nghlust a’i clywodd ac a’i deallodd.

13:2 Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau.

13:3 Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw.

13:4 Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll.

13:5 O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb.

13:6 Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau.

13:7 A ddywedwch chi anwiredd dros DDUW? ac a ddywedwch chwi dwÿll er ei fwÿn e? A ddywedwch chwi anwiredd dros DDUW? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef?

13:8 A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros DDUW?

13:9 Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn?

13:10 Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel.

13:11 Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch?

13:12 Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a’ch cyrff i gyrif o glai.

13:13 Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau, a deued aaraf yr hyn a ddelo.

13:14 Paham y cymeraf fy nghnawd â’m dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw?

13:15 Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef.

13:16 Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef.

13:17 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â’ch clustiau.

13:18 Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y’m cyfiawnheir.

13:19 Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau i mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf.

13:20 Ond dau beth na wna i mi: yna nid ymguddiaf rhagot.

13:21 Pellha dy law oddi arnaf: ac na ddychryned dy ddychryn fi.

13:22 Yna galw, a myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac ateb di fi.

13:23 Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof? pâr i mi wybod fy nghamwedd a’m pechod.

13:24 Paham y cuddi dy wyneb, ac y cymeri fi yn elyn i ti?

13:25 A ddrylli di ddeilen ysgydwedig? a ymlidi di soflyn sych?

13:26 Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid.

13:27 Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylied ar fy holl lwybrau; ac yn nodi gwadnau fy nhraed,

13:28 Ac efe, megis pydrni, a heneiddia, fel dilledyn yr hwn a ysa gwyfyn.

PENNOD 14

14:1 Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul.

14:2 Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymaith; ac efe a gilia fel cysgod, ac ni saif.

14:3 A agori di dy lygaid ar y fath yma? ac a ddygi di fi i farn gyda thi?

14:4 Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflân? neb.

14:5 Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei fisoedd ef gyda thi, a gosod ohonot ei derfynau, fel nad êl drostynt:

14:6 Tro oddi wrtho, fel y gorffwyso, hyd oni orffenno, fel gwas cyflog, ei ddiwrnod.

14:7 Canys y mae gobaith o bren, er ei dorri, y blagura efe eto, ac na phaid ei flagur ef â thyfu.

14:8 Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear, a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd;

14:9 Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghennau fel planhigyn.

14:10 Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae?

14:11 Fel y mae dyfroedd yn pallu o’r môr, a’r afon yn myned yn ddihysbydd, ac yn sychu:

14:12 Felly gŵr a orwedd, ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd; ni ddihunant, ac ni ddeffroant o’u cwsg.

14:13 O na chuddit fi yn y bedd! na’m cedwit yn ddirgel, nes troi dy lid ymaith! na osodit amser nodedig i mi, a’m coflo!

14:14 Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw drachefn? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.

14:15 Gelwi, a myfi a’th atebaf; chwenychi waith dy ddwylo.

14:16 Canys yr awr hon y rhifi fy nghamre: onid wyt yn gwylied ar fy mhechod?

14:17 Fy nghamwedd a selied mewn cod; a thi a wnïaist i fyny fy anwiredd.

14:18 Ac yn wir, y mynydd a syrthio a ddiflanna; a’r graig a symudir o’i lle.

14:19 Dyfroedd a dreuliant y cerrig; yr wyt yn golchi ymaith y pethau sydd yn tyfu o bridd y ddaear, ac yn gwneuthur i obaith dyn golli.

14:20 Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo ymaith: a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon ef i ffordd.

14:21 Ei feibion ef a ddaw i anrhydedd, ac nis gwybydd efe: a hwy a ostyngir, ac ni ŵyr efe oddi wrthynt:

14:22 Ond ei gnawd arno a ddoluria, a’i enaid ynddo a alara.

PENNOD 15

15:1 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,

15:2 A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â’r dwyreinwynt?

15:3 A ymresyma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt?

15:4 Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn: yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw.

15:5 Canys dy enau a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys.

15:6 Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac aid myfi: a’th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn.

15:7 A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied tydi o flaen y bryniau?

15:8 A glywaist ti gyfrinach Duw? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun?

15:9 Beth a wyddost ti a’r nas gwyddoiri ni? beth a ddeelli di, heb fod hynny hefyd gennym ninnau?

15:10 Y mae yn ein mysg ni y penllwyd, a’r oedrannus hefyd; hŷn o oedran na’th dad di.

15:11 Ai bychan gennyt ti ddiddanwch DUW? a oes dim dirgel gyda thi?

15:12 Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid,

15:13 Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn DUW, a gollwng y fath eiriau allan o’tn enau?

15:14 Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a’r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn?

15:15 Wele, ni roddes efe ymddiried yn ei saint; a’r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef.

15:16 Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr?

15:17 Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a r hyn a welais a fynegaf.

15:18 Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau, ac nis celasant:

15:19 I’r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy.

15:20 Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws.

15:21 Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno.

15:22 Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno.

15:23 Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law.

15:24 Cystudd a chyfyngdra a’i brawycha ef; hwy a’i gorchfygant, fel brenin pared i ryfel.

15:25 Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd.

15:26 Efe a red yn y gwddf iddo ef, trwy dewdwr torrau ei dananau:

15:27 Canys efe a dodd ei wyneb â’i fraster: ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau.

15:28 A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau.

15:29 Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef chwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear.

15:30 Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef.

15:31 Yr hwn a dwylled, nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei wobr ef.

15:32 Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a’i gangen ni lasa.

15:33 Efe a ddihidia ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden.

15:34 Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig: a thân a ysa luestai gwobrwyr.

15:35 Y maent yn ymddwyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a’u bol sydd yn darpar twyll.

PENNOD 16

16:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

16:2 Clywais lawer o’r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll.

16:3 Oni cheir diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb?

16:4 Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau: pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn bentyrru geiriau i’ch erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch.

16:5 Ond mi a’ch cryfhawn chwi â’m genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid.

16:6 Os llefaraf fi, nid esmwytha fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid?

16:7 Ond yn awr efe a’m blinodd i, anrheithiaist fy holl gynulleidfa:

16:8 A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a’m culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb.

16:9 Yn ei ddicllondeb y’m rhwyga yr hwn a’m casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn.

16:10 Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn.

16:11 DUW a’m rhoddes i’r anwir; ac a’m trodd i ddwylo yr annuwiolion.

16:12 Yr oeddwn yn esmwyth; ond a’m drylliodd, ac a ymaflodd yn ngwddf, ac a’m drylliodd yn chwilfriw, ac a’m cododd yn nod iddo ei hun.

16:13 Ei saethyddion ef sydd yn fy anagylchu; y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear.

16:14 Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr.

16:15 Gwnïais sachlen ar fy nghroen, halogais fy nghorn yn y llwch.

16:16 Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau:

16:17 Er nad oes gamwedd yn fy nwylo, a bod fy ngweddi yn bur.

16:18 O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i’m gwaedd.

16:19 Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a’m tystiolaeth yn yr uchelder.

16:20 Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth DDUW.

16:21 O na chai un ymddadlau a DUW dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog!

16:22 Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd, yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf.

PENNOD 17

17:1 Fy anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau sydd barod i mi.

17:2 Onid oes watwarwyr gyda mi? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt?

17:3 Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gyda thi: pwy ydyw efe a dery ei law ya fy llaw i?

17:4 Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni ddyrchefi di hwynt.

17:5 Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant.

17:6 Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl,ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt.

17:7 Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod.

17:8 Y rhai uniawn a synnant am hyn; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr.

17:9 Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder.

17:10 Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi.

17:11 Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon.

17:12 Gwnant y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch.

17:13 Os disgwyliaf, y bedd sydd dy i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely.

17:14 Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a’m chwaer wyt.

17:15 A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith?

17:16 Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.

PENNOD 18

18:1 A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,

18:2 Pa bryd y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninnau a lefarwn.

18:3 Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi?

18:4 O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear? neu y symudir y graig allan o’i lle?

18:5 Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha.

18:6 Goleuni a dywylla yn ei luesty ef a’i lusern a ddiffydd gydag ef.

18:7 Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a’i gyngor ei hun a’i bwrw ef i lawr.

18:8 Canys efe a deflir i’r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe.

18:9 Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a’r gwylliad fydd drech nag ef.

18:10 Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr.

18:11 Braw a’i brawycha ef o amgylch, ac a’i gyr i gymryd ei draed.

18:12 Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys.

18:13 Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf-anedig angau a fwyty ei gryfder ef.

18:14 Ei hyder ef a dynnir allan o’i luesty: a hynny a’i harwain ef at frenin dychryniadau.

18:15 Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef.

18:16 Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a’i frig a dorrir oddi arnodd.

18:17 Ei goffadwriaeth a gollir o’r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol.

18:18 Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o’r byd.

18:19 Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef.

18:20 Y rhai a ddêl ar ei ôl, a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef; a’r rhai o’r blaen a gawsant fraw.

18:21 Yn wir, dyma drigleoedd yr anwir a dyma le y dyn nid edwyn DDUW.

PENNOD 19

19:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

19:2 Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y’m drylliwch â geiriau?

19:3 Dengwaith bellach y’m gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn.

19:4 Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig f amryfusedd.

19:5 Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd fin herbyn;

19:6 Gwybyddwch yn awr mai DUW a’m. dymchwelodd i, ac a’m hamgylchodd â’i rwyd.

19:7 Wele, llefaf rhag trawster, ond ni’m hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn.

19:8 Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.

19:9 Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen.

19:10 Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren.

19:11 Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion.

19:12 Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell.

19:13 Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf.

19:14 Fy nghyfnesaf a ballasant, a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant.

19:15 Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a’m morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg.

19:16 Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â’m genau.

19:17 Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff.

19:18 Plant hefyd a’m diystyrent: cyfodais, a dywedasant i’m herbyn.

19:19 Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.

19:20 Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais.

19:21 Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw DUW a gyffyrddodd â mi.

19:22 Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy nghnawd?

19:23 O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr!

19:24 O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm!

19:25 Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear.

19:26 Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corn hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd:

19:27 Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a’m llygaid a’i gwelant, ac nid arall; er i’m harennau ddarfod ynof.

19:28 Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof.

19:29 Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.

PENNOD 20

20:1 Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,

20:2 Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf.

20:3 Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb.

20:4 Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear,

20:5 Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr?

20:6 Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd, a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau;

20:7 Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a’i gwelsant a ddywedant. Pa le y mae efe?

20:8 Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.

20:9 Y llygad a’i gwelodd, ni wêl ef mwy: a’i le ni chenfydd mwy ohono.

20:10 Ei feibion a gais fodloni’r tlodion: a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.

20:11 Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.

20:12 Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod;

20:13 Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau:

20:14 Ei lwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef.

20:15 Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a’i chwyda: Duw a’i tyn allan o’i fol ef.

20:16 Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a’l lladd ef.

20:17 Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.

20:18 Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.

20:19 Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;

20:20 Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o’r hyn a ddymunodd.

20:21 Ni bydd gweddill o’i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.

20:22 Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.

20:23 Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigo¬faint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.

20:24 Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a’r bwa dur a’i trywana ef.

20:25 Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno.

20:26 Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tan heb ei chwythu a’i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir.

20:27 Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef.

20:28 Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.

20:29 Dyma ran dyn annuwiol gan DDUW; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan DDUW.

PENNOD 21

21:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

21:2 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur.

21:3 Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch.

21:4 A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd?

21:5 Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau.

21:6 Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd.

21:7 Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth?

21:8 Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt, a’u hiliogaeth yn eu golwg.

21:9 Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen DUW arnynt hwy.

21:10 Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla.

21:11 Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a’u bechgyn a neidiant.

21:12 Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ.

21:13 Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i’r bedd.

21:14 Dywedant hefyd wrth DDUW, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd.

21:15 Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno?

21:16 Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi.

21:17 Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? DUW a ran ofidiau yn ei ddig.

21:18 Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt.

21:19 DUW a guddia ei anwiredd ef i’w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a’i gwybydd.

21:20 Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog.

21:21 Canys pa wynfyd sydd ganddo efyn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef?

21:22 A ddysg neb wybodaeth i DDUW? gan ei fod yn barnu y rhai uchel.

21:23 Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl.

21:24 Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a’i esgyrn yn iraidd gan fêr.

21:25 A’r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch,

21:26 Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a’r pryfed a’u gorchuddia hwynt,

21:27 Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a’r bwriadau yr ydych chwi yn eu dych mygu ar gam yn fy erbyn.

21:28 Canys dywedwch, Pa le y mae ty y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion?

21:29 Oni ofynasoch chwi i’r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy,

21:30 Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan.

21:31 Pwy a fynegaei ffordd efyneiwyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth?

21:32 Eto efe a ddygir i’r bedd, ac a erys yn y pentwr.

21:33 Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o’i flaen ef.

21:34 Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?

PENNOD 22

22:1 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,

22:2 A wna gŵr lesâd i DDUW, fel y gwna y synhwyrol lesad iddo ei hun?

22:3 Ai digrifwch ydyw i’r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd?

22:4 Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn?

22:5 Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a’th anwireddau heb derfyn?

22:6 Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion.

22:7 Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog.

22:8 Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a’r anrhydeddus a drigai ynddi.

22:9 Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd.

22:10 Am hynny y mae maglau o’th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di;

22:11 Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a’th orchuddiant.

22:12 Onid ydyw DUW yn uchelder y nef oedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt.

22:13 A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr Duw? a farn efe trwy’r cwmwl tywyll?

22:14 Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd.

22:15 A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir?

22:16 Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy.

22:17 Hwy a ddywedasant wrth DDUW, Cilia oddi wrthym: a pha beth a wna’r Hollalluog iddynt hwy?

22:18 Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni: ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi.

22:19 Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a’r diniwed a’u gwatwar hwynt.

22:20 Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni, eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy.

22:21 Ymarfer, atolwg, ag ef, a bydd heddychlon: o hyn y daw i ti ddaioni.

22:22 Cymer y gyfraith, atolwg, o’i enau ef, a gosod ei eiriau ef yn dy galon.

22:23 Os dychweli at yr Hollalluog, ti adeiledir, symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai.

22:24 Rhoddi aur i gadw fel pridd, ac aur Offir fel cerrig yr afonydd.

22:25 A’r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti, a thi a gei amldra o arian.

22:26 Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog, ac a ddyrchefi dy wyneb at DDUW.

22:27 Ti a weddïi arno ef, ac efe a’th wrendy; a thi a deli dy addunedau.

22:28 Pan ragluniech di beth, efe a sicrheir i ti; a’r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd.

22:29 Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, Y mae goruchafiaeth; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg.

22:30 Efe a wareda ynys y diniwed; a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi.

PENNOD 23

23:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

23:2 Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid.

23:3 O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef! .

23:4 Trefnwn fy mater ger ei fron efe: a llanwn fy ngenau â rhesymau.

23:5 Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf.

23:6 A ddadlau efe i’m herbyn a helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof.

23:7 Yno yr uniawn a ymresymai ag ef; felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr.

23:8 Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw fe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef:

23:9 Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled:

23:10 Ond efe a edwyn fy ffordd i: wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur.

23:11 Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni wyrais.

23:12 Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol.

23:13 Ond y mae efe yn un, a phwy a’i try ef? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a’i gwna.

23:14 Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau.

23:15 Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef.

23:16 Canys DUW a feddalhaodd fy nghalon, a’r Hollalluog a’m cythryblodd:

23:17 Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd.

PENNOD 24

24:1 Paham, gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Hollalluog, na welai y rhai sydd yn ei adnabod ef, ei ddyddiau ef?

24:2 Y mae rhai yn symudo terfynau; yn ysglyfaethu defaid, ac yn ymborthi arnynt.

24:3 Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith: maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl.

24:4 Maent yn troi yr anghenog allan o’r ffordd: tlodion y ddaear a ymgydlechant.

24:5 Wele, y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan i’w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore: y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac i’w plant.

24:6 Medant eu hŷd yn y maes; a gwinllan yr annuwiol a gasglant.

24:7 Gwnânt i’r tlawd letya yn noeth heb ddillad, ac heb wisg mewn oerni.

24:8 Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig.

24:9 Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron: cymerant wystl gan y tlawd.

24:10 Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog.

24:11 Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt, ac sydd yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedig.

24:12 Y mae gwŷr yn griddfan o’r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn.

24:13 Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.

24:14 Gyda’r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd a’r anghenog; a’r nos y bydd efe fel lleidr.

24:15 A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos, gan ddywedyd, Ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hug ar ei wyneb.

24:16 Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y rhai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd: nid adwaenant hwy oleuni.

24:17 Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy: dychryn cysgod marwolaeth yw, os edwyn neb hwynt.

24:18 Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear: ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd.

24:19 Sychder a gwres sydd yn cipio dyfroedd eira: felly y bedd y rhai a bechasant.

24:20 Y groth a’i gollwng ef dros gof, melys fydd gan y pryf ef; ni chofir ef mwy: ac anwiredd a dorrir fel pren.

24:21 Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy, yr hon ni phlanta; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i’r weddw.

24:22 Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth: y mae efe yn codi, ac nid oes neb diogel o’i einioes.

24:23 Er rhoddi iddo fod mewn diogel wch, ar yr hyn y mae ei bwys; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy.

24:24 Hwynt-hwy a ddyrchafwyd dros ychydig, ond hwy a ddarfuant, ac a ostyngwyd; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill, ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen.

24:25 Ac onid ydyw felly yn awr, pwy a’m gwna i yn gelwyddog, ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddim?

PENNOD 25

25:1 Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,

25:2 Arglwyddiaeth ac ofn sydd gydag ef: y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei uchelfannau.

25:3 A oes gyfrif o’i luoedd ef? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?

25:4 Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? neu pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân?

25:5 Wele hyd yn oed y lleuad, ac ni lewyrcha hi, a’r sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef:

25:6 Pa faint llai dyn, yr hwn sydd bryf; a mab dyn, yr hwn sydd abwydyn?

PENNOD 26

26:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

26:2 Pwy a gynorthwyaist ti? ai y dinerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid?

26:3 Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae?

26:4 Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti?

26:5 Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.

26:6 Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw.

26:7 Y mae efe yn taenu’r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi’r ddaear ar ddiddim.

26:8 Y mae efe yn rhwymo’r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy.

26:9 Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi.

26:10 Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch.

26:11 Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.

26:12 Efe a ranna y môr a’i nerth, ac a dery falchder â’i ddoethineb.

26:13 Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog.

26:14 Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?

PENNOD 27

27:1 A Job a barablodd eilwaith, ac a ddywedodd,

27:2 Y mae DUW yn fyw, yr hwn a ddug ymaith fy marn; a’r Hollalluog, yr hwn a ofidiodd fy enaid;

27:3 Tra fyddo fy anadl ynof, ac ysbryd . Duw yn fy ffroenau;

27:4 Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd ac ni thraetha fy nhafod dwyll.

27:5 Na ato DUW i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf.

27:6 Yn fy nghyfiawndcr y glynais, ac nis gollyngaf hi: ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw.

27:7 Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol; a’r hwn sydd yn codi yn fy erbyn, fel yr anwir.

27:8 Canys pa obaith sydd i’r rhagrithiwr, er elwa ohono ef, pan dynno DUW ei enaid ef allan?

27:9 A wrendy DUW ar ei lef, pan ddelo cyfyngder arno?

27:10 A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog? a eilw efe ar DDUW bob amser?

27:11 Myfi a’ch dysgaf chwi trwy law Duw: ni chelaf yr hyn sydd gyda’r Hollalluog.

27:12 Wele, chwychwi oll a’i gwelsoch, a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd?

27:13 Dyma ran dyn annuwiol gyda Duw, ac etifeddiaeth y rhai traws, yr hon a gânt hwy gan yr Hollalluog.

27:14 Os ei feibion ef a amlheir, hwy a amlheir i’r cleddyf: a’i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara.

27:15 Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth: a’i wragedd gweddwon nid wylant.

27:16 Er iddo bentyrru arian fel llwch, a darparu dillad fel clai;

27:17 Efe a’i darpara, ond y cyfiawn a’i gwisg: a’r diniwed a gyfranna yr arian.

27:18 Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn, ac fel bwth a wna gwyliwr.

27:19 Y cyfoethog a huna, ac nis cesglir ef: efe a egyr ei lygaid, ac nid yw.

27:20 Dychryniadau a’i goddiweddant ef fel dyfroedd: corwynt a’i lladrata ef liw nos.

27:21 Y dwyreinwynt a’i cymer ef i ffordd, ac efe a a ymaith; ac a’i teifl ef fel corwynt allan o’i le.

27:22 Canys DUW a deifl arno ef, ac nid arbed: gan ffoi, efe a fynnai ffoi rhag ei law ef.

27:23 Curant eu dwylo arno, ac a’i hysiant allan o’i le.

PENNOD 28

28:1 Diau fod gwythen i’r arian; a lle i’r aur, lle y coethant ef.

28:2 Haearn a dynnir allan o’r pridd, ac o’r garreg y toddir pres.

28:3 Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau.

28:4 Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion.

28:5 Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani.

28:6 Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi.

28:7 Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud:

28:8 Yr hwn ni sathrodd cenawon llew, nid aeth hen lew trwyddo.

28:9 Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd.

28:10 Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.

28:11 Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.

28:12 Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?

28:13 Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.

28:14 Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi.

28:15 Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.

28:16 Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir; nac i’r onics gwerthfawr, nac i’r saffir.

28:17 Nid aur a grisial a’i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.

28:18 Ni chofir y cwrel, na’r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.

28:19 Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.

28:20 Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?

28:21 Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.

28:22 Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi.

28:23 DUW sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.

28:24 Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan, yr holl nefoedd;

28:25 I wneuthur pwys i’r gwynt; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur.

28:26 Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw, a ffordd i fellt y taranau:

28:27 Yna efe a’i gwelodd hi, ac a’i mynegodd hi; efe a’i paratodd hi, a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan.

28:28 Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.

PENNOD 29

29:1 Yna Job a barablodd drachefh, ac a ddywedodd,

29:2 O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai DUW fi;

29:3 Pan wnai efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch;

29:4 Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch DUW ar fy mhabell;

29:5 Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch;

29:6 Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew!

29:7 Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol,

29:8 Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny.

29:9 Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau.

29:10 Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau.

29:11 Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi:

29:12 Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.

29:13 Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.

29:14 Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron.

29:15 Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff.

29:16 Tad oeddwn i’r anghenog; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan.

29:17 Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef.

29:18 Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod.

29:19 Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig.

29:20 Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw.

29:21 Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor.

29:22 Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy.

29:23 A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar-law.

29:24 Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.

29:25 Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.

PENNOD 30

30:1 Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i’w gosod gyda chŵn fy nefaid.

30:2 I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy.

30:3 Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i’r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt:

30:4 Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt.

30:5 Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;)

30:6 I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau.

30:7 Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl.

30:8 Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na’r ddaear oeddynt.

30:9 Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt.

30:10 Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb.

30:11 Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a’m cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i.

30:12 Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i’m herbyn ffyrdd eu dinistr.

30:13 Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt.

30:14 Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith.

30:15 Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwi.

30:16 Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof.

30:17 Y nos y tyllir fy esgyrn o’m mewn: a’m gïau nid ydynt yn gorffwys.

30:18 Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a’m hamgylcha fel coler fy mhais.

30:19 Efe a’m taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw.

30:20 Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf.

30:21 Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law.

30:22 Yr wyt yn fy nyrchafu i’r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd.

30:23 Canys myfi a wn y dygi di fi i i farwolaeth; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw.

30:24 Diau nad estyn ef law i’r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef.

30:25 Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr ang¬henog?

30:26 Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth.

30:27 Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a’m rhagflaenasant.

30:28 Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa.

30:29 Yr ydwyf yn frawd i’r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys.

30:30 Fy nghroen a dduodd amdanaf, a’m hesgyrn a losgasant gan wres.

30:31 Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a’m horgan fel llais rhai yn wylo.

PENNOD 31

31:1 Myfi a wneuthum amod â’m llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn?

31:2 Canys pa ran sydd oddi wrth DDUW oddi uchod? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o’r uchelder?

31:3 Onid oes dinistr i’r anwir? a dialedd dieithr i’r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd?

31:4 Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre?

31:5 Os rhodiais mewn oferedd, ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo;

31:6 Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned DUW wybod fy mherffeithrwydd.

31:7 Os gwyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd; a myned o’m calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo:

31:8 Yna heuwyf fi, a bwytaed arall, ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i.

31:9 Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog;

31:10 Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi.

31:11 Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i’w gosbi gan farnwyr.

31:12 Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth.

31:13 Os diystyrais achos fy ngwas a’m gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi;

31:14 Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw? a phan ymwelo efe, pa beth a atebaf iddo?

31:15 Onid yr hwn a’m gwnaeth i yn y groth, a’i gwnaeth yntau? ac onid yr un a’n lluniodd yn y bru?

31:16 Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd, ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio;

31:17 Ac os bwyteais fy mwyd yn unig, ac oni fwytaodd yr amddifad ohono;

31:18 (Canys efe a gynyddodd gyda mi fel gyda thad, o’m hieuenctid; ac o groth fy mam mi a’i tywysais hi;)

31:19 Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a’r anghenog neb wisg:

31:20 Os ei lwynau ef ni’m bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i,

31:21 Os codais fy llaw yn erbyn yr amddi¬fad, pan welwn fy nghymorth yn y porth;

31:22 Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal.

31:23 Canys ofn dinistr DUW oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef.

31:24 Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt;

31:25 Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i’m llaw gael llawer;

31:26 Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a’r lleuad yn cerdded yn ddisglair;

31:27 Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw:

31:28 Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn DDUW uchod.

31:29 Os llawenychais i am drychineb yr hwn a’m casai, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo:

31:30 (Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.)

31:31 Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o’i gnawd ef! ni ddigonir ni.

31:32 Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i’r fforddolion.

31:33 Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes;

31:34 A ofnais i dyrfa luosog, neu a’m dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o’m drws?

31:35 O am un a’m gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i’r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr.

31:36 Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi.

31:37 Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato.

31:38 Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cydwylo;

31:39 Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef:

31:40 Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.

PENNOD 32

32:1 Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun.

32:2 Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw.

32:3 A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog.

32:4 Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran.

32:5 Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigo¬faint ef.

32:6 Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi.

32:7 Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb.

32:8 Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall.

32:9 Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn.

32:10 Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl.

32:11 Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.

32:12 Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef:

32:13 Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: DUW sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn.

32:14 Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi.

32:15 Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru.

32:16 Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,)

32:17 Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl.

32:18 Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i.

32:19 Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion.

32:20 Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf.

32:21 Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn.

32:22 Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.

PENNOD 33

33:1 Oherwydd paham, Job, clyw, atolwg, fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau.

33:2 Wele, yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau.

33:3 O uniondeb fy nghalon- y bydd fy ngeiriau; a’m gwefusau a adroddant wybodaeth bur.

33:4 Ysbryd DUW a’m gwnaeth i; ac anadl yr Hollalluog a’m bywiocaodd i.

33:5 Os gelli, ateb fi: ymbaratoa, a saf o’m blaen i.

33:6 Wele fi, yn ôl dy ddymuniad di, yn lle Duw: allan o’r clai y torrwyd finnau.

33:7 Wele, ni’th ddychryna fy arswyd i, ac ni bydd fy llaw yn drom arnat.

33:8 Dywedaist yn ddiau lle y clywais i, a myfi a glywais lais dy ymadroddion:

33:9 Pur ydwyf fi heb gamwedd: glân ydwyf, ac heb anwiredd ynof.

33:10 Wele, efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo.

33:11 Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion; y mae yn gwylied fy holl lwybrau.

33:12 Wele, yn hyn nid ydwyt gyfiawn. Mi a’th atebaf, mai mwy ydyw DUW na dyn.

33:13 Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o’i weithredoedd.

33:14 Canys y mae DUW yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn.

33:15 Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely;

33:16 Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt:

33:17 I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn.

33:18 Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a’i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf.

33:19 Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef a gofid caled:

33:20 Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara, a’i enaid fwyd blasus.

33:21 Derfydd ei gnawd ef allan o olwg; saif ei esgyrn allan, y rhai ni welid o’r blaen.

33:22 Nesau y mae ei enaid i’r bedd, a’i fywyd i’r dinistrwyr.

33:23 Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb:

33:24 Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i’r clawdd: myfi a gefais iawn.

33:25 Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid.

33:26 Efe a weddia ar DDUW, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder.

33:27 Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb. Mi a bechais, ac a wyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi,

33:28 Efe a wared ei enaid ef rhag myned i’r clawdd, a’i fywyd a wêl oleuni.

33:29 Wele, hyn oll a wna DUW ddwywaith neu dair â dyn,

33:30 I ddwyn ei enaid ef o’r pwll, i’w oleuo â goleuni y rhai byw.

33:31 Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf.

33:32 Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawn hau di.

33:33 Onid e, gwrando arnaf fi: bydd ddistaw, a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb.

PENNOD 34

34:1 Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,

34:2 Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch.

34:3 Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd.

34:4 Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda.

34:5 Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf; a DUW a ddug ymaith fy marn.

34:6 A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd.

34:7 Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr?

34:8 Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol.

34:9 Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw.

34:10 Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth DDUW fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd.

34:11 Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun.

34:12 Diau hefyd na wna DUW yn annuwiol, ac na wyra yr Hollalluog farn.

34:13 Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd?

34:14 Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef,

34:15 Pob cnawd a gyd-drenga, a dyn a ddychwel i’r pridd.

34:16 Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion.

34:17 A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol?

34:18 A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion?

34:19 Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll.

34:20 Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a’r cadarn a symudir heb waith llaw.

34:21 Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef.

34:22 Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio.

34:23 Canys ni esyd DUW arddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith a Duw.

34:24 Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.

34:25 Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir.

34:26 Efe a’u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg:

34:27 Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef:

34:28 Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol.

34:29 Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig?

34:30 Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl.

34:31 Ond wrth DDUW, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;

34:32 Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy.

34:33 Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a’i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis, ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost.

34:34 Gwŷr call, dywedant i mi; a’r gŵr doeth, dywed fi.

34:35 Job a ddywedodd yn annoeth; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb.

34:36 Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir.

34:37 Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw.

PENNOD 35

35:1 A Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,

35:2 A gyfrifaist di yn uniawn ddywedyd ohonot, Y mae fy nghyfiawnder i yn fwy na’r eiddo Duw?

35:3 Canys dywedaist. Pa les a wna hynny i ti? pa beth a enillaf, er fy nglanhau oddi wrth fy mhechod?

35:4 Myfi a atebaf i ti, ac i’th gyfeillion gyda thi.

35:5 Edrych ar y nefoedd, a gwêl; ac edrych ar y cymylau, y rhai sydd uwch na thi.

35:6 Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os arni fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef?

35:7 Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di?

35:8 I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth.

35:9 Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i’r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn.

35:10 Ond ni ddywed neb, Pa le y mae DUW, yr hwn a’m gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?

35:11 Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear, ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd.

35:12 Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe.

35:13 Diau na wrendy DUW oferedd, ac nad edrych yr Hollalluog arno.

35:14 Er dywedyd ohonot na weli ef, eto y mae barn ger ei fron ef: disgwyl dithau wrtho.

35:15 Ac yn awr, am nad yw felly, efe a ymwelodd yn ei ddigofaint; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi:

35:16 Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth.

PENNOD 36

36:1 A Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,

36:2 Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros DDUW.

36:3 O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawn¬der.

36:4 Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi.

36:5 Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe.

36:6 Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid.

36:7 Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir.

36:8 Ac os hwy a rwymir a gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder;

36:9 Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt:

36:10 Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd.

36:11 Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch.

36:12 Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth.

36:13 Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt.

36:14 Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan.

36:15 Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.

36:16 Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster.

36:17 Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot.

36:18 Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr.

36:19 A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth.

36:20 Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle.

36:21 Ymochel, nac edrych ar anwiredd; canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd.

36:22 Wele, DUW trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe?

36:23 Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd?

36:24 Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion.

36:25 Pob dyn a’i gwêl, a dyn a’i cenfydd o bell.

36:26 Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.

36:27 Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth;

36:28 Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth.

36:29 Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef?

36:30 Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr.

36:31 Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth.

36:32 Efe a guddia y goleuni a chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt.

36:33 Ei dwrf a fynega amdano, a’r anifeiliaid am y tarth.

PENNOD 37

37:1 Wrth hyn hefyd y cryn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle.

37:2 Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef.

37:3 Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear.

37:4 Swn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef.

37:5 DUW a wna daranau a’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni.

37:6 Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef.

37:7 Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.

37:8 Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le.

37:9 O’r deau y daw corwynt, ac oerni oddi wrth y gogledd.

37:10 A’i wynt y rhydd DUW rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir.

37:11 Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau.

37:12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy both bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear.

37:13 Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod.

37:14 Gwrando hyn. Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw.

37:15 A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd DUW hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu?

37:16 A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith-gwbl o wybodaeth?

37:17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel a’r deheuwynt?

37:18 A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig?

37:19 Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch.

37:20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef.

37:21 Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt.

37:22 O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy.

37:23 Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe.

37:24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.

PENNOD 38

38:1 Yna yr ARGLWYDD a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd,

38:2 Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth.

38:3 Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti.

38:4 Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall.

38:5 Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi?

38:6 Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi,

38:7 Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw?

38:8 A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth?

38:9 Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo,

38:10 Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau,

38:11 Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.

38:12 A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle,

38:13 I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi?

38:14 Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.

38:15 Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.

38:16 A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder?

38:17 A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau?

38:18 A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd.

38:19 Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch,

38:20 Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dy ef?

38:21 A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?

38:22 A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,

38:23 Y rhai a gedwais i hyd amser cyf-yngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?

38:24 Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?

38:25 Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,

38:26 I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn, ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?

38:27 I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?

38:28 A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?

38:29 O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd?

38:30 Y dyfroedd a guddir megis â charreg’, ac wyneb y dyfnder a rewodd.

38:31 A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?

38:32 A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion?

38:33 A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?

38:34 A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?

38:35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni?

38:36 Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon?

38:37 Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd.

38:38 Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd?

38:39 A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod,

38:40 Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?

38:41 Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar DDUW, gwibiant o eisiau bwyd.

PENNOD 39

39:1 A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu? a fedri di wylied yr amser y bwrw yr ewigod loi?

39:2 A gyfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy? ac a wyddost ti yr amser y llydnant?

39:3 Ymgrymant, bwriant eu llydnod, ac ymadawant â’u gofid.

39:4 Eu llydnod a gryfha, cynyddant yn y maes: ânt allan, ac ni ddychwelant atynt hwy.

39:5 Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt?

39:6 Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dy iddo, a’r diffeithwch yn drigfa iddo.

39:7 Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad.

39:8 Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn.

39:9 A gytuna yr unicorn i’th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di?

39:10 A rwymi di unicorn â’i did mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di?

39:11 A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo?

39:12 A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i’th lawr dyrnu di?

39:13 A roddaist ti adenydd hyfryd i’r peunod? neu adenydd a phlu i’r estrys?

39:14 Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear, ac a’u cynhesa yn y llwch;

39:15 Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt, neu anifail y maes eu sathru.

39:16 Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn;

39:17 Oblegid na roddes DUW iddi ddoethineb, ac na chyfrannodd iddi ddeall.

39:18 Yr amser yr ymgodo hi yn uchel, hi a ddiystyra y march a’i farchog.

39:19 A roddaist ti gryfder i farch? neu a ddysgaist iddo weryru?

39:20 A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef.

39:21 Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn, ac efe a lawenycha yn ei gryfder: efe a â allan i gyfarfod arfau.

39:22 Efe a ddiystyra arswyd, ac ni ddychryna efe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf.

39:23 Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn, y ddisglair waywffon a’r darian.

39:24 Efe a Iwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd: ac ni chred mai llais yc utgorn yw.

39:25 Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn. Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion, a’r bloeddio.

39:26 Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch, ac y lleda efe ei adenydd tua’r deau?

39:27 Ai wrth dŷ orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr, ac y gwna efe ei nyth yn uchel?

39:28 Y trig efe ac yr erys mewn craig; ac ar ysgithredd y graig, a’r lle cadarn?

39:29 Oddi yno y chwilia am fwyd; ei lygaid a ganfyddant o bell.

39:30 Ei gywion hefyd a sugnant waed: a lle y byddo celanedd, yno y bydd efe.

PENNOD 40

40:1 Yr ARGLWYDD hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,

40:2 Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo DDUW, atebed i hynny.

40:3 A Job a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd,

40:4 Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.

40:5 Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.

40:6 A’r ARGLWYDD a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd,

40:7 Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi.

40:8 A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun?

40:9 A oes i ti fraich fel i DDUW? neu a wnei di daranau a’th lais fel yntau?

40:10 Ymdrwsia yn awr â mawredd ac a godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch.

40:11 Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr.

40:12 Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle.

40:13 Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig.

40:14 Yna hefyd myfi a addefaf i ti; y gall dy ddeheulaw dy achub.

40:15 Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych.

40:16 Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol.

40:17 Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig.

40:18 Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn.

40:19 Pennaf o ffyrdd DUW ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesau ato ef.

40:20 Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.

40:21 Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd.

40:22 Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant a’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant.

40:23 Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn.

40:24 A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef a bachau?

PENNOD 41

41:1 A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?

41:2 A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei en ef a mynawyd?

41:3 A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg?

41:4 A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol?

41:5 A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau?

41:6 A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr?

41:7 A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau?

41:8 Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy.

41:9 Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef?

41:10 Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i?

41:11 Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw.

41:12 Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd-dra ei ystum ef.

41:13 Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef a’i ffrwvn ddauddyb- lyg?

41:14 Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef.

41:15 Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth.

41:16 Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt.

41:17 Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy.

41:18 Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.

41:19 Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef.

41:20 Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig.

41:21 Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau.

41:22 Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef.

41:23 Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo.

41:24 Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin.

41:25 Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhant.

41:26 Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig.

41:27 Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.

41:28 Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.

41:29 Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.

41:30 Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.

41:31 Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.

41:32 Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.

41:33 Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.

41:34 Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.

PENNOD 42

42:1 A Job a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd,

42:2 Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt.

42:3 Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn.

42:4 Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau.

42:5 Myfi a glywais a’m clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a’th welodd di.

42:6 Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.

42:7 Ac wedi dywedyd o’r ARGLWYDD y geiriau hyn wrth Job, yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad, Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job.

42:8 Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddied fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job.

42:9 Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt. A’r ARGLWYDD a dderbyniodd wyneb Job.

42:10 Yna yr ARGLWYDD a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a’r ARGLWYDD a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg.

42:11 Yna ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a’i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr ARGLWYDD arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur.

42:12 Felly yr ARGLWYDD a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na’i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod.

42:13 Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched.

42:14 Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren-happuc.

42:15 Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a’u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr.

42:16 A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o’i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth.

42:17 Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.