Beibl (1620)/Exodus

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Genesis Beibl (1620)
Exodus
Exodus
wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Lefiticus

Ail lyfr Moses, yr hwn a elwir

Exodus.

Pennod I.

1 Plant Israel, ar ol marwolaeth Joseph, yn amlhâu. 8 Po mwyaf y mae y brenhin newydd yn eu gorthrymmu, mwyaf y maent yn amlhâu. 15 Duwioldeb y bydwragedd, yn cadw yn fyw y plant gwrryw. 22 Pharaoh yn gorchymyn bwrw y plant gwrryw i’r afon.

Dyma yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i'r Aipht: gyd â Jacob y ddaethant, bob un a'i deulu.

2 Reuben, Simeon, Lefi, a Judah,

3 Issachar, Zabulon, a Benjamin,

4 Dan, a Naphtali, Gad, ac Aser.

5 A’r holl eneidiau a ddaethant allan o gorph Jacob oedd ddeng henaid a thri ugain: a Joseph oedd yn yr Aipht.

6 A Joseph a fu farw, a’i holl frodyr, a’r holl genhedlaeth honno.

7 ¶ A phlant Israel a hiliasant ac a gynnyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth, a’r wlad a lanwyd ohonynt.

8 Yna y cyfododd brenhin newydd yn yr Aipht, yr hwn nid adnabuasai mo Joseph.

9 Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele, bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni.

10 Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt, rhag amlhâu o honynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgyssylltu o honynt â’n caseion, a rhyfela i’n herbyn, a myned i fynu o’r wlad.

11 Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid-gwaith, i’w gorthrymmu â’u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharaoh ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.

12 Ond fel y gorthrymment hwynt, felly yr amlhâent, ac y cynnyddent: a drwg oedd ganddynt o herwydd plant Israel.

13 A’r Aiphtiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed.

14 A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy y gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed.

15 A brenhin yr Aipht a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebrëesau; o ba rai enw un oedd Siprah, ac enw yr ail Puah:

16 Ac efe a ddywedodd. Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebrëesau, a gweled o honoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.

17 Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywedasai brenhin yr Aipht wrthynt, eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.

18 Am hynny brenin yr Aipht a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?

19 A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharaoh, Am nad yw yr Hebrëesau fel yr Aiphtiesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig attynt.

20 Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.

21 Ac o herwydd i’r bydwragedd ofni Duw, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau.

22 A Pharaoh a orchymynodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.

Pennod II.

1 Geni Moses, 3 a’i fwrw mewn cawell yn yr hesg. 5 Merch Pharaoh yn ei gael ef, ac yn ei ddwyn i fynu. 11 Efe yn lladd Aiphtwr: 13 yn ceryddu Hebrëwr: 15 yn ffoi i Midian: 21 yn prïodi Sephorah. 22 Genedigaeth Gersom. 23 Duw yn ystyried uchenaid yr Israeliaid.

Yna gwr o dŷ Lefi a aeth, ac a brïododd ferch i Lefi.

2 A’r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi al cuddiodd ef dri mis.

3 A phan na allai hi ei guddio ef yn hŵy, hi a gymmerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a’i rhoddodd ym mysg yr hesg ar fin yr afon.

4 A’i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wnaid iddo ef.

5 ¶ A merch Pharaoh a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi; (a’i llangcesau oedd yn rhodio ger llaw yr afon;) a hi a ganfu y cawell y’nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llaw-fonwyn i’w gyrchu ef.

6 Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu y bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn.

7 Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrtli ferch Pharaoh, A âf fi i alw attat fammaeth o’r Hebrëesau, fel y mago hi y bachgen i ti?

8 A merch Pharaoh a ddywedodd wrthi, Dos. A’r llangces a aeth ac a alwodd fam y bachgen.

9 A dywedodd merch Pharaoh wi’thi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A’r wraig a gymmerodd y bachgen, ac a’i magodd.

10 Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a’i dug ef i ferch Pharaoh; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; herwydd, eb hi, o’r dwfr y tynnais ef.

11 ¶ A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned o hono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Aiphtwr yn taro Hebrëwr, un o’i frodyr.

12 Ac efe a edrychodd yma ac accw; a phan Avelodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Aiphtiad, ac a’i cuddiodd yn y tywod.

13 Ac efe a aeth allan yr ail dydd; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y tarewi dy gyfaill?

14 A dywedodd yntau, Pwy a’th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Aiphtiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Dïau y gwyddir y peth hyn.

15 Pan glybu Pharaoh y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharaoh, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew.

16 Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a’r rhai hynny a ddaethant ac a dynnasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhâu defaid eu tad.

17 Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a’u gyrrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a’u cynnorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.

18 Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddyw cyn gynted?

19 A hwy a ddywedasant, Aiphtwr a’n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd.

20 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gwr? Gelwch arno, a bwyttâed fara.

21 A bu Moses foddlawn i drigo gyd â’r gwr: ac yntau a roddodd Sephorah ei ferch i Moses.

22 A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: O herwydd dïeithr, eb efe, a fûm i mewn gwlad ddïeithr.

23 ¶ Ac yn ol dyddiau lawer, bu farw brenhin yr Aipht; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a’u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at Dduw, oblegid y caethiwed.

24 A Duw a glybu eu huchenaid hwynt; a Duw a gofiodd ei gyfammod âg Abraham, âg Isaac, ac â Jacob.

25 A Duw a edrychodd ar blant Israel; Duw hefyd a gydnabu â hwynt.

Pennod III.

1 Moses yn hugeilio defaid Jethro. 2 Duw yn ymddangos iddo mewn perth yn llosgi: 9 ac yn ei anfon ef i waredu Israel. 14 Enw Duw. 15 Ei gennadwriaeth ef at Israel.

A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd Duw, Horeb.

2 Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa.

3 A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw y berth wedi llosgi.

4 Pan welodd yr Arglwydd ei fod efe yn troi i edrych, Duw a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi.

5 Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: dïosg dy esgidiau oddi am dy draed; o herwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd.

6 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar Dduw.

7 ¶ A dywedodd yr Arglwydd, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aipht, a’u gwaedd o achos eu meistriaid-gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.

8 A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.

9 Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth attaf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymmodd yr Aiphtiaid hwynt.

10 Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharaoh; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aipht.

11 ¶ A dywedodd Moses wrth Dduw, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharaoh, ac y dygwn blant Israel allan o’r Aipht?

12 Dywedodd yntau, Dïau y byddaf gyd â thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aipht, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.

13 A dywedodd Moses wrth Dduw, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a’m hanfonodd attoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt?

14 A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel, YDWYF a’m hanfonodd attoch.

15 A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, a’m hanfonodd attoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

16 Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd. Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aipht.

17 A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.

18 A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aipht, a dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, attolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.

19 ¶ A mi a wn na edy brenin yr Aipht i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn.

20 Am hynny mi a estynaf fy llaw, ac a drawaf yr Aipht â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith.

21 A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn y’ngolwg yr Aiphtiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw;

22 Ond pob gwraig a fenthyccia gan ei chymmydoges, a chan yr hon fyddo yn cyttal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a’u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a yspeiliwch yr Aiphtiaid.


PENNOD IV.

1 Troi gwïalen Moses yn sarph. 6 Ei law ef yn gwahan-glwyfo. 10 Efe yn anewyllysgar i’w anfon. 14 Appwyntio Aaron i’w helpu ef. 18 Moses yn ymadael oddi wrth Jethro. 21 Cennadwriaeth Duw at Pharaoh. 24 Danfon Aaron i gyfarfod â Moses. 31 Y bobl yn credu iddynt.

A Moses a attebodd, ac a ddywedodd, Etto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti.

2 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwïalen.

3 Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarph: a Moses a giliodd rhagddi.

4 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wïalen yn ei law ef:

5 Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.

6 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahan-glwyfol fel yr eira.

7 Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef.

8 A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, etto y credant i lais yr ail arwydd.

9 A bydd, oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymmeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymmerech o’r afon yn waed ar y tir sych.

10 ¶ A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, O fy Arglwydd, ni bûm wr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr Arglwydd?

12 Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyd â’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.

13 Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, attolwg, gyd â’r hwn a ddanfonych.

14 Ac ennynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon.

15 Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyd â’th enau di, a chyd â’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.

16 A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau.

17 Cymmer hefyd y wïalen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.

18 ¶ A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gâd i mi fyned, attolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aipht, a gweled a ydynt etto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.

19 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aipht; o herwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes.

20 A Moses a gymmerth ei wraig, a’i feibion, ac a’u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aipht: cymmerodd Moses hefyd wïalen Duw yn ei law.

21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aipht, gwel i ti wneuthur ger bron Pharaoh yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.

22 A dywed wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel.

23 A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf-anedig.

24 ¶ A bu, ar y ffordd yn y lletty, gyfarfod o’r Arglwydd âg ef, a cheisio ei ladd ef.

25 Ond Sephorah a gymmerth gyllell lèm, ac a dorrodd ddïenwaediad ei mab, ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef; ac a ddywedodd, Dïau dy fod yn brïod gwaedlyd i mi.

26 A’r Arglwydd a beidiodd âg ef: yna y dywedodd hi, Prïod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

27 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu âg ef ym mynydd Duw, ac a’i cusanodd ef.

28 A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd, yr hwn a’i hanfonasai ef, a’r holl arwyddion a orchymynasai efe iddo.

29 ¶ A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynnullasant holl henuriaid meibion Israel.

30 Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion y’ngolwg y bobl.

31 A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymmasant, ac a addolasant.


PENNOD V.

1 Pharaoh yn rhoddi sèn i Moses ac Aaron am eu cennadwriaeth: 5 yn ychwanegu tasg yr Israeliaid: 15 yn eu ceryddu hwynt am eu hachwynion. 21 Hwythau yn llefain yn erbyn Moses ac Aaron. 22 Moses yn cwyno wrth Dduw.

Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont wyl i mi yn yr anialwch.

2 A dywedodd Pharaoh, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandâwn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.

3 A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gâd i ni fyned, attolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf.

4 A dywedodd brenhin yr Aipht wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i’r bobl beidio â’u gwaith? ewch at eich beichiau.

5 Pharaoh hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â’u llwythau.

6 A gorchymynnodd Pharaoh, y dydd hwnnw, i’r rhai oedd feistriaid-gwaith ar y bobl a’u swyddogion, gan ddywedyd,

7 Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur priddfeini, megis o’r blaen; elant a chasglant wellt iddynt eu hunain.

8 A rhifedi y priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt; na leihêwch o hynny: canys segur ydynt, am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gâd i ni fyned ac aberthu i’n Duw.

9 Trymhâer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.

10 ¶ A meistriaid-gwaith y bobl, a’u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharaoh, Ni roddaf wellt i chwi.

11 Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leihêir dim o’ch gwaith.

12 A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aipht, i gasglu sofl yn lle gwellt.

13 A’r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorphenwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.

14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharaoh arnynt hwy, a dywedwyd, Paham na orphenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddyw, megis cyn hynny?

15 ¶ Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharaoh, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â’th weision?

16 Gwellt ni roddir i’th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a’th bobl di dy hun sydd ar y bai.

17 Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd. Gâd i ni fyned ac aberthu i’r Arglwydd.

18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; etto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini.

19 A swyddogion meibion Israel a’u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihêwch ddim o’ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.

20 ¶ A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharaoh:

21 A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i’n sawyr ni ddrewi ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni.

22 A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y’m hanfonaist?

23 Canys er pan ddeuthum at Pharaoh, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.


PENNOD VI.

1 Duw yn adnewyddu ei addewid, trwy ei enw JEHOFAH. 14 Achau Reuben, 15 Simeon, 16 a Lefi, o’r hwn y daeth Moses ac Aaron.

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharaoh: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt o’i wlad.

2 Duw hefyd a lefarodd with Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH.

3 A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw Duw Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt.

4 Hefyd mi a sicrheais fy nghyfammod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi.

5 A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Aiphtiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfammod.

6 Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau y; Aiphtiaid, ac a’ch rhyddhâf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.

7 Hefyd mi a’ch cymmerafyri bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid.

8 A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.

9 ¶ A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled.

10 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

11 Dos i mewn; dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad.

12 A Moses a lefarodd ger bron yr Arglwydd, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y’m gwrandawai Pharaoh, a minnau yn ddïenwaededig o wefusau?

13 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharaoh brenhin yr Aipht, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aipht.

14 ¶ Dyma eu pen-cenedl hwynt: meibion Reuben, y cyntaf-anedig i Israel: Hanoch, a Phàlu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben.

15 A meibion Simeon; Jemuel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanees: dyma deuluoedd Simeon.

16 ¶ Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ol eu cenedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain.

17 Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ol eu teuluoedd.

18 A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Uzziel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chàn mlynedd.

19 Meibion Merari oedd Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ol eu cenedlaethau.

20 Ac Amram a gymmerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chàn mlynedd.

21 ¶ A meibion Ishar; Corah, a Nepheg, a Sicri.

22 A meibion Uzziel; Misael, ac Elsaphan, a Sithri.

23 Ac Aaron a gymmerodd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.

24 Meibion Corah hefyd; Assir, ac Elcanah, ac Abiasaph: dyma deuluoedd y Corahiaid.

25 Ac Eleazar, mab Aaron, a gymmerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel; a hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ol eu teuluoedd.

26 Dyma Aaron a Moses, y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aipht, yn ol eu lluoedd.

27 Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aipht: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.

28 ¶ A bu, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aipht,

29 Lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd: dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, yr hyn oill yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt.

30 A dywedodd Moses ger bron yr Arglwydd, Wele fi yn ddïenwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharaoh arnaf?


PENNOD VII.

1 Duw yn rhoi calon ym Moses i fyned at Pharaoh. 7 Ei oedran ef. 8 Ei wïalen ef yn troi yn sarph. 11 Yr hudolion yn gwneuthur y cyffelyb. 13 Caledu calon Pharaoh. 14 Cennadwriaeth Duw at Pharaoh. 19 Troi yr afon yn waed.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwel, mi a’th wneuthum yn dduw i Pharaoh: ac Aaron dy frawd fydd yn brophwyd i tithau.

2 Ti a leferi yr hyn oll a orchymynwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharaoh, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o’i wlad.

3 A minnau a galedaf galon Pharaoh, ac a amlhâf fy arwyddion a’m rhyfeddodau y’ngwlad yr Aipht.

4 Ond ni wrendy Pharaoh arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aipht; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aipht, trwy farnedigaethau mawrion.

5 A’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan estynwyf fy llaw ar yr Aipht, a dwyn meibion Israel allan o’u mysg hwynt.

6 A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchymynodd yr Arglwydd iddynt; ïe, felly y gwnaethant.

7 A Moses ydoedd fab pedwar ugain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain, pan lefarasant wrth Pharaoh.

8 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

9 Pan lefaro Pharaoh wrthych, gan ddywedyd, Dangoswch gennych wyrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, Cymmer dy wïalen, a bwrw hi ger bron Pharaoh; a hi a â yn sarph.

10 ¶ A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharaoh, ac a wnaethant felly, megis y gorchymynasai yr Arglwydd: ac Aaron a fwriodd ei wïalen ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision; a hi a aeth yn sarph.

11 A Pharaoh hefyd a alwodd am y doethion, a’r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aipht, a wnaethant felly trwy eu swynion.

12 Canys bwriasant bob un ei wïalen; a hwy a aethant yn seirph: ond gwïalen Aaron a lyngcodd eu gwïail hwynt.

13 A chalon Pharaoh a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr Arglwydd.

14 ¶ A dywedodd yr Arglwydd with Moses, Caledodd calon Pharaoh; gwrthododd ollwng y bobl ymaith.

15 Dos at Pharaoh yn fore: wele efe a ddaw allan i’r dwfr; saf dithau ar làn yr afon erbyn ei ddyfod ef; a chymmer yn dy law y wïalen a drodd yn sarph.

16 A dywed wrtho ef, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a’m hanfonodd attat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit.

17 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: wele, myfi â’r wïalen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y tröer hwynt yn waed.

18 A’r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw, a’r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Aiphtiaid yfed dwfr o’r afon.

19 ¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Cymmer dy wïalen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aipht, ar eu ffrydiau, ar eu hafonydd, ac ar eu pyllau, ac ar eu holl lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aipht, yn eu llestri coed a cherrig hefyd.

20 A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchymynodd yr Arglwydd: ac efe a gododd ei wïalen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, y’ngŵydd Pharaoh, ac y’ngŵydd ei weision; a’r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a dröwyd yn waed.

21 A’r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a’r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Aiphtiaid yfed dwfr o’r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aipht.

22 A swynwyr yr Aipht a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharaoh, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

23 A Pharaoh a drodd ac a aeth i’w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon.

24 A’r holl Aiphtiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i’w yfed, canys ni allent yfed o ddwfr yr afon.

25 A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i’r Arglwydd daro’r afon.


PENNOD VIII.

1 Danfon llyffaint. 8 Pharaoh yn ymbil â Moses. 12 A Moses trwy weddi yn eu tynnu hwynt ymaith. 16 Troi y llwch yn llau: yr hyn ni allai y swynwyr ei wneuthur. 20 Yr heidiau ednog. 25 Pharaoh yn lled-foddlawn i’r bobl fyned; 32 etto efe a galedir.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharaoh, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

2 Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a darawaf dy holl derfynau di â llyffaint.

3 A’r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i’th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.

4 A’r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.

5 ¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â’th wïalen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fynu ar hyd tir yr Aipht.

6 Ac Aaron a estynodd ei law ar ddyfroedd yr Aipht; a’r llyffaint a ddaethant i fynu, ac a orchuddiasant dir yr Aipht.

7 A’r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fynu lyffaint ar wlad yr Aipht.

8 ¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr Arglwydd, ar iddo dynnu’r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i’r Arglwydd.

9 A Moses a ddywedodd wrth Pharaoh, Cymmer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa y llyffaint oddi wrthyt, ac o’th dai, a’u gadael yn unig yn yr afon?

10 Ac efe a ddywedodd, Y fory. A dywedodd yntau. Yn ol dy air y bydd; fel y gwypech nad oes neb fel yr Arglwydd ein Duw ni.

11 A’r llyffaint a ymadawant â thi, ac â’th dai, ac â’th weision, ac â’th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt.

12 A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharaoh. A Moses a lefodd ar Arglwydd, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharaoh.

13 A’r Arglwydd a wnaeth yn ol gair Moses; a’r llyffaint a fuant feirw o’r tai, o’r pentrefydd, ac o’r meusydd.

14 A chasglasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad.

15 Pan welodd Pharaoh fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

16 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wïalen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aipht.

17 Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â’i wïalen, ac a darawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aipht.

18 A’r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu y llau ar ddyn ac ar anifail.

19 Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharaoh, Bys Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharaoh, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

20 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf ger bron Pharaoh; wele, efe a ddaw allan i’r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

21 O herwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i’th dai, gymmysgbla: a thai yr Aiphtiaid a lenwir o’r gymmysgbla, a’r ddaear hefyd yr hon y maent arni.

22 A’r dydd hwnnw y neillduaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo’r gymmysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd y’nghanol y ddaear.

23 A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a’th bobl di: y fory y bydd yr arwydd hwn.

24 A’r Arglwydd a wnaeth felly; a daeth cymmysgbla drom i dŷ Pharaoh, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aipht; a llygrwyd y wlad gan y gymmysgbla.

25 ¶ A Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i’ch Duw yn y wlad.

26 A dywedodd Moses, Nid cymmwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw ffieiddbeth yr Aiphtiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Aiphtiaid y’ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?

27 Taith tridiau yr awn i’r anialwch, a nyni a aberthwn i’r Arglwydd ein Duw, megis y dywedo efe wrthym ni.

28 A dywedodd Pharaoh, Mi a’ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i’r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch; ond nac ewch ym mhell: gweddïwch trosof fi.

29 A dywedodd Moses, Wele, myfi a âf allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr Arglwydd, ar gilio y gymmysgbla oddi wrth Pharaoh, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobi, y fory: ond na thwylled Pharaoh mwyach, heb ollwng ymaith y bobl, i aberthu i’r Arglwydd.

30 A Moses a aeth allan oddi wrth Pharaoh, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.

31 A gwnaeth yr Arglwydd yn ol gair Moses: a’r gymmysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharaoh, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl; ni adawyd un.

32 A Pharaoh a galedodd ei galon y waith honno hefyd, ac ni ollyngodd ymaith y bobl.


PENNOD IX.

1 Haint yr anifeiliaid. 8 Pla y cornwydydd llinorog. 13 Cennadwriaeth Moses ynghylch y cennlysg. 22 Pla y cenllysg. 28 Pharaoh yn ymbil â Moses; 35 ac er hynny efe a galedir.

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharaoh, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

2 Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac attal o honot hwynt eto,

3 Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.

4 A’r Arglwydd a neilldua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Aiphtiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel.

5 A gosododd yr Arglwydd amser nodedig, gan ddywedyd, Y fory y gwna’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad.

6 A’r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Aiphtiaid; ond o amfeiliaid meibion Israel ni bu farw un.

7 A Pharaoh a anfonodd, ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharaoh a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.

8 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses ac wrth Aaron, Cymmerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tu a’r nefoedd y’ngŵydd Pharaoh:

9 Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aipht; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aipht.

10 A hwy a gymmerasant ludw y ffwrn, ac a safasant ger bron Pharaoh: a Moses a’i taenodd tu a’r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail.

11 A’r swynwyr ni allent sefyll ger bron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Aiphtiaid.

12 A’r Arglwydd a galedodd galon Pharaoh, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd wrth Moses.

13 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf ger bron Pharaoh, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

14 Canys y waith hon yr anfonaf fy holl bläau ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.

15 O herwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a’th darawaf di a’th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.

16 Ac yn ddïau er mwyn hyn y’th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy yr holl ddaear.

17 A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl etto, heb eu gollwng hwynt ymaith?

18 Wele, mi a wlawiaf ynghylch yr amser yma y fory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aipht, o’r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.

19 Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes: phob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw.

20 Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharb, a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai;

21 A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes.

22 A’r Arglwydd a ddywedddd wrth Moses, Estyn dy law tu a’r nefoedd, fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aipht, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aipht.

23 A Moses a estynnodd ei wïalen tu a’r nefoedd: a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg, a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aipht.

24 Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymmeryd y’nghanol y cenllysg, yn flin iawn, yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aipht, er pan ydoedd yn genhedlaeth.

25 A’r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aipht, gwbl a’r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.

26 Yn unig y’ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.

27 ¶ A Pharaoh a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minnau a’m pobl yn annuwiol.

28 Gweddïwch ar yr Arglwydd (canys digon yw hyn) na byddo taranau Duw na chenllysg; a mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hŵy.

29 A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o’r ddinas mi a ledaf fy nwylaw at yr Arglwydd: a’r taranau a beidiant, a’r cenllysg ni bydd mwy, fel y gwypych mai yr Arglwydd bïau y ddaear.

30 Ond mi a wn nad wyt ti etto, na’th weision, yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw.

31 A’r llin a’r haidd a gurwyd, canys yr haidd oedd wedi hedeg, a’r llin wedi hadu:

32 A’r gwenith a’r rhŷg ni churwyd; o herwydd diweddar oeddynt hwy.

33 A Moses a aeth oddi wrth Pharaoh allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylaw at yr Arglwydd; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear.

34 A phan welodd Pharaoh beidio o’r glaw, a’r cenllysg, a’r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a’i weision.

35 A chaledwyd calon Pharaoh, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith, megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.


PENNOD X.

1 Duw yn bygwth anfon locustiaid. 7 Pharaoh, ar ddeisyfiad ei weision, yn lled-foddlawn i’r Israeliaid fyned ymaith. 12 Pla y locustiaid. 16 Pharaoh yn ymbil â Moses. 21 Pla y tywyllwch anferthol. 24 Pharaoh yn ymbil â Moses: 27 etto efe a galon-galedir.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharaoh: o herwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef:

2 Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aipht; a’m harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

3 A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

4 O herwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, y fory y dygaf locustiaid i’th fro;

5 A hwynt-hwy a orchuddiant wyneb y ddaear, fel na allo un weled y ddaear; a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddïangol gan y cenllysg, difant hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes.

6 Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Aiphtiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharaoh.

7 A gweision Pharaoh a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr Arglwydd eu Duw: Oni wyddost ti eto ddifetha’r Aipht?

8 A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharaoh: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw: ond pa rai sydd yn myned?

9 A Moses a ddywedodd, A’n llangciau, ac â’n hynafgwyr, yr awn ni; a’n meibion hefyd, ac â’n merched, â’n defaid, ac â’n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gwyl i’r Arglwydd.

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo yr Arglwydd gyd â chwi, ag y gollyngaf chwi, a’ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.

11 Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr Arglwydd: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharaoh.

12 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aipht am locustiaid, fel y delont i fynu ar dir yr Aipht; ac y bwyttaont holl lysiau y ddaear, sef y cwbl a’r a adawodd y cenllysg.

13 A Moses a estynodd ei wïalen ar dir yr Aipht: a’r Arglwydd a ddug ddwyrein-wynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.

14 A’r locustiaid a aethant i fynu dros holl wlad yr Aipht, ac a arhosasant ym mhob ardal i’r Aipht: blin iawn oeddynt; ni bu y fath locustiaid o’u blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb.

15 Canys toisant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aipht.

16 ¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.

17 Ac yn awr maddeu, attolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.

18 A Moses a aeth allan oddi wrth Pharaoh, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.

19 A’r Arglwydd a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymmerodd ymaith y locustiaid, ac a’u bwriodd hwynt i’r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aipht.

20 Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.

21 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law tu a’r nefoedd,, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aipht, tywyllwch a aller ei deimlo.

22 A Moses a estynodd ei law tu a’r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aipht dri diwrnod.

23 Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.

24 ¶ A galwodd Pharaoh am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd; arhôed eich defaid, a’ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyd â chwi.

25 A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylaw ebyrth a phoeth-offrymmau, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.

26 Aed ein hanifeiliaid hefyd gyd â ni; ni adewir ewin yn ol: oblegid o honynt y cymmerwn i wasanaethu yr Arglwydd ein Duw: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.

27 ¶ Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pharaoh, ac ni fynnai eu gollwng hwynt.

28 A dywedodd Pharaoh wrtho. Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.

29 A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.


PENNOD XI.

1 Cennadwriaeth Duw at yr Israeliaid i fenthyccio tlysau gan eu cymmydogion. 4 Moses yn bygwth Pharaoh â marwoldaeth y cyntafanedig.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Un bla etto a ddygaf ar Pharaoh, ac ar yr Aipht; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma: pan y’ch gollyngo, gan wthio efe a’ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl.

2 Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a benthyccied pob gwr gan ei gymmydog, a phob gwraig gan ei chymmydoges, ddodrefn arian, a dodrefn aur.

3 A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafr y’ngolwg yr Aiphtiaid: ac yr oedd Moses yn wr mawr iawn y’ngwlad yr Aipht, y’ngolwg gweision Pharaoh, ac y’ngolwg y bobl.

4 Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd; Ynghylch hanner nos yr âf fi allan i ganol yr Aipht.

5 A phob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharaoh, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrn-gadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaeth-ferch sydd ar ol y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail.

6 A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aipht, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.

7 Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symmud ci ei dafod, ar ddyn, nac anifail; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Aiphtiaid ac Israel.

8 A’th holl weision hyn a ddeuant i waered attaf fi, ac a ymgrymmant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ol; ac wedi hynny yr âf fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharaoh mewn digllonedd llidiog.

9 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Ni wrendy Pharaoh arnoch; fel yr amlhâer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aipht.

10 A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn ger bron Pharaoh: a’r Arglwydd a galedodd galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad.


PENNOD XII.

1 Newidio dechreuad y flwyddyn. 3 Ordeinio y Pasc. 11 Defod y Pasc. 15 Bara croyw. 29 Marwolaeth y cyntaf-anedig. 31 Gyrru yr Israeliaid allan o’r tir. 37 Hwythau yn dyfod i Succoth. 43 Ordinhâd y Pasc.

Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aipht, gan ddywedyd,

2 Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.

3 ¶ Lleferwch wrth holl gynnulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymmerant iddynt bob un oen, yn ol teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu.

4 Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen, efe a’i gymmydog nesaf i’w dŷ a’i cymmer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ol ei fwytta a gyfrifwch at yr oen.

5 Bydded yr oen gennych yn berffeith-gwbl, yn wrryw, ac yn llwdn biwydd: o’r defaid, neu o’r geifr, y cymmerwch ef.

6 A bydded y’nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynnulleidfa Israel ef yn y cyfnos.

7 A chymmerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gappan drws y tai y bwyttânt ef ynddynt.

8 A’r cig a fwyttânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyd â dail surion y bwyttânt ef.

9 Na fwyttêwch o hono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyd â’i draed a’i ymysgaroedd.

10 Ac na weddillwch ddim o hono hyd y bore: a’r hyn fydd y’ngweddill o hono erbyn y bore, llosgwch yn tân.

11 ¶ Ac fel hyn y bwyttêwch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a’ch esgidiau am eich traed, a’ch ffyn yn eich dwylaw: bwyttêwch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe.

12 O herwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aipht y nos hon, ac a darawaf bob cyntaf-anedig o fewn tir yr Aipht, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aipht: myfi yw yr Arglwydd.

13 A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr âf heibio i chwi, ac ni bydd pla dinystriol arnoch chwi, pan darawyf dir yr Aipht.

14 A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn wyl i’r Arglwydd trwy eich cenhedlaethau: cedwch ef yn wyl trwy ddeddf dragwyddol.

15 Saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw, y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai; o herwydd pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.

16 Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymmanfa sanctaidd, a chymmanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwytty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur.

17 Cedwch hefyd wyl y bara croyw; o herwydd o fewn corph y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aipht: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenhedlaethau, trwy ddeddf dragwyddol.

18 ¶ Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd at ddeg o’r mis yn yr hwyr, y bwyttêwch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o’r mis yn yr hwyr.

19 Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dïeithr a’r prïodor.

20 Na fwyttêwch ddim lefeinllyd: bwyttêwch fara croyw yn eich holl drigfannau.

21 ¶ A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymmerwch i chwi oen yn ol eich teuluoedd, a lleddwch y Pasc.

22 A chymmerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o’r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore.

23 O herwydd yr Arglwydd a dramwya i daro yr Aiphtiaid: a phan welo efe y gwaed ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i’r drws, ac ni âd i’r dinystrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinystrio,

24 A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dragywydd.

25 A phan ddeloch i’r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn.

26 A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych?

27 Yna y dywedwch, Aberth Pasc yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aipht, pan drawodd efe yr Aiphtiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymmodd y bobl, ac yr addolasant.

28 A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, felly y gwnaethant.

29 ¶ Ac ar hanner nos y tarawodd y Arglwydd bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig Pharaoh yr hwn a eisteddai ar ei frenhin-faingc, hyd gyntaf-anedig y gaethes oedd yn y carchardy; a phob cyntaf-anedig i anifail.

30 A Pharaoh a gyfododd liw nos, efe a’i holl weision, a’r holl Aiphtiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aipht: oblegid nid oedd dŷ a’r nad ydoedd un marw ynddo.

31 ¶ Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, Codwchh, ewch allan o fysg fy mhobl, chwi a meibion Israel hefyd; ac ewch, a gwasanaethwch yr Arglwydd, fel y dywedasoch.

32 Cymmerwch eich defaid, a’ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau.

33 A’r Aiphtiaid a fuant daerion ar y bobl, gan eu gyrru ar ffrwst allan o’r wlad; oblegid dywedasant, Dynion meirw ydym ni oll.

34 A’r bobl a gymmerodd eu toes cyn ei lefeinio, a’u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau.

35 A meibion Israel a wnaethant yn ol gair Moses; ac a fenthycciasant gan yr Aiphtiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd.

36 A’r Arglwydd a roddasai i’r bobl hawddgarwch y’ngolwg yr Aiphtiaid, fel yr echwynasant iddynt: a hwy a yspeiliasant yr Aiphtiaid.

37 ¶ A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth, y’nghylch chwe chàn mil o wŷr traed, heb law plant.

38 A phobl gymmysg lawer a aethant i fynu hefyd gyd â hwynt; defaid hefyd a gwartheg, sef dâ lawer iawn.

39 A hwy a bobasant y toes a ddygasent allan o’r Aipht yn deisennau croyw; o herwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o’r Aipht, ac ni allasant aros, ac ni pharottoisent iddynt eu hun luniaeth.

40 ¶ A phreswyliad meibion Israel, tra y y trigasant yn yr Aipht, oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd.

41 Ac ym mhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd, ïe, o fewn corph y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aipht.

42 Nos yw hon i’w chadw i’r Arglwydd, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aipht: nos yr Arglwydd yw hon, i holl feibion Israel i’w chadw trwy eil hoesoedd.

43 ¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasc: na fwyttâed neb dïeithr o hono.

44 Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwytty o hono.

45 Yr alltud, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta o hono.

46 Mewn un tŷ y bwyttêir ef: na ddwg ddim o’r cig allan o’r tŷ, ac na thorrwch asgwrn o hono.

47 Holl gynnulleidfa Israel a wnant hynny.

48 A phan arhoso dïeithr gyd â thi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrrywiaid ef, ac yna nesâed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwyttâed neb dïenwaededig o hono.

49 Yr un gyfraith fydd i’r prïodor, ac i’r dïeithr a arhoso yn eich mysg.

50 Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.

51 Ac o fewn corph y dydd hwnnw y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aipht, yn ol eu lluoedd.


PENNOD XIII.

1 Cyssegru y cyntaf-anedig i Dduw. 3 Gorchymyn cadw coffadwriaeth o’r Pasc. 11 Neillduo y cyntaf o’r anifeiliaid. 17 Yr Israeliaid wrth fyned allan o’r Aipht yn dwyn esgyrn Joseph gyd â hwynt. 20 Yn dyfod i Etham. 21 Duw yn eu harwain mewn colofn o niwl a cholofn o dân.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Cyssegra i mi bob cyntaf-anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ym mysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.

3 ¶ A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwyttâer bara lefeinllyd.

4 Heddyw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib.

5 ¶ A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn.

6 Saith niwrnod y bwyttêi fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gwyl i’r Arglwydd.

7 Bara croyw a fwyttêir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyd â thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau.

8 ¶ A mynega i’th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, O herwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi pan ddeuthum allan o’r Aipht, y gwneir hyn.

9 A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau: o herwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aipht.

10 Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn.

11 ¶ A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a’i rhoddi i ti,

12 Yna y neilldui i’r Arglwydd bob cyntaf-anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrrywiaid eiddo yr Arglwydd fyddant.

13 A phob cyntaf i asyn a bryni di âg oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf-anedig o’th feibion a bryni di hefyd.

14 A phan ofynno dy fab ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed.

15 A phan oedd anhawdd gan Pharaoh ein gollwng ni, y lladdodd yr Arglwydd bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bob gwrryw a agoro y groth; ond pob cyntaf-anedig o’m meibion a brynaf.

16 A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhagdalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht.

17 ¶ A phan ollyngodd Pharaoh y bobl, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i’r bobl edifarhâu pan welant ryfel, a dychwelyd i’r Aipht.

18 Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aipht.

19 A Moses a gymmerodd esgyrn Joseph gyd âg ef: o herwydd efe a wnelsai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, Duw a ymwêl â chwi yn ddïau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyd â chwi.

20 ¶ A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, y’nghwrr yr anialwch.

21 A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.

22 Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na’r golofn dân y nos, o flaen y bobl.


PENNOD XIV.

1 Duw yn hyfforddi yr Israeliaid yn eu taith. 5 Pharaoh yn erlid ar eu hol hwynt. 10 Yr Israeliaid yn tuchan. 13 Moses yn eu cysuro hwy. 15 Duw yn dysgu i Moses beth a wnai. 19 Y niwl yn symmudo i’r tu ol i’r gwersyll. 21 Yr Israeliaid yn myned trwy y môr coch; 23 a’r Aiphtiaid yn boddi ynddo.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o flaen Baal-sephon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrthi y môr.

3 Canys dywed Pharaoh am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; cauodd yr anialwch arnynt.

4 A mi a galedaf galon Pharaoh, fel yr erlidio ar eu hol hwynt: felly y’m gogoneddir ar Pharaoh, a’i holl fyddin; a’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. Ac felly y gwnaethant.

5 ¶ A mynegwyd i frenhin yr Aipht, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharaoh a’i weisionyn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o’n gwasanaethu?

6 Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymmerodd ei bobl gyd âg ef.

7 A chymmerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aipht, a chapteiniaid ar bob un o honynt.

8 A’r Arglwydd a galedasai galon Pharaoh brenhin yr Aipht, ac efe a ymlidiodd ar ol meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.

9 A’r Aiphtiaid a ymlidiasant ar eu hol hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharaoh, a’i wŷr meirch, a’i fyddin, ac a’u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, ger llaw Pihahiroth, o flaen Baal-sephon.

10 ¶ A phan nesaodd Pharaoh, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Aiphtiaid yn dyfod ar eu hol; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd.

11 A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aipht, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aipht?

12 Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aipht, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Aiphtiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu yr Aiphtiaid, na marw yn yr anialwch.

13 ¶ A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddyw; oblegid yr Aiphtiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.

14 Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.

15 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Paham y gweiddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt.

16 A chyfod dithau dy wïalen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.

17 Wele, fi, ïe, myfi a galedaf galon yr Aiphtiaid, fel y delont ar eu hol hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharaoh, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar eu farchogion.

18 A’r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan y’m gogoneddir ar Pharaoh, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

19 ¶ Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symmudodd, ac a aeth o’u hol hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hol hwynt.

20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Aiphtiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmmwl ac yn dywyllwch i’r Aiphtiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.

21 A Moses a estynodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ol, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.

22 A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu deau, ac o’r tu aswy.

23 ¶ A’r Aiphtiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hol hwynt; sef holl feirch Pharaoh, a’i gerbydau, a’r farchogion, i ganol y môr.

24 Ac ar y wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Aiphtiaid trwy y golofn dân a’r cwmmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Aiphtiaid.

25 Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Aiphtiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aiphtiaid.

26 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo’r dyfroedd ar yr Aiphtiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

27 A Moses a estynodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth; a’r Aiphtiaid a ffoisant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ddymchwelodd yr Aiphtiaid yng nghanol y môr.

28 A’r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion: a holl fyddin Pharaoh, y rhai a ddaethant ar eu hol hwynt i’r môr: ni adawyd o honynt gymmaint ag un.

29 Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych y’nghanol y môr: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy.

30 Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Aiphtiaid: a gwelodd Israel yr Aiphtiaid yn feirw ar fin y môr.

31 A gwelodd Israel y grymmusder mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Aiphtiaid: a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i’r Arglwydd ac i’w was ef Moses.


PENNOD XV.

1 Cân Moses. 2 Y bobl ag eisieu dwfr arnynt. 23 Chwerw ddyfroedd Marah. 25 Pren yn eu pereiddio hwy. 27 Deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thri ugain, yn Elim.

Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a’i farchog i’r môr.

2 Fy nerth a’m cân yw yr Arglwydd; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddaf fi; Duw fy nhad, a mi a’i dyrchafaf ef.

3 Yr Arglwydd sydd ryfelwr: yr Arglwydd yw ei enw.

4 Efe a daflodd gerbydau Pharaoh a’i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch.

5 Y dyfnderau a’u toesant hwy; disgynasant i’r gwaelod fel carreg.

6 Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a’th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn.

7 Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a’u hysodd hwynt fel sofl.

8 Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant y’nghanol y môr.

9 Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr yspail; caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a’u difetha hwynt.

10 Ti a chwythaist â’th wynt; y môr a’u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.

11 Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ym mhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?

12 Estynaist dy ddeheulaw; llyngcodd y ddaear hwynt.

13 Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anneddle dy sancteiddrwydd.

14 Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palestina.

15 Yna y synna ar dduciaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a’u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.

16 Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o’th bobl di, Arglwydd, nes myned o’r bobl a ennillaist ti trwodd.

17 Ti a’u dygi hwynt i mewn, ac a’u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anneddle i ti, y cyssegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylaw.

18 Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragwydd.

19 O herwydd meirch Pharo, a’i gerbydau, a’i farchogion, a aethant i’r môr, a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych y’nghanol y môr.

20 ¶ A Miriam y brophwydes, chwaer Aaron, a gymmerodd dympan yn ei llaw, a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hol hi, â thympanau ac â dawnsiau.

21 A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a’r marchog i’r môr.

22 Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.

23 ¶ A phan ddaethant i Marah, ni allent yfed dyfroedd Marah, am eu bod yn chwerwon: o herwydd hynny y gelwir ei henw hi Marah.

24 A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?

25 Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd; a’r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a’i bwriodd i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt,

26 Ac a ddywedodd, Os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i’w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddai ar yr Aiphtiaid; o herwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di.

27 ¶ A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thri ugain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.


PENNOD XVI.

1 Yr Israeliaid yn dyfod i Sin; 2 ac yn tuchan o eisieu bara. 4 Duw yn addaw iddynt fara o’r nefoedd. 11 Danfon soflieir, 14 a manna. 16 Trefn y manna. 25 Na cheid ef ar y dydd Sabbath. 32 Cadw llonaid omer o hono ef.

A hwy a symmudasant o Elim; a holl gynnulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aipht.

2 A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.

3 A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd y’ngwlad yr Aipht, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwytta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.

4 ¶ Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a wlawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnant.

5 Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymmaint ag a gasglant beunydd.

6 A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aipht.

7 Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn?

8 Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwytta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr Arglwydd.

9 ¶ A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nês ger bron yr Arglwydd: o herwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.

10 Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tu a’r anialwch; ac wele, gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd yn y cwmmwl.

11 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

12 Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr y cewch fwytta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

13 Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll.

14 A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dippynau crynion cyn faned a’r llwydrew ar y ddaear.

15 Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i’w fwytta.

16 ¶ Hyn yw y peth a orchymynodd yr Arglwydd; Cesglwch o hono bob un yn ol ei fwytta: omer i bob un yn ol rhifedi eich eneidiau; cymmerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll.

17 A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai.

18 A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisieu ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ol el fwytta.

19 A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim o hono hyd y bore.

20 Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gadaw a wnaeth rhai o hono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.

21 A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ol ei fwytta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.

22 ¶ Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymmaint o fara, dau omer i un: a holl bennaethiaid y gynnulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Y fory y mae gorphwysfa Sabbath sanctaidd i’r Arglwydd: pobwch heddyw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.

24 A hwy a’i cadwasant hyd y bore, fel y gorchymynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.

25 A dywedodd Moses, Bwyttêwch hwn heddyw; oblegid Sabbath yw heddyw i’r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddyw.

26 Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Sabbath, ni bydd efe.

27 ¶ Etto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim.

28 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchymynion a’m cyfreithiau?

29 Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Sabbath; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd.

30 Felly y bobl a orphwysasant y seithfed dydd.

31 A thŷ Israel, a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wỳn, a’i flas fel afrllad o fêl.

32 ¶ A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd; Llanw omer o hono, i’w gadw i’ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi âg ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aipht.

33 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna, a gosod ef ger bron yr Arglwydd y’nghadw i’ch cenedlaethau.

34 Megis y gorchymynodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.

35 A meibion Israel a fwyttasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanneddol: manna a fwyttasant nes eu dyfod i gwrr gwlad Canaan.

36 A’r omer ydoedd ddegfed ran ephah.

PENNOD XVII.

1 Y bobl yn tuchan am ddwfr yn Rephidim. 5 Duw yn eu hanfon hwy am ddwfr i’r graig yn Horeb. 8 Gorchfygu Amalec trwy ddal dwylaw Moses i fynu. 15 Moses yn adeiladu yr allor JEHOFAH-Nissi.

A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ol gorchymyn yr Arglwydd, ac a wersyllasant yn Rephidim: ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed.

2 Am hynny y bobl a ymgynhenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd?

3 A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fynu o’r Aipht, i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid, â syched?

4 A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i’r bobl hyn? ar ben ychydig etto hwy a’m llabyddiant i.

5 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymmer gyd â thi o henuriaid Israel: cymmer hefyd dy wïalen yn dy law, yr hon y tarewaist yr afon â hi, a cherdda.

6 Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan o honi, fel y gallo y bobl yfed. A Moses a wnaeth felly y’ngolwg henuriaid Israel.

7 Ac efe a alwodd enw y lle Massah, a Meribah; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio yr Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?

8 ¶ Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd âg Israel yn Rephidim.

9 A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd âg Amalec: y fory mi a safaf ar ben y bryn, a gwïalen Duw yn fy llaw.

10 Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd âg Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fynu i ben y bryn.

11 A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.

12 A dwylaw Moses oedd drymion; a hwy a gymmerasant faen, ac a’i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynhaliasant ei ddwylaw ef, un ar y naill du, a’r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylaw ef sythion nes machludo yr haul.

13 A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf.

14 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddilëu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.

15 A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH-Nissi.

16 Canys efe a ddywedodd, O herwydd tyngu o’r Arglwydd, y bydd i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.

PENNOD XVIII.

1 Jethro yn dwyn at Moses ei wraig a’i ddau fab. 7 Moses yn ei groesawu ef. 13 Yntau yn derbyn cynghor Jethro. 27 Jethro yn ymadael.

Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aipht;

2 Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd Sephorah gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hol,)

3 A’i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dïeithr fûm mewn gwlad estronol.

4 Ac enw y llall oedd Eliezer: o herwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi, eb efe, ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharaoh.

5 A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu ger llaw mynydd Duw.

6 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod attat ti, a’th wraig a’i dau fab gyd â hi.

7 ¶ A Moses a aeth allan i gyfarfod â’i chwegrwn; ac a ymgrymmodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell.

8 A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharaoh ac i’r Aiphtiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt.

9 A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Aiphtiaid.

10 A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Aiphtiaid, ac o law Pharaoh; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Aiphtiaid.

11 Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch o hono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.

12 A Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd boeth-offrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwytta bara gyd â chwegrwn Moses, ger bron Duw.

13 ¶ A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu y bobl: a safodd y bobl ger bron Moses, o’r bore hyd yr hwyr.

14 A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oil yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd. Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r bore hyd yr hwyr?

15 A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod attaf i ymgynghori â Duw.

16 Pan fyddo iddynt achos, attaf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd, ac yn hysbysu deddfau Duw a’i gyfreithiau.

17 A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.

18 Tydi a lwyr ddiffygi, a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyd â thi: canys rhy drwm yw’r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.

19 Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd Duw gyd â thi: Bydd di dros y bobl ger bron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw.

20 Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnant.

21 Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni, Duw, gwŷr geirwir, yn casâu cybydd-dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

22 A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr attat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhêi arnat dy hun,a hwynt-hwy a ddygant y baich gyd â thi.

23 Os y peth hyn a wnei, a’i orchymyn o Dduw i ti; yna ti a elli barhâu, a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch.

24 A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.

25 A Moses a ddewisodd wŷr grymmus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

26 A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.

27 ¶ A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i’w wlad.

PENNOD XIX.

1 Y bobl yn dyfod i Sinai. 3 Cennadwriaeth Duw at y bobl trwy law Moses allan o’r mynydd. 8 Dwyn atteb y bobl at Dduw. 10 Parottôi y bobl erbyn y trydydd dydd. 12 Ni wasanaetha cyffwrdd â’r mynydd. 16 Dychrynllyd bresennoldeb Duw ar y mynydd.

Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.

2 Canys hwy a aethant o Rephidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai, gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd.

3 A Moses a aeth i fynu at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;

4 Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Aiphtiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais attaf fi fy hun.

5 Yn awr, gan hynny, os gan wrandaw y gwrandêwch ar fy llais, a chadw fy nghyfammod, chwi a fyddwch yn drysor prïodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddo fi yr holl ddaear.

6 A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma y geiriau a leferi di wrth feibion Israel.

7 ¶ A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchymynasai yr Arglwydd iddo.

8 A’r holl bobl a gyd-attebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd.

9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf attat mewn cwmmwl tew, fel y clywo y bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.

10 ¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddyw ac yfory; a golchant eu dillad,

11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd: o herwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd y’ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.

12 A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fynu i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwrr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw.

13 Na chyffyrdded llaw âg ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano yr udgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.

14 ¶ A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.

15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.

16 A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmmwl tew ar y mynydd, a llais yr udgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.

17 A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant y’ngodre y mynydd.

18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, o herwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.

19 Pan ydoedd llais yr udgorn yn hir, ac yn cryfhâu fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a attebodd mewn llais.

20 A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fynu.

21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i’r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylldremmu, a chwympo llawer o honynt.

22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt.

23 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fynu i fynudd Sinai; oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef.

24 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fynu, ac Aaron gyd â thi; ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fynu at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.

25 Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywededd wrthynt.


PENNOD XX.

1 Y deg gorchymyn. 18 Y bobl yn ofni. 20 Moses yn eu cysuro hwy. 22 Gwahardd gaudduwiaeth. 24 Portreiad yr allor.

A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,

2 Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.

4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear.

5 Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;

6 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.

7 Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dïeuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.

8 Cofia y dydd Sabbath, i’w sancteiddio ef.

9 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

10 Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaeth-ferch, na’th anifail, na’th ddïeithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:

11 O herwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orphwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabbath, ac a’i sancteiddiodd ef.

12 ¶ Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

13 Na ladd.

14 Na wna odineb.

15 Na ladratta.

16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.

17 Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaeth-ferch, na’i ŷch, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymmydog.

18 ¶ A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr udgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.

19 A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandâwn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw.

20 A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; o herwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.

21 A safodd y bobl o hirbell; a nesâodd Mosss i’r tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.

22 ¶ A’r Arglwydd a ddywededd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel, Chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthych.

23 Na wnewch gyd â mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.

24 ¶ Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boeth-ebyrth a’th offrymmau hedd, dy ddefaid, a’th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw, y deuaf attat, ac y’th fendithiaf.

25 Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gottech dy forthwyl arni, ti a’i halogaist hi.

26 Ac na ddos i fynu ar hyd grisiau i’m hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.


PENNOD XXI.

1 Cyfreithiau gweision. 5 Am y gwas a dyller ei glust. 7 Am forwynion. 12 Am lofruddiaeth. 16 Am ladron dynion. 17 Am y rhai a felldithio eu rhïeni. 18 Am darawyr. 22 Am friw damwain. 28 Am ŷch a gornio. 33 Am yr hwn a fo achos o niwed i eraill.

Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt.

2 Os pryni was o Hebread, gwasanaethed chwe blynedd; a’r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd.

3 Os ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gyd âg ef.

4 Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a’i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun.

5 Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed, Hoff gennyf fi fy meistr, fy ngwraig, a’m plant, nid âf fi allan yn rhydd:

6 Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddor, neu at yr orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a’i gwasanaetha ef byth.

7 ¶ Ac os gwerth gwr ei ferch yn forwyn gaeth, ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan.

8 Os heb ryglyddu bodd y’ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a’i cymmerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddïeithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.

9 Ac os i’w fab y dyweddïodd efe hi, gwnaed iddi yn ol deddf y merched.

10 Ac os arall a brïoda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na’i dyled prïodas.

11 Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.

12 ¶ Rhodder i farwolaeth y neb a darawo wr, fel y byddo marw.

13 Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.

14 Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymmydog, i’w ladd ef trwy dwyll; cymmer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.

15 ¶ Y neb a darawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

16 ¶ Yr hwn a ladrattao ddyn, ac a’i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.

17 ¶ Rhodder i farwolaeth yr hwn a felldithio ei dad, neu ei fam.

18 ¶ A phan ymrysono dynion, a tharo o’r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;

19 Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y tarawydd a fydd dïangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.

20 ¶ Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaeth-ferch, â gwïalen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddïal dïaler arno.

21 Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddïaler arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.

22 ¶ Ac os ymrafaelia dynion, a tharo o honynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gospi cosper ef, fel y gosodo gwr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr.

23 Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,

24 Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25 Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.

26 ¶ Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaeth-ferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:

27 Ac os tyrr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaeth-ferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.

28 ¶ Ac os ŷch a gornia wr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ŷch, ac na fwyttâer ei gig ef; ac aed perchen yr ŷch yn rhydd.

29 Ond os yr ŷch oedd yn cornio o’r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i’w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd o hono wr neu wraig: yr ŷch a labyddir, a’i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.

30 Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ol yr hyn oll a osoder arno.

31 Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ol y farnedigaeth hon.

32 Ond os gwasanaethwr neu wasanaeth-ferch a gornia yr ŷch; rhodded i’w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ŷch.

33 ¶ Ac os egyr gwr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ŷch, neu asyn;

34 Perchen y pydew a dâl am danynt: arian a dâl efe i’w perchennog; a’r anifail marw a fydd iddo yntau.

35 ¶ Ac os ŷch gwr a dery ŷch ei gymmydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ŷch byw, a rhannant ei werth ef, a’r ŷch marw a rannant hefyd.

36 Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ŷch hwyliog o’r blaen, a’i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ŷch am ŷch, a bydded y marw yn eiddo ef.


PENNOD XXII.

1 Am ladrad. 5 Am golled. 7 Am sarhâd. 14 Am fenthyg. 16 Am anniweirdeb. 18 Am ddewiniaeth. 19 Am orwedd gyd âg anifail. 20 Am ddelw-addoliaeth. 21 Am ddïeithriaid, a gweddwon, ac amddifaid. 25 Am usuriaeth. 26 Am wyston. 28 Am barch i swyddogion. 29 Am flaen-ffrwythau.

Os lladratta un ŷch neu ddafad, a’i ladd, neu ei werthu; taled bùm ŷch am ŷch, a phedair dafad am ddafad.

2 Os ceir lleidr yn torri , a’i daro fel y byddo farw; na choller gwaed am dano.

3 Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed am dano; efe a ddyly gwbl-dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad.

4 Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.

5 ¶ Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn goreu yn ei faes ei hun, ac o’r hyn goreu yn ei winllan ei hun.

6 ¶ Os tân a dyrr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difâer dâs o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl-daled yr hwn a gynneuodd y tân.

7 Os rhydd un i’w gymmydog arian, neu ddodrefn i gadw, a’i ladratta o dŷ y gwr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl:

8 Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynodd efe ei law at ddâ ei gymmydog.

9 Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau ger bron y barnwyr; a’r hwn y barno y swyddogion yn ei erbyn, taled i’w gymmydog yn ddwbl.

10 Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymmydog i gadw, a marw o hono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled:

11 Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at ddâ ei gymmydog; a chymmered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn.

12 Ac os gan ladratta y lladrattêir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i’w berchennog.

13 Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.

14 ¶ Ond os benthyccia un gan ei gymmydog ddim, a’i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gyd âg ef, gan dalu taled.

15 Os ei berchennog fydd gyd âg ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.

16 ¶ Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyd â hi; gan gynnysgaeddu cynnysgaedded hi yn wraig iddo ei hun.

17 Os ei thad a lwyr-wrthyd ei rhoddi hi iddo, taled arian yn ol gwaddol morynion.

18 ¶ Na chaffed hudoles fyw.

19 ¶ Llwyr-rodder i farwolaeth bob un a orweddo gyd âg anifail.

20 ¶ Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unig.

21 ¶ Na orthrymma, ac na flina y dïeithr: canys dïeithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aipht.

22 ¶ Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.

23 Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gwaeddi o honynt ddim arnaf; mi a lwyr-wrandawaf eu gwaedd hwynt;

24 A’m digofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn amddifaid.

25 ¶ Os echwynni arian i’m pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel occrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.

26 Os cymmeri ddilledyn dy gymmydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul:

27 O herwydd hynny yn unig sydd i’w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrandaw; canys trugarog ydwyf fi.

28 ¶ Na chabla y swyddogion; ac na felldithia bennaeth dy bobl.

29 ¶ Nac oeda dalu y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed, ac o’th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf-anedig o’th feibion.

30 Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyd â’i fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

31 ¶ A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwyttêwch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i’r ci.


PENNOD XXIII.

1 Am enllib, a gau-dystiolaeth. 3, 6 Am gyfiawnder. 4 Am gymmydogaeth. 10 Am y flwyddyn orphwys. 12 Am y Sabbath. 13 Am ddelw-addoliaeth. 14 Am y tair gwyl. 18 Am waed a brasder yr aberth. 20 Addaw angel, a bendithio, os hwy a ufuddhânt.

Na chyfod enllib; na ddod dy law gyd â’r annuwiol i fod yn dyst anwir.

2 ¶ Na ddilyn lïaws i wneuthur drwg; ac nac atteb mewn ymrafael, gan bwyso yn ol llaweroedd, i ŵyro barn.

3 ¶ Na pharcha y tlawd chwaith yn ei ymrafael.

4 ¶ Os cyfarfyddi âg eidion dy elyn, neu â’i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo.

5 Os gweli asyn yr hwn a’th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â’i gynnorthwyo? gan gynnorthwyo cynnorthwya gyd âg ef.

6 Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.

7 Ymgadw ym mhell oddi wrth gam-fatter: na ladd chwaith na’r gwirion na’r cyfiawn: canys ni chyfiawnhâf fi yr annuwiol.

8 ¶ Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.

9 ¶ Na orthrymma y dïeithr: chwi a wyddoch galon y dïeithr; o herwydd chwi a fuoch ddïeithriaid yn nhir yr Aipht.

10 Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth:

11 A’r seithfed paid âg ef, a gâd ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwytta: a bwyttâed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olew-wydden.

12 Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorphwysi: fel y caffo dy ŷch a’th asyn lonyddwch, ac y cymmero mab dy forwyn gaeth, a’r dïeithr ddyn, ei anadl atto.

13 Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch ehw duwiau eraill; na chlywer hynny o’th enau.

14 ¶ Tairgweith yn y flwyddyh y cedwi wyl i mi.

15 Gwyl y bara croyw a gedwi: saith niwrnod y bwyttêi fara croyw, fel y gorchymynais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o’r Aipht: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw:

16 A gwyl cynhauaf blaen-ffrwyth dy lafur, yr hwn a heuaist yn y maes; a gwyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynhullech dy lafur o’r maes.

17 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrrywiaid ger bron yr Arglwydd dy Dduw.

18 Nac abertha waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd, ac nac arhôed brasder fy aberth dros nos hyd y bore.

19 Dwg i dŷ yr Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaen-ffrwyth dy dir. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.

20 ¶ Wele fi yn anfon angel o’th flaen i’th gadw ar y ffordd, ac i’th arwain i’r man a barottoais.

21 Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddïoddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef.

22 Os gan wrandaw y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur y cwbl a lefarwyf; mi a fyddaf elyn i’th elynion, ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr.

23 O herwydd fy angel a â o’th flaen di, ac a’th ddwg di i mewn at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u difethaf hwynt.

24 Nac ymgrymma i’w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ol eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr-ddinystria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll.

25 A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a’th ddwfr; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o’th fysg.

26 ¶ Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau.

27 Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui attynt, ac a wnaf i’th holl elynion droi eu gwarrau attat.

28 A mi a anfonaf gaccwn o’th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, allan o’th flaen di.

29 Ni yrraf hwynt allan o’th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhâu yn dy erbyn di.

30 O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di, nes i ti gynnyddu ac etifeddu y tir.

31 A gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o’r diffaethwch hyd yr afon; canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen.

32 Na wna ammod â hwynt, nac â’u duwiau.

33 Na âd iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i’m herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, dïau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.


PENNOD XXIV.

1 Galw Moses i’r mynydd. 3 Y bobl yn addaw ufudd-dod. 4 Moses yn adeiladu allor, a deuddeg colofn: 6 yn taeuellu gwaed y cyfammod. 14 Aaron a Hur â siars y bobl arnynt. 15 Moses yn myned i’r mynydd; lle y mae efe yn aros ddeugain niwrnod a deugain nos.

Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fynu at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thri ugain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.

2 Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fynu gyd âg ef.

3 ¶ A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac attebodd yr holl bobl yn un-air, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.

4 A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor îs law y mynydd, a deuddeg colofn, yn ol deuddeg llwyth Israel.

5 Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel; a hwy a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.

6 A chymmerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.

7 Ac efe a gymmerth lyfr y cyfammod, ac a’i darllenodd lle y clywai y bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandâwn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.

8 A chymmerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ol yr holl eiriau hyn.

9 ¶ Yna yr aeth Moses i fynu, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thri ugain o henuriaid Israel.

10 A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saphir, ac fel corph y nefoedd o ddisgleirder.

11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwyttasant ac yfasant.

12 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fynu attaf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchymynion, y rhai a ysgrifenais, i’w dysgu hwynt.

13 A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fynu i fynydd Duw.

14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni attoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyd â chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued attynt hwy.

15 A Moses a aeth i fynu i’r mynydd; a chwmmwl a orchuddiodd y mynydd.

16 A gogoniant yr Arglwydd a arhôdd ar fynydd Sinai, a’r cwmmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmmwl.

17 A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, y’ngolwg meibion Israel.

18 A Moses a aeth i ganol y cwmmwl, ac a aeth i fynu i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.


PENNOD XXV.

1 Pa beth sydd raid i’r Israeliaid ei offrwm tu ag at wneuthur y babell. 10 Dull yr arch. 17 Y drugareddfa a’r cerubiaid. 23 Y bwrdd a’i arlwy. 31 Y canhwyllbren a’i offer.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt i mi offrwm: gan bob gwr ewyllysgar ei galon y cymmerwch fy offrwm.

3 A dyma yr offrwm a gymmerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,

4 A sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr,

5 A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

6 Olew i’r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i’r pêr-arogl-darth,

7 Meini onix, a meini i’w gosod yn yr ephod, ac yn y ddwyfronneg.

8 A gwnant i mi gyssegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt.

9 Yn ol holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.

10 ¶ A gwnant arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

11 A gwisg hi âg aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.

12 Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.

13 A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur.

14 A gosod y trosolion trwy y modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.

15 Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symmuder hwynt oddi wrthi.

16 A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.

17 A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled.

18 A gwna ddau gerub o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwrr y drugareddfa.

19 Un cerub a wnei yn y naill ben, a’r cerub arall yn y pen arall: o’r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y cerubiaid.

20 A bydded y cerubiaid yn lledu eu hesgyll i fynu, gan orchuddio y drugareddfa â’u hesgyll, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: tu a’r drugareddfa y bydd wynebau y cerubiaid.

21 A dod y drugareddfa i fynu ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.

22 A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau gerub y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchymynwyf wrthyt i feibion Israel.

23 ¶ A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hŷd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

24 A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.

25 A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.

26 A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.

27 Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i’r trosolion i ddwyn y bwrdd.

28 A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.

29 A gwna ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i gaeadau, a’i phïolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

30 A dod ar y bwrdd y bara dangos ger bron fy wyneb yn wastadol.

31 ¶ Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geingciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, a fyddant o’r un.

32 A bydd chwe chaingc yn dyfod allan o’i ystlysau; tair caingc o’r canhwyllbren o un tu, a thair caingc o’r canhwyllbren o’r tu arall.

33 Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gaingc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gaingc arall: felly ar y chwe chaingc a fyddo yn dyfod allan o’r canhwyllbren.

34 Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a’u cnapiau a’u blodau.

35 A bydd cnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, yn ol y chwe chaingc a ddeuant o’r canhwyllbren.

36 Eu cnapiau a’u ceingciau a fyddant o’r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl.

37 A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.

38 A bydded ei efeiliau a’i gafnau o aur coeth.

39 O dalent o aur coeth y gwnei ef, a’r holl lestri hyn.

40 Ond gwel wneuthur yn ol eu portreiad hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.


PENNOD XXVI.

1 Deg llèn y tabernacl. 7 Yr un llèn ar ddeg o flew geifr. 14 Y babell-lèn o grwyn hyrddod. 15 Byrddau y tabernacl, gyd â’u morteisiau a’u barrau. 31 Y wahanlen i’r arch. 36 Y gaeadlen i’r drws.

Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llèn o lïan main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad: yn gerubiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.

2 Hŷd un llèn fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llèn fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i’r holl lenni.

3 Pùm llèn a fyddant y’nglŷn bob un wrth ei gilydd; a phùm llèn eraill a fyddant y’nglŷn wrth ei gilydd.

4 A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llèn, ar y cwrr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llèn arall, yn yr ail gydiad.

5 Deg dolen a deugain a wnei di i un llèn, a deg dolen a deugain a wnei ar gwrr y llèn a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.

6 Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd, fel y byddo yn un tabernacl.

7 ¶ A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell-lèn ar y tabernacl: un llèn ar ddeg a wnei.

8 Hŷd un llèn fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llèn fydd pedwar cufydd; a’r un mesur fydd i’r un llèn ar ddeg.

9 A chydia bùm llèn wrthynt eu hun, a chwe llèn wrthynt eu hun; a dybla’r chweched lèn ar gyfer wyneb y babell-lèn.

10 A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill lèn, ar y cwrr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llèn arall, yn yr ail gydiad.

11 A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chylymma’r babell-lèn, fel y byddo yn un.

12 A’r gweddill a fyddo dros ben o lenni y babell-lèn, sef yr hanner llèn weddill, a fydd y’ngweddill ar du cefn y tabernacl;

13 Fel y byddo o’r gweddill gufydd o’r naill du, a chufydd o’r tu arall, o hŷd y babell-lèn: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o’r tu yma ac o’r tu accw, i’w orchuddio.

14 A gwna dô i’r babell-lèn o grwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a thô o grwyn daearfoch yn uchaf.

15 ¶ A gwna i’r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll.

16 Deg cufydd fydd hŷd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen.

17 Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer eu gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau y tabernacl.

18 A gwna ystyllod i’r tabernacl, ugain ystyllen o’r tu dehau, tu a’r dehau.

19 A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno.

20 A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du y gogledd, ugain ystyllen,

21 A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

22 Hefyd i ystlys y tabernacl, o du’r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.

23 A dwy ystyllen a wnei i gonglau y tabernacl, yn y ddau ystlys.

24 A byddant wedi eu cyssylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cyd-gydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i’r ddwy gongl y byddant.

25 A byddant yn wyth ystyllen, a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

26 ¶ Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl,

27 A phùm barr i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phùm barr i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tu a’r gorllewin.

28 A’r barr canol y’nghanol yr ystyllod, a gyrhaedd o gwrr i gwrr.

29 Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd âg aur.

30 A chyfod y taberanacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

31 ¶ A gwna wahanlen o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd: â cherubiaid o waith cywraint y gwnei hi.

32 A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur, a’u pennau o aur, ar bedair mortais arian.

33 ¶ A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cyssegr a’r cyssegr sancteiddiolaf.

34 Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cyssegr sancteiddiolaf.

35 A gosod y bwrdd o’r tu allan i’r wahanlen, a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu dehau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du y gogledd.

36 A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd o wnïadwaith.

37 A gwna i’r gaeadlen bùm colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur, a’u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bùm mortais bres.


PENNOD XXVII.

1 Allor y poeth-offrwm, a’i llestri. 9 Cynteddfa y tabernacl wedi ei gau â llenni ac â cholofnau. 18 Mesur y cynteddfa. 20 Yr olew i’r lamp.

Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bùm cufydd o hŷd, a phùm cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd. 2 A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn; a gwisg hi â phres.

3 Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.

4 A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.

5 A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo y rhwyd hyd hanner yr allor.

6 A gwna drosolion i’r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.

7 A dod ei throsolion trwy y modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i’w dwyn hi.

8 Gwna hi âg ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnant hi.

9 ¶ A gwna gynteddfa y tabernacl ar y tu dehau, tu a’r dehau: llenni’r cynteddfa a fyddant lïan main cyfrodedd, o gàn cufydd o hŷd, i un ystlys.

10 A’i hugain colofn, a’u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a’u cylchau, fydd o arian.

11 Felly o du’r gogledd ar hŷd, y bydd llenni o gàn cufydd o hŷd, a’u hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres; a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian.

12 ¶ Ac i led y cynteddfa, o du y gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a’u morteisiau yn ddeg.

13 A lled y cynteddfa, tu a’r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.

14 Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a’u morteisiau yn dair.

15 Ac i’r ail du y bydd pymtheg llèn; eu tair colofn, a’u tair mortais.

16 ¶ Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd o wnïadwaith; eu pedair colofn, a’u pedair mortais.

17 Holl golofnau y cynteddfa o amgylch a gylchir âg arian; a’u pennau yn arian, a’u morteisiau yn bres.

18 ¶ Hŷd y cynteddfa fydd gàn cufydd, a’i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phùm cufydd o uchder o lïan main cyfrodedd, a’u morteisiau o bres.

19 Holl lestri y tabernacl yn eu holl wasanaeth, a’i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

20 ¶ A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn o honynt attat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i’r lamp losgi yn wastad.

21 Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, ger bron yr Arglwydd: deddf dragywyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.


PENNOD XXVIII.

1 Neillduo Aaron a’i feibion i swydd yr offeiriaid. 2 Gorchymyn gwisgoedd sanctaidd. 6 Yr ephod. 15 Y ddwyfronneg a’r deuddeg maen gwerthfawr. 30 Yr Urim a’r Thummim. 31 Mantell yr ephod, gyd â’i phomgranadau a’i chlych. 36 Dalen y meitr. 39 Y bais wnïadwaith. 40 Gwisgoedd meibion Aaron.

A chymmer Aaron dy frawd attat, a’i feibion gyd âg ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar ac Ithamar, meibion Aaron.

2 Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch.

3 A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i âg ysbryd doethineb, am wneuthur o honynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.

4 A dyma y gwisgoedd a wnant. Dwyfronneg, ac ephod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnant wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i’w feibion, i offeiriadu i mi.

5 Cymmerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main.

6 ¶ A gwnant yr ephod o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, o waith cywraint.

7 Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwrr; ac felly y cydir hi ynghyd.

8 A gwregys cywraint ei ephod ef yr hwn fydd arni, fydd o’r un, yn un-waith â hi; o aur, sidan glas, a phorphor, ysgarlad hefyd, a llïan main cyfrodedd.

9 Cymmer hefyd ddau faen onix, a nâdd ynddynt enwau meibion Israel:

10 Chwech o’u henwau ar un maen, a’r chwe henw arall ar yr ail maen, yn ol eu genedigaeth.

11 A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, âg enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynau o aur o’u hamgylch.

12 A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.

13 ¶ Gwna hefyd foglynau aur;

14 A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig y’nglŷn wrth y boglynau.

15 ¶ Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr ephod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, y gwnei hi.

16 Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hŷd, ac yn rhychwant ei lled.

17 Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thophaz, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf.

18 A’r ail res fydd carbuncl, saphir, ac adamant.

19 A’r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst.

20 Y bedwaredd res fydd beryl, ac onix, a jasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd.

21 A’r meini fyddant âg enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ol y deuddeg llwyth.

22 ¶ A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth.

23 Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwrr y ddwyfronneg.

24 A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.

25 A’r ddau ben arall i’r ddwy gadwyn blethedig dod y’nglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr ephod o’r tu blaen.

26 ¶ Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr ephod o’r tu mewn.

27 A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr ephod oddi tanodd, tu a’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr ephod.

28 A’r ddwyfronneg a rwymant â’u modrwyau wrth fodrwyau yr ephod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr ephod, fel na ddattoder y ddwyfronneg oddi wrth yr ephod.

29 A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cyssegr, yn goffadwriaeth ger bron yr Arglwydd yn wastadol.

30 ¶ A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a’r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn ger bron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, ger bron yr Arglwydd, yn wastadol.

31 ¶ Gwna hefyd fantell yr ephod oll o sidan glas.

32 A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.

33 ¶ A gwna ar ei godrau hi bomgranadau o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, ar ei godrau o amgylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch.

34 Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odrau y fantell o amgylch.

35 A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei swn ef pan ddelo i’r cyssegr, ger bron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.

36 ¶ Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nâdd arni, fel naddiadau sêl, sancteiddrwydd i’r Arglwydd.

37 A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o’r tu blaen i’r meitr y bydd.

38 A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gyssegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr ger bron yr Arglwydd.

39 ¶ Gweithia âg edau a nodwydd y bais o lïan main, a gwna feitr o lïan main; a’r gwregys a wnei o wnïadwaith.

40 ¶ I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.

41 A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a’i feibion gyd âg ef: ac enneinia hwynt, cyssegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi.

42 Gwna hefyd iddynt lodrau llïan i guddio eu cnawd noeth: o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant.

43 A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cyssegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragywyddol iddo ef, ac i’w had ar ei ol.


Pennod XXIX.

1 Yr aberth a’r seremonïau a arferid wrth gyssegru yr offeiriaid. 38 Y llosg-offrwm gwastadol. 45 Addewid Duw ar drigo ym mhlith plant Israel.

Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i’w cyssegru hwynt, i offeiriadu i mi. Cymmer un bustach ieuangc, a dau hwrdd perffeith-gwbl,

2 A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymmysgu âg olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro âg olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt.

3 A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyd â’r bustach a’r ddau hwrdd.

4 Dwg hefyd Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

5 A chymmer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr ephod, a’r ephod hefyd, a’r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr ephod.

6 A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gyssegredig ar y meitr.

7 Yna y cymmeri olew yr enneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr enneini ef.

8 A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau am danynt.

9 A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a’i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragywyddol: a thi a gyssegri Aaron a’i feibion.

10 A phâr ddwyn y bustach ger bron pabell y cyfarfod; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylaw ar ben y bustach.

11 A lladd y bustach ger bron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

12 A chymmer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â’th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.

13 Cymmer hefyd yr holl frasder a fydd yn gorchuddio y perfedd, a’r rhwyden a fyddo ar yr afu, a’r ddwy aren, a’r brasder a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.

14 Ond cig y bustach, a’i groen, a’i fiswail, a losgi mewn tân, o’r tu allan i’r gwersyll: aberth dros bechod yw.

15 ¶ Cymmer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a’i feibion eu dwylaw ar ben yr hwrdd.

16 A lladd yr hwrdd; a chymmer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.

17 A thorr yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a’i draed, a dod hwynt ynghyd â’i ddarnau, ac â’i ben.

18 A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poeth-offrwm i’r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.

19 ¶ A chymmer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylaw ar ben yr hwrdd.

20 Yna lladd yr hwrdd, a chymmer o’i waed, a dod ar gwr isaf clust ddehau Aaron, ac ar gwrr isaf clust ddehau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddehau hwynt, ac ar fawd eu troed dehau hwynt; a thaenella y gwaed arall ar yr allor o amgylch.

21 A chymmer o’r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr enneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gyd âg ef: felly sanctaidd fydd efe a’i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gyd âg ef.

22 Cymmer hefyd o’r hwrdd, y gwer a’r gloren, a’r gwer sydd yn gorchuddio’r perfedd, a rhwyden yr afu, a’r ddwy aren, a’r gwêr sydd arnynt, a’r ysgwyddog ddehau; canys hwrdd cyssegriad yw:

23 Ac un dorth o fara, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen o gawell y bara croyw, yr hwn sydd ger bron yr Arglwydd.

24 A dod y cwbl yn nwylaw Aaron, ac yn nwylaw ei feibion: a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.

25 A chymmer hwynt o’u dwylaw, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd ger bron yr Arglwydd: aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.

26 Cymmer hefyd barwyden hwrdd y cyssegriad yr hwn fyddo dros Aaron, a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd; a’th ran di fydd.

27 A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a’r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cyssegriad, o’r hwn a fyddo dros Aaron, ac o’r hwn a fyddo dros ei feibion.

28 Ac eiddo Aaron a’i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm dyrchafael yw; ac offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o’u haberthau hedd, sef eu hoffrwm dyrchafael i’r Arglwydd.

29 ¶ A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i’w feibion ar ei ol ef, i’w henneinio ynddynt, ac i’w cyssegru ynddynt.

30 Yr hwn o’i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a’u gwisg hwynt saith niwrnod, pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cyssegr.

31 ¶ A chymmer hwrdd y cyssegriad, a berwa ei gig yn y lle sanctaidd.

32 A bwyttâed Aaron a’i feibion gig yr hwrdd, a’r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

33 A hwy a fwyttânt y pethau hyn y gwnaed y cymmod â hwynt, i’w cyssegru hwynt ac i’w sancteiddio: ond y dïeithr ni chaiff eu bwytta; canys cyssegredig ydynt.

34 Ac os gweddillir o gig y cyssegriad, neu o’r bara, hyd y bore, yna ti a losgi’r gweddill â thân: ni cheir ei fwytta, oblegid cyssegredig yw.

35 A gwna fel hyn i Aaron, ac i’w feibion, yn ol yr hyn oll a orchymynais i ti: saith niwrnod y cyssegri hwynt.

36 A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymmod: a glanhâ yr allor, wedi i ti wneuthur cymmod drosti, ac enneinia hi, i’w chyssegru.

37 Saith niwrnod y gwnei gymmod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â’r allor, a sancteiddir.

38 ¶ A dyma yr hyn a offrymmi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.

39 Yr oen cyntaf a offrymmi di y bore; a’r ail pen a offrymmi di yn y cyfnos.

40 A chyd â’r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymmysgu a phedwaredd ran hìn o olew coethedig; a phedwaredd ran hìn o win, yn ddïod-offrwm,

41 A’r oen arall a offrymmi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd-offrwm y bore, ac i’w ddïod-offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd:

42 Yn boeth-offrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.

43 Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant.

44 A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor; ac Aaron a’i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.

45 ¶ A mi a breswyliaf ym mysg meibion Israel, ac a fyddaf yn Dduw iddynt.

46 A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u dygais hwynt allan o dir yr Aipht, fel y trigwn yi eu plith hwynt; myfi yw yr Arglwydd eu Duw.


Pennod XXX.

1 Allor yr arogl-darth. 11 Yr iawn dros bob enaid. 17 Y golch-lestr pres. 22 Yr olew sanctaidd i enneinio. 34 Defnydd yr arolg-darth.

Gwna hefyd allor i arogl-darthu arogl-darth: o goed Sittim y gwnei di hi.

2 Yn gufydd ei hŷd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o’r un.

3 A gwisg hi âg aur coeth, ei chefn a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.

4 A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i’w dwyn hi arnynt.

5 A’r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt âg aur.

6 A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.

7 Ac arogl-darthed Aaron arni arogl-darth llysieuog bob bore: pan daclo efe lampau, yr arogl-dartha efe.

8 A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogl-darthed arni arogl-darth gwastadol ger bron yr Arglwydd, trwy eich cenhedlaethau.

9 Nac offrymmwch arni arogl-darth dïeithr, na phoeth-offrwm, na bwyd-offrwm; ac na thywelltwch ddïod-offrwm arni.

10 A gwnaed Aaron gymmod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymmod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymmod arni trwy eich cenhedlaethau; sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi.

11 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

12 Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i’r Arglwydd, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt.

13 Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ol sicl y cyssegr: ugain gerah yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd.

14 Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i’r Arglwydd.

15 Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i’r Arglwydd, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau.

16 A chymmer yr arian cymmod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel ger bron yr Arglwydd, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau.

17 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

18 Gwna noe bres, a’i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor: a dod ynddi ddwfr.

19 A golched Aaron a’i feibion o honi eu dwylaw a’u traed.

20 Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogl-darthu aberth tanllyd i’r Arglwydd.

21 Golchant eu dwylaw a’u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i’w had, trwy eu cenhedlaethau.

22 ¶ Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

23 Cymmer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pùm càn sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau;

24 Ac o’r casia pwys pùm cant o siclau, yn ol sicl y cyssegr; a hin o olew olew-wydden.

25 A gwna ef yn olew enneiniad sanctaidd, yn ennaint cymmysgadwy o waith yr apothecari: olew enneiniad sanctaidd fydd efe.

26 Ac enneinia âg ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth,

27 Y bwrdd hefyd a’i holl lestri, a’r canhwyllbren a’i holl lestri, ac allor yr arogl-darth.

28 Ac allor y poeth-offrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed.

29 A chyssegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd.

30 Enneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chyssegra hwynt, i offeiriadu i mi.

31 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew enneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenhedlaethau.

32 Nac enneinier âg ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.

33 Pwy bynnag a gymmysgo ei fath, a’r hwn a roddo o hono ef ar ddyn dïeithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

34 ¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymmer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un.

35 A gwna ef yn arogl-darth arogl-bêr o waith yr apothecari, wedi ei gyd-dymheru, yn bur ac yn sanctaidd.

36 Gan guro cur yn fân beth o hono, a dod o hono ef ger bron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi.

37 A’r arogl-darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i’r Arglwydd.

38 Pwy bynnag a wnel ei fath ef, i arogli o hono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

Pennod XXXI.

1 Galw Bezaleel ac Aholïab, a’u gwneuthur yn gymhwys i wait y tabernacl. 12 Ail orchymyn cadw y Sabbath. 18 Moses yn derbyn y ddwy lech.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gwel, mi a elwais wrth ei enw ar Bezaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Judah;

3 Ac a’i llenwais ef âg yspryd Duw, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith,

4 I ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

5 Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith.

6 Ac wele, mi a roddais gyd âg ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac y’nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchymynais wrthyt.

7 Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a’r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl lestri y babell,

8 A’r bwrdd a’i lestri, a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri, ac allor yr arogl-darth,

9 Ac allor y poeth-offrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed,

10 A gwisgoedd y weinidogaeth, a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt,

11 Ac olew yr enneiniad, a’r arogl-darth peraidd i’r cyssegr; a wnant yn ol yr hyn oll a orchymynais wrthyt.

12 ¶ A’r Arglwydd a lefarodd with Moses gan ddywedyd,

13 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dïau y cedwch fy Sabbathau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenhedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, sydd yn eich sancteiddio.

14 Am hynny cedwch y Sabbath; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr-rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef, o herwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.

15 Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Sabbath gorphwysdra sanctaidd i’r Arglwydd: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr-rodder ef i farwolaeth.

16 Am hynny cadwed meibion Israel y Sabbath, gan gynnal Sabbath trwy eu cenhedlaethau, yn gyfammod tragywyddol.

17 Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragywyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nefoedd a’r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorphwysodd efe.

18 ¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys Duw.

Pennod XXXII.

1 Y bobl, yn absen Moses, yn peri i Aaron wneuthur llo; 7 a hynny yn digio Duw; 11 ac yntau, ar ymbil Moses, yn diddigio. 15 Moses yn dyfod i waered â’r llechau: 19 yn eu torri hwy: 20 yn difetha y llo. 22 Esgus Aaron drosto ei hun. 25 Moses yn gorchymyn lladd y delw-addolwyr, 30 ac yn gweddïo dros y bobl.

Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.

2 A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clust-dlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch attaf fi.

3 A’r holl bobl a dynasant y clust-dlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a’u dygasant at Aaron.

4 Ac efe a’u cymmerodd o’u dwylaw, ac a’i lluniodd â chŷn, ac a’i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddug di i fynu o wlad yr Aipht.

5 A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gwyl i’r Arglwydd y fory.

6 A hwy a godasant yn fore drannoeth ac a offrymmasant boeth-offrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r bobl a eisteddasant i fwytta ac i yfed, ac a godant i fynu i chwarae.

7 ¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fynu o dir yr Aipht.

8 Buan y ciliasant o’r ffordd a orchymynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasnt i fynu o wlad yr Aipht.

9 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wàr-galed ydynt.

10 Am hynny yn awr gâd i mi lonydd, fel yr ennyno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr.

11 A Moses a ymbiliodd ger bron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr ennyna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aipht, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?

12 Paham y caiff yr Aiphtiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi with angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl.

13 Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt. Mi a amlhâf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth.

14 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnai i’w bobl.

15 ¶ A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o’r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o’u dau du, hwy a ysgrifenasid o bob tu.

16 A’r llechau hynny oedd o waith Duw: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau.

17 A phan glywodd Josua swn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae swn rhyfel yn y gwersyll.

18 Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli y maes; ond swn canu a glywaf fi.

19 ¶ A bu, wedi dyfod o hono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac ennynodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt îs law y mynydd.

20 Ac efe a gymmerodd y llo a wnaethent hwy, ac a’i llosgodd â thân, ac a’i malodd yn llwch, ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel.

21 A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr?

22 A dywedodd Aaron, Nac ennyned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent.

23 Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.

24 A dywedais wrthynt, I’r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a’i rhoddasant i mi: a mi a’i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.

25 ¶ A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a’u noethasai hwynt, i’w gwaradwyddo ym mysg eu gelynion;)

26 Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du yr Arglwydd? deued attaf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant atto ef.

27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cynniweiriwch o borth i borth trwy y gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymmydog.

28 A meibion Lefi a wnaethant yn ol gair Moses: a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr.

29 Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddyw i’r Arglwydd, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddyw i chwi fendith.

30 ¶ A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a âf i fynu at yr Arglwydd; ond odid mi a wnaf gymmod dros eich pechod chwi.

31 A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.

32 Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, attolwg, allan o’th lyfr a ysgrifenaist.

33 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn, hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr.

34 Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o’th flaen di: a’r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.

35 A’r Arglwydd a darawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.


Pennod XXXIII.

1 Yr Arglwydd yn gwrthod myned gyd â’r bobl, fel yr addawsai. 4 Y bobl yn galaru am hynny. 7 Symmudo y tabernacl allan o’r gwersyll. 9 Yr Arglwydd yn llefaru wrth Moses wyneb yn wyneg. 12, 18 Moses yn deisyfu cael gweled gogoniant Duw.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fynu oddi yma, ti a’r bobl a ddygaist i fynu o wlad yr Aipht, i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf hi.

2 A mi a anfonaf angel o’th flaen di, ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a’r Hethiad, y Phereziad, yr Hefiad, a’r Jebusiad:

3 I wlad yn llifeirio o laeth â mel: o herwydd nid âf fi i fynu yn dy blith; oblegid pobl wàr-galed wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.

4 ¶ A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn, galaru a wnaethant: ac ni wisgodd neb ei harddwisg am dano.

5 Oblegid yr Arglwydd a ddywedasai wrth Moses, Dywed wrth feibion Israel, Pobl wàr-galed ydych chwi; yn ddisymmwth y deuaf i fynu i’th ganol di, ac y’th ddifethaf; am hynny yn awr dïosg dy harddwisg oddi am danat, fel y gwypwyf beth a wnelwyf i ti.

6 A meibion Israel a ddïosgasant eu harddwisg wrth fynydd Horeb.

7 A Moses a gymmerodd y babell, ac a’i lledodd o’r tu allan i’r gwersyll, ym mhell oddi wrth y gwersyll; ac a’i galwodd, Pabell y cyfarfod; a phob un a geisiai yr Arglwydd, a âi allan i babell y cyfarfod, yr hon ydoedd o’r tu allan i’r gwersyll.

8 A phan aeth Moses i’r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob un ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ol Moses, nes ei ddyfod i’r babell.

9 A phan aeth Moses i’r babell, y disgynnodd colofn y cwmmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses.

10 A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a’r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell.

11 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gwr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelod i’r gwersyll: ond y llangc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o’r babell.

12 ¶ A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Gwel, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fynu; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyd â mi: a thi a ddywedaist. Mi a’th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg.

13 Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, attolwg, fel y’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwel hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon.

14 Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyd â thi, a rhoddaf orphwysdra i ti.

15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyd â ni, nac arwain ni i fynu oddi yma.

16 Canys pa fodd y gwyddir yma gael o honof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned o honot ti gyd â ni? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.

17 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a’th adwaen wrth dy enw.

18 Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, attolwg, dy ogoniant.

19 Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr Arglwydd o’th flaen di: a mi a drugarhâf wrth yr hwn y cymmerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.

20 Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni’m gwel dyn, a byw.

21 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig.

22 A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a’th orchuddiaf â’m llaw, nes i mi fyned heibio.

23 Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a’m tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.

Pennod XXXIV.

1 Adnewyddu y llechau. 5 Cyhoeddi Enw yr Arglwydd. 8 Moses yn ymbil â Duw ar iddo fyned gyd â hwy. 10 Duw yn gwneuthur cyfammod â hwynt, ac yn ail-adrodd rhai o orchymynion y llech gyntaf. 28 Moses, wedi bod ddeugain niwrnod yn y mynydd, yn dyfod i lawr â’r llechau. 29 Ei wyneb yn disgleirio; ac yntau yn rhoddi llèn gudd arno.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nâdd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist.

2 A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fynu yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd.

3 Ond na ddeued neb i fynu gyd â thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.

4 ¶ Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchymynasai yr Arglwydd iddo; ac a gymmerodd yn ei law y ddwy lech garreg.

5 A’r Arglwydd a ddisgynnodd mewn cwmmwl, ac a safodd gyd âg ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr Arglwydd.

6 A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;

7 Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl âg anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.

8 A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua’r llawr, ac a addolodd;

9 Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, attolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wàr-galed yw,) a maddeu ein hanwiredd, a’n pechod, a chymmer ni yn etifeddiaeth i ti.

10 ¶ Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfammod y’ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a’r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.

11 Cadw yr hyn a orchymynais i ti heddyw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Phereziad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad.

12 A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfammod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith.

13 Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.

14 Canys ni chei ymgrymmu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe;

15 Rhag i ti wneuthur cyfammod â phreswylwyr y tir; ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwytta o’u haberth;

16 A chymmeryd o honot o’u merched i’th feibion; a phutteinio o’u merched ar ol eu duwiau hwynt, a gwneuthur i’th feibion di butteinio ar ol eu duwiau hwynt.

17 Na wna i ti dduwiau tawdd.

18 ¶ Cadw wyl y bara croyw: saith niwrnod y bwyttêi fara croyw, fel y gorchymynais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o’r Aipht.

19 Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwrryw cyntaf o’th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid.

20 Ond y cyntaf i asyn a bryni di âg oen; ac oni phryni, torr ei wddf: pryn hefyd bob cyntaf-anedig o’th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.

21 ¶ Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorphwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhauaf, y gorphwysi.

22 ¶ Cadw i ti hefyd wyl yr wythnosau, o flaen-ffrwyth y cynhauaf gwenith, a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.

23 ¶ Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw, Duw Israel.

24 Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fynu i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.

25 Nac offrymma waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd; ac nac arhôed aberth gwyl y Pasc dros nos hyd y bore.

26 Dwg y gorau o flaen-ffrwyth dy dir i dŷ yr Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.

27 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena i ti y geiriau hyn: oblegid yn ol y geiriau hyn y gwneuthum gyfammod â thi, ac âg Israel.

28 Ac efe a fu yno gyd â’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, ni fwyttaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifenodd ar y llechau eiriau’r cyfammod, sef y deg gair.

29 A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o’r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho.

30 A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesâu atto ef.

31 A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl bennaethiaid y gynnulleidfa a ddychwelasant atto ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.

32 Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchymynodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd ym mynydd Sinai.

33 Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes lèn gudd ar ei wyneb.

34 A phan ddelai Moses ger bron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llèn gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchymynid iddo.

35 A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llèn gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai lefaru wrth Dduw.


Pennod XXXV.

1 Y Sabbath. 4 Ewyllysgar offrymmau i’r tabernacl. 20 Parodrwydd y bobl i offrymmu. 30 Galw Bezaleel ac Aholïab i’r gwaith.

Casglodd Moses hefyd holl gynnulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma y pethau a orchymynod yr Arglwydd eu gwneuthur.

2 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Sabbath gorphwys i’r Arglwydd: llwyr-rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.

3 Na chynneuwch dân yn eich holl anneddau ar y dydd Sabbath.

4 ¶ A Moses a lefarodd wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

5 Cymmerwch o’ch plith offrwrn yr Arglwydd: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i’r Arglwydd; aur, ac arian, a phres,

6 A sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr,

7 A chrwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

8 Ac olew i’r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth peraidd,

9 A meini onix, a meini i’w gosod yn yr ephod, ac yn y ddwyfronneg.

10 A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchymynodd yr Arglwydd;

11 Y tabernacl, ei babell-lèn a’i dô, ei fachau a’i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a’i forteisiau,

12 Yr arch, a’i throsolion, y drugareddfa, a’r wahanlen, yr hon a’i gorchuddia,

13 Y bwrdd, a’i drosolion, a’i holl lestri, a’r bara dangos,

14 A chanhwyllbren y goleuni, a’i offer; a’i lampau, ac olew y goleuni,

15 Ac allor yr arogl-darth, a’i throsolion ac olew yr enneiniad, a’r arogl-darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i’r tabernacl,

16 Allor y poeth-offrwm a’i halch bres, a’i throsolion, a’i holl lestri, y noe a’i throed,

17 Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,

18 Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a’u rhaffau hwynt,

19 A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cyssegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.

20 ¶ A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi ger bron Moses.

21 A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei yspryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd, tu ag at waith pabell y cyfarfod, a thu ag at ei holl wasanaeth hi, a thu ag at y gwisgoedd sanctaidd.

22 A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlust-dlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gwr a’r a offrymmodd offrwm, a offrymmodd aur i’r Arglwydd.

23 A phob un a’r y caed gyd âg ef sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a chrwyn daearfoch, a’u dygasant.

24 Pob un a’r a offrymmodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i’r Arglwydd: a phob un a’r y caed gyd âg ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a’i dygasant.

25 A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main.

26 A’r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.

27 A’r penaethiaid a ddygasant feini onix, a meini i’w gosod ar yr ephod, ac ar y ddwyfronneg;

28 A llysiau, ac olew i’r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth peraidd.

29 Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymmu tu ag at yr holl waith a orchymynasai’r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i’r Arglwydd offrwm ewyllysgar.

30 ¶ A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw, Bezaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Judah:

31 Ac a’i llanwodd ef âg yspryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith;

32 I ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

33 Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint.

34 Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan.

35 Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llïan main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychymmygu cywreinrwydd.


Pennod XXXVI.

1 Rhoddi offrwm y bobl yn llaw y gweithwyr. 5 Gorfod gwahardd haelioni y bobl. 8 Llenni y cerubiaid. 14 Y llenni o flew geifr. 19 Y babell-lèn o grwyn. 20 Y byrddau a’u morteisiau. 31 Y barrau. 35 Y wahenlen. 37 Y gaeadlen i’r drws.

Yna y gweithiodd Bezaleel ac Aholïab, a phob gwr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cyssegr, yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd.

2 A Moses a alwodd Bezaleel ac Aholïab, a phob gwr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesâu at y gwaith i’w weithio ef.

3 A chymmerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cyssegr, i’w weithio ef. A hwy a ddygasant atto ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.

4 A’r holl rai celfydd, a’r oedd yn gweithio holl waith y cyssegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.

5 ¶ A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae’r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i’r gwaith a orchymynodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6 A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy y gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gwr na gwraig waith mwy tu ag at offrwm y cyssegr. Felly yr attaliwyd y bobl rhag dwyn mwy.

7 Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith i’w wneuthur, a gweddill.

8 ¶ A’r holl rai celfydd, o’r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llèn o lïan main cyfrodedd, a sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad: â cherubiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt.

9 Hŷd un llèn oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llèn pedwar cufydd: yr un mesur oedd i’r holl lenni.

10 Ac efe a gydiodd bùm llèn wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pùm llèn eraill wrth ei gilydd.

11 Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llèn, ar ei chwrr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llèn arall, y’nghydiad yr ail.

12 Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llèn, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwrr eithaf i’r llèn ydoedd y’nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill lèn wrth y llall.

13 Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill lèn wrth y llall â’r bachau; fel y byddai yn un tabernacl.

14 ¶ Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell-lèn ar y tabernacl: yn un llèn ar ddeg y gwnaeth efe hwynt.

15 Hŷd un llèn oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llèn oedd bedwar cufydd: a’r un mesur oedd i’r un llèn ar ddeg.

16 Ac efe a gydiodd bùm llèn wrthynt eu hunain, a chwe llèn wrthynt eu hunain.

17 Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llèn yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llèn y’nghydiad yr ail.

18 Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell-lèn i fod yn un.

19 Ac efe a wnaeth dô i’r babell-lèn o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a thô o grwyn daearfoch yn uchaf.

20 ¶ Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll.

21 Deg cufydd oedd hŷd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen.

22 Dau dyno oedd i’r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl.

23 Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl; ugain ystyllen i’r tu dehau, tu a’r dehau.

24 A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno.

25 Ac i all ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen,

26 A’u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

27 Ac i ystlysau y tabernacl, tu a’r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllen.

28 A dwy ystyllen a wnaeth efe y’nghonglau’r tabernacl i’r ddau ystlys.

29 Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.

30 Ac yr oedd wyth ystyllen; a’u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: dwy fortais dan bob ystyllen.

31 ¶ Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl,

32 A phùm bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phùm barr i ystyllod y tabernacl i’r ystlysau o du y gorllewin.

33 Ac efe a wnaeth y barr canol i gyrhaeddyd trwy’r ystyllod o gwrr i gwrr.

34 Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau âg aur.

35 ¶ Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd: â cherubiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi.

36 Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt âg aur; a’u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.

37 ¶ Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd;

38 A’i phùm colofn, a’u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a’u cylchau, âg aur: ond eu pùm mortais oedd o bres.


Pennod XXXVII.

1 Yr arch. 6 Y drugareddfa a’r cerubiaid. 10 Y bwrdd a’i lestri. 17 Y canhwyllbren, a’i lampau, a’i offer. 25 Allor yr arogldarth. 29 Olew yr enneiniad, a’r pêr-arogldarth.

Abesaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

2 Ac a’i gwisgodd hi âg aur pur o fewn, ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

3 Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.

4 Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt âg aur.

5 Ac a osododd y trosolion trwy y modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.

6 ¶ Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled.

7 Ac efe a wnaeth ddau gerub aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa;

8 Un cerub ar y pen o’r tu yma, a cherub arall ar y pen o’r tu arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y cerubiaid, ar ei dau ben hi.

9 A’r cerubiaid oeddynt, gan ledu esgyll tu ag i fynu, a’u hesgyll yn gorchuddio y drugareddfa, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau y cerubiaid oedd tu ag at y drugareddfa.

10 ¶ Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hŷd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

11 Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.

12 Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.

13 Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.

14 Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd.

15 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt âg aur i ddwyn y bwrdd.

16 Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i phïolau, a’i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.

17 ¶ Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geingciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, oedd o’r un.

18 A chwech o geingciau yn myned allan o’i ystlysau: tair caingc o’r canhwyllbren o un ystlys, a thair caingc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall.

19 Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gaingc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn, ar gaingc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chaingc, y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren.

20 Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a’i flodau.

21 A chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono; yn ol y chwe chaingc oedd yn dyfod allan o hono.

22 Eu cnapiau a’u ceingciau oedd o’r un: y cwbl o hono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth.

23 Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a’i efeiliau, a’i gafnau, o aur pur.

24 O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a’i holl lestri.

25 ¶ Gwnaeth hefyd allor yr arogl-darth o goed Sittim: o gufydd ei hŷd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o’r un.

26 Ac efe a’i gwisgodd hi âg aur coeth, ei chaead, a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

27 Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt.

28 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt âg aur.

29 ¶ Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a’r arogl-darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.


Pennod XXXVIII.

1 Allor y poeth-offrwm. 8 Y noe bres. 9 Y cynteddfa. 21 Cyfrif o offrymmau y bobl.

Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bùm cufydd ei hŷd, a phùm cufydd ei lled, yn bedeirongl, ac yn dri chufydd ei huchder.

2 Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o’r un, ac efe a’i gwisgodd hi â phres.

3 Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, a’r cigweiniau, a’r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres.

4 Ac efe a wnaeth i’r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi.

5 Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwrr yr alch bres, i fyned am drosolion.

6 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim y ac a’u gwisgodd hwynt â phres.

7 Ac efe a dynnodd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr allor, i’w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi âg ystyllod.

8 ¶ Ac efe a wnaeth noe bres, a’i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.

9 ¶ Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys dehau, tu a’r dehau, llenni’r cynteddfa oedd o lïan main cyfrodedd, o gàn cufydd:

10 A’u hugain colofn, ac â’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau, o arian yr oeddynt.

11 Ac ar du y gogledd, y llenni oedd gàn cufydd; eu hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres: a phennau’r colofnau a’u cylchau o arian.

12 Ac o du y gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a’u deg mortais, a phennau y colofnau, a’u cylchau, o arian.

13 Ac i du’r dwyrain tu a’r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain.

14 Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o’r naill du i’r porth; eu tair colofn, a’u tair mortais.

15 Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, o ddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a’u tair mortais.

16 Holl lenni y cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o lïan main cyfrodedd.

17 A morteisiau y colofnau, oedd o bres; pennau y colofnau, a’u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian, a holl golofnau y cynteddfa oedd wedi eu cylchu âg arian.

18 A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hŷd, a’i huchder o’i lled yn bùm cufydd, ar gyfer llenni y cynteddfa.

19 Eu pedair colofn hefyd, a’u pedair mortais, oedd o bres; a’u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a’u cylchau oedd arian.

20 A holl hoelion y tabernacl, a’r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres.

21 ¶ Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad.

22 A Bezaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Judah, a wnaeth yr hyn oll a orchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

23 A chyd âg ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwnïedydd mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llïan main.

24 Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cyssegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gàn sicl a deg ar hugain, yn ol sicl y cyssegr.

25 Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’r gynulleidfa, oedd gàn talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thri ugain, yn ol sicl y cyssegr.

26 Becah am bob pen; sef hanner sicl, yn ol sicl y cyssegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am chwe chàn mil a thair mil a phùm cant a deg a deugain.

27 Ac o’r càn talent arian y bwriwyd morteisiau y cyssegr, a morteisiau y wahanlen; càn mortais o’r càn talent, talent i bob mortais.

28 Ac o’r mil a saith gant a phymtheg sicl a thri ugain, y gwnaeth efe bennau’r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.

29 A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thri ugain, a dwy fil a phedwar cant o siclau.

30 Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a’r allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri yr allor;

31 A morteisiau y cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.


Pennod XXXIX.

1 Gwisgoedd y weinidogaeth, a’r gwisgoedd sanctaidd. 2 Yr ephod. 8 Y ddwyfronneg. 22 Mantell yr ephod. 27 Y peisiau, y meitr, a’r gwregys o lïan main. 30 Talaith y goron sanctaidd. 32 Moses yn golygu y cwbl, ac yn eu bendithio.

Ac o’r sidan glas, a’r porphor, a’r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cyssegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchymynasai’r Arglwydd wrth Moses.

2 Ac efe a wnaeth yr effod o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd.

3 A gyrrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a’i torrasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porphor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y llïan main, yn waith cywraint.

4 Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwrr y cydiwyd hi.

5 A gwregys cywraint ei ephod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o’r un, yn un-waith â hi; o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd: megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

6 ¶ A hwy a weithiasant feini onix wedi eu gosod mewn boglynau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, âg enwau meibion Israel ynddynt.

7 A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

8 ¶ Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr ephod; o aur, sidan glas, porphor hefyd, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd.

9 Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hŷd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg.

10 A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, tophaz, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.

11 A’r ail res oedd, carbuncl, saphir, ac adamant.

12 A’r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.

13 A’r bedwaredd res ydoedd, beryl, onix, a jasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynau aur yn eu lleoedd.

14 A’r meini oedd yn ol enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ol y deuddeg llwyth.

15 A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.

16 A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwrr y ddwyfronneg.

17 A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.

18 A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant y’nglŷn yn y ddau foglyn; ac a’u gosodasant ar ysgwyddau yr ephod, o’r tu blaen.

19 Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a’u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr ephod, o’r tu mewn.

20 A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a’u gosodasant ar ddau ystlys yr ephod, oddi tanodd tu a’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr ephod.

21 Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr ephod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr ephod, fel na ddattodid y ddwyfronneg oddi wrth yr ephod, megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22 ¶ Ac efe a wnaeth fantell yr ephod i gyd o sidan glas, yn wauadwaith.

23 A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo.

24 A gwnaethant ar odrau y fantell bomgranadau, o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, a llïan cyfrodedd.

25 Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre y fantell, o amgylch, ym mysg y pomgranadau,

26 Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre y fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

27 ¶ A hwy a wnaethant beisiau o lïan main, o wauadwaith, i Aaron ac i’w feibion.

28 A meitr o lïan main, a chapiau hardd o lïan main, a llodrau llïan o lïan main cyfrodedd,

29 A gwregys o lïan main cyfrodedd, ac o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 ¶ Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur, ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: Sancteiddrwydd i’r Arglwydd.

31 A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i’w dal hi i fynu ar y meitr, fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

32 ¶ Felly y gorphennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses felly y gwnaethant.

33 ¶ Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a’i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a’i cholofnau, a’i mor­teisiau,

34 A’r tô o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a’r tô o grwyn daearfoch, a’r llèn wahan yr hon oedd yn gor­chuddio;

35 Arch y dys­tiolaeth, a’i thro­solion, a’r druga­reddfa;

36 Y bwrdd hefyd, a’i holl lestri, a’r bara dangos;

37 Y canhwyll­bren pur, a’i lampau, a’r lampau i’w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i’r goleuni;

38 A’r allor aur, ac olew yr enneiniad, a’r arogl-darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell;

39 Yr allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, ei thro­solion, a’i holl lestri; y noe a’i throed;

40 Llenni y cynteddfa, ei golofnau, a’i for­teisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a’i hoelion, a holl ddodrefn gwasan­aeth y tabernacl, sef pabell cyfarfod;

41 Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cyssegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeir­iadu.

42 Yn ol yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith.

43 A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a’i gwnaeth­ant megis y gorch­mynasai yr Arglwydd, felly y gwnaeth­ent: a Moses a’u bendith­iodd hwynt.


Pennod XL.

1 Gorchymyn codi y tabernacl, 9 a’i enneinio; 13 a sancteiddio Aaron a’i feibion. 16 Moses yn gwneuthur fel y gorchy­mynasid iddo. 34 Cwmmwl yn gor­chuddio y babell.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod.

3 A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia yr arch â’r wahanlen.

4 Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyll­bren, a goleua ei lampau ef.

5 Gosod hefyd allor aur yr arogl-darth ger bron arch y dys­tiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl.

6 Dod hefyd allor y poeth-offrwm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod.

7 Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi ddwfr.

8 A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa.

9 A chymmer olew yr enneiniad, ac enneinia y tabernacl, a’r hyn oll sydd ynddo, a chyssegra ef a’i holl lestri; a sanctaidd fydd.

10 Enneinia hefyd allor y poeth-offrwm, a’i holl lestri; a’r allor a gyssegri: a hi a fydd yn allor sancteidd­iolaf.

11 Enneinia y noe a’i throed, a sanc­teiddia hi.

12 A dwg Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

13 A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac enneinia ef, a sanc­teiddia ef, i offeir­iadu i mi.

14 Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau.

15 Ac enneinia hwynt, megis yr enneiniaist eu tad hwynt, i offeir­iadu i mi: felly bydd eu hennein­iad iddynt yn offeir­iadaeth dragy­wyddol, trwy eu cenhed­laethau.

16 Felly Moses a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchy­mynodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

17 ¶ Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y codwyd y tabernacl.

18 A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fynu ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau;

19 Ac a ledodd y babell-lèn ar y tabernacl, ac a osododd do’r babell-lèn arni oddi arnodd; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

20 ¶ Cymmerodd hefyd a rhoddodd y dystiol­aeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugaredd­fa i fynu ar yr arch.

21 Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiol­aeth; megis y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22 ¶ Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du y gogledd, o’r tu allan i’r wahanlen.

23 Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, ger bron yr Arglwydd; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

24 ¶ Ac efe a osododd y canhwyll­bren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du y dehau.

25 Ac efe a oleuodd y lampau ger bron yr Arglwydd; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

26 ¶ Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen.

27 Ac a arogl-darthodd arni arogl-darth peraidd; megis y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

28 ¶ Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl.

29 Ac efe a osododd allor y poeth-offrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrym­modd arni boeth-offrwm a bwyd-offrwm; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 ¶ Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.

31 A Moses, ac Aaron, a’i feibion, a olchasant yno eu dwylaw a’u traed.

32 Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesâent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorphen­odd Moses y gwaith.

34 ¶ Yna cwmmwl a orchudd­iodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl.

35 Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi y tabernacl.

36 A phan gyfodai y cwmmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynai meibion Israel i’w holl deithiau.

37 Ac oni chyfodai y cwmmwl, yna ni chychwyn­ent hwy hyd y dydd y cyfodai.

38 Canys cwmmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, y’ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.