Beibl (1620)/Genesis
← | Beibl (1620) Genesis Genesis wedi'i gyfieithu gan William Morgan |
Exodus |
Llyfr cyntaf Moses
yr hwn a elwir
Genesis
Pennod I.
1 Creadwriaeth nef a daear, 3 a’r goleuni, 6 a’r ffurfafen. 9 Neillduo y ddaear oddi wrth y dyfroedd, 11 a’i gwneuthur yn ffrwythlawn. 14 Yr haul, y lleuad, a’r sêr; 20 y pysgod a’r adar, 24 a’r anifeiliaid, 26 dyn ar lun Duw. 29 Ordeinio lluniaeth ac ymborth.
Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.
2 A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd Duw yn ymsymmud ar wyneb y dyfroedd.
3 A Duw a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu.
4 A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd: a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch.
5 A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf.
6 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen y’nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd.
7 A Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.
8 A’r ffurfafen a alwodd Duw yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd.
9 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu.
10 A’r sychdir a alwodd Duw yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a Duw a welodd mai da oedd.
11 A Duw a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had a phrennau ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu.
12 A’r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd.
13 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y trydydd dydd.
14 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.
16 A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu y nos: a’r sêr hefyd a wnaeth efe.
17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaear,
18 Ac i lywodraethu y dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd Duw mai da oedd.
19 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pedwerydd dydd.
20 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.
21 A Duw a greodd y môrfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.
22 A Duw a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhêwch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a llïosoged yr ehediaid ar y ddaear.
23 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pummed dydd.
24 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.
25 A Duw a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a’r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.
26 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
27 Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw Duw y creodd efe ef: yn wrryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.
28 Duw hefyd a’u bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhêwch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymmudo ar y ddaear.
29 ¶ A Duw a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi.
30 Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymmudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.
31 A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a’r bore a fu, y chweched dydd.
Pennod II.
1 Y dydd Sabbath. 4 Dull y creadwriaeth. 8 Plannu gardd Eden, 10 a’i hafon. 17 Gwahardd pren gwybodaeth yn unig. 19 Enwi y creaduriaid. 21 Gwneuthur gwraig, ac ordeinio prïodas.
Felly y gorphenwyd y nefoedd a’r ddaear, a’u holl lu hwynt.
2 Ac ar y seithfed dydd y gorphenodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orphwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.
3 A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef; oblegid ynddo y gorphwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i’w wneuthur.
4 ¶ Dyma genhedlaethau y nefoedd a’r ddaear, pan grëwyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd,
5 A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear; a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr Arglwydd Dduw wlawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio y ddaear.
6 Ond tarth a esgynodd o’r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.
7 A’r Arglwydd Dduw a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw.
8 ¶ Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden, o du y dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.
9 A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd y’nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear.
10 Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhâu yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
11 Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafilah, lle y mae yr aur:
12 Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae Bdeliwm a’r maen Onix.
13 Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
14 Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du y dwyrain i Assyria: a’r bedwaredd afon yw Euphrates.
15 A’r Arglwydd Dduw a gymmerodd y dyn, ac a’i gosododd ef y’ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi.
16 A’r Arglwydd Dduw a orchymynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwytta y gelli fwytta:
17 Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwytta o hono; oblegid yn y dydd y bwyttêi di o hono, gan farw y byddi farw.
18 ¶ Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymmwys iddo.
19 A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.
20 Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymmwys iddo.
21 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drwmgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymmerodd un o’i asennau ef, ac a gauodd gig yn ei lle hi.
22 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymmerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn.
23 Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o wr y cymmerwyd hi.
24 O herwydd hyn yr ymedy gwr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
25 Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a’i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.
Pennod III.
1 Y sarph yn hudo Efa. 6 Cywilyddus gwymp dyn. 9 Duw yn eu holi ac yn eu barnu hwy. 14 Melldigo y sarph. 15 Addaw yr had. 16 Cospedigaeth dyn. 21 Ei wisgad cyntaf; 22 a’i fwrw allan o Baradwys.
A’r sarph oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai dïau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwytta o bob pren o’r ardd?
2 A’r wraig a ddywedodd wrth y sarph, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwytta:
3 Ond am ffrwyth y pren sydd y’nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwyttêwch o hono, ac na chyffyrddwch âg ef, rhag eich marw.
4 A’r sarph a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.
5 Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwyttaoch o hono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.
6 A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymmerth o’i ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes i’w gwr hefyd gyd â hi, ac efe a fwyttaodd.
7 A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wnïasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.
8 A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gyd âg awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw, ym mysg prennau yr ardd.
9 A’r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?
10 Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.
11 A dywedodd Duw, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchymynaswn i ti na fwyttâit o hono, y bwytteaist?
12 Ac Adda a ddywedod, Y wraig a roddaist gyd â mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwytteais.
13 A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarph a’m twyllodd, a bwytta a wneuthum.
14 A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarph, Am wneuthur o honot hyn, melldigediccach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttêi holl ddyddiau dy einioes.
15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
16 Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhâu yr amlhâf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad fydd at dy wr, ac efe a lywodraetha arnat ti.
17 Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrandaw o honot ar lais dy wraig, a bwytta o’r pren am yr hwn y gorchymynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwytta o hono; melldigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwyttêi o honi holl ddyddiau dy einioes.
18 Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwyttêi di.
19 Trwy chwys dy wyneb y bwyttêi fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaear; oblegid o honi y’th gymmerwyd: canys pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli.
20 A’r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.
21 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn, ac a’u gwisgodd am danynt hwy.
22 ¶ Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un o honom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymmeryd hefyd o bren y bywyd, a bwytta, a byw yn dragywyddol:
23 Am hynny yr Arglwydd Dduw a’i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio y ddaear, yr hon y cymmerasid ef o honi.
24 Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o’r tu dwyrain i ardd Eden, y cerubiaid, a chleddyf tanllyd ysgwydedig, i gadw ffordd pren y bywyd.
Pennod IV.
1 Genedigaeth, celfyddyd, a chrefydd Cain ac Abel. 8 Lladd Abel. 11 Melldigo Cain. 17 Enoch y ddinas gyntaf. 19 Lamech a’i ddwy wraig. 25 Genedigaeth Seth, 26 ac Enos.
Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais wr gan yr Arglwydd.
2 A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaear.
3 A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r Arglwydd.
4 Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o’u brasder hwynt. A’r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:
5 Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A digllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynebpryd ef.
6 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynebpryd?
7 Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: attat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef.
8 A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a’i lladdodd ef.
9 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?
10 A dywedodd Duw, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o’r ddaear.
11 Ac yr awr hon melldigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di.
12 Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear.
13 Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu.
14 Wele, gyrraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaear, ac o’th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd.
15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am hynny y dïelir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A’r Arglwydd a osododd nôd ar Cain, rhag i neb a’i caffai ei ladd ef.
16 ¶ A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhir Nod, o’r tu dwyrain i Eden.
17 Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ol enw ei fab, Enoch.
18 Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehuiael, a Mehuiael a genhedlodd Methusael, a Methusael a genhedlodd Lamech.
19 ¶ A Lamech a gymmerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Adah, ac enw yr ail Sìlah.
20 Ac Adah a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail.
21 Ac enw ei frawd ef oedd Jubal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ.
22 Sìlah hithau a esgorodd ar Tubal-Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haiarn: a chwaer Tubal-Cain ydoedd Naamah.
23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Adah a Sìlah, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandêwch fy lleferydd; canys mi a leddais wr i’m harcholl, a llangc i’m clais.
24 Os Cain a ddïelir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.
25 ¶ Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: O herwydd Duw, eb hi, a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef.
26 I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd.
Pennod V.
1 Achau, oedran, a marwolaeth y aptrierch, o Adda hyd Noah. 24 Duwioldeb Enoch, a Duw yn ei gymmeryd ef ymaith.
Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd Duw ddyn, ar lun Duw y gwnaeth efe ef.
2 Yn wrryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crëwyd hwynt.
3 ¶ Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.
4 A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gàn mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.
5 A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw càn mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.
6 ¶ Seth hefyd a fu fyw bùm mlynedd a chàn mlynedd, ac a genhedlodd Enos.
7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
8 A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
9 ¶ Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.
10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11 A holl ddyddiau Enos oedd bùm mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
12 ¶ Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Mahalaleel.
13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
14 A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
15 A Mahalaleel a fu fyw bùm mlynedd a thri ugain mlynedd, ac a genhedlodd Jered.
16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gàn mlynedd; ac efe a fu farw.
18 ¶ A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thri ugain a chàn mlynedd, ac a genhedlodd Enoch.
19 A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
20 A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thri ugain a naw càn mlynedd; ac efe a fu farw.
21 ¶ Enoch hefyd a fu fyw bùm mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Methuselah.
22 Ac Enoch a rodiodd gyd â Duw wedi iddo genhedlu Methuselah, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
23 A holl ddyddiau Enoch oedd bùm mlynedd a thri ugain a thri chant o flynyddoedd.
24 A rhodiodd Enoch gyd â Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a’i cymmerodd ef.
25 Methuselah hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.
26 A Methuselah a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gàn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
27 A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thri ugain a naw càn mlynedd, ac efe a fu farw.
28 ¶ Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chàn mlynedd, ac a genhedlodd fab;
29 Ac a alwodd ei enw ef Noah, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylaw, o herwydd y ddaear yr hon a felldigodd yr Arglwydd.
30 A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phùm càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
31 A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gàn mlynedd; a efe a fu farw.
32 A Noah ydoedd fab pùm càn mlwydd; a Noah a genhedlodd Sem, Cham, a Japheth.
Pennod VI.
1 Drygioni y byd, yr hwn a gyffrôdd ddigllonedd Duw, ac a barodd y diluw. 8 Noah yn cael ffafr. 14 Trefn a phortreiad, a’r achos y gwnaed yr arch.
Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhâu ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt,
2 Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymmerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.
3 A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Yspryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe; a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
4 Cawri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hynny iddynt: dyma y cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
5 ¶ A’r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser.
6 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur o hono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
7 A’r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiaid, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
8 ¶ Ond Noah a gafodd ffafr y’ngolwg yr Arglwydd.
9 ¶ Dyma genedlaethau Noah: Noah oedd wr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd â Duw y rhodiodd Noah.
10 A Noah a genhedlodd dri o feibion Sem, Cham, a Japheth.
11 A’r ddaear a lygrasid ger bron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.
12 A Duw a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.
13 A Duw a ddywedodd wrth Noah, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyd â’r ddaear.
14 ¶ Gwna i ti arch o goed Gopher; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi fewn ac oddi allan â phyg.
15 Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chàn cufydd fydd hŷd yr arch, a deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.
16 Gwna ffenestr i’r arch, a gorphen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi.
17 Ac wele myfi, ïe myfi, yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
18 Ond â thi y cadarnhâf fy nghyfammod; ac i’r arch yr âi di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyd â thi.
19 Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyd â thi; gwrryw a benyw fyddant.
20 O’r ehediaid wrth eu rhywogaethh, ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth, dau o bob rhywogaeth a ddaw attat i’w cadw yn fyw.
21 A chymmer i ti o bob bwyd a fwyttêir, a chasgl attat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.
22 Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynasai Duw iddo, felly y gwnaeth efe.
Pennod VII.
1 Noah a’i deulu a’r creaduriaid byw yn myned i’r arch. 11 Dechreuad, cynnydd, a pharhâd y diluw.
Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noah, Dos di, a’th holl dŷ i’r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon.
2 O bob anifail glân y cymmeri gyd â thi bob yn saith, y gwrryw a’i fenyw; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwrryw a’i fenyw:
3 O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wrryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.
4 Oblegid wedi saith niwrnod etto, mi a wlawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i.
5 A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd iddo.
6 Noah hefyd oedd fab chwe chàn mlwydd pan fu y dyfroedd diluw ar y ddaear.
7 ¶ A Noah a aeth i mewn, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion gyd âg ef, i’r arch, rhag y dwfr diluw.
8 O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear,
9 Yr aeth i mewn at Noah i’r arch bob yn ddau, yn wrryw ac yn fenyw, fel y gorchymynasai Duw i Noah.
10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr diluw a ddaeth ar y ddaear.
11 ¶ Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noah, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd.
12 A’r gwlaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.
13 O fewn corph y dydd hwnnw y daeth Noah, a Sem, a Cham, a Japheth, meibion Noah, a gwraig Noah, a thair gwragedd ei feibion ef gyd â hwynt, i’r arch.
14 Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw.
15 A daethant at Noah i’r arch bob yn ddau, o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes.
16 A’r rhai a ddaethant, yn wrryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchymynasai Duw iddo. A’r Arglwydd a gauodd arno ef.
17 A’r diluw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynnyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.
18 A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynnyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.
19 A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.
20 Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tu ag i fynu: a’r mynyddoedd a orchuddiwyd.
21 A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.
22 Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o’r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw.
23 Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ïe, dilëwyd hwynt o’r ddaear: a Noah a’r rhai oedd gyd âg ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.
24 A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.
Pennod VIII.
1 Y dyfroedd yn llonyddu. 4 Yr arch yn gorphwys ar fynyddoedd Ararat. 7 Y gigfran a’r golommen. 15 Noah, ar orchymyn Duw, 18 yn myned allan o’r arch. 20 Efe yn adeiladu allor, ac yn aberthu aberth: 21 yr hwn y mae Duw yn ei dderbyn, ac yn addaw na felldithiai y ddaear mwyach.
A Duw a gofiodd Noah, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gyd ag ef yn yr arch : a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant.
2 Cauwyd hefyd ffynhonnau y dyfnder a ffenestri y nefoedd; a lluddiwyd y gwlaw o’r nefoedd.
3 A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ym mhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.
4 ¶ Ac yn y seithfed mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, y gorphwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
5 A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau y mynyddoedd.
6 ¶ Ac ym mhen deugain niwrnod yr agorodd Noah ffenestr yr arch a wnaethai efe.
7 Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.
8 Ac efe a anfonodd golommen oddi wrtho, i weled a dreiasai y dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.
9 Ac ni chafodd y golommen orphwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd atto ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynodd ei law, ac a’i cymmerodd hi, ac a’i derbyniodd hi atto i’r arch.
10 Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golommen allan o’r arch.
11 A’r golommen a ddaeth atto ef ar brydnawn; ac wele ddeilen olew-wydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear.
12 Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golommen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith atto ef mwy.
13 ¶ Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noah a symmudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.
14 Ac yn yr ail mis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, y ddaiar a sychasai.
15 ¶ A llefarodd Duw wrth Noah, gan ddywedyd,
16 Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyd â thi.
17 Pob peth byw a’r sydd gyd â thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliad, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyd â thi: heppiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
18 A Noah a aeth allan, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion, gyd âg ef.
19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaiar, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.
20 A Noah a adeiladodd allor i’r Arglwydd, ac a gymmerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymmodd boeth-offrymmau ar yr allor.
21 A’r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felldithio y ddaear mwy er mwyn dyn: o herwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuengctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
22 Pryd hau, a chynhauaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gauaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.
Pennod IX.
1 Duw yn bendithio Noah; 4 yn gwahardd gwaed a llofruddiaeth. 9 Cyfammod Duw, 13 a arwyddoccêir trwy yr enfys. 18 Noah yn llenwi y byd, 20 yn plannu gwinllan, 21 yn meddwi, ac yn cael ei watwar gan ei fab: 25 yn melldigo Canaan, 26 yn bendithio Sem, 27 yn gweddïo dros Japheth, 29 ac yn marw.
Duw hefyd a fendithiodd Noah a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a llïosogwch, a llenwch y ddaear.
2 Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymmudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
3 Pob ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
4 ¶ Er hynny na fwyttêwch gig ynghyd â’i einioes, sef ei waed.
5 Ac yn ddïau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynaf fi: o law pob bwystfil y gofynaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynaf einioes dyn.
6 A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, o herwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn.
7 Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhêwch, eppiliwch ar y ddaear, a llïosogwch ynddi.
8 A Duw a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gyd âg ef, gan ddywedyd,
9 Ac wele myfi, ïe myfi, ydwyf yn cadarnhâu fy nghyfammod â chwi, ac â’ch had ar eich ol chwi;
10 Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyd â chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyd â chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear.
11 A mi a gadarnhâf fy nghyfammod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac ni bydd diluw mwy i ddifetha’r ddaear.
12 A Duw a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw a’r y sydd gyd â chwi, tros oesoedd tragywyddol:
13 Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngof fi a’r ddaiar.
14 A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmmwl.
15 A mi a gofiaf fy nghyfammod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddiluw mwy, i ddifetha pob cnawd.
16 A’r bwa a fydd yn y cwmmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio y cyfammod tragywyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
17 A Duw a ddywedodd wrth Noah, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
18 ¶ A meibion Noah y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Japheth; a Cham oedd dad Canaan.
19 Y tri hyn oedd feibion Noah: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
20 A Noah a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:
21 Ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd y’nghanol ei babell.
22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan.
23 A chymmerodd Sem a Japheth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a’u hwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.
24 A Noah a ddeffrôdd o’i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
25 Ac efe a ddywedodd, Melldigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd.
26 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
27 Duw a helaetha ar Japheth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
28 ¶ A Noah a fu fyw wedi y diluw dri chàn mlynedd a deng mlynedd a deugain.
29 Felly holl ddyddiau Noah oedd naw càn mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.
Pennod X.
1 Cenhedlaethau Noah. 2 Meibion Japheth. 6 Meibion Cham. 8 Nimrod y brenhin cyntaf. 21 Meibion Sem.
A dyma genhedlaethau meibion Noah: Sem, Cham, a Japheth; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi y diluw.
2 ¶ Meibion Japheth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.
3 Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riphath, a Thogarmah.
4 A meibion Jafan; Elisah, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.
5 O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6 ¶ A meibion Cham oedd Cus, a Mizraim, a Phut, a Chanaan.
7 A meibion Cus; Seba, a Hafilah, a Sabta, a Raamah, a Sabteca: a meibion Raamah; Seba, a Dedan.
8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear.
9 Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd.
10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalneh, y’ngwlad Sinar.
11 O’r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefeh, a dinas Rehoboth, a Chalah,
12 A Resen, rhwng Ninefeh a Chalah; honno sydd ddinas fawr.
13 Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Naphtuhim,
14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chaphtorim.
15 ¶ Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth,
16 A’r Jebusiad, a’r Amoriad, a’r Girgasiad,
17 A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad,
18 A’r Arfadiad a’r Semariad, a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid.
19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gazah; y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorrah, ac Admah, a Seboim, hyd Lesah.
20 Dyma feibion Cham, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21 ¶ I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Japheth yr hynaf.
22 Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.
23 A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas.
24 Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah a genhedlodd Heber.
25 Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; o herwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan.
26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleph, a Hasarmafeth, a Jerah,
27 Hadoram hefyd, ac Usal, a Diclah,
28 Obal hefyd, ac Abimael, a Seba,
29 Ophir hefyd, a Hafilah, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.
30 A’u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Sephar, mynydd y dwyrain.
31 Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.
32 Dyma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu cenhedloedd: ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi y diluw.
Pennod XI.
1 Un iaith yn y byd. 3 Adeiladaeth Babel. 5 Cymmysgu yr ieithoedd. 10 Cenhedlaethau Sem. 27 Cenhedlaethau Terah tad Abram. 31 Terah yn myned o Ur i Haran.
A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd.
2 A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael o honynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant.
3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.
4 A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear.
5 A’r Arglwydd a ddisgynodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion.
6 A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur.
7 Deuwch, disgynwn, a chymmysgwn yno ei hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.
8 Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant âg adeiladu y ddinas.
9 Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymmysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
10 ¶ Dyma genhedlaethau Sem: Sem ydoedd fab càn mlwydd, ac a genhedlodd Arphaxad ddwy flynedd wedi y diluw.
11 A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arphaxad, bùm càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
12 Arphaxad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Selah.
13 Ac Arphaxad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Selah, dair o flynyddoedd a phedwar càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
14 Selah hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.
15 A Selah a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
16 Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd Peleg.
17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
18 Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu.
19 A Pheleg a fu farw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
20 Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.
21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.
23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Terah.
25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Terah, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
26 Terah hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.
27 ¶ A dyma genhedlaethau Terah: Terah a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot.
28 A Haran a fu farw o flaen Terah ei dad, y’ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid.
29 Yna y cymmerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milcah, merch Haran, tad Milcah, a thad Iscah.
30 A Sarai oedd ammhlantadwy, heb blentyn iddi.
31 A Therah a gymmerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno.
32 A dyddiau Tera oedd bùm mlynedd a dau càn mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.
Pennod XII.
1 Duw yn galw Abram, ac yn ei fendithio ef trwy addewid o Grist. 4 Yntau yn myned gyd â Lot o Haran. 6 Yn tramwy trwy wlad Canaan, 7 yr hon a addewir iddo ef mewn gweledigaeth. 10 Newyn yn ei yrru ef i’r Aipht. 11 Ofn yn peri iddo ef ddywedyd mai ei chwaer oedd ei wraig. 14 Pharaoh, wedi ei dwyn hi oddi arno ef, a gymhellir gan bläau i’w rhoddi hi yn ei hol.
A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti.
2 A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
3 Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felldithwyr a felldigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
4 Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gyd âg ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thri ugain pan aeth efe allan o Haran.
5 Ac Abram a gymmerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a ynnillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
6 ¶ Ac Abram a dramwyodd trwy y tir hyd le Sichem, hyd wastadedd Moreh: a’r Canaanead oedd yn y wlad y pryd hwnnw.
7 A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
8 Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynodd ei babell, gan adael Bethel tu a’r gorllewin, a Hai tu a’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd.
9 Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tu a’r dehau.
10 ¶ Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i’r Aipht, i ymdeithio yno, am drymhâu o’r newyn yn y wlad.
11 A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aipht, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:
12 A phan welo yr Aiphtiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma ei wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw.
13 Dywed, attolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.
14 ¶ A bu, pan ddaeth Abram i’r Aipht, i’r Aiphtiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi.
15 A thywysogion Pharaoh a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharaoh: a’r wraig a gymmerwyd i dŷ Pharaoh.
16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid a gwartheg, ac asynod, a gweision, a morwynion, ac asenod, a chamelod.
17 A’r Arglwydd a darawodd Pharaoh a’i dŷ â phläau mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.
18 A Pharaoh a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?
19 Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymmerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymmer hi, a dos ymaith.
20 A Pharaoh a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.
Pennod XIII.
1 Abram a Lot yn dychwelyd o’r Aipht. 7 Trwy anghyttundeb yn ymadael â’u gilydd. 10 Lot yn myned i Sodom ddrygionus. 14 Duw yn adnewyddu y cyfammod i Abram. 18 Yntau yn symmudo i Hebron, ac yn adeiladu allor yno.
Ac Abram a aeth i fynu o’r Aipht, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gyd âg ef, i’r dehau.
2 Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.
3 Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;
4 I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd.
5 ¶ Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gyd âg Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.
6 A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd.
7 Cynnen hefyd oedd rhwng bugeilydd anifeiliaid Abram a bugeilydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Phereziaid oedd yna yn trigo yn y wlad.
8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, attolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; o herwydd brodyr ydym ni.
9 Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilldua, attolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddehau; ac os ar y llaw ddehau, minnau a droaf ar yr aswy.
10 A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorrah, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aipht, ffordd yr elych i Soar.
11 A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tu a’r dwyrain: felly yr ymneillduasant bob un oddi wrth ei gilydd.
12 Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.
13 A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.
14 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneillduo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tu a’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, a’r gorllewin.
15 Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.
16 Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
17 Cyfod, rhodia trwy y wlad, ar ei hŷd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.
18 Ac Abram a symmudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd y’ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd.
Pennod XIV.
1 Pedwar brenhin yn rhyfela yn erbyn pump. 12 Dala Lot yn garcharor. 14 Abram yn ei achub ef. 18 Melchisedec yn bendithio Abram. 20 Abram yn talu degwn iddo ef. 22 Wedi i’w gyfranwyr gael eu rhannau, mae efe yn rhoddi y rhan arall o’r ysglyfaeth i frenhin Sodom.
A bu yn nyddiau Amraphel brenhin Sinar, Arioch brenhin Elasar, Cedorlaomer brenhin Elam, a Thidal brenhin y cenhedloedd;
2 Wneuthur o honynt ryfel â Bera brenhin Sodom, ac â Birsa brenhin Gomorrah, â Sinab brenhin Admah, ac â Semeber brenhin Seboim, ac â brenhin Bela, hon yw Soar.
3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw y môr heli.
4 Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.
5 A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai oedd gyd âg ef, ac a darawsant y Rephaimiaid yn Asteroth-Carnaim, a’r Zuziaid yn Ham, a’r Emiaid yn Safeh-Ciriathaim,
6 A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.
7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a darawsant holl wlad yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson-tamar.
8 Allan hefyd yr aeth brenhin Sodom, a brenhin Gomorrah, a brenin Admah, a brenhin Seboim, a brenhin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt;
9 A Chedorlaomer brenhin Elam, a Thidal brenhin y cenhedloedd, ac Amraphel brenhin Sinar, ac Arioch brenhin Elasar: pedwar brenhin yn erbyn pump.
10 A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorrah a ffoisant, ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoisant i’r mynydd.
11 A hwy a gymmerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorrah, a’u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith.
12 Cymmerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a’i gyfoeth, ac a aethant ymaith; o herwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo.
13 A daeth un a ddïangasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo y’ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair âg Abram.
14 A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddau naw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan.
15 Ac efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a’i weision, ac a’u tarawodd hwynt, ac a’u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus.
16 Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a’i frawd Lot hefyd, a’i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.
17 ¶ A brenhin Sodom a aeth allan i’w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a’r brenhinoedd oedd gyd âg ef,) i ddyffryn Safeh, hwn yw dyffryn y brenhin.
18 Melchisedec hefyd, brenhin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf:
19 Ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:
20 A bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o’r cwbl.
21 A dywedodd brenhin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymmer i ti y cyfoeth.
22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenhin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear,
23 Na chymmerwn o edau hyd garrai esgid, nac o’r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd o honot, Myfi a gyfoethogais Abram:
24 Ond yn unig yr hyn a fwyttaodd y llangciau, a rhan y gwŷr a aethant gyd â mi, Aner, Escol, a Mamre: cymmerant hwy eu rhan.
Pennod XV
1 Duw yn cysuro Abram. 2 Abram yn cwyno nad oedd ganddo etifedd. 4 Duw yn addaw mab iddo, ac amlhâu ei had ef. 6 Abram a gyfiawnhêir trwy ffydd. 7 Addewid o wlad Canaan trachefn, a’i gadarnhâu trwy arwydd, 12 a gweledigaeth.
Wedi y pethau hyn, y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn.
2 A dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddiblant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleazar yma o Damascus.
3 Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd.
4 Ac wele air yr Arglwydd atto ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd.
5 Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di.
6 Yntau a gredodd yn yr Arglwydd, ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.
7 Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu.
8 Yntau a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?
9 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colommen.
10 Ac efe a gymmerth iddo y rhai hyn oll, ac a’u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer eu gilydd; ond ni holltodd efe yr adar.
11 A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a’u tarfai hwynt.
12 A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trwmgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.
13 Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddïeithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar càn mlynedd.
14 A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.
15 A thi a âi at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
16 Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd etto anwiredd yr Amoriaid.
17 A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
18 Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
19 Y Ceneaid, a’r Ceneziaid, a’r Cadmoniaid.
20 Yr Hethiaid hefyd, a’r Phereziaid, a’r Rephaimiaid,
21 Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.
Pennod XVI.
1 Sarai, yn ammhlantadwy, yn rhoddi Agar i Abram. 6 Agar, wedi ei chystuddio am ddïystyru ei meistres, yn rhedeg i ffordd. 9 Angel yn ei danfon hi yn ei hol i’w darostwng ei hun, 11 ac yn dywedyd iddi am ei mab. 15 Genedigaeth Ismael.
Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Aiphtes, a’i henw Agar.
2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram; Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos, attolwg, at fy llaw-forwyn; fe allai y cair i mi blant o honi hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.
3 A Sarai, gwraig Abram, a gymmerodd ei morwyn Agar yr Aiphtes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gwr yn wraig iddo.
4 ¶ Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi o honi, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi.
5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi o honi, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi.
6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.
7 ¶ Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur:
8 Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr âi di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.
9 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylaw hi.
10 Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhâu yr amlhâf dy had di, fel na rifir ef o lïosowgrwydd.
11 Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.
12 Ac efe a fydd ddyn gwŷllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig ger bron ei holl frodyr.
13 A hi a alwodd enw yr Arglwydd, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?
14 Am hynny y galwyd y ffynnon Beer-lahai-roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.
15 ¶ Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael.
16 Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.
Pennod XVII.
1 Duw yn adnewyddu y cyfammod. 5 Newidio enw Abram, yn arwydd o fendith fwy. 10 Ordeinio enwaedaid. 15 Newidio enw Sarai, a’i bendithio. 16 Addewid o Isaac. 23 Enwaedu ar Abraham ac Ismael.
A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.
2 A mi a wnaf fy nghyfammod rhyngof a thi, ac a’th amlhâf di yn aml iawn.
3 Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd,
4 Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfammod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.
5 A’th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham, canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum.
6 A mi a’th wnaf yn ffrwythlawn iawn, ac a wnaf genhedloedd o honot ti, a brenhinoedd a ddaw allan o honot ti.
7 Cadarnhâf hefyd fy nghyfammod rhyngof a thi, ac â’th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i’th had ar dy ol di.
8 A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ol di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragywyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
9 ¶ A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfammod i, ti a’th had ar dy ol, trwy eu hoesoedd.
10 Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ol di: enwaedir pob gwrryw o honoch chwi.
11 A chwi a enwaedwch gnawd eich dïenwaediad: a bydd yn arwydd cyfammod rhyngof fi a chwithau.
12 Pob gwrryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenhedlaethau; yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dïeithr, yr hwn nid yw o’th had di.
13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragywyddol.
14 A’r gwrryw dïenwaededig, yr hwn ni enwaeder cnawd ei ddïenwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfammod i.
15 ¶ Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi.
16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab o honi: ïe bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd o honi hi.
17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab càn mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain?
18 Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di!
19 A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddïau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhâf fy nghyfammod âg ef yn gyfammod tragywyddol, ac â’i had ar ei ol ef.
20 Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i llïosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
21 Eithr fy nghyfammod a gadarnhâf âg Isaac, yr hwn a ymddŵg Sarah i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.
22 Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fynu oddi wrth Abraham.
23 ¶ Ac Abraham a gymmerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwrryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dïenwaediad hwynt o fewn corph y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef.
24 Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddïenwaediad ef.
25 Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddïenwaediad ef.
26 O fewn corph y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab.
27 A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid âg arian gan neb dïeithr, a enwaedwyd gyd âg ef.
Pennod XVIII.
1 Abraham yn derbyn tri angel i’w dŷ. 9 Sarah a geryddir am chwerthin rhyngddi a hi ei hun o ran yr addewid ddïeithr. 17 Duw yn rhybuddio Abraham am ddinystr Sodom. 23 Ac Abraham yn eiriol trostynt.
A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef y’ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, y’ngwres y dydd.
2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwŷr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd tu a’r ddaear,
3 Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, attolwg, oddi wrth dy was.
4 Cymmerer, attolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorphwyswch dan y pren;
5 Ac mi a ddygaf dammaid o fara, a chryfhêwch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: o herwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.
6 Ac Abraham a frysiodd i’r babell at Sarah, ac a ddywedodd, Parottoa ar frys dair phïolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.
7 Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymmerodd lo tyner a da, ac a’i rhoddodd at y llangc, yr hwn a frysiodd i’w barattôi ef.
8 Ac efe a gymmerodd ymenyn, a llaeth, a’r llo a barattoisai efe, ac a’i rhoddes o’u blaen hwynt: ac efe a safodd gyd â hwynt tan y pren; a hwy a fwyttasant.
9 ¶ A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sarah dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.
10 Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf attat ynghylch amser bywiolaeth; ac wele fab i Sarah dy wraig. A Sarah oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ol ef.
11 Abraham hefyd a Sarah oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sarah yn ol arfer gwragedd.
12 Am hynny y chwarddodd Sarah rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a’m harglwydd yn hen hefyd?
13 A dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sarah fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio?
14 A fydd dim yn anhawdd i’r Arglwydd? Ar yr amser nodedig y dychwelaf attat, ynghylch amser bywiolaeth, a mab fydd i Sarah.
15 A Sarah a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nag ê, oblegid ti a chwerddaist.
16 ¶ A’r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tu a Sodom: ac Abraham a aeth gyd â hwynt, i’w hanfon hwynt.
17 A’r Arglwydd a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?
18 Canys Abraham yn ddïau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.
19 Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.
20 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorrah yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn;
21 Disgynaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ol eu gwaedd a ddaeth attaf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid ê, mynnaf wybod.
22 A’r gwŷr a droisant oddi yno, ac a aethant tu a Sodom: ac Abraham yn sefyll etto ger bron yr Arglwydd.
23 ¶ Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â’r annuwiol?
24 Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o’i mewn hi?
25 Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd â’r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?
26 A dywedodd yr Arglwydd, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.
27 Ac Abraham a attebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.
28 Ond odid bydd pump yn eisieu o’r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain.
29 Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef etto, ac a ddywedodd, Ond odid cair yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain.
30 Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Cair yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.
31 Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid cair yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain.
32 Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid cair yno ddeg. Yntau a ddywedodd nis difethaf er mwyn deg.
33 A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan âg Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.
PENNOD XIX.
1 Lot yn derbyn angelion i’w dŷ. 4 Taro y Sodomiaid annuwiol â dallineb. 12 Danfon Lot i’r mynydd er mwyn ei ddïogelwch. 18 Yntau yn cael cennad i fyned i Soar. 24 Dinystrio Sodom a Gomorrah. 26 Troi gwraig Lot yn golofn halen. 30 Lot yn trigo mewn ogof. 31 Godinebus fonedd Moab ac Ammon.
A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd a’i wyneb tu a’r ddaear;
2 Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, attolwg, i dŷ eich gwas; lletŷwch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, Nag ê; o herwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.
3 Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troisant atto, ac y daethant i’w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwyttasant.
4 ¶ Eithr cyn gorwedd o honynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuangc, sef yr holl bobl o bob cwrr;
5 Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan attom ni, fel yr adnabyddom hwynt.
6 Yna y daeth Lot attynt hwy allan i’r drws, ac a gauodd y ddor ar ei ol;
7 Ac a ddywedodd, Attolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg.
8 Wele yn awr, y mae dwy ferched gennyf fi, y rhai nid adnabuant wr; dygaf hwynt allan attoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn; o herwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i.
9 A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gwr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri y ddor.
10 A’r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i’r tŷ, ac a gauasant y ddor.
11 Tarawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio y drws.
12 ¶ A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb etto? mab y’nghyfraith, a’th feibion, a’th ferched, a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o’r fangre hon.
13 Oblegid ni a ddinystriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni i’w ddinystrio ef.
14 Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn prïodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o’r fan yma; o herwydd y mae yr Arglwydd yn difetha y ddinas hon: ac y’ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.
15 ¶ Ac ar godiad y wawr, yr angelion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer dy wraig, a’th ddwy ferch, y rhai sydd i’w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas.
16 Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferched; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef; ac a’i dygasant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas.
17 Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dïangc am dy einioes; nac edrych ar dy ol, ac na saf yn yr holl wastadedd: dïangc i’r mynydd, rhag dy ddifetha.
18 A dywedodd Let wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd.
19 Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddïangc i’r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw o honof.
20 Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gâd i mi ddïangc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.
21 Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiatteais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist.
22 Brysia, dïangc yno; o herwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.
23 ¶ Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar.
24 Yna yr Arglwydd a wlawiodd ar Sodom a Gomorrah frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o’r nefoedd.
25 Felly y dinystriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.
26 ¶ Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ol ef, a hi a aeth yn golofn halen.
27 ¶ Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo ger bron yr Arglwydd.
28 Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorrah, a thu a holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.
29 ¶ A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinystr, pan ddinystriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.
30 ¶ A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a’i ddwy ferch gyd âg ef: o herwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a’i ddwy ferched.
31 ¶ A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gwr nid oes yn y wlad i ddyfod attom ni, wrth ddefod yr holl ddaear.
32 Tyred, rhoddwn i’n tad win i’w yfed, a gorweddwn gyd âg ef, fel y cadwom had o’n tad.
33 A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno: a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyd â’i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
34 A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyd â’m tad; rhoddwn win iddo i’w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gyd âg ef, fel y cadwom had o’n tad.
35 A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno hefyd: a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gyd âg ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
36 Felly dwy ferched Lot a feichiogwyd o’u tad.
37 A’r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddyw.
38 A’r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Ben-ammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddyw.
Pennod XX.
1 Abraham yn ymdaith yn Gerar, 2 yn gwadu ei wraig, ac yn ei cholli hi. 3 Ceryddu Abimelech mewn breuddwyd o’i hachos hi. 9 Yntau yn ceryddu Abraham, 14 yn rhoddi Sarah yn ei hol, 16 ac yn ei cheryddu hi, 17 ac yn cael ei iachâu trwy weddi Abraham.
Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y deau, ac a gyfanheddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.
2 A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymmerth Sara.
3 Yna y daeth Duw at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymmeraist, a hithau yn berchen gwr.
4 Ond Abimelech ni nesasai atti hi: ac efe a ddywedodd, Arglwydd, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?
5 Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac y’nglendid fy nwylaw, y gwneuthum hyn.
6 Yna y dywedodd Duw wrtho ef mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th atteliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi.
7 Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gwr; oherwydd prophwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddïau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti.
8 Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.
9 Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.
10 Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?
11 A dywedodd Abraham, Am ddywedyd o honof fi. Yn ddïau nid oes ofn Duw yn y lle hwn: a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig.
12 A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.
13 Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed am danaf fi, Fy mrawd yw efe.
14 Yna y cymmerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morwynion, ac a’u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sarah ei wraig drachefn.
15 A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.
16 Ac wrth Sarah y dywedodd, Wele, rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i’r rhai oll sydd gyd â thi, a chyd â phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.
17 ¶ Yna Abraham a weddïodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forwynion; a hwy a blantasant.
18 O herwydd yr Arglwydd gan gau a gauasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sarah gwraig Abraham.
Pennod XXI.
1 Genedigaeth Isaac, 4 a’i enwaediad. 6 Llawenydd Sarah. 9 Bwrw Agar ac Ismael allan. 15 Agar mewn cyfyngdra. 17 Yr angel yn ei chysuro hi. 22 Cynghrair rhwng Abimelech ac Abraham yn Beer-seba.
A’r Arglwydd a ymwelodd â Sarah fel y dywedasai, a gwnaeth yr Arglwydd i Sarah fel y llefarasai.
2 O herwydd Sarah a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef.
3 Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo, (yr hwn a ymddygasai Sarah iddo ef) Isaac.
4 Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai Duw iddo ef.
5 Ac Abraham oedd fab càn mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6 ¶ A Sarah a ddywedodd, Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyd â mi.
7 Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoisai Sarah sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
8 A’r bachgen a gynnyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
9 ¶ A Sarah a welodd fab Agar yr Aiphtes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
10 A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaeth-forwyn hon a’i mab; o herwydd ni chaiff mab y gaethes hon gyd-etifeddu â’m mab i Isaac.
11 A’r peth hyn fu ddrwg iawn y’ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
12 ¶ A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llangc, nac am dy gaeth-forwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sarah wrthyt, gwrando ar ei llais: o herwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
13 Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, o herwydd dy had di ydyw ef.
14 Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymmerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, (gan osod ar ei hysgwydd hi hynny,) a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer-seba.
15 A darfu y dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd.
16 A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ym mhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
17 A Duw a wrandawodd ar lais y llangc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llangc lle y mae efe.
18 Cyfod, cymmer y llangc, ac ymafael ynddo â’th law, oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
19 A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr, ac a ddïododd y llangc.
20 Ac yr oedd Duw gyd â’r llangc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.
21 Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a’i fam a gymmerodd iddo ef wraig o wlad yr Aipht.
22 ¶ Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant âg Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyd â thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.
23 Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlawn i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ol y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
24 Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.
25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.
26 Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybum i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddyw.
27 Yna y cymmerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.
28 Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain.
29 Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?
30 Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymmeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.
31 Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer-seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.
32 Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer-seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.
33 ¶ Ac yntau a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragwyddol.
34 Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.
Pennod XXII.
1 Profi Abraham i aberthu ei fab. 3 Yntau yn dangos ei ffydd a’i ufudd-dod. 11 Yr angel yn ei rwystro ef. 13 Newid Isaac am hwrdd. 14 Galw y lle Jehofah-jire. 15 Bendithio Abraham drachefn. 20 Cenhedlaeth Nachor hyd Rebeccah.
Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
2 Yna y dywedodd Duw, Cymmer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Morïah, ac offrymma ef yno yn boeth-offrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
3 ¶ Ac Abraham a fore-gododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymmerodd ei ddau langc gyd âg ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poeth-offrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho.
4 Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai y lle o hirbell.
5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei langciau, Arhoswch chwi yma gyd â’r asyn; a mi a’r llangc a awn hyd accw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn attoch.
6 Yna y cymmerth Abraham goed y poeth-offrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymmerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd.
7 A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poeth-offrwm?
8 Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poeth-offrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd:
9 Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.
10 Ac Abraham a estynodd ei law, ac a gymmerodd y gyllell i ladd ei fab;
11 Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
12 Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo: o herwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad atteliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.
13 Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ol ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymmodd yn boeth-offrwm yn lle ei fab.
14 Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw Jehofah-jire; fel y dywedir heddyw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.
15 ¶ Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd;
16 Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad atteliaist dy fab, dy unig fab:
17 Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar làn y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion;
18 Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrandaw o honot ar fy llais i.
19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei langciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer-seba: ac Abraham a drigodd yn Beer-seba.
20 ¶ Darfu hefyd, wedi y pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milcah hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;
21 Hus ei gyntaf-anedig, a Buz ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,
22 A Chesed, a Hazo, a Phildas, ac Idlaph, a Bethuel.
23 A Bethuel a genhedlodd Rebeccah: yr wyth hyn a blantodd Milcah i Nachor brawd Abraham.
24 Ei ordderch-wraig hefyd, a’i henw Reumah, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maachah.
Pennod XXIII.
1 Oedran a marwolaeth Sarah. 3 Prynu Machpelah, 19 lle y claddwyd Sarah.
Ac oes Sara ydoedd gàn mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sarah.
2 A Sara a fu farw yng Nghaer-Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sarah, ac i wylofain am dani hi.
3 ¶ Yna y cyfododd Abraham i fynu oddi ger bron ei gorph marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd,
4 Dïeithr ac alltud ydwyf fi gyd â chwi; rhoddwch i mi feddiant beddrod gyd â chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg.
5 A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho,
6 Clyw ni, fy arglwydd: tywysog Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb o honom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw.
7 Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymmodd i bobl y tir, sef i feibion Heth;
8 Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg, gwrandêwch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar;
9 Ar roddi o hono ef i mi yr ogof Machpelah, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd y’nghwrr ei faes, er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi.
10 Ac Ephron oedd yn aros ym mysg meibion Heth: ac Ephron yr Hethiad a artebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, y’ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd,
11 Nag ê, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi, y’ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.
12 Ac Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tir.
13 Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Etto, os tydi a’i rhoddi, atolwg, gwrando fi; rhoddaf werth y maes; cymmer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno.
14 Ac Ephron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,
15 Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar càn sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw.
16 Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron: a phwysodd Abraham i Ephron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar càn sicl o arian cymmeradwy ym mhlith marchnadwyr.
17 ¶ Felly y sicrhâwyd maes Ephron, yr hwn oedd ym Machpelah, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a’r ogof oedd ynddo, a phob pren a’r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch,
18 Yn feddiant i Abraham, y’ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.
19 Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sarah ei wraig yn ogof maes Machpelah, o flaen Mamre; honno yw Hebron, yn nhir Canaan.
20 A sicrhâwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.
Pennod XXIV.
1 Abraham yn peri i’w was dyngu. 10 Taith y gwas: 12 Ei weddi: 14 Ei arwydd. 15 Rebeccah yn ei gyfarfod ei, 18 yn cwblhâu ei arwydd ef, 22 yn derbyn tlysau, 23 yn dangos ei chenedl, 25 ac yn ei wahodd ef adref. 26 Y gwas yn benditio Duw. 29 Laban yn ei groesawu ef. 34 Y gwas yn traethu ei neges. 50 Laban a Bethuel yn foddlawn. 58 Rebeccah yn cydsynio i fyned. 62 Isaac yn cyfarfod â hi.
Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim.
2 A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd:
3 A mi a bataf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg.
4 Ond i’m gwlad i yr âi, ac at fy nghenedl i yr âi di, ac a gymmeri wraig i’m mab Isaac.
5 A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ol i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan o hono?
6 A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.
7 ¶ Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymmeri wraig i’m mab oddi yno.
8 Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ol di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.
9 A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.
10 ¶ A chymmerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl ddâ ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.
11 Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brydnawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr.
12 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, attolwg, pâr i mi lwyddiant heddyw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham.
13 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:
14 A bydded, mai y llangces y dywedwyf wrthi, Gogwydda, attolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddïodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd â’m meistr.
15 ¶ A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeccah yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milcah, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd.
16 A’r llangces oedd dêg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i wr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fynu.
17 A’r gwas a redodd i’w chyfarfod, ac a ddywedodd, Attolwg, gâd i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên.
18 A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a’i dïododd ef.
19 A phan ddarfu iddi ei ddïodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i’th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed.
20 A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn, ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd i’w holl gamelod ef.
21 A’r gwr, yn synnu o’i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai nad do.
22 A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymmeryd o’r gwr glust-dlws aur, yn banner sicl ei bwys; a dwy freichled i’w dwylaw hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys.
23 Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, attolwg: a oes lle i ni i lettŷa yn nhŷ dy dad?
24 A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milcah, yr hwn a ymddûg hi i Nachor.
25 A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i lettŷa.
26 A’r gwr a ymgrymmodd, ac a addolodd yr Arglwydd.
27 Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr.
28 A’r llangces a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.
29 ¶ Ac i Rebeccah yr oedd brawd, a’i enw Laban: a Laban a redodd at y gwr allan i’r ffynnon.
30 A phan welodd efe y clust-dlws, a’r breichledau am ddwylaw ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeccah ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gwr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gwr; ac wele efe yn sefyll gyd â’r camelod wrth y ffynnon.
31 Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr Arglwydd; paham y sefi di allan? canys mi a barottoais y tŷ, a lle i’r camelod.
32 ¶ A’r gwr a aeth i’r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gyd âg ef.
33 A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwytta; ac efe a ddywedodd, Ni fwyttâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha.
34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi.
35 A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac asynod.
36 Sarah hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo.
37 A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymmer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir.
38 Ond ti a âi i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymmeri wraig i’m mab.
39 A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ol i.
40 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyd â thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymmeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad.
41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.
42 A heddyw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:
43 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, attolwg, ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên;
44 Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.
45 A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeccah yn dyfod allan, a’i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dïoda fi, attolwg.
46 Hithau a frysiodd, ac a ddisgynodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhâf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd.
47 A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milcah iddo ef. Yna y gosodais y clust-dlws wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylaw hi:
48 Ac a ymgrymmais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymmeryd merch brawd fy meistr i’w fab ef.
49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr, mynegwch i mi: ac onid ê, mynegwch i mi; fel y tröwyf ar y llaw ddehau, neu ar y llaw aswy.
50 Yna yr attebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.
51 Wele Rebeccah o’th flaen; cymmer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd.
52 A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymmodd hyd lawr i’r Arglwydd.
53 A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a’u rhoddodd i Rebeccah: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi, ac i’w mam.
54 A hwy a fwyttasant ac a yfasant, efe a’r dynion oedd gyd âg ef, ac a lettyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr.
55 Yna y dywedodd ei brawd a’i mam, Triged y llangces gyd â ni ddeng niwrnod o’r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned.
56 Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr.
57 Yna y dywedasant, Galwn ar y llangces, a gofynnwn iddi hi.
58 A hwy a alwasant ar Rebeccah, a dywedasant wrthi, A âi di gyd â’r gwr hwn? A hi a ddywedodd, Af.
59 A hwy a ollyngasant Rebeccah eu chwaer, a’i mamaeth, a gwas Abraham, a’i ddynion;
60 Ac a fendithiasant Rebeccah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
61 ¶ Yna y cododd Rebeccah, a’i llangcesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ol y gwr; a’r gwas a gymmerodd Rebeccah, ac a aeth ymaith.
62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai-roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y dehau.
63 Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.
64 Rebeccah hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel.
65 Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gwr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? A’r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymmerth orchudd, ac a ymwisgodd.
66 A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.
67 Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymmerth Rebeccah, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a’i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ol ei fam.
Pennod XXV.
1 Plant Abraham o Ceturah. 5 Rhannu ei ddâ ef. 7 Ei oedran a’i farwolaeth. 9 Ei gladdedigaeth. 12 Cenhedlaethau Ismael. 17 Ei oedran a’i farwolaeth. 21 Isaac yn gweddïo dros Rebeccah, yr hon oedd yn ammhlantadwy. 22 Y plant yn ymwthio yn ei chroth hi. 24 Genedigaeth Esau a Jacob. 27 Y rhagor oedd rhyngddynt hwy. 29 Esau yn gwerthu braint ei enedigaeth.
Ac Abraham a gymmerodd eilwaith wraig, a’i henw Ceturah.
2 A hi a esgorodd iddo ef Zimran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Suah.
3 A Jocsan genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lëummim.
4 A meibion Midian oedd Ephah, ac Epher, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaah: yr holl rai hyn oedd feibion Ceturah.
5 ¶ Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac.
6 Ac i feibion gordderch-wragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tu a’r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe etto yn fyw.
7 A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; càn mlynedd a phymtheng mlynedd a thri ugain.
8 Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl.
9 Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpelah, ym maes Ephron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre;
10 Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.
11 ¶ Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai-roi.
12 ¶ A dyma genhedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Aiphtes, morwyn Sara, i Abraham.
13 A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenhedlaethau: Nebaioth cyntaf-anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam,
14 Misma hefyd, a Dumah, a Massa,
15 Hadar, a Themah, Jetur, Nephis, a Chedemah.
16 Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll: yn ddeuddeg o dywysogion yn ol eu cenhedloedd.
17 A dyma flynyddoedd einioes Ismael; càn mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl.
18 Preswyliasant hefyd o Hafilah hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aipht, ffordd yr âi di i Assyria: ac y’ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
19 ¶ A dyma genhedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.
20 Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymmerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.
21 Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy, a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeccah ei wraig ef a feichiogodd.
22 A’r plant a ymwthiasant â’u gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â’r Arglwydd.
23 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
24 ¶ A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi.
25 A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau.
26 Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab tri ugeinmlwydd pan anwyd hwynt.
27 A’r llangciau a gynnyddasant: ac Esau oedd wr yn medru hela, a gwr o’r maes, a Jacob oedd wr disyml, yn cyfanneddu mewn pebyll.
28 Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwytta o’i helwriaeth ef: a Rebecca a hoffai Jacob.
29 ¶ A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddiffygiol.
30 A dywedodd Esau wrth Jacob, Gâd i mi yfed, attolwg, o’r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.
31 A dywedodd Jacob, Gwerth di heddyw i mi dy enedigaeth-fraint.
32 A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha lês a wna yr enedigaeth-fraint hon i mi?
33 A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth-fraint i Jacob.
34 A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwyttaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y dïystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.
Pennod XXVI.
1 Isaac o achos newyn yn myned i Gerar. 2 Duw yn ei addysgu ac yn ei fenditihio ef. 7 Abimelech yn ei geryddu ef am wadu ei wraig. 12 Efe yn myned yn gyfoethog: 18 Yn cloddio ffynnon Esec, Sitnah, a Rehoboth. 26 Abimelech yn gwneuthur cynghrair âg ef yn Beer-seba. 34 Gwragedd Esau.
A bu newyn yn y tir, heb law y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenhin y Philistiaid i Gerar.
2 A’r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i’r Aipht: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt.
3 Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf; o herwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.
4 A mi a amlhâf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genhedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:
5 Am wrandaw o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwriaeth, fy ngorchymynion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.
6 ¶ Ac Isaac a drigodd yn Gerar.
7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi; canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeccah: canys yr ydoedd hi yn dêg yr olwg.
8 A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenhin y Philistiaid edrych trwy y ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeccah ei wraig.
9 Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddïau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd o honof, Rhag fy marw o’i phlegid hi.
10 A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o’r bobl orwedd gyd â’th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod.
11 A gorchymynnodd Abimelech i’r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â’r gwr hwn, neu â’i wraig, a leddir yn farw.
12 Ac Isaac a hauodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y càn cymmaint. A’r Arglwydd a’i bendithiodd ef.
13 A’r gwr a gynnyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.
14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a’r Philistiaid a genfigennasant wrtho ef.
15 A’r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a’u cauasant hwy, ac a’u llanwasant â phridd.
16 Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.
17 ¶ Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno.
18 Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gauasai y Philistiaid wedi marw Abraham; ac a enwodd enwau arnynt, yn ol yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy.
19 Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog.
20 A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, Y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec; o herwydd ymgynhennu o honynt âg ef.
21 Cloddiasant hefyd bydew arall: ac ymrysonasant am hwnnw; ac efe a alwodd ei enw ef Sitnah.
22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall; ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth; ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir.
23 Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Beer-seba.
24 A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad ti: nac ofna; canys byddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf, ac a lïosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.
25 Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.
26 ¶ Yna y daeth Abimelech atto ef o Gerar, ac Ahuzzath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu.
27 Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, Paham y daethoch chwi attaf fi; gan i chwi fy nghasâu, a’m gyrru oddi wrthych?
28 Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyd â thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfammod â thi;
29 Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y’th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr Arglwydd.
30 Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwyttasant ac a yfasant.
31 Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i’w gilydd: ac Isaac a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.
32 A’r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr.
33 Ac efe a’i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beer-seba hyd y dydd hwn.
34 ¶ Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymmerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.
35 A hwy oeddynt chwerwder yspryd i Isaac ac i Rebeccah.
Pennod XXVII.
1 Isaac yn anfon Esau am helwriaeth. 6 Rebeccah yn dysgu Jacob i gael y fendith. 15 Jacob yn rhith Esau yn ei chaffael. 30 Esau yn dwyn ei saig. 33 Isaac yn dychrynu. 34 Esau yn cwynofain, a thrwy daerni yn caffael bendith. 41 Yn bygwth Jacob. 42 Rebeccah yn ei siommi ef.
A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw o hono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi.
2 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.
3 Ac yn awr cymmer, attolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa.
4 A gwna i mi flasus-fwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwyttâwyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw.
5 A Rebeccah a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa i’w dwyn.
6 ¶ A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd,
7 Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasus-fwyd, fel y bwyttâwyf, ac y’th fendithiwyf ger bron yr Arglwydd cyn fy marw.
8 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchymynnaf i ti.
9 Dos yn awr i’r praidd, a chymmer i mi oddi yno ddau fỳn gafr da; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad, o’r fath a gâr efe.
10 A thi a’u dygi i’th dad, fel y bwyttao, ac y’th fendithio cyn ei farw.
11 A dywedodd Jacob wrth Rebeccah ei fam, Wele, Esau fy mrawd yn wr blewog, a minnau yn wr llyfn:
12 Fy nhad, ond odid, a’m teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felldith, ac nid bendith.
13 A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felldith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi.
14 Ac efe a aeth, ac a gymmerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef.
15 Rebeccah hefyd a gymmerodd hoff-wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyd â hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf.
16 A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylaw ef, ac am lyfndra ei wddf ef:
17 Ac a roddes y bwyd blasus, a’r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.
18 ¶ Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab?
19 A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf-anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, attolwg, eistedd, a bwyta o’m helfa, fel y’m bendithio dy enaid.
20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan a hyn? Yntau a ddywedodd, Am i’r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o’m blaen.
21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nês yn awr, fel y’th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad ê.
22 A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a’i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a’r dwylaw, dwylaw Esau ydynt.
23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylaw fel dwylaw ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a’i bendithiodd ef.
24 Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw.
25 Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nês attaf fi, a mi a fwyttâf o helfa fy mab, fel y’th fendithio fy enaid. Yna y dug atto ef, ac efe a fwyttaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd.
26 Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nês yn awr, a chusana fi, fy mab.
27 Yna y daeth efe yn nês, ac a’i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.
28 A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o frasder y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin:
29 Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymmed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymmed meibion dy fam i ti: melldigedig fyddo a’th felldithio, a bendigedig a’th fendithio.
30 ¶ A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o’i hela.
31 Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a’i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwyttâed o helfa ei fab, fel y’m bendithio dy enaid.
32 Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf-anedig Esau.
33 Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a’i dug i mi, a mi a fwytteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac a’i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe.
34 Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ïe finnau, fy nhad.
35 Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di.
36 Dywedodd yntau, Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: dug fy ngenedigaeth-fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyd â thi fendith i minnau?
37 Ac Isaac a attebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; âg ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnafi tithau, fy mab, weithian?
38 Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
39 Yna yr attebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mrasder y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ym mysg gwlith y nefoedd oddi uchod;
40 Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.
41 ¶ Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesâu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.
42 A mynegwyd i Rebeccah eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di, ar fedr dy ladd di.
43 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran;
44 Ac aros gyd âg ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd;
45 Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio o hono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad o honoch eich dau mewn un dydd?
46 Dywedodd Rebeccah hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes o herwydd merched Heth: os cymmer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwennychwn fy einioes?
Pennod XXVIII.
1 Isaac yn bendithio Jacob, ac yn ei anfon ef i Mesopotamia. 9 Esau yn prïodi Mahalath merch Ismael. 12 Gweledigaeth ysgol Jacob. 18 Maen Bethel. 20 Adduned Jacob.
Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a’i bendithiodd ef: efe a orchymynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymmer wraig o ferched Canaan.
2 Cyfod, dos i Mesopotamia, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymmer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam:
3 A Duw Hollalluog a’th fendithio, ac a’th ffrwythlono, ac a’th lïosogo, fel y byddech yn gynnulleidfa pobloedd:
4 Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th had gyd â thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham.
5 Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob, ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
6 ¶ Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a’i anfon ef i Mesopotamia, i gymmeryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymmer wraig o ferched Canaan;
7 A gwrandaw o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a’i fyned i Mesopotamia;
8 Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan y’ngolwg Isaac ei dad;
9 Yna Esau a aeth at Ismael, ac gymmerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.
10 ¶ A Jacob a aeth allan o Beer-seba ac a aeth tu a Haran.
11 Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a lettŷodd yno dros nos; oblegid machludo yr haul: ac efe a gymmerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.
12 Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angelion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi.
13 Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
14 A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r dehau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
15 Ac wele fi gyd â thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: o herwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.
16 ¶ A Jacob a ddeffrôdd o’i gwsg; ac a ddywedodd, Dïau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.
17 Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw y lle hwn! nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.
18 A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymmerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a’i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.
19 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Luz fuasai enw y ddinas o’r cyntaf.
20 Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyd â myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i’w fwytta, a dillad i’w gwisgo,
21 A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.
22 A’r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ Dduw; ac o’r hyn oll a roddech i mi gan ddegymu mi a’i degymmaf i ti.
Pennod XXIX.
1 Jacob yn dyfod at ffynnon Haran. 9 Yn ymgaredigo â Rahel. 13 Laban yn ei groesawn ef i’w dŷ. 18 Jacob yn gwneuthur ammod am Rahel. 23 Ei siommi ef â Leah. 28 Yntau yn prïodi Rahel, ac yn gwasanaethu am dani hi saith mlynedd eraill. 32 Leah yn dwyn Reuben, 33 Simeon, 34 Lefi, 35 a Judah.
A Jacob a gymmerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.
2 Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair dïadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhâent y dïadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau y pydew.
3 Ac yno y cesglid yr holl ddïadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhâent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau y pydew yn ei lle.
4 A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni.
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.
6 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyd â’r defaid.
7 Yna y dywedodd efe, Wele etto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu yr anifeiliaid: dyfrhêwch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.
8 A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddïadelloedd, a threiglo o honynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhâwn y praidd.
9 ¶ Tra yr ydoedd efe etto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyd â’r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.
10 A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.
11 A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
12 A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeccah oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i’w thad.
13 A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.
14 A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddïau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gyd âg ef fis o ddyddiau.
15 ¶ A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y’m gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?
16 Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Leah, ac enw yr ieuangaf Rahel.
17 A llygaid Leah oedd weiniaid; ond Rahel oedd dêg ei phryd, a glandeg yr olwg.
18 A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.
19 A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na’i rhoddi i wr arall; aros gyd â mi.
20 Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.
21 ¶ A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf atti hi.
22 A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.
23 Ond bu yn yr hwyr, iddo gymmeryd Leah ei ferch, a’i dwyn hi atto ef; ac yntau a aeth atti hi.
24 A Laban a roddodd iddi Zilpah ei forwyn, yn forwyn i Leah ei ferch.
25 A bu, y bore, wele Leah oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y’th wasanaethais? a phaham y’m twyllaist?
26 A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.
27 Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyd â mi etto saith mlynedd eraill.
28 A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.
29 Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.
30 Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Leah, ac a wasanaethodd gyd âg ef etto saith mlynedd eraill.
31 A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Leah, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy.
32 A Leah a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: o herwydd hi a ddywedodd, Dïau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngwr a’m hoffa i.
33 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.
34 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngwr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi.
35 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei enw ef Judah. A hi a beidiodd â phlanta.
Pennod XXX.
1 Rahel, gan fod yn ddigllawn nad oedd yn planta, yn rhoddi Bilhah ei llaw-forwyn i Jacob. 5 Hithau yn dwyn Dan a Naphtali. 9 Leah yn rhoddi Zilpah ei llaw-forwyn, yr hon a ymddûg Gad ac Aser. 14 Reuben yn cael mandragorau, am y rhai y mae Leah yn prynu ei gwr gan Rahel. 17 Leah yn dwyn Issachar, Zabulon, a Dinah. 22 Rahel yn dwyn Joseph. 25 Jacob yn deisyfu cael myned ymaith. 27 Laban yn ei attal ef ar gyfammod newydd. 37 Dyfais Jacob, trwy yr hon yr ymgyfoethogodd efe.
Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi, ac onid ê mi a fyddaf farw.
2 A chynneuodd llid Jacob wrth Rahel, ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle Duw, yr hwn a attaliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti?
3 A dywedodd hithau, Wele fy llaw-forwyn Bilhah, dos i mewn atti hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd o honi hi.
4 A hi a roddes ei llaw-forwyn Bilhah iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn atti.
5 A Bilhah a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.
6 A Rahel a ddywedodd, Duw a’m barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.
7 Hefyd Bilhah, llaw-forwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob.
8 A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Naphtali.
9 Pan welodd Lea beidio o honi â phlanta, hi a gymmerth ei llaw-forwyn Zilpah, ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob.
10 A Zilpah, llaw-forwyn Leah, a ymddûg fab i Jacob.
11 A Leah a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad.
12 A Zilpah, llaw-forwyn Leah, a ymddûg yr ail mab i Jacob.
13 A Leah a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.
14 ¶ Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhauaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a’u dug hwynt at Leah ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Leah, Dyro, attolwg, i mi o fandragorau dy fab.
15 Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn o honot fy ngwr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyd â thi heno am fandragorau dy fab.
16 A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Leah a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Attaf fi y deui: oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyd â hi y nos honno.
17 A Duw a wrandawodd ar Leah, a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.
18 A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, o herwydd rhoddi o honof fi fy llaw-forwyn i’m gwr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar.
19 Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob.
20 A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynnysgaeth dda; fy ngwr a drig weithian gyd â mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Zabulon.
21 Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dinah.
22 ¶ A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi.
23 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith.
24 A hi a alwodd ei enw ef Joseph, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.
25 ¶ A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseph, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun.
26 Dyro fy ngwragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais am danynt gyd â thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti.
27 A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i o’th blegid di.
28 Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a’i rhoddaf.
29 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyd â myfi.
30 Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn llïosowgrwydd y cynnyddodd; o herwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun?
31 Dywedodd yntau, Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a attebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.
32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddyw, gan neillduo oddi yno bob llwdn mân-frith a mawr-frith, a phob llwdn coch-ddu ym mhlith y defaid; y mawr-frith hefyd a’r mân-frith ym mhlith y geifr: ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog.
33 A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyd â mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân-frith neu fawr-frith ym mhlith y geifr, neu goch-ddu ym mhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyd â myfi.
34 A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ol dy air di!
35 Ac yn y dydd hwnnw y neillduodd efe y bychod cylch-frithion a mawr-frithion, a’r holl eifr mân-frithion a mawr-frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwỳn arno, a phob coch-ddu ym mhlith y defaid, ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun.
36 Ac a osododd daith tri niwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.
37 ¶ A Jacob a gymmerth iddo wïail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwỳnion, gan ddatguddio y gwỳn yr hwn ydoedd yn y gwïail.
38 Ac efe a osododd y gwïail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwtterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai y praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.
39 A’r praidd a gyfebrasant wrth y gwïail; a’r praidd a ddug rai cylch-frithion, a mân-frithion, a mawr-frithion.
40 A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tu ag at y cylch-frithion, ac at bob coch-ddu ym mhlith praidd Laban; ac a osododd ddïadellau iddo ei hun o’r neilldu, ac nid gyd â phraidd Laban y gosododd hwynt.
41 A phob amser y cyfebrai y defaid cryfaf, Jacob a osodai y gwïail o flaen y praidd yn y cwtterydd, i gael o honynt gyfebru wrth y gwïail;
42 Ond pan fyddai y praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a’r cryfaf eiddo Jacob.
43 A’r gwr a gynnyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morwynion, a gweision, a chamelod, ac asynod.
Pennod XXXI.
1 Jacob ar sorriant yn ymadael yn ddirgel. 19 Rahel yn lladratta delwau ei thad. 22 Laban yn canlyn ar ei ol ef, 26 ac yn achwyn rhag y cam. 34 Dyfais Rahel i guddio y delwau. 36 Jacob yn achwyn o herwydd Laban. 43 Y cyfammod rhwng Laban a Jacob yn Galeed.
Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i’n tad ni, ac o’r hyn ydoedd i’n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn.
2 Hefyd Jacob a welodd wynebpryd Laban, ac wele, nid ydoedd tu ag atto ef megis cynt.
3 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyd â thi.
4 A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Leah i’r maes, at ei braidd,
5 Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynebpryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tu ag attaf fi: a Duw fy nhad a fu gyd â myfi.
6 A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad.
7 A’ch tad a’m twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond nis dïoddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.
8 Os fel hyn y dywedai; Y mân-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a eppilient fân-frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a eppilient rai cylch-frithion.
9 Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a’u rhoddes i mi.
10 Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, ddyrchafu o honof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llammu y praidd,) yn glych-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion.
11 Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a attebais, Wele fi.
12 Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwel yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu y praidd yn gylch-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.
13 Myfi yw Duw Bethel, lle yr enneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.
14 A Rahel a Lea a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes etto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?
15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a’n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.
16 Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni, nyni a’n plant a’i pïau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt, gwna.
17 ¶ Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a’i wragedd ar gamelod;
18 Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a’i holl gyfoeth yr hwn a ennillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a ennillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan.
19 Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladrattasai y delwau oedd gan ei thad hi.
20 A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd.
21 Felly y ffodd efe â’r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead.
22 A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob.
23 Ac efe a gymmerth ei frodyr gyd âg ef, ac a erlidiodd ar ei ol ef daith saith niwrnod; ac a’i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.
24 A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan o honot wrth Jacob na da na drwg.
25 ¶ Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â’i frodyr ym mynydd Gilead.
26 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf.
27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladratteaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn?
28 Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffol, gan wneuthur hyn.
29 Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg.
30 Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladratteaist fy nuwiau i?
31 A Jacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Am ofni o honof; oblegid dywedais, Rhag dwyn o honot dy ferched oddi arnaf trwy drais.
32 Gyd â’r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: ger bron ein brodyr myn wybod pa beth o’r eiddot ti sydd gyd â myfi, a chymmer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a’u lladrattasai hwynt.
33 A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Leah, ac i babell y ddwy law-forwyn, ac nis cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Leah, ac y daeth i babell Rahel.
34 A Rahel a gymmerasai y delwau, ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban a chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd.
35 A hi a ddywedodd wrth ei thad, Na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd, ac ni chafodd y delwau.
36 ¶ A Jacob a ddigiodd, ac a roes sèn i Laban: a Jacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid o honot ar fy ol?
37 Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma ger bron fy mrodyr i a’th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau.
38 Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyd â thi; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwytteais hyrddod dy braidd.
39 Ni ddygais ysglyfaeth attat ti: myfi a’i gwnawn ef yn dda; o’m llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrattêid y dydd, a’r hyn a ladrattêid y nos.
40 Bûm y dydd, y gwres a’m treuliodd, a rhew y nos; a’m cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid.
41 Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferched, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau.
42 Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyd â mi, dïau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylaw, ac a’th geryddodd di neithiwyr.
43 ¶ Laban a attebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a’r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a’r praidd yw fy mhraidd i; a’r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddyw pa beth a wnaf i’m merched hyn, ac i’w meibion hwynt y rhai a esgorasant?
44 Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfammod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau.
45 A Jacob a gymmerth garreg, ac a’i cododd hi yn golofn.
46 Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymmerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwyttasant yno ar y garnedd.
47 A Laban a’i galwodd hi Jeger-Sahadutha: a Jacob a’i galwodd hi Galeed.
48 A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddyw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed,
49 A Mispah; oblegid efe a ddywedodd, Gwilied yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd.
50 Os gorthrymmi di fy merched, neu os cymmeri wragedd heb law fy merched i; nid oes neb gyd â ni; edrych, Duw sydd dyst rhyngof fi a thithau.
51 Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, Wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi:
52 Tyst a fydd y garnedd hon, a thyst a fydd y golofn, na ddeuaf fi dros y garnedd hon attat ti, ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na’r golofn hon attaf fi, er niwed.
53 Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac.
54 Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwytta bara: a hwy a fwyttasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd.
55 A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a’i ferched, ac a’u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i’w fro ei hun.
Pennod XXXII.
1 Gweledigaeth Jacob ym Mahanaim. 3 Ei gennadwriaeth at Esau. 6 Mae efe yn ofni dyfodiad Esau. 9 Yn gweddïo am ymwared. 13 Yn anfon anrheg i Esau. 24 Yn ymdrech âg angel yn Peniel; lle y gelwir ef Israel. 31 Mae efe yn cloffi.
A Jacob a gerddodd i’w daith yntau: ac angylion Duw a gyfarfu âg ef.
2 A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll Duw: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.
3 A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:
4 Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyd â Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.
5 Ac y mae i mi eidionau, ac asynod, defaid, a gweision, a morwynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.
6 ¶ A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef.
7 Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gyd âg ef, a’r defaid, a’r eidionau, a’r camelod, yn ddwy fintai;
8 Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddïangol.
9 ¶ A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!
10 Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was: oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.
11 Achub fi, attolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod o hono a’m taro, a’r fam gyd â’r plant.
12 A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddïau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.
13 ¶ Ac yno y llettŷodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth i’w law ef y cymmerth efe anrheg i’w frawd Esau;
14 Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,
15 Deg ar hugain o gamelod blithion a’u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asenod, a deg o ebolion.
16 Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyrr o’r neilldu: ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyrr a’i gilydd.
17 Ac efe a orchymynodd i’r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr âi? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o’th flaen di?
18 Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hol ni.
19 Felly y gorchymynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.
20 A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hol ni. Oblegid, eb efe, boddlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.
21 Felly yr anrheg a aeth trosodd o’i flaen ef: ac efe a lettŷodd y noson honno yn y gwersyll.
22 Ac efe a gyfododd y noson honno, a gymmerth ei ddwy wragedd, a’i ddwy law-forwyn, a’i un mab ar ddeg, ac a aeth dros rŷd Jabboc.
23 Ac a’u cymmerth hwynt, ac a’u trosglwyddodd trwy yr afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.
24 ¶ A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gwr âg ef nes codi y wawr.
25 A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chysswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cysswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech o hono âg ef.
26 A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a attebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi.
27 Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a attebodd, Jacob.
28 Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyd â Duw fel tywysog, a chyd â dynion, ac a orchfygaist.
29 A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, attolwg, dy enw. Ac yntau a attebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef.
30 A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a dïangodd fy einioes.
31 A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o’i glun.
32 Am hynny plant Israel ni fwyttânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cysswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chysswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.
Pennod XXXIII.
1 Caredigrwydd Jacob ac Esau wrth gyfarfod. 17 Jacob yn dyfod i Succoth; 18 yn prynu maes yn Salem, ac yn adeiladu allor, a’i henwi El-Elohe-Israel.
A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy law-forwyn.
2 Ac ym mlaen y gosododd efe y ddwy law-forwyn, a’u plant hwy, a Leah a’i phlant hithau yn ol y rhai hynny, a Rahel a Joseph yn olaf.
3 Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.
4 Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd ef: a hwy a wylasant.
5 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu y gwragedd, a’r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes Duw o’i ras i’th was di.
6 Yna y llaw-forwynion a nesasant, hwynt-hwy a’u plant, ac a ymgrymmasant.
7 A Leah a nesaodd a’i phlant hithau, ac a ymgrymamsant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymmasant.
8 Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai accw a gyfarfum i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
9 Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt.
10 A Jacob a ddywedodd, Nag ê; attolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymmer fy anrheg o’m llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn foddlawn i mi.
11 Cymmer, attolwg, fy mendith, yr hon a ddygpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslawn i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymmerodd;
12 Ac a ddywedodd, Cychwynwn, ac awn: a mi a âf o’th flaen di.
13 Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyd â myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna yr holl braidd.
14 Aed, attolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo yr anifeiliaid sydd o’m blaen i, ac y gallo y plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.
15 Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyd â thi rai o’r bobl sydd gyd â mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Cafwyf ffafr y’ngolwg fy arglwydd.
16 ¶ Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.
17 A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.
18 ¶ Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd y’ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.
19 Ac a brynodd ran o’r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gàn darn o arian:
20 Ac a osododd yno allor, ac a’i henwodd El-Elohe-Israel.
Pennod XXXIV.
1 Sichem yn treisio Dinah: 4 yn ei gofyn hi yn brïod. 13 Meibion Jacob yn cynnyg i’r Sichemiaid ammod yr enwaediad. 20 Hemor a Sichem yn eiriol arnynt am ei dderbyn. 25 Meibion Jacob ar y fantais honno yn eu lladd hwynt, 27 ac yn yspeilio eu dinas. 30 Jacob yn ceryddu Simeon a Lefi.
A Dinah merch Leah, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad.
2 A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a’i canfu hi, ac a’i cymmerth hi, ac a orweddodd gyd â hi, ac a’i treisiodd.
3 A’i enaid ef a lynodd wrth Dinah merch Jacob, ïe, efe a hoffodd y llangces, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llangces.
4 Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymmer y llangces hon yn wraig i mi.
5 A Jacob a glybu i Sichem halogi Dinah ei ferch: (a’i feibion ef oedd gyd â’i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.
6 ¶ A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan âg ef.
7 A meibion Jacob a ddaethant o’r maes, wedi clywed o honynt; a’r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyd â merch Jacob, canys ni ddylesid gwneuthur felly.
8 A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi, attolwg, yn wraig iddo ef.
9 Ac ymgyfathrechwch â ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymmerwch ein merched ni i chwithau.
10 A chwi a gewch breswylio gyd â ni, a’r wlad fydd o’ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi.
11 Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Cafwyf ffafr yn eich golwg, a’r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf.
12 Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynnysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llangces i mi yn wraig.
13 A meibion Jacob a attebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, o herwydd iddo ef halogi Dinah eu chwaer hwynt;
14 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i wr dïenwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni.
15 Ond yn hyn y cyttunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwrryw i chwi;
16 Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymmerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd-drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl.
17 Ond oni wrandêwch arnom ni i’ch enwaedu; yna y cymmerwn ein merch, ac a awn ymaith.
18 A’u geiriau hwynt oedd dda y’ngolwg Hemor, ac y’ngolwg Sichem mab Hemor.
19 Ac nid oedodd y llangc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad.
20 ¶ A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd,
21 Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyd â ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnant eu negesau ynddi: a’r wlad, wele, sydd ddigon ehang iddynt hwy: cymmerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.
22 Ond yn hyn y cyttuna y dynion â ni, i drigo gyd â ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwrryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig.
23 Eu hanifeiliaid hwynt, a’u cyfoeth hwynt, a’u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddo ni fyddant hwy? yn unig cyttunwn â hwynt, a hwy a drigant gyd â ni.
24 Ac ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef, y gwrandawodd pawb a’r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pob gwrtyw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.
25 ¶ A bu ar y trydydd dydd, pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymmeryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dinah, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwrryw.
26 Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf; a chymmerasant Dinah o dŷ Sichem, ac a aethant allan.
27 Meibion Jacob a ddaethant ar lladdedigion, ac a yspeiliasant y ddinas, am halogi o honynt eu chwaer hwynt.
28 Cymmerasant eu defaid hwynt, a’u gwartheg, a’u hasynod hwynt, a’r hyn oedd yn y ddinas, a’r hyn oedd yn y maes,
29 A’u holl gyfoeth hwynt; a’u holl rai bychain, a’u gwragedd, a gaethgludasant hwy; ac yspeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai.
30 A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid, a’r Phereziaid: a minnau yn ychydig o nifer; a hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a’m tŷ.
31 Hwythau a attebasant, Ai megis puttain y gwnae efe ein chwaer ni?
Pennod XXXV.
1 Duw yn anfon Jacob i Bethel. 2 Mae efe yn glanhâu ei dŷ o ddelwau; 6 yn adeiladu allor yn Bethel. 8 Deborah yn marw yn Alhon-bacuth. 9 Duw yn bendithio Jacob yn Bethel. 16 Rahel, wrth esgor ar Benjamin, yn marw ar y ffordd i Edar. 22 Reuben yn gorwedd gyd â Bilhah. 23 Meibion Jacob. 27 Jacob yn dyfod at Isaac i Hebron. 28 Oedran, marwolaeth, a chladdedigaeth Isaac.
A Duw a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd.
2 Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gyd âg ef, Bwriwch ymaith y duwiau dïeithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhêwch, a newidiwch eich dillad;
3 A chyfodwn, ac esgynwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyd â myfi yn y ffordd a gerddais.
4 A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dïeithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a’r clust-dlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a’u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem.
5 A hwy a gychwynasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ol meibion Jacob.
6 ¶ A Jacob a ddaeth i Luz, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gyd âg ef;
7 Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El-bethel, oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef, pan ffoisai efe o ŵydd ei frawd.
8 A marw a wnaeth Deborah mamaeth Rebeccah; a hi a gladdwyd îs law Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon-bacuth.
9 ¶ Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a’i bendithiodd ef.
10 A Duw a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel.
11 Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynnydda, ac amlhâ; cenedl a chynnulleidfa cenhedloedd a fydd o honot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di.
12 A’r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ol di y rhoddaf y wlad.
13 A Duw a esgynodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho.
14 A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe âg ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddïod-offrwm, ac a dywalltodd olew arni.
15 A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw âg ef, Bethel.
16 ¶ A hwy a aethant ymaith o Bethel, ac yr oedd etto megis milltir o dir i ddyfod i Ephrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor.
17 A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i’r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab.
18 Darfu hefyd, wrth ymadael o’i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben-oni: ond ei dad a’i henwodd ef Benjamin.
19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.
20 A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddyw.
21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal-Edar.
22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyd â Bilhah gordderch-wraig ei dad, a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg.
23 Meibion Leah; Reuben, cyntaf-anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Judah, ac Issachar, a Zabulon.
24 Meibion Rahel; Joseph, a Benjamin.
25 A meibion Bilhah, llaw-forwyn Rahel; Dan, a Naphtali.
26 A meibion Zilpah, llaw-forwyn Leah; Gad, ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.
27 ¶ A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer-Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac.
28 A dyddiau Isaac oedd gàn mlynedd a phedwar ugain mlynedd.
29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, a’i claddasant ef.
Pennod XXXVI.
2 Tair gwragedd Esau. 6 Ei symmudiad ef i fynydd Seir. 9 Ei feibion. 15 Y duciaid a ddaethant o’i feibion ef. 20 Meibion a duciaid Seir. 24 Anah yn cael mulod. 31 Brenhinoedd Edom. 40 Y duciaid a ddaethant o Esau.
A dyma genhedlaethau Esau: efe yw Edom.
2 Esau a gymmerth ei wragedd o ferched Canaan; Adah, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibamah, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;
3 Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.
4 Ac Adah a ymddûg Eliphaz i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel.
5 Aholibamah hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo y’ngwlad Canaan.
6 Ac Esau a gymmerodd ei wragedd, a’i feibion, a’i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a’i anifeiliaid, a’i holl ysgrubliaid, a’i holl gyfoeth a gasglasai efe y’ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i’r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.
7 Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd-drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.
8 Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.
9 ¶ A dyma genhedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.
10 Dyma enwau meibion Esau: Eliphaz, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.
11 A meibion Eliphaz oedd Teman, Omar, Sepho, a Gatam, a Chenaz.
12 A Thimna oedd ordderch-wraig i Eliphaz, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliphaz: dyma feibion Ada gwraig Esau.
13 A dyma feibion Reuel; Nahath a Zerah, Sammah a Mizzah: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.
14 ¶ Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon, gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chorah.
15 ¶ Dyma dduciaid o feibion Esau; meibion Eliphaz cyntaf-anedig Esau, duc Teman, duc Omar, duc Seffo, duc Cenaz,
16 Duc Cora, duc Gatam, duc Amalec: dyma y duciaid o Eliphaz, y’ngwlad Edom: dyma feibion Adah.
17 ¶ A dyma feibion Reuel mab Esau; duc Nahath, duc Zerah, duc Sammah, duc Mizzah: dyma y duciaid o Reuel, y’ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.
18 ¶ Dyma hefyd feibion Aholibamah gwraig Esau: duc Jeus, duc Jalam, duc Corah; dyma y duciaid o Aholibamah, merch Anah, gwraig Esau.
19 Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu duciaid hwynt.
20 ¶ Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanneddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Anah,
21 A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma dduciaid yr Horiaid, meibion Seir, y’ngwlad Edom.
22 A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.
23 A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Sepho, ac Onam.
24 A dyma feibion Sibeon; Aiah, ac Anah: hwn yw Anah a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynod Sibeon ei dad.
25 A dyma feibion Anah; Dison, ac Aholibamah merch Anah.
26 Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.
27 Dyma feibion Eser; Bilhan, a Zaafan, ac Acan.
28 Dyma feibion Disan; Us, ac Aran.
29 Dyma dduciaid yr Horiaid; duc Lotan, duc Sobal, duc Sibeon, duc Anah,
30 Duc Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma dduciaid yr Horiaid ym mhlith eu duciaid y’ngwlad Seir.
31 ¶ Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant y’ngwlad Edom, cyn teyrnasau brenhin ar feibion Israel.
32 A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom; ac enw ei ddinas ef oedd Dinhabah.
33 A Bela a fu farw; a Jobab, mab Serah o Bosrah, a deyrnasodd yn ei le ef.
34 Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.
35 A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a darawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith.
36 Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samlah, o Masrecah, a deyrnasodd yn ei le ef.
37 A bu Samlah farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.
38 A bu Saul farw; a Baalhanan, mab Achbor, a deyrnasodd yn ei le ef.
39 A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mezahab.
40 A dyma enwau y duciaid o Esau, yn ol eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau, duc Timna, duc Alfah, dug Jetheth,
41 Duc Aholibama, duc Ela, duc Pinon,
42 Duc Cenaz, duc Teman, duc Mibsar,
43 Duc Magdiel, duc Iram. Dyma y duciaid o Edom, yn ol eu preswylfeydd, y’ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.
Pennod XXXVII.
2 Joseph yn cael ei gasâu gan ei frodyr. 5 Ei ddau freuddwyd ef. 13 Jacob yn ei anfon ef i ymweled â’i frodyr. 18 Hwythau yn cydfwriadu ei ladd ef. 21 Reuben yn ei achub ef. 26 Hwynt yn ei werthu ef i’r Ismaeliaid. 31 Ei dad, wedi ei siommi trwy y siacced waedlyd, yn galaru am dano ef. 36 Ei werthu ef i Putiphar yn yr Aipht.
A thrigodd Jacob y’ngwlad ymdaith ei dad, y’ngwlad Canaan.
2 Dyma genhedlaethau Jacob. Joseph, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyd â’i frodyr ar y praidd: a’r llangc oedd gyd â meibion Bilha, a chyd â meibion Zilpah, gwragedd ei dad; a Joseph a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad.
3 Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseph na’i holl feibion: oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef.
4 A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan âg ef yn heddychol.
5 ¶ A Joseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef etto yn ychwaneg.
6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch, attolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.
7 Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddym ni y’nghanol y maes; ac wele; fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymmasant i’m hysgub i.
8 A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant etto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.
9 ¶ Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymmu i mi.
10 Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?
11 A’i frodyr a genfigennasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.
12 ¶ A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem.
13 Ac Israel a ddywedodd wrth Joseph, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf attynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi.
14 A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i’th frodyr, a pha lwyddiant sydd i’r praidd: a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.
15 ¶ A chyfarfu gwr âg ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gwr a ymofynnodd âg ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio?
16 Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, attolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio?
17 A’r gwr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseph a aeth ar ol ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt yn Dothan.
18 Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef attynt, hwy a gyd-fwriadasant yn ei erbyn ef, i’w ladd ef.
19 A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.
20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwyttaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef.
21 A Reuben a glybu, ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef.
22 Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynwch law arno: fel yr achubai ef o’u llaw hwynt, i’w ddwyn eilwaith at ei dad.
23 ¶ A bu, pan ddaeth Joseph at ei frodyr, iddynt ddïosg ei siacced oddi am Joseph, sef y siacced fraith ydoedd am dano ef.
24 A chymmerasant ef, a thaflasant i bydew: a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo.
25 A hwy a eisteddasant i fwytta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i’r Aipht, a’u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr.
26 A dywedodd Judah wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?
27 Deuwch, a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef, oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe. A’i frodyr a gyttunasant.
28 A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynnasant ac y cyfodasant Joseph i fynu o’r pydew, ac a werthasant Joseph i’r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseph i’r Aipht.
29 ¶ A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseph yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;
30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llangc nid yw accw; a minnau, i ba le yr âf fi?
31 A hwy a gymmerasant siacced Joseph, ac a laddasant fỳn gafr, ac a drochasant y siacced yn y gwaed.
32 Ac a anfonasant y siacced fraith, ac a’i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siacced dy fab yw hi, ai nad ê.
33 Yntau a’i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siacced fy mab yw hi; bwystfil drwg a’i bwyttaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseph.
34 A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer.
35 A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymmeryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddïau disgynaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd am dano ef.
36 A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aipht, i Putiphar tywysog Pharaoh, a’r distain.
Pennod XXXVIII.
1 Judah yn cenhedlu Er, Onan, a Selah. 6 Er yn prïodi Tamar. 8 Camwedd Onan. 11 Tamar yn aros am Selah: 16 yn sïommi Judah, 27 ac yn dwyn gefelliaid, Phares a Zarah.
Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Judah fyned i waered oddi wrth ei frodyr, a throi at wr o Adùlam, a’i enw Hirah.
2 Ac yno y canfu Judah ferch gwr o Canaan, a’i enw ef oedd Suah; ac a’i cymmerodd hi, ac a aeth atti hi.
3 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Er.
4 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Onan.
5 A thrachefn hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Selah. Ac yn Cezib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn.
6 A Judah a gymmerth wraig i Er ei gyntaf-anedig, a’i henw Tamar.
7 Ac yr oedd Er, cyntaf-anedig Judah, yn ddrygionus y’ngolwg yr Arglwydd; a’r Arglwydd a’i lladdodd ef.
8 A Judah a ddywedodd wrth Onan, Dos at wraig dy frawd, a phrïoda hi, a chyfod had i’th frawd.
9 Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai yr had: a phan elai efe at wraig ei frawd, yna y collai efe ei had ar y llawr, rhag rhoddi o hono had i’w frawd.
10 A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe y’ngolwg yr Arglwydd: am hynny efe a’i lladdodd yntau.
11 Yna Judah a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, Trig yn weddw yn nhŷ dy dad, hyd oni chynnyddo fy mab Selah: (oblegid efe a ddywedodd, Rhag ei farw yntau fel ei frodyr.) A Thamar a aeth, ac a drigiodd yn nhŷ ei thad.
12 ¶ Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Suah, gwraig Judah: a Judah a gymmerth gysur, ac a aeth i fynu i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a’i gyfaill Hirah yr Adùlamiad.
13 Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn myned i fynu i Timnath, i gneifio ei ddefaid.
14 Hithau a ddïosgodd ddillad ei gweddwdod oddi am dani, ac a’i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Selah yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.
15 A Judah a’i canfu hi, ac a dybiodd mai puttain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.
16 Ac efe a drodd ati hi i’r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, attolwg, gâd i mi ddyfod attat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cai ddyfod attaf?
17 Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fỳn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?
18 Yntau a ddywedodd, Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a’th freichledau, a’th ffon sydd yn dy law. Ac efe a’u rhoddes iddi, ac a aeth atti; a hi a feichiogodd o hono ef.
19 Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith ac a ddïosgodd ei gorchudd oddi am dani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.
20 A Judah a hebryngodd fỳn gafr yn llaw yr Adùlamiad ei gyfaill, i gymmeryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.
21 Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd, Pa le y mae y buttain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un buttain.
22 Ac efe a ddychwelodd at Judah ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un buttain.
23 A Judah a ddywedodd, Cymmered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y mỳn hwn, a thithau ni chefaist hi.
24 ¶ Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Judah, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a butteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Judah, Dygwch hi allan, a llosger hi.
25 Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O’r gwr bïau’r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, attolwg, eiddo pwy yw y sêl, a’r breichledau, a’r ffon yma.
26 A Judah a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi, o herwydd na roddais hi i’m mab Selah: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.
27 ¶ Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi.
28 Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a’r fydwraig a gymmerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan.
29 A phan dynnodd efe ei law yn ei hol, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid y torriad hwn arnat ti, am hynny y galwyd ei enw ef Phares.
30 Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Zarah.
Pennod XXXIX.
1 Codiad Joseph yn nhŷ Putiphar. 7 Ei festres yn ei demtio ef, ac yntau yn ei gwrthwynebu hi. 13 Achwyn arno ef ar gam. 19 Ei fwrw ef y’ngharchar; 21 a Duw gyd âg ef yno.
A Joseph a ddygwyd i waered i’r Aipht: a Putiphar yr Aiphtwr, tywysog Pharaoh a’i ddistain, a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a’i dygasant ef i waered yno.
2 Ac yr oedd yr Arglwydd gyd â Joseph, ac efe oedd wr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.
3 A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gyd âg ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.
4 A Joseph a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.
5 Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i’r Arglwydd fendithio tŷ yr Aiphtiad, er mwyn Joseph: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.
6 Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseph; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gyd âg ef, oddi eithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwytta: Joseph hefyd oedd dêg o bryd, a glân yr olwg.
7 ¶ A darfu wedi y pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseph, a dywedyd, Gorwedd gyd â mi.
8 Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyd â mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.
9 Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw!
10 A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseph beunydd, ac yntau heb wrandaw arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyd â hi.
11 A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseph ddyfod i’r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.
12 Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyd â mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.
13 A phan welodd hi adael o hono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi o hono allan;
14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth attaf fi i orwedd gyd â myfi, minnau a waeddais â llef uchel;
15 A phan glywodd efe ddyrchafu o honof fi fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.
16 A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.
17 A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrëwas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth attaf i’m gwaradwyddo;
18 Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.
19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi, yna yr ennynodd ei lid ef.
20 A meistr Joseph a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.
21 ¶ Ond yr Arglwydd oedd gyd â Joseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo y’ngolwg pennaeth y carchardy.
22 A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseph yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.
23 Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gyd âg ef; a’r hyn a wnai efe, yr Arglwydd a’i llwyddai.
Pennod XL.
1 Bwtler a phobydd Pharaoh y’ngharchar, 4 dan siars Joseph. 5 Efe yn deongli eu breuddwydion hwy; 20 a’r rhai hynny yn dyfod i ben yn ol ei ddehongliad ef. 25 Annïolchgarwch y bwtler.
1 A darfu wedi’r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aipht, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aipht.
2 A Pharaoh a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd:
3 Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ y distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseph yn rhwym.
4 A’r distain a wnaeth Joseph yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.
5 ¶ A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ol dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aipht, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.
6 A’r bore y daeth Joseph attynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.
7 Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharaoh, y rhai oedd gyd âg ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddyw?
8 A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseph a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, attolwg, i mi.
9 A’r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseph; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen;
10 Ac yn y winwydden yr oedd tair caingc: ac yr oedd hi megis yn blaen-darddu; ei blodeuyn a dorrasai allan, ei grawn-sypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.
11 Hefyd yr oedd cwppan Pharaoh yn fy llaw: a chymmerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwppan Pharaoh; a rhoddais y cwppan yn llaw Pharaoh.
12 A Joseph a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tair caingc.
13 O fewn tri diwrnod etto Pharaoh a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwppan Pharaoh yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddyt drulliad iddo.
14 Etto cofia fi gyd â thi, pan fo daioni i ti, a gwna, attolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharaoh, a dwg fi allan o’r tŷ hwn:
15 Oblegid yn lladrad y’m lladrattâwyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi y’ngharchar.
16 Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseph, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen.
17 Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharaoh o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwytta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen.
18 A Joseph a attebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.
19 O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharaoh dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwyttânt dy gnawd di oddi am danat.
20 ¶ Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharaoh: ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen-trulliad, a’r pen-pobydd ymysg ei weision.
21 Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwppan i law Pharaoh.
22 A’r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehonglasai Joseph iddynt hwy.
23 Ond y pen-trulliad ni chofiodd Joseph, eithr anghofiodd ef.
Pennod XLI.
1 Dau freuddwyd Pharaoh. 25 Joseph yn eu dehongli hwy: 33 yn rhoddi cynghor i Pharaoh, 38 Codiad Joseph. 50 Mae efe yn cenhedlu Manasseh ac Ephraim. 54 Y newyn yn dechreu.
Yna ym mhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharaoh freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.
2 Ac wele, yn esgyn o’r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd-dir y porent.
3 Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hol hwynt o’r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar làn yr afon.
4 A’r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwyttasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharaoh.
5 Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da.
6 Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hol hwynt.
7 A’r tywysennau teneuon a lyngcasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharaoh; ac wele breuddwyd oedd.
8 A’r bore y bu i’w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht a’i holl ddoethion hi: a Pharaoh a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a’u dehonglai hwynt i Pharaoh.
9 ¶ Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharaoh, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw.
10 Llidio a wnaethai Pharaoh wrth ei weision; ac efe a’m rhoddes mewn carchar yn nhŷ y distain, myfi a’r pen-pobydd.
11 A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd.
12 Ac yr oedd yno gyd â nyni fab ieuangc o Hebread, gwas i’r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ol ei freuddwyd y dehonglodd efe.
13 A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i’m swydd; ac yntau a grogodd efe.
14 ¶ Pharaoh, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseph: hwythau ar redeg a’i cyrchasant ef o’r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharaoh.
15 A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd am danat ti, y medri ddeall breuddwyd i’w ddehongli.
16 A Joseph a attebodd Pharaoh, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a ettyb lwyddiant i Pharaoh.
17 A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.
18 Ac wele yn esgyn o’r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd-dir y porent.
19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hol hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg a hwynt yn holl dir yr Aipht.
20 A’r gwartheg culion a drwg a fwyttasant y saith muwch tewion cyntaf:
21 Ac er eu myned i’w boliau, ni wyddid iddynt fyned i’w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais.
22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg, yn cyfodi o’r un gorsen.
23 Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hol hwynt.
24 A’r tywysenau teneuon a lyngcasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a’i dehonglai i mi.
25 ¶ A dywedodd Joseph wrth Pharaoh, Breuddwyd Pharaoh sydd un: yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharaoh.
26 Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt; y breuddwyd un yw.
27 Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hol hwynt, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyrein-wynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.
28 Hyn yw’r peth a ddywedais i wrth Pharaoh: Yr hyn a wna Duw, efe a’i dangasodd i Pharaoh.
29 Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aipht.
30 Ond ar eu hol hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aipht: a’r newyn a ddifetha y wlad.
31 Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, o herwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.
32 Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharaoh ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhâu y peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i’w wneuthur.
33 Yn awr, gan hynny, edryched Pharaoh am wr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aipht.
34 Gwnaed Pharaoh hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymmered bummed ran cnwd gwlad yr Aipht dros saith mlynedd yr amldra.
35 A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharaoh, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.
36 A bydded yr ymborth y’nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant y’ngwlad yr Aipht, fel na ddifether y wlad gan y newyn.
37 ¶ A’r peth oedd dda y’ngolwg Pharaoh, ac y’ngolwg ei holl weision.
38 A dywedodd Pharaoh wrth ei weision, A gaem ni wr fel hwn, yr hwn y mae ysbryd Duw ynddo?
39 Dywedodd Pharaoh hefyd wrth Joseph, Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb a thydi.
40 Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrn-gadair yn unig y byddaf fwy na thydi.
41 Yna y dywedodd Pharaoh wrth Joseph, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aipht.
42 A thynnodd Pharaoh ei fodrwy oddi ar ei law, ac a’i rhoddes hi ar law Joseph, ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef,
43 Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail cerbyd oedd ganddo; a llefwyd o’i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aipht.
44 Dywedodd Pharaoh hefyd wrth Joseph, Myfi yw Pharaoh, ac hebot ti ni chyfyd gwr ei law na’i droed, trwy holl wlad yr Aipht.
45 A Pharaoh a alwodd enw Joseph, Saphnath-Paaneah; ac a roddes iddo Asnath, merch Potipherah offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseph allan dros wlad yr Aipht.
46 ¶ A Joseph ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharaoh brenhin yr Aipht: a Joseph a aeth allan o ŵydd Pharaoh, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aipht.
47 A’r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau.
48 Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu y’ngwlad yr Aipht, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi.
49 A Joseph a gynhullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra llïosog, hyd oni pheidiodd â’i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.
50 Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseph ddau fab, y rhai a ymddûg Asnath, merch Potipherah offeiriad On, iddo ef.
51 A Joseph a alwodd enw ei gyntaf-anedig, Manasseh: Oblegid, eb efe Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.
52 Ac efe a alwodd enw yr ail, Ephraim: Oblegid, eb efe, Duw a’m ffrwythlonodd i y’ngwlad fy ngorthrymder.
53 ¶ Darfu y saith mlynedd o amldra, y rhai a fu y’ngwlad yr Aipht.
54 A’r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseph: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aipht yr ydoedd bara.
55 A phan newynodd holl wlad yr Aipht, y bobl a waeddodd ar Pharaoh am fara: a Pharaoh a ddywedodd wrth yr holl Aiphtiaid, Ewch at Joseph; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
56 Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseph a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i’r Aiphtiaid; oblegid y newyn oedd drwm y’ngwlad yr Aipht.
57 A daeth yr holl wledydd i’r Aipht at Joseph i brynu; o herwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.
Pennod XLII.
1 Jacob yn anfon ei ddeg mab i’r Aipht i brynu ŷd. 6 Joseph yn eu carcharu hwy yn lle ysbïwyr: 18 ac yn eu rhyddhâu hwy, dan ammod iddynt ddwyn Benjamin. 21 Eu cydwybod yn eu cyhuddo hwy o achos Joseph. 24 Cadw Simeon yn wystl. 25 Hwynt yn dychwelyd âg ŷd, a’u harian yn eu sachau: 29 ac yn traethu y newyddion i Jacob. 36 Jacob yn gwrthod danfon Benjamin.
Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aipht, dywedodd Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd?
2 Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aipht: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno, fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.
3 ¶ A deg brawd Joseph a aethant i waered, i brynu ŷd, i’r Aipht.
4 Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseph, gyd â’i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef.
5 A meibion Israel a ddaethant i brynu ym mhlith y rhai oedd yn dyfod; oblegid yr ydoedd y newyn y’ngwlad Canaan.
6 A Joseph oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseph a ddaethant, ac a ymgrymmasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.
7 A Joseph a ganfu ei frodyr, ac a’u hadnabu hwynt, ac a ymddïeithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a attebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.
8 A Joseph oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.
9 A Joseph a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe am danynt hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.
10 Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nag ê, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.
11 Nyni oll ydym feibion un gwr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.
12 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nag ê; ond i edrych noethder y wlad y daethoch.
13 Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeng mrodyr, meibion un gwr y’ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddyw gyd â’n tad ni, a’r llall nid yw fyw.
14 A Joseph a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.
15 Wrth hyn y’ch profir: Myn einioes Pharaoh, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma.
16 Hebryngwch un o honoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid ê, myn einioes Pharaoh, ysbïwyr yn ddïau ydych chwi.
17 Ac efe a’u rhoddodd hwynt i gyd y’ngharchar dridiau.
18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseph wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi.
19 Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i’ch tylwyth.
20 A dygwch eich brawd ieuangaf attaf ti; felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.
21 ¶ Ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Dïau bechu o honom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.
22 A Reuben a’u hattebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynir ei waed ef.
23 Ac nis gwyddynt hwy fod Joseph yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.
24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwyl attynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymmerth o’u mysg hwynt Simeon, ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.
25 ¶ Joseph hefyd a orchymynodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un o honynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i’w fwytta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.
26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.
27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y lletty; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt y’ngenau ei ffettan ef.
28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian, ac wele hwynt hefyd yn fy ffettan: yna y digalonnasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?
29 ¶ A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan, ac a fynegasant iddo eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,
30 Dywedodd y gwr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a’n cymmerth ni fel ysbïwyr y wlad.
31 Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni, nid ysbïwyr ydym.
32 Deuddeg o frodyr oeddym ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyd â’n tad ni y’ngwlad Canaan.
33 A dywedodd y gwr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadêwch gyd â myfi un o’ch brodyr, a chymmerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.
34 A dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnatta yn y wlad.
35 ¶ Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a’u tad, ofni a wnaethant.
36 A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseph nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.
37 A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn attat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a’i dygaf ef attat ti eilwaith.
38 Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyd â chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd-ddi, yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch.
Pennod XLIII.
1 Jacob yn flin ganddo ollwng Benjamin. 15 Joseph yn croesawu ei frodyr. 31 Yn gwneuthur iddynt wledd.
A’r newyn oedd drwm yn y wlad.
2 A bu, wedi iddynt fwytta yr ŷd a ddygasent o’r Aipht, ddywedyd o’u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.
3 A Judah a attebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gwr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyd â chwi.
4 Os anfoni ein brawd gyd â ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth.
5 Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gwr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyd â chwi.
6 Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i’r gwr fod i chwi etto frawd?
7 Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gwr am danom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi etto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ol y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered?
8 Judah a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyd â mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a’n plant hefyd.
9 Myfi a fechnïaf am dano ef; o’m llaw i y gofyni ef: onis dygaf ef attat ti, a’i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth.
10 Canys pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach.
11 Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymmerwch o ddewis ffrwythau y wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i’r gwr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau.
12 Cymmerwch hefyd ddau cymmaint o arian gyd â chwi; a dygwch eilwaith gyd â chwi yr arian a roddwyd drachefn y’ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny.
13 Hefyd cymmerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gwr.
14 A Duw Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gwr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minnau fel y’m diblantwyd, a ddiblentir.
15 ¶ A’r gwŷr a gymmerasant yr anrheg honno, a chymmerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i’r Aipht, a safasant gerbron Joseph.
16 A Joseph a ganfu Benjamin gyd â hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwytta gyd â myfi ar hanner dydd.
17 A’r gwr a wnaeth fel y dywedodd Joseph: a’r gwr a ddug y dynion i dŷ Joseph.
18 A’r gwŷr a ofnasant, pan ddygpwyd hwynt i dŷ Joseph; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y dygpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i’n cymmeryd ni yn gaethion, a’n hasynnod hefyd.
19 A hwy a nesasant at y gwr oedd olygwr ar dŷ Joseph, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ,
20 Ac a ddywedasant, Fy arglwydd, gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth.
21 A bu, pan ddaethom i’r lletty, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob un y’ngenau ei sach; ein harian ni, meddaf, yn ei bwys: ond ni a’i dygasom eilwaith yn ein llaw.
22 Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw, i brynu lluniaeth: nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffettanau.
23 Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich Duw chwi, a Duw eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi attaf fi. Ac efe a ddug Simeon allan attynt hwy.
24 A’r gwr a ddug y dynion i dŷ Joseph, ac a roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt.
25 Hwythau a barattoisant eu hanrheg erbyn dyfod Joseph ar hanner dydd: oblegid clywsent mai yno y bwyttâent fara.
26 ¶ Pan ddaeth Joseph i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymmasant iddo ef hyd lawr.
27 Yntau a ofynodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen wr eich tad chwi, yr hwn y soniasoch am dano? ai byw efe etto?
28 Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni; byw yw efe etto. Yna yr ymgrymmasant, ac yr ymostyngasant.
29 Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun; ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, Duw a roddo ras i ti, fy mab.
30 A Joseph a frysiodd, (oblegid cynnesasai ei ymysgaroedd ef tu ag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a wylodd yno.
31 Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymattaliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara.
32 Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i’r Aiphtiaid y rhai oedd yn bwytta gyd âg ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai yr Aiphtiaid fwytta bara gyd â’r Hebreaid, o herwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Aiphtiaid.
33 Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf-anedig yn ol ei gyntaf-enedigaeth, a’r ieuangaf yn ol ei ieuengctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd.
34 Yntau a gymmerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bùm rhan na seigiau yr un o honynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gyd âg ef.
Pennod XLIV.
1 Dyfais Joseph i attad ei frodyr. 14 Ufudd ddeisyfiad Judah at Joseph.
Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, Llanw sachau y gwŷr o fwyd, cymmaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un y’ngenau ei sach.
2 A dod fy nghwppan fy hun, sef y cwppan arian, y’ngenau sach yr ieuangaf, gyd âg arian ei ŷd ef. Yntau a wnaeth yn ol gair Joseph, yr hwn a ddywedasai efe.
3 Y bore a oleuodd, a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a’u hasynnod.
4 Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid aethant neppell, pan ddywedodd Joseph wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ol y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?
5 Onid dyma y cwppan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.
6 ¶ Yntau a’u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.
7 Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na atto Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth.
8 Wele, ni a ddygasom attat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom y’ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrattâem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di?
9 Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwppan gyd âg ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaeth-weision i’m harglwydd.
10 Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwppan gyd âg ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddïeuog.
11 Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffettan.
12 Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a’r cwppan a gafwyd yn sach Benjamin.
13 Yna y rhwygasant eu dillad, ac a bynniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i’r ddinas.
14 ¶ A daeth Judah a’i frodyr i dŷ Joseph, ac efe etto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.
15 A dywedodd Joseph wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gwr fel myfi ddewiniaeth?
16 A dywedodd Judah, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhâwn? cafodd Duw allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ïe nyni, a’r hwn y cafwyd y cwppan gyd âg ef hefyd.
17 Yntau a ddywedodd, Na atto Duw i mi wneuthur hyn: y gwr y cafwyd y cwppan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fynu, mewn heddwch, at eich tad.
18 ¶ Yna yr aeth Judah atto ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, attolwg, dy was ddywedyd gair y’nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharaoh.
19 Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?
20 Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen wr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef.
21 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered attaf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno.
22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llangc ni ddichon ymadael â’i dad: oblegid os ymedy efe â’i dad, marw fydd ei dad.
23 Tithau a ddywedaist wrth dy weision. Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyd â chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.
24 Bu hefyd, wedi ein myned ni i fynu at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.
25 A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.
26 Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gwr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni.
27 A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;
28 Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddïau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn:
29 Os cymmerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd.
30 Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llangc gyd â ni; (gan fod ei hoedl ef y’nglŷn wrth ei hoedl yntau;)
31 Yna pan welo efe na ddaeth y llangc, marw fydd efe; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd.
32 Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llangc i’m tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef attat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth.
33 Gan hynny weithian, attolwg, arhosed dy was dros y llangc, yn was i’m harglwydd; ac aed y llangc i fynu gyd â’i frodyr:
34 Oblegid pa fodd yr âf i fynu at fy nhad, a’r llangc heb fod gyd â mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.
Pennod XLV.
1 Joseph yn ei hysbysu ei hun i’w frodyr: 5 yn eu cysuro hwynt â rhagluniaeth Duw: 9 yn danfon am ei dad. 16 Pharaoh yn sicrhâu y peth. 21 Joseph yn gosod allan ei frodyr i’r daith, ac yn eu hannog hwynt i fod yn gyttûn. 25 Jacob yn ymlawenychu wrth y newyddion.
Yna Joseph ni allodd ymattal ger bron y rhai oll oedd yn sefyll gyd âg ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gyd âg ef, pan ymgydnabu Joseph a’i frodyr.
2 Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Aiphtiaid, a chlybu tŷ Pharaoh.
3 A Joseph a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseph: ai byw fy nhad etto? A’i frodyr ni fedrent atteb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef.
4 Joseph hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, attolwg, attaf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseph eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aipht.
5 Weithian gan hynny na thristêwch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu o honoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi.
6 Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd etto bùm mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.
7 A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.
8 Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharaoh, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aipht.
9 Brysiwch, ac ewch i fynu at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseph: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aipht: tyred i waered attaf; nac oeda:
10 A chei drigo y’ngwlad Gosen, a bod yn agos attaf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt:
11 Ac yno y’th borthaf; (oblegid pùm mlynedd o’r newyn a fydd etto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt.
12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.
13 Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aipht, a’r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma.
14 Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau.
15 Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ol hynny ei frodyr a ymddiddanasant âg ef.
16 ¶ A’r gair a ddaeth i dŷ Pharaoh, gan ddywedyd, Brodyr Joseph a ddaethant: a da oedd hyn y’ngolwg Pharaoh, ac y’ngolwg ei weision.
17 A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Dywed wrth dy frodyr, Gwnewch hyn; Llwythwch eich ysgrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlad Canaan;
18 A chymmerwch eich tad, a’ch teuluoedd, a deuwch attaf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aipht, a chewch fwytta brasder y wlad.
19 Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hyn: cymmerwch i chwi o wlad yr Aipht gerbydau i’ch rhai bach, ac i’ch gwragedd; a chymmerwch eich tad, a deuwch.
20 Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim dodrefn; oblegid dâ holl wlad yr Aipht sydd eiddo chwi.
21 A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Joseph iddynt hwy gerbydau, yn ol gorchymyn Pharaoh, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.
22 I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phùm pâr o ddillad.
23 Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o ddâ yr Aipht, a deg o asenod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd.
24 Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.
25 ¶ Felly yr aethant i fynu o’r Aipht, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob;
26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseph etto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aipht. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.
27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseph, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseph i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd yspryd Jacob eu tad hwynt.
28 A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseph fy mab etto yn fyw: âf, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.
Pennod XLVI.
1 Duw yn cysuro Jacob yn Beer-seba. 5 Efe a’i deulu yn myned oddi yno i’r Aipht. 8 Rhifedi ei deulu ef y rhai a aeth i’r Aipht. 28 Joseph yn cyfarfod Jacob. 31 Mae efe yn dysgu i’w frodyr pa fodd yr attebent Pharaoh.
Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aberthodd ebyrth i DDuw ei dad Isaac.
2 A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi.
3 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aipht; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.
4 Myfi a âf i waered gyd â thi i’r Aipht; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fynu drachefn: Joseph hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.
5 A chyfododd Jacob o Beer-seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharaoh i’w ddwyn ef.
6 Cymmerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aipht, Jacob, a’i holl had gyd âg ef:
7 Ei feibion, a meibion ei feibion gyd âg ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gyd âg ef i’r Aipht.
8 ¶ A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aipht, Jacob a’i feibion Reuben, cynfab Jacob.
9 A meibion Reuben; Hanoch, a Phàlu, Hesron hefyd, a Charmi.
10 ¶ A meibion Simeon, Jemuel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanees.
11 ¶ Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.
12 ¶ A meibion Judah; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Zarah: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.
13 ¶ Meibion Issachar hefyd; Tola, a Phufah, a Job, a Simron.
14 ¶ A meibion Zabulon; Sered, ac Elon, a Jaleel.
15 Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dinah ei ferch: ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.
16 ¶ A meibion Gad; Siphion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.
17 ¶ A meibion Aser; Jimnah, ac Isuah, ac Isui, a Berïah, a Serah eu chwaer hwynt. A meibion Berïah, Heber, a Malchiel.
18 Dyma feibion Zilpah, yr hon a roddodd Laban i Leah ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.
19 ¶ Meibion Rahel gwraig Jacob, oedd Joseph, a Benjamin.
20 Ac i Joseph y ganwyd, yn nhir yr Aipht, Manasseh ac Ephraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potipherah offeiriad On, iddo ef.
21 ¶ A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard.
22 Dyma feibion Rahel, y rhai a blantodd hi i Jacob; yn bedwar dyn ar ddeg oll.
23 ¶ A meibion Dan oedd Husim.
24 ¶ A meibion Naphtali; Jahseel, a Guni, a Jeser, a Sìlem.
25 Dyma feibion Bilhah, yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, yn saith nyn oll.
26 Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyd â Jacob i’r Aipht, yn dyfod allan o’i lwynau ef, heblaw gwragedd meibion Jacob, oeddynt oll chwe enaid a thri ugain.
27 A meibion Joseph, y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aipht, oedd ddau enaid: holl eneidiau tŷ Jacob, y rhai a ddaethant i’r Aipht, oeddynt ddeg a thri ugain.
28 ¶ Ac efe a anfonodd Judah o’i flaen at Joseph, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen.
29 A Joseph a barettôdd ei gerbyd, ac a aeth i fynu i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd.
30 A dywedodd Israel wrth Joseph, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw etto.
31 A dywedodd Joseph wrth ei frodyr ac wrth deulu ei dad, Mi a âf i fynu, ac a fynegaf i Pharaoh, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant attaf fi.
32 A’r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’i hyn oll oedd ganddynt.
33 A phan alwo Pharaoh am danoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith?
34 Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuengctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael o honoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd-dra yr Aiphtiaid yw pob bugail defaid.
Pennod XLVII.
1 Joseph yn dwyn pump o’i frodyr, 7 a’i dad, ger bron Pharaoh. 11 Yntau yn rhoddi iddynt drigfa a modd i fyw. 13 Mae efe yn cael holl arian yr Aiphtiaid, 16 a’u hanifeiliaid, 18 a’u tiroedd, i Pharaoh. 2 Ni phrynwyd mo dir yr offeiriaid. 23 Mae efe yn gosod y tir iddynt er y bummed ran. 28 Oedran Jacob. 29 Mae efe yn peri i Joseph dyngu y claddai efe ef gyd â’i dadau.
Yna y daeth Joseph ac a fynegodd i Pharaoh, ac a ddywedodd, Fy nhad, a’m brodyr, a’u defaid, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhir Gosen.
2 Ac efe a gymmerth rai o’i frodyr, sef pùm nyn, ac a’u gosododd hwynt o flaen Pharaoh.
3 A dywedodd Pharaoh wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharaoh, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a’n tadau hefyd.
4 Dywedasant hefyd wrth Pharaoh, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i’r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn y’ngwlad Canaan: ac yr awr hon, attolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen.
5 A llefarodd Pharaoh wrth Joseph, gan ddywedyd, Dy dad a’th frodyr a ddaethant attat.
6 Tir yr Aipht sydd o’th flaen; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man goreu yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymmus, gosod hwynt yn ben-bugeiliaid ar yr eiddof fi.
7 A dug Joseph Jacob ei dad, ac a’i gosododd ger bron Pharaoh: a Jacob a fendithiodd Pharaoh.
8 A dywedodd Pharaoh wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?
9 A Jacob a ddywedodd wrth Pharaoh, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chàn mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyrhaeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.
10 A bendithiodd Jacob Pharaoh, ac a aeth allan o ŵydd Pharaoh.
11 ¶ A Joseph a gyfleodd ei dad a’i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant y’ngwlad yr Aipht, y’nghwrr goreu y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharaoh.
12 Joseph hefyd a gynhaliodd ei dad, a’i frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ol eu teuluoedd.
13 ¶ Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aipht, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.
14 Joseph hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aipht, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseph a ddug yr arian i dŷ Pharaoh.
15 Pan ddarfu yr arian yn nhir yr Aipht, ac y’ngwlad Canaan, yr holl Aiphtiaid a ddaethant at Joseph, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? o herwydd darfu yr arian.
16 A dywedodd Joseph, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu yr arian.
17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseph: a rhoddes Joseph iddynt fara am y meirch, ac am y dïadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.
18 A phan ddarfu y flwyddyn honno, y daethant atto ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni ger bron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir.
19 Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? pryn ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharaoh: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo y tir yn anghyfannedd.
20 A Joseph a brynodd holl dir yr Aipht i Pharaoh: canys yr Aiphtiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharaoh.
21 Y bobl hefyd, efe a’u symmudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill gwrr i derfyn yr Aipht hyd ei chwrr arall.
22 Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharaoh, a’u rhan a roddasai Pharaoh iddynt a fwyttasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.
23 Dywedodd Joseph hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a’ch tir, i Pharaoh: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.
24 A bydded i chwi roddi i Pharaoh y bummed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach.
25 A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gâd i ni gael ffafr y’ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharaoh.
26 A Joseph a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aipht, gael o Pharaoh y bummed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharaoh.
27 ¶ Trigodd Israel hefyd y’ngwlad yr Aipht o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.
28 Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aipht ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Jacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chàn mlynedd.
29 A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseph, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, attolwg, yn yr Aipht:
30 Eithr mi a orweddaf gyd â’m tadau; yna dwg fi allan o’r Aipht, a chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ol dy air.
31 Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymmodd ar ben y gwely.
Pennod XLVIII.
1 Joesph a’i ddau fab yn ymweled â’i dad yn ei glefyd. 2 Jacob yn ymgryfhâu i’w bendithio hwy. 3 Yn adrodd yr addewid. 5 Yn cymmeryd Ephraim a Manasseh yn eiddo ei hun. 7 Yn crybwyll wrtho am fedd ei fam. 9 Yn bendithio Ephraim a Manasseh. 17 Yn gosod yr ieuangaf o flaen yr hynaf. 21 Yn prophwydo am eu dychweliad hwy i Canaan.
A bu, wedi’r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseph, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymmerth ei ddau fab gyd âg ef, Manasseh ac Ephraim.
2 A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseph yn dyfod attat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.
3 A dywedodd Jacob wrth Joseph, Duw Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Luz, y’ngwlad Canaan, ac a’m bendithiodd:
4 Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a’th wnaf yn ffrwythlawn, ac a’th amlhâf, ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ol di, yn etifeddiaeth dragwyddol.
5 ¶ Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aipht, cyn fy nyfod attat i’r Aipht, eiddof fi fyddant hwy: Ephraim a Manasseh fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.
6 A’th eppil, y rhai a genhedlych ar eu hol hwynt, fyddant eiddot ti dy hun, ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.
7 ¶ A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyd â mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd etto filltir o dir hyd Ephrath: a chleddais hi yno ar ffordd Ephrath: honno yw Bethlehem.
8 A gwelodd Israel feibion Joseph, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?
9 A Joseph a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd Duw i ni yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, attolwg, attaf fi, a mi a’u bendithiaf hwynt.
10 Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a’u dygodd hwynt atto ef: yntau a’u cusanodd hwynt, ac a’u cofleidiodd.
11 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseph, Ni feddyliais weled dy wyneb; etto, wele parodd Duw i mi weled dy had hefyd.
12 A Joseph a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb.
13 Cymmerodd Joseph hefyd hwynt ill dau, Ephraim yn ei law ddehau tu a llaw aswy Israel, a Manasseh yn ei law aswy tu a llaw ddehau Israel; ac a’u nesaodd hwynt atto ef.
14 Ac Israel a estynodd ei law ddehau, ac a’i gosododd ar ben Ephraim, (a hwn oed yr ieuangaf,) a’i law aswy ar ben Manasseh: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasseh oedd y cynfab.
15 ¶ Ac efe a fendithiodd Joseph, ac a ddywedodd, Duw, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, Duw, yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,
16 Yr angel yr hwn a’m gwaredodd oddi wrth bob drwg, a fendithio’r llangciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn llïaws y’nghanol y wlad.
17 Pan welodd Joseph osod o’i dad ei law ddehau ar ben Ephraim, bu anfoddlawn ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i’w symmud hi oddi ar ben Ephraim, ar ben Manasseh.
18 Dywedodd Joseph hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma’r cynfab, gosod dy law ddehau ar ei ben ef.
19 A’i dad a ommeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd, ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a’i had ef fydd yn llïaws o genhedloedd.
20 Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed Duw di fel Ephraim, ac fel Manasseh. Ac efe a osododd Ephraim o flaen Manasseh.
21 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseph, Wele fi yn marw, a bydd Duw gyd â chwi, ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau.
22 A mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa.
Pennod XLIX.
1 Jacob yn galw ei feibion i’w bendithio. 3 Bendith pob un o honynt. 29 Mae efe yn rhoddi siars arnynt ynghylch ei gladdedigaeth; 33 ac yn marw.
Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diweddaf.
2 Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ïe, gwrandêwch ar Israel eich tad.
3 ¶ Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.
4 Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad; yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.
5 ¶ Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.
6 Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynnulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant wr, ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer.
7 Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulawn fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.
8 ¶ Tithau, Judah, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymmant i ti.
9 Cenau llew wyt ti, Judah; o’r ysglyfaeth y daethost i fynu, fy mab: ymgrymmodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef?
10 Nid ymedy y deyrn-wïalen o Judah, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac atto ef y bydd cynhulliad pobloedd.
11 Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad y’ngwaed y grawnwin.
12 Coch fydd ei lygaid gan win, a gwỳn fydd ei ddannedd gan laeth.
13 ¶ Zabulon a breswylia ym mhorthleoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon.
14 ¶ Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.
15 Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.
16 ¶ Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.
17 Dan fydd sarph ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau y march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.
18 Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.
19 ¶ Gad, llu a’i gorfydd; ac yntau a orfydd o’r diwedd.
20 ¶ O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.
21 ¶ Naphtali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.
22 ¶ Joseph fydd gangen ffrwythlawn, cangen ffrwythlawn wrth ffynnon, ceingciau yn cerdded ar hyd mur.
23 A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef.
24 Er hynny arhôdd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw a gryfhasant, trwy ddwylaw grymmus Dduw Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:
25 Trwy Dduw dy dad, yr hwn a’th gynnorthwya, a’r Hollalluog, yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a’r groth.
26 Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhïeni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseph, ac ar goryn yr hwn a neillduwyd oddi wrth ei frodyr.
27 ¶ Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwytty’r ysglyfaeth, a’r hwyr y rhan yr ysbail.
28 ¶ Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll, a dyma yr hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ol ei fendith y bendithiodd efe hwynt.
29 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyd â’m tadau, yn yr ogof sydd ym maes Ephron yr Hethiad;
30 Yn yr ogof sydd ym maes Machpelah, yr hon sydd o flaen Mamre, y’ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyd â’r maes gan Ephron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.
31 Yno y claddasant Abraham a Sarah ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeccah ei wraig; ac yno y cleddais i Leah.
32 Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.
33 Pan orphenodd Jacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.
Pennod L.
1 Arwyl Jacob. 4 Joseph yn cael cennad gan Pharaoh i fyned i’w gladdu ef. 7 Y claddedigaeth. 15 Joseph yn cysuro ei frodyr, y rhai oedd yn gofyn ei nawdd ef. 22 Ei oedran. 23 Mae efe yn gweled y drydedd genhedlaeth o’i feibion: 24 yn darogan i’w frodyr eu dynchweliad: 25 yn cymmeryd llw ganddynt am ei esgyrn: 26 yn marw, ac yn cael ei roddi mewn arch.
Yna y syrthiodd Joseph ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a’i cusanodd ef.
2 Gorchymynodd Joseph hefyd i’w weision, y meddygon, bêr-arogli ei dad ef: felly y meddygon a bêr-aroglasant Israel.
3 Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a bêr-aroglir,) yna yr Aiphtiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thri ugain.
4 Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseph wrth deulu Pharaoh, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharaoh, attolwg, gan ddywedyd,
5 Fy nhad a’m tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y’m cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fynu, attolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.
6 A dywedodd Pharaoh, Dos i fynu, a chladd dy dad, fel y’th dyngodd.
7 ¶ A Joseph a aeth i fynu i gladdu ei dad: a holl weision Pharaoh, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aipht, a aethant i fynu gyd âg ef,
8 A holl dŷ Joseph, a’i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a’u defaid a’u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.
9 Ac aeth i fynu gyd âg ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.
10 A hwy a ddaethant hyd lawr-dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.
11 Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr-dyrnu Atad, yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Aiphtiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel-Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.
12 A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt.
13 Canys ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan, ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpelah: yr hon a brynasai Abraham gyd â’r maes, yn feddiant beddrod, gan Ephron yr Hethiad, o flaen Mamre.
14 ¶ A dychwelodd Joseph i’r Aipht, efe, a’i frodyr, a’r rhai oll a aethant i fynu gyd âg ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.
15 ¶ Pan welodd brodyr Joseph farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseph ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef.
16 A hwy a anfonasant at Joseph i ddywedyd, Dy dad a orchymynodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,
17 Fel hyn y dywedwch wrth Joseph; Attolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt, canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, attolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseph pan lefarasant wrtho.
18 A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef, ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.
19 A dywedodd Joseph wrthynt, Nac ofnwch, canys a ydwyf fi yn lle Duw?
20 Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddyw, i gadw yn fyw bobl lawer.
21 Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
22 ¶ A Joseph a drigodd yn yr Aipht, efe, a theulu ei dad: a bu Joseph fyw gàn mlynedd a deg.
23 Gwelodd Joseph hefyd, o Ephraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasseh, ar liniau Joseph.
24 A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fynu o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.
25 A thyngodd Joseph feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fynu oddi yma.
26 A Joseph a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i pêr-aroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aipht.