Neidio i'r cynnwys

Beibl (1620)/Galatiaid

Oddi ar Wicidestun
2 Corinthiaid Beibl (1620)
Galatiaid
Galatiaid

wedi'i gyfieithu gan William Morgan
Effesiaid

EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT Y GALATIAID.

PENNOD 1

1:1 Paul, apostol, (nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn a’i cyfododd ef o feirw;)

1:2 A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia:

1:3 Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist;

1:4 Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y’n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a’n Tad ni:

1:5 I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

1:6 Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall:

1:7 Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist.

1:8 Eithr pe byddai i ni, neu i angel o’r nef, efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema.

1:9 Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema.

1:10 Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist.

1:11 Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd a gennyf fi, nad yw hi ddynol.

1:12 Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.

1:13 Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi a allan o fesur erlid eglwys Dduw, a’i hanrheithio hi;

1:14 Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau.

1:15 Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam, ac a’m galwodd i trwy ei ras,

1:16 I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed:

1:17 Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.

1:18 Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod.

1:19 Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd.

1:20 A’ r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd.

1:21 Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia;

1:22 Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist:

1:23 Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu’r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai.

1:24 A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.


PENNOD 2

2:1 Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi.

2:2 Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg.

2:3 Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno:

2:4 A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y’n caethiwent ni:

2:5 I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi.

2:6 A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi.

2:7 Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr:

2:8 (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nertholweithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:)

2:9 A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau-ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.

2:10 Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.

2:11 A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i’w feio.

2:12 Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad.

2:13 A’r Iddewon eraill hefyd a gydragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy.

2:14 Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?

2:15 Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid,

2:16 Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel yn cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyflawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.

2:17 Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y’n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw.

2:18 Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr.

2:19 Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw.

2:20 Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi.

2:21 Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o’r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.


PENNOD 3

3:1 O y Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygad-dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi groeshoelio yn eich plith?

3:2 Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych, Ai wrth weithredoedd ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd?

3:3 A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd?

3:4 A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd.

3:5 Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneutur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae?

3:6 Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.

3:7 Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.

3:8 A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abram gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.

3:9 Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon.

3:10 Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt.

3:11 Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

3:12 A’r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna’r pethau hynny, a fydd byw ynddynt.

3:13 Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren:

3:14 Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd.

3:15 Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato.

3:16 Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i’w hadau, megis am lawer; a megis am un, Ac i’th had di, yr hwn yw Crist.

3:17 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw’r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o fynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer.

3:18 Canys os o’r ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw haeach o’r addewid: ond Duw a’i rhad roddodd i Abraham trwy addewid.

3:19 Beth gan hynny yw’r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai’r had, i’r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd angylion yn llaw cyfryngwr.

3:20 A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un.

3:21 A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: ,canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder

3:22 Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu.

3:23 Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd-gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio.

3:24 Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd.

3:25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro.

3:26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy fydd yng Nghrist Iesu.

3:27 Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist.

3:28 Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.

3:29 Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.


PENNOD 4

4:1 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl;

4:2 Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad.

4:3 Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd:

4:4 Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf;

4:5 Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.

4:6 Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad.

4:7 Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.

4:8 Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.

4:9 Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach, yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?

4:10 Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.

4:11 Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer.

4:12 Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam.

4:13 A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf.

4:14 A’m profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu.

4:15 Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasoch eich llygaid, ac a’u rhoesech i mi.

4:16 A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir?

4:17 Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy.

4:18 Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi.

4:19 Fy mlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch;

4:20 Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais, oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.

4:21 Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf?

4:22 Canys y mae’n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o’r wasanaethferch, ac un o’r wraig rydd.

4:23 Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch, a aned yn ôl y cnawd; ar hwn oedd o’r wraig rydd, trwy’r addewid.

4:24 Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: Canys y rhai hyn yw’r ddau destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar:

4:25 Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia, ac y mae yn cyfateb i’r Jerwsalem sydd yn awr; ac y mae yn gaeth, hi a’i phlant.

4:26 Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hen yw ein mam ni oll.

4:27 Canys ysgrifenedig yw, Llawenha, di’r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i’r unig y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mac iddi ŵr.

4:28 A ninnau, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid.

4:29 Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai’r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd.

4:30 Ond beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab: canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd.

4:31 Felly, frodyr, nid plant i’r wasanaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.


PENNOD 5

5:1 Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed.

5:2 Wele, myfi Paul wyd yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi.

5:3 Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf.

5:4 Chwi, a aethoch yn ddi-fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras.

5:5 Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder.

5:6 Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad.

5:7 Chwi a redasoch yn dda; Pwy a’ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd?

5:8 Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi.

5:9 Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does.

5:10 Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.

5:11 A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y’m herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes.

5:12 Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch.

5:13 Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd.

5:14 Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun.

5:15 Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd.

5:16 Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd.

5:17 Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch.

5:18 Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf.

5:19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd,

5:20 Delw-addoliaeth, swyngyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau.

5:21 Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.

5:22 Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwyn, dirwest:

5:23 Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf.

5:24 A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau.

5:25 Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd.

5:26 Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.


PENNOD 6

6:1 Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau.

6:2 Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.

6:3 Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun.

6:4 Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall.

6:5 Canys pob un a ddwg ei faich ei hun.

6:6 A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da.

6:7 Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe.

6:8 Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol.

6:9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.

6:10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd.

6:11 Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m flaw fy hun.

6:12 Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist.

6:13 Canys nid yw’r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw’r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi.

6:14 Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd.

6:15 Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd.

6:16 A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.

6:17 O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu.

6:18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen. At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.