Neidio i'r cynnwys

Beryl/Pennod XXII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XXI Beryl

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XXIII

XXII

"And I promised my early God to have courage
Amid the tempests of the changing years."
—MAX EHRMAN.

AMSER llawn o bryder a fu'r ddwy flynedd nesaf i Beryl. Yr oedd treuliau byw yn uchel iawn yng Nghaergrawnt, yn enwedig yn y gaeaf, pan fyddai'n rhaid cael tân mawr a golau trydan am oriau hir. Gwarient fwy ar fwyd hefyd nag ar y cychwyn, er mai bwyd syml a gaent, ac er bod Beryl mor ddarbodus ag erioed. Gwelent eisiau gardd Maesycoed. Yr oedd yn rhaid prynu popeth yng Nghaergrawnt.

Tyfai Geraint ac Enid yn gyflym. Ai eu dillad yn rhy fach iddynt o hyd. Yr oedd eisiau rhywbeth newydd arnynt yn barhaus. Yr oedd yn rhaid i Eric hefyd wisgo'n drwsiadus i fynd at ei waith. Os oedd rhywun i fyw heb ddillad, Beryl oedd honno. Daeth yr amser pan deimlai hi'n rhy dlodaidd ei gwisg i ymgymysgu â phobl yn y capel, yn y dref, neu ar lan yr afon. Gwelai ferched o'i hoed yn mynd allan yn gwmnioedd llon yn eu dillad heirdd, a hithau'n gaeth ac unig yn yr ystafell fach ar y llofft. Gofynnai iddi ei hun yn aml a wnaethent yn iawn i adael Cymru a'r ardal lle'r adweinid hwy gan bawb, a dwyn arnynt eu hunain gymaint o ofid a phryder. Ond ar yr un funud, gwyddai fod y caledi mwyaf yn haws ei ddioddef na sarhad a dirmyg eu cymdogion.

Ar ddiwedd y ddwy flynedd, nid oedd ganddynt ond ugain punt ar ôl yn y banc. Dechreuasant feddwl o ddifrif am werthu Maesycoed. Yna daeth tro arall ar eu llwybr.

Yr oedd cangen o Siop Fuller newydd ei hagor yn Buenos Aires. Cafodd Eric gynnig i fynd yno—am flwyddyn i ddechrau. Os gwnâi ei waith yn foddhaol, ceid gwneud cytundeb newydd ag ef ar ben y flwyddyn. Caffai ddewis pa un a arhosai yno ynteu dychwelyd i Gaergrawnt.

Yr oedd ymdrechion Eric i ddiwyllio 'i hun yn dwyn ffrwyth. Heblaw bod yn un da mewn busnes, yr oedd yn well ieithydd na neb yn y siop. Medrai, erbyn hyn, Ffrangeg, Almaeneg, ac Ysbaeneg, heblaw Saesneg a Chymraeg. Ar gyfrif hynny y cynigiwyd iddo'r swydd newydd bwysig. Os âi i Buenos Aires, byddai ei gyflog yn bedwar cymaint, a'i ragolygon yn ddisglair iawn. Byddai'r antur a'r profiad yn bethau godidog.

"O, ERIC ANNWYL! A OES RHAID IMI DY GOLLI DITHAU ETO?"






Yr oedd Eric yn llawn cyffro pan ddaeth â'r newydd i Beryl. Rhedodd i fyny'r grisiau a gweiddi braidd cyn cael amser i agor drws y tŷ:

"Beryl! Beryl! Mae'r rhod wedi troi! Mae'r rhod wedi troi! "

"Beth sy'n bod, Eric?" ebe Beryl yn syn. Yna dywedodd Eric, â'i lygaid yn disgleirio, y newydd pwysig wrthi.

"O, Eric annwyl! A oes rhaid imi dy golli dithau eto?" ebe Beryl, a throi oddi wrtho ac wylo. Yr oedd pryder a gofid y misoedd diwethaf wedi ei gwneud yn rhy wan i ddal ychwaneg.

Gadodd Eric iddi wylo am funud. Yna dywedodd yn dyner iawn:

"Beryl, nid oes un bachgen yn y byd yn hoffach o'i chwaer nag wyf fi ohonot ti. Dim ond fi a ŵyr dy werth. Yr ydym wedi byw gyda'n gilydd trwy amser caled. Arnat ti y daeth y pwysau mwyaf. Ni bu neb erioed yn ddewrach na thi. Yr wyt yn siwr o gael dy dalu. 'Rwy'n siwr bod amser da o'th flaen. Byddi'n hapusach am iti fod mor dda i ni ac mor ddewr trwy'r cwbl. A chredaf fod yr amser da ar ddechrau'n awr. Bydd yn well i ti, yn well inni i gyd, fy mod i'n mynd."

"Eric bach! Sut y gallaf fi fyw yma fy hunan gyda'r plant? O ba le y daw bwyd inni?"

"Byddaf fi'n cael cymaint bedair gwaith o gyflog ag a gaf yn awr. Yr wyf yn mynd i drefnu bod tri chwarter o'm harian i'w talu i ti o'r Siop yma bob wythnos. Bydd gennyt, felly, gymaint dair gwaith ag sydd gennym yn awr at fyw, a bydd un yn llai yma i fwyta."

"O, Eric, bydd tri chwarter yn ormod. Ar beth y byddi di byw?"

"Bydd chwarter yn ddigon imi. Ni bydd dim arnaf i dalu am y fordaith. Byddaf yn cael fy mwyd a'm llety yn Buenos Aires. Dim ond dillad ac arian poced fydd eisiau arnaf. Yr wyf am i ti fod uwchlaw pryder o hyn allan."

"Buasai'n well inni fod wedi aros yng Nghymru, Eric, er gwaethaf popeth, a byw gyda'n gilydd i gyd yn ein cartref bach ym Maesycoed. Dyna a ddywedai Nest o hyd. Ac yn awr, dyma Nest wedi mynd, a thithau'n mynd eto."

"Beryl fach, oni bai inni ddod yma, ni byddai'r cyfle hwn wedi dod i mi. Pe buaswn wedi aros yn Llanilin, ni buaswn ar y gorau ond rhywun fel Mr. Harris neu Mr. Hywel—yn troi yn yr un hen gylch bach o hyd heb syniad am y byd mawr. Yr wyf erbyn hyn yn gallu diolch i'r sawl a ddywedodd gelwydd amdanaf. Ac edrych ar y byd da sydd ar Nest, a'r pethau mawr sydd yn ei haros!"

"Y mae Nest wedi mynd mor bell oddi wrthym," ebe Beryl.

"Ydyw yn awr am dipyn. Ond yr un yw Nest o hyd. Un ohonom ni ydyw. Deuwn yn nes at ein gilydd eto."

"Dyna unig y byddaf wedi i tithau fynd."

"Rhaid iti fynd allan fwy o hyn ymlaen, a rhaid iti gael stoc o ddillad newydd yfory nesaf. Nid wyt wedi cael dim newydd ers amser hir. Mae'r rhod wedi troi! Yr wyf yn mynd i godi deg punt o'r banc bore yfory, a rhaid iti eu gwario i gyd arnat dy hunan."

"Paid â siarad dwli, Eric."

"Gwna hynny'r tro i ddechrau.

"Yr wyf yn siwr bod lwc o'n blaen i gyd. Mae'r rhod wedi troi, Beryl, mae'r rhod wedi troi!"

Nodiadau[golygu]