Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/Jones, Jenkin, Llanon

Oddi ar Wicidestun
Jones, John, Llanbedr Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

gan John Evans, Abermeurig

Jones, John, Penmorfa

PARCH. JENKIN JONES, LLANON.

Yr oedd ef yn frodor o'r lle uchod, ac heb fod yn byw allan o hono fawr yn ei oes. Ganwyd ef, ddydd Calan, 1814, mewn tŷ ac ychydig dir gydag ef, o'r enw Maesllyn, yn y pentref. Enwau ei rieni oeddynt David a Mary Jones. Cafodd lawer o ysgol o'r fath ag oedd y pryd hwnw, ond nid ysgolion o radd uchel. Cafodd ddigon i fod yn fasnachwr, ac yr oedd hyny yn gryn lawer y pryd hwnw. Bu yn cadw shop yn gyntaf yn y Swan—tŷ oedd wedi bod yn dafarndy. Wedi hyny, symudodd i Shop Ontario—tŷ a elwid felly yn ol enw y llong yr oedd ei berchenog yn gadben arni. Enw ei wraig oedd Miss Mary Ashton, yr hon a fu yn yr Alltlwyd, Llanon. Un o Trefeglwys, Trafaldwyn, ydoedd, lle y mae eto lawer o'r tylwyth. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn ieuanc llafurus gyda'r achos yn Llanon, ac yn weddïwr rhagorol o'i ieuenctid. Yr oedd ganddo dalent ragorol i ymadroddi yn rhydd a hyfryd. Meddyliwyd gan lawer mai pregethu oedd y gwaith oedd wedi ei amcanu iddo; ac wedi i rai o'r brodyr awgrymu hyny iddo, dywedodd fod hyny wedi bod yn ddwys ar ei feddwl lawer gwaith.

Dechreuodd bregethu tua diwedd 1835, pan oedd yn agos i 22ain oed. Cafodd dderbyniad rhwydd i'r weinidogaeth, gan fod y rhan fwyaf yn ei weled yn ddyn ieuanc mor addawol. Ond os felly cyn iddo ddechreu, cafodd pawb feddwl mwy o hono wedi dechreu. Yr oedd ei bethau mor llawn o'r efengyl, ac yn amcanu at lesoli ei gydddynion, ei draddodiad mor naturiol a'r afon yn ei rhedfa-pob gair yn ei le, a phob brawddeg yn llawn ac yn brydferth, a'i lais yn swynol a phoblogaidd. Daeth galw mawr am dano, ac ymdrechodd yntau ateb i'r galw tra y gallodd. Ond pan yn anterth ei nerth, daeth atalfa bur ddisymwth ar ei lais; ac er pob ymdrech i'w wella, bu y cwbl yn aflwyddianus, fel y gorfu arno roddi fyny bregethu bron yn llwyr am oddeutu saith mlynedd. Dywedai rhai mai rhoddi gormod ar ei lais a wnaeth am y blynyddoedd cyntaf o'i bregethu, fod ei lais mor beraidd, a digon o hono y pryd hwnw, ac yntau yn gwresogi gyda'i bethau wrth weled y gynulleidfa yn mwynhau mor dda, ac felly yn rhoddi ei lais allan tra y daliodd. Dywedai eraill mai effaith anwyd trwm ydoedd i ddechreu, ac yntau yn ymdrechu gormod cyn ei wellhau. Pa beth bynag, fel yna y bu am amser maith, er dirfawr siomedigaeth iddo ef, a llawn cymaint i̇'r cynulleidfaoedd oedd wedi ei glywed. Yr oedd yn rhoddi ambell i anerchiad yn Llanon pan yn ei waeledd, a dyna'r oll. Er iddo ddyfod lawer yn well, ni ddaeth ei lais byth cystal ag o'r blaen. Collodd yntau y blâs a'r gwroldeb oedd yn eu meddu o'r blaen gyda'r gwaith. Ni anturiai i'r pulpud ond ar amserau, a chyfrifai mai anerch ac nid pregethu yr oedd.

Yr oedd ei flynyddoedd ar ol ei gystudd yn rhai o ymdrech am adferiad, a gofal am gadw hyny a adferwyd. Treuliai fisoedd yr haf bron yn gyfain Llangamarch a Llanwrtyd. Yr oedd rhai yn barnu ei fod yn gwneyd gormod o hyny, y gallai ymwneyd llai â'r ffynhonau, a mwy â'r pregethu. Ond gwyddai ef nad oedd cystal ag y bu, a mynai wneyd ei oreu i ddyfod os yn bosibl; ac felly, dal i ymdrechu a wnaeth, ac yr oedd hyny yn ei gadw yn weddol. Pa fodd y buasai pe heb yr ymdrech hwn, ni wyr neb. Ymhen rhai blynyddoedd, rhoddai gyhoeddiadau yn ardaloedd y ffynhonau, a daeth yn weddol gryf i bregethu ar hyd Sir Aberteifi, fel y cafodd ei ddewis i'w ordeinio yn Nghymdeithasfa Rhiwbwys, yn 1853. Symudodd o Llanon i Rhydlas a Maenllwyd; a thra yno, gelwid ef Jenkin Jones, Penrhiw. Yna dychwelodd i Llanon i un o dai Llainlwyd. Treuliai ryw gymaint o amser yn Dowlais gyda'i fab, y Parch. David Jones, ac yn Llangeitho, gyda'i fab arall, y Parch. D. A. Jones; a phan gydag ef yn Aeron Park, y bu farw yn bur ddisymwth, dydd Gwener, Mai 16eg, 1884, pan yn 70 oed, ac a gladdwyd yn mynwent Eglwys Llansantffraid, yn ymyl Llanon.

Yr oedd mor debyg i'r efengyl yn ei bregethau a neb a adwaenem —cymerai ryw athrawiaeth bron bob amser yn destyn; ond nid traethu ar yr athrawiaeth hono y byddai, ac yna terfynu; byddai ef bob amser yn cymeryd ochr ymarferol yr athrawiaeth, a'i chymhwyso at y gwrandawyr. Ni byddai un amser yn faith, ond yn fyr ac yn felus. Oblegid ei waeledd, ni theithiodd fawr allan o'r sir; ond bu ar daith trwy Sir Fflint, a rhanau eraill o'r Gogledd, ryw adeg yn ei flynyddoedd olaf. Cafodd rai odfaon grymus ar y daith hono fel lawer gwaith ar hyd ei oes. Er iddo gael ei rwystro yn ei yrfa weinidogaethol, cadwodd ei gymeriad yn ddisglaer hyd ei fedd. Yr oedd yn gyfaill o'r fath fwyaf dyddan, a cheir llawer i dystio hyny eto gyda hiraeth, o'r rhai fu gydag ef yn y Ffynhonau a lleoedd eraill. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf gochelgar i beidio tramgwyddo neb, a gwyddai y ffordd i hyny yn gystal a'r goreu. Yr oedd bob amser yn siriol, a'i ymddiddanion bob amser yn hyfryd a charuaidd, fel yr oedd yn un o gyfeillion goreu y ffynhonau, a'r rhai yr oedd amser ganddynt i'w hebgor i gymdeithas. Ac os oes rhyw bethau hynod i'w hadrodd am dano, yn ei waith yn osgoi anhawsderau a pheryglon y maent i'w cael. Gadawai ef i bobl eraill roddi eu traed ynddi, fel y dywedir, os na fyddent yn ddigon call i astudio eu diogelwch a'u cysur mewn pryd. Dichon mai pethau tebyg a'i cadwodd rhag myned i ambell gyfarfod crefyddol, a llawer o gyrddau a lleoedd amheus. Iaith ei ymddygiad ef oedd, os creadur tir sych, nid oedd eisiau myned i'r dwfr; os creadur dwfr, doethach peidio bod lawer ar dir sych, os yn bosibl. Yr oedd yn ddyn glandeg ei olwg, gwallt du, ac felly bron i ddiwedd ei oes. Cerddai yn hytrach yn gam a myfyriol, a bob amser a golwg hamddenol arno. Un o daldra cyffredin ydoedd. Bu yn y weinidogaeth am oddeutu 50 mlynedd.

Nodiadau[golygu]