Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/Jones, John, Penmorfa

Oddi ar Wicidestun
Jones, Jenkin, Llanon Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

gan John Evans, Abermeurig

Jones, John, Saron

PARCH. JOHN JONES, PENMORFA.

O ran perthynas pregethwr a chapel, fel John Jones, Penmorfa, yr adnabyddid ef yn y Cyfundeb trwy ei oes. Symudodd deirgwaith, ond i'r un capel yr oedd yn myned. Adnabyddid ef yn ei ardal ei hun yn gyntaf fel John Jones, Sarnau, lle y bu yn gweithio ar y fferm gyda'i rieni, nes myned yn bregethwr; wedi hyny, fel John Jones, Closglas; ar ol hyny, fel John Jones, Dyffryn Bern; ac yn ddiweddaf oll, fel John Jones, Tanybwlch, tyddyn a brynodd iddo ei hun, ac i'w chwaer, Miss Esther Jones, yr hon a fu byw yn weddw fel yntau am ei hoes, a chydag ef hefyd. Nid oes llawer o hanes am dano yn ei ddyddiau boreuol, ond y mae pob hanes a geir yn ei ddangos yn un diddrwg, llaith, a gwangalon : oblegid hyny, gellir dweyd am dano fel am Issachar gynt, "Efe a wêl lonyddwch mai da yw;" yn hytrach na myned i le ac i blith rhai bywiog a chynhyrfus, byddai unigedd a thawelwch yn well ganddo. Pan yn ysgol y Croes, rhan o hen gapel Penmorfa, dywedwyd wrth ei dad fod dau fachgen yn yr ysgol wedi ymladd a'u gilydd. "Mi waranta," meddai yntau, "nad oedd Shaci ni ddim yn agos atyn' nhw," gan y gwyddai am ei natur mor dda. Rhedeg y byddai ef yn lle sefyll brwydr, a llefain yn lle taeru am chwareu teg. Cyfranogodd i raddau helaeth o'r teimlad llwfr hwn trwy ei oes. Pan ymddangosodd ysgrif, "Y Ty Capel," yn y Cylchgrawn, dywedwyd wrtho mai efe oedd un o'r cymeriadau a osodid allan yn helynt y glep a'r gecraeth, oedd yn y tai capeli. Aeth yn ofidus dros ben, wylai yn chwerw, a bu yn methu cysgu am nosweithiau; ond yr oedd yn dyfod i Gyfarfod Misol Llechryd yn iach ei galon, ac ysgafn ei droed, gan ei fod wedi cael ei hysbysu nad efe oedd y cymeriad hwnw.

Dechreuodd bregethu tua diwedd 1821, felly bu yn pregethu fwy na thair blynedd cyn marw Ebenezer Morris, a bu gyda hwnw ar ychydig o daith trwy Sir Benfro. Ni chafodd ysgol ond a gafodd gyda un Shon Sais, fel ei gelwid, oedd yn cadw ysgol yn y Croes, a grybwyllwyd; ond yr oedd yn ddarllenwr llyfrau duwinyddol er yn ieuanc, a hoffai yn fawr gymdeithas hen bobl wybodus a phrofiadol yr eglwys a'r Ysgol Sabbothol, a hyny oedd yr addysg oreu a gafodd. Ni fu ei argyhoeddiad o bechod a'i ddychweliad at Dduw, ond fel ymddadblygiad graddol planhigyn natur. Eto, yr oedd ei bregethau yn hynod o brofiadol, yn dangos iddo deimlo rywfodd nes syrthio ar y ddaear, a gweled goleuni o'r nef, os nad yn ddisymwth, eto yn wirioneddol a chlir. Nid surprises, ymwelweliadau di-rybudd ac ofnadwy fu ymweliadau Duw âg ef, ond digon o eglurhad graddol a chyson o hono ei hun, nes ei gadw rhag myned yn rhy bell ar un llaw, na dyfod yn rhy agos ar y llall. Yr oedd ei ofn o Dduw yn "barchedig ofn."

Yr oedd yn un o'r duwinyddion goreu yn y sir. Yr hon dduwinydd galluog, John Thomas, Aberteifi, fu yn ei holi pan yn ymgeisydd, ac yr oedd trwy ei oes fel pe byddai wedi cael rhyw ysbrydiaeth dduwinyddol oddiwrtho. Byddai yn un o'r rhai mwyaf medrus i holi ymgeiswyr yn yr athrawiaeth, a chynghorai hwynt oll i fod yn gryfion ac iachus ynddi, a chadarn yn yr Ysgrythyrau. Ni chyfrifid ef yn un o'r pregethwyr blaenaf; eto, yr oedd yn pregethu yn fynych yn y Cymdeithasfaoedd. Yr oedd Edward Mason yn gyfaill iddo ar daith trwy y Gogledd pan yn pregethu yn Nghymanfa Llanerchymedd, y prydnhawn cyntaf, yn 1840. Rhoddwyd y bregeth hono yn y Drysorfa. Yr oedd y dynion mwyaf gwybodus yn fawr am ei wrando, gan y cawsent ganddo bob amser fêr duwinyddiaeth. Yr oedd bob amser yn fywiog a gwresog, y cwbl oedd yn tynu yn ol arno oedd ei lais sych ac anystwyth. Pan fyddai yr hwyl, codai ei fraich dde yn syth i fyny, ac ysgydwai hi yn wyllt am enyd, ac yna gostyngai hi i lawr, a'i dyrchafu drachefn yr un modd, a deuai yr "O! ïe," a "Bobol," yn bur fynych, fel pe byddai yn cael darganfyddiad newydd yn y drefn fawr. Yr oedd yn agor ei enau yn bur llydan, gan wasgu ei wefusau ar ei ddanedd, fel yn ymdrechu cael ei lais a'i bethau allan, nes y byddai y gwrid yn codi dros ei holl wyneb. Gwaeddai hefyd â'r llais oedd ganddo, nes y clywid ef o bell ac yn eglur. Safai yn syth yn y pulpud, fel wrth gerdded, gan ostwng yr ochr y byddai y droed yn myned i lawr, a symudai felly o hyd yn y pulpud. Yr oedd yn dal a chryf o gorff, pen crwn, a'i lygaid a'i wyneb a gwedd nervous ac ofnus arnynt. Ymddangosai yn llawn trafferth wrth bregethu, ac ymhob man. Yr oedd y rhan amlaf yn achwyn ar ei iechyd, er iddo fyw am 84 mlynedd.

Er ei fod yn ddyn diniwed a llwfr, eto, yr oedd yn gadarn yn yr athrawiaeth, ac i sefyll dros y gwirionedd mewn barn a buchedd, pan fyddai galw am y prawf. Pan alwyd ef i weinyddu disgyblaeth ar aelod am feddwi, dywedodd, "O! James Davies, yr ydych yn cael eich troi allan am y tro olaf am byth-un droed i chwi yn y bedd a'r llall ar y lan-cael eich claddu yn meddau y blys." Dywedir i'r dyn wrando a chymeryd addysg. Yr oedd yn gryf hefyd o ran profiad. Pan ddywedodd y brodyr wrtho mewn Cyfarfod Misol eu bod yn clywed yn fynych ei fod yn cael odfaon rhyfeddol o dda, dywedodd, "Yr wyf yn cael hyder a blâs mawr weithiau, yr wyf yn teimlo mwy o awydd arnaf i achub eneidiau nag erioed. Dro arall, dywedodd, "Yr wyf yn Rhosydd Moab, ond nid oes eisiau iddi fod lawer yn waeth arnaf o ran hyny; cafodd Moses ben Pisgah o'r fan hono, ac yr wyf finau yn meddwl fy mod yn cael gweled y wlad weithiau." Yna dywedodd yn wyllt, a'i deimlad yn ddrylliog, "Yr wyf yn meddwl na chollir fi." Wedi adfeddianu ychydig o hono ei hun, dywedodd, "Gallaf ddweyd mai ch'i yw mhobol i. Yr wyf yn taflu fy hun i'r glorian bob dydd, nid yn lwmpyn, ond pob gras ar ei ben ei hun. Yr wyf yn cael fy hun weithiau yn bwysau, ond yr ofnau sydd fynychaf. Yr wyf yn synu na byddwn yn fwy sanctaidd erbyn hyn." Yn ei gystudd olaf, cafodd un brawd ef wrth y gwaith o orfoleddu, a dywedodd paham, "Yr wyf wedi bod yn anfon ffydd o'm blaen i wlad yr addewid, er mwyn cael gweled ei rhagoroldeb, ac yr oedd hono newydd ddychwelyd yn awr gyda newyddion da iawn, ac wedi gorchfygu fy anghrediniaeth." Eto, "Mae pethau byd tragwyddol yn dyfod i fy meddwl weithiau nes bron fy llethu; eto, y mae arnaf awydd myn'd atynt wedi'r cwbl. Mae y gwaed yn abl i'm cymhwyso." Mwynhaodd yn helaeth ryw ddiwrnod eiriau Paul, "Mi a wn i bwy y credais." "Gwn inau," meddai, "mai iddo Ef. yr wyf wedi ymddiried yr oll erbyn y dydd hwnw." "Y penillion hyny hefyd," meddai—

"O! gad i mi brofi sypiau," &c.

"O! na chawn i olwg hyfryd," &c.

Fel hyn yn ngolwg y wlad, ehedodd ei ysbryd iddi Mawrth 10fed, 1885, wedi bod yn pregethu am 63 mlynedd, a chladdwyd ei weddillion marwol o flaen capel Penmorfa.

Nodiadau[golygu]