Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi/Morgan, David, Rhydfendigaid

Oddi ar Wicidestun
Morgan, David, Capel Seion Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi

gan John Evans, Abermeurig

Morgan, David, Ysbyty

PARCH. DAVID MORGAN, RHYDFENDIGAID.

Bu farw yn gymharol ieuanc, dim ond 42. Dechreuodd bregethu pan yn 33 oed: felly ni bu ond naw mlynedd yn y weinidogaeth. Ordeiniwyd ef yn Llangeitho, yn 1859, sef blwyddyn y diwygiad. Gelwid ef David Morgan, y Shop, yr hon a welir eto ar gyfer yr hen gapel, lle y mae Mrs. Morgan yn myned ymlaen a'r fasnach. Ganwyd ef yn Tymawr, yr hwn sydd oddeutu lled cae o'r pentref, a hyny yn y flwyddyn 1821. Enwau ei rieni oeddynt David a Jane Morgan, y rhai a gladdwyd y tucefn i'r hen gapel. Yr oedd yn un o chwech o blant. Bu farw ei dad yn ieuanc; ac oblegid hyny, daeth gofal y teulu arno ef a'i fam. Yn Rhagfyr, 1843, bu farw ei fam hefyd, gan adael yr holl ofal arno ef. Yr oedd ei rieni yn bobl dda a chrefyddol, a bu marw yn elw iddynt. Yr ydym yn deall fod chwant pregethu wedi bod ar Mr. Morgan flynyddoedd lawer cyn iddo ddechreu ar y gwaith; ond y mae y gofalon teuluaidd a ddaeth arno, yn rhoddi eglurhad paham na ddechreuodd yn gynt, a phaham na bu mewn coleg, Bu yn fwnwr am rai blynyddoedd; ac o'r diwedd, ymsefydlodd yn y Shop, lle y bu am y gweddill o'i oes. Dywedir iddo wneyd ei oreu dros y plant eraill, a hyny ymhob modd canmoladwy, fel na welsant fawr o angen eu rhieni.

Cafodd fwy a gwell ysgol na'r cyffredin yn ei ardal. Bu am lawer o amser yn Ysgol enwog Ystradmeurig. Yr oedd yr athraw, sef y Parch. J. W. Morris, yn hoff iawn o hono, fel dysgwr da, ac fel un o gymeriad rhagorol. Cafodd gymhellion taer ganddo i barotoi ei hun i fod yn offeiriad o Eglwys Loegr, ond ni fynai ef ymadael â'r enwad y perthynai ef a'i rieni iddo. Mae yn amlwg hefyd fod ei rieni yn Fethodistiaid mwy goleuedig a chadarn na'r rhan fwyaf yn y dyddiau hyny. Cododd llu i'r offeiriadaeth o'r ardaloedd hyn; ac yr oedd gan Ysgol Ystradmeurig ddylanwad mawr tuag at hyny. Ac er bod yn yr un Ysgol, a'i fod hefyd yn ddysgwr mor alluog, eto daliodd ef yn gadarn yn y ffydd. Yr hyn sydd yn profi fod ei rieni yn Anghydffurfwyr da, hefyd, yw, mai hwy oedd y cyntaf i fedyddio yn hen gapel y Bont, a Mr. Morgan oedd y cyntaf hwnw. Bu yma lawer o ddadleu cyn hyny, pa un a ddylid bedyddio o gwbl gan neb heb ei fod wedi bod dan law esgob. Ond yr oedd tad a mam David Morgan yn meddu ar well barn, ac ar feddwl mwy annibynol, fel nad oeddynt yn ofni neb na dim ond eu cydwybod eu hunain a Gair Duw. Yr oedd dechreu bedyddio rhai mewn capeli yn beth anhawdd mewn unrhyw le y pryd hwnw. Ond yr oedd mwy o anhawsdra i wneyd hyny yn ymyl ysgol Eglwysig Ystradmeurig. Y gweinidog a weinyddodd y bedydd oedd y Parchedig Ebenezer Richards, Tregaron. Nid un hawdd ei dynu gan bob gallu, na chael ei siglo gan bob awel oedd Mr. Morgan; ac nid yw hyny yn rhyfedd os ystyriwn mor anhyblyg oedd ei rieni. Yr oedd Mr. Richards, Tregaron, yn arfer dweyd, ond iddo ef gael Methodistiaid da, y cawsai eu plant hefyd i'w bedyddio; a dywedai am i'r rhai hyny ddechreu ymhob lle. "Mae dynion," meddai, "yn debyg i'r defaid; ond i'r un fwyaf dewr gymeryd y blaen, daw y lleill ar ei hol."

Yr oedd yn Ysgrythyrwr mawr, Dysgodd lawer o'r Beibl pan yn ieuanc, ac yr oedd bob amser yn gwneyd hyny yn fanwl. Yr oedd adnodau at ei alwad bob amser, a gallai eu hadrodd heb wneyd cam â hwy. Yr oedd yn dduwinydd galluog. Nid y wybodaeth hon ar ei phen ei hun ychwaith oedd ei wybodaeth ef o honi; ond yr oedd yn gryn lawer o athronydd naturiol a moesol. Yr ydym yn ei gofio yn pregethu yn y Penant ar y geiriau, "Yr ydym yn diolch i ti, O! Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a'r hwn oeddyt, a'r hwn wyt yn dyfod, oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnasaist." Yr oedd yn ddigon hawdd deall mai nid duwinyddiaeth yn unig oedd wedi ddarllen; ac yr oedd y rhai mwyaf blaenllaw yn dweyd mai nid dyn cyffredin ydoedd Onibai yr amgylchiadau y gorfu arno gymeryd eu gofal, diameu y mynasai ef fwy o fanteision i fyned yn ei flaen mewn dysg a gwybodaeth o bob math. Cyn iddo fyned i bregethu, yr oedd yn un hynod o ran ei wybodaeth eang, ei fedrusrwydd gyda phobpeth crefyddol, a'i allu i fod yn ddefnyddiol gyda phobpeth da; ei synwyr cyffredin cryf, ei farn addef, a'i gymeriad dilychwin. A diamheu mai yr elfenau hyn yn ei gymeriad oedd yn peri i'r bobl oreu a mwyaf llygadgraff yn y Bont, ei gymell i ddechreu pregethu. Yr oedd ysbryd pregethu yn gryf ynddo; ond ni fynai ei ddatguddio. Cuddio ei hun oedd duedd ef. Nid oedd yr ysbryd cyhoeddus yn gryf ynddo. Yr oedd yn rhy wylaidd, yn rhy reserved i hyny. Yr oedd yn ddyn trwm, fel y dywedir, ond yn anmharod i ddangos hyny. Gan ei fod yn un mor gall, pwyllog, ac o farn mor addfed, mynai y bobl ei gael i'w blaenori bron ymhob peth. Ond gwell oedd ganddo ef weled eraill yn y lleoedd yr oedd eraill yn meddwl y dylasai ef fod.

Dyn o daldra cyffredin ydoedd, corff teneu, y wyneb yr un fath ac yn welw, a rhyw gymaint o ol y frech wen arno. Gwallt du a chrychlyd; y pen yn sefyll yn drymaidd, a thueddol i blygu tuag ymlaen yn fyfyrgar. Traddodai yn araf, heb godi fawr o'i lais hyd y diwedd. Cafodd odfaon bythgofiadwy yn niwygiad 1859, a derbyniodd ugeiniau os nad canoedd at grefydd. Yr oedd ynddo lawer a allu, gwybodaeth, a barn, ond iddo gael ysbryd digon gwresog i draddodi, a chafodd hyny i raddau pell yn y diwygiad. Gwnaed brys mawr gydag ef wedi ei gael i'r pulpud, pan mai prin yr oedd wedi treulio ei bum' mlynedd cyn iddo gael ei ddewis i'w ordeinio, ar ol ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Nid dyn ieuanc ydoedd, ac nid un dibrofiad oedd, ac felly nid oedd perygl brysio. Treuliodd ei oes gyda chrefydd. Bu yn athraw llafurus yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn un o'r aelodau goreu yn y dosbarth darllen oedd y Parch. Joseph Rees yn gadw yn y lle. Yr oedd prawf wedi ei gael o hono hefyd fel areithiwr dirwestol, ac hefyd fel areithiwr ar wahanol bynciau yn Nghyfarfod Dau-fisol y Dosbarth. Bu ef a Thomas Williams, Panwr, yn dadleu llawer a'u gilydd, ac hefyd yn gwneyd pynciau ysgol i'w hadrodd yn gyhoeddus. Nid oedd, oblegid y fasnach, yn gallu dyfod yn fynych i'r Cyfarfod Misol; a phan fyddai yn bresenol, ni siaradai fawr, os na byddai a rhyw genadwri neillduol ganddo. Ond yr oedd yn un o'r rhai mwyaf defnyddiol yn ei gartref. Yr oedd yn arweinydd da pan godwyd y capel mawr presenol, ar gyfer y gynulleidfa fawr, ac oddeutu 400 o aelodau newyddion a dderbyniwyd yno yn y diwygiad. Ond yr oedd yno galon i weithio ganddo ef a phawb, gan mai 1859 ydoedd. Nid oedd yn gryf o iechyd. Ac yr oedd y teithio i'r cyhoeddiadau, a bod yn gaeth yn y siop, yn bethau hollol groes i'w gilydd tuag at gadw iechyd. Yr oedd yn myned a dychwelyd y rhan amlaf bob Sabbath, ac felly byddai awyr y boreu a'r nos yn cael ei hanadlu, ac yn aml er niwed i'w iechyd. Bu farw dydd Gwener, Medi 25, 1863, a hyny yn bur ddisymwyth. Pregethodd nos Sabbath cyn hyny, oddiar 2 Cor. v. 1, fel pe buasai yn ymwybodol fod "datodiad ei ddaearol dy" yn ymyl. Priododd Awst 15, 1845, â Miss Mary Lloyd, merch Mr. David Lloyd, Excise Officer, yr hon sydd wedi ei oroesi hyd yn awr. Ar ol un oedd mor gymeradwy gan yr holl eglwysi, teimlwyd galar mawr trwy y wlad i gyd, yn enwedig yn y lleoedd adnabyddus o hono. Claddwyd ef yn mynwent y Fynachlog.

Nodiadau[golygu]