Caniadau Watcyn Wyn/De'wch, de'wch
Gwedd
← Ac felly'n y bla'n | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Claf yn y Gwanwyn → |
"DE'WCH, DE'WCH."
MAE dysg yn cynyddu,
A dyn yn dringo' fyny,:
A'r ddaear yn ymgyrhaedd am y gwir
Mae rhyddid yn blaguro,
A rhinwedd yn blodeuo,
A goleu'r nef yn gwenu ar ein tir;
De'wch, de'wch,
De'wch ie'nctyd, de'wch,
De'wch yn y gân i uno i gyd;
Awn, awn, gyda'n gilydd,
Yn un dyrfa ddedwydd,
Dan gânu, awn dan gânu gyda'r byd.
Uchel-nôd perffeithrwydd,
Ar ben bryn enwogrwydd,
Fo'n taro ar y llygad byth yn glir;
Y'mlaen heb ddiffygio
Mae'n rhaid cyrhaedd yno,
Er fod y ffordd yn ddyrus, serth, a hir;
De'wch, de'wch,
Do'wch ie'nctyd, de'wch, &c.