Cerddi'r Bwthyn/Y Nadolig
← Pwllderi | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Wrth Furddun Hen Addoldy → |
Y NADOLIG
[1940]
HAWL
Ple mae'r angylion a ganodd gynt,
A'u hanthem yn llenwi orielau'r gwynt ?
A ffoesant a gadael y Nefoedd Wen
I'r dychrynfeydd sy'n ysgubo'r nen?
ATEB.
Na, lleisio y maent ym mhob calon lân
A fawl yr Iôr yn y twrf a'r tân.
Pob haleliwia, pob emyn byw,
Darn o'u peroriaeth anosteg yw.
HAWL.
Pa le mae'r bugeiliaid a glybu gynt
Y Newydd Da yn pereiddio'r gwynt,
A'r disgwyl hir am y Nefol Wawr
Yn llifo'n addewid glir i lawr ?
Mewn beudy oer, lle'r oedd Baban Gwyn,
A hwythau'n plygu'n addolwyr syn,
Ai rhith y Rhyfeddod a welsant hwy?
Ai breuddwyd tlws na ddychwelodd mwy ?
ATEB.
Na, gwelwch, â'r eira ar fryn a rhos,
Hosana hen fugail yn gwynnu'r nos.
Daeth iddo yntau o'r Nef i lawr
Y "Newydd Da o lawenydd mawr."
Mae iddo gymrodyr mewn llawer bro
Yn dlodion cyfoethog ar lawr y gro;
A dwys eu hedliw mai gwellt a gwair
Oedd cwrlid eu Harglwydd ar fynwes Mair.
Lle plyg hen fugeiliaid ar foelydd byd,
Yno mae'r preseb o hyd, o hyd.
HAWL.
Pa le mae'r doethion a hudwyd gynt
Gan seren lwys ar addolgar hynt?
A giliodd y golau a welsant hwy
Rhag llewych disgleiriach rhyw olau mwy?
ATEB.
Na, gwelwch ddysgodron ein hocs o hyd
Yn ceisio'r hedd sydd uwch gwybod byd,
A phlygu'n blant bychain, â'u gwedd yn awr
Yn wyn gan daerni'r ymofyn mawr.
Lle perchir yr Athro sy'n Fab y Nef,
Yno mae llewych Ei seren Ef.
***
Mae Herod yntau yn fyw o hyd,
A'i ddyrnau heyrn yn malurio'r byd.
Mae lliw ei fryntwaith yn cochi'r nant,
A Rahel yn wylo ar ôl ei phlant;
Ond mallu ni chawsant yn gyrff di-lun,—
Fe'u casglwyd i freichiau Mair bob un;
A diwedd Herod, a'i fyddin gref,
Fydd cwrdd â'r Mab Bychan sy'n fwy nag ef.