Cerrig y Rhyd/Breuddwyd Nadolig

Oddi ar Wicidestun
Hen Ferch Cerrig y Rhyd

gan Winnie Parry

Huw

BREUDDWYD NADOLIG.

YR oedd yn oer iawn. Crynnai Bobbie yn ei garpiau a rhwbiai y naill droed bach noeth ar draws y llall bob yn ail, ond nid oedd hynny yn ei gynhesu rhyw lawer. Disgleiriai y palmant gwlyb yng ngoleuni y lampau. Tarawodd cloc yn y tŵr wrth ymyl saith curiad. Ychydig iawn o bobl oedd eisieu matches heno meddyliai Bobbie ynddo ei hun. Un geiniog oedd ganddo yn ei feddiant, a phecyn bychan o flychau matches. Curai y gwlaw yn ddidor. “Nadolig gwlyb,” meddai pobl wrth eu gilydd, wrth brysuro i’w cartrefi. Feallai y troai y gwlaw yn eira cyn y bore, yr oedd mor hynod oer.

Diferai carpiau Bobbie yn aberoedd bychain o’i gwmpas, rhedai y dwfr o’i wallt dryslyd i lawr ei wyneb bach budr, ond yr oedd rhywbeth gwaeth na hynny,—cafodd fod ei nwyddau, er ei holl ofal yn ceisio eu cadw yn sych dan ei jecad garpiog, yn wlybion, ac yr oedd hynny yn golygu na fyddai iddo gael eu gwerthu; nid oedd pobl yn hoffi matches damp, fel y gwyddai Bobbie drwy brofiad.

Lle anifyr iawn oedd y byd yn nhyb Bobbie, ac feallai y buasai eraill yn meddwl yr un peth yn ei le. Y stryd oedd byd Bobbie. Yr oedd hanner dwsin o eiriau cyffredin iawn, syml iawn, na wyddai ddim am eu hystyr,—mam, tad, brawd, chwaer, cartref, cariad. Ni wyddai ef ddim am danynt. Nid oedd ganddo dad na mam, na brawd na chwaer, nid oedd iddo gartref, ac nid oedd neb yn y byd i gyd yn ei garu. Buasai llawer yn dweyd yn ei le mai anifyr iawn oedd y byd.

Dedwyddwch Bobbie oedd cael digon o geiniogau i dalu am gysgod allan o'r stryd, ac yn enwedig ar noson wlyb, oer; ond nid oedd yn debyg o gael hynny heno, a chymysgai ei ddagrau a'r dafnau gwlaw ar ei ruddiau teneu.

Tarawodd yr un cloc eto darawiad y chwarter, a thrôdd y bachgennyn bach carpiog ei lygaid yn y cyfeiriad. Yr ochr arall i’r stryd yr oedd eglwys, yn nhŵr yr hon yr oedd y cloc yr ydoedd wedi glywed yn taro. Disgleiriai goleu yn ei ffenestri. Yr oedd gwasanaeth nos cyn Nadolig yn cael ei gynnal ynddi. Ni wyddai Bobbie ddim am Nadolig, ac nid oedd erioed wedi bod mewn eglwys. Yr oedd y drws yn llydan agored, a gwibiodd Bobbie ar draws y stryd rhwng y bobl oedd yn myned a dod yn frysiog. Yr oedd yn edrych yn braf iawn tu fewn i'r eglwys. Edrychodd i fyny ac i lawr y palmant, nid oedd yr un plismon, dychryn bywyd Bobbie, yn y golwg yn unman. Nid oedd gobaith iddo gael gwerthu ei fatches wrth aros yn y stryd. Aeth yn nes at y drws, a rhoddodd ei ben i mewn. Ychydig o bobl oedd wedi dod ynghyd eto, yr oedd braidd yn gynnar, ac yr oeddynt a’u cefnau ato i gyd. Ond O mor gynnes oedd yr awyr! A mor braf oedd y goleu! Ac ni welodd Bobbie erioed le mor wych, yr oedd yn rhagori ar ffenestri y siopau yn fawr. Braidd heb ymwybod iddo ei hun, aeth yn ddistaw ac araf heibio bost y drws ac i mewn i sêt yn ymyl. Yr oedd un o’r colofnau yn gorffwys Wrth ymyl yr eisteddle yma, a chuddiwyd ffurf bychan y plentyn o olwg y rhai ddeuai i mewn.

Wrth swatio ar y glustog, teimlai Bobbie fod y byd dipyn bach llai anifyr, yr oedd llawer iawn cynhesach beth bynnag, pe buasai ganddo grystyn i'w gnoi ni fuasai raid cwyno. Pwysodd ei ben ar gefn y sêt, nid oedd yn cyrraedd at yr ymyl, a daeth rhyw gysgadrwydd drosto, ond aeth yn effro iawn pan ddechreuodd yr organydd chwareu yr anthem Nadolig, ac y dechreuodd y côr ganu. Yr oedd y naill beth yn rhyfeddach na'r llall i Bobbie, ond y peth mwyaf rhyfedd a mwyaf prydferth, y peth goreu glywodd ef erioed, oedd yr hyn ddywedai y gŵr oedd yn siarad. Adroddai am y doethion yn dilyn y seren, ac yn cael hyd i’r plentyn sanctaidd, yn cael hyd i’w Gwaredwr, ac yna desgrifiai y Gwaredwr yma mor fwyn, mor dyner, mor garedig ydoedd, a'r croesaw oedd yn roddi i’r rhai ddeuai ato, fel y cofleidiai hwynt, a’r fath gysur a gorffwysdra melus ddenai iddynt, wedi iddynt ei gael, ac y dygai hwynt i’w gartref, lle na byddai na phoen na thristwch, nag eisieu o unrhyw fath. Yr oedd eisieu llawer o bethau arnynt yn awr; yn y dreî fawr honno feallai fod amryw eisieu bara y nos Nadolig hwnnw, ond wedi cyrraedd ei gartref ef ni fyddai arnynt eisieu mwy. Nid oedd Bobbie yn deall y bregeth air am air, ond dyma un peth yr oedd yn brofiadol iawn ohono. Ar y terfyn erfyniai y gŵr arnynt ddilyn “Ei seren ef” hyd onis caffont ef. Yr oedd y Gwaredwr yma yn eu cymhell, bawb ohonynt, yr oedd yn eu gwahodd,— “Deuwch ataf fi bawb ar y sydd yn flinderog ac yn llwythog.” Rhoddodd Bobbie nod â'i ben yn frysiog. Dyma beth eto yr oedd yn ei ddeall, a phenderfynodd ddilyn y seren hyd nes y deuai o hyd i’r hwn y soniai y gŵr am dano. Ond pa le’r oedd y seren? Nid oedd yr un i'w gweled pan ddaeth i mewn o'r gwlaw. Petrusai Bobbie yn fawr hyd nes y gwelodd y bobl yn codi i fyned allan, ac yna rhedodd drwy y drws mewn eiliad o flaen yr un. Yr oedd wedi peidio gwlawio. Cododd Bobbie ei ben a syllodd ar yr awyr. Yr oedd yn glir a rhewllyd, dim cwmwl yn unman, a channoedd o ser yn disgleirio yno, ond yn union o’i flaen yr oedd un seren, a phenderfynodd ar unwaith mai honno oedd y seren,— “Ei seren ef.” Yr oedd mor fawr a gloew, ac yn tywynnu mor dyner ac esmwyth, yr oedd fel yn gwenu arno. Cychwynnodd Bobbie yn ei chyfeiriad. Aeth heibio siop fara, a daeth eisieu bwyd yn ol iddo. Trôdd at y drws ac aeth i mewn, a phrynnodd dorth fechan. Nid oedd angen cadw y geiniog i gael ychwaneg o fatches yfory. Ni fyddai arno eisieu bwyd byth wedi iddo ddod o hyd i’r dyn hwnnw, y Gwaredwr hwnnw, yr oedd newydd glywed sôn am dano. Cododd ei lygaid i edrych oedd y seren yno o hyd, ac wrth ei gweled aeth yn ei flaen yn galonnog dan gnoi ei dorth, a meddwl am y dyn hwnnw yr oedd y seren yn ei arwain ato. Yr oedd yn methu peidio synnu o hyd fod arno ei eisieu ef. Hyd yn hyn, ar ffordd pawb yr oedd wedi bod. Erlidid ef gan bob plismon welai, ac yr oedd pawb yn cilio oddiwrtho. Nid oedd ar neb ei eisieu; ond yr oedd hwn, y Gwaredwr yma, yn gofyn iddo ddod ato, yr oedd y gŵr hwnnw oedd yn siarad yn yr eglwys wedi dweyd hynny.

Cadwai Bobbie ei olwg ar y seren yn ddibaid, a cherddai yn yr un cyfeiriad. Yr oedd wedi myned ymhell iawn yr oedd yn meddwl. Yr oedd wedi gadael y dref erbyn hyn, ac yn cerdded ar hyd ffordd yn y wlad, ffordd rhwng dau glawdd du, heb dai o amgylch yn unman, dim ond yr awyr fawr lydan uwch ei ben a’r sêr fel llygaid gloew yn ei wylio, a’i gyfaill, y seren fawr, yn gwenu arno. Buasai ar Bobbie ofn, onibai am ei seren ef.

Yr oedd wedi troi i rewi; ac yr oedd carpiau gwlybion Bobbie yn caledu yn araf am dano, a’r ffordd yn myned yn wrymiau mawr o dan ei draed, ac yn boenus iawn i’w cherdded. Teimlai Bobbie yn bur flinedig, ac yr oedd ei galon yn dechreu gwanhau. Er ei fod yn dilyn y seren o hyd, nid oedd yn dyfod yn agosach ati o gwbl, nac yn gweled ei fod yn dod yn nes at y Gwaredwr. Wedi cerdded ychydig ymhellach, meddyliodd y buasai yn eistedd i orffwys wrth ochr y ffordd o dan y clawdd, ac y buasai yn gwylio y seren o hyd rhag ofn ei cholli, ac eisteddodd ar y ddaear oer, a’i lygaid yn gwylio y seren yn ddyfal. Ond er ei waetha cauodd ei amrantau, syrthiodd ei ben ar ei fynwes, a daeth cwsg ato. A thra yr oedd Bobbie yn cysgu o dan gysgod y clawdd, a’r seren fawr yn ei wylio ef yn awr, cafodd freuddwyd brydferth a rhyfedd.

Breuddwydiodd ei fod yn dilyn y seren o hyd, a’i bod o’r diwedd wedi ei arwain i ryw wlad decach nag oedd Bobbie erioed wedi dychmygu am dani. Ac yno gadawodd y seren ef, ond yn ei lle tywynnmai yr haul yn ddisglair, â chynhesai ei belydrau ei gorff bach oer. Ar y llawr yr oedd rhywbeth gwyrdd esmwyth, ac yr oedd ei gyffyrddiad yn lliniaru y doluriau ar ei draed. Yr oedd yno flodau hefyd na welodd eu tebyg yn holl ffenestri y siopau mawr yn y dref, ac yr oedd eu harogl yn felusach na dim wyddai am dano. Ond er mor deg oedd y wlad, ac er mor felus arogl y blodau, yr oedd Bobbie yn teimlo yn bur flinedig, ac hiraethai am ddod o hyd i'r dyn hwnnw oedd ei eisieu. Yr oedd llawer o bobl yn ei gyfarfod, a golwg hardd arnynt oll. A phenderfynodd Bobbie holi un ohonynt, harddach na neb welodd erioed, a hwnnw oedd y Gwaredwr. A chymerodd Bobbie yn ei freichiau, a rhoddodd y pen bach lluddedig i orffwys ar ei fynwes, ac o dan y cyffyrddiad sanctaidd, ciliodd gofidiau Bobbie yn llwyr; iachawyd ei holl ddoluriau; ac wrth syllu yn y gwvneb tyner bendigedig yr oedd Bobbie yn berffaith ddedwydd, a phob eisieu ei galon bach newynog wedi ei ddigoni.

Ond diangodd yr oll, a deffrôdd o dan y clawdd ar ochr y ffordd yn y tywyllwch mawr. Trodd ei lygaid i edrych am y seren, ond yr oedd honno hefyd wedi diflannu fel y breuddwyd dedwydd. Yr oedd cawod o eira yn disgyn yn ysgafn. Nid oedd diben myned yn ei flaen ymhellach, ni allai byth gael hyd i’r wlad dêg a’r gŵr a’r dwylaw tyner, a’r gwyneb addfwyn, heb y seren, ac yr oedd honno wedi diflannu. Arhosai yno, feallai y deuai i’r golwg eto yn y man. Nid oedd yr eira mor oer ag arfer, chwaith, a chauodd Bobbie ei lygaid drachefn, a syrthiodd hun fwy dwfn ano.

Aeth oriau y nos heibio yn araf, a pheidiodd yr eira a disgyn. Yn y dwyrain torrodd y Wawr yn dyner oleu, ac yr oedd yn ddydd Nadolig. Tywynnai heulwen felen wannaidd ar ruddiau Bobbie. Daeth robin goch a siglodd ei hun ar frigyn yn y clawdd du uwch ei ben. Gwnai ryw swm bach fel yn ceisio canu, ond yr oedd yr eira a’r oerni yn ei ddigalonni, a siglai ar y brigyn a’i ben yn ei blu. Ymhen eiliad aeth y frongoch yn fwy hyf; lledodd ei adenydd bychain, a disgynnodd ar law oer y plentyn, a dechreuodd ei esgus gân drachefn. Ond nid oedd galwad y frongoch, na chusan esmwyth yr haul oedd yn araf doddi yr eira hyd ei wallt, yn gallu deffro y cysgadwr bach carpiog. Yr oedd breuddwyd Bobbie wedi dod yn wir. Nid oedd ei fyd yn anifyr mwy.

Nodiadau[golygu]