Chwalfa/Y Flwyddyn Gyntaf Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Y Flwyddyn Gyntaf Pennod I Chwalfa

gan T Rowland Hughes

Y Flwyddyn Gyntaf Pennod III

PENNOD II

YR oedd tyrfa fawr, yn wyr a gwragedd a phlant, tu allan i'r Neuadd, a chadwai rhyw ddwsin o blismyn olwg warcheidiol arnynt. Gan na ddaliai'r Neuadd ond rhyw bum cant ar y gorau, dim ond chwarelwyr a gâi fynd i mewn i'r cyfarfod.

Ymwthiodd Edward Ifans ac Idris a Dic Bugail ymlaen cyn belled ag y gallent, ond bodlonodd Llew ar sefyll wrth y drws. Yr oedd y lle'n orlawn, ac eisteddai dynion ifainc ar fin y ffenestri ac ar ochrau'r llwyfan ac ar y llwybr a redai drwy ganol y Neuadd. Safai plisman bob rhyw deirllath wrth y mur, y ddwy ochr i'r adeilad.

"Rhwbath wedi digwydd?" sibrydodd Llew yng nghlust yr hen ŵr a eisteddai ar ymyl y sedd olaf.

Ond ni chymerodd hwnnw yr un sylw, dim ond dal i syllu tua'r llwyfan, lle'r oedd y Llywydd wrthi'n annerch y dorf.

"Rhwbath wedi digwydd?" sibrydodd drachefn, dipyn yn uwch.

Troes yr hen Ishmael Jones ei ben y tro hwn a nodiodd yn garedig.

"Na, dim o bwys eto," sibrydodd dyn gerllaw. "Newydd ddechra' maen' nhw . . . Mae'r hen Ishmael mor fyddar â phost," chwanegodd, gan wenu.

Yr ydan ni yn yr anialwch bellach ers wyth mis," meddai'r Cadeirydd, chwarelwr dwys a phwyllog a swniai fel petai'n dweud gair o brofiad yn y Seiat yn hytrach nag yn annerch tyrfa o streicwyr. Ond yr oedd Robert Williams yn fawr ei barch ymhlith y gweithwyr, ac yn un o'u harweinwyr mewn streic o'r blaen. Gwrandawai pawb yn astud arno.

"Y mae'r Aifft ymhell tu ôl inni," aeth ymlaen, "ac yr ydan ni'n benderfynol o gerddad yn ffyddiog tua Chanaan. Os bydd angen, mi fyddwn yn yr anialwch am wyth mis arall."

"Am wyth mlynadd," gwaeddodd llais gwyllt yng nghanol y Neuadd."

"Wel," meddai Robert Williams, wedi i'r gymeradwyaeth dawelu, "fe fu'r hen genedl yno am ddeugian mlynadd, ond do?" Ymledodd chwerthin drwy'r lle, a nodiodd amryw yn edmygus ar ei gilydd, gan gofio mor ffraeth y gallai Robert Williams fod ar adegau.

"Yr ydw' i wedi bod yn yr anialwch deirgwaith o'r blaen, ond yr oedd pawb y tri thro hynny yn cerddad hefo'i gilydd, yn unol a dewr a phenderfynol. Ond y tro yma mae 'na lo aur wedi'i godi, ac mae rhyw dri chant o'n cyfeillion ni..." "Cyfeillion?" llefodd amryw. "Gelynion! Bradwyr! Gwehilion! Sgym!"

"Mi wela' nad ydach chi ddim yn hoff ohonyn' nhw," sylwodd y Cadeirydd. "Wel, wir, mae hi'n o anodd caru'n gelynion weithia'. Yr ydw' i bron â chyrraedd oedran yr addewid, ond mi liciwn i fod wedi mynd o'r hen fyd 'ma cyn dydd Mawrth dwytha'. Dyna'r dwrnod mwya' trist yn fy hanas i—ac yn hanas Llechfaen. Ac un o'r dyddia' trista' yn hanas Cymru, am wn i. 'Wnes i ddim credu bod y peth yn bosib', nes imi 'i weld o â'm llygaid fy hunan. Mi fùm i bron â thorri fy nghalon."

Rhedodd murmur o gydymdeimlad drwy'r lle. Cofiai pawb mor ddoeth a phenderfynol y buasai Robert Williams fel Llywydd eu Pwyllgor : cofient hefyd iddo golli'i waith am fisoedd ar ôl y streic olaf ac i'r holl weithwyr fygwth rhoi'u harfau i lawr oni châi ddychwelyd i'w hen le.

"Pan glywis i, rai misoedd yn ôl, fod y Swyddfa'n gwahodd enwa' dynion i ailddechra' yn y chwaral," meddai, " 'wnes i ddim ond chwerthin. Yr oedd hynny wedi digwydd o'r blaen, a dim ond ambell walch diegwyddor wedi cymryd sylw o'r peth. Wedyn mi glywis si fod 'na gannoedd o ddynion felly yn Llechfaen. Dal i chwerthin ynof fy hun yr oeddwn i. 'Roedd y si yn debyg iawn i'r stori honno am hogyn yn rhedag i'r tŷ at 'i fam. Mam!' gwaeddodd, Mae 'na gannoedd o gathod yn y cefn.' 'Cannoedd?' medda' hitha'. Paid â stwnsian, hogyn.' 'Wel,' medda'r hogyn, yn edrach allan drwy'r ffenast', 'mae 'na gath rhywun heblaw ein cath ni." " Chwarddodd pawb, ond safai Robert Williams ar y llwyfan heb wên ar ei wyneb, fel petai'n synnu iddo ddweud rhywbeth digrif.

Ond dydd Mawrth dwytha'," aeth ymlaen, " pan agorwyd y chwaral i'r rhai oedd yn barod i fradychu'u cydweithwyr, yr oedd dagra' yn fy llygaid i wrth imi wrando, ben bora, ar sŵn 'sgidia' hoelion-mawr ar y ffordd. Breuddwyd ydi'r peth,' meddwn i wrthyf fy hun, 'rhyw hunlla' y bydda' i'n deffro ohono fo mewn munud.' Mi godis at y ffenast', ac mi—welwn yr on i'n mynd i ddeud mi welwn ddynion,' ond fe fasa'r gair yn colli'i ystyr am byth pe bawn i'n 'i ddefnyddio fo amdanyn' nhw—mi welwn rai ar ffurf dynion yn brysio tua'r chwaral. 'Roedd sŵn 'u traed nhw ar y ffordd fel morthwylion y Fall yn curo hoelion i arch pob egwyddor, pob onestrwydd, pob tegwch, pob anrhydedd. Mi es i'n hen hen ddyn mewn ychydig eiliada', yno wrth y ffenast' a'r bora'n llwyd ac oer tu allan." Yr oedd Robert Williams ar fin dagrau, ond fe ymsythodd yn sydyn, gan edrych o amgylch y gynulleidfa. "Chi ddynion ifanc," meddai, "peidiwch â gadael i hyn wneud i chi golli ffydd yn eich cyd—ddynion. Mae 'na ryw dri chant o Fradwyr, rhai sy wedi pardduo'u cartrefi a'u hardal ac enw da chwarelwyr Cymru, rhai y mae'u hanwyliaid yn yr hen fynwant acw yn trio codi o'u bedda' i'w ffieiddio nhw. Ond y mae 'na saith waith hynny o wyr sy'n sefyll yn gadarn ac eofn a diwyro, yn barod i aberthu a dioddef i'r eithaf er mwyn . . . Er mwyn beth, hogia'? Er mwyn cyfiawnder a chwarae—teg. Er mwyn yr hen a'r gwan yn eu plith. Er mwyn lladd annhegwch a thrais a gormes. Ac er mwyn y dyfodol. 'Ydach chi'n benderfynol o sefyll hefo nhw?"

"Ydan!" gwaeddodd lleisiau chwyrn o bob rhan o'r Neuadd.

"Nes dwyn barn i fuddugoliaeth?"

"Ydan! I'r diwadd un!"

"Costied a gostio?"

"Costied a gostio! "

"Mi soniais i am gathod yn y cefn," sylwodd Robert Williams. "Mae i gath dair o nodweddion, wchi. Yn y lle cynta', y mae hi'n ffals. Yn yr ail le, y mae hi'n wan—felcath! Yn y trydydd lle, y mae ganddi hi gynffon . . ."

Derbyniwyd y sylwadau â chymeradwyaeth a chwerthin uchel, a gwelai Llew fod yr hen Ishmael Jones wrth ei ochr yn mwynhau'r digrifwch cystal â neb, er na chlywsai ef air o'r ffraethineb.

Gorffennodd y Cadeirydd ei araith ar nodyn dwys.

"Yr ydw' i'n caru'r hen ardal 'ma," meddai, "'i phobol, 'i phentrefi, 'i llechwedda', 'i mynyddoedd, 'i holl hanas hi. Mae hi wedi magu dynion o gymeriad ac egwyddor, gwŷr cadarn fel y graig. Fel y soniodd ein Haelod Seneddol yn y tŷ Cyffredin rai misoedd yn ôl, mae cryfder a sobrwydd yr hen fynyddoedd wedi mynd yn rhan o'n natur ni. Mae yma ddwsin o gapeli yn dystion i'n diddordeb ni mewn crefydd ; mae'n plant ni'n cael cyfla i ddringo drwy'r Ysgol Sir i'r Coleg. Dwy fil o bunna', o'u henillion prin, a roes chwarelwyr Llechfaen at godi'r Coleg ar lan Menai. Y mae gennym ni orffennol i fod yn falch ohono—stori ymdrech ac aberth ac onestrwydd a charedigrwydd. Ddynion! Mae'r dyfodol yn eich dwylo chi. Fe gododd gwarth ei ben yn ein hardal, anfri nad anghofir mono am flynyddoedd meithion, ond os sefwch chi i gyd yn gadarn—er eich mwyn eich hunain, er mwyn eich plant, er mwyn y cannoedd sydd wedi mynd ym— aith i weithio dros dro—yna fe gilia'r cwmwl hwn a chlywir sŵn traed sionc a hapus yn fiwsig ar hen lôn y chwaral unwaith eto."

Cafodd yr araith gymeradwyaeth frwd, ac eisteddodd Robert Williams ennyd nes i'r curo dwylo ddistewi. Yna cododd drachefn i gyflwyno "J.H.", Ysgrifennydd y Pwyllgor.

"Does dim angen imi ofyn i chi roi derbyniad gwresog iddo," meddai.

"Na, nid oedd angen yr oedd sŵn y curo dwylo a stamp y traed yn ysgwyd y lle. Ni chawsai hyd yn oed William Jones, eu Haelod Seneddol huawdl a hoffus, well derbyniad. Hwn—"J.H. " i bawb—oedd eu harwr, eu hareithiwr tanbaid, eu hymresymwr medrus, eu harweinydd penderfynol. Aethai sôn am hwn drwy'r holl wlad, yn y streic o'r blaen ac yn yr helynt hwn. Safai yn awr wrth ochr y bwrdd ar y llwyfan, a dalennau o bapur yn ei law, a chudyn o'i wallt brith yn llithro i lawr tros ei dalcen. Taflodd y cudyn yn ôl â'i law, fel y gwnâi bob amser cyn dechrau llefaru, a chododd ei lygaid oddi ar y dalennau i wenu'n dawel arnynt. Ffrydiai llif o heulwen olaf yr hwyr o'r ffenestr ar draws y llwyfan, ac edrychai'i wyneb tenau, llwyd, uwchlaw iddo yn welw iawn, ond ni wnâi hynny ond rhoi disgleirdeb mwy i'w lygaid byw, eiddgar.

"Mr. Cadeirydd a Chydweithwyr oll." Yr oedd ei lais er yn dawel yn cyrraedd pob cwr o'r Neuadd. "Mi glywais i rywun yn galw dydd Mawrth dwytha' yn 'Ddydd Barn Llechfaen.' Fel y cadeirydd, rhyw chwerthin ynof fy hun yr oeddwn inna', ond fel y nesâi'r dydd, 'doeddwn i ddim mor sicr. 'Roedd 'na ddynion—yr ydw' i'n rhoi'r enw hwnnw iddyn' nhw am y tro—yn methu ag edrych yn fy llygaid i ac yn f'osgoi i ar y stryd. A phan glywis i fod rhai ohonyn' nhw'n cludo'u harfau'n llechwraidd, yn y nos, yn ôl i'r chwaral, yr oeddwn i'n ofni'r gwaetha'. Wel, yn y nos y mae pob Jwdas yn gwneud 'i waith, onid e?"

"Ia, 'nen' Tad, J.H.," meddai hen frawd dwys yn un o'r seddau blaen, a thorrodd ystorm o gymeradwyaeth drwy'r Neuadd.

"Fe dderbyniodd y gweithwyr hyn "—arhosodd "J.H." ennyd o flaen y gair "gweithwyr" a llefarodd ef â gwên fingam—"bunt y pen am ddychwelyd i'r chwarel . . ."

"'Punt-y-gynffon,' J.H.! "llefodd amryw, a nodiodd yntau.

"Ia, punt-y-gynffon.' Mae'r enw yn un go hen, ond ydi? Mewn ambell chwarel fe roed 'punt-y-gynffon' hefo'u cyflog i'r rhai oedd wedi fôtio i'r Tori. Bradychu'u hegwyddorion yr oedd y rheini. Bradychu'u hegwyddorion a'u cydweithwyr hefyd ydi braint y rhain . . . 'Wyddoch chi faint ydi punt?

Ugain darn o arian. Mae pris yr hen Jwdas wedi mynd i lawr dipyn, ond ydi?"

"Diar annwl, ydi," meddai'r un hen frawd, gan swnio fel petai'n porthi yn y Seiat. Ac unwaith eto yr oedd y gymeradwyaeth yn uchel.

"Erbyn hyn fe aeth Dydd y Farn heibio, ac fe benderfynodd tua thri chant o gynffonwyr ddewis y ffordd sy'n arwain i ddistryw. A heno cyn imi ddŵad i'r cwarfod 'ma mi ddarllenais Gywydd y Farn gan yr hen Oronwy. Dyma, yn ôl y bardd, fel y mae'r Gwaredwr yn siarad â'r ' euog, bradog eu bron,'—

'Hwt! gwydlawn felltigeidlu
I uffern ddofn a'i ffwrn ddu,
Lle Ddiawl a llu o'i ddeiliaid,
Lle dihoen a phoen na phaid.
Ni chewch ddiben o'ch penyd:
Diffaith a fu'ch gwaith i gyd.'

A diffaith fu gwaith y Bradwyr hyn, bob un ohonyn' nhw, beth bynnag yw'r esgusion y mae rhai ohonyn' nhw'n ceisio'u gwneud. 'Does dim geiria' a fedar esgusodi brad."

Brathai "J.H." y frawddeg olaf, a gwyddai pob un yn y Neuadd nad oedd dim yn fwy atgas i'w enaid na dichell. Ymresymwr oedd ef, a'i feddwl clir a chyflym heb gysgod o ffuantwch ynddo. Gwelai egwyddor fel y gwelai rhywun arall ffordd neu lwybr, a gwyddai'n union i b'le'r arweiniai. Byddai'n amhosibl iddo ef gerdded y ffordd a throi'n llechwraidd ohoni i gyfeiriad arall; iddo ef, nid oedd llwybr a droai ymaith i ddeau nac aswy, dim ond y frwydr â'r per- yglon a'r rhwystrau o'i flaen. A chymerai'i natur onest a ffyddiog yn ganiataol fod pob meddwl arall yr un fath. Syfrdanwyd ef gan ymddygiad y Bradwyr.

Yr ydw' i'n gweld bod rhai o gyfeillion y Wasg yma heno," sylwodd, wedi i'r curo-dwylo dawelu," ac mae'n dda gennym ni 'u gweld nhw. Fe ymddangosodd ambell adroddiad pur anghywir mewn rhai papura'n ddiweddar, ac felly yr ydan ni'n dal ar y cyfla hwn i roi'n hachos yn glir a syml o flaen y cyhoedd unwaith eto."

Astudiodd ei nodiadau'n ofalus cyn mynd ymlaen, ac yna siaradodd yn dawel a phwyllog, fel cyfreithiwr yn mesur a phwyso pob gair, heb gyffro yn ei lais.

"I ddeall yr anghydfod presennol, y mae'n rhaid i chi fynd yn ôl i'r ysgarmes a fu bedair blynedd yn ôl. Yn y streic honno, a barhaodd am flwyddyn bron, y mae gwreiddia'r helynt yma. Fe gasglodd y Pwyllgor, fel y cofiwch chi, fan- ylion am y cwynion ymhlith y gweithwyr, a chyflwynwyd y manylion hynny i sylw'r awdurdoda'. Yr oedd paratoi'r ysgrifa' wedi costio wythnosa' o waith llwyr ac araf i'r is- bwyllgora', a cheisiodd y Pwyllgor Mawr ofalu bod pob ffaith a ffigur a dyddiad yn gywir, fod seilia' cadarn i bob cwyn. Cyflwynwyd y papura' i'r oruchwyliaeth yn nechra' Hydref, gan ofyn iddyn' nhw gymryd chwe mis i edrych i mewn i'r cwynion ac i wella petha' yn y chwarel. Os na wneid hynny, bwriadai'r dynion fynd ar streic yn nechra' Mawrth. Gwydd- och be' fu'r ateb i'r cais hwnnw. Ateb cyflym, cynnil, cwta. Derbyniodd pob aelod o'r Pwyllgor, ac eraill a fu'n cynorthwyo i gasglu'r ffeithia', nodyn i'w hysbysu na fyddai mo'u hangen mwyach yn y chwarel. A bu ateb y gweithwyr, yn agos i dair mil ohonyn' nhw, yn un llawn mor benderfynol. Cludodd pob un 'i arfa' o'r chwarel..."

"Pob un?"

"Beth am y bradwyr?."

"Y cynffonwyr?"

"Y cathod?"

Torrodd hwtiadau yn gymysg â'r lleisiau chwerwon, a chododd "J.H. " ei law, gan nodio'n ddeallgar.

"Pob un ag asgwrn cefn ganddo," cywirodd yn dawel.

"Bu rhai, ond ychydig iawn, yn gweithio am rai wythnosa'.."

"Gweithio? Cynffonna!"

"Llyfu llaw!"

"Llyfu 'sgidia'!"

"Ychydig oedd 'u nifer nhw," aeth y siaradwr ymlaen.

"Fe safodd pawb arall yn unol a chadarn tu ôl i'r Pwyllgor, a buan y torrodd y bradwyr 'u calon. Dywedai'r awdurdoda' nad oedd gennym ni hawl i bwyllgor, ei fod yn ymyrryd â rheolaeth y chwarel, ac nad oedd yn ein cynrychioli ni fel chwarelwyr. Anodd gwybod ym mh'le y ceir pwyllgor yn cynrychioli corff o weithwyr yn well. Yr oedd pob rhan o'r gwaith a phob dosbarth o'r gweithwyr wedi ethol aeloda' arno. Ac ynglŷn ag ymyrryd â rheolaeth y chwarel, sut yn y byd yr oedd cyflwyno achosion gweithwyr diwyd ac onest, a fethai'n lân â chadw'u plant rhag angen, yn ein gwneud ni'n cuog o hynny? Nid oedd angen pwyllgor arnom, meddai'r awdurdoda', gan fod gan bob gweithiwr hawl a ffordd i fynd â'i gŵyn yn syth at y swyddogion. Dywedem ninna' fod achos gweithiwr unigol a oedd yn dioddef cam yn achos i'r lliaws, i bob un ohonom."

Pwysleisiodd y pedwar gair olaf, gan godi'i lais yn herfeiddiol, a tharan o gymeradwyaeth oedd ateb y gynulleidfa. "'Wnaiff o ddim drwg imi ddarllen y penderfyniad a dynnwyd allan gennym yr amser hwnnw, ar ddechra'r streic honno. Dyma fo: Gofynnwn hawl llafurwyr i gyduno â'i gilydd i weithredu drwy bwyllgor a dirprwyaeth er sicrhau ein hawliau teg a rhesymol, a hyderwn y bydd i holl feibion llafur drwy'r wlad sefyll y tu cefn inni yn ein brwydr dros yr egwyddor hon.' Dadl yr awdurdoda' oedd bod gan bob gweithiwr ryddid i ddwyn cwynion o flaen ei Stiward. . ."

Torrodd chwerthin ysgornllyd a hwtiadau drwy'r Neuadd. "Ac yna, os byddai angen, at y Stiward Gosod..." Aeth yr ysgorn yn floddest o chwerthin a bloeddio, ac fel y tawelai'r cynnwrf, clywai Llew a phawb arall lais Dic Bugail yn dynwared acenion main, defosiynol Mr. Price-Hymphreys, y Stiward Gosod.

"Wel . . . y . . . wel, wir . . . wel, yn wir yn wir i chi, frawd annwyl... y yr ydw' i'n un hawdd iawn i . . . y . . . ddŵad ato fo i . . . y . . . ddweud eich cwyn, ond ydw' i frawd annwyl?"

Yr oedd y dynwarediad yn un perffaith, a gallai pawb yn y lle ddychmygu clywed gwefusau tenau, creulon, y swyddog hwnnw'n llefaru'r geiriau.

"A phan fethai hynny à bodloni'r gweithiwr," aeth "J.H." ymlaen, " yr oedd ganddo hawl i fynd â'i gŵyn ymhellach, at y prif awdurdoda'. Yr oedd y ffordd yn agored o'i flaen, heb rwystr na thramgwydd o fath yn y byd."

"A'r ffordd ar 'i ben o'r chwaral wedyn !" gwaeddodd rhywun.

"Yr ydw' i wedi manylu ar y pwnc hwn," sylwodd y siar- adwr, am 'i fod o wrth wraidd yr helynt presennol. Wedi un mis ar ddeg o streic fe aethom yn ôl i'r chwarel yn hapus bedair blynedd yn ôl. Ac un o'r telera' newydd oedd bod gan y gweithwyr hawl i ethol dirprwyaeth yn y modd y barna'r dynion yn briodol.' I ni, wrth gwrs, drwy bwyllgor oedd hynny, a theimlem wrth droi'n ôl i'n gwaith inni ennill rhywbeth a fu'n werth ymladd trosto cyhyd. Pwnc arall llosg oedd cwest- iwn y Contractors . . .

Torrwyd ar ei draws yn awr gan chwerthin chwerw a hwtiadau uchel: caseid pob contractor yn y chwarel â chas perffaith.

"Ein dymuniad ni oedd i'r drefn honno gael ei difodi'n llwyr, oherwydd yr annhegwch a'r gorthrwm a achosid drwy- ddí. Odani hi rhoddid darnau o'r chwarel, yn aml ponc gyfan, i gontractor i'w gweithio yn y ffordd a dybiai ef orau. Pwy oedd y dynion a gâi'r ffafr hon a'r anrhydedd hwn? . . ."

"Cynffonwyr ! Tacla' diegwyddor! Slêf-dreifars!"

"Wel, nid chwarelwyr medrus a phrofiadol, y mae hynny'n sicir! O na, yr oedd chwarelwyr medrus o phrofiadol, dynion galluoca'r gwaith, gwŷr wedi rhoi'u blynyddoedd gora' yn llwyr a chydwybodol i naddu'r graig yn ddoeth a diwyd, yn gorfod chwysu o dan ryw labrwr o gontractor. A chwysu oedd y gair, fel y gwn i o brofiad!"

Aeth murmur dig drwy'r lle, a chaeai ugeiniau eu dannedd yn chwyrn. Brysiodd "J.H." ymlaen a'i araith gan iddo weled rhai o'r plismyn yn anesmwytho.

"Wel, cawsom addewid y byddai pob contract o hynny ymlaen yn cael ei gyfartaledd teg o gyflog. O, yr oeddan ni'n dyrfa hapus yn dychwelyd i'r gwaith ar ddiwedd y streic ddwytha'. Credem inni ennill Siarter rhyddid i chwarelwyr Cymru. Nid oedd rhestr ddu i fod, dim dial, dim cosb, dim un merthyr, ond pawb i fynd yn ôl i'w hen fargen neu wal, lle'r oedd hynny'n bosibl. Wedi un mis ar ddeg o ymladd ac aberthu, yr oeddan ni'n cychwyn ar gyfnod newydd . . ."

Chwarddodd rhywun yn sarrug yng nghefn y Neuadd ac ymledodd y chwerthin hwnnw drwy'r dorf, ambell un, o fwriad, yn swnio'n orffwyll. Cododd "J.H." ei law am osteg.

"A gadwyd at y cytundeb?"

"Cadw? Naddo!" bloeddiodd amryw.

"Fe fu raid i rai o arweinwyr y streic honno adael y chwarel cyn hir, heb reswm, heb eglurhad o gwbl. Yr oeddwn i'n siarad ag un o'r merthyron hynny cyn imi ddŵad i'r cyfarfod 'ma heno. 'Roedd o'n un o'r ddirprwyaeth a fu'n llunio'r telera' newydd mewn yngynghoriad â'r awdurdoda', hen chwarelwr wedi rhoi ocs o lafur caled a chydwybodol i'r gwaith. Fe ddaeth swyddog ato fo un bora ymhen misoedd ar ôl yr helynt a dweud nad oedd angen ei wasanaeth mwyach. Dim angen ei wasanaeth? Edrychodd yr hen was yn ffwndrus ar y Stiward. Yr ydych i gludo'ch arfa' o'r chwarel, meddai hwnnw. Ond pam? Pam?' gofynnodd y chwarelwr. 'Does gen' i ddim amser i ddadla'," oedd yr ateb. Dyna'r gorchymyn gefais i i'w roi i chi.' Yr oeddwn i'n gweithio yn ymyl y gorthrymedig ar y pryd ac yn digwydd bod yn gyfaill mawr iddo. Gwyddwn hefyd fod ei wraig yn wael iawn a bod y teulu, wedi aberthu i roi addysg i'w plant, yn bur dlawd. Mi es yn syth i'r Swyddfa i holi beth oedd ystyr yr anfadwaith hwn. Fe rewodd pawb yno, a chefais fy nghynghori i feindio fy musnes fy hun. Mi aethom â'r peth ymhellach, at y Prif Oruchwyliwr ei hun, a'r ateb ymhen hir a hwyr oedd nodyn swta yn cadarnhau'r dyfarniad, heb affliw o eglurhad . . ."

"Cywilydd! Gormes! Gorthrwm !"

"Ia, cywilydd, gormes, gorthrwm. Un enghraifft oedd honno. Os oes rhai ohonoch chi, hogia'r Wasg, yn amheus eich meddwl, mynnwch air hefo'r hen chwarelwr hwnnw. Fe'i cewch yn ennill 'i damaid drwy dorri metlin ar fin y ffordd wrth Bont-y-Graig. A hyd heddiw 'ŵyr o ddim pam y bu raid iddo adael y chwarel . . ."

"Fe wyddom ni!"

"O, gwyddom!"

"Pam na fasan' nhw'n rhoi'r peth ar bapur?"

Cododd "J.H." ei law eto: gwelai rai o'r plismyn yn ymsythu'n wyliadwrus.

Aeth tair blynedd anniddig heibio. Yr oedd y telera' newydd ar bapur, ond rhaid oedd wrth lygaid go graff i'w canfod nhw mewn gweithrediad yn y chwarel . . . "

"Chwyddwydr, J.H.!"

"'Roeddan' nhw fel cath ddu yn y nos! "

"A honno ddim yno!"

"Ni roddwyd inni hawl i ymuno-ni châi aelodau o'r Pwyllgor gyfarfod mewn wal na chaban hyd yn oed ar awr ginio-nid oedd gennym ffordd i gyflwyno'n cwynion, ni chafodd y gweithwyr oll ddychwelyd at eu gwaith, ni roddwyd inni sicrwydd cyflog, ac am sistem y contracts, fe adnewyddodd y felltith honno ei nerth drwy'r chwarel. Y syndod ydi na ffrwydrodd petha' ddim ymhell cyn mis Hydref dwytha'. 'Wna' i ddim adrodd y stori honno yma heno. Mae hi'n hen stori erbyn hyn ac wedi'i defnyddio ddwsina' o weithia' i'n pardduo ni fel chwarelwyr. 'Dydan ni ddim yn cyfiawnhau'r hyn a ddigwyddodd, ac fe wnaeth rhai ohonom ni 'n gora' i atal y llif. Ond yr oedd y teimlada' chwerwon wedi cronni cyhyd nes bod yn rhaid iddyn' nhw dorri allan yn hwyr neu'n hwyrach. Fe gododd y gwaith bron fel un dyn yn erbyn cyfaill o gontractor.

"Cyfaill! Y nefoedd fawr!"

"Ae fe'i harweiniwyd o'n dawel ac urddasol o'r gwaith . . . Chwarddodd pawb. Yr oedd lle gwyllt yn y chwarel y diwrnod hwnnw, ac yn garpiog ac archolledig yr hebryngwyd y Contractor o'r gwaith tua'i gartref.

"Diwedd yr wythnos honno fe aeth un ohonoch chi, wŷr y Wasg, am sgwrs â chontractor arall, ac fe roes o'r bai i gyd ar rai o loafers y chwarel . . . "

"Fe gafodd o loafer!"

"Do, lôffio yn 'i wely am fis!"

"A'r un diwrnod," aeth "J.H. " ymlaen, wedi i'r dorf dawelu, "fe roed yr un driniaeth i swyddog arall nad oedd neb yn hoff iawn ohono."

"Diar annwl," gwaeddodd rhywun, "'roeddan ni'n ffrindia' calon, J.H.!"

"'Roedd o'n dwad acw i de bob Sul!" llefodd un arall. "Fe ddihangodd o i'r mynydd i guddio," meddai'r siaradwr pan ddarfu'r chwerthin, "ond buan . . .

"Yr euog a red!"

""Fuo fo ddim yno'n hir!"

"Ond buan y daethpwyd o hyd iddo ac y cafodd o'r fraint o gerdded mewn gorymdaith fawr o'r chwarel i'r pentref. Wedyn fe aed i chwilio am ddau swyddog arall, ond yr oedd- an' nhw . . . "

"I fyny'r simdda! ”

'Roeddan' nhw yn-anweledig, ac fe fuon' nhw'n ddigon doeth i adael yr ardal yn nhwllwch y nos. A'r diwrnod wedyn fe adawodd y contractors eraill y chwarel, wedi'u rhybuddio mai hynny oedd ora' iddyn' nhw. Fe dawelodd petha' ar unwaith, ond er hynny fe ddygwyd rhyw dri chant o filwyr i lawr i'r dre . . .

"Cywilydd!"

"Gwarth!"

"Ia. 'Doedd mo'u hangen. Fe gaewyd y chwarel am bythefnos, ac er 'u bod nhw'n segur a bod rhai o'u brodyr yn aros 'u praw o flaen yr Ynadon, bu ymddygiad y dynion yn dawel a sobr, yn esiampl o bwyll ac amynedd. Ni fu un terfysg, er i'r milwyr erbyn hynny ddod i fyny i Lechfaen i gadw trefn lle nad oedd anhrefn o fath yn y byd. Wedyn fe ailagorwyd y chwarel. Dim ond rhanna' ohoni a agorwyd, ac yr oedd rhai cannoedd o ddynion yn loetran o gwmpas y gwaith yn aros . . . I beth? I'r rhanna' eraill gael'u gosod dan gontract. Yr oedd oes aur y contractors a oedd wedi'u gyrru o'r chwarel ar dorri! Ac yna fe ddaeth y rhybudd celwyddog . . .

Torrodd cynnwrf drwy'r ddyrnau dig.

"Anwiradd noeth!"

Cythral o gelwydd!"

Neuadd. Chwifiai ugeiniau

"Yr oedd pawb i gludo'u harfa' o'r chwarel oherwydd y terfysg a'r bygythion a fu yno'r diwrnod hwnnw! Ia, anwiredd noeth oedd y cyhuddiad hwn. Nid oedd rhithyn o sail iddo. Er gwaethaf y cynllun i osod rhan fawr o'r gwaith dan gontracts, ni chodwyd llais, ni fu bygythiad, ni thaflwyd amarch at y swyddogion."

Edrychai "J.H." i gyfeiriad gwŷr y Wasg, â her yn ei lygaid ac yn ei lais: cyhoeddasai un neu ddau o bapurau newydd adroddiadau go wahanol ar y pwnc hwn.

"Wel, fe aeth yn agos i wyth mis heibio er yr amser hwnnw ac y mae cannoedd o'n cydweithwyr ni wedi'u gwasgaru drwy Loegr a Chymru . . . Yn nechrau Chwefror y clywsom ni si fod rhai wedi ysgrifennu at y Prif Oruchwyliwr i gynnig mynd yn ôl i'r chwarel . . ."

"Y bradwyr! "

"Y coesa' duon!" "Y twyllwyr!"

"Y diawliaid!

"Yr oedd rhai ohonyn' nhw," meddai'r siaradwr, "yn mynd o gwmpas i gasglu enwa'. Ugeinia', yna cannoedd, yna miloedd o gathod yn y cefn-dyna a glywem ni fel yr âi'r wythnosa' heibio, a buom ninnau'n ddigon ffôl i daflu'n pennau'n ôl a chwerthin ynom ein hunain. Ond dydd Mawrth dwytha', pan agorwyd y chwarel, gwelem fod y si am yr ugeinia' a'r cannoedd yn wir, yn ffaith waradwyddus, yn ystaen nad anghofir moni am y rhawg, yma yn ardal Llech- faen."

Llefarai "J.H." y frawddeg olaf rhwng ei ddannedd, gan edrych yn llym o amgylch y Neuadd. Aeth murmur chwyrn, rhyfelgar, drwy'r lle, ac ohono, fel tonnau o ferw môr, cododd bloeddiadau ffyrnig, penderfynol. Petai un Bradwr yn agos, byddai'r dorf honno wedi'i larpio.

"Ardal Llechfaen' a ddywedais i. Y mae rhyw dri chant o Fradwyr, ond o bentref Llechfaen, y mwyaf poblog yn y cylch, dim ond rhyw hanner cant. Efallai fod hynny'n arwyddocaol, gyfeillion. Efallai ei bod hi'n haws dylanwadu ar ddynion mewn pentrefi llai, a gwyddom mor ddygn a chyfrwys yw'r dylanwadau sy'n gweithio mewn rhai lleoedd. Nid hawdd fydd gwrthwynebu a gwrthweithio'r dylanwadau hynny. Yr oedd y frwydr yn galed o'r blaen. Fe fydd yn galetach 'rwan."

Dywedai'r geiriau olaf yn dawel iawn, â gwên galed ar ei wyneb. Safodd yn fud ennyd, gan syllu i gefn y Neuadd fel pe i herio'r dyfodol a'i beryglon.

"Hwn," aeth ymlaen yn ddwys, "ydi'r argyfwng pwysica' a fu yn ein hanes ni fel chwarelwyr. O hyn ymlaen rhaid inni sefyll yn fwy unol a chadarn ac eofn nag erioed. Ymhen ennyd fe fydd y Cadeirydd yn cyflwyno penderfyniad i'r cyfarfod hwn. Os oes rhai ohonoch chi'n cloffi rhwng dau feddwl, da chi, peidiwch â phleidleisio trosto fo. Yr ydan ni wedi cynnal llawer cyfarfod yma yn ystod y misoedd dwytha' 'ma ac wedi gweld rhai sy'n Fradwyr erbyn hyn yn codi'u dwylo mor frwdfrydig â neb. Na fydded i un ohonoch chi fod yn rhagrithiwr yn ogystal â bradwr . . . A 'rwan, Mr. Cadeirydd, darllenwch y telegrams iddyn' nhw yn gyntaf, cyn mynd ymlaen at y penderfyniad. Clywch be' ydi barn yr hogia' sy ar wasgar.'

Eisteddodd "J.H. "i lawr heb wneud ymgais at berorasiwn, ond, er hynny, prin y gallai'r gymeradwyaeth a roed iddo fod yn fwy gwresog. Medrai ef areithio'n danbaid a chynhyrfu unrhyw dorf; ond heno, a'i lygaid ar wŷr y Wasg, blodlonodd ar draethu'r ffeithiau, heb ymfflanychu. Tynnodd law flinedig dros ei dalcen, ac edrychai'n welw a phryderus yno wrth y bwrdd ar y llwyfan. Yr oedd ei wyneb yn awr, wedi iddo eistedd, yn y llafn o heulwen, a thynnai'r golau y llinellau ynddo i'r amlwg. Petai ef yn gerflunydd, meddai Llew wrtho'i hun, ac yn chwilio am rywbeth i gyfleu cyfrifoldeb eiddgar, dwys, yna naddai mewn maen neu farmor wyneb llwyd, tenau, diffuant "J.H."

Daliai'r Cadeirydd nifer o bellebrau yn ei law.

"Y mae'r cynta' 'ma," meddai, "o Firkenhead. Dyma neges yr hogia' yno—Gwell marw'n filwr na byw yn fradwr. Safwn mor gadarn â'r graig!"

Derbyniwyd y geiriau â tharan o gymeradwyaeth, a chwifiai llu eu dyrnau'n chwyrn. Wrth ymyl Llew safai amryw ar y seddau i floeddio'u "Hwrê!"—yn ddigon uchel i hyd yn oed yr hen Ishmael Jones glywed y gair a chydio ynddo. Clywid ei lais main, crynedig, ymhell wedi i bawb arall dawelu, a rhoes rhywun bwniad iddo i'w hysbysu fod y gweiddi wedi peidio am ennyd. Croesawyd pob pellebr o Lerpwl, o Heysham, o Fanceinion, o Faesteg, o Bontycymer, o Donypandy, o Faerdy, o Aberdâr, o Ferthyr, o Dredegar—yn yr un modd, a phan ddaeth gosteg—

"Mi fasa'n well gen' i lwgu na bradychu'r hogia' yna," meddai Robert Williams yn dawel, â chrygni yn ei lais. Yna galwodd ar Edward Ifans, tad Llew, i gynnig y penderfyniad. Cododd yntau a cherdded ymlaen at y grisiau ar y chwith i'r llwyfan. Sylwodd Llew unwaith eto ar y tebygrwydd rhwng ei dad a "J.H." a theimlai'n hynod falch o hynny.

"Mi ddarllena' i'r penderfyniad ar unwaith Mr. Cadeirydd," meddai Edward Ifans. "Dyma fo—Fod y cyfarfod hwn o chwarelwyr Llechfaen, wedi sefyll allan dros eu hiawnderau am yn agos i wyth mis, yn parhau i gredu yng nghyfiawnder eu hachos ac yn condemnio yn y geiriau cryfaf ymddygiad nifer o'u cydweithwyr a werthodd eu hegwyddorion drwy ddechrau gweithio yn groes i ymrwymiadau cyhoeddus a roddwyd ganddynt hwy a chorff y gweithwyr ; drwy hynny yn anurddo ein henw da ac yn ein bradychu. Ymhellach, ein bod ni fel corff mawr o weithwyr yn penderfynu sefyll yn ffyddlon y naill wrth y llall nes sicrhau ein hiawnderau a'n hawliau teg.'

Darllenodd yn glir ac uchel, ond crynai'r papur yn ei law, a chrynai'i lais hefyd gan deimlad ar lawer gair. Wedi i'r gymeradwyaeth hir ac uchel dawelu, "Gwelwch fod yma mewn gwirionedd ddau benderfyniad," meddai, "un yn condemnio ymddygiad y Bradwyr a'r llall yn galw am undeb dewr, di-ildio, nes inni, chwedl y Cadeirydd, ddwyn barn i fuddugoliaeth. Neu efalla' mai dwy ochr i'r un penderfyniad sydd yma, oherwydd 'does gan yr un ohonom ni hawl i gondemnio'r Bradwyr os na fwriadwn ni ymladd i'r eithaf, beth bynnag fydd y dioddef a'r aberth a olyga hynny. Ystyriwch yn ddwys. Efalla' y pery'r helynt hwn am wyth mis arall ac y byddwn ni'n gorfod wynebu gaeaf o gyfyngder mawr heb ddillad cynnes, heb fwyd, heb dân. Efalla' y bydd rhai o'n cyfeillion gora' ni, rhai o'n brodyr, rhai o'n meibion, yn gwanhau ac yn troi'n Fradwyr. A fyddwn ni'n ddigon cryf a gwrol i ddal at y penderfyniad hwn wedyn? Os na chredwn hynny, peidiwn â phleidleisio trosto fo heno: byddwn yn onest hefo'n hunain a hefo'n gilydd. Ac os gwêl rhai ohonoch chi rywun neu rywrai heb godi llaw o blaid y penderfyniad, peidiwch â chyffroi i'w dirmygu a'u herlid. Y mae onestrwydd felly'n fwy anrhydeddus ganwaith na phleidleisio ac yna gario'u harfa' i'r chwarel yn slei bach yn y nos, a dibynnu wedyn ar amddiffyniad plismyn bob bora a hwyr ar y ffordd i'r gwaith ac oddi yno. Nid fy mod i'n credu am funud y bydd rhai felly yn ein plith ni yma heno, ond y mae'n deg pwysleisio difrifwch y penderfyniad hwn. Meddylied pob un drosto'i hun, yn dawel a sobr; nid cael ei gario ymaith gan y brwdfrydedd o'i gwmpas. Triwch, bob un ohonoch chi, fod yn unigolyn mewn torf, gan lawn sylweddoli ystyr y penderfyniad nid yn unig i chi'n bersonol ond i'ch gwragedd a'ch plant, i gartrefi ac ysgolion ac eglwysi ardal sy'n dibynnu bron yn llwyr ar y chwaral."

Arhosodd Edward Ifans am ennyd, gan wrando ar y mur- mur dwys a âi drwy'r lle. Gwaith hawdd, fe wyddai, fuasai cyffroi'r dyrfa hon i felltithio'r Bradwyr ; rhwydd fyddai cael cyfarfod o frwdfrydedd heb ei ail ac yna orymdaith o wŷr bygythiol o'r Neuadd drwy'r pentref cyn gwasgaru am y nos. Ond yr oedd angen unoliaeth ddyfnach, sicrach, arnynt yn awr.

"Rhyw ddeufis yn ôl, Llun y Pasg, yr oedd rhyw ddwy fil ohonom ni yn y cyfarfod mawr ar y cae wrth yr afon. Mi gefais i'r fraint o gynnig penderfyniad y tro hwnnw—ein bod ni'n cario'r frwydr ymlaen yn unol ac eofn nes ennill ein hawlia' fel gweithwyr. Yr oedd yno goedwig o ddwylo o blaid hynny, a dim un yn erbyn. Y mae dwsina' a oedd yn y cyfarfod hwnnw wedi derbyn 'punt-y-gynffon' ddydd Mawrth dwytha' . . . "

"Cywilydd! Gwarth! Rhagrith!"

"Ia, ond gofalwn na ddigwydd yr un peth y tro hwn eto. Cofiwn mai'r rhai uchaf 'u cloch ar ddechra'r helynt 'ma ac mewn llawer cyfarfod sydd yn rhengau blaen y Bradwyr heddiw. Os pleidleisiwn yma heno, gwnawn hynny gan benderfynu na thry dim ni oddi ar y llwybyr, mai gwell angau na chywilydd. Fe fydd y demtasiwn yn fawr i rai ohonoch chi, oherwydd mae 'na ddylanwada' cyfrwys, llechwraidd, ystrywgar, ar waith yn yr ardal 'ma a sibrydir geiria' mwyn ac addewidion teg yn eich clust chi. Dywedir wrthych y gellwch chi droi'r cerrig yn fara, a bydd eisiau nerth i fedru ateb nad ar fara'n unig y bydd byw dyn. Gweddïwn am y nerth hwnnw, gyfeillion, yn yr wythnosa' a'r misoedd caled sy'n ein hwynebu ni . . .

"Ia, wir, Edwart," meddai'r hen frawd dwys yn un o'r seddau blaen. Ond ni chwarddodd neb: gafaelai rhyw ddifrifwch mawr yn y dorf i gyd.

"Cofiwn," aeth Edward Ifans ymlaen, "nad brwydyr Llechfaen yn unig ydi hon, ond brwydyr y gweithiwr ym mhob man, brwydyr egwyddorion, brwydyr anrhydedd. Y mae Undeb y Chwarelwyr o'n plaid ni, rhai o'r arweinwyr gwleidyddol galluoca'—gwŷr fel Keir Hardie, William Jones, Lloyd George—yn dadla' trosom ni, a gweithwyr y wlad i gyd tu cefn inni. Fel y dengys yr arian a lifodd i mewn i Gronfa'r Streic ac fel y profa'r derbyniad a gafodd ein cora' a'n casglwyr drwy Gymru a Lloegr, aeth achos chwarelwyr Llechfaen bellach yn fater o ddiddordeb byw—ia, o gydwybod—i'r holl wlad. Y mae llygaid gweithwyr y deyrnas i gyd yn troi tua Llechfaen, yn ein gwylio'n esgud a hyderus. Brwydrwn dros ryddid, rhyddid i ymuno â'n gilydd ac i ethol ein pwyllgor ein hunain, rhyddid rhag gormes a cham a rhegfeydd wrth ein gwaith, rhyddid rhag angen wedi llafurio'n ddiwyd a chydwybodol. Yn ddwys a difrifol, Mr. Cadeirydd, nid ag ysbryd her a bocsach, yr ydw' i'n cynnig y penderfyniad hwn sy'n condemnio'r Bradwyr ac yn galw ar gorff mawr y gweithwyr i ymladd ymlaen nes sicrhau eu hiawnderau a'u hawliau teg."

Cerddodd Edward Ifans yn ôl i'w sedd yng nghanol cymeradwyaeth fawr, a phan ddychwelodd i'w le, gwelai Llew ei frawd Idris yn gwasgu braich ei dad i'w longyfarch ar ei araith. Yna galwodd y Cadeirydd ar hen chwarelwr o'r enw William Parri i eilio'r penderfyniad. Distawodd pawb : gwyddent oll fod ei fab, Twm Parri, yn un o'r Bradwyr.

"Pam oeddan' nhw'n gofyn i'r hen William?"

"Fe oedd yn crefu am gael gwneud," atebodd rhywun. "Golygfa drist," meddai William Parri, "oedd honno welsom ni fis Tachwedd dwytha', yntê?—hen weithwyr fel fi a Robat Wilias yn cario'u harfa' o'r chwaral. Ond mi welis i olygfa fwy torcalonnus o lawar yr wsnos yma. Fel Robat acw mi godis inna'n gynnar bora Mawrth, ac mi es allan ac i lawr i'r lôn bost am dro. Cyn hir dyma ryw bymthag o'r Bradwyr a dau blisman yn dwâd heibio, y gweithwyr yn cludo'u harfa'n ôl i'r gwaith. Pam yr oeddan' nhw'n cerddad mor gyflym, ty bad, fel 'tai rhywrai'n 'u herlid nhw? O, trio dianc rhag 'u cydwybod yr oeddan' nhw, wchi. Pam yr oeddan' nhw mor dawal, heb ddeud fawr air wrth 'i gilydd? Am 'u bod nhw'n rhy euog i fedru diodda' gwrando ar 'u lleisia'u hunain. Pam yr oeddan' nhw'n 'i sgwario hi mor dalog heibio i mi, fel rejimant o filwyr? O, trio perswadio'u hunain 'u bod nhw'n ddynion, fel rhywun meddw'n cymryd arno'i fod o'n sobor. Ond er i mi, fel Robat Wilias, fyw i gyrraedd trothwy oedran yr addewid, 'welis i 'rioed o'r blaen ddynion yn magu cynffonna' mor llaes â'r rhain. 'Ron i'n gwbod bod gan y rhan fwya' ohonyn' nhw bâr o goesa' reit dda—i redag adra' cyn caniad, a thafod pur gyflym—i gario straeon i'r Stiward, ond fel yr edrychwn i arnyn' nhw y bora hwnnw, 'u cynffonna' nhw welwn i, yn llusgo fel rhaffa' mawr yr Inclên Isa' tu ôl iddyn' nhw."

Chwarddodd llawer, ond yr oedd Robert Williams yn dechrau anesmwytho. Gwyddai, o hir brofiad yn y Seiat yn Siloh, y gallai William Parri fynd ymlaen fel hyn am hanner awr arall. Yn wir, adroddid stori hyd yr ardal i William Parri freuddwydio un noson iddo siarad am awr gyfan yn y Seiat, a phan ddeffroes, ar ei draed yn y Seiat yr oedd! Taflodd Robert Williams olwg awgrymog tuag ato'n awr, a gwelodd yntau hi.

"Mae Robat 'cw am imi fod yn fyr," meddai. "Ac yn fyr y bydda' i. Yr on i'n darllan yn y papur ddoe ddwytha' fod rhyw Farnwr enwog tua Lloegar 'na, wedi clywad am yr helynt 'ma yn Llechfaen, yn dal bod gan bob gweithiwr hawl a rhyddid i werthu'i lafur lle ac fel y mynno. Dyna'r Gyfraith ar y pwnc, medda' fo. Mae'n rhaid fod y dyn wedi pasio'n uchal, i fod yn Farnwr, ond yng nghlas y Bebis y dyla' fo fod. Edrach ar weithiwr fel unigolyn ac nid fel aelod o gymdeithas y mae o. Fe dorrodd helynt yn y chwaral 'ma. Fe ddaeth yr holl weithwyr allan i ymladd dros 'u hiawndera', i sefyll hefo'i gilydd, ac mewn cwarfod ar ôl cwarfod fe gytunodd pawb i frwydro i'r pen. Yr ydw' i'n deud wrth y Barnwr 'na fod y Bradwyr wedi torri amod. Mae'r Gyfraith yn edrach ar dorri amod fel trosedd, ond ydi?" Troes yr hen William Parri at y plisman nesaf ato. Be' ydach chi'n wneud yn Llechfaen 'ma?" gofynnodd. Ysgwydodd y dyn ei ben, gan na ddeallai Gymraeg. "'Wyddoch chi ddim? Wel, mi ddeuda' i wrthach chi. Amddiffyn troseddwyr, rhai sy wedi torri amod, wedi bradychu'u cydweithwyr. A 'wyddoch chi be' ddylech chi wneud?" Ysgydwodd yr heddgeidwad ei ben eto. "Na wyddoch? Wel, mi ddeuda' i wrthach chi. Fel swyddog y Gyfraith, eich lle chi ydi nid amddiffyn ond cosbi troseddwyr, yntê? Wel, cosbwch y tacla', rhowch nhw yn y jêl, crogwch nhw, bob un wan jac ohonyn' nhw."

Enillodd y geiriau gymeradwyaeth a bloeddio a churo traed byddarol, a phenderfynodd yr hen William Parri ddiweddu'i araith yn y fan honno ac eistedd yn fuddugoliaethus. Rhoes rhywun bwniad yn ei ochr i'w atgoffa fod ganddo benderfyniad i'w eilio, a neidiodd yntau ar ei draed.

"Yr ydw' i'n eilio'r cynigiad â'm holl galon," gwaeddodd fel y darfyddai'r sŵn, " ac yn . . ." Ond boddwyd y gweddill gan hwrdd arall o gymeradwyaeth, a bu'n ddigon call i eistedd yn derfynol y tro hwn.

"Mae'r penderfyniad," meddai'r Cadeirydd pan ddaeth gosteg," wedi'i gynnig a’i eilio. 'Oes 'na rywun a hoffai siarad yn 'i erbyn o ?

"Nac oes!"

Ac nid oedd neb. Ond gwyddai Robert Williams fod amryw yn dyheu am siarad trosto, yn eu plith yr hen Ifan Tomos, cawr o ddyn a fu'n ymladdwr ffyrnig yn ei ddydd ac a âi o gwmpas yr ardal i honni y gallai ef, ond iddo gael ei gefn at y wal, lorio unrhyw ddwsin o'r Bradwyr.

"Y mae'r amsar yn rhedag ymlaen," meddai'r Cadeirydd, "a chan rai ohonoch chi ffordd bell adra'. Cyn imi roi'r penderfyniad i'r cyfarfod, mi hoffwn i'ch atgoffa chi o'r rhybudd a roddodd Edward Ifans inni. Os oes rhai ohonoch chi'n gwanhau, yn ansicir eich meddwl, peidiwch â phleidleisio dros y penderfyniad hwn. Ystyriwch be' mae o'n olygu, y brwydro a'r cyni a'r aberthu sy'n debyg o fod o'n blaen ni. Ystyriwch yn dawal a dwys." Arhosodd ennyd, gan roi cyfle iddynt feddwl mewn tawelwch. "A 'rwan, pawb sy dros y penderfyniad . . .

Ni welai Llew un na chodai'i law ar unwaith.

"Pawb sydd yn erbyn . . .

Nid oedd un, a thorrodd taran o gymeradwyaeth drwy'r lle.

"Mi orffennwn y cyfarfod . . . " Ond torrodd llais ar draws y Cadeirydd.

"Yr ydw' i'n cynnig ein bod ni'n cal gorymdaith a chwarfod nos Sadwrn nesa' eto," gwaeddodd rhywun, a chytunodd y dorf drwy guro dwylo'n frwd.

"O'r gora'," meddai Robert Williams. "Yr un lle a'r un amsar. A 'fydda' fo ddim yn syniad drwg 'taem ni'n cynnal cyfarfod fel hwn bob nos Sadwrn i gadw'n hysbryd i fyny ac i roi'r newyddion i'n gilydd ac i wrando ar areithia'. Mi liciwn i wahodd Keir Hardie i lawr yma, yn un. Yr ydw' i'n siŵr y dôi o." Derbyniwyd yr awgrym â chymeradwyaeth eiddgar. "A 'rwan gadewch inni ddiweddu'r cyfarfod 'ma yn ein ffordd arferol, drwy ganu emyn. Heno, pennill o emyn Ann Griffiths, "O Arglwydd Dduw rhagluniaeth," ac wrth i chi ganu, meddyliwch yn ddwys am ystyr y geiria' anfarwol.

'O Arglwydd Dduw rhagluniaeth
Ac iachawdwriaeth dyn,
Tydi sy'n llywodraethu
Y byd a'r nef dy hun.
Yn wyneb pob caledi
Y sydd neu eto ddaw,
Dod gadarn gymorth imi
I lechu yn dy law."'

Cododd pawb, a thrawodd llais tenor peraidd Robert Williams y dôn: ef oedd yr Arweinydd Canu yn Siloh, y capel yr âi Llew iddo. Ymdoddai'r cannoedd o leisiau i'w gilydd mewn cynghanedd swynol, gan dawelu ac ymchwyddo mor naturiol â llanw'r môr. Pan ailgydiwyd yn hanner olaf y pennill, peidiodd Llew â chanu a chaeodd ei lygaid i wrando ar y sicrwydd hyderus tu ôl i ddyhead melodaidd y dôn. Nid tyrfa o streicwyr a oedd o'i flaen mwyach, ond gwŷr dwys wedi ymgolli ym melystra cerdd a'r dagrau yn llygaid amryw ohonynt. Yr oedd un peth yn sicr, meddai wrtho'i hun—ni fedrai'r Bradwyr ganu fel hyn.

Ac o dan ddylanwad yr emyn, cerddodd y dynion yn dawel a sobr o'r Neuadd. Teimlai'r plismyn, wrth ymsythu i gadw trefn, yn ffôl o ddianghenraid.

Tu allan, safodd Llew o'r neilltu ar y palmant i aros am ei dad ac Idris a Dic Bugail. Clywodd lais braidd yn feddw yn gweiddi,

Gorymdaith, hogia'! Mi fydd hi'n dechra' twllu'n reit fuan!"

Adnabu'r llais—eiddo Ifor, ei frawd yng nghyfraith, gŵr Megan. Ni fu ef yn y cyfarfod, ond cyrhaeddodd at y Neuadd yn ddigon buan i gymryd arno ei fod yn un o'r dorf ac i alw, yn groes i ewyllys arweinwyr y dynion, am orymdaith swnllyd a dinistriol yn y gwyll a'r nos. Gwelodd Llew, a daeth ato.

"Hei, tyd, Llew. 'Rŵan mae'r hwyl yn dechra', wsti."

"Yr ydw' i'n aros am 'Nhad, Ifor."

Ond cydiodd Ifor yn ei fraich a'i dynnu at y bagad o wŷr ansad—ffyddloniaid y "Snowdon Arms," gan mwyaf-a ymffurfiai'n rhengoedd ar y ffordd.

"Llew?" Llais ei dad a'i galwai.

"Ia, 'Nhad?"

'Rwyt ti wedi crwydro digon am hiddiw, 'ngwas i. Tyd di adra' hefo ni, 'rŵan."

"O'r gora', 'Nhad." Yr oedd yn falch o gael dianc. "Da, 'machgan i . . . Ac Ifor?"

"Ia, Edward Ifans?"

"Gwell i titha' droi adra'. Nid 'rŵan ydi'r amser i gael gorymdaith. 'Wnewch chi ddim ond tynnu'r plismyn i'ch penna'."

Chwarddodd llais meddw gerllaw.

"Ia, rhowch o yn 'i wely'n daclus, Edward Ifans," gwaeddodd dyn o'r enw Sam Tomos. "Mae'n hen bryd i blant bach fod yn bei-bei wchi."

Gwylltiodd Ifor a brysiodd yn herfeiddiol at fin y palmant. ""Faint ydach chi'n feddwl ydi f'oed i?" gofynnodd, rhwng ei ddannedd.

"Mi ddangosa' i iti mewn munud, Ifor Davies," meddai Dic Bugail, gan gamu'n gyflym rhwng Edward Ifans ac ef. Ond gwyddai Ifor nad oedd Dic Bugail yn un i chwarae ag ef, a chyda "Hylô, yr hen Ddic, sut mae petha' i fyny yn y weilds acw?" dychwelodd at ei rengau, gan chwerthin braidd yn ffôl. Yr oedd mwy o dwrw nac o daro yn Ifor Davies.

Cerddodd y pedwar ohonynt ymaith, a chydiodd Edward Ifans yn sydyn ym mraich y bugail.

"Dacw fo Henry Owen yn mynd o'n, blaen ni," meddai. Henry! Henry!"

Safodd dyn bychan tenau, cyflym, i aros amdanynt.

"'Oes gynnoch chi arian i Dic 'ma?" gofynnodd Edward Ifans iddo.

"Oes, oes, oes. Punt, punt yr un fath ag i bob gŵr priod arall. Oes, oes. Dowch hefo mi, Dic, dowch hefo mi."

"O'r gora', Henry Owan," meddai Dic. "Mi fydda' i wrth waelod Tan-y-bryn," chwanegodd wrth y lleill cyn brysio ymaith hefo Ysgrifennydd y Gronfa.

A phan gyrhaeddodd y tri ohonynt y tro tua'u cartrefi, yr oedd Dic yno, a'r bunt yn ei boced.

"Rhaid imi fynd i siopa heno cyn troi adra'," meddai. "Mi a'i i ddrws cefn Liverpool Stores : mae'r hen Jones yn siŵr o roi'r negas imi. Ac os bydd Eban o gwmpas y stabal, mi ga' i ffîd i'r merlyn yr un pryd."

Dringodd y pedwar allt serth Tan-y-bryn, a daliasant yr hen Ishmael Jones a'i basio ar y ffordd.

"Cwarfod da, Ishmael Jones," gwaeddodd Llew yn ei glust cyn brysio ymlaen. Yr oedd arno eisiau dangos ei fod yn ddyn, yn chwarelwr ar streic.

"Da-da?" meddai'r hen ŵr, gan deimlo ym mhoced ei wasgod. "Nac oes, wir, fachgan, ddim un."

"Hylô, i b'le mae o'n mynd?" sibrydodd Idris wrth ei dad ymhen ennyd.

Tuag atynt, a'i glog fawr tros ei ysgwyddau a'i het uchel, lydan yn rhoi iddo'i lawn urddas, deuai Price-Humphreys, y Stiward Gosod, gŵr ni hoffid gan neb ond cynffonwyr yn y chwarel. Trigai ef mewn clamp o dŷ yn y coed uwchlaw'r pentref, tŷ unig, mawreddog, tywyll, fel ef ei un. Pan chwaraeai plant yn y coed, cadwent ymaith o gyffiniau "Annedd Uchel," a chilient yn yr un modd, yn reddfol, oddi wrth y perchennog a'i glog dywyll a'i het enfawr pan welent ef ar y stryd. Yr oedd hynny'n beth rhyfedd, oherwydd gwyrai weithiau i siarad yn ddwys a charedig â hwy, a chafodd ambell un ddimai ganddo o dro i dro. Ni ddeallai ef y peth o gwbl.

"O, methu byw yn 'i groen nes cael gwybod be' ddigwyddodd yn y cwarfod," atebodd Edward Ifans dan ei anadl.

Safodd Price-Humphreys pan ddaeth atynt.

"Noswaith dda, Edward Ifans," meddai'i lais main, defosiynol, gan swnio fel petai ar fin ledio emyn. "Yr ydw i'n gobeithio na ddaru'r . . . y . . . cyfarfod heno ddim . . . y . . . dewis llwybr . . . y. . . annoeth.

"Mi ddaru ni benderfynu condemnio ymddygiad y rhai . ." "Y Bradwyr," torrodd Dic Bugail ar ei draws, â brath yn ei lais.

"Y rhai sy wedi dechra' gweithio," meddai Edward Ifans, a mynegi unwaith eto ein ffydd yn ein hachos."

"Hm..

y . . . piti, piti. 'Roeddwn i'n . . . y . . . gobeithio

y basach chi'n . . . y . . . ailystyried ac yn . . . "

₨"'Oeddach chi, wir?" saethodd Dic Bugail y geiriau ato. "Wel," meddai Edward Ifans, gan frysio i ddweud rhywbeth, rhag ofn i Dic bechu'n anfaddeuol, "'roedd y dynion i gyd yn unfarn ar y pwnc."

Hm . . . y . . . piti, piti, yn wir yn wir. A'r hen chwaral yn mynd mor dda cyn i'r . . . y . . . helynt 'ma ddigwydd, yntê ? "

"Yn dda i bwy, Mr. Price-Hymphreys?" gofynnodd Dic rhwng ei ddannedd.

"Y mae hi'n noson braf iawn heno eto, Mr. Price-Humphreys," sylwodd Edward Ifans yn frysiog, gan droi i gychwyn ymaith. Ydi, wir, braf iawn."

Ond yr oedd hi'n rhy hwyr. Gwyrodd y Stiward Gosod tuag at Dic a gofynnodd yn hynod gwrtais :

"A beth oeddach chi'n feddwl wrth y . . . y sylw yna, Richard Jones?"

Gwyddai pawb yn y chwarel am y cwrteisi llyfn hwnnw, am dynerwch melfedaidd y llais, am y wên or-gyfeillgar ar yr wyneb tenau, dwys. Nid ofnai neb y Pen Stiward pan ymddangosai'n llym a ffroenuchel, ac ni faliai chwarelwr ryw lawer pan daflai Price-Humphreys eiriau cas tuag ato. Ond tu ôl i'r wên hon yr oedd colyn gwenwynig, creulondeb oer. Hi a yrrodd lawer gweithiwr medrus o'i " fargen " rywiog ar wyneb y graig i slafio ar ddarn o wenithfaen: hi a'i herlidiodd ef wedyn o'r chwarel i anobaith segurdod a thlodi. Gwelsai Dic y wên, a gwyddai nad oedd fawr wahaniaeth beth a ddywedai bellach. Caledodd ei wyneb a theimlai Llew, a safai wrth ei ochr, bob nerf yng nghorff y bugail yn tynhau.

"Mae gin' i wraig a thri o blant," meddai, "nid hannar dwsin o gathod fel sy gynnoch chi. Ond yr ydw' i'n o siŵr fod cathod Annedd Uchal' yn cael gwell bwyd na phlant rhai fel fi. Yr ydw' i'n dallt 'u bod nhw'n mynd yn dew," chwanegodd yn chwerw, " yn gathod digon o ryfeddod . . . "

"Rwan, Dic, 'machgen i, 'wnaiff siarad fel'na les i neb," torrodd Edward Ifans ar ei draws. "Mae arna' i ofn bod y cyfarfod 'na wedi'i gynhyrfu o, Mr. Price-Humphreys," eglurodd wrth y Pen Stiward.

"Wel . . . y . . . mi wyddom ni fod teimladau'n mynd yn . . . y . . . chwyrn ar . . . y . . . adega' fel hyn, Edward Ifans. Ydyn' ydyn', yn wir yn wir. Ac y mae hynny'n . . . y . . . bur naturiol, efalla".". Daliai i wenu'n or-faddeuol.

"Naturiol? Ydi, debyg iawn." Yr oedd Dic fel ceffyl penrhydd bellach. "A wyddoch chi pam? Am fod y teimlada' wedi cronni tu fewn inni ers blynyddoedd. Yr ydw' i'n ddyn deunaw ar hugain, ond 'fedrwn i ddim cadw fy nheulu rhag angen pa mor galed bynnag y gweithiwn i. A phan ofynnwn i am well 'poundage' ar y rwbel, be' gawn i? Dim ond fy rhegi gan ryw Stiward o Sais na ŵyr o ddim mwy am drin llechfaen na thwrch daear am . . . "

"Wel, y mae . . . y.. gweithwyr a y . . . gweithwyr, ond oes, Edward Ifans?"

"Mae 'na weithwyr a chynffonwyr," atebodd Dic yn wyllt. "'Does 'na'r un gweithiwr fedar slafio'n galetach nag y gwnes i. Yr on i yn y gwaith bob dydd ymhell cyn caniad ac ymhell ar ôl i bawb arall fynd adra' gyda'r nos.'

"Wel . . . y . . . nid canol y stryd ydi'r. y . . . lle i drin materion fel hyn," meddai'r Stiward Gosod, gan ddechrau symud ymaith. Teimlai'n anghysurus iawn, gan fod rhai o'r dynion a âi heibio yn arafu'u camau i fwynhau huodledd Dic. "Ac yr on i ar fy ffordd i . . . y . . . i'r Ficerdy."

Ond cydiodd Dic yn ei glog a'i ddal yno.

"'Ches i ddim cyfle fel hyn o'r blaen, Mr. Price-Humphreys," meddai. "'Ydach chi'n cofio'r chwe mis hynny dreuliais i yn clirio'r rwb ddaeth i lawr yn Nhwll Brain?

"'Rŵan, Dic," meddai Edward Ifans, gan afael yn ei fraich i'w dynnu ymaith. Ond gwthiodd y bugail ef o'r neill- tu, ac aeth ymlaen yn chwyrn:

"'Ydach chi? 'Roedd 'na glogwyn da lle disgynnodd y rwb, ac mi ges i a Wil fy mrawd a dau arall addewid pendant y caem ni 'fargen' yno ar ôl clirio'r lle. Ond do? . . . Ond do? . . . Chwe mis y buom ni'n bustachu i symud y cerrig a'r rwbal i fynd at y clogwyn. 'Weithiodd pedwar dyn 'rioed fel y gweithiodd Wil a finna' a'r ddau arall yn ystod y misoedd hynny. Ond o'r diwadd . . . o'r diwadd "-gostyngodd Dic ei lais yn beryglus a thynhaodd ei afael yn y glog—" o'r diwadd, un pnawn Sadwrn, yr oeddan ni wedi cyrraedd y graig. Clogwyn da o gerrig gleision, rhywiog: cyfla i ennill cyflog. Ond be' fu bora Llun? 'Ydach chi'n cofio? Neu 'ydi'ch cof chi braidd yn fyr? . . . "

Cydiodd Edward Ifans ym mraich Dic unwaith eto: gwelai ei ddwrn yn cau'n fygythiol ac ofnai y byddai'n taro'r Stiward. Yr oedd Llew yn syfrdan gan fraw, oherwydd edrychasai ef bob amser ar Mr. Price-Humphreys â pharchedig ofn, fel petai perchen "Annedd Uchel" yn rhyw gawr o fyd arall a ddeuai weithiau ar hynt urddasol i blith dynionach Tan-y-bryn. Ond ciliasai holl urddas y dyn yn awr. Ceisiai ymddangos yn ffroenuchel, ond crynai'i wefusau tenau gan ofn a disgleiriai dafnau o chwys ar ei dalcen. Tra-arglwyddiaethu fu ei dynged ef: yr oedd hwn yn brofiad newydd iddo. "Wedi chwe mis o lafur calad i agor ffordd at y graig, dyma'r Stiward Gosod, Mr. Price-Humphreys "—llefarai Dic yr enw fel un yn poeri gwenwyn o'i enau—yn dwad heibio ac yn rhoi'r lle i rai o'i gynffonwyr, yntê? . . . 'Ydach chi'n cofio? . . . Ac yn ein gyrru ni i ben pella'r Twll i slafio ar glogwyn o wenithfaen. 'Roedd y peth yn ddigri' o greulon, ond oedd ?"

Chwarddodd Dic yn dawel a gollyngodd ei afael ar y glog. 'Rydw' i'n dallt bod eich cathod chi'n mynd yn rhy dew, Mr. Price-Humphreys," meddai. "'Dydi fy mhlant i ddim." A throes ymaith yn sydyn i ddringo'r allt.

Gwnaeth y Stiward ymdrech deg i adennill ei urddas drwy ymsythu a cheisio gwenu.

"Hm . . . y . . . anffodus. . . y . . . anffodus," meddai, fel un yn ymbalfalu'n ffwndrus am eiriau. "Wel . . . y . . . nos dawch, Edward Ifans."

"Y . . . nos dawch, Mr. Price-Humphreys. Mae'n mae'n ddrwg gin' i fod hyn wedi digwydd." Ond yr oedd gŵr y glog yn brasgamu i lawr y stryd a'i ben yn yr awyr i geisio ymddangos yn ddihitio.

Brysiodd y lleill ar ôl Dic a cherddodd y pedwar heb ddweud gair am dipyn.

"Wel, dyna hi wedi canu arnat ti yn y chwaral 'na, Dic Bugail, 'y ngwas gwyn i," sylwodd Idris o'r diwedd.

"Mi wn i hynny, Id. 'Rydw' i'n dwad i'r Sowth hefo chdi ddydd Mawrth. Mi ga' i fenthyg yr arian gan hen ewyrth i'r wraig acw.'

Safai'r merlyn yn dawel a breuddwydiol o flaen "Gwynfa," wedi'i glymu wrth y mur. Yr oedd ar ben ei ddigon ar ôl i blant y gymdogaeth gludo pob math o ddanteithion iddo. Hen blant bach iawn, meddai wrtho'i hun, gan ail-fyw mewn dychymyg y gloddesta a fu. Cofiai yn arbennig am un hogyn, a alwai'r plant eraill yn "Gwyn," yn rhoi iddo ddarn mawr o fara-brith ac yna'n rhuthro'n ôl i'r tŷ cyn iddo gael cyfle i nodio'i ben mewn diolch. Pam yr oedd y bachgen wedi'i wisgo mewn coban wen, tybed? A pham yr oedd mor llechwraidd ac ar gymaint brys? Ni wyddai'r merlyn; ond yn wir, yr oedd y bara-brith yn un da iawn, y gorau a gafodd erioed.

'Dydach chi ddim yn meddwl y cewch chi fynd adra' heb 'banad, 'ydach chi, Dic?" gofynnodd Edward Ifans wrth weld y bugail yn cydio yn awenau'r merlyn. "Dowch i mewn. 'Fyddwch chi ddim dau funud.".

Bu raid i Dic ufuddhau. Yr oedd y swper-bara-saim a l-etys ac yna frechdanau o fara-brith-ar y bwrdd, a Martha Ifans, cyn gynted ag y clywodd sŵn eu traed, wedi tywallt dŵr yn y tebot.

"Dyma iti Megan fy chwaer, Dic," meddai Idris. "Gwraig Ifor, wsti."

Ysgydwodd Dic law â'r ferch a gynorthwyai'i mam wrth y bwrdd. Geneth lon, iachus, lawn chwerthin, a'i gwallt a'i llygaid duon yn ei atgoffa am ei wraig ei hun.

Chi bia'r poni, yntê? "chwarddodd hi. "Prin y medar o'ch cario chi adra' heno ar ôl yr holl fwyd mae plant y stryd 'ma wedi'i roi iddo fo."

"A dyma ti'r Sgolar," meddai Idris. "Fy mrawd Dan, sy yn y Coleg."

Hoffodd Dic y llanc glân deunawmlwydd ar unwaith. Yr oedd Dan yn debyg iawn i'w dad, yn dal a thenau a'i lais yn dawel a dwys. Tyfasai'n rhy gyflym, meddyliodd y bugail wrth ysgwyd llaw ag ef, ac ni chawsai ddigon o fwyd pan oedd ei wir angen arno. Er hynny, yr oedd nerth annisgwyl, eiddgar, yng ngwasgiad ei law.

"A 'rwan rhaid imi 'i throi hi i'r drws nesa'," ebe Idris, "ne' fe fydd Kate yn hannar fy lladd i. Gwaedda cyn iti fynd, Dic."

"O'r gora', Idris."

Parablai Dic Bugail bymtheg y dwsin yn ystod swper, a gwyliodd Llew ef yn syn, gan gofio am y gŵr tawedog a'i dygasai ef a Gwyn adref rai oriau ynghynt. Nodiai a gwenai Edward Ifans yn ddeallgar : gwyddai ef fod y ffrae â'r Stiward Gosod a'r penderfyniad sydyn i fynd i'r Sowth yn gynnwrf ystyfnig o hyd ym meddwl Dic, ac y siaradai fel melin i geisio'u hanghofio.

"Wel, rhaid imi 'i gafael hi," meddai wedi iddo fwyta a theimlo, fel y merlyn, fod y bara-brith y gorau o brofasai. erioed. "Mae arna' i isio galw yn Liverpool Stores cyn troi adra'. Diawch, mi ga' i groeso gan Siân 'cw heno!

Cofiodd Llew am wyneb gorchfygedig y wraig ifanc yn y tyddyn llwm ac am ei chwerwder hi pan soniodd ef am y rhai a âi ymaith i weithio. Câi, fe gâi Dic Bugail groeso heno.

Aethant gydag ef i'r heol, a daeth Idris allan o'r drws nesaf. Yr oedd y stryd yn wag a thawel erbyn hyn ac yn wen dan olau lleuad. Curai carnau'r merlyn yn galed ar gerrig y ffordd fel yr arweinid ef i lawr yr allt.

"Tan fora Mawrth, Id," gwaeddodd Dic cyn mynd o glyw ac o olwg yng ngwaelod y rhiw. Yna neidiodd ar gefn y merlyn a chwifiodd ei law arnynt. Safodd y teulu yno'n gwrando ar sŵn y carnau'n cyflymu ac yn marw ar lyfnder y ffordd fawr. Fel y troent ymaith i'r tŷ, gwelent chwellath sinistr y Stiward Gosod yn dechrau dringo Tan-y-bryn. Byddai Dic ymhell o'i gyrraedd erbyn nos Fawrth, meddai Edward Ifans wrtho'i hun gyda boddhad.

Nodiadau[golygu]