Chwalfa/Yr Ail Flwyddyn Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Yr Ail Flwyddyn Pennod I Chwalfa

gan T Rowland Hughes

Yr Ail Flwyddyn Pennod III

PENNOD II

Eiddigedd o Ddic Bugail a wnaethai Idris braidd yn fyrbwyll. Llwyddasai Dic i gael tŷ mewn stryd yn ymyl Howel Street ym Mehefin, a chan na fwriadai ddychwelyd i'r Gogledd, anfonodd am ei wraig a'i blant a'i ddodrefn yn ddi-oed. Erbyn hynny, gweithiai'r ddau gyfaill gyda'i gilydd mewn tir caled a gallent yno ddefnyddio'u medr fel chwarelwyr ac ennill gwell cyflog nag fel labrwyr. Tyllu â chŷn a thanio a chlirio ysbwrial yr oeddynt, gan yrru "heding caled "-" lefel " yn eu hiaith hwy yn y chwarel- o un wythïen i un arall ryw dri chant o lathenni i ffwrdd. Edrychid arnynt fel gweithwyr arbennig tra oeddynt wrth y gorchwyl hwn a mwynhaent wyth awr yn lle naw awr a hanner o shifft. Teimlai'r ddau'n llawer hapusach yn awr.

O ddydd i ddydd fel y siaradai Dic am ei wraig Siân neu am un o'i blant, dwysâi eiddigedd Idris ohono a hiraethai fwyfwy am ei aelwyd ei hun. Dim ond dwywaith, pan oedd gartref tros y Nadolig ac yna tros y Pasg, y gwelsai ei faban Ifan, a anwyd ym Medi, ac er bod llythyrau Kate yn rhai aml a llawn, dyheai ei lygaid am wylio'r bychan yn tyfu a'i glustiau am glywed ei barabl di-eiriau. Yr oedd yn hapus iawn yn nhŷ William Jenkins, ond ychydig a welai ar ei hen bartner Bob Twm yn awr. Am ddau reswm: gweithiai hwnnw ar y shifft nos ers tro, a syrthiasai tros ei ben mewn cariad. Bob gyda'r nos, rhuthrai'r hen lanc tybiedig i weld ei "wejan."

Mehefin, Gorffennaf, Awst ond nid oedd argoel y deuai diwedd buan ar y streic. Câi Idris lythyrau oddi wrth ei dad a gyrrai Dan gopi o'r "Gwyliwr " iddo bob dydd Gwener. Dilynai'n eiddgar adroddiad y papur o'r areithiau yn y cyfarfod wythnosol, gan weld a chlywed Robert Williams a J.H." ac eraill ar lwyfan y Neuadd. Ond fel y treiglai'r wythnosau a'r misoedd ymlaen, ni thaniai ei ddychymyg wrth iddo ddarllen yr anerchiadau. Yr oedd yr arweinwyr mor ddiffuant ac mor benderfynol ag erioed, ond anodd oedd iddynt droi'r un geiriau yn fflam huodledd o Sadwrn i Sadwrn. Gwnaent ymdrech deg, yr oedd yn amlwg, a chaent amrywiaeth yn y cyfarfodydd drwy wahodd gwŷr fel Keir Hardie a Mabon ac aelodau blaenllaw o Undebau Llafur Lloegr iddynt, ond wedi un mis ar hugain o streic, nid hawdd oedd ymfflamychu. Erbyn hyn troesai brwdfrydedd yn gyndynrwydd, a'r sêl gynnar yn benderfyniad tawel. Aethai byddin allan i ennill buddugoliaeth, ond llithrai brawddegau fel " peidio ag ildio "a" sefyll yn gadarn i'r diwedd " yn amlach i'r areithiau yn awr. O du awdurdodau'r chwarel nid oedd ond tawelwch dwfn.

Yr oedd rhes o dai newydd yn cael eu hadeiladu uwchlaw Pentref Gwaith, a chawsai Idris addewid am un ohonynt. Byddai'r tŷ'n barod erbyn diwedd Medi, a gwyddai y neidiai eraill at y cynnig os dymunai ef gael gwared ohono a dychwelyd i'r Gogledd. Pan feddyliai am droi'n ôl i Lechfaen, gwyddai y byddai'n chwith ganddo ar ôl bywyd eiddgar, cyffrous, y De a'i bobl fercurial, gynnes, garedig. Bu'r gaeaf a aethai heibio yn addysg iddo. Pregethwyr mwyaf y genedl, darlithwyr gorau'r wlad, siaradwyr huotlaf gwleidyddiaeth, rhai o ddysgedigion enwocaf Lloegr, cantorion, actorion, gwŷr digrif-deuent oll i'r Cwm yn eu tro a thyrrai torfeydd i gapel neu neuadd i wrando arnynt. Ac mewn cymanfa ac eisteddfod ac oratorio, gwefreiddiai cân y bobl gerddgar hyn bob gwrandawr. Collai Idris hefyd y dadlau chwyrn yn y pwll, ynghylch Robert Owen a Karl Marx un ennyd a'r ennyd nesaf ynghylch rhagoriaethau W.J. Bancroft neu Gwyn Nicolls neu Dicky Owen neu eraill o wroniaid y bêl hirgron. Gwenodd wrth gofio bod Dic Bugail bellach mor ffyrnig â neb yn yr ymrafaelion hyn. Yn ffyrnicach weithiau, oherwydd wrth ddychwelyd yn fuddugoliaethus o Abertawe ym mis Mawrth, gorfoleddodd gymaint uwch darostyngiad Iwerddon nes i Jerry O'Driscoll benderfynu'n sydyn ei ddarostwng yntau. Ond chwarae teg i Jerry, fe gynorthwyodd i gario Dic adref o'r orsaf pan gyrhaeddwyd Pentref Gwaith.

"Wel, Id, mae'r amser yn mynd ymlaen, fachgan," meddai Dic yn yr heding un amser cinio yng nghanol Awst. "Un mis ar hugian bron 'rŵan, yntê?"

"Ia. Doedd neb yn meddwl y basa' hi'n para cyhyd. Mae hi'n o ddrwg arnyn' nhw yn Gwynfa' erbyn hyn, mae arna' i ofn, er bod 'Nhad a 'Mam yn trio swnio'n ddewr. A druan o F'ewyrth John tros y ffordd, a Cheridwen, 'i ferch o, mor wael."

"Mi wnaeth dy frawd Llew yn gall i fynd i'r môr, ond do?" "Do, am wn i, wir, a dim argoel setlo. Sut longwr wnaiff o, 'wn i ddim, ond mae o'n cael bwyd a thipyn o gyflog a gweld y byd. Mae'n rhyfadd meddwl am Llew ymhell dros y môr, fachgan."

"'Rwyt ti'n o bryderus ynghylch y llall, ond wyt?"

"Gwyn? Ydw', wir. Mae Kate yn 'i weld o'n llwyd ac yn dena' iawn ac yn deud 'i fod o'n cael poena' garw yn 'i gymala'. Mi fuo yn 'i wely am dros wythnos dipyn yn ôl."

Cryd cymala'?

"Ia, medda'r doctor. Mae llawar o blant yn diodda' oddi wrtho fo pan fyddan' nhw heb gael digon o fwyd maethlon. Mae Kate yn 'i hudo fo am bryd o fwyd i'r tŷ 'cw bob cyfla gaiff hi. 'Fuo fo 'rioed yn gry', wsti."

Be' mae'r Doctor yn 'i ddeud?

"O, mae o wedi ordro'r peth yma a'r peth arall iddo fo."

"Hy, gwaith hawdd ydi ordro."

"Na, chwara' teg iddo fo, mae Doctor Roberts yn dallt y sefyllfa ac yn hen fôi reit feddylgar."

'Ydi dy fam yn medru cael rhai o'r petha' i'r hogyn?"

"Ydi, y rhan fwya'. Sut, 'wn i ddim yn y byd. Mae'n rhaid 'u bod nhw'n hannar llwgu i fedru'u fforddio nhw."

"Ond mae dy frawd Dan yn medru helpu tipyn arnyn' nhw, ond ydi?"

"Y . . . ydi. Ydi, wrth gwrs. Ydi, debyg iawn. Ydi, mae Dan yn helpu tipyn."

"Pam wyt ti'n swnio mor . . . mor ffwndrus, Id?"

"Ynglŷn â Dan? O, Kate sy wedi cael y syniad i'w phen nad ydi o ddim yn helpu fel y dyla' fo. Mae hi a'r hogyn wedi ffraeo, mae arna' i ofn. Deud 'i fod o wedi dechra' yfad."

"Dan?"

"Ia. Ond efalla' mai codi bwganod mae Kate. Wedi'r cwbwl, mae o'n ifanc ac wedi'i siomi'n o arw wrth gael 'i dynnu o'r Coleg . . . a . . . a . . . ond dyna fo, mae Kate yn un go fyrbwyll 'i barn weithia'."

"Be' . . . be' wyt ti'n feddwl wnei di, Id?"

"Ynglŷn â mynd yn f'ôl i'r chwaral?"

"Ia.

"Mi arhosa' i nes bydd y tai newydd na'n barod cyn penderfynu. Os na cheir diwadd yr helynt erbyn hynny, yna troi'n Hwntw y bydda' inna', ac i goblyn â'r chwaral. Efalla' y daw rhwbath o'r cwarfod mawr ddiwadd y mis 'ma."

"Mae Huw 'Sgotwr a Wil Sarah am fynd i fyny i gael bod yn y cwarfod."

Ydyn', a'r hogia' sydd yn Nhre Glo. Mi fydd 'na gannoedd yno. 'Roedd Kate isio i minna' ddŵad. Ond mae'n well imi gadw pres y trên yn fy mhocad a'u defnyddio nhw i fynd i fyny i nôl y teulu yn nes ymlaen, os mai i hynny y daw hi."

"Ond . . . ond be' fedran' nhw wneud yn y cwarfod ddiwadd y mis?"

"'Wn i ddim." Agorodd Idris ei "jac " i yfed ac ysgydwodd ei ben yn araf." "Wn i ddim, wir."

"Pam maen' nhw'n gwneud cymaint o ffys yn 'i gylch o 'ta'?"

"Wel, fel y gwyddost ti, mae 'na ddigon o bobol yn beio'r Pwyllgor am beidio â symud i roi diwadd ar yr helynt. Ond gan fod yr awdurdoda' mor ffroenuchal ac yn gwrthod cyfarfod cynrychiolwyr na chanolwyr na neb, mae dwylo'r Pwyllgor wedi'u clymu."

"'Does 'na ddim ond un ffordd allan, ac 'rydw' i wedi deud hynny ar hyd y beit."

"A be' ydi honno?"

Mynd i'r chwaral yn un giang a llusgo pob Bradwr oddi yno a'u rhoi nhw tros 'u penna' yn Llyn Bach."

"Efalla' mai plismyn a milwyr fasa'n rhoi'r 'giang' yn y llyn, 'ngwas i. Ne' yn y jêl. Mi wyddost be' ddigwyddodd ddechra'r flwyddyn ar ôl i bobol dorri ffenestri a chodi twrw nos Calan. Cyn diwadd yr wsnos 'roedd 'na gant a hannar o blismyn a chant a hannar o soldiwrs, rhai ar draed, rhai ar geffyla', yn Llechfaen. Na, 'ddaw hi ddim y ffordd yna, Dic."

"Ddaw hi ddim drwy gynnal cwarfodydd a deud yr un peth drosodd a throsodd chwaith. Gwneud rhwbath, nid malu awyr, sy isio."

"Dyna'n hollol be' mae'r rhai sy'n beirniadu'r Pwyllgor yn ddweud . . . Wel, gwneud be'?"

"Stopio'r Bradwyr 'na rhag mynd at 'u gwaith. Petawn i yno mi faswn i'n mynd â byddin o ddynion, pob un â fforch ne' rwbath yn 'i law, i lôn y chwaral un pen bora . . .

"A'r bora wedyn mi fasa' 'na gatrawd o filwyr yn saethu'r ffyrch o'ch dwylo chi. Ac mi fasa' Dic Bugail a llu o rai tebyg, pe baen' nhw'n fyw, yn y jêl cyn cinio. 'Waeth iti fod yn onast ddim, 'doeddat ti fymryn callach ar ôl colli dy dempar 'Dolig."

"Ond mi ddois i'n rhydd, ond do?"

"Mi gollaist ddyddia' o waith i lawr yma, 'ngwas i."

Do, ond . . . Diawch, 'tawn i wedi cael gafael ynddo fo . . . "

"Lwc na chest ti ddim, ne' yn y jêl y basat ti hyd heddiw efalla'. "

At un hwyr yn niwedd y flwyddyn y cyfeiriai Idris. Ymunodd Dic, a oedd gartref tros y Nadolig, â'r dyrfa arferol a âi i gyfarfod y plismyn a'r Bradwyr ar eu ffordd o'r chwarel. Yn sydyn, gwelodd Twm Parri, a gadawodd y dorfi ofyn iddo pa hwyl a oedd arno. Troes hwnnw fel un a welsai ysbryd, a dihangodd am ei fywyd dros y clawdd ac ar draws cae yn ei ôl tua'r chwarel. Gafaelodd dau blisman yn Dic, ac er y bwriadai droi'n ei ôl i'r De y bore wedyn, bu raid iddo aros gartref am bedwar diwrnod arall, i fynd o flaen yr Ynadon. Dim ond gofyn yn garedig sut yr oedd yr hen Dwm a wnâi, meddai, a gwnaeth ei wyneb diniwed argraff ddofn ar yr Ynadon.

"Fydd dy dad yn siarad yn y cwarfod, Id?"

"Fe fydd yn cynnig y prif benderfyniad fel arfar, mae'n debyg."

"Pa benderfyniad fydd hwnnw tybad?"

"I sefyll yn gadarn, mae'n siŵr. Gan fod cymaint o feirniadu ar y Pwyllgor ac o siarad yn 'i gefn o, mae'n bryd cael barn y dynion fel corff o weithwyr unwaith eto. Fe fydd cannoedd gartra' ar gyfar y 'Steddfod Genedlaethol, ac os oes gan rai ohonyn' nhw ryw gynllun i'w gynnig, wel, dyma gyfla iddyn nhw. Hawdd iawn ydi grwgnach yn slei a beio'r Pwyllgor. Dyna oedd Huw 'Sgotwr yn 'i wneud y noson o'r blaen ar y ffordd 'na, ond pan ofynnis i iddo fo be' wnâi o i roi terfyn ar yr helynt, mi gaeodd 'i geg a throi'r stori."

"Y coblyn ydi bod y Bradwyr yn cynyddu. Chwe chant o'r tacla' 'rwan, yntê?"

"Ia, tua chwe chant. Ond 'dydi 'Nhad ddim yn swnio'n bryderus iawn, ddim yn meddwl yr ân' nhw lawar yn fwy. Ac er bod y Bradwyr gymaint ddwywaith ag oeddan' nhw, cnwd bach o lechi maen' nhw'n droi allan o'r chwaral. 'Roedd y rhan fwya' o'r rhai aeth yn ôl yn cloffi rhwng dau feddwl ers tro."

"Ond mae chwe chant yn dorf go fawr, Id. 'Faint sy yn Llechfaen?

"Dim ond rhyw gant, yr ydw' i'n dallt. Amball i le bach fel Llan Iolyn a Thre Gelli sy waetha', yn ôl pob hanas. Mae 'na dros gant yn Nhre Gelli, bron bawb yn y lle, am wn i."

"Dros gant, 'oes 'na?"

Poerodd Dic yn ffyrnig ac yna sychodd ei wefusau â chefn ei law, gan anghofio mai mewn pwll glo ac nid yn y chwarel yr oedd. "Dylanwad Stiwardiaid a rhai fel John Huws Contractor sy'n byw yno. Petawn i yn Llechfaen, mi faswn i'n mynd â byddin i lawr i Dre Gelli un noson a . . .

"Tyd yn dy flaen i glirio'r rwbal 'ma."

Soniai Idris a Dic Bugail lawer am y cyfarfod fel y nesâi diwedd Awst, ac er y ceisiai Idris swnio'n ddifater yn ei gylch, hyderai'n ddistaw bach y tarddai rhyw gynllun newydd ohono. Y gwir oedd bod ei hiraeth am ei gartref a'i deulu ac am y chwarel yn cryfhau bob dydd, ac er na welai, yn ei funudau callaf, lygedyn o obaith yn y cyfarfod, fe'i twyllai ei hun yn freuddwydiol pan feddyliai am Kate a'r plant a'r tŷ yn Nhan-y-bryn. "Ond be' fedran' nhw wneud?"-curai cwestiwn Dic yn ddidrugaredd yn ei feddwl a gwyddai mai ynddo ef yr oedd calon y gwir. Ond efallai . . . a chyn cysgu'r nos, gwenai'n dawel wrth ddychmygu ei weled ei hun yn dringo Tan-y-bryn yn yr hwyr ac Ann a Gruff yn rhedeg i'w gyfarfod a Kate ar ben y drws yn ei ddisgwyl. Efallai . . .

Rai dyddiau cyn y cyfarfod, derbyniodd lythyr oddi wrth ei dad yn rhoi iddo'r penderfyniad a gynigiai ef ar ran y Pwyllgor—eu bod yn gofyn i'r awdurdodau a fyddent yn fodlon i'r dynion geisio gwasanaeth Mr. Balfour, y Prif Weinidog, neu Arglwydd Rosebery, neu'r ddau i gymodi rhwng y pleidiau. "Hy," meddai Dic Bugail yn y pwll drannoeth, "'tasa' r Bod Mawr 'I Hun yn barod i drio, 'wyt ti'n meddwl y basa' rhai fel Price-Humphreys yn rhoi croeso iddo? Mi fedrwn ni edrach ar ôl ein busnas yn iawn ein hunain, thenciw,'—dyna fasa' Fo'n gael ganddyn' nhw, 'ngwas i. Mi fasa'n well o lawar iddyn nhw fartsio o'r cwarfod hefo ffagla' a rhoi tŷ pob Bradwr ar dân."

Pan gyrhaeddodd " Y Gwyliwr," agorodd Idris ef yn eiddgar, ond siomwyd ef ar unwaith pan ddechreuodd ddarllen hanes y cyfarfod. "Prin y gellir dweud," meddai'r frawddeg gyntaf oll, "i'r cyfarfod hir-ddisgwyliedig yn Llechfaen newid dim ar y sefyllfa." A gwyddai fel y darllenai ymlaen mai gwir y gair. Rhoes Robert Williams unwaith eto grynodeb clir o'u ceisiadau-hawl i'w Pwyllgor, cael y dynion a drowyd ymaith wedi'r streic ddiwethaf yn ôl i'r chwarel, defnyddio'u hawr ginio heb ymyrraeth, sicrwydd cyflog, dileu trefn y contracts," gwell had yn ymddygiad amryw o'r swyddogion, mynd yn ôl gyda'i gilydd pan ddeuai terfyn yr helynt-a darllenodd bellebron o bob rhan o'r De ac o Raeadr a Lerpwl ac Ashton-in-Makerfield a Manceinion a lleoedd eraill, pob un yn mynegi penderfyniad cryf y dynion ar wasgar a'u ffydd yn noethineb y Pwyllgor. Yna, wedi i amryw areithio, rhai yn ddwys a phwyllog, rhai yn uchel a thanbaid, cyflwynodd Edward Ifans y prif benderfyniad a phasiwyd ef yn unfrydol. Canwyd " O fryniau Caersalem . . . " gydag arddeliad, ac yna troes y dorf yn dawel tua'u cartrefi. Gwelai Idris ei dad yn dringo Tan-y-bryn, a'i ysgwyddau'n crymu tipyn fel pe dan faich ei bryder, a'i wyneb tenau, llinellog, yn welw wedi i gyffro'r cyfarfod fynd heibio. A gwelai ei fam, cyn gynted ag y clywai hi sŵn troed ei gŵr tu allan i'r drws, yn tywallt dŵr ar y tebot ac yn brysio i dynnu'r gadair freichiau at ben y bwrdd. Eisteddent wedyn wrth eu swper plaen, a thu ôl i'w siarad ac i'w meddyliau, mewn huodledd mud, y cadeiriau gwag, heb chwerthin Megan na myfyrdod Dan na pharabl bachgennaidd Llew. Aethai Gwynfa" yn bur dawel erbyn hyn.

Cyrhaeddodd "Y Gwyliwr" y Sadwrn ar ôl y cyfarfod, a darllenodd Idris ef y prynhawn hwnnw. Yna, ar ôl te, trawodd y papur yn ei boced i fynd ag ef i dŷ Dic Bugail. Yr oedd ar gychwyn pan alwodd Jerry O'Driscoll.

"Well, Idris, my boyo, if it's a house ye're wantin', I've got it for ye."

"Oh! Where?"

"Next door to me. Pleasant Row' they call it, the perishin' liars. Divil a bit pleasant it is, but you can't go pickin' and choosin' these days, can you now? Ike James, the landlord, is a great pal of mine, and if it's Jerry O'Driscoll that's askin' him for the house, then it's Jerry O'Driscoll will be havin' it."

"But I've been promised one of the new houses on the Twyn, Jerry, and they'll be ready by the end of the month." Chwarddodd y Gwyddel. Begorra, at the rate they're goin' at 'em, it's by the Christmas after next they'll be finished. Workin' on the school playground down on the old Common, that's what I saw those builders doin' this week. Left the new houses to finish themselves off. So if you want a place till they're ready, Idris my boy, you say the word. Don't you be rushin' with your answer now. Take your time to think over it. I'll nip round to your heading Monday snap-time. Ay, Ike and me are as close as twins."

Diolchodd Idris iddo, ac aeth Jerry ymaith i gyfarfod Ike James ac eraill yn y Crown.

"Na'n wir, Idris," meddai Myfanwy Jenkins pan soniodd ef am y peth wrthi. "Mae'n well i chi aros ticyn eto nes bydd y tai newydd wedi'u cwpla'. Mae Pieasant Row yn rhy agos i'r hen afon 'na."

Ac ategwyd ei geiriau gan ei gŵr. "'Wy'n cofio'r afon 'na'n cwnnu un gaea', meddai, ac yn llifo mewn i dai Pleasant Row. 'Odych chi'n cofio, Myfanwy? Y flwyddyn ganwyd Ieu oedd hi, ontefa?"

"Ond dim ond am ryw fis ne' ddau y baswn i'n byw yno," dadleuodd Idris. "Mi fydda' i'n symud i'r tŷ newydd cyn gynted ag y bydd o'n barod. 'Roedden' nhw wedi addo'u gorffen nhw cyn diwadd y mis 'ma, ond, yn ôl Jerry, maen' nhw'n gweithio ar ryw iard-ysgol yr wsnos yma. Pam goblyn nad ân nhw ymlaen â'r gwaith?"

Caffed amynedd ei pherffaith waith," meddai William Jenkins. "Pidwch â mynd i Pleasant Row, Idris."

"Ddim am ryw fis ne' ddau?"

"Ddim o gwbwl. Gwedwch chi fod y tai newydd heb 'u cwpla' am dri mis arall a bod llifogydd yn dod i'r afon 'na . . . " Ie, wir, Idrus," meddai Mrs. Jenkins. "Ac 'wy' am i'ch gwraig chi gael argraff dda o Bentref Gwaith pan ddaw hi lawr. Mae'n bert lan ar y Twyn, ond ddim wrth yr afon 'na. 'S mo fi'n snob, ond 'charwn i ddim byw ar bwys rhai o'r bobol sy yn Pleasant Row."

Cytunodd Idris ac addawodd mai nâg a roddai i Jerry O'Driscoll ddydd Llun. Yna brysiodd i dŷ Dic Bugail i roi'r copi o'r "Gwyliwr" iddo. Bu raid iddo aros yno i sgwrsio a swpera, a phan soniodd wrthynt am y tŷ yn Pleasant Row, cynghorai Dic a Siân ef i wrthod y cynnig ar unwaith. Cyn troi tuag adref, aeth gyda'r fam a'r tad ar flaenau'i draed i fyny'r grisiau i gael cip ar y plant yn eu gwelyau. Injan' oedd popeth gan y lleiaf, Huw, a chysgai ef â'i fraich am un fawr bren. Gwlithodd llygaid Idris wrth syllu arno: cofiai mai felly bob nos am fisoedd lawer y cysgasai ei fachgen yntau, Gruff, ac nad oedd wiw ei roi yn ei wely heb ei beiriant pren.

Yn lle mynd yn syth i Howel Street, crwydrodd yn hiraethus dan olau'r lloer i fyny'r Twyn am dro. Oedodd wrth y tai newydd ac yna mentrodd drwy ddrws di-ddrws y pedwerydd. Oedd, yr oedd llawer o waith arno etc ac ni fyddai'n barod am wythnosau. Twt, efallai mai codi bwganod yr oedd William Jenkins a'i wraig. Llifogydd? Hy, y flwyddyn y ganwyd Ieuan oedd hynny, ac yr oedd ef yn un ar bymtheg erbyn hyn. Y bobl? Wel, gwir fod yr hen Jerry'n un garw a swnllyd, ond petai gan bawb galon fel ei galon ef, 'fuasai'r hen fyd 'ma ddim yn un anodd byw ynddo. Yr awyrgylch? Fe ddeallai Kate mai dim ond am ysbaid y byddent yno, a gallai hi droi tŷ, hyd yn oed yn Pleasant Row, yn ddarn o Baradwys.

Ond fel y cerddai yn ôl i lawr y Twyn, gwanhâi'r dadleuon hyn ym meddwl Idris. Ia, William Jenkins a'i wraig a oedd yn iawn ni ddylai Kate a'r plant gael eu siomi ym Mhentref Gwaith drwy fyw, hyd yn oed am fis, mewn stryd dlawd a swnllyd fel Pleasant Row. Penderfynodd feithrin amynedd.

Bore Llun yn y gwaith yr oedd Dic yn fwy huawdl nag arfer. Darllenasai hanes y cyfarfod yn Llechfaen ac edrychai braidd yn wawdlyd ar bopeth ond y prif areithiau.

"Hy," meddai, "mae'n ddigon hawdd i Now'r Wern weiddi am sefyll yn gadarn. Mae o'n cael arian da tua Lerpwl 'na a'i wraig o'n byw hefo'i rhieni, heb orfod talu dimai o rent iddyn nhw. Mae'n traed ni ar y graig,' medda' fo. Craig o arian, Id, os ydi'r hyn glywis i am Dafydd Ellis, 'i dad yng nghyfraith o, yn wir. A dyna ti Harri Bach Pen Lôn, yr hen geg fawr. Mi fuo'n llyfu ac yn cynffonna isio cael 'i wneud yn farciwr cerrig pan oedd o ym Mhonc Boni, ond pan fethodd o, dyma fo'n troi'n rebal cegog. Sour grapes, 'ngwas del i, sour grapes. A dyna ti Jac Sir Fôn . . . "

"Ddarllenaist ti areithia' Robat Williams a 'J.H.' a 'Nhad?" gofynnodd Idris.

"Do, debyg iawn, ond . . .

"Ac un Ifan Pritchard?"

"Do, yr oedd un yr hen Ifan yn fendigedig, ond oedd? Ond . . .

"Ac un Richard Owen, Fron?"

"Do. Dyn da ydi Richard Owen, yntê? Ond mae rhyw dacla' cegog fel Harri Bach Pen Lôn yn fy ngyrru i'n gacwn."

"Sylwada'r lleill sy'n bwysig, Dic. Dynion tawal a gwaelod ynddyn' nhw, fel yr hen Ifan Pritchard a Richard Owen, sy'n ymladd dros egwyddor fawr-urddas gweithiwr fel gweithiwr ac fel dyn. A thra bydd rheini'n sefyll yn gadarn, mi fedrwn gymryd sŵn rhai fel Harri Pen Lôn am 'i werth. Petawn i'n ddyn rhydd, heb wraig na phlant, mi faswn i'n gyrru hannar fy nghyflog bob wsnos i'r Gronfa ar ôl darllan anerchiad syml yr hen Ifan. Ac mi fydd isio bob dima' arnyn' nhw cyn hir, mae arna' i ofn. Efalla' y bydd raid iddyn' nhw ddal i ymladd am fisoedd eto, ac fe ddaw'r gaea' ar 'u gwartha' nhw. yn fuan iawn."

"Petawn i'n ddyn rhydd, mi faswn i'n malu ffenestri pob Bradwr yn y lle ac yn dengid i 'Mericia ne' rwla wedyn."

Bu tawelwch rhyngddynt am awr neu ddwy, ac yna daeth y "shotsman" heibio i danio'r tyllau a dorrwyd ganddynt. Eisteddodd y ddau wedyn ar ochr yr heding i fwyta cyn clirio'r ysbwrial yn y prynhawn.

"Diawcs, mae gan Dafydd 'cw feddwl ohono'i hun y dyddia' yma, fachgan," meddai Dic fel yr agorai ei dun bwyd.

"O?"

"Mae o yn yr Ysgol Fawr, yn Standard Wan, 'rŵan ac yn goblyn o fôi yn 'i dyb 'i hun."

"Ydi, mae'n debyg." Yr oedd tôn Idris braidd yn sych. Dringasai Gruff hefyd i'r Ysgol Fawr yn Llechfaen, ond ni welsai ei dad mohono ar ôl i hynny ddigwydd.

""Rydan ni wedi bod yn lwcus hefo'n cymdogion, mae'n rhaid imi ddeud," meddai Dic ymhen ennyd.

"O?"

"Do, wir, fachgan. Mae Mrs. Price am ofalu am Huw ddydd Sadwrn."

"I be'?"

""Ddeudis i ddim wrthat ti? Mae Siân a finna' am fynd â'r ddau arall ar y sgyrsion i Gaerdydd. Ac os bydd hi'n braf, efalla' yr awn ni ar un o'r llonga' 'na sy'n croesi'r Sianel. Mae Siân wrth 'i bodd i lawr yma, fachgan. A'r plant hefyd o ran hynny." Parablodd Dic ymlaen yn ddifeddwl yn y tywyllwch, heb weld yr ing yn wyneb ei gydweithiwr. Ac os bydd hi'n bwrw ddydd Sadwrn, mi awn ni i'r sioe fwystfilod 'na sy yng Nghaerdydd yr wsnos yma. Mae Dafydd yn sâl isio cael reid ar yr eliffant . . . Hylô, pwy ydi hwn?"

Nesâi lamp drwy'r heding: cryfhâi, hefyd, lais ei pherchennog.

The minshtrel bho-oy to the warr has gone . . .

"Jerry," meddai Dic.

"Well, Idris, my boyo, have ye made up your mind?" gofynnodd y cawr pan ddaeth atynt.

Yes, Jerry, Ive thought it over."

"Good. I'll be seeing Ike James to-night."

"Tell him I'd like to take the house for a month or two."

"Ond, Id, yr oeddat ti'n deud neithiwr . . .

"Fy mhotas i ydi hwn, Dic. If he'll let me have it, Jerry."

"If? Yours it is, my boyo. Ike and me are butties, and if it's his pal Jerry that's askin' him a favour, it wouldn't be in him to say 'No.'"

"Ond gwranda, Idris . . ."

Right, Jerry. When will you let me know?"

"Yli, Id, 'dydi o ddim o 'musnas i, ond . . .

To-night, Jerry?"

Ay, it's call round your place on my way home to-night I will to let you know it's all settled."

"Yli, Id, 'wyt ti'n siŵr dy fod di'n gwneud y peth doeth? Neithiwr yr oeddat ti'n . . .

"And sure 'tis the wise thing ye're doin', " meddai Jerry, fel petai'n deall geiriau Dic yn reddfol. "Clane lost ye

must feel without your wife and children."

Tawedog iawn fu'r ddau chwarelwr wedi iddynt ailgydio yn eu gwaith. Sylweddolai Dic mai ei glebran ef a oedd wrth wraidd penderfyniad sydyn Idris, a chyn hir aeth y rhawio diymgom yn fwrn arno.

"Idris," meddai, a dram yn llawn a'r haliar a'i geffyl heb gyrraedd i'w dwyn ymaith, "mae'n ddrwg gin' i, 'r hen ddyn."

'Drwg? Am be'?"

Na faswn i wedi rhoi cwlwm ar y tafod 'ma sy gin' i. Malu am Siân a'r plant, a thitha'n hiraethu am Kate a Gruff ac Ann a'r baban. Ond ydw' i'n hen lembo gwirion? Gwranda, Id, os newidi di dy feddwl mi a' i i dŷ Jerry heno i ddeud wrtho fo."

"Paid â dychmygu petha', Dic. Yr ydw' i'n falch o gael y tŷ am dipyn, 'ngwas i."

Ond neithiwr yr oeddat ti'n . . ."

Dyma fo Jim yn dwad." A chychwynnodd Idris i gyfarfod yr haliar, fel petai'n falch o esgus i dorri'r sgwrs yn fyr.

Cyn diwedd Medi yr oedd Idris a'i deulu yn y tŷ yn Pleasant Row, ac er bod y stryd yn un dlawd a rhai o'r cymdogion yn uchel eu sŵn, yr oeddynt yn hapus gyda'i gilydd unwaith eto. Nid oedd Pleasant Row yn enw da ar yr heol; yn wir, hawdd oedd credu'r farn gyffredin ym Mhentref Gwaith mai gwatwareg greulon oedd ei galw felly. Dringai'r deg ar hugain o dai yn un rhes serth o'r afon i fyny i lethr foel, farworllyd, a syllai ffenestri bychain y ffrynt ar y tip a'r lofa uwchben. Pan chwythai gwynt cryf o gyfeiriad y pwll, doeth oedd cadw'r drysau a'r ffenestri ynghau hyd yn oed ym mhoethder haf, ac ni hongiai gwraig ddillad ar y lein ar y dyddiau hynny. Tai culion oeddynt-dwy ystafell, y gegin a'r parlwr, un bob ochr i'r drws ffrynt, ac ystafell wely uwchben pob un-a chan mai tŷ Idris oedd yr isaf, nid oedd ond tamaid o ardd ac yna lwybr ac wedyn ychydig lathenni o dir cleiog rhwng ei dalcen a'r afon. Ceisiai'r awdurdodau gadw'r clwt hwnnw'n glir rhag y tuniau a'r potiau a'r ysbwrial a deflid yn gyfrinachol i'r afon, ond pan wneid ymholiad weithiau, codai pawb eu haeliau mewn diniweidrwydd herfeiddiol.

Buan yr edifarhaodd Idris am ddwyn ohono'i wraig a'i blant i Pleasant Row. Y drws nesaf iddynt, trigai Jerry a'i wraig enfawr, Molly, a'u haid o blant. Pa faint oedd nifer y plant, ni wyddai Idris yn iawn—deuddeg, yn ôl Jerry, ond a barnu oddi wrth eu sŵm, yr oeddynt yn ddeugain o leiaf-ac ym mh'le y cysgai'r fath genfaint mewn tŷ mor fychan a oedd yn ddirgelwch i'r gymdogaeth oll: rhoi eu hanner allan efo'r gath bob nos a wnâi Molly, yn ôl Jim yr Haliar. Ambell noson, rhwng rhuadau Jerry ac ysgrechau'i wraig a gwawchiau a nadau'r plant, yr oedd y sŵn yn fyddarol, ac weithiau, pan na fyddai'r tad na'r fam yn sobr iawn, câi'r ddau ddifyrrwch yn taflu darnau o'r dodrefn at ei gilydd. Wedi tawelwch Tan-y-bryn, yr oedd y lle hwn fel Bedlam i Kate.

Prif adloniant y gwragedd oedd clebran, a threuliai Molly O'Driscoll, er enghraifft, y rhan fwyaf o'i dydd ar ben ei drws neu o dŷ i dŷ yn rhoi'r byd a'r betws yn eu lle. Yn eiddgar am fod yn gwrtais a chyfeillgar ymhlith ei chymdogion newydd, gwrandawodd Kate arni am ddwy awr ar ddau o'r boreau cyntaf, ond wedi hynny dangosodd fod yn well ganddi fynd ymlaen â'i gwaith na hel straeon. O, merch ffroenuchel, ai e? meddai Molly wrthi'i hun, ac aeth ymaith i gyhoeddi'r newydd wrth rai o'i chyfeillion. Pa bryd y câi'r Wyddeles a'i thebyg amser i baratoi bwyd i'w thyaid o blant ac i'w gŵr pan ddôi ef adref o'r gwaith, ni allai Kate ddyfalu: yr oedd hi ar ben y drws neu'n clepian wrth wal y cefn neu yn nhŷ rhywun o fore tan nos. Nage, tan yr hwyr, oherwydd âi hithau, fel Jerry, yn bur rheolaidd i'r Crown, gan adael y plant ieuangaf yng ngofal y rhai hynaf.

Ond er y llwch a'r blerwch a'r sŵn i gyd, yr oedd Kate yn hapus. Galwai Siân, gwraig Dic Bugail, a Myfanwy Jenkins a rhai o wragedd y capel yn aml, a hoffodd bobl garedig Pentref Gwaith ar unwaith. Buan y dysgodd gadw tŷ i lowr yn hytrach nag i chwarelwr, a chwarddai Martha Ifans yn Llechfaen wrth ddarllen ei llythyrau am oruchwyliaeth y "twbyn" a phethau tebyg. Unwaith y caent eu dodrefn i mewn i'r tŷ ar y Twyn, gwyddai Kate y byddai hi a'i theulu ar ben eu digon. Ó, am gael dianc o olwg ac o aroglau'r afon fudr gerllaw!

Yna, yng nghanol Hydref, daeth y glaw.

"Gobeithio nad ydi hi ddim fel hyn yn y Sowth," meddai Martha Ifans ddydd ar ôl dydd fel y syllai ar y glaw yn ymdywallt tros Lechfaen, "a nhwtha'n byw mor agos i'r hen afon 'na."

"O, y mynyddoedd 'ma sy'n tynnu'r glaw," meddai ei gŵr i'w chysuro.

Ond yr oedd yr un fath ym Mhentref Gwaith, a thros ddiwedd yr wythnos honno taflai Idris a Kate lygaid pryderus at yr afon, a godai'n gyflym. Dydd Gwener a dydd Sadwrn a dydd Sul, tywalltai'r glaw i lawr yn ddi-baid, ac erbyn nos Sul yr oedd y dŵr tros y clwt o dir rhwng y tŷ a'r afon a thros y rhan fwyaf o'r ardd. Penderfynodd Idris nad âi i'r gwaith drannoeth, ond peidiodd y glaw yn y nos a chiliodd y llif o'r ardd.

"Yr ydw' i'n meddwl yr a' i i'r pwll wedi'r cwbwl, Kate," meddai Idris pan gododd. "Mae'r awyr yn ola' uwch y cefn heddiw. A mynd i lawr yn gyflym y mae'r afon." Bu ef a Dic yn tyllu'r graig am deirawr, ac yna taniwyd y tyllau gan y " shotsman." Wedi iddynt lenwi'r ddram a safai gerllaw â'r ysbwrial, daeth yr haliar i'w dwyn hi ymaith ac i roi iddynt un wag yn ei lle."

'Dydi hi ddim yn bwrw i fyny 'na, Jim, 'ydi hi? " gofynnodd Idris iddo.

Bwrw! Yn 'i harllwys hi, bachan!"

"Sut y gwyddost ti?

"Shwd y gwn i!" Chwarddodd yr haliar, heb sylwi ar y pryder yn llais Idris.

Ia, sut y gwyddost ti?" Cydiodd y chwarelwr yn ffyrnig yn ei fraich.

Hei, gan bwyll, Idris, bachan! Beth sy'n bod, w?"

"Sut y gwyddost ti 'i bod hi'n bwrw? Dwed wrtha' i, Jim, dwed wrtha' i."

Shwd y gwn i!" Daliodd yr haliar ei lamp uwch y ddram wag disgleiriai'r gwlybni dan y llewych.

"Ers faint mae hi'n bwrw?"

"Ers dwyawr, siŵr o fod. 'Nawr gad weld 'nawr. Pan on i'n mynd â'r ddram gynta' i Dai Cardi . . . "

Ond gafaelodd Idris yn ei lamp a chychwyn ymaith drwy'r heding. 'Rydw' i am ofyn caniatâd y fireman i fynd adra', Dic," galwodd o'r tywyllwch.

Pan gyrhaeddodd Pleasant Row, gwelai i'r dŵr godi tros yr ardd eto, a llifai yn awr i mewn i'r tŷ. Yr oedd y plant yn y llofft a Kate wrthi'n brysur yn ceisio achub matiau a dodrefn y gegin a'r parlwr rhag difrod.

"Rwan, Kate, i'r llofft 'na â chdi. Mi ofala' i am betha' i lawr yma."

"Ond mae'n rhaid iti gael bathio a newid a bwyta gynta', Idris. Mae gin' i ddigon o ddŵr poeth, ond yn lle y medri di osod y twbyn, dyn a ŵyr."

"Mi wna' i'n iawn os ei di i'r llofft at y plant. 'Ydyn' nhw wedi dychryn?"

"Dychryn! Maen' nhw wrth 'u bodd. Yr hwyl fwya' gafodd Ann a Gruff erioed!"

"Gorau'n y byd. Ond dos di i'r llofft, a thyn y 'sgidia' a'r 'sana' 'na ar y grisia'."

Ond . . . "

"Paid â bod yn styfnig, 'r hen gariad. Cael annwyd wnei

CHWALFA

143 di os arhosi di i lawr yma. Neu rwbath gwaeth efalla'. Dos, Kate bach, dos, 'rŵan." Aeth Idris ati wedyn i ysgubo'r dŵr allan ac i wthio sachau a matiau yn erbyn y drysau. Yna ymolchodd orau y gallai, ac wedi newid, sychodd goed tân a glo ar y pentan cyn eu cludo i'r llofft. Tra goleuai Kate y tân, âi yntau i lawr i nôl tegell a thebot a llestri a bwyd. Ceisiai gofio am bopeth ar y siwrneiau hyn, ond bu raid iddo fynd i lawr yn amlach nag y bwriadai. Cyn hir berwai'r tegell ar grât y llofft, ac eisteddodd y teulu i fwyta'u cinio, y tad a'r fam wrth fwrdd bychan, Ann a Gruff ar y llawr.

"'Rargian, hwyl, yntê!" meddai Gruff, gan gerdded i'r ffenestr â brechdan fawr yn ei law.

"Wel, ia, fachgan," chwarddodd Idris. "Dy dad yn cael dŵad adra'n gynnar o'r pwll a chditha'n cael 'sgoi'r ysgol, yntê, 'r hen ddyn? Mi gawn ni chwara' hefo'r injan hyd y llawr 'ma ar ôl bwyta, on' cawn?"

"Mae hi yn y gegin. 'Ga' i fynd i'w nôl hi, Tada?"

Na, mi a' i, 'ngwas i."

"O gadwch i mi fynd, imi gael cerddad drwy'r dŵr."

Yr oedd y llif dros ris cyntaf y grisiau erbyn y prynhawn a thros yr ail ris erbyn amser swper. Ychydig a gysgodd Kate ac Idris y noson honno, ond gwrando'n ofnus ar y glaw didostur a dyfalu pa mor uchel oedd y dŵr ar y llawr islaw. Pan syrthiodd Kate i gysgu o'r diwedd, breuddwydiodd ei bod hi a'i baban yn ymdrabaeddu mewn llaid drewllyd ac yn suddo'n is ac yn is iddo bob ennyd, yn sŵn chwerthin gwatwarus Molly O'Driscoll a holl wragedd a phlant y stryd. Deffroes o'r hunllef yn chwys i gyd, a gwelai fod golau cyntaf y wawr yn y ffenestr. Cododd a thynnu'r llenni.

"Idris! Mae'r glaw wedi peidio!"

"Diolch i'r nefoedd am hynny. Mi a'i i lawr i weld pa mor uchal y mae'r dŵr."

Gwisgodd yn frysiog ac aeth i ben y grisiau. Codai'r aroglau fel mwg bron o'r dŵr islaw: yr oedd mor gryf nes bod llygaid Idris yn chwilio'n reddfol amdano, gan dybio y gallent ei weld. Er i'r glaw beidio, ni chiliasai'r llif, a chyrhaeddai yn awr i ganol y trydydd gris. Aeth Idris drwyddo i gludo glo a choed tân i'r llofft ac i lawr wedyn i lenwi'r tegell ac ymofyn bwyd. Ai drwy'r dŵr yn droednoeth wedi torchi'i lodrau, a phob tro y dychwelai i bedwerydd gris y grisiau, sychai'i draed a'i goesau â hen liain cyn dringo'n ôl i'r llofft. Önd cyn hir byddai raid iddo fynd allan i nôl bara a llefrith ac angenrheidiau eraill.

A'r stryd mor serth, dim ond y ddau dŷ isaf, un Idris ac un Jerry, a orlifwyd. Aeth Jerry at ei waith fel arfer, a gyrrodd Molly y rhan fwyaf o'i phlant i'r ysgol drwy eu gwthio fesul un mewn twbyn o waelod y grisiau i'r heol. Gan fod amryw o gymdogion yn ei gwylio, mwynhâi'r ddynes enfawr y gorchwyl yn rhyfedd a gwaeddai sylwadau doniol ar ei theithiau yn ôl a blaen. Yn wir, pantomeim oedd y cwbl i Molly, ac y mae'n bur debyg na theimlai'r tŷ lawer yn futrach yn awr na chynt.

Araf iawn, oherwydd ambell gawod drom, fu enciliad y llif, a chaethiwyd y teulu yn y llofftydd am bedwar diwrnod hir. Hiraethai Ann a Gruff am gael mynd allan i chwarae, ac ar y trydydd prynhawn, sleifiodd Gruff i lawr y grisiau ac i'r stryd. A'i 'sanau a'i esgidiau'n wlyb, fe'i teimlai ei hun yn dipyn o arwr ymhlith y plant eraill, a dangosai ei wrhydri drwy gerdded yn dalog yn ôl i'r dŵr. Ni ddeallai pam na safai'i dad hefyd i edmygu'r perfformiad yn lle ei gludo'n ddiseremoni i'r tŷ a'i dafodi am yr orchest.

"Yr ydw' i'n gobeithio nad ydyw'r gwlybaniaeth a'r oerni a'r arogl afiach wedi amharu ar iechyd Kate. 'Dydi hi ddim yn gryf, fel y gwyddoch chi, ac mae hi dan annwyd trwm yr wythnos yma . . . " Darllenodd Martha Ifans y darn yna o lythyr Idris drosodd a throsodd, gan daro'r ddwy ddalen yn ol ar y silff-ben-tân gydag ochenaid bob tro. "Piti iddyn' nhw fynd i'r Sowth 'na," meddai droeon wrth ei gŵr. Ond dyna fo, be' arall wnaen' nhw a'r hen streic 'ma'n para mor hir? Gobeithio'r annwyl na fydd Kate ddim gwaeth, yntê, Edward? Mi fasa'n ofnadwy 'tasa' hi'n mynd yn wael fel Ceridwen druan, tros y ffordd."

"O, mae'r dŵr wedi mynd i lawr 'rŵan, medda' fo, Martha."

"Ydi a gadael 'i faw a'i ddrewdod ar 'i ôl yn y tŷ a thros ardd. Mae arna' i ofn yn fy nghalon y bydd Kate ne' Ifan bach yn cael rhyw afiechyd mawr. Gresyn na fasa' Idris wedi aros i'r tŷ newydd fod yn barod."

"Maen nhw'n symud yno ymhen 'thefnos, medda' fo, cyn gyntad ag y bydd y plastar wedi sychu ar y walia'. "

Damp fydd y tŷ hwnnw hefyd, 'gewch chi weld. O'r annwyl, piti na chaen' nhw ddŵad yn ôl i Dan-y-bryn i mi gael bod wrth law i helpu Kate druan."

"Mi fedran' droi'n ôl 'fory nesa' os mynnan' nhw," meddai Edward Ifans yn dawel.

"Be' ydach chi'n feddwl, Edward?"

"Os ydi Idris yn barod i dderbyn punt-y-gynffon."

"Mi wyddoch nad oes 'na ddim perygl o hynny."

Erbyn amser cinio yr oedd pryder Martha Ifans yn llethol. Edward," meddai wrth osod y lliain ar y bwrdd," mae arna' i isio i chi sgwennu at Idris ar unwaith."

"Ar unwaith? Pam?"

"I ddeud y do'i i lawr yno am dipyn os licith o."

"Ond . . . ond mae'r trên yn . . . o gostus, Martha."

"Mi gawn ni fenthyg yr arian yn rhwla."

"Ymh'le?

"Os ydi Idris a Kate isio fy help i, mi ddown ni o hyd i arian y trên. Yr hogan druan—'dydi hi fawr o beth i gyd—yn gorfod slafio i glirio'r llanast' a gofalu am dri o blant. Sgwennwch atyn' nhw, Edward. Mi fedrwch chi ofalu am frecwast Gwyn ac mi ddaw Megan yma bob bora i llnau a gwneud tamaid o ginio i chi'ch dau.'

"O, fe wnâi Gwyn a finna'n iawn. Ond. . . ond arian y trên, Martha. 'Wn i ddim pwy fedrai roi benthyg rheini i chị."

"Mr. Jones, Liverpool Stores. Dim ond imi ddeud wrtho fo fy mod i am fynd i'r Sowth i helpu Kate, mi ga' i fenthyg dwybunt neu dair gynno fo ar unwaith. Y ferch ora' fuo gynno fo yn 'i siop erioed, medda' fo wrtha' i droeon, bob tro y bydd o'n holi sut mae Kate yn dŵad ymlaen. Neithiwr ddwytha' wrth ddŵad o'r Seiat . . . "

"Mae byd yr hen Jones yn o fain bellach, cofiwch. Pryd y medar o gasglu'i ddyledion, dyn a ŵyr. Ac ychydig o'r Bradwyr sy'n prynu yno ar ôl iddo ddangos 'i ochor drwy roi arian droeon at y Gronfa. Piti na fasa' fo wedi gwrando arna' i."

Ar be?"

"Mi awgrymis i y basa'n well iddo fo roi'r arian yn ddienw. Diar, 'roedd 'na bedwar tu ôl i'r cowntar yn Liverpool Stores pan oedd Kate yno, ond oedd? 'Rŵan, dim ond Jones 'i hun, ac mi glywis i 'i fod o am werthu'i geffyl a'i gert . . . Na, 'dydi hi ddim yn deg i chi ofyn i Jones, Martha."

"Na, efalla', wir. Ond sgwennwch chi at Idris. Os ydi o isio fy help i, mi ddown ni o hyd i'r arian rywsut neu'i gilydd. Sgwennwch yn syth ar ôl cinio, Edward . . . Dyma fo Gwyn yn dwad adra' o'r ysgol. Mae o'n llwyd iawn 'i wynab heddiw eto."

'O, wedi ceri tipyn. Mae hi dipyn yn oerach bora 'ma." Gobeithio na fydd y gaeaf 'ma yn un calad, yntê? 'Wn i ddim be' wnawn ni am dân, na wn i, wir."

Ysgrifennodd Edward Ifans at Idris y prynhawn hwnnw, a daeth ateb gyda'r troad. Byddai, fe fyddai'n falch pe deuai ei fam i lawr am dipyn, gan fod Kate yn ei gwely a chan ei fod yntau'n gorfod colli'i waith ers dyddiau: amgaeai deirpunt yn y llythyr. Ac wedi trefnu i Fegan ddod i "Gwynfa bob bore tra byddai hi i ffwrdd, daliodd Martha Ifans y trên i'r Sowth un bore Sadwrn yn nechrau Tachwedd.

Dychrynodd pan welodd-a phan glywodd sŵn—Pleasant Row. Serth a phur dlodaidd oedd Tan-y-bryn hefyd, ond yr oedd y rhan fwyaf o'i thrigolion yn bobl dawel a pharchus, yn gapelwyr selog a rhai, fel Edward Ifans, yn flaenoriaid. Pur anaml—cyn dyddiau'r streic, beth bynnag-y clywid un cynnwrf yn y stryd, hyd yn oed ar nos Sadwrn pan fyddai Bertie Lloyd neu Twm Parri "wedi'i dal hi." Ond yma codai lleisiau cecrus Sul, gŵyl a gwaith ac ni ddewisiai ambell un fel Molly O'Driscoll ei geiriau'n rhy ofalus. Pan gyrhaeddodd Martha Ifans, tuag amser te ar ddydd Sadwrn, âi cystadleuaeth edliw ymlaen rhwng Molly yng ngwaelod y stryd a chymdoges hanner y ffordd i fyny. Safai Molly ar ben ei drws yn atgoffa'r llall, gwraig fechan a freintiwyd â dychymyg ac ag ysgrech o lais, am droeon anffodus yng ngyrfa'i thad a'i thaid, ac atebai hithau drwy sôn wrthi—ac wrth y gymdogaeth oll—am y gwyliau achlysurol a dreuliai rhieni Molly yn y jêl. Yr oedd deunydd da gan y ddwy, ond buan yr aeth arddull raeadrwyllt y llall yn drech na Molly, a bu raid iddi alw am gymorth ei bachgen hynaf, lleisiwr croch i'w ryfeddu. Ond llais yn unig a oedd ganddo ef, a manteisiai'r dafodwraig arall ar yr ysbeidiau pan arhosai'r bachgen am eiriau dethol oddi ar fin ei fam. Fel y troai Martha Ifans ac Idris, a aethai i Gaerdydd i'w chyfarfod, o'r llwybr wrth yr afon i'r stryd, tafodai Molly ei mab athrylithgar am ei arafwch un ennyd a hyrddiai enllibion at ei chymdoges ddawnus yr ennyd nesaf. Ni chlywsai'r wraig o Dan-y-bryn y fath huodledd erioed.

Gwaeddai'r stryd a'r tŷ wrthi na ddylasai Idris ddwyn ei wraig a'i blant i'r fath le. Ond ni ddywedodd hi ddim. Yn lle hynny aeth ati â'i holl egni i lunio cysur o'r anghysur. Yr oedd y tŷ yn weddol lân erbyn hyn-gofalodd Myfanwy Jenkins a Siân am hynny-ond nid i lygaid manwl Martha. Ifans. Gartref, ni wnâi hi fawr ddim gwaith ar y Sul, dim ond yr hyn a oedd raid, ond ar ei Sabath cyntaf ym Mhentref Gwaith, cyfieithodd dduwioldeb i ddiwydrwydd tra oedd Idris ac Ann a Gruff yn y capel. Pan âi i fyny i'r llofft i ddwyn rhywbeth i'w merch yng nghyfraith neu i'r baban, Ifan, ymresymai Kate yn daer â hi, ac addawai hithau'n wylaidd na wnâi hi ddim ond "twtio tipyn i lawr 'na." A gwyddai Kate wrth wrando eto ar sŵn y dodrefn yn cael eu symud mai ofer fyddai pob dadl-heb ddau neu dri o blismyn i'w gosod mewn grym.

I fyny yn y llofft, a thwymyn y bronceitus yn chwys ar ei hwyneb, a'i beswch byr, caled, yn boen yn ei bron ac yn ei gwddf, breuddwydiai Kate am gysur a thawelwch y Twyn. Buan yr aent yno, ac fe wnâi hi'r tŷ newydd y glanaf a'r hapusaf yn yr holl stryd. Gobeithio nad oedd y lleithder a'r aflendid yn Pleasant Row wedi amharu dim ar ei hiechyd. Nid oedd arni ofn tlodi—gallai ymladd yn erbyn hwnnw, fel y gwnâi ei mam yng nghyfraith ac eraill yn Llechfaen, brwydro ac aberthu â gwên dawel, ond yr oedd afiechyd, dihoeni fel Ceridwen, merch John Ifans tros y ffordd i "Gwynfa," yn ddychryn i'w henaid. Yr oedd y frwydr honno mor araf, mor ddidosturi, mor annheg, rhyw fud dân yn deifio llawenydd pawb o'i gwmpas, rhyw ormes cudd, anhyblyg, anghymodlawn. Ond na, fe gryfhâi eto'n fuan, a byddai hi ac Idris a'r plant yn hapus iawn ym Mhentref Gwaith. Ac â dagrau'n ymylwe am ei breuddwydion, syrthiodd Kate i gysgu.

Deffrowyd hi gan sŵn Ann a Gruff, a oedd newydd ddychwelyd o'r capel. Daethant i fyny i'r llofft i'w gweld a dilynwyd hwy ymhen ennyd gan Martha Ifans ac Idris, yn dwyn ei chinio iddi. Ond cyn iddi ddechrau bwyta, taflodd ei mam yng nghyfraith liain dros ei phen a bu raid iddi wyro uwch y bwrdd bychan wrth ochr y gwely i anadlu'r ager a godai o'r jwg o ddŵr berwedig a drawsai Martha Ifans arno. Anadla di'r stêm 'na 'rŵan, Kate bach," meddai. "'Does dim byd tebyg iddo fo am glirio fflem. Mi driwn ni hynny bob rhyw deirawr heddiw, ac mi fyddi di'n well o lawar erbyn 'fory, 'gei di weld . . . Tyd yn dy flaen."

"Ga' i drio wedyn, Nain?" gofynnodd Gruff. "Mi fedra' i ddal fy ngwynab o dan ddŵr am funud cyfa'.

"A 'rwan, tria'r cwstard 'ma," meddai Martha Ifans pan oedd yr anadlu anghysurus drosodd. "Mi rois i dri wy ynddo fo. Yr wya' ffres hynny ddaeth Mrs. Jenkins yma neithiwr. Rhai digon o ryfeddod oeddan' nhw hefyd."

Cyflym, o dan ofal ei mam yng nghyfraith, y gwellhaodd Kate, a chyn pen pythefnos âi'r ddwy am dro i fyny i'r Twyn i weld y tŷ newydd, a oedd yn barod o'r diwedd. Yno cawsant bwyllgor dwys ynghylch llenni i'r ffenestri, matiau i'r lloriau, llathau i'r grisiau, silffoedd a bachau a phethau tebyg, a phennwyd dydd y symud.

"Mi arhosa' i gartra' ddydd Merchar 'ta', " meddai Idris, pan glywodd benderfyniad y pwyllgor.

"'Fydd dim isio iti o gwbwl, Idris," ebe Kate. "Mi ddaw Bob Tom a William Jenkins, sy ar y shifft nos, yma mewn munud i lwytho'r gert, dim ond iti sôn wrthyn' nhw. Gormod, nid rhy 'chydig, o help gawn ni, 'gei di weld."

Gwir y gair. Pan ddaeth dydd yr ymfudo, yr oedd amryw o ddynion o'r capel ac o'r stryd yn gwthio'i gilydd o'r neilltu er mwyn cael llaw ar wely neu fwrdd neu gadair, a buan y llanwyd cert Joe Brown, a werthai dywod a finegr hyd yr ardal fel rheol, ond a gynigiai'i wasanaeth yn rhesymol dros ben ar gyfer gorchwylion fel hyn. Awgrymodd un Shoni, dyn bychan, bywiog, ysmala, a gyrhaeddodd pan oedd yr ail lwyth bron yn llawn, y dylent gario'i gilydd i fyny ac i lawr y grisiau er mwyn iddo ef ac un neu ddau arall gael teimlo iddynt wneud rhywbeth.

Rhuthrodd Ann a Gruff adref i ginio i ddarganfod bod popeth o faint wedi gadael y tŷ yn Pleasant Row tra oeddynt hwy yn yr ysgol. Ond cawsant y fraint o gludo rhai o'r manion a oedd ar ôl, a mawr oedd eu balchder hwy ac eiddigedd rhai o'r plant a'u gwyliai. Ar ei ffordd yn ôl o'r Twyn, dechreuodd Gruff dderbyn llwgrwobrwyon—"loshin," marblys, hen gyllell, olwyn wats--am yr anrhydedd o gynorthwyo, a chyn hir gwibiai Martha Ifans o ystafell i ystafell i gymryd gwydr lamp neu addurn bregus o ddwylo rhyw hogyn diofal. A chan fod rhai o epil Molly O'Driscoll ymhlith yr atgyfnerthion hyn, ofnai mai i'r drws nesaf neu, ar ddamwain, i siop Dai Raganbôn yr âi amryw o'r trysorau.

Erbyn yr hwyr hwnnw yr oedd popeth yn ei le yn " Gwynfa" ar y Twyn, tanllwyth yng ngrât y gegin, a'r drws, a fuasai'n agored drwy'r dydd bron, wedi'i gau. Eisteddodd teulu pur flinedig i lawr wrth fwrdd swper.

Mae arna i ofn eich bod chi wedi ymlâdd, Nain," meddai Kate.

"Naddo, wir, hogan, yr ydw' i'n iawn." Ochneidiodd. Câi amser i hel meddyliau yn awr, wedi i'r holl brysurdeb beidio.

"Be' oedd yr ochenaid hir 'na, 'Mam?" gofynnodd Idris. "Meddwl amdanyn' nhw yr on i. Gobeithio bod gynnyn' nhw dân go lew heno, a hitha' mor oer. A thamaid cynnas i swpar.

"Oes, debyg iawn. 'Roedd 'Nhad yn swnio'n glonnog dros ben yn y llythyr gawsoch chi ddoe. Ac mae Gwyn yn llawn bywyd, medda' fo."

"Mi fydd yn dda gin' i pan ddaw dydd Sadwrn, imi gael gweld trosof fy hun . . . Tyd, Kate, paid â lingran dros dy swpar 'rwan. Mae'n hen bryd i ti fod yn dy wely. Mi wyddost be' ddeudodd y Doctor. Rhaid iti gymryd gofal mawr am wsnosa' lawar, medda' fo. Styriwch chitha', blant."

"On' fydd hi'n dawal braf yma ar ôl dydd Sadwrn, Kate?" meddai Idris, â gwên ddireidus. 'Rydan ni wedi cael ein giaffro'n o sownd ers tipyn 'rŵan, ond do?"

Ond taflu'i phen i fyny oedd unig ateb ei fam: yr oedd ei meddwl yng nghegin y "Gwynfa" arall. Beth a gâi Edward a Gwyn i swper, tybed? A ofalai Megan am roi digon ár y gwely iddynt? A oedd esgidiau Sul Gwyn wedi'u trwsio? A gysgai Edward yn well erbyn hyn? A ddaliai Gwyn i wisgo'r hen jersi honno o dan ei wasgod? Ac i yfed dŵr dail poethion bob bore a phob nos, yn ôl cyngor yr hen William Parri? A oedd Ceridwen tros y ffordd yn well?

A churai'r cwestiynau hyn a llu o rai tebyg yn daer yn ei meddwl brynhawn Sadwrn fel yr ymwthiai'r trên yn araf i olwg Llechfaen. Rhoes ei phen drwy'r ffenestr i weld pwy a'i disgwyliai ar y platfform ac i fod yn barod i chwifio'i llaw arnynt. Rhyw ddyrnaid a arhosai am y trên, ac yn eu plith gwelai ffurf dal ei gŵr a Megan wrth ei ochr. Ond nid oedd Gwyn yno.

"Lle mae Gwyn?" gofynnodd cyn gynted ag y camodd o'r trên.

"Sut siwrna' gawsoch chi, Martha? 'Oedd y trêns yn llawn iawn hiddiw?"

"Lle mae Gwyn?"

"Na, mi gymar Megan y fasgiad 'na. A rhowch y parsal 'na i mi. 'Dydi'r bag 'ma ddim yn drwm. Mi fedra' i . . . .

"Lle mae Gwyn?

"Mae Gwyn-'waeth i chi gael gwbod 'rwan ddim-yn . . . yn Lerpwl."

"Yn Lerpwl? Yn yr . . .?"

"Ia, yn yr Hospital. Ond rhaid inni ddim poeni yn 'i gylch o, medda' Doctor Roberts."

"Be' ddigwyddodd? Pryd aeth o yno? Be' sy arno fo? Pwy aeth â fo yno? 'Faint fydd o yn y lle?"

"Yn ara' deg, Martha, yn ara' deg. Yr un peth ag o'r blaen sy arno fo, ac 'roedd y Doctor yn meddwl y câi o well chwara' teg a gwell bwyd yn yr Hospital gan fod petha' fel y maen' nhw arno' ni."

"Pryd aeth o yno?"

"Echdoe, ddydd Iau.

Mae gan y Doctor ryw gronfa fach breifat at achosion felly, a mi wnaeth imi gymryd arian i fynd â fo ar y trên deuddag. Mi ddaliodd y siwrna' yn dda iawn, yn champion, wir, ac 'roedd y bobol yn yr Hospital yn hynod ffeind."

Ond prin y gwrandawai Martha Ifans. Yn ffwndrus y cerddodd o'r orsaf a thrwy'r stryd fawr ac i fyny Tan-y-bryn, gan nodio a gwenu'n beiriannol ar gydnabod a chymdogion. Gwyn bach! Gwyn druan! Mewn hen Hospital fawr yn Lerpwl, a hithau drwy'r daith hir o'r De wedi breuddwydio'n hapus am y croeso a gâi ganddo, wedi gweld ugeiniau o weithiau ei lygaid yn pefrio mewn llawenydd a chlywed ei lais yn gweiddi "Mam!"

Er bod tân yn y grât a bwyd ar y bwrdd i'w chroesawu, ymddangosai cegin "Gwynfa," pan aeth hi i mewn iddi, yn wag iawn heb Gwyn.

Nodiadau[golygu]