Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg/Ysgol y Llan Rhan III
← Ysgol y Llan Rhan II | Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg gan Owen Morgan Edwards |
Hen Fethodist → |
Ysgol y Llan Rhan III
Y mae llawer un yn medru edrych yn ol ar ddyddiau ei ysgol fel dyddiau dedwyddaf ei fywyd. Ni fedraf fi wneyd hyn. Y mae llawer un yn gwybod mai ei athraw cyntaf roddodd iddo y trysorau gwerthfawrocaf fedd, — cred mewn gonestrwydd ac yn Rhagluniaeth, cred mai lle heulog ydyw'r byd i rywun fo a'i fywyd yn iawn, cariad at ei gyd-ddyn a pharch tuag at wŷr i'r rhai y mae parch yn ddyledus. Ni chefais i y pethau hyn, — y pethau gefais i oedd teimlad fy mod dan gyfraith haiarnaidd nas gallwn ei deall, a fod yn rhaid dweyd celwydd cyn y medrwn achub fy ngham. Ni ddeallais f'athrawes erioed, oherwydd ni siaradai air fedrwn ddeall. Buasai'n fendith anrhaethol i mi pe na welswn yr ysgol erioed.
Ond, i fynd ymlaen gyda'm hanes, yr oedd dydd i ddydd yn ychwanegu blinder i mi yn yr ysgol. Nid oedd y llyfrau a roddid o'm blaen ond tywyllwch di-obaith i mi, ac yr oedd yr esboniadau gynhygid arnynt yn dywyllach fyth. Collais fy hoen, ac nid oedd blentyn anedwyddach yn y fro honno i gyd. Blinodd y rhai hoffai wrando f'ystraeon arnaf. Gadawyd fi at drugaredd rhai eiddigus o'm doniau prin, a churid fi'n ddi-drugaredd hyd nes y dysgais ymladd. Yr wyf yn cofio darganfod fod ysbryd llofrudd ynnof ryw dro, pan yn anelu carreg at ben bachgen oedd wedi gwneyd i mi golli'm tymer. Pan dan ofal fy nhad, a than ei addysg, — er lleied oedd cylch ei ddarllen, — yr oeddwn yn hapus, a'm henaid yn heddychlon. Ond magwyd ysbryd drwg ynnof yn yr ysgol; ac, ar adegau, y mae yn fy mhoeni byth. Pan fo plentyn yn awyddus am ddysgu, ond heb y gallu i ddeall ei athraw'n siarad Saesneg, fy ngweddi ydyw ar iddo gael ei wared oddi wrth y teimlad ei fod dan deyrnasiad anghyfiawnder a chreulondeb. Pan fydd wedi anghofio'r wialen, edrych ar bawb fydd yn siarad Saesneg fel ei elyn naturiol byth.
Yr wyf yn cofio'r ysgol honno'n dda, — y paent melyn-wyrdd oedd ar ei muriau, y llechau cerrig oerion, y llawr coed treuliedig, y wialen ar y ddesc, y darnau bychain o wydr oedd yn y ffenestri, a'r cloc yr oedd diogi wedi ymglymu am ei fysedd.
Cyn hir aeth yr ysgol yn anioddefol i mi. Collwn fy nghysgu'r nos wrth feddwl am dani ; ac, o'r diwedd, er ymdrech galed, teimlais na fedrwn fynd iddi mwy.
Ryw fore, mi a'i cofiaf byth, ymguddiais mewn gwrych o ddrain, — ac yr oedd arogl blodau'r drain yn fil mwy dymunol nag arogl paent melyn-wyrdd, — hyd nes oedd y plentyn olaf wedi mynd i'r ysgol. mor dawel a hyfryd oedd pob man wedi i'r plentyn olaf fynd i'r ysgol !
-
MIWSIG RHAIADRAU.
"Dysgais garu miwsig rhaiadrau"
hynny daeth plentyn bach tlws o rywle ar ei rawd tua'r ystâbl. "Weli di glust hon?" meddai, gan ddangos clust greithiog dan gudynau gwallt. "Ceffyl heb ei fedyddio gydiodd ynddi, wel di, â'i ddannedd, ac mi dorrodd ddarn o'i chlust. Os doi di byth yn wagnar, cofìa di fedyddio dy geffylau, neu mi dron' y drol, neu mi dorran' ddarn o dy glust ti." Yr oedd y gwas hwnnw'n credu mewn bedyddio ceffylau, ond nid wyf yn sicr a oedd yn teimlo fod rhyw lawer o rin yn y bedydd gafodd ei hun. A llawer chwedl ofergoelus glywais, — cefais gipdrem i fywyd nas gwyddwn ddim am dano o'r blaen.
Nid dyddiau dreuliwyd yn hollol ofer oedd y dyddiau y bum yn crwydro yn lle mynd i'r ysgol. Dysgais garu prydferthwch natur â chariad angerddol. Bum yn gwylio'r cymylau oddiar ael llawer bryn serth, bum yn synnu at gylchdroion esmwyth y genllif goch wrth edrych arni oddiar gopa craig, darganfyddais nad oedd dyfnder coedwig yn lle unig, dysgais garu miwsig rhaiadrau, — yr oeddwn yn berffaith ddedwydd tan ddoi'r ysgol i'm cof, a than gofiwn mai mewn anufudd-dod i'm rhieni yr oeddwn yn byw. Ond yr oedd bywyd fel hyn yn rhy hapus i bara'n hir; o'r diwedd dywedodd rhywun wrth fy mam fy mod ymhell o'r llan, mewn cwm anghysbell, yn ystod oriau'r ysgol. Dechreuwyd chwilio, a buan y daeth fy holl fai i'r golwg. Yr oeddwn mewn ofn mawr, ac mewn cywilydd mawr. Ond y dychryn mwyaf, wedi diodde'r gosb, oedd meddwl am fynd i'r ysgol yn fy ol.
Yr oedd hen wr gwargam, a llygaid bychain treiddgar ganddo, wedi dweyd wrthyf am wledydd pell. Nid wyf yn meddwl iddo fod erioed o'r ardal, ond soniai beunydd am "awel lem Siberia" ac am "awel falmaidd y de" fel pe buasai'n berffaith gyfarwydd â hwy. Dywedodd hanes y môr wrthyf, ac fel yr oedd rhai'n mynd mewn llongau i wledydd pell, i gyrchu eurafalau a lemonau a phob rhyw hyfrydwch. Penderfynais innau, rhag myned i'r ysgol, ddianc i'r môr. Yr oedd yn well gennyf awel falmaidd y de nag awel lem Siberia; a thybiwn fod yr awel falmaidd tua chyfeiriad codiad haul, — meddyliwn fy mod wedi ei theimlo rai troion pan fyddai'r awyr yn gloewi yn y bore, a cherbyd tân yr haul yn dod dros y mynyddoedd. Codais yn fore, yn yr haf oedd hi, a chychwynnais. Ond daeth lludded mawr drosof, a newyn. Nid oedd y môr yn y golwg o'r mynydd uchaf. Ni welwn ond mynyddoedd heb derfyn arnynt.
Tiroais adre'n ol. Nid oedd dim o'm blaen ond anobaith a'r ysgol. Erbyn cyrraedd adre, yr oeddwn yn wael. Bum mewn twymyn, ac araf iawn y bum yn gwella. Erbyn i mi ail ddechreu mynd ir ysgol, yr oedd athraw newvdd wedi dod.
Bum yn dyfalu llawer ffasiwn un oedd yr athraw newydd, breuddwydiwn am dano bob nos. O'r diwedd tynnais ddarlun o hono i mi fy hun, ac nis gallwn gael llonydd gan y darlun a greais, — dyn mawr tal oedd, a chadach du ar draws un llygad, a llais bas aflafar, a choes bren. Ond ni fedrwn gael sicrwydd i'm meddwl fy hun pa un ai ruler ynte gwialen fedw fyddai'n tynnu'r llwch o ysgwyddau'm cot. Un peth ni ddaeth yn agos i'm meddwl, — y syniad fod yn bosibl i ysgolfeistr fy neall yn siarad. Daeth bore mynd i'r ysgol. Cynghorodd fy mam fi y noson cynt i ufuddhau i'r athraw ym mhob peth. Addewais innau wneyd hyn, os medrwn, trwy ryw foddion, ddeall beth oedd yn ddweyd. Rhoddodd fy mam gynghorion ereill i mi hefyd, yn y wedd yma, — " Cofia di fod yn ffeind wrth blant ereill, yn enwedig wrth rai llai na thydi dy hun. Ond 'dydi ddim iws i ti adael i neb dynnu dy Iygaid. Os cei di gam, rhaid i ti chware dy bai't. Ac os doi di i gwyno ata i fod rhyw fachgen wedi dy guro di, cofia hyn, — mi gei gweir arall gen inne am adael iddo fo. Treia ddysgu, gael i ti leicio'r ysgol." Cychwynnais i'r ysgol yn ddewrach na Ilawer tro, wedi penderfynu "chware fy mhart."
Yr oeddwn wrth yr ysgol mewn pryd, a phan agorwyd y drws am naw i'r funud, ymwthiais i mewn gyda'r plant ereill, a gadewais i ffawd fy rhoddi i eistedd yn ol ei hewyllys hi.
Gwelais cyn hir fod ffawd wedi fy rhoddi i eistedd yn y gornel bellaf oddiwrth y tân, a daeth mwy o rym nag erioed i eiriau fy mam fod yn rhaid i mi chware fy mhart fy hun. Ond dacw'r athraw newydd. Prin y medrwn gredu mai efe oedd, yr oedd mor anhebyg i ysgolfeistr fy
mreuddwydion. Gŵr byrr tew oedd, a siriol iawn yr olwg. Yr oedd rhywbeth yn ei wyneb yn gwneyd i mi feddwl nad oedd hwn, beth bynnag, am geisio mwynhad drwy wneyd y plant mor anghysurus ag y medrai. Yr oedd gennyf syniad fod pob athraw'n cuddio gwialen fedw y tu ol i'w gefn, ond yr oedd rhywbeth yn ddeniadol yng ngolwg hwn. A sylweddolais, er llawenydd angerddol i mi, fod yn bosibl i fachgen ysgol hoffi ei athraw. Troais fy llygaid at y cwpwrdd lle y cedwid y botel inc fawr a'r wialen fedw ar ei ben. Gwelais fod y wialen yno o hyd. Yr oeddwn wedi gobeithio yr ai'r ysgolfeistres a'i gwialen gyda hi, oherwydd y mae hen wialen fedw'n brifo mwy na gwialen fedw newydd. Pan fydd y dail heb lwyr ddod i ffwrdd oddiwrth y wialen, nid yw y loes yn gymaint ; hen wialen fain, wedi gwneyd llawer o waith, ydyw'r beryclaf.
Rhoddwyd fì yn y dosbarth isaf; ac yr oedd lle y dosbarth hwnnw am y fainc a lle'r dosbarth uchaf. Yn y dosbarth uchaf yr oedd geneth o'r un oed a minnau, — y mae merched yn dysgu'n gynt o lawer na bechgyn rywsut. A chyn diwedd ysgol y bore dechreuasom ysgwrsio. Yr oedd hi wedi gorffen ei gwaith ; a minne, druan, heb ddechre. Rhoddodd help i mi dorri rhyw luniau llythyrennau ar fy llech. Benthyg oedd y llech, ac nid oedd gennyf bensel garreg. Rhoddodd yr eneth fenthyg ei phensel hi i mi, ac yr oedd yn gynnes o'i llaw, ac yn ysgrifennu'n esmwyth iawn. Ond gwelais na fynnai'r bensel wneyd rhyfeddodau gyda'm bysedd i fel y gwnai gyda'i bysedd hi. Gwell na'r ysgrifennu oedd yr ysgwrs a gawsom am yr athraw newydd. Yr oedd yr eneth yn gwybod ei hanes i gyd, oherwydd yr oedd wedi bod yn ei chartref. Un o sir Aberteifì oedd, meddle hi. Nid oedd gen i yr un syniad am sir Aberteifi yr adeg honno ond ei bod yn rhywle yng nghanol Lloegr, oherwydd Saesneg oedd iaith y person, ac o'r sir honno yr oedd ef yn digwydd dod. Ond dywedai'm cydymaith fod yr athraw'n medru Cymraeg, "ond i fod o'n Gymraeg go od." "A'i wraig o hefyd," meddai, "piti garw na ddoi hi i'r ysgol, welest ti erioed un mor ffeind." Yr oedd yr athraw a'i wraig wedi dweyd tipyn o'u hanes. " Roedden nhw yn yr ysgol hefo'u gilydd, ac yn gariadau yr amser hwnnw," ebe'r eneth, gan gyfeirio at hanes y bydd merched bach yn cymeryd mwy o ddyddordeb ynddo na bechgyn bach. Gofynnais yn bryderus a oedd gan yr athraw blant, a da iawn oedd gennyf glywed nad oedd ganddo yr un. Tybiwn mai tynged anedwydd oedd un plant athraw, — bod gydag ef ddydd a nos !
Erbyn hyn, prin y rhaid i mi ddweyd, y mae fy meddwl wedi newid am sir Aberteifì ac am blant ysgolfeistr. Pe bawn yn llywodraethu ysgol ac yn dewis athraw, dewiswn un gyda gwraig a phlant. Y syndod i mi ydyw pa ham y mae athrawon di-briod yn medru deall plant cystal. Ond yr wyf yn sicr o hyn, na wyddant ond elfennau eu celfyddyd hyd nes y bont wedi ymdrafferthu gyda'u plant eu hun. Y mae cyd- ymdeimlad a gwybodaeth, — rhai gwerthfawrocach na thrysorau pennaf ysgol a choleg, — yn dod yn feddiant i'r athraw ; ac y mae pob enaid bach sydd dan ei ofal yn ymddangos yn gan mil gwerthfawrocach nag erioed o'r blaen.
Y prydnawn buom yn dysgu darllen, trwy ddweyd geiriau ar ol bachgen ddaeth i'n dysgu. O x; ox; o n on; a t at, — mi dybiaf glywed ugain o leisiau'n swnio yn fy nghlustiau y funud hon. Mor wahanol yw'r lleisiau heddyw! Y mae dau'n cyhoeddi'r efengyl, y mae un yn melldithio Duw a dynion, y mae mwy nag un wedi tewi am byth. Ni wyddem, wrth gwrs, beth oeddym yn ddweyd. "Dysgu allan " fel parot oedd unig ystyr y gair dysgu; nid oedd deall a dysgu meddwl yn rhan o addysg y dyddiau hynny o gwbl. Ein dysgu i wneyd swn heb feddwl iddo, a'n dysgu i siarad heb ddeall, — dyna'r dysgu gawsom ni.
-
YR ARAN O ROS CAERHYS
Ac amaethdy Talardd.
Os anghofìaf fy nghas at yr athrawes, ni anghofiaf byth fy nghariad at yr athraw a'i dilynodd. Yr oedd yntau yn hualau yr un gyfundrefn ddrwg, ond meiddiodd ef gredu mewn dull gwell. Er mai Saesneg oedd iaith yr ysgol, rhoddai fenthyg llyfrau Cymraeg i ni, — llyfrau llwydaidd yr olwg, ond llawn hanes arwyr a gwledydd, — i'w darllen fin nos. Cododd ynnom awydd angerddol am wybodaeth. Hudai ni i ddarllen ac i ddysgu. Deuai i'n cartrefì, a siaradai Gymraeg. Ac am ei wraig, aem ati i ddangos pob llyfr newydd; a byddai'n llawen gyda ni.
Aeth yr athraw o'r ardal wedi i mi adael yr ysgol, i ysgol arall mewn sir gyfagos. Cyn hir wedyn cymerodd urddau yn Eglwys Loegr. Bum yn ei wrando'n pregethu mewn hen eglwys adfeiliedig ar lan y môr, a dyna'r bregeth fwyaf hyawdl glywais mewn eglwys erioed.
Y mae yntau heddyw yn ei fedd. Huned yn dawel yn naear sir Aberteifi, ei sir enedigol. Bydd byw yn serch pob un o'i ddisgyblion. Lu o blant dedwydd, parablus, — ym mha le yr ydych i gyd? Os derllyn yr un ohonoch y llinellau hyn, derbyniwch gofion un sy'n aml yn meddwl am danoch. Tybed a ydych, fel y finnau, yn cael cysur a nerth wrth alw'r hen ddyddiau weithiau'n ol? Os felly, nid yn ofer y canaf glych hen adgofion.