Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/O'i Symudiad i Liverpool Hyd Yr Wyl Ddirwestol Yn Nhreffynon

Oddi ar Wicidestun
O'i Ymadawiad O'r Talwrn Hyd Ei Symudiad i Liverpool Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

O Wyl Ddirwestol Treffynon Hyd Yr Ystorm Fawr Yn Liverpool

PENNOD XI.

O'I SYMUDIAD I LIVERPOOL HYD YR WYL DDIRWESTOL YN NHREFFYNON 1836—1838.

Y CYNWYSIAD—Amgylchoedd Newydd Mr. Williams yn wahanol i'r hyn oeddynt yn ei hen faes—Eglwys y Tabernacl yn ei dderbyn yn groesawgar—Ei fynediad i Liverpool yn ychwanegu at gysur Mr. Pierce— Liverpool yn methu ysgaru y Wern oddiwrth ei enw—Ei ofal am un teilwng i'w olynu yn y Wern a'r Rhos—Ei lythyr at y Parch. E. Evans, Llangollen—Cyflwyno Tysteb i Mr. Williams— Pregethu yn Nghymanfa Colwyn—Boneddiges Seisnig o Liverpool yno yn ei wrando—Mr. Williams yn parhau yn llawn gweithgarwch— Ymosodiad arno yn y Papyr Newydd Cymraeg" Y Bedydd olaf a weinyddodd yn y Wern—Bedyddio baban yn Bethesda—Cymanfa Ddirwestol Caernarfon—Ysgrif yr Hybarch B. Hughes, Llanelwy —Cyfarfodydd yn Nhreffynon—Mr. Williams yn cael oedfa hynod yno—Ei nodwedd Gymreig— Ordeinio dau weinidog yr un diwrnod yn Nhreffynon, y naill i'r Saeson a'r llall i'r Cymry— Cynghor Mr. Williams i'r Gweinidog Cymreig— Ei eiriau yn cael eu hystyried yn brophwydoliaethol Gwyl Ddirwestol Treffynon—Llawer o bregethwyr enwog wedi eu cyfodi yn Nghymru

GAN mai yn ngolwg dyffryn prydferth a ffrwythlawn Maelor, yr hwn sydd wedi ei addurno â phalasau heirdd, a thrwy yr hwn y llifa y Ddyfrdwy tua'r môr yn fawreddus yr olwg arni, yr oedd Mr. Williams wedi trigianu er's blynyddoedd, yr oedd symud i'r ddinas fawr fyglyd, aml a phrysur ei phobl, o dawelwch hyfryd Bersham, yn rhwym o beri iddo deimlo ei amgylchoedd newydd yn wahanol a dyeithriol iawn i'r hyn oeddynt yn ei hen faes. Ond derbyniwyd ef gan eglwys y Tabernacl fel rhodd arbenig iddi oddiwrth yr Arglwydd, yn groesawgar a diolchgar. Cafodd dŷ mewn safle ddymunol, sef yn 128, Islington. Yr oedd y pregethwr a'r bardd rhagorol, y cywir Barch. Thomas Pierce, yn gweinidogaethu i eglwys Bethel (Park Road yn awr), er's pedair blynedd cyn hyn; ac yr oedd symudiad Mr. Williams i'r Tabernacl, yn ychwanegiad dirfawr at gysur Mr. Pierce. Er fod ein gwrthddrych wedi gadael y Wern am Lynlleifiad, eto yr oedd cyhoedd fel pe wedi penderfynu mai yn Williams y Wern y mynent ei alw byth, a methodd Liverpool ag ysgaru y Wern oddiwrth ei enw. Dengys a ganlyn o "Hunangofiant y diweddar Barch. Evan Evans, Llangollen," yr hwn a welir yn Dysgedydd 1886, tudal. 451, 452, fel yr awyddai Mr. Williams am weled un teilwng yn cael ei alw i'w olynu yn y Wern a'r Rhos, a'r gofal a ddangosai efe am danynt er wedi eu gadael. "Gweddusach i ni adael heibio grybwyll y gwahanol fanau y cefais alwadau oddiwrthynt, rhag i neb feddwl fy mod yn gwneuthur bost o hyny; ond y mae un amgylchiad nas gallaf ymatal rhag ei grybwyll. Derbyniais lythyr oddiwrth Mr. Williams o'r Wern, ar ei ymadawiad oddiyno i Lynlleifiad. Yr wyf yn methu a chael gafael yn y llythyr hwnw, er ei fod yn rhywle yn mhlith fy mhapyrau; ond y mae ei ail lythyr ataf ar yr un achos yn awr ar y bwrdd o'm blaen, a dyma gopi cywir o hono:—

"128, Islington, Liverpool,
31st December, 1836.

"My Dear Friend,

There is about five weeks since I wrote to you before, on behalf of the people of Wern and Rhos. They would be very much obliged to you if you could supply there for two or three Sabbaths about the end of next month, or the beginning of February. As I have told you in my last, they have some intention to give you an invitation to come amongst them. I believe they would make from £80 to £100 salary. They wonder what is the reason that you do not answer the letter I wrote before; and indeed, I cannot help but wonder myself. Surely they are worth answering their letter—

"I am, Yours, &c., W. WILLIAMS.

Mr. C. Griffiths, Palston Mill, near Wrexham.

"P.S.—I have posted the other letter at Liverpool."

Yr wyf yn rhyfeddu fy hun hefyd ddarfod i mi oedi cyhyd i ateb llythyr cyntaf Mr. Williams. Nid wyf yn cofio yn awr pa fodd y bu hyny, os esgeulusdra ydoedd, yr oeddwn yn haeddol o gerydd llymach nag a gefais gan y gwr parchus a charedig, oblegid y mae troion o'r fath hyny yn annheilwng iawn mewn gweinidog yr efengyl. Ond yr wyf yn cofio yn dda pa beth a barodd i mi nacau cydsynio â chais Mr. Williams a'i gyfeillion, sef fy ystyriaeth nad oeddwn yn meddu cymhwysderau digonol i fod yn olynydd i Mr. Williams o'r Wern yn ei weinidogaeth! Ie, Williams o'r Wern, cofiwch! Y pregethwr enwocaf yn ein plith yn Nghymru! Dychrynais rhag meddwl y fath beth a myned i'r Wern a'r Rhos ar ei ol ef; ac felly ymesgusodais rhag myned yno i'w gwasanaethu gymaint a Sabbath y pryd hwnw."

Gwelir drwy yr uchod y syniad uchel a goleddid gan Mr. Evans am ein gwrthddrych, ac hefyd y pryder a deimlai yntau yn nghylch pobl y Wern a'r Rhos. Ni phallodd eu dyddordeb hwythau ychwaith ynddo yntau, ac ni pheidiasent ag ymgynghori â'u cyn-weinidog enwog mewn achosion perthynol i'r eglwysi. Penderfynodd ychydig gyfeillion i Mr. Williams yn Wrexham a'r amgylchoedd, fod yn ddyledswydd arnynt amlygu eu parch iddo a'u serch ato, drwy gyflwyno iddo anrheg fechan yn arwyddnod sylweddol o hyny. Er fod y symudiad wedi ei gychwyn cyn iddo ymadael â'r Wern, eto ni allwyd ei chyflwyno iddo hyd nos Fawrth, Mai 16eg, 1837, yr hyn a wnaed mewn cyfarfod cyhoeddus yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Abbot Street, Wrexham. oedd yr anrheg yn gynwysedig o haner can' punt a dysgl arian, ar yr hon y ceir yr argraff a ganlyn:—

TO THE REV. WILLIAM WILLIAMS,

LATE OF WERN,

this salver, accompanied by fifty sovereigns, is presented by his numerous friends in and near Wrexham, as a token of their affectionate esteem of his Christian character, and of grateful remembrance of his past service among them, as a memorial of faithful discharge of his duties as pastor over the people with whom he was harmoniously united for nearly thirty years, and as a testimonial of the disinterested labours and extensive ministerial usefulness by which through the grace of God he was eminently distinguished 'throughout the Principality of Wales Wrexham, April 1837.

Ni ddeallasom beth ydoedd rheswm hyrwyddwyr y symudiad uchod, dros eu gwaith yn dewis cyflwyno yr anrheg yn Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Wrexham, yn hytrach nag yn Nghapel y Wern. Ni chawsom ychwaith gymaint o fanylion trefn y cyfarfod ag a fuasai yn ddymunol genym. Daeth nifer fawr o gyfeillion yn nghyd i gyfranogi o wledd ddanteithiol a baratowyd ar gyfer eu hangenrheidiau naturiol. Wedi hyny, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth y diweddar Charles Griffiths, Ysw., King's Mill; ac anerchwyd y cyfarfod yn briodol gan amryw o frodyr teilwng. Pan y cyfododd Mr. Williams i gyflwyno iddynt ei ddiolchgarwch, yr oedd ei deimladau yn ddrylliedig iawn; ac o

herwydd hyny, yr oedd yr olygfa yn un o'r rhai mwyaf effeithiol a welwyd un amser, ac yn un nad anghofiwyd gan neb o'r rhai oeddynt yn bresenol. Y mae cyfarfod o nodwedd yr uchod yn adfywiol i deimladau y rhai sydd yn rhoddi, yn gystal ac ac i'r hwn sydd yn derbyn. Ymaflodd Mr. Williams â'i holl egni yn ei waith yn ei gylch newydd, a thaflodd fywyd i holl beirianwaith Eglwys y Tabernacl. Crybwyllasom eisioes fod Mr. Williams wedi pregethu yn Nghymanfa Colwyn yn 1833. Trwy ganiatad, rhoddwn yma yr hyn a geir yn Rhyddweithiau Hiraethog, tudalen 85—87, am y gymanfa hono—"Yn haf—dymor y flwyddyn 1833, cynelid cymanfa flynyddol siroedd Dinbych a Fflint yn Colwyn. Yr oedd boneddiges o Liverpool, yr hon oedd o olygiadau Undodaidd, yn aros yn Abergele ar y pryd, yn mwynhau awyr a dwfr y môr. Daethai y diweddar Barch. T. Parry, o Blackburn y pryd hwnw, yr hwn oedd enedigol o Abergele, adref ar ymweliad â'i rieni a'i hen ardal. Cyfarfu ef â'r foneddiges ar y traeth un diwrnod, ac aeth yn ymddyddan rhyngddynt, yr hyn a fu yn ddechreuad cyfeillgarwch; a mynych y byddent yn nghymdeithas eu gilydd tra y buont yn aros yno. Fore dydd y Gymanfa yn Colwyn, cyfarfu y foneddiges â Mr. Parry ar yr heol mewn cerbyd, yn cychwyn i'r Gymanfa; gofynodd iddo i ba le yr ydoedd yn myned, ac wedi iddo ddywedyd mai i gyfarfod pregethu a gynelid y diwrnod hwnw mewn lle cyfagos, dywedodd hithau pe buasai wedi cael gwybod am y cyfarfod mewn pryd, yr aethai hithau yno, y buasai yn dda iawn ganddi weled cyfarfod pregethu Cymreig am unwaith. Cymhellodd Mr. Parry hi i fyned gydag ef yn y cerbyd, rhedodd hithau i'w llety, paratodd ei hun, ac ymaith a hi i'r Gymanfa. Yr oedd Mr. Williams yn pregethu y bore hwnw ar y testun, "Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant." Prif fater y bregeth oedd yr angenrheidrwydd o Iawn er maddeuant pechodau. Yr oedd yr athrawiaeth y bore hwnw,

"Fel y gwlith tirionaf dystaw,
Sy'n dyhidlo oddi fry.

Ie, "fel gwlithwlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt." Eisteddodd y foneddiges mewn côr ar gyfer y pregethwr, a Mr. Parry wrth ei hochr, a chyficithai ranau o'r bregeth iddi. Yr oedd yr athrawiaeth yn hollol groes i'w golygiadau a'i chredo hi; er hyny, diolchai yn foneddigaidd i Mr. Parry am ei garedigrwydd iddi. Aeth y Gymanfa heibio, a phawb i'w fan, aeth y foneddiges hithau i'w llety; ac yn mhen rhai dyddiau, dychwelodd adref i Liverpool, ond nid yn hollol yr un un, yn mhob ystyr, y daeth hi adref o Abergele, ag yr oedd hi yn myned yno. Na, yr oedd rhywbeth a glywsai hi o'r bregeth yn Colwyn y bore hwnw wedi cydio, ac wedi glynu yn ei meddwl, fel nad oedd modd ei ysgwyd ymaith, ond cadwai y cwbl hir dymhor yn nghyfrinach ei mynwes ei hun. Rhywbryd yn y flwyddyn 1837, cymerwyd hi yn glaf iawn, ac ymddangosai am hir amser yn annhebyg i wella. Amlygai ddymuniad cryf yn ei chystudd yn fynych am weled y gweinidog a glywsai hi yn pregethu bedair blynedd yn ol yn Colwyn, pe buasai modd; yr oll a wyddai hi am dano ydoedd, mai Mr. Williams oedd ei enw. Aeth un o'r teulu at Dr. Raffles i ofyn iddo ef dalu ymweliad â hi, ac felly fu. Hysbysodd Dr. Raffles iddi fod y gweinidog a glywsai yn Colwyn yn awr yn byw yn y dref, ac yr anfonai air iddo ddyfod i edrych am dani. Pan aeth Mr. Williams i'w hystafell, adnabu ef yn union, a chynhyrfodd yr olwg arno ei theimladau yn fawr, a hithau yn wan iawn. Wedi dyfod ychydig ati ei hun, dechreuodd adrodd ei helynt ysbrydol iddo, na chawsai hi ddim heddwch i'w henaid na dydd na nos, er pan y buasai yn ei wrando (trwy gyfieithiad) yn Colwyn, bedair blynedd cyn hyny; ddarfod iddi wneud pob ymdrech i ymlid ymaith a chadw allan yr aflonyddwch o'i meddwl, ond yn ofer. Galwasai o'r diwedd am gymhorth ei chyfeillion, a gweinidogion o'r un enwad y perthynai iddo, ond ni allent ei hiachau o'i harcholl. Yr oedd rhai pethau o'r bregeth hono hefyd yn ymddangos yn bur dywyll iddi, ac yn bur wrthwynebus i'w meddwl, a charasai gael ymddyddan âg ef yn eu cylch. "Yr ydych yn rhy wan yn awr, Madam," meddai yntau, "os caniatewch i mi fyned i weddi yn fyr cyn ymadael, y mae hyny yn gymaint ag a ellwch chwi ddal heddyw, a mi a ddeuaf yma yfory eto." Caniatawyd hyny yn rhwydd iddo. Parhaodd i ymweled à hi bob dydd. Cytunasent fod iddi hi nodi dim ond un o'i gwrthddadleuon ar y tro, ac iddo geisio ateb a symud hono; ac felly aethant yn mlaen am rai dyddiau. Yr oedd y meddyg yn bur anfoddlon pan ddeallodd hyn, gan ddadleu fod ymddyddanion felly yn ormod iddi yn y gwendid yr oedd hi ynddo, ond mynai hi gael Mr. Williams ati bob dydd i'w hystafell, a dywedai ei fod ef yn gwneud llawer mwy o les iddi nag oedd y meddyg a'i gyffyriau yn ei wneud. Y canlyniad fu symud o'i meddwl bob gwrthwynebiad a deimlai i athrawiaeth fawr yr efengyl o Iawn er maddeuant pechodau, a'i dwyn i fod Gristion gostyngededig at Groes Crist. Gwellhaodd o'i chlefyd, gadawodd ei hen gyfeillion crefyddol, ac ymunodd âg un o'r eglwysi Annibynol yn y dref. A phan oedd Mr. Williams yn glaf, deuai i ymweled âg ef bob dydd, a mawr oedd ei serch ato tra fu efe byw. Adroddai Mr. Williams yr hanes i'r ysgrifenydd un bore Sabbath ar yr heol wrth fyned gyda'u gilydd o'i dŷ ef yn Great Mersey Street, i Bethel, Bedford Street, capel ein cyfaill Mr. Pierce. Yn Ninbych yr oeddwn i yn byw y pryd hwnw. Buasai yn dda genyf lawer gwaith pe buaswn wedi holi mwy i fanylion yr hanes, a chael adroddiad o gynwysiad yr ymddyddanion a fuasai rhyngddynt. "Yr oedd hi," meddai ef, "yn foneddiges o alluoedd cryfion iawn, ac o feddwl goleuedig a choeth; ac nid gwaith hawdd ac ysgafn oedd ateb ei gwrthddadleuon a'i rhesymau. Nid oedd wedi ymgymeryd â'i golygiadau Undodaidd yn arwynebol ac ysgafn, ond yr oeddynt yn argyhoeddiad meddwl wedi dwys ymchwiliad, darllen, a myfyrdod; ac felly, nid peth bychan a hawdd oedd iddi ymryddhau oddi wrthynt. Gwrandawodd ugeiniau y bregeth hono yn Colwyn yn ei holl nerth cynhenid, ac nid trwy gyfieithiad o ryw ranau o honi, ac aethant ymaith, hwyrach, yn ddiystyr ganddynt, ac ni feddyliasant mwy am dani. Ond saethodd gwreichion o honi, er dan anfantais o gyfieithiad, i feddwl a chalon y wraig foneddig hono a fuont yn foddion i'w goleuo am ei chyflwr fel pechadures, ac am ogoniant a chyfaddasder y drefn fawr o ras yn Aberth ac Iawn y Gwaredwr ar gyfer trueni ac angen yr euog; ac i'w harwain i dderbyn a chofleidio y drefn hono am ei bywyd tragwyddol. Mor ddyfnion, mor gyfriniol a doethion, ydyw ffyrdd a goruchwyliaethau rhagluniaeth a gras. Llenwid breichiau Mr. Williams gan waith yn nglŷn â materion cyhoeddus yn wladol a chrefyddol yr adeg hon. Ymdrechodd o blaid llwyr ddiddymiad y Dreth Eglwys anghyfiawn a gorthrymus. Efe hefyd a ddewiswyd yn drysorydd y dysteb a roddwyd i'r Parch. E. Davies (Eta Delta), Llanerchymedd, yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwerthfawr yn nglŷn â'r achos dirwestol, ac yn arbenig fel "Y Llwyrymwrthodwr cyntaf yn Nghymru." Bu Mr. Williams hefyd yn dadleu mewn cyfarfod cyhoeddus yn Liverpool y pryd hwn dros benodi Esgobion Cymreig i Gymru. Ymosodwyd arno yn ffyrnig am hyny, mewn ysgrif wenwynig, yr hon a ymddangosodd yn y rhifyn olaf o'r "Papyr Newydd Cymraeg," yr hwn a gyhoeddid yn Nghaernarfon. Erbyn heddyw, ni wyr bron neb, ond y nesaf peth i ddim o hanes "Y Papyr Newydd Cymraeg,"[1] ond y mae penodi Esgobion Cymreig i'r Cymry yn ol athrawiaeth ein gwrthddrych y pryd hwnw yn beth sydd erbyn hyn yn cael ei hawlio, ac nid diogel ei wrthod, gan mor gryf yw y teimlad Cymreig o blaid hyny. Er wedi gadael Cymru, eto parhai Mr. Williams i dalu ymweliadau mynych â gwlad ei enedigaeth, ac yn arbenig â hen faes ei lafur. Yr ydym yn ei gael ar Gorphenaf 23ain, 1837, yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd ar Elizabeth, merch fechan Mr. William ac Elizabeth Griffith, Bersham. Hi oedd yr olaf o blant y Wern a fedyddiwyd ganddo ef. Bedyddiodd ganoedd lawer o blant yn y Wern, a lleoedd eraill, yn ystod ei oes weinidogaethol. Wrth eu cyflwyno i'r Arglwydd drwy fedydd, arferai roddi cynghorion pwysig iawn i'r rhieni ar yr amgylchiad, y rhai a gofid ganddynt, a throsglwyddir hwynt o oes i oes, ac felly gwasanaethant yr oesau, megys yr engraifft a ganlyn a gofnodir yn y Dysgedydd gan y Prifathraw E. Herber Evans, D.D.,—"Daeth yr olygfa hon i'n cof, a sylw glywsom gan yr hen frawd ffyddlawn Mr. Griffith Thomas, Treflys, Bethesda, am Mr. Williams o'r Wern yn bedyddio. Gofynem iddo beth oedd yn nodedig yn y pregethwr anfarwol hwn, ei ateb oedd, yr oedd yn wastad yn dweyd rhywbeth i'w gofio. Er engraifft, meddai, clywais ef yn bedyddio baban unwaith mewn ty, a dywedodd fel hyn: Dyma faban, efe fydd y brenin yn y ty hwn. Rhaid i bawb yn y ty redeg pan fydd ef yn galw. Rhaid i'r fam godi haner nos os bydd yn gwaeddi. Rhaid i'r tad hefyd, adael pob peth os bydd eisiau help arno ef. Y bychan fydd y brenin, a phawb trwy'r ty yn ufuddhau iddo nos a dydd. Rhaid tendio arno, rhaid iddo gael teyrnasu, ond cofiwch, dim ond am flwyddyn. Yn mhen y flwyddyn, diorseddwch ef. Ufudd-dod wed'yn. Ac os na fynwch chwi ufudd-dod yn mhen blwyddyn, fe ymgyndyna yn erbyn ufudd-dod am ei oes.' Teimlwn fod y sylw hwn yn deilwng o'r gwr mawr, oedd yn gymaint o athronydd yn ei eglurebau."

Teimlwn ninau wedi darllen yr uchod, mai gwir y dywediad, "Nid oes dim sydd wir a theilwng yn myned ar goll." Yn y Gymanfa Ddirwestol fawr a nodedig a gynaliwyd yn Nghaernarfon Awst 2il a'r 3ydd, 1837, yn ychwanegol at weinyddu yn ddoeth fel cadeirydd i'r holl gynadleddau, areithiodd a phregethodd Mr. Williams yn hynod o'r effeithiol yn yr wyl hono. Dywed yr Hybarch David Williams (M.C)., Conwy, am y Gymanfa hono, yr hwn oedd yn bresenol ynddi, fel y canlyn:—"Yr oedd yno lu o enwogion y pulpud, megys John Elias, Williams o'r Wern, Christmas Evans, Griffith Hughes (W.), H. Griffiths, Llandrygan, Mon (Eglwyswr Rhyddfrydol a chydwybodol), a llawer eraill o weinidogion o bob enwad, a lleygwyr parchus o bob rhan o'r wlad. Dyma yr wyl ddirwestol enwocaf a welsom erioed. Yr oedd y dyrfa fawr yn cyrhaedd o'r dref i'r Morfa yn agos i filldir o ffordd. Cychwynodd yr orymdaith o Gapel Moriah, yn cael ei blaenori gan y gwŷr enwog a enwir uchod. Aethent drwy y prif heolydd dan ganu:—

"Er gwaetha'r llid yn mlaen yr awn,
Fel llu banerog enwog iawn," &c.

Yn y Morfa yr oedd esgynlawr gyfleus wedi ei darparu, a chafwyd yno gyfarchiadau hyawdl a nerthol gan y cewri a enwyd. Dywedodd Mr. Williams y bydd arweinwyr mewn drygioni yn y byd hwn yn hawdd i'w hadnabod yn y byd arall—y bydd pob llofrudd yn adnabod Cain yno, a phob eilunaddolwr yn adnabod Jeroboam, a phob meddwyn yn adwaen Belsassar, a phob un halogedig yn adwaen Esau, a phob un werthodd Fab Duw yn adnabod Judas, yn uffern byth. Yr oedd yr effeithiau yn drydanol ar y miloedd a wrandawent yno. Pregethodd Mr. Williams hefyd yn y Gymanfa hono, oddiar Actau xvii. 19, 20—"A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysg newydd hon a draethir genyt." Yn Y Diwygiad Dirwestol, tudalen 162, dywed y Parch. J. Thomas, D.D., am ei bregeth fel y canlyn—"Pregeth anghymharol, yr eglurhad llawnaf a thecaf o'r egwyddor: Ddirwestol a glywais erioed. Felly y teimlwn y pryd hyny, ac felly y dywedai y rhai oedd mewn. oedran cyfaddasach i farnu. Yr egwyddor fawr o hunanymwadiad oedd yr un a safai arni, a dangosai fel y mae pethau sydd ynddynt eu hunain yn gyfreithlawn, yn myned yn bechadurus drwy y camarferiad o honynt; a phan yr änt felly, y dylid llwyrymwrthod â hwy. Cyfeiriodd at y sarff bres, yr hon oedd o ordeiniad Duw; ond pan yr aeth yn fagl i'r bobl, gorchymynwyd ei dinystrio. Amlhaodd ei eglurhadau nes y dangosodd yn eglur fod yr egwyddor ar ba un yr oedd y gymdeithas yn seiliedig yn gorwedd yn yr Ysgrythyrau." Ar ein cais, anfonodd yr Hybarch. Benjamin Hughes (M.C.), Llanelwy, i ni yr ysgrif werthfawr a ganlyn, a chan ei bod yn dal perthynas a'r cyfnod hwn yn hanes ein gwrthddrych, rhoddwn hi yma yn ddiweddglo i'r benod hon—"Y mae adgofion boreuaf fy oes yn dal cysylltiad agos â'r dygwyddiadau crefyddol oedd yn nglŷn â'r gwahanol enwadau yn Nhreffynon, lle y'm ganwyd ac y'm dygwyd i fyny. Oedfeuon hynod, Cyfarfodydd Blynyddoi, Cymanfaoedd, Cyfarfodydd Beiblau, gweinidogion dyeithr perthynol i wahanol lwythau Israel yn ymlwybro i'r cysegr, oeddynt y pethau a dynent fy sylw penaf i, ac a wnaent yr argraff ddyfnaf ar fy meddwl. Gan nad oeddym yn byw nebpell oddiwrth gapel yr Annibynwyr, byddwn er yn fachgen pur ieuanc yn cymeryd dyddordeb neillduol yn y Cyfarfod Blynyddol a gedwid yn addoldy yr enwad hwnw, ar ddydd Gwener y Groglith. Cymerwn fy eisteddle yn lladradaidd ar un o'r meinciau ar y llawr neu yn yr oriel. Yr oedd rhyw edmygedd dwfn yn fy meddianu tuag at y gweinidogion a ddeuent i gynal y cyfarfod. Un achos o'r cywreinrwydd am meddianai pan elwn i addoldy Heol y Capel, oedd gweled y gweinidogion yn dyfod i'r pulpud drwy y drws, o'r ystafell fechan yn union o'r tu cefn i'r areithle. Yr oedd hyny yn rhoddi rhyw ddylanwad cyfriniol ar fy meddwl yr adegau hyny. Yr oedd y pregethwr oedd yn bwriadu cyfarch y gynulleidfa yn cael ei hunan ar funydyn wyneb yn wyneb a chynulleidfa fawr; ac o'r ochr arall, yr oedd pobloedd lawer yn cyd-blanu eu llygaid ar y genad oedd i sefyll rhwng y byw a'r meirw. Yr oedd yr olygfa yn peri i mi feddwl am yr archoffeiriad gynt yn dyfod o'r gafell santaidd i blith y bobl. Cofus genyf mai y gweinidogion a ddeuent i Dreffynon i'r wyl flynyddol yr adegau hyny i bregethu, oeddynt y Parchn. John Roberts, Llanbrynmair; R. Jones, Rhuthyn; D. Roberts, Dinbych; I. Harris, Wyddgrug; T. Jones, Newmarket; B. Evans, Bagillt; O. Owens, Rhes-y-cae; W. Rees, Mostyn; ac yn arbenig Mr. Williams o'r Wern. Byddai ef yn gyffredin yn pregethu ddwywaith yn y cyfarfod, naill ai y ddwy noson, neu ynte am ddeg boreu Gwener a'r noson ddiweddaf. Yr wyf yn cofio yn dda fel y byddai y gweinidogion yn cael hwyl i bregethu. Defnynai eu hathrawiaeth fel gwlith-wlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt. Gwisgid hwynt â nerth o'r uchelder, ond ymddangosai Mr. Williams i mi fel o dan raddau helaethach o'r eneiniad dwyfol, na neb o'i frodyr. Pan y cyfodai ef, elai allan yn gorchfygu, ac i orchfygu. Yn awr, caniateir i mi geisio rhoddi desgrifiad byr o hono mewn cyfarfod pregethu. Dychmyged y darllenydd ei fod ar nos Wener y Groglith, yn un o'r blynyddoedd rhwng 1833, a 1839, yn cael ei hunan yn addoldy Heol y Capel, Treffynon. Am chwech a'r gloch y mae yr oedfa i ddechreu, ond y mae y capel yn llawn haner awr cyn yr amser, ac erbyn adeg dechreu y mae yr addoldy yn orlawn. Y mae nifer y gwrandawyr yn mhob sedd wedi dyblu, ac y mae y mynedfeydd, y conglau, a'r gwagleoedd yn dyn o bobl o bob gradd yn awyddus i wrandaw cenadwri gweision y Duw Goruchaf. Ond beth am y lluaws pobl sydd wrth y drysau oddiallan? Wel, y mae eu sefyllfa hwy yn debyg i'r eiddo y gwrandawyr hyny yn Capernaum gynt, "Ac yn y man llawer a ymgasglasant yn nghyd, hyd na anent, hyd yn oed yn y lleoedd yn nghylch y drws." Ond atolwg a oes dim modd rhoddi ychydig o ymwared i'r nifer mawr acw sydd yn sefyll ar y llawr ac yn nghyrion uchaf yr oriel? Oes, y mae modd, drwy gyrchu y meinciau o'r ysgoldy, a hyny a wnaed, fel y gallai yr addolwyr eistedd bob yn ail â'u gilydd. Erbyn hyn y mae yn amser dechreu y gwasanaeth, a dacw bregethwr, glandeg yr olwg arno, tua chanol oed, yn codi i fyned drwy y rhanau defosiynol o'r addoliad. Y mae y canu yn wresog, y darlleniad o'r Ysgrythyr yn hyglyw, a'r weddi yn daer, yn deimladwy, ac yn gynwysfawr. Yn mhen enyd o amser dacw y drws o'r tu cefn i'r pulpud yn agor, ac wele weinidog arall yn gwneuthur ei ymddangosiad, ac y mae yn amlwg wrth wedd foddhaus y gynulleidfa ei fod yn uchel yn eu ffafr. Pregethai yn goeth, yn ddoniol, ac yn dda. Ond wedi iddo fod am rhyw dri chwarter awr yn egluro trefn y cymod yn effeithiol, a chyda graddau helaeth o gymeradwyaeth, canfyddid arwyddion ar wynebpryd y gynull- eidfa ei bod yn dysgwyl cyfranogi o seigiau brasach yn y man, ac yn parotoi ei hunan i yfed o felusaf winoedd yr efengyl. Wedi i'r pregethwr cyntaf gilio o'r neilldu, ac i ddor y gafell gael ei agor, wele weinidog arall yn gwneud ei ymddangosiad. Gwr yn tueddu y pryd hwn at fod braidd yn deneu, ac ychydig yn dalach na'r cyffredin. Gwynebpryd agored, wedi ei eillio yn lân, dau lygad tanllyd, eryraidd, yn llawn gwroldeb a meddylgarwch, ac yn meddu digon o allu i dreiddio i ddirgelion natur y gynulleidfa. Talcen uchel, cnwd helaeth o wallt, a hwnw, er nad yn annhrefnus, eto heb ei drin a'i droi yn goegfalch. Gwddf-gadach gwyn (nid gwddf-dorch glerigol), can wyned a'r eira, a hwnw wedi ei glymu, nid yn ddolenog ac ymddangosiadus, ond yn disgyn i lawr yn weddus, ac yn cuddio yr holl fynwes. Dyna y Parchedig William Williams, Wern-un o dywysogion y pulpud Cymreig yn yr oes o'r blaen. Nid oedd rhaid i'r pregethwr hwn wneuthur unrhyw esgusawd dros sefyll i fyny yn y lle santaidd i gyhoeddi yr efengyl, ac nid oedd eisieu iddo ef gyflwyno cred-lythyrau oddi wrth unrhyw lys daearol er mwyn argyhoeddi dynion ei fod yn deyrngenad (ambassador) wedi ei anfon oddi wrth Dduw, oblegid yr oedd ei fedr, ei amcan, ei ysbryd, ei ddifrifwch, a'i ymroddiad, yn cario argyhoeddiad igydwybod pawb ei fod yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Dyna fe yn darllen ei destun, mewn llais eglur, fel yr oedd pawb yn gwybod yn y fan pa faes y bwriadai ei lafurio, a beth fyddai rhediad ei genadwri. Yn ei ragymadrodd wrth ddangos perthynas y geiriau a'r cyd-destunau, er ei fod yn goeth, nid oedd yn feirniadol iawn, nac yn esboniadol; ond yr oedd y tro hwnw yn gystal a throion eraill y clywais ef, yn egluro cryn lawer ar yr Ysgrythyrau yn ngoleuni ei natur dda ei hun, ei ewyllys dda, a synwyr cyffredin. Wrth ranu ei destun, cododd faterion agos iawn at y gwrandawyr, heb fod yn rhy uchel ar y naill law, nac yn rhy isel ar y llaw arall. Wrth ddefnyddio cymhariaethau i egluro y gwirionedd, yr oedd yn dra gochelgar rhag ymylu at ddim fuasaai yn rhoddi y tramgwydd lleiaf i'r puraf ei chwaeth, ac hefyd rhag dweyd dim fuasai yn rhoddi unrhyw feithriniad i halogedigaeth. Yn mhen rhyw ugain munyd yr oedd y pregethwr wedi twymno i'r fath raddau, fel yr oedd yn hawdd gwybod fod y gwirionedd yn llosgi yn ei ysbryd ef, yn gymaint felly, fel y dangosai hyny ei hun yn y llais, llygaid, a gruddiau y pregethwr. Ac yn mhen rhyw haner awr nofiai fel Lefiathan yn ei elfen yn nyfroedd yr efengyl. Mor hapus y cyfeiriai at ddamegion Crist, ac at hanesion yr Hen Destament, ac y gosodai bron bob peth o dan deyrnged er egluro a grymuso ei resymau dros i ddynion dderbyn yr Iachawdwriaeth. Llefarai nid am y bobl, nac yn nghlyw y bobl, ond wrth y gwrandawyr. Erbyn hyn y mae ugeiniau o'r gwrandawyr a lluaws o'r gweinidogion, yn ddiarwybod iddynt eu hunain yn codi i sefyll, blith drafflithi wrando, gan mor fwyned oedd sain yr udgorn arian. O mor eglur, mor wresog, ac mor hyawdl y mae yn llefaru, mor ddengar ydyw ei wahoddiadau, mor resymol ydyw ei gymwysiadau, ac mor ddifrifol ydyw ei apeliadau. Treiglai ei chwys i lawr ar hyd ei ruddiau, a dacw y dagrau heilltion yn tywyllu ffenestri ei lygaid, ac y mae yr holl gynulleidfa wedi ei gorchfygu. Yn nghanol cyffro mawr a theimladau dwysion, terfynodd y gweinidog enwog ei bregeth y noson hono, a phawb yn teimlo ei fod ef bellach, yn lân oddiwrth eu gwaed hwy oll. Clywais Mr. Williams amryw droion pan oeddwn yn fachgen, ond yr oedfa uchod sydd yn aros yn fwyaf byw yn fy nghof. Yr ymarferol yn benaf, ac nid yr athrawiaethol oedd rhediad cyffredin ei weinidogaeth. Byddai ganddo doraeth o gymhariaethau i daflu goleuni ar ei faterion. Meddai fedr neillduol i gyflwyno yr efengyl mewn dull enillgar i'w gydgenedl. Ymddangosai fel pe buasai ei enaid wedi ymffurfio mewn mould Gymreig. Yr oedd dullwedd ei feddwl wedi ei wisgo a'i addurno mewn arddull Gymreig. Cymru, Cymry, a Chymraeg, oeddynt wrthddrychau agos iawn at ei galon. At arferion Cymreig, da neu ddrwg, y byddai yn cyfeirio y rhan amlaf yn ei weinidogaeth. Cymhariaethau Cymreig a ddefnyddiai i egluro ei faterion, a diarhebion Cymreig oedd y rhai o'r morthwylion oedd ganddo i yru y gwirioneddau adref, ac i'w rhybedu yn nghydwybodau y gwrandawyr. Pe buasai pagan yn gwrandaw arno y tro cyntaf, buasai yn penderfynu yn sicr mai Cymro gwresog oedd Abraham, ac mai Cymry ffyddlawn oedd Moses, Samuel, a Dafydd; ïe, mai Cymro o'r Cymry oedd yr apostol Paul, ac mai un o genedl y Cymry o ran y cnawd, ac un yn caru ein cenedl ni yn fwy na neb arall oedd Gwaredwr mawr y byd! Gan fod cymaint o'r nodweddion hyn, yn nghyda llawer o bethau pwysig eraill yn ei weinidogaeth, nid oedd yn rhyfedd yn y byd fod Mr. Williams mor boblogaidd, Y mae genyf amryw bethau eraill y gallwyf gyfeirio atynt, ond nid ydynt mor eglur yn fy nghof. Ond y mae dau amgylchiad arall y gallaf eu nodi yn fyr, sef y rhan a gymerodd Mr. Williams mewn ordeiniad gweinidog yn Nhreffynon, a'i ymdrech gyda dirwest pan y sefydlwyd yr achos da hwnw gyntaf yn ein gwlad. Gan fod eglwys a chynulleidfa barchus yr Annibynwyr yn Nhreffynon, yn cael ei gwneud i fyny o Gymry a Saeson y pryd hwnw, rhoddodd yr eglwys yn 1835 alwad i ddau frawd ieuanc i ddyfod atynt i'w bugeilio, sef Mri. D. W. Jones ac Ellis Hughes, y rhai oeddynt newydd ddyfod o'r Athrofa. Yr oedd Mr. Jones i ofalu am y Saeson, a Mr. Hughes i wasanaethu y Cymry, a hyny yn yr un capel. Yn mhen amser, cafwyd cyfarfod i ordeinio y ddau bregethwr, a hyny yr un diwrnod. Ordeiniwyd Mr. Jones yn y boreu, ac yr oedd y gwasanaeth oll yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr iaith Seisonig. Rhoddwyd y charge i'r gweinidog ieuanc gan yr enwog Dr. Raffles, Liverpool. Ordeiniwyd Mr. Hughes yn y prydnawn, ac yr oedd yr holl wasanaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen yn Gymraeg. Cymerodd nifer o weinidogion Cymreig ran yn neillduad Mr. Hughes. Rhoddwyd y cynghor i'r pregethwr ieuanc gan Mr. Williams Wern. Yr oeddwn i yn y cyfarfodydd hyny drwy y dydd, yn eistedd yn yr oriel, ac yn talu sylw manwl i'r holl weithrediadau. Yr oedd anerchiad Mr. Williams i'r gweinidog yn effeithiol iawn, ac yn meddu nodweddion cynghor apostolaidd. Yr wyf yn ei weled yn awr â llygaid fy meddwl, fel yr ydoedd y pryd hwnw yn sefyll yn y pulpud, a'r gweinidog ieuanc yn nghongl y sedd fawr, ychydig islaw yr areithfa, ac yr oedd apeliadau y cynghorwr fel llais o dragwyddoldeb. Dywedodd lawer o bethau pwysig iawn, a gwnaeth rai sylwadau a ddaethant yn mhen rhyw ddwy flynedd neu dair ar ol hyny, i gael eu hystyriel fel rhagfynegiadau prophwydoliaethol. Dywedodd, 'Fy mrawd ieuanc, gofelwch ar fod cyfrinach agos rhyngoch chwi a'r Arglwydd Iesu Grist. Cofiwch yn wastad mai gwas ydych, ac mai rhyngu bodd eich Meistr a ddylai fod yn amcan penaf eich bywyd. Codwch eich golwg yn ddigon uchel i fyny, dros ysgwyddau ac uwchlaw personau o fri ac awdurdod pa faint bynag fyddo eu taldra, 'Gan edrych ar Iesu,' yn mhob amgylchiad. Os gwnewch chwi hyny, ni chewch byth eich siomi ynddo ef. Nid yw yn beth anmhosibl, nad all y rhai fuont yn fwyaf blaenllaw i'ch cael yma i lafurio, droi eto yn eich erbyn a'ch anesmwytho, fel y teimlwch mai gwell fydd i chwi fyned oddiyma. Gobeithio mai nid felly y bydd pethau, ond fel hyny y gwelwyd mewn rhai lleoedd gweinidogion yn cael eu siomi yn boenus, a phersonau a phethau yn troi allan yn hollol i'r gwrthwyneb i'r hyn a addawyd ac a ddysgwyliwyd. Ond os byddwch chwi ar delerau da â'ch Meistr, sef yr Arglwydd Iesu Grist, fe lyna ef yn ffyddlawn wrthych pe byddai i bawb droi yn eich erbyn. A oedd craffder cynhenid Mr. Williams yn ei alluogi y pryd hwnw i ragweled nas gallasai y Cymry a'r Saeson drigo yn nghyd, ac addoli yn gytun yn yr un lle felly, a'i fod yn hyny yn gweled arwyddion drygfyd—nis gwn. Ond hyn sydd sicr, ymadawodd Mr. Hughes, gan fyned i fugeilio eglwys Penmain, a bu yn llafurio yno yn llwyddianus hyd ddiwedd ei oes; a chyflawnwyd prophwydoliaeth Mr. Williams yn llythyrenol. Cofiwyd ei eiriau yn hir, a buont yn destyn ymddyddan am lawer o flynyddoedd ar ol hyny.

Bu Mr. Williams mewn Gwyliau Dirwestol yn Nhreffynon, yn dadleu yn hyawdl dros yr achos gwerthfawr hwnw. Yr wyf yn ei gofio yno mewn cynadledd ddirwestol tua'r flwyddyn 1838. Yn nglyn a'r gynadledd hono, yr oedd y Parch. W. Rees (Dr. Rees), Dinbych y pryd hwnw, a Mr. Williams yn cyd—bregethu ar ddirwest yn nghapel eang y Methodistiaid Calfinaidd. Testyn Mr. Rees ydoedd Jos. vii. 12, Ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddyfethwch yr ysgymunbeth o'ch mysg;' a thestyn Mr. Williams ydoedd Act. xvii. 19, 'A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysg newydd hon, a draethir genyt.' Yr oedd sylwadau y ddau weinidog enwog yn dra phriodol. Ergydiai Mr. Rees yn effeithiol at ddrygedd y fasnach feddwol, ac eglurai Mr. Williams egwyddorion llwyrymwrthodiad â'r diodydd gwaharddedig, gan ddangos y manteision a'r bendithion a ddeilliai i'r Cymry, ac i holl genedloedd y ddaear, pe deuai dynion i fyw bywyd o sobrwydd. Yr oedd pob peth yn fawr yn yr oedfa hon megys yn yr oedfaon eraill y cefais y pleser o fod ynddynt yn gwrando ar Mr. Williams—capel mawr, cynulleidfa fawr, pregethwyr mawr, materion mawr, hwyliau mawr, ac effeithiau mawr yn dilyn. Gellir dweyd yn ddibetrus na chodwyd er dyddiau yr apostolion, mewn talaeth mor fechan a Chymru, y fath nifer o weinidogion enwog perthynol i'r gwahanol enwadau ag a godwyd yn yr haner diweddaf o'r ganrif o'r blaen, a'r haner gyntaf o'r ganrif hon.

Deled yr Arglwydd i greu, i lunio, ac i wneuthur llawer eto yn ein gwlad i fod yn gedyrn gyda gweinidogaeth yr efengyl, ac i ymaberthu er iachawdwriaeth eneidiau colledig, megys y gwnaeth y Parchedig William Williams o'r Wern."

Nodiadau[golygu]