Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/O Wyl Ddirwestol Treffynon Hyd Yr Ystorm Fawr Yn Liverpool

Oddi ar Wicidestun
O'i Symudiad i Liverpool Hyd Yr Wyl Ddirwestol Yn Nhreffynon Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

O Gymanfa Bethesda Hyd Ei Farwolaeth

PENNOD XIII.

O ADEG YR YSTORM FAWR YN LIVERPOOL HYD GYMANFA BETHESDA.—1839

Y CYNWYSIAD.—Ystorm fawr Liverpool Y Parch R. Parry, (Gwalchmai) yn galw yn nhy Mr. Williams dranoeth wedi yr ystorm—Gweddi effeithiol o eiddo Mr. Williams y boreu hwnw—Yr ystorm yn effeithio yn niweidiol ar iechyd ei ferch henaf, ac ar yr eiddo yntau hefyd—Llythyr Mr. Edwyn Roberts, Dinbych—Helynt "cario y faince" yn Liverpool—Agoriad capel y Rhos—Cymanfa Bethesda Llythyr y Parch. D. Griffiths—Mr. Williams yn pregethu yn Bethel, ac yn areithio ar ddirwest yn Siloh, Felin Heli—Ei bregeth nodedig ar etholedigaeth yn Bethesda—"Hen Gymanfaoedd," gan Mr. W. J. Parry, C.C—Cymanfa Bethesda y ddiweddaf i Mr. Williams bregethu ynddi—Anghydfod rhwng Dr. Arthur Jones a Mr. Williams—Dr. W. Rees yn llwyddo i'w cymodi a'u gilydd—Dr. Arthur Jones yn ei hebrwng ymaith i "gwr pellaf y traeth."

NID ydym yn hollol sicr pa un ai yn 18, Boundary Street, ai yn Great Mersey Street, yr oedd ein gwrthddrych yn byw pan y drylliwyd ei dŷ gan y rhuthrwynt mawr, Tueddir ni i gredu mai yn yr heol olaf a enwir y trigai efe ar y pryd hwnw, sef yn y ty a rifnodir yn awr â'r rhif 26, Great Mersey Street; ac iddo wedi hyny, symud i 18, Boundary Street, lle y bu hyd ei ymadawiad o Liverpool.

Yr oedd yr ystorm hono o ran ei ffyrnigrwydd a'i chyffredinol—rwydd y fath, fel y collodd cant a phymtheg eu bywydau gwerthfawr yn Liverpool a'r amgylch—oedd; a gwnaed difrod lawer iawn ar fywydau a meddianau ar dir a môr mewn lleoedd eraill hefyd. Bwriadai y Parch. R. Parry (Gwalchmai), letya yn nhy Mr. Williams, y noson y cymerodd yr ystorm le, ond lluddiwyd ef, fel nas gallodd gyrhaedd yno hyd dranoeth. Wedi iddo fyned i'r ty, arweiniodd ein gwron ef i'r ystafell yn yr hon yr oedd canoedd o geryg wedi disgyn ar y gwely, lle y bwriedid iddo ef gysgu. Dywedodd Mr. Williams wrtho yn dawel, "Wel, frawd, dyma lle y buasai dy orweddfa, pe daethit yma yn ol dy fwriad." Yr oedd ei sylwadau ar ddaioni Duw yn y waredigaeth a roddwyd iddynt, yn gyfryw nas gellid byth eu hanghofio. Dywedai, "gallai fod rhywbeth eto i ni i'w wneud ar ol arbediad fel hyn, y mae yn anogaeth i ni i fod yn fwy cysegredig i'r gwaith, We must improve it in a sermon.' Arosodd Mr. Parry gydag ef, hyd nes yr oedd yr addoliad teuluaidd drosodd, ac a defnyddio ei eiriau ef ei hunan" Yr oedd rhywbeth yn hynotach yn ei weddi y pryd hwnw na dim a glywswn erioed; yr oedd fel pe buasai yn gofyn cenad y Goruchaf, i nesâu ato yn nes nag arferol, megys i ymddyddan àg ef wyneb yn wyneb—mor syml (simple), mor deimladol; eto, mor eofn, ryw fodd, nes yr oeddwn yn arswydo yn grynedig yn fy lle; a pharhaodd rhyw deimlad nad allaf ei ddarlunio wrthyf dalm o ddyddiau, braidd na ddychymygaswn fod ei wyneb yn dysgleirio fel Moses; ni welais fwy o arwyddion ysbryd duwiolfrydig erioed." Er i'r teulu oll gael eu gwaredu rhag angeu y noson ofnadwy hono; eto, dychrynwyd hwy yn ddirfawr, a bu cyfodi o'u gwelyau ganol nos, a bod o dan fin yr awel oer hyd y boreu, yn achos i Miss Williams, ei ferch henaf, yr hon oedd eisioes yn llesg a gwanaidd iawn, i gael anwyd trwm, yr hwn a brysurodd ei marwolaeth. Effeithiodd yr amgylchiad yn niweidiol ar iechyd dirywiedig Mr. Williams hefyd, ac o hyny hyd derfyn ei yrfa, gwelid yn amlwg mai gwanychu yn raddol yr ydoedd! Ond eto, ymdrechai gyflawni ei weinidogaeth gartref ac oddi—cartref; ac yr oedd yn llwyddo i wneuthur hyny gyda chymeradwyaeth a boddlonrwydd cyffredinol, er mewn gwendid a nychdod mawr. Mewn llythyr o'i eiddo atom, dywed Mr. Edwyn Roberts, pregethwr parchus a chymeradwy yn Ninbych, am Mr. Williams yn y cyfnod hwn, fel y canlyn:—"Gallaf nodi, pan y byddai yn dyfod i Ddinbych i bregethu neu i areithio, y byddai yn hynod o'r poblogaidd yma fel mewn lleoedd eraill, Yr oedd yma hen wraig gynt o'r enw Bety Jones, yr hon na byddai yn myned i un lle o addoliad, ond ar ddau achlysur yn unig, sef i'r Eglwys Sabbath y Pasg, ac i gapel Lôn Swan y Sabbath y byddai Mr. Williams o'r Wern yno yn pregethu. Erbyn Sabbath y Pasg, rhoddai Bety ei chap allan ar y gwrych i'w sychu a'i wynu, a rhoddai ef allan yn yr un modd erbyn Sabbath Williams o'r Wern. Gofynai Mr. John Griffith, yr hen ddiacon iddi, Bety, beth yw yr achos eich bod yn rhoddi y cap allan?' Yr ateb fyddai, Mr. Williams o'r Wern sydd i fod yn nghapel Lôn Swan y Sabbath.' Tynai bob dosbarth o bobl i'w wrando, a deallid ef yn ymdrin hyd yn nod â phethau mawrion yr efengyl, gan bob gradd o ddynion. Clywais ef yn pregethu ar 'Rwymo Satan,' oddiar Datguddiad xx. I—3. Yr oedd hyny ar noswaith gyntaf ein cyfarfod blynyddol, ac efe yn unig a bregethodd y noswaith hono. Dywedai mai cadwyni i rwymo Satan yw yr Ysgol Sabbathol a'r Gymdeithas Ddirwestol, y rhai ydynt yn cydweithio â'u gilydd i'r amcan hwnw. Pregethodd am awr y noson hono, a sonir am y bregeth yn y dref a'r wlad hyd y dydd heddyw. Bu yma aml i dro yn areithio ar ddirwest, ond saif un ymweliad o'i eiddo gyda'r amcan daionus hwnw, megys ar ei ben ei hun, ac yn fwy hynod na'i ymweliadau eraill. Areithiai y tro hwnw ar ganol y dref y Groes—ac yr oedd mor effeithiol y waith hono, fel yr oedd cedyrn yn wylo yn hidl, ac nid anghofir ei anerchiad gan neb o'r rhai a'i gwrandawodd." Y mae ambell un yn gawr yn yr areithfa ond yn blentyn eiddil a hollol amddifad o allu i drafod amgylchiadau dyrys mewn eglwys, ond yr oedd Mr. Williams yn gryf ac yn fedrus yn y naill gylch fel y llall. Cymerai ambell ddygwyddiad le yn ei absenoldeb, ag y methai y brodyr ei ddwyn i ben yn foddhaol. Bu amgylchiad felly unwaith o dan ei sylw, yr hwn a achoswyd drwy waith un o aelodau eglwys y Tabernacl yn cario mainc ar ei ysgwydd o'r naill le i'r llall, yr hyn nad oedd yn gyfreithlawn iddo i wneuthur, a hyny oblegid ei fod ar y pryd yn derbyn cynorthwy o Gymdeithas Cleifion yn y dref, ac yr oedd cyflawni unrhyw orchwyl pan yn derbyn o'i chyllid, yn groes i reolau y gyfryw gymdeithas. Dygwyd y mater i'r eglwys, a chynaliwyd llawer o gyfarfodydd yn nglŷn âg ef. Methai y diaconiaid a'r brodyr oll ei derfynu gyda dim boddlonrwydd. Cyrhaeddodd Mr. Williams adref, a gosodwyd helynt "cario y fainc" o'i flaen, gan erfyn arno alw sylw yr eglwys at y mater. "O'r goreu," meddai yntau, ac felly y bu. "Dywedwch yr achos," meddai wrthynt. Yna hwythau a ddechreuasent fyned dros yr helynt yn fanwl a helaeth iawn, a bu yno lawer o siarad hollol ddifudd. O'r diwedd, gofynodd Mr. Williams iddynt, a hyny yn dawel, ac mewn ffordd awgrymiadol nodedig, "A fedrwn ni ddim codi ein traed bellach dros y fainc?" Yn y fan terfynodd y cwbl, a phawb yn teimlo yn ofidus am ddarfod iddynt ymdroi cymaint gyda mater mor ddibwys a "chario mainc," a theimlasent hefyd mai gwerthfawr oedd meddu gweinidog oedd yn gallu gwneuthur yr ystorm yn dawel. Gobeithiai cyfeillion niferus Mr. Williams, y buasai gwanwyn a haf y flwyddyn 1839, yn profi yn adnewyddiad iddo ef a'i anwyl Elizabeth, ond twyllodrus a siomedig y profodd y gobaith hwnw o'r eiddynt, oblegid yr oedd yn amlwg erbyn hyny fod afiechyd Miss Williams yn buddugoliaethu arni yn gyflym, a hithau yn cilio ymaith fel cysgod. Yr oedd ei ferch hon erbyn hyn, o ran oedran a medr, yn hollol gymhwys i arolygu amgylchiadau ei dŷ, ac yr oedd mor gyfoethog o rinweddau Cristionogol, y rhai a lewyrchent yn brydferth yn ei bywyd, fel yr oedd yn rhaid mai gofid dwys iddo ef ydoedd gweled arwyddion fod ei phabell ar gael ei thynu i lawr. Er hyny, ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn Duw, a phrofodd yn helaeth iawn o'r dedwyddwch hwnw, sydd yn unig yn eiddo i'r rhai hyny sydd yn ddyoddefgar mewn cystudd, ac yn dyfalbarhau mewn gweddi. Wrth gyflwyno ei ferch i'r Arglwydd mewn gweddi, mynych y dywedai "Yr ydym yn ei gadael yn dy law di, Arglwydd, a dyna y lle goreu iddi, y mae yn well ac yn ddiogelach yno, nag yn un man arall; cymer hi, a chymer dy ffordd gyda hi."

Yr oedd y flwyddyn 1839 yn flwyddyn yr ymwelodd Duw â'n gwlad mewn modd amlwg, drwy ein breintio âg adfywiad crefyddol grymus iawn, ac yr oedd hyny yn llawenhau calon Mr. Williams yn ei nychdod personol, a'i drallod teuluaidd. Yn y cyfamser, yr oedd wedi addaw myned i gyfarfod pregethu i Gonwy, ond o herwydd cystudd Miss Williams, anfonodd lythyr at y gweinidog (yr Hybarch R. Parry yn awr o Landudno), i alw ei addewid yn ol. Wele gopi o'r llythyr hwnw—

LLYNLLEIFIAD, Ebrill 22ain, 1839.

FY ANWYL GYFAILL.

Parhau yn bur wael y mae fy anwyl Elizabeth. Y mae wedi ei chyfyngu i'w hystafell wely er's deng wythnos, ac wedi ei darostwng i'r fath wendid, fel nad yw yn gallu codi, ond tra y bydd ei gwely yn cael ei gyweirio. Nis gellir gwybod pa gyfnewidiad buan yn nglŷn â hi a all gymeryd lle; ac o dan yr amgylchiadau hyn, nid wyf yn meddwl ei bod yn ddyledswydd arnaf i adael cartref. Y mae yn wir ddrwg genyf nas gallaf ddyfod i'ch cyfarfod pregethu fel yr addewais

Yr wyf yn gobeithio y deuwch chwi i'n cyfarfod ni gyda Mr. Rees, a Mr. J. Roberts. Yr ydym hefyd yn dysgwyl i'n cyfarfod Mr. Williams, Llanwrtyd; Mr. Jones, Rhuthyn; Mr. Griffiths, Caergybi; a Mr. Harris, Wyddgrug.

Llawenheir fy nghalon wrth glywed am yr adfywiad crefyddol sydd yn eich plith. Y mae rhagor i'w gael, ond rhaid i chwi weddio mwy.


Ydwyf,
Yr eiddoch, &c.,
W. WILLIAMS.

18, Boundary Street.

Cynyddu yr oedd peswch Mr. Williams hefyd, ond gallodd barhau i bregethu gartref, ac oddi-cartref hefyd yn achlysurol hyd ddiwedd haf 1839. Yr ydym yn ei gael ar y dyddiau Llun a Mawrth, Mehefin 17eg a'r 18fed, 1839, yn pregethu yn agoriad capel newydd Rhosllanerchrugog. oedd y diwrnod hwnw iddo ef yn ddydd llawn o adgofion, yn gystal a bod yn ddydd o lawenydd mawr iddo, wrth weled yr eglwys a gychwynodd mewn ystafell yn y Pant, yr hon nad oedd ar y cyntaf ond saith mewn rhif, yn awr yn cael gweled dydd agoriad ei hail gapel eang a hardd, yr hwn a lanwyd yn fuan gan gynulleidfa barchus. Gan y gwyddid yn mhell ac yn agos am waeledd Mr. Williams, ofnid nas gallai bregethu yn Nghymanfa Sir Gaernarfon, yr hon oedd i'w chynal yn Bethesda, ar y dyddiau Awst 7fed a'r 8fed, 1839, ond gallodd fyned i'r gymanfa hono, a phregethodd yn effeithiol ar "Etholedigaeth a gwrthodedigaeth, oddiar y geiriau Eph. i. 1—4, a Jer. vi. 30. Y mae genym yr hyfrydwch o ddodi yma yr hyn a ganlyn o eiddo y Parch D. Griffith, gynt o Ddolgellau. Yr oedd ef yn bresenol yn y gymanfa hono:—

"Yn ol eich cais, yr wyf yn anfon i chwi hyny o 'adgofion' ag sydd genyf am yr anfarwol Williams o'r Wern. Chwi ddeallwch mai adgofion bachgen ydynt, oblegid nid oeddwn nemawr dros bymtheg mlwydd oed pan y bu farw Mr. Williams. Er hyny y maent yn ffyddlawn a chywir. Y mae yn fy meddwl syniad byw o'r hyn ydoedd o ran ei berson, ei wedd, ei lais, a'i boblogrwydd anarferol, yr hwn syniad a gefais yn ystod ei ymweliadau â Sir Gaernarfon o fewn y ddwy flynedd cyn ei farwolaeth. Yr wyf yn meddwl mai yn nechreu haf y flwyddyn 1838, y mwynheais y cyfle cyntaf i'w weled. Y waith hono fe'm danfonwyd gyda phony hyfryd a llonydd oedd genym i Gaernarfon ar foreu dydd gwaith tesog a thawel i'w gyrchu i Bethel; lle yr oedd i bregethu y boreu hwnw. Yn fuan ar ol gadael y dref tarawsom ar wr ffraeth, yr hwn a ddaliai gydymddyddan hyfryd â Mr. Williams dros ran fawr o'r ffordd; yn cydgerdded â ni hefyd yr oedd bachgenyn yn dwyn ar ei fraich biser gwag, fel pe ar fedr myned i geisio llaeth i un o'r ffermydd cyfagos. Gan i'r pony yn swn yr ymddyddan, a hithau yn deg hyfryd, ymollwng i dipyn o ddifrawder, ebe Mr. Williams wrth y bachgen, yn yr olwg ar wialen a welai ar ochr y ffordd: Machgen i, a weli di yn dda godi y wialen yna i mi. Efallai y bydd yn rhywbeth genyt allu dweyd rywbryd i ti unwaith gael cyfle i roi gwialen yn llaw un a adwaenid gan rai wrth yr enw Williams o'r Wern.' Ufuddhaodd y bachgen ar unwaith, ac ymddangosai fel yn falch o'r anrhydedd a roid arno. Am bregeth Mr. Williams yn Bethel, nid wyf yn cofio dim. Yr oedd yno dorf luosog yn gwrando, wrth reswm, a phawb yn clustfeinio fel am eu bywyd. Ar ol y bregeth cynelid cyfeillach, ond aethum i, ac un o weision fy rhieni, tua'r fynwent i ddal a chyfrwyo y pony i fod at wasanaeth Mr. Williams yn mhellach. Y peth cyntaf wyf yn gofio wedi hyn oedd gweled dwy neu dair o wragedd cyfrifol ar ol dyfod o'r capel, yn troi eu hwynebau tua'r pared, ac yn wylo yn hidl, gyda napcynau yn eu dwylaw i sychu ymaith eu dagrau, ac yna gwelwn amryw o'r aelodau hynaf yn ymwasgu o'u deutu i ysgwyd dwylaw yn gynhes, ac i'w llongyfarch ar eu gwaith yn tori drwodd i wneud arddeliad cyhoeddus o'r Gwaredwr. Golygfa hynod ydoedd, ac y mae fel yn fyw o flaen fy llygaid y funyd hon. Gan farnu y gwasanaeth wrth yr effeithiau, rhaid ei fod yn fendigedig iawn. Dro arall (ond pa un ai yn ystod yr un flwyddyn, ynte yr un agosaf ati, nid wyf yn sicr), ymddiriedid i mi fyned a'r gig i'w gyrchu o Gaernarfon i Borth Dinorwig, neu y Felin Heli, fel yr arferid galw y lle y pryd hwnw, yr oedd efe i areithio ar Ddirwest y noswaith hono yn nghapel Siloh. Nid oeddwn yn bresenol i'w glywed, yn gymaint a bod yn rhaid i mi fyned a'r cerbyd yn ol cyn dechreu y gwasanaeth; ond yr oedd yno gynulliad llawn, a siarad i bwrpas hefyd, yn ol fel y dywedwyd wrthyf lawer gwaith ar ol hyny. Clywais fy mam fwy nag unwaith yn adrodd darnau o anerchiad Mr. Williams y noson hono. Dywedai fod witch yn y ddiod, a gofynai, Pwy erioed a welwyd yn myned at y pot llaeth, gan eistedd i lawr i lymeitian am oriau; na, gyda'r ddiod feddwol y bydd pobl yn ymddwyn yn afresymol felly.' Yr oedd ei eiriau a'i wedd yn ddifrifol iawn pan y troai i siarad ar y pwys o fod rhieni yn rhoddi esiamplau teilwng i'w plant yn yr achos yma. 'Llawer tad,' ebe fe, 'a welwyd yn dal i ymarfer â'r diodydd meddwol, ac eto, drwy rym penderfyniad cryf yn gallu cadw yn hynod dda ar dir cymedroldeb drwy ei fywyd. Cerddai gydag ymylon perygl (meddai, gan symud ei fys yn araf gydag ymyl allanol astell y pulpud) heb i unrhyw drychineb mawr ddygwydd. Ond dacw ei fab yn myn'd ar ei ol, gan feddwl gwneud yn union yr un fath, eithr cyn cyrhaedd hyd haner ei yrfa, wele ef, druan, yn syrthio dros y dibyn i ddystryw.' Yr oedd yr effaith wrth gwrs yn drydanol. Mor glir a boneddigaidd yr ymresymai Mr. Williams y noson hono, fel yr enillodd lawer i benderfynu bod yn llwyrymwrthodwyr o hyny allan. Fel yr awgrymais, nid oeddwn yn bresenol i glywed yr araeth fythgofus hono yn Siloh; ac am ei bregeth yn Bethel, er fy mod yno yn mhlith y gwrandawyr, nid wyf yn cofio dim yn ei chylch, ond yr effeithiau hynod hyny y cyfeiriais atynt yn barod. Ond am y gymanfa a gynelid yn Bethesda yn haf y flwyddyn 1839, dygwyddai yn dra gwahanol. Yr oeddwn erbyn hyny gryn dipyn yn hynach, a'm meddwl yn dra bywiog i dderbyn argraffiadau oddiwrth yr hyn oll a welwn ac a glywn, yn enwedig ar y fath achlysur nodedig ag ydoedd hwnw. Yn nghwmni fy rhieni, a llawer eraill o'r crefyddwyr goreu yn Bethel, aethum i'r gymanfa hono gydag awyddfryd cryf am gael clywed i bwrpas, amryw o brif weinidogion yr enwad Annibynol, heblaw Mr. Williams o'r Wern, yn traddodi eu cenadwri; ond am dano ef y meddyliwn i, megys eraill, yn uwchaf a phenaf. Teimlid llawer mwy o ddyddordeb yn yr achlysur mae'n ddiau, am fod y si ar led fod Mr. Williams, yn ol pob tebyg, yn mhell yn y darfodedigaeth, ac na cheid ei weled efallai byth eto mewn cymanfa yn Sir Gaernarfon. Efe oedd i bregethu yn olaf ar foreu dydd mawr yr wyl. Cynelid y gymanfa, nid ar faes agored, ond yn y capel, gyda chyfleusdra i'r rhai na allent ddyfod i mewn i glywed y pregethau drwy un o'r ffenestri mawrion oeddynt yn nghefn yr adeilad. Yr oedd y capel hwnw yn dra eang, er nad yn gymaint a'r un presenol. Ni raid dweyd ei fod yn orlawn o wrandawyr y boreu hwnw, gyda thyrfa fawr oddi-allan hefyd. Yr oeddwn yno yn brydlawn, fel ag i sicrhau lle mewn man cyfleus yn y gallery. Yn ymyl y ffenestr y cyfeiriais ati, yr oedd platform wedi ei godi, ac ar hwnw y safai Mr. Williams i draddodi ei bregeth anghymharol ar Etholedig aeth a gwrthodedigaeth. Llawer gwaith y buasai efe yn pregethu yn y capel hwnw o'r blaen, a phob amser gyda grym a deheurwydd mawr. Clywais Tegai yn dweyd iddo ei glywed yno yn pregethu ryw noswaith ganol yr wythnos ar Fawredd Duw, mewn ffordd mor hynod, fel ag i fod yn anefelychadwy. Mewn dull rhwydd a didrafferth, arllwysai allan y fath ffrydlif o syniadau gwreiddiol ac ardderchog ar y pwnc, nes synu a chyffroi hyd yr eithaf, y dorf anferth a ddaethai yn nghyd i'w wrando. Yr oedd golwg wir ryfedd arno, meddai ef, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r gwrandawyr a'u safnau yn llydain agored, fel pe yn awyddus i lyncu pob gair a ddeilliai dros wefusau y llefarwr hyawdl. Ond yn awr, dyma ei dro olaf ef i ymddangos yn Bethesda wedi dyfod. Edrychai yn welw a churiedig ei wedd. Diau fod y darlun a welir yn ei Gofiant (gan Dr. W. Rees) yn bortreiad hynod dda o hono y pryd hwnw. [1] Y fath ddystawrwydd a deyrnasai drwy y lle pan y cododd ar ei draed i bregethu. Er yn dwyn olion nychdod, yr oedd eto yn wir fawreddog yr olwg arno. Ei lais ydoedd glir, ei barabliad yn ystwyth, ei drem yn urddasol, a'i holl ystum yn hardd ac yn naturiol dros ben. Ei lygaid oeddynt fawrion, a hynod ddysglaer gan dân athrylith. Edrychai yn myw llygad y gynulleidfa, gan lefaru fel meistr hollol arno ei hun, ac ar ei waith, ac arni hithau hefyd. Rhyw wrandawr go hynod fuasai hwnw, a allasai ddal yn ddigyffro dan dywyniadau tanbaid y golygon hyny. Nid oedd eisieu iddo ef floeddio mewn trefn i fod yn effeithiol. Yr oedd rhyw thrill yn ei lais âg oedd yn gorchfygu pob teimlad. Yn ei swn, mynych yr elai pobl i wylo yn ddiarwybod iddynt eu hunain. Felly yr oedd yn Nghymanfa Bethesda yn pregethu ar Etholedigaeth. Yr oedd y lle yn Bochim mewn gwirionedd. Ni welais y fath wylo mewn cymanfa erioed. Diau i lawer deimlo yn rhyfedd pan ddarllenodd ei destun, y naill yn Eph. i. 4, 'Megys yr etholodd efe ni,' &c.; a'r llall yn Jer. vi. 30, Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt,' &c. Yr oedd y bregeth ar gynllun cwbl newydd, ac o duedd ymarferol ardderchog. Yr wyf yn cofio fel y dywedai yn ei ragymadrodd y byddai yn arferiad gan yr hen dduwinyddion bregethu llawer ar y pynciau hyn, Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth, ond fod duwinyddion diweddar fel rheol yn eu hosgoi, gan feddwl fod tuedd niweidiol mewn pregethu o'r fath. Tarddai hyn, fel yr oedd yn amlwg iddo ef, am y rheswm eu bod yn pregethu yr athrawiaethau hyn mewn golygddysg, neu yn eu theory, yn hytrach nag yn yr amlygiad o honynt yn nghwrs naturiol dygwyddiadau. Y mae theory etholedigaeth, er enghraifft, yn amlwg i Dduw, ond yn ei gwaith y mae yn ei dangos i ni. Yr wyf yn cofio y cyfeiriad hapus a wnaeth at Bont Menai yn ei gwaith, fel rhagarweiniad i'r sylwadau oedd ganddo i'w traethu yn nghylch etholedigaeth gras. Da y cofiwyf hefyd am rai o'r amgylchiadau a ddygai ef i sylw er dangos etholedigaeth yn ei gwaith. Y cyntaf yn eu plith oedd 'amgylchiad boneddiges urddasol, yr hon a fwynhai gyflawnder o olud y byd, yn nghyd a'r holl lawenydd cysylltiedig â chwmnïau uchel, balls, races, &c., ond daeth Duw heibio iddi yn ei Ragluniaeth, cipiodd ddau o'r plant y naill ar ol y llall. Teimlodd yn drwm y tro cyntaf, ond yn drymach fyth yr ail dro. O'r diwedd collodd ei phriod, a thrwy hyny lawer o'i meddianau; symudodd i gylch llai. Yn ymyl ei phreswylfod newydd yr oedd capel, clywodd y Gair, daeth yn Gristion, a bu farw yn yr Arglwydd.' Dyna 'etholedigaeth yn ei gwaith.' Yr amgylchiad nesaf y cyfeiriai ato oedd eiddo bachgen afradlon, yr hwn oedd ganddo fam dduwiol a weddiai lawer drosto. Pryderai yn ei gylch nes i'w nerth ddechreu pallu yn gynar, gwisgai wydrau cyn bod yn 40 oed, crwydrai yntau yn ddifeddwl o le i le. Clywodd ei fam o'r diwedd ei fod yn aros mewn rhyw fan neillduol, ac anfonodd at weinidog oedd yn llafurio yn y lle, gan ddeisyf arno weddio yn gyhoeddus dros ei mab oedd yn anwyl ganddi, er yn afradlon. Tra yn gweddio dygwyddodd y bachgen droi i mewn; effeithiwyd arno, meddyliodd mai efe oedd y truan y gweddiid drosto. Aeth at y gweinidog ar ddiwedd y gwasanaeth, gwelodd lythyr ei fam, toddodd ei galon, a bu farw yn ddedwydd yn mhen amser ar ol hyn. I'r cwestiwn, Beth oedd hyn? Dyma ateb y pregethwr, 'etholedigaeth yn ei gwaith.' Fel yr adroddai Mr. Williams yr hanesyn hwn, yr wyf yn cofio fod golwg hynod o ddrylliog ar y gynulleidfa. Wedi crybwyll am ddau amgylchiad nodedig arall, er egluro ei fater, aeth rhagddo i dynu pump neu chwech o addysgiadau, y rhai oll a ymddangosent yn gwbl deg a naturiol. Gyda'r mater arall, dilynai yr un cynllun yn hollol, gan gario argyhoeddiad i bob meddwl ystyriol, mai peth ofnadwy i ddynion o wlad yr efengyl fyddai cael eu cyfrif yn arian gwrthodedig yn y diwedd, ac na fyddai ganddynt neb i'w beio ond hwy eu hunain, os mai felly y dygwyddai. Wedi i'r gymanfa fyned drosodd, yr oedd cryn son am bregethau Rees o Ddinbych,' ac eraill a weinyddent ynddi, ond am bregeth ogoneddus Williams o'r Wern y meddylid ac y siaredid yn benaf ar hyd a lled y wlad. Bu ei thraddodiad o annhraethol les i ganoedd yn y parthau hyny, a chlywais luaws o bobl grefyddol yma a thraw yn adrodd darnau o honi gyda boddhad yn mhen blynyddoedd lawer wedi i'r pregethwr enwog ddisgyn i fro dystawrwydd."

Yn hanes Hen Gymanfaoedd gan Mr. W. J. Parry, C.C., Bethesda, yn y Dysgedydd 1887, tudalen 147, gwelwn mai "Yn nglŷn â'r gymanfa hon y darfu i swyddogion y chwarel roddi gorchymyn allan nad oedd caniatad i neb golli ei waith i fyned iddi, a chreodd hyny gynhwrf anghyffredin yn y wlad. Cof genyf glywed adrodd rhai hen bererinion yn hysbysu swyddogion y chwarel, 'Pe byddent heb waith byth, y mynent gael y gymanfa.' Ond yr oedd yn y wlad y pryd hwnw, fel yn awr, luaws yn cloffi rhwng dau feddwl—meddwl y swyddogion, a meddwl eu cydwybod—eu hegwyddorion. Ond cyn bod oedfa'r boreu bron wedi dechreu, yr oedd gan y gymanfa a Williams o'r Wern ynddi, ormod at—dyniad iddynt, fel y torwyd ar draws pob gorchymyn, a dylifwyd yn dyrfaoedd o'r chwarel i gae y gymanfa. Ni feiddiwyd cosbi chwaith am hyny. Yr oedd y dòn yn rhy gref, a chorff y gweithwyr yn rhy unol i'r swyddog feiddio gwneud hyny.' Gwelsom mai Llanbedr, Sir Gaernarfon a gafodd y fraint o glywed llais Mr. Williams gyntaf mewn cymanfa ar ol ei ordeinio, ac yn y sir hono hefyd, yn Bethesda, y waith uchod y gwrandawyd ei lais am y tro olaf yn nghymanfaoedd ei wlad, canys yr uchod ydoedd y gymanfa olaf iddo ef bregethu ynddi. Cymerodd un amgylchiad le yn Mangor ar ddychweliad ein gwrthddrych o Gymanfa Bethesda, ag sydd yn werth ei gofnodi yma." Adroddwyd yr hanesyn gan Dr. W. Rees i Mr. W. J. Parry, Bethesda, a rhoddwn ef yma, fel yr adroddodd Mr. Parry ef wrthym ninau:—" Bu arian a gasglwyd at ddiddyledu addoldai yr Annibynwyr yn 1833—1834, yn y rhaniad a fu arnynt yn Bethel, yn achlysur i oeri ychydig ar deimladau Dr. Arthur Jones a Mr. Williams at eu gilydd, yn arbenig felly deimladau y blaenaf at yr olaf. Ni ddeallasom ni fod Mr. Williams yn fwy cyfrifol am yr hyn a wnaed yn y rhaniad, na rhyw rai eraill oeddynt yn cydweithredu yn y mater. Fodd bynag, nid oedd teimladau felly rhwng dau hen wron ardderchog o'u bath hwy, mewn un modd, yn hyfryd, ond yn beth anhyfryd iawn. Fel y crybwyllwyd, yr oedd Mr. Williams yn hynod o wael Wedi i'r oedfa ddau yn Nghymanfa Bethesda. fyned drosodd, aeth ef, Dr. W. Rees, a'r Parch. D. Davies, Aberteifi, gyda'u gilydd i Fangor, canys yr oedd y ddau olaf i bregethu yn Ebenezer Cyn myned i'r capel, gofynodd Dr. Rees i Mr. Williams, a oedd ef am ddyfod i'r oedfa? Na,' meddai yntau, Yr wyf fi yn rhy wael i ddyfod heno, ac heblaw hyny, pe bawn yn d'od, hwyrach mai dweyd rhywbeth yn gas wrthyf a wnai Mr. Arthur Jones, ac yr wyf fi yn rhy lesg a gwan i allu dal dim o nodwedd felly heno.' oedd Dr. Rees yntau, yn awyddus iawn i ddwyn y ddau dywysog at eu gilydd, a gofynodd, 'Wel, a fuasech chwi ddim yn hoffi ei weled cyn i ni adael y dref?' 'Buaswn, ond y mae arnaf ofn mai dweyd rhywbeth yn arw wrthyf a wna efe,' meddai yntau eilwaith. Barnasent o'r diwedd mai gwell oedd i Mr. Williams aros yn y ty y noson hono, yn enwedig wrth gymeryd sefyllfa ei iechyd i ystyriaeth, ac felly y bu. Aeth Dr. Rees i'r capel, ac wedi i'r cyfarfod derfynu, aeth i dŷ Dr. Arthur Jones, a chyn ymadael, dywedodd wrtho, 'Y mae Mr. Williams o'r Wern yn y dref yma, ac y mae yn wael iawn hefyd.' 'Yn mha le y mae o?' gofynai Dr. Jones. 'Yn y London House, a fuasech chwi ddim yn hoffi ei weled cyn iddo adael y dref?' 'Wn i ddim wir.' 'Wel, y mae ef yn wael iawn, ac y mae bron yn sicr ei fod yma am y tro diweddaf, ac os na chewch chwi ei weled y tro hwn, y mae yn fwy na thebyg, na bydd i chwi byth gael ei weled, a byddai yn drueni i ddau wron fel chwi beidio a chymodi a'ch gilydd.' 'A yw efe yn wael felly?' 'Ydyw yn sicr.' 'Pa bryd y byddwch chwi yn gadael y dref?' 'Boreu yfory gyda'r steamer.' "Wel, dywed wrtho, os hoffai efe gael fy ngweled i, am iddo ddyfod yma yfory cyn myned ymaith—deuwch eich dau.' Yn llawen iawn gan hyny, yr ymadawodd Dr. Rees y noson hono i fyned at Mr. Williams i'r London House. Pan yr oeddynt eu dau yn ymneillduo i orphwyso, awgrymodd Dr. Rees i Mr. Williams y priodoldeb iddynt alw gyda Dr. Jones, cyn iddynt adael y dref dranoeth, ac ychwanegodd, ei fod yn sicr y buasai yn dda ganddo ei weled. 'Tybed y buasai yn hoffi fy ngweled; a baid ef a bod yn chwerw wrthyf, y mae arnaf ofn iddo lefaru gair croes, oblegid nis gallaf ddal hyny yn awr.' Na, ni wnaiff ef ddweyd dim yn gâs wrthych, gadewch y mater hwnw arnaf fi.' Boreu dranoeth a wawriodd, ac wedi boreubryd, ac i'r ddyledswydd deuluaidd fyned drosodd, dacw Mr. Williams a Dr. Rees yn cychwyn eu dau am dŷ Dr. Arthur Jones. Edryched y darllenydd arnynt yn cerdded yn araf i fyny High Street; dacw hwy wedi troi o'r golwg i'r entry gul sydd yn arwain at Ebenezer, ac at dŷ yr hen ddoethawr. Pwy oedd yn eu dysgwyl ac yn edrych yn bryderus am danynt drwy y ffenestr, ond yr hen wron Dr. Jones ei hun, a phan y gwelodd hwynt yn dyfod, rhedodd i agor y drws, ac i'w derbyn yn groesawgar nodedig drwy ymaflyd yn llaw Mr. Williams, gan ei gwasgu yn dŷn a chynhes. Edrychai y ddau yn myw llygaid eu gilydd am foment yn y drws, heb allu o honynt, o herwydd eu teimladau drylliog, lefaru gair y naill wrth y llall, ac yn nwylaw eu gilydd y darfu iddynt ymlusgo o'r drws at y tân ac wedi erfyn maddeuant y naill y llall, a chael sicrwydd fod hyny wedi ei sicrhau, eisteddasant un o bob ochr i'r tân, ac wylai y ddau yn hidl. Safai Dr. Rees yntau, rhwng y ddau yn edrych arnynt, ac ni allai am enyd lefaru gair, gan yr effaith orthrechol a gariodd yr olygfa hono arno. Hoffasem yn fawr weled darlun o'r amgylchiad uchod mewn mynor neu ar len. Wedi bod yn y ty am beth amser, dywedodd Dr. Rees fod yn rhaid iddynt fyned, gan fod yr agerfad i gychwyn yn fuan. Ar hyny, dywedodd Dr. Arthur Jones, 'Myfi a ddeuaf gyda chwi i'ch hebrwng i gwr pellaf y traeth;' ac ymaith a hwy yn mreichiau eu gilydd i 'gwr pellaf y traeth,' ac felly yr ymadawodd Mr. Williams â Bangor y tro olaf hwnw am byth iddo ef, a'r oerfelgarwch a fuasai rhyngddo â'i hen gyfaill, wedi toddi a llifo ymaith yn eu dagrau maddeuol. Nis gwyddom a welsant hwy eu gilydd ar ol hyny, cyn iddynt gyfarfod yn y wlad well. Ond yr ydym yn sicr fod yr hwn a fu yn hau, a'r rhai oedd yn medi, erbyn hyn yn llawenychu yn nghyd yn nhy eu Tad am y cyfarfyddiad hwnw yn Mangor, yr hwn a ddygwyd oddiamgylch drwy offerynoliaeth Dr. William Rees."

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel ail ddarlun Mr. Williams yn nechreu y gyfrol hon.