Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/O Gymanfa Bethesda Hyd Ei Farwolaeth

Oddi ar Wicidestun
O Wyl Ddirwestol Treffynon Hyd Yr Ystorm Fawr Yn Liverpool Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

Nodweddion Neillduol Ein Gwrthddrych

PENNOD XIV.

O GYMANFA BETHESDA HYD EI FARWOLAETH.—1839—1840.

Y CYNWYSIAD.—Y meddyg yn ei gynghori i adael Liverpool— Datod ei gysylltiad ág eglwys y Tabernacl—Ei lafur a'i lwyddiant yn Liverpool, gan y Parch. Thomas Pierce—Eglwys y Wern a'r Rhos yn ei wahodd i ail ymsefydlu yn eu plith—Terfynu ei weinidogaeth yn Liverpool—Eglwys y Tabernacl yn teimlo yn ddwys o herwydd ei ymadawiad—Yn ail ddechreu yn hen faes ei lafur—Diwygiad yn yr eglwysi—Cyfarfod pregethu hynod yn y Wern—Ei anwyl Elizabeth yn gwanychu—Y tad a'r ferch wedi eu caethiwo yn eu gorweddfanau—Y ddau yn ymddyddan â'u gilydd am y nefoedd Cyfarfod pregethu effeithiol yn y Rhos—Y Parchn. W. Rees, Dinbych; R. Jones, Rhuthyn; W. Griffith, Caergybi; a Joseph Jones, Ysw., Liverpool, yn talu ymweliad â Mr. William—Yr olygfa pan oeddynt yn ymadael yn un wir effeithiol Dr. Chidlaw yn ymweled â Mr. William—Marwolaeth Miss Williams—Yntau yn gwaelu yn gyflym wedi ei cholli hi—Ymweliad ei chwaer âg ef—Achos eneidiau—Galw ato swyddogion yr eglwysi—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Breuddwyd hynod o eiddo y Parch. Moses Ellis—Marwolaeth Mr. James Williams, mab hynaf ein gwrthddrych—Ei fab a'i ferch ieuengaf yn ymfudo i Awstralia—Llythyr oddiwrth unig fab ein gwrthddrych. AR ol dychweliad Mr. Williams adref o Gymanfa Bethesda, gwelid yn amlwg fod yr arwyddion am ei wellhad ef a'i anwyl Elizabeth, yn diflanu mor gyflym, fel y barnodd eu meddyg galluog, Dr. Thomas, Blackburn, mai ei ddyledswydd ef oedd hysbysu Mr. Williams, fod yn rhaid iddo adael y dref yn fuan, a dychwelyd yn ol i Gymru, yn amgen nad oedd un pelydryn o obaith am ei wellhad ef na Miss Williams. Yr oedd ufuddhau i'r gorchymyn hwnw yn anhawdd, oblegid yr oedd hyny yn golygu datod y cysylltiad anwyl oedd rhyngddo ef â'r eglwys yn y Tabernacl, yr hwn, mewn anwyldeb o'r ddeutu a gynyddai yn barhaus, ac nid rhyfedd hyny, canys fel hyn yr ysgrifenodd y Parch. Thomas Pierce, i gofiant Mr. Williams, gan Dr. W. Rees, tudalen 34—36, am nodwedd gweinidogaeth lwyddianus ein gwrthddrych yn Liverpool:—"Effeithiodd ei ddyfodiad i'n plith ar y cynulleidfaoedd yn rhyfeddol, ac er y dywedai rhai mai fflam a ddiffoddai yn fuan ydoedd, eto mae yn ddigon amlwg ei bod yn parhau hyd heddyw, a phob arwyddion y pery hefyd hyd ddiwedd amser, ïe, i dragwyddoldeb. Achosodd ddeffroad, gorfoledd, a phryder mawr yn yr eglwysi, a bu o fendith a llesâd mawr i grefydd yn y dref hon, ac i lawer o eneidiau, teimladau lluaws o'r rhai sydd yn gynhes iawn at ei enw, ac a barchant ôl ei draed mewn diolchgarwch i'r Arglwydd am ei anfon yma, a chael eistedd dan ei weinidogaeth.

Ni ddangosodd yn ei weinidogaeth gyhoeddus ond ychydig o'r hyawdledd a'r tanbeidrwydd a'i hynodent flynyddau yn ol, eto, yr oedd y fath nerth yn ei eiriau, awdurdod yn ei ymresymiadau, a'r fath blethiad o ddifrifoldeb a mwyneidd-dra yn ei ysbryd, fel y byddai yn sicr o gael gafael yn meddwl yr holl gynulleidfa. Nid boddloni cywreinrwydd, na goglais tymherau dynion, a amcanai efe, ond cael gafael ddifrifol yn eu teimladau a'u cydwybodau oedd ei unig ymgais; a braidd bob amser y llwyddai yn hyny. Nid anfynych y gwelid y dagrau tryloewon yn treiglo dros ruddiau hyd yn nod y rhai caletaf yn y gynulleidfa. Bu yn foddion i ddwyn yr eglwys dan ei ofal i wisgo ei blodeu yn fuan, a blodeuo yn fwy-fwy yr oedd tra y bu aros gyda ni; a dilys y gellir dweyd heb betruso, mai ffrwythau toreithiog dilynol i'r blodeu hyny oedd y diwygiad nerthol a fu yma yn fuan ar ol ei ymadawiad, ac y mae yr eglwys hyd heddyw yn parhau i fod yn llawen fam plant, ac arwyddion o foddlonrwydd Ior ar ei hymdrechiadau. Yr oedd Mr. Williams yn llawn o ysbryd yr hen ddiwygwyr; gwrthsafai bob math o gadwynau gorthrwm, yn wladol a chrefyddol. Gwyddom yn dda fod llawer o'r ysbryd hwn ynddo trwy ei oes, ond wedi dyfod yma bu yn ddiwygiwr mwy cyflawn nag erioed; torodd drwy a thros yr hen ffurfioldeb a'r gwastadrwydd oeddynt fel cadwynau yn llyffetheirio crefydd yn yr eglwysi. Dangosai y mawr bwys a'r angenrheidrwydd o fod pob aelod yn yr eglwys wrth ei waith—chwiorydd yn gystal a brodyr; torodd waith i bawb, a bu yn foddion i raddau helaeth i godi pawb at ei waith. Nid oedd ef yn cyfyngu ei ddefnyddioldeb i'r pulpud yn unig, ond yr oedd ei holl fywyd yn pregethu, ac megys yn gysegredig at lesâu dynion yn mhob man: tanbeidiai Cristionogaeth yn ei holl gyfeillachau; seiniai gras yn ei eiriau, a phelydrai efengyl yn ei wedd. Yr oedd ei fywyd santaidd, a'i ysbryd hynaws, yn enill iddo barch a chariad oddiwrth y rhai mwyaf anystyriol, ac effeithiodd trwy ei ymddyddanion personol er llesâd tragwyddol i lawer o eneidiau. Sefydlodd a chefnogodd amrywiol o gymdeithasau daionus, y rhai sydd eto yn flodeuog a llwyddianus yn ein plith; a thra y byddo y rhai hyn ar draed, byddant yn ddysglaer gof-golofnau o lafur, ymdrech, a doethineb yr Hybarch Mr. Williams. Mynych goffheir ei enw gyda theimladau hiraethlon yn Nghymdeithas y Mamau hyd heddyw, yr hon gymdeithas a sefydlodd ac a bleidiodd efe; yr hon hefyd sydd wedi bod o fendith fawr, ac sydd hefyd a'i heffeithiau daionus yn amlwg mewn llawer o deuluoedd. Felly, nid yn unig y mae ei ôl ef ar yr eglwysi, ond hefyd yn nhai ac aneddau ugeiniau o Gymry Llynlleifiad. Sefydlodd hefyd Gymdeithas y Merched leuainc, yr hon sydd eto yn parhau yn flodeuog, gweithgar, a defnyddiol iawn. Anogai ef y merched ieuainc i fywiogrwydd a ffyddlondeb, ac y mae ôl ei gynghorion i'w weled ar y gymdeithas, ac yn cael eu cadw mewn ymarferiad yn ymddygiadau ac ymdrechiadau ei haelodau hyd heddyw; ïe, dylaswn ddywedyd hefyd yn eu gweddiau taerion a'u dagrau. Diau y gellir edrych ar y cymdeithasau hyn fel rhyw gynorthwyyddion (auxiliaries) neillduol i'r eglwysi. Efe a sefydlodd hefyd Gymdeithas y Dynion Ieuainc. Ar hon hefyd y mae argraffiadau amlwg o'i gynghorion a'i gyfarwyddiadau tadol, y rhai ni ellir yn hawdd eu dileu o feddyliau blodeu y cynulleidfaoedd. Pleidiai sobrwydd a dirwest yn wresog a chadarn, eto yn foneddigaidd, ac yn deilwng o hono ei hunan. Yr oedd ei holl ymresymiadau yn hynaws ac yn ddengar, heb gablu neb. Yr oedd tynerwch ei feddwl, haelwychder ei farn am, a'i ymddygiadau tuag at y rhai nad oeddynt yn hollol o'r un farn ag ef, yn rhagori ar bawb a welais i erioed; llwyddodd felly er enill llawer iawn o feddwon a diotwyr i dir sobrwydd; a llawer hefyd i roi cam yn mhellach yn mlaen, sef i dir crefydd a duwioldeb. Mewn gair nid oes un sefydliad, na changhen o grefydd yn ein plith, fel enwad o Annibynwyr Cymreig yn y dref hon, nad oes ei ôl ef arnynt oll, er eu gwellhad a'u cadarnhad. Rhedai ei ysbryd ef trwy bob peth y rhoddai ei law arno. Mae eangder a chysondeb ei olygiadau duwinyddol, nefolrwydd awenyddawl ei ehediadau, tanbeidrwydd a gwreiddioldeb ei ddrychfeddyliau, &c., yn bethau mor adnabyddus, fel nad oes eisieu i mi ddweyd dim am danynt yn y llythyr hwn. Yr oedd yn rhagori hefyd fel athronydd ar bawb a adwaenais i erioed. Adwaenai ddynion o ran eu tueddiadau a'u hegwyddorion yn fuan iawn; a dewisai ei brif gyfeillion o ddynion, nid wrth eu siarad a'u tafodau teg, ond dynion o egwyddorion cywir, a sefydlogrwydd meddwl; yn rhai wedi profi eu hunain felly yn y tywydd, a than y croesau. Nid ymddiriedai un amser i ddynion poethlyd, y rhai a redent mewn sel benboeth o flaen pob gwynt." Pwy a all amgyffred yn gywir y golled a gafodd eglwys y Tabernacl yn ymadawiad y fath weinidog ag ydoedd Mr. Williams iddi, yn ol y portread a roddir i ni o hono gan Mr. Pierce? Yn sicr, anafus nodedig oedd yr ysigdod, a dolurus iawn ydoedd yr archoll, y gorfodwyd yr eglwys a'r gynulleidfa i'w dyoddef yn ei ymadawiad oddiwrthynt. Er na bu yn wiw gan eglwysi y Wern a'r Rhos geisio gan Mr. Williams i aros gyda hwy, pan dderbyniodd efe yr alwad o Liverpool, eto pan ddeallasant am ei fwriad i ddyfod yn ol i Gymru, gan eu bod heb weinidog er ei ymadawiad oddi wrthynt, darfu iddynt, a hyny er eu bythol anrhydedd, anfon gwahoddiad unol a charedig iddo i ddychwelyd yn ol atynt hwy, y rhai oeddynt eisioes wedi cyfranogi yn helaeth o hufen ei weinidogaeth faethlawn yn mlynyddoedd mwyaf grymus a nerthol ei fywyd defnyddiol. Derbyniodd yntau eu gwahoddiad yn ebrwydd a siriol. Terfynodd ei weinidogaeth yn Liverpool nos Sabbath, Hydref 20fed, 1839, pryd y traddododd ei bregeth ymadawol i dyrfa fawr a galarus. Ei destun oedd Ephes. iv. 10—13, "Yr hwn a ddisgynodd yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawn—ai bob peth; ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i berffeithio y saint i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist. Hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth. mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist." Rhoddwn yma y crynodeb byr a ganlyn o'r bregeth hono, fel y mae yn Nghofiant Mr. Williams gan Dr. W. Rees, tudalen 45— "I. Sefyllfa bresenol yr Eglwys:—Y mae mewn cyflwr o wasgariad. 1. Mae yn wasgaredig iawn mewn ystyr Ddaearyddol (Geographical), a rhaid iddi fod felly tra yn y byd hwn. Y mae y saint yn wasgaredig ar hyd wyneb y ddaear, ychydig yma, ac ychydig acw.

2. Mewn ystyr Ragluniaethol. Mae llawer yn gorfod gadael y cyfeillion crefyddol yr unasant gyntaf â hwy, a myned i blith dyeithriaid. Mae mawr wahaniaeth yn amgylchiadau bydol y naill a'r llall o honynt.

3. Mewn ystyr Sectaraidd. Mae y gwahaniad hwn yn llawer mwy nag y dylai fod. II. Sefyllfa bresenol Crist, "Goruwch yr holl nefoedd." Y mae yn y sefyllfa fwyaf manteisiol i gynull yr eglwys at ei gilydd, a'i gwneud yn un.

1. Y mae mewn lle ag y gall oruwchreoli holl amgylchiadau Rhagluniaeth i ateb y dyben hwn.

2. Y mae yr holl ddylanwadau Dwyfol yn ei feddiant, i'r dyben i gymhwyso a gosod yr amrywiol swyddwyr yn yr eglwys, ag y mae eu gwasanaeth yn angenrheidiol er perffeithio y saint, "Ac efe a roddes rai yn apostolion, &c., i berffeithio y saint, hyd oni ymgyfarfyddom oll,' &c.

III. Sefyllfa yr eglwys yn y byd a ddaw.

1. Cyferfydd yr holl saint â'u gilydd yn yr un man, er mor wasgaredig ydynt yn bresenol.

2. Cyfarfyddant mewn perffaith undeb ffydd.

3. Mewn perffeithrwydd gwybodaeth.

4. Yn berffaith rydd oddiwrth bechod a gofid.

5. Nid ymadawant â'u gilydd byth drachefn. Ystyriwn, beth a gawn ni wneud mewn trefn i ymbarotoi erbyn y cyfarfod mawr hwnw?

(1.) Cyrchu yn mlaen gymaint âg a allom, myned rhagom at berffeithrwydd.

(2.) Helpu ein gilydd yn mhob modd galluadwy i ni.

(3.) Ymdrechu ein goreu i gael eraill gyda ni.

(4.) Cydweithredu â'n gilydd yn mhob peth y gallwn gyduno yn ei gylch. Cyfarfod wrth yr un orsedd, yfed yr un ysbryd, ymolchi yn yr un ffynon, a chymeryd ein cyfarwyddo gan yr un seren.

(5.) Pa beth a gaf i'w ddywedyd wrth y rhai nad yw yn debyg y cawn eu cyfarfod yn y nefoedd?"

Er fod llygaid y gynulleidfa yn llawn dagrau pan y pregethai efe ei bregeth ymadawol iddi, eto ymddengys ei fod ef ei hun, er syndod i bawb, fel pe wedi ymsirioli llawer, a phregethodd am dros awr, a hyny yn amlwg o dan yr eneiniad nefol. Teimlai llawer o'i wrandawyr y noson hono yn ddwys iawn, am y gwyddent bron i sicrwydd eu bod yn ei wrando am y tro olaf am byth iddynt hwy; ac yr oedd wedi dyfod yn bwnc pwysig gan y rhai gwir ystyriol o honynt, pa ddefnydd oeddynt hwy wedi wneuthur o'r pethau ardderchog a glywsent, gan yr un a allasai eu cyfarch ar ei ymadawiad oddiwrthynt yn ngeiriau yr apostol, "Am hyny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos na dydd a rhybuddio pob un o honoch â dagrau. O herwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy mod i yn lân oddiwrth waed pawb oll, canys nid ymataliais rhag mynegu i chwi holl gynghor Duw." Yr oedd y ffaith mai nid yn ofer ac am ddim y rhybuddiodd efe hwynt, yn gysur ac yn orfoledd i'w enaid ar ei ymadawiad oddiwrthynt, canys yr oedd yr eglwys a gafodd efe yn 1836 yn rhifo ond 256, yn awr yn fwy na 400 mewn nifer, a'r achos yn ei holl ranau yn llewyrchus a blodeuog iawn.

Symudodd ef a'i deulu yn ystod yr wythnos hono i'r ty a elwid y pryd hwnw yn Rose Hill, ond yn awr a adnabyddir wrth yr enw White House. Saif yr anedddy prydferth hwn ar lanerch nodedig o

hyfryd, ychydig yn uwch i fyny na phentref tlws Bersham, gerllaw Wrexham. Derbyniwyd ef yn ol gan yr eglwysi fel angel Duw; ac ar y Sabbath, Hydref 27ain, wele ef eto yn llewyrchu yn mysg y rhai y bu yn goleuo o'r blaen am dros naw mlynedd ar hugain.

Gofynodd Mr. Williams i wr ieuanc ag oedd wedi dechreu pregethu dan ei weinidogaeth, a fuasai yn ddoethineb ynddo ef i bregethu oddiar yr un testun, wrth ail ddechreu yn ei hen faes, ag oedd ganddo yn destun pregeth ffarwel yn Liverpool y Sabbath blaenorol? Wedi cael atebiad cadarnhaol, felly y gwnaeth efe. Gofynodd hefyd i'r pregethwr ieuanc, yr hwn oedd yn anwyl iawn yn ei olwg, a fuasai efe yn dechreu yr oedfa iddo yn y Rhos y boreu Sabbath hwnw? Wrth gwrs, ufuddhaodd ar unwaith i'r cais, gan deimlo fod ei hen weinidog enwog yn ei anrhydeddu yn fawr wrth ofyn hyny 'ganddo. Adnabyddir y gwr ieuanc hwnw heddyw, fel yr Hybarch Samuel Evans, Llandegla. Adwaenir Adwaenir y Sabbath hwnw gan eglwysi y Wern a'r Rhos, fel un hynod yn eu hanes, canys pregethodd Mr. Williams yn effeithiol tuhwnt i ddesgrifiad, a hyny er gwaethaf holl anfanteision llesgedd dirfawr. Profodd ei symudiad i hen faes ei lafur, yn foddion effeithiol i atal ychydig ar rwysg a difrod ei afiechyd, a daeth yntau i deimlo yn gryfach am enyd fechan beth bynag, nag y buasai er dechreuad ei gystudd; eto, ni chawsom allan i sicrwydd, ddarfod iddo allu pregethu ond un Sabbath yn unig, ar ol ei ddychweliad o Liverpool, ond bu yn nghapeli y Wern a'r Rhos mewn gwahanol gyfarfodydd amryw weithiau ar ol hyny. Cynhyrfid yr eglwysi yn ddaionus y pryd hyny gan y diwygiad crefyddol nerthol oedd wedi ymweled â'n gwlad, yr hwn a ysgubai bob peth o'i flaen yn y Wern fel mewn ardaloedd eraill yn ein Talaeth. Llawenydd mwy na chael ymweliad amlwg o eiddo Duw â'r eglwysi, nis gallasai Mr. Williams ei ddymuno. Tua diwedd mis Tachwedd y flwyddyn hono, cynaliwyd Cyfarfod Pregethu yn y Wern. Pregethwyd ynddo gan y Parchn. W. Rees, Dinbych, ac R. Jones, Rhuthyn; ac yr oedd rhyw nerthoedd dwyfol a grymus iawn yn cydfyned â gweinidogaeth y gwŷr enwog, ac effeithiau bendigedig yn dilyn yn nychweliad pechaduriaid at Dduw. Yr oedd Mr. Williams yn bresenol yn y cyfarfod hynod hwnw, ac fel hyn y dywedir yn ei gofiant gan Dr. W. Rees, tudalen 46ain:—"Yr oedd ei weddiau a'i anerchion yn hynod ddwysion a gafaelgar yn y cyfarfod hwn. Yr oedd ei deimladau yn methu dal yn y gymdeithas eglwysig ar ol y moddion cyhoeddus yr hwyr olaf, wrth anerch y dychweledigion ieuainc. Yr wyf yn gweled yma lawer o wynebau,' meddai, 'na feddyliais y cawswn eu gweled byth yn eglwys Dduw, rhai o honoch ag y bu'm yn amcanu at eich dychweliad flynyddau lawer, ac yn methu; treuliais hyny o ddoethineb a dawn a feddwn i geisio cyrhaedd ac enill eich calonau, ond yn ofer; gorfu i mi eich gadael yn annychweledig; ond cefais fy arbed a'm dychwelyd yn ol i'ch gweled yn ddychweledigion yr Arglwydd, gobeithio. Y mae fel breuddwyd genyf weled rhai o honoch. O! mor ddiolchgar y dymunwn fy mod am gael byw i weled y pethau a welaf heno." Yr uchod ydoedd y cyfarfod olaf iddo ef ar y ddaear, a chafodd ynddo brawf ychwanegol, cyn ei symud, na ddarfu iddo lafurio yn ofer yn ngwinllan ei Arglwydd, canys bu yn llygad-dyst yn y cyfarfod hwnw o weled llawer o'i hen wrandawyr yn troi at yr Arglwydd eu Duw. Gwanychu yn barhaus yr oedd ei anwyl Elizabeth, fel yr oedd yn amlwg i bawb fod tegwch ei phryd hi yn cyflym golli, a hithau yn gwywo ymaith fel glaswelltyn. Gobeithid yn gryf am ei adferiad ef, canys yr oedd yn graddol gryfhau, ond yn sydyn ar noson Rhagfyr 20, tra yn ymddyddan gyda'i anwyl gyfaill, y Parch. T. Jones, Ministerley; yr hwn a ddaethai i ymweled âg ef, dechreuodd besychu yn galed, pryd y torodd llestr gwaed (blood vessel) o'i fewn, ac y rhedodd oddi wrtho yn agos i lonaid cwpan o waed yn y fan. Yr oedd Dr. Lewis, Wrexham; meddyg y teulu, yn y ty ar y pryd ar ymweliad à Miss Williams, yr hon erbyn hyn oedd yn rhy wael i allu codi o gwbl o'i gwely. Rhoddwyd ef yn ei wely ar unwaith, a gorchymynodd y meddyg ar fod iddo ymgadw yn hollol lonydd, a pheidio symud na siarad dim a neb; ac fel y dywed Dr. Rees, "Yr oedd y dyrnod hwn yn farwol yn ei ganlyniadau." Erbyn hyn, yr oedd y tad tyner ac enwog, a'i ferch hoff ac athrylithlawn wedi eu cyd—gaethiwo yn eu gorweddfanau. Daeth Mr. Williams ychydig yn well wedi hyn, yn gymaint felly, fel y gallodd godi o'i wely a dyfod i lawr i'r ty, ond nid oedd yr olwg arno yn pelydru un llewyrch o obaith am ei adferiad. Cydgyflyment megys am y cyntaf i ben eu taith, ac arferent gydymddyddan llawer â'u gilydd am hyny, fel y prawf yr hanesyn canlynol am danynt, yr hwn a welir yn y Dysgedydd 1840, tudal. 164, "Rhoddwyd llawer o arwyddion gan Mr. Williams a'i ferch yn eu hafiechyd, yn gystal a chyn hyny, eu bod yn cael eu haddfedu yn gyflym i'r trigfanau tragwyddol yn y nef. Ymddengys eu bod yn arfer ymddyddan â'u gilydd am farw, ac am fyned i'r nef, fel pe buasent wedi cynefino â hyny, ac yn ymhyfrydu yn y meddwl o gael eu datod, a bod gyda Christ, gan gredu mai llawer iawn gwell ydyw. Byddai Mr. Williams pan godai y boreu yn myned at ei gwely i edrych am dani; ac un tro gofynai iddi, 'Wel, Eliza., pa fodd yr ydych chwi heddyw?' Atebai, 'Gwan iawn, fy nhad.' Ebe yntau, Yr ydym ein dau ar y race, pwy â gyntaf i'r pen, debygech chwi?' 'O!' meddai hithau, 'dysgwyliaf mai myfi, ty nhad fod genych chwi waith i'w wneuthur eto ar y ddaear.' 'Na,' ebe yntau, 'Meddyliwyf fod fy ngwaith inau agos ar ben.' Ebe hithau, 'dysgwyliaf mai myfi a aiff gyntaf.' 'Wel,' meddai yntau, 'hwyrach mai felly y mae hi yn oreu—fy mod i ychydig yn gryfach i ddal yr ergyd.' Eb efe drachefn wrthi, 'A ydych yn hiraethu am weled pen y daith?' 'Ydwyf,' meddai hithau, 'o'm calon.' 'Paham hyny?' eb efe. 'Wel,' meddai hithau, 'Mi gaf weled llawer o'm hen gydnabyddion, a chaf weled fy mam, a mwy na'r cwbl, caf weled Iesu.' 'Ho!' meddai yntau, 'Wel, dywedwch wrthynt fy mod inau yn dyfod.' Un tro arall, pan oedd yn ymweled a'i ferch, dywedodd, 'Y mae genych gartref da, nid oes arnoch eisieu dim.' 'Nac oes,' meddai hithau; 'Ond y mae genyf gartref can' gwell, ie, can' gwell, can' gwell,'" &c., &c.

Yn nechreu mis Chwefror 1840, cynaliodd eglwys y Rhos gyfarfod pregethu. Yn mysg y rhai a bregethasent ynddo, yr oedd y Parchn. W. Rees, Dinbych, ac R. Jones, Rhuthyn. Teimlwyd rhyw nerthoedd rhyfedd ac ofnadwy yn y cyfarfod hwnw, ac yr oedd lluoedd "dan gerdded ac wylo yn ymofyn y ffordd tua Seion" ar ei ddiwedd. Pryderai Mr. Williams yn ddwys iawn am lwyddiant y cyfarfod dan sylw, ac anfonodd aml genadwri iddo, yn anog ei frodyr yn y weinidogaeth a'r eglwys yn y lle, i weddio yn daer am ei lwyddiant, ac hefyd dymunodd ar iddynt weddio drosto ef a'i deulu.

Tranoeth wedi y cyfarfod, aeth y gwŷr Parchedig a enwyd i edrych am Mr. Williams. Cawsent ef wedi codi, ac yn eistedd wrth y tân yn ei ystafell—wely. Yn fuan ar ol iddynt hwy gyrhaedd y ty, daeth y Parch. William Griffith, Caergybi, a Joseph Jones, Ysw., drosodd o Lynlleifiad y boreu hwnw i ymweled âg ef, ac fel hyn y dywedir am y cyfarfyddiad hwnw yn nghofiant Mr. Williams, gan Dr. W. Rees, tudalen 48—49:—"Nid anghofiwn byth yr olwg a gawsom arno pan aethom i'r ystafell! Pan welodd ni, cyfododd ar ei draed, a'i wyneb yn dysgleirio fel wyneb angel; tybiem fod holl alluoedd ei enaid a'i deimladau fel wedi ymgodi i'w wynebpryd; ei ddau lygad oeddynt yn gyffelyb i feini tanllyd, ac ar yr un pryd fel dwy ffynon o ddwfr yn bwrw allan eu haberoedd gloywon. Dilynodd pob llygad yn yr ystafell esiampl yr eiddo ef, ac wylasom yn nghyd. 'O fy mrodyr anwyl,' eb efe, mor dda yw genyf eich gweled yn dychwelyd o faes y frwydr. Cawsoch fuddugoliaeth ogoneddus ddoe, a minau yma, yn hen filwr methedig yn swn y frwydr, ond yn methu dyfod i gymeryd rhan ynddi. O! fel y dymunaswn fod gyda chwi, ond nid felly y gwelodd fy Nhywysog yn dda; rhoddodd fi o'r neilldu, ond gwnaeth hyny yn dirion iawn, ni chymerodd fy nghoron oddiar fy mhen—ni fwriodd fi i'r domen. O! pe buaswn yn yr ysbryd a'r teimladau yr wyf ynddynt y dyddiau hyn bump ar hugain o flynyddau yn ol, pa faint mwy o ddaioni wnaethwn nag a wnaethum! Mi a gefais amser, talentau, a dylanwad, y gallaswn, ond eu hiawn ddefnyddio, ysgwyd yr holl Dywysogaeth; ond och! darfu i minau chwareu â hwynt, a pheth rhyfedd iawn ydyw na buasai fy Meistr mawr yn fy mwrw ymaith oddi ger ei fron, fel llestr heb hoffder ynddo!' 'O,' ebe un o honom, 'yr ydym yn mawr hiraethu, ac yn gobeithio am eich gweled yn ail ymddangos eto.' 'Nid oes genyf fi nemawr o obaith am hyny,' ebe yntau, ond pe y bae hyny i fod, yr wyf yn gobeithio y byddwn yn llawer gwell milwr nag y bu'm erioed.' Yr oedd ei anwyl Elizabeth ar gyffiniau y glyn yr amser hwn; aethom gydag ef i ymweled â hi cyn ymadael, ni allai hi wneud nemawr ond siriol wenu arnom, yr hyn a ddangosai ei phrofiad, ac agwedd gysurus ei meddwl. Wedi ei gorchymyn i'r Arglwydd mewn gweddi fer, ymbaratoisom i ymadael, ac O! fynudau cysegredig! Edrychodd arnom gyda golwg nad yw yn bosibl ei ddesgrifio, a dywedodd, 'Wel, feallai, ac y mae yn debyg ein bod yn myned i ymadael y tro diweddaf, ond os na chawn weled wynebau ein gilydd ar y ddaear mwy, gadewch i ni dyngu ein gilydd yn y fan hon, y funyd hon, y bydd i ni gydgyfarfod yn y nefoedd.' Mewn gwirionedd, yr oedd y lle yn ofnadwy iawn! Llefarai y geiriau uchod gyda'r fath ddwysder a phwys, a greai deimladau ag oeddynt yn mhell tuhwnt i ddagrau. Yr oeddynt yn rhy sobr—ddwysion i ddagrau, ac felly ymadawsom." Yn fuan wedi hyn, yn yr un mis, pan ar ei daith yn y wlad hon, ymwelodd y Parch. B. W. Chidlaw (Dr. Chidlaw wedi hyny), o America âg ef. Dywedodd Mr. Williams wrtho gyda mawr deimlad, a'r nefoedd yn llon'd ei enaid, "Dyma fi fel hen huntsman methedig yn swn yr helfa, ond yn methu canlyn. Mae fy nghalon gyda hwy, a mawr lwydd ar eu holl ymdrechiadau i achub eneidiau. O! pe y buasai yr ysbryd hwn yn mhlith gweinidogion ac eglwysi ugain mlynedd yn ol, buasem heddyw yn canu caniadau buddugoliaeth." Erbyn hyn yr oedd ef a'i ferch anwyl yn cydaddfedu yn brysur i'r nefoedd, ac yn ol dymuniad y ddau, hi gyrhaeddodd ben yr yrfa gyntaf. Yn ei dyddiau a'i munydau olaf, cedwid hi mewn tangnefedd heddychol, canys y geiriau diweddaf a ddiferasent dros ei gwefusau oeddynt, Tangnefedd, Tangnefedd; ac ar Chwefror 21ain, 1840, yn 22ain oed, hi a aeth i dangnefedd bythol. Claddwyd hi Chwefror 26ain, yn yr un bedd a'i mam yn mynwent y Wern. Er fod Mr. Williams megys yn edrych, ac yn dysgwyl am yr alwad, yr hon oedd i gymeryd ei ferch anwyl oddi-wrtho; eto, pan y daeth, effeithiodd ei marwolaeth arno i'r fath raddau, fel y gollyngodd ei afaelion o bob peth daearol ar unwaith wedi ei cholli hi. Yr oedd i'w weled yn cyflymu ar ei hol, ac yr oedd yr holl wlad yn ofni bob moment, glywed y newydd am ei ymadawiad yntau hefyd. Yn yr adeg hon, pan yr oedd newydd orphen trefnu ei amgylchiadau bydol, galwodd ei gymydog, y Parch. J. Pearce o Wrexham i'w weled, a gofynodd iddo pa fodd yr ydoedd, atebodd yntau, "Yr wyf yn awr wedi cwbl ddarfod â'r ddaear, dim ond y nefoedd bellach. Wedi deall nad oedd un gobaith am ei adferiad, brysiodd ei chwaer Catherine i dalu ymweliad âg ef. Cymerodd hyny le ddydd Sadwrn, Mawrth 14eg, 1840. Buom yn meddwl llawer am ei thaith o'r Wyddgrug i Bersham y dydd hwnw. Diau fod hen adgofion am gychwyniad gyrfa grefyddol ei brawd enwog a hithau, ac am helyntion y daith of hyny hyd y dydd hwnw, yn deffroi yn ei mynwes tra yr elai hi yn mlaen. Wedi iddi gyrhaeddyd i'r White House, a myned i fyny i'w ystafell-wely, cafodd ef yn eistedd mewn cadair esmwyth wrth y tân. Hunai bob yn ail a bod yn effro yn ystod y dydd hwnw. Wrth ei weled mor llesg, ac yn cyflymu ymaith mor gyflym, nis gallasai ei chwaer hoff ymatal heb golli llawer o ddagrau; a phan yr oedd hi yn wylo felly unwaith, deffrodd yntau o'i gwsg, ac edrychodd arni yn llymdreiddiol, ac erfyniodd arni ymatal rhag wylo, a sicrhaodd hi ei fod ef yn myned i wlad lle nad oes dagrau o'i mewn, ac mai buddiol fyddai iddynt hwy y dydd hwnw, ymdynghedu eu dau yn ngŵydd Duw, y byddai iddynt gyfarfod eu gilydd yn y nefoedd. Plygasent eu gliniau i lawr o flaen gorsedd gras, i erfyn am y nerth oedd yn angenrheidiol arnynt er cyfarfod eu gilydd yn y nefoedd. Yn sicr, yr oedd yr olygfa hon yn ddigon effeithiol i swyno angylion i syllu arni. Ymadawodd ei chwaer am ei chartref, gan adael ei brawd yn mhorth y nefoedd, ac ni welodd ef mwy ar y ddaear. Meddienid Mr. Williams drwy ei oes gan deimlad dwys iawn yn achos eneidiau ei gyd—ddynion, ac fel yr oedd efe yn nesau i'r nefoedd, cynyddai y teimlad hwnw yn ei fynwes. Ar un noswaith, ychydig cyn ei farwolaeth, ocheneidiai yn ddwys iawn. Wrth glywed hyny, gofynodd Mrs. Edwards, Cadwgan, yr hon a fu yn gweini yn dyner a gofalus arno ef a'i ferch yn eu cystudd, "Beth oedd yr achos ei fod yn ocheneidio felly?" Atebodd yntau drwy ddywedyd mai "achos eneidiau dynion; a oes dim a fedrech chwi wneud at achub eneidiau Mrs. Edwards?" Dywedodd hithau, "Feallai y gallwn wneud mwy pe byddwn fwy yn y goleu." "Ië, ïe," meddai yntau, "mwy yn y goleu am gwerth." Gallodd gyfodi am ychydig y Sabbath cyn ei farwolaeth, eto yr oedd yn hynod wan. Nos Lun, Mawrth 16eg, dymunodd am gael gweled diaconiaid eglwysi y Wern a'r Rhos, ac wedi eu cael ato, buont yn ymddyddan llawer â'u gilydd yn nghylch amgylchiadau yr eglwysi, a rhoddodd lawer o gyfarwyddiadau a chynghorion gwerthfawr iddynt at ddwyn yn mlaen achos yr Arglwydd, wedi iddo ef fyned ymaith. Buasai yn dda genym allu rhoddi yma yr ymddyddan pwysig hwnw a fu rhyngddynt, ond nis gallwn wneuthur hyny. Yn fuan wedi i'r swyddogion fyned ymaith, gwelwyd ei fod yn colli ei ymwybyddiaeth, ac felly y bu hyd naw o'r gloch boreu dydd Mawrth, Mawrth 17eg, 1840, pryd y rhoddodd ei dabernacl daearol heibio, ac efe ond 59 mlwydd oed, gan fyned i mewn i dragwyddol deyrnas ei Arglwydd a'i Achubwr Iesu Grist. Ymledodd y newydd am ei farwolaeth gyda chyflymder y fellten dros wyneb yr holl Dywysogaeth. Effeithiodd yr amgylchiad mor ddwys ar lawer, nes y methasent a bwyta eu hymborth naturiol fel arferol am dalm o ddyddiau.

Dygwyddodd un peth nodedig yn hanes y Parch. Moses Ellis, Mynyddislwyn (un o feibion Mr. Williams yn y ffydd), yn nglŷn â breuddwyd hynod o'i eiddo, yr hwn a gymerodd le bron yn gyfamserol â marwolaeth Mr. Williams; ac nis gallwn ymatal heb ei gofnodi yma, fel y ceir ef yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyf. 1. tudal. 100 "Yn mhen ychydig wythnosau wedi iddo symud i Fynyddislwyn pan ydoedd yn lletya yn nhy yr hen Gristion anwyl Phillip Williams, breuddwydiodd un boreu ei fod yn nghwmni Mr. Williams o'r Wern, a'u bod yn cerdded rhagddynt fraich yn mraich nes iddynt fyned yn mlaen at y Palas prydferthaf a welsai erioed. Yr oedd rhodfeydd ardderchog o flaen y Palas, a phan oeddynt yn dynesu at y drws, daeth dau was ardderchog eu gwisgoedd a'u hymddangosiad, yn mlaen atynt ac ymaflasent yn mreichiau Mr Williams, gan ei arwain yn mlaen, a phan oeddynt wrth y drws, agorodd gweision eraill oeddynt oddimewn y drws, ac aeth Mr. Williams rhag ei flaen i'r Palas, ond dywedodd un o'r gweision wrth Mr. Ellis, 'Nid wyt ti i gael dyfod i mewn yma heddyw.' Ar hyny deffrodd. Pan ddaeth i lawr adroddodd ei freuddwyd wrth y teulu. Yn mhen ychydig ddyddiau wedi hyny cawsant y newydd fod Mr. Williams wedi marw ar y boreu y breuddwydiasai Mr. Ellis, a chyn pen dwy awr ar ol y pryd yr ydoedd yn breuddwydio.". Wrth gofio am yr anwyldeb a fodolai cydrhwng Mr. Ellis a Mr. Williams, ac am nefolrwydd eu teimladau, nid rhyfedd oedd i'r blaenaf gael y fraint mewn breuddwyd o ddanfon yr olaf, a'i weled yn myned i mewn drwy y pyrth i'r ddinas sanctaidd. Esbonier uchod fel y myner, erys y ffaith yr un. Rhaid i ninau bellach adrodd fel yr hebryngwyd corff Mr. Williams i'r bedd. Dydd Iau, Mawrth 25ain, daeth yn nghyd dyrfa anferthol mewn lluosawgrwydd, yn cynwys bob gradd o ddynion of bell ac agos i dalu eu teyrnged olaf o barch i "Dywysog Duw." Wrth y tŷ darllenodd y Parch. A. Jones, D.D., Bangor; a gweddiodd y Parch. T. Raffles, D.D., Liverpool; yna cychwynodd yr orymdaith hirfaith a galarus yn araf tua'r Wern. Wedi cyrhaedd yno, aed a'r corff i'r capel. Dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Samuel Roberts, M.A., Llanbrynmair; ac anerchwyd y gynulleidfa gan y Parchn. J. Pearce, Wrexham; M. Jones, Llanuwchllyn, a C. Jones, Dolgellau. Wrth y bedd drachefn traddodwyd anerchiadau gan y Parchn. W. Rees, D.D., a T. Raffles, D.D., a diweddwyd drwy weddi gan y Parch. R. Roberts, o Danyclawdd, gweinidog perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd. Dygwyd y gwasanaeth angladdol yn mlaen gydag arwyddion o alar cyffredinol a dwysder mawr. Yr oedd oddeutu pymtheg ar hugain o weinidogion yn—bresenol, ac yr oeddynt oll yn alarus iawn wrth orfod troi ymaith, a gadael yr enwocaf o weinidogion yr enwad Annibynol yn Ngogledd Cymru yn ei fedd. Pregethwyd yn y Wern y noson hono gan y Parchn. J. Parry, Machynlleth; ac A. Jones, D.D., a phregethwyd pregethau angladdol iddo y Sabbath dilynol gan yr holl weinidogion oeddynt yn ei angladd, a chan lawer eraill. Pregethwyd ei bregeth angladdol y Sabbath hwnw yn y Wern a'r Rhos, gan yr anwylaf a'r enwocaf o'i gyfeillion, y Parch. W. Rees, D. D., a hyny i gynulleidfaoedd lluosog a galarus iawn oddi wrth y geiriau, 2 Sam. i 19, "O ardderchawgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfäoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!" Dylem hysbysu yma ddarfod i Eglwysi y Wern, y Rhos, a'r Tabernacl, Liverpool, gyd-ddwyn yr holl dreuliau cysylltiedig a'r angladd eu hunain yn anrhydeddus. Gadawodd ddau fab, ac un ferch, heb dad na mam i ofalu am danynt, ac yr oedd y cymylau i ddychwelyd ar ol y gwlaw, i dduo awyrgylch deuluaidd yr hyn oedd yn weddill o'r teulu hawddgar hwn, canys pan yr oedd y mab hynaf, Mr. James Williams, yn nghapel y Rhos, nos Sabbath yn gwrando pregeth angladdol ei dad, tarawyd ef gan waew poenus yn ei goes. Boreu dranoeth aeth gyda Dr. W. Rees i gyfarfod pregethu i Lanuwchllyn, gan obeithio cael esmwythâd oddiwrth y boen, ond cynyddu yr oedd ei ofid yn barhaus, a chwyddo yn fawr yr oedd ei aelod. Dychwelodd adref, ac yn lle gwella, myned yn waeth waeth yr ydoedd. Gwelwyd arwyddion amlwg fod y darfodedigaeth wedi cymeryd meddiant sicr o hono. Bu yn nychu dan boenau llymion hyd Mawrth 31ain, 1841, pryd y rhyddhawyd ef oddiwrth ei holl ofidiau chwerwon, ac yr aeth i wlad y llawenydd tragwyddol, ac efe ond 21ain oed. Claddwyd ef yn yr un bedd a'i rieni a'i chwaer. Diau fod priddellau y dyffryn yn felus iddynt. Nodweddid bywyd Mr. James Williams gan wyleidddra prydferth a gochelgarwch mawr. Dywedodd ychydig cyn ei ymadawiad, fod ofn cael ei gyfrif fel un yn ceisio ymddangos yn y cyhoedd yr hyn nad ydoedd mewn gwirionedd, wedi ei atal lawer tro rhag mynegu yr hyn a deimlai. Yr oedd y tawelwch a'i nodweddai yn ei fywyd, i'w weled yn amlwg ynddo yn ei oriau olaf. Ymorphwysai yn gwbl ar Grist, fel yr unig sylfaen gadarn yn awr marwolaeth. Yn mhen amser wedi hyn, ymfudodd y mab a'r ferch oeddynt eto yn fyw, ac aethant i Awstralia. Priododd Miss Williams â boneddwr o'r enw Mr. Rand yn y wlad bellenig hono. Erbyn hyn y mae hi wedi marw, ac yn sicr wedi cyfarfod ei rhieni yn y "wlad well." Ond y mae yn dda genym ddeall fod y mab ieuengaf eto yn fyw, canys fel hyn y dywed y Parch. Owen Edwards, B.A., Melbourne, mewn llythyr o'i eiddo atom, dyddiedig Mawrth 6ed, 1893, "Da iawn genyf allu anfon i chwi yr hyn a ofynasoch parthed mab yr enwog William Williams, Wern. Mae y mab er's amser yn awr wedi ychwanegu yr hen enw Wern at ei enw gwreiddiol ei hun. Yr wyf yn adnabod Mr. Williams-Wern er pan wyf yn y wlad hon. Mae ef yn arfer galw gyda mi unwaith bob blwyddyn pan y daw i lawr i Gymanfa Gyffredinol y Presbyteriaid yn Melbourne bob mis Tachwedd. Yr oedd yma Tachwedd diweddaf, ac yn dechreu yr oedfa un boreu Sabbath, ac y mae wedi addaw pregethu yma Tachwedd nesaf. Gweithio mewn maes cenadol, dan ofal yr eglwys Bresbyteraidd y mae Mr. Williams-Wern, ac y mae ganddo chwech o leoedd pregethu, yn dwyn yr enwau Dartmoor, Strathdownie, East Strathdownie, Drik Drik, The Dairy, The Wilderness. Felly y mae efe yn weinidog yr eglwys yn yr anialwch. Mae Mr. Williams—Wern yn gymeriad ar ei ben ei hun, ac yn hynod am ei dduwioldeb y mae hyny yn ddiamheuol, ac y mae mor dda genym ei weled fel yr ydym yn edrych yn mlaen gyda dyddordeb at ei ymweliad blynyddol." [1]

Yn mhen ychydig gyda thri mis wedi derbyn yr úchod, derbyniasom a ganlyn oddiwrth fab ein gwrthddrych Parchedig, a dodir ef yma yn yr iaith yr ysgrifenwyd ef:—

THE MANSE,

DARTMOOR, VICTORIA.

AUSTRALIA.

Wednesday, June 14th, 1893.

MY DEAR SIR,

Your letter of April 13th, I received May 19th. I was fifteen years in the Colony before I heard a word of Welsh. Now at rare intervals I do. It stirs my heart to hear the dear old sounds of the land of my Fathers. I have led a very retire life in the Australian Bush, and supposed I was entirely unknown 'by any of my country men, or indeed to be living. My dear, very dear sister, died Nov. 4th, 1883. She was married to a Squatter John Rand. He sold his station and went to live near Sydney. They had a son and daughter. The latter is maried to Kelso King, manager of the Mercantile and Mutual Insurance Co., Sydney, and they wish to be near them. I have for many years been engaged in the work of my master Christ Jesus the Lord. He has been very gracious and willing to me in all life's way. He surely, for my beloved Father's sake, has been pleased to cause 'Mercy and goodness to follow me all the days of my life.' The district I occupy is a very extensive one—near in some parts to South Australia boundary. Dartmoor is one centre with two subsidiary Churches Both about attached—Dairy and Drik Drik. eleven miles from the Manse, via Dartmoor. Then the Wilderness is another part of my parish. It is twenty five miles from Dartmoor with two Churches attached, about ten miles from the Wilderness. Once a month for a weekday service, I go to Nelson, thirty seven miles from the Manse. There are few roads, mostly tracks, and these going through swamps, some of which take five minutes to ride through. The water pretty well up to the horse's belly. I came to the Colony a stranger. No one knew me. Yet 'my Lord, whom I serve, has been pleased to deal with me as with Joseph, and found grace in his sight,' for I have many kind friends. On all my journeys I ride. I will try and send you a Photo of my horse Duncan Gray II. He is a thorough bred and fine horse. I am mounted on him, but you cannot see my features. When I can get a 'photo of myself I will send you one. The nearest town is about thirty miles. I get my mail once a week. When from home, it is longer before I get my letters. When at home I have to read up, and then study on horse back when the track is clear, so that I need not fear going astray. I enclose a Time Table' for the services of the present year, which pray accept. It is past eleven o'clock, so I must say, Nos da i chwi'—Is that right? and I beg of you to receive my kind regards.

I am faithfully yours,

W. WILLIAMS-WERN.

"THE REV. D. S. JONES,

"CHWILOG, CARNARVONSHIRE."
Gwyddom y bydd yn dda gan holl ddarllenwyr y gwaith hwn ddarllen yr uchod, a gweled darlun o'r awdwr. Yr ydym hefyd yn llawenhau yn ddirfawr wrth gael ar ddeall fod yr unig fab sydd yn fyw i'n gwrthddrych enwog, yn llafurio gyda'r gwaith cenadol—gwaith ag oedd mor anwyl ac agos at galon ei dad Parchedig, a gwyddom y bydd yn dda gan holl genedl y Cymry gael gwybod hyn. Bydded i ewyllys yr Arglwydd lwyddo yn ei law, ac na phalled i William Williams, Wern, wr i sefyll gerbron yr Arglwydd yn dragywydd.

Nodiadau[golygu]

  1. Bu y Parch Owen Edwards, B. A., farw boreu dydd Mawrth, Mai 23ain, 1893, sef yn mhen ychydig gyda dau fis wedi iddo ysgrifenu yr uchod. Heddwch i'w lwch yn Melbourne bell.