Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/O'i Ymsefydliad Yn Y Wern Hyd Adeiladiad Capel Cyntaf Y Rhos

Oddi ar Wicidestun
O'r Adeg y Dechreuodd Efe Bregethu Hyd Ei Ymsefydliad Yn Y Wern Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

O Adeiladiad Capel Cyntaf Y Rhos Hyd Gymanfa Horeb

PENNOD V

O'I YMSEFYDLIAD YN Y WERN HYD ADEILADIAD CAPEL CYNTAF Y RHOS 1807—1812.

Y CYNWYSIAD.—Agosrwydd y Wern i Wrexham—Y myfyrwyr o Athrofa Wrexham yn pregethu yn y Wern o'r dechreuad—Mr. Williams yn un o'r rhai cyntaf i bregethu i'r Annibynwyr yn yr ardal—Ysgrif y Parch. J. Thomas, Leominster, yn y Beirniad—Y flwyddyn 1807 yn un hynod yn hanes eglwys y Wern—Adeiladu ei hail gapel—Ymsefydliad Mr. Williams yn yr ardal—Myned i lettya at Mr. Joseph Chalenor—Pregethu yn Nghymanfa Machynlleth cyn cael ei ordeinio—Aros yn y Wern am yn agos i flwyddyn cyn ei urddiad—Tystiolaeth Mr. Evans, Plas Buckley—Bedyddio merch fechan yn mhen dau ddiwrnod ar ol ei ordeinio—Nifer achosion yr Annibynwyr yn siroedd Dinbych a Fflint yn ychydig ar cychwyniad gweinidogaeth Mr. Williams—Yntau yn ymwroli i'w waith—— Agoriad y capel cyntaf yn Rhesycae—Y Wern yn dyfod yn enwog drwy ei chysylltiad â Mr. Williams—"Cymanfaoedd yr Annibynwyr" Sefydlu eglwys yn y Rhos—Ei nifer ar y pryd—Mr WILLIAMS yn cymeryd ei gofal—Ei ymweliad âg Athrofa Wrexham Ei wasanaeth i'r enwad drwy hyny—Yn ymroddi i deithio y wlad yn achos yr Efengyl—Anghyfleusderau teithio—Tyst- iolaeth Mr Thomas, Ty'n-y-wern, am Mr. Williams yn dilyn Mr Hughes, o'r Groeswen, ar un o'i deithiau casglyddol yn y Gogledd—Llyfr casglu Mr. Hughes—Eglwys y Rhos yn llwyddo—Adeiladu ei chapel cyntaf—Mr. Williams yn casglu ato.

GAN nad yw y Wern yn nepell o Wrexham, nid oedd Mr. Williams mewn un modd yn ddyeithr i'r "praidd bychan" oedd yno, a hyny oblegid yr arferai y myfyrwyr o Athrofa Wrexham bregethu yn yr ardal o'r dechreuad. Yn debyg i'r myfyrwyr hyny oeddynt o dan ofal Eliseus gynt, y rhai a wnaethent iddynt eu hunain "le i gyfaneddu ynddo;" felly yntau, gwnaeth "le i gyfaneddu ynddo," oblegid yr oedd Mr. Williams yn un o'r myfyrwyr cyntaf, os nad y cyntaf oll, i bregethu i'r Annibynwyr yn ardal y Wern.

Yn Y Beirniad am 1866, mewn ysgrif ragorol o'i eiddo ar "y Wern," dywed y Parch. John Thomas, Wern (Leominster yn awr), fel y canlyn: "Dywedir wrthym mai mewn hen dŷ tô gwellt yn ochr y Nant, y cawsent ddrws agored gyntaf yn yr ardal. Y mae yr hen dŷ hwnw yn sefyll yn rhyw lun hyd y dydd hwn. Y mae yr olwg arno yn llwyd a diaddurn. Y mae yn llechu, megys am gysgod, yn mynwes y graig, ar lawr y Nant, a'r afonig yn murmur ei cherdd wrth fyned heibio. Ni welir mo hono braidd nes bod ynddo. Yr ydym wedi methu cael yr un enw arno. Y mae efe fel tai y Nant i gyd, heb yr un enw ond enw y trigianydd, a'r enw yn cyfnewid fel y byddo y trigianydd yn symud. Sicrheir ni mai Edward a Margaret Pritchard oedd yn byw ynddo yr adeg hono. Nis gwyddom pa sut y daeth y myfyrwyr i fyned i'r ty hwnw, na pha flwyddyn yn sicr y pregethwyd ynddo y tro cyntaf; ond ymddengys ei bod yn rhywle tua diwedd y flwyddyn 1803, neu ddechreu y flwyddyn 1804. Rhoddodd Edward Pritchard le i'r arch ddyfod i'w dŷ, fel Obededom gynt, a diau na chollodd yntau ei wobr. Ymddengys ei fod yn un o'r aelodau cyntaf yn eglwys y Wern, fel y cawn sylwi eto. Yr ydym wedi dangos y ty i amryw weinidogion wrth fyned heibio, a phob un yn teimlo dyddordeb mawr pan yn cael ar ddeall mai yno y bu Williams o'r Wern yn pregethu gyntaf yn yr ardal. Pur ychydig o dai oedd yr amser hwnw yn ochr y Nant, ac y mae yn debyg fod y rhai oedd yn trigianu yn yr ychydig hyny yn myned i Adwy-y-clawdd i addoli. Symudwyd yr arch o'r Nant i'r Stryd, am ei fod, yn ddiau, yn lle mwy gobeithiol i gasglu cynulleidfa a dechreu achos.

Y mae Mr. John Griffiths, Frondeg, yn cofio yn dda ei fod yn hogyn bychan gyda'i dad a'i fam yn y Stryd, yn gwrando Mr. Thomas Powell a Mr. Williams yn pregethu, ac i'w dad a'i fam aros ar ol yn y gyfeillach y pryd hwnw. Testun Mr. Williams ydoedd Caniad Solomon iii. 9, 10, "Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus. Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei leni o borphor; ei ganol a balmantwyd â chariad i ferched Jerusalem." Nid oes genym yr un dychymyg beth oedd addysgiadau Mr. Williams oddiwrth ei destun, ond y mae yn sicr i'r bregeth gael argraff ddwys ar feddyliau y gwrandawyr. Efe oedd eu hoff bregethwr y pryd hwnw. Yr oedd yr oedfa hono yn y ty y mae Mr. Robert Jones, hen was i Mr. Williams, yn byw yn bresenol, Bu yr oedfaon yn cael eu cynal am beth amser yn y ty hwn. Symudwyd oddiyno i dŷ arall yn ymyl, y ty a gyfaneddir yn bresenol gan Mr. Edward Shone, ond ty Mary Edwards y pryd hwnw. Yn y ty hwn y corffolwyd y dychweledigion yn eglwys Yma Annibynol, gan yr Hybarch Jenkin Lewis. hefyd y bu y cymundeb cyntaf, yr un amser ag y corffolwyd hwy yn eglwys. Y mae Mr. John Griffiths, Frondeg, yn cofio yn eithaf ei fod yn myned ar gefn merlyn ei dad i Wrexham i gyrchu yr Hybarch Jenkin Lewis i'r ty hwn i ffurfio yr eglwys, ac i roddi cymundeb iddi. Yr oedd hyn tua diwedd y flwyddyn 1804, neu ddechreu 1805. Tua'r un amser y corffolwyd eglwys y Gyfynys—eglwys Brynsion, Brymbo yn awr, gan yr Hybarch Jenkin Lewis. Casglodd Mr. Williams a'i gyd—fyfyrwyr y defnyddiau trwy lafur a hunanymwadiad mawr, a ffurfiwyd hwy yn eglwysi Annibynol gan eu hathraw parchus, Gwraig weddw oedd Mary Edwards. Yr oedd yn aelod yn yr Adwy gyda y Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd yr eglwys fechan ieuanc ymgynull yn ei thy bob Sabbath o'r pryd y corffolwyd hi, hyd nes adeiladu y capel cyntaf. Dywed Hiraethog yn hanes bywyd Williams o'r Wern, mai rhif yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd pump; a dywed y Parch. D. Morgan, Llanfyllin, yr un peth yn Hanes Ymneillduaeth. Ymddengys i ni mai Hiraethog yw awdurdod Morgan, gan fod Hiraethog yn ysgrifenu yn 1841, a Morgan yn ysgrifenu yn 1855, 14 mlynedd ar ol Hiraethog. Ystyriwn hysbysiad Hiraethog yn awdurdod lled sicr; yr oedd Williams o'r Wern ac yntau yn gyfeillion mor anwyl. Ond yr anhawsder ydyw, penderfynu pwy ydoedd y pump. Mae yr anhawsder, nid i gael y rhif pump, ond i benderfynu y pump o rif mwy.

Yr ydym wrth holi a chwilio wedi cael enwau y personau canlynol fel rhai ag y mae tebygolrwydd mawr, o leiaf, eu bod yn y cymundeb cyntaf, Edward Davies y Parc, a'i wraig; Margaret Griffiths y Wern; Edward Griffiths, Caeglas, a Charlotte Griffiths ei wraig; Edward Pritchard, y Nant; a Mary Edwards, y Stryd. Y mae hyny yn gwneud saith, ac nid pump. Gan nas gallwn daflu hysbysiad Hiraethog dros y bwrdd heb wneud amryfusedd, rhaid i ni geisio dangos pa bump o'r saith a nodwyd oeddynt. Y mae yn sicr fod Edward Davies y Parc, a'i wraig, yn ddau o'r pump. Dywed ein cyfaill, Mr. Richard Hughes, Ty'rcelyn, yn hanes marwolaeth Elizabeth, gwraig Edward Davies y Parc, yn y Dysgedydd am Chwefror, 1840, "Mai Edward Davies a'i wraig a sefydlasant eglwys y Wern, ac mai hwy ddechreu. odd yr achos yn Mhenystryd, Llandegla, cyn symud oddiyno i Wrexham." Yr oeddynt felly yn aelodau yn Wrexham cyn symud i'r Parc, ac felly nid oes amheuaeth nad oeddynt yn y cymundeb cyntaf. Gan eu bod yn aelodau yn Wrexham cyn symud oddiyno i'r Parc, y mae yn ddiau eu bod yn adnabyddus iawn â'r Hybarch Jenkin Lewis a'r. myfyrwyr; a chredwn fod ein casgliad yn hollol gywir, mai hwy fu yn offerynol i gael y myfyrwyr i ardal y Wern i bregethu. Nid oes yr un amheuaeth eto nad oedd Margaret Griffiths, y Wern, yn un o'r pump. Y mae llawer yn fyw a'i clywsent hi ei hun yn dweyd hyny lawer gwaith. Yr oedd hon yn hynod am ei duwioldeb; y mae ei henw yn berarogl yn y gymydogaeth hyd heddyw. Y mae yn bur debygol eto fod Edward a Charlotte Griffiths, Caeglas, yn y cymundeb hwnw. Cawn eu bod yn y gyfeillach yn hir cyn hyny, ac yn danfon merlyn i gyrchu yr Hybarch Jenkin Lewis i ffurfio yr eglwys, ac i roddi y cymundeb cyntaf. Wedi pwyso pob tystiolaeth yn ofalus, yr ydym yn barnu mai y pump a enwyd oeddynt. Buasai yn foddhad mawr genym pe buasai eu henwau wedi eu croniclo pan oedd un o honynt yn fyw. Nid mewn capel hardd nac eglwys gadeiriol yr oedd y pump. hyn wedi ymgynull i gofio angeu y Gwaredwr, ond mewn hen dŷ digon gwael yr olwg allanol arno. Er hyny, pan gofiwn mai yno y ffurfiwyd eglwys y Wern, ac y bu y cymundeb cyntaf, nis gallwn yn ein byw edrych arno fel lle dinod. Y mae yn agos gynifer o aelodau eglwys y Wern yn byw yn y ty hwn. yn awr ag oedd yn gwneud i fyny yr holl eglwys ar ei chychwyniad. Lluosogodd y gynulleidfa yn gyflym, ac ymunodd llawer â'r eglwys yn y ty hwn, fel yr aeth y ty anedd yn rhy fychan. Dywedai y llais dwyfol, "'D'od le i mi fel y preswyliwyf."

Adeiladwyd y capel cyntaf yn y flwyddyn 1805, ychydig yn uwch i fyny na'r lle y saif y capel presenol. Pur fychan ac anghelfydd ydoedd, heb nag oriel na chor ynddo. Yr oedd y drws yn y tu cefn iddo. Y mae wedi ei droi yn dŷ anedd er's blynyddau lawer. Y mae yn gofus gan Mr. John Griffiths, Frondeg, fod gwedd ei dad am ddiwrnodau lawer yn llusgo coed, calch, a cheryg ato yn rhad. Y mae amryw o hen bobl y Wern yn cofio yn dda eu bod y myned yno i'r oedfaon pan yn blant. Trwyddedwyd y capel hwn i bregethu ynddo gan Samuel, Arglwydd Esgob Llanelwy. Danfonwyd deiseb am y drwydded Gorphenaf 24ain, 1805, ac y mae y drwydded wedi ei dyddio Medi 13eg, 1805. Y mae y ddeiseb a'r drwydded wedi bod yn ein llaw—y ddeiseb wedi ei hysgrifenu gan yr Hybarch Jenkin Lewis, a'r drwydded gan Arglwydd Esgob Llanelwy. Hwyrach y bydd eu darllen yn ddyddordeb i lawer. Dyma y ddeiseb:-

"To the Right Reverend Father in God, Samuel,
"by Divine permission, Lord Bishop of St. Asaph.
"We, whose names are hereunto subscribed, being
"his Majesty's Protestant subjects dissenting from
"the Church of England, have agreed to set apart
"for the public worship of Almighty God, an
"edifice, or building, situate at the Wern, in or
"near Minera, in the county of Denbigh, and
"diocese of St. Asaph, and desire that the
same may be registered according to the Act of
"Parliament made in the first year of the reign of
"their late Majesties, King William and Queen
"Mary, entitled 'An Act for exempting their
"Majesty's Protestant subjects dissenting from the
"Church of England, from the penalties of certain
"law." As witness our hands, the 24th day of July
"1805, Jenkin Lewis, A. W. Thornley, Owen
"Owens, William Ellis, John Griffiths."

Dyma eto y drwydded wedi ei harwyddo gan yr Esgob:-

"13th September, 1805. Registered in
"the public registry of the said Lord Bishop of
"St. Asaph, according to the Act above mentioned
"and there entered on record."

Cafodd yr hen gapel, er na chafodd ei gysegru, ei drwyddedu gan Arglwydd Esgob. Nid oedd na gwell na gwaeth o hyn, ond yn unig na feiddiai neb aflonyddu yr addoliad, na dirwyo yr addolwyr. Buwyd yn y capel hwn yn addoli yn nghylch dwy flynedd, sef hyd y flwyddyn 1807. Traddodwyd llawer pregeth effeithiol; cafwyd llawer cymundeb nefolaidd, a dychwelwyd llawer at yr Arglwydd ynddo. Bu y Parch. Moses Ellis, Mynyddislwyn, cyn iddo ddechreu pregethu, yn cadw ysgol ddyddiol ynddo. Buan iawn yr aeth y lle hwn eilwaith yn rhy gyfyng, fel yr oedd yn rhaid "helaethu lle y babell, ac estyn allan gortynau y preswylfeydd."

Wrth ddarllen y dyfyniad a roddir uchod o ysgrif Mr. Thomas, dylid cadw mewn cof yr adeg yr ysgrifenwyd hi, canys heb hyny nid ydyw yn ddealladwy, oblegid yr oedd rhai o'r personau a enwir ynddi yn fyw yr adeg hono; "y rhai oeddynt eu hunain o'r dechreuad yn gweled" llawer o'r ffeithiau a fynegir i ni ganddo, ond erbyn hyn, eu lle hwythau nid edwyn ddim o honynt mwy; ac ni welir ond y fan lle gynt y safai y ty y pregethwyd gyntaf ynddo gan yr Annibynwyr yn yr ardal, canys y mae yr hen anedd wedi ei chwalu yn gydwastad â'r llawr. Blwyddyn a adwaenir gan eglwys y Wern, fel un hynod yn ei hanes, yw 1807, canys dyma y flwyddyn yr adeiladodd ei hail gapel, yn y lle y saif y capel presenol; ac heblaw hyny, dyma y flwyddyn y dechreuodd Mr. Williams ar ei weinidogaeth yma, ac yn Harwd. Aeth i letya at Mr. Joseph Chalenor, Y Machine, Pentre'rfron, gerllaw Adwy-y-clawdd, lle y bu yn nodedig o gysurus am yn agos i ddeng mlynedd, sef hyd nes y priododd,

Y MACHINE, PENTRE'RFRON.

Yr ydym yn cael ein gwron yn pregethu mewn cymanfa yn Machynlleth, yr hon a gynaliwyd ar y dyddiau Mercher a Iau, Medi 28ain a'r 29ain, 1808. Gan ei bod y gymanfa gyntaf iddo ef bregethu ynddi, rhoddwn ei hanes fel y ceir ef yn hanes "Cymanfaoedd yr Annibynwyr," gan y Parch. J. Ll. James (Clwydwenfro), tudal. 158, 159.—" Dechreuodd yr addoliad ddydd Mercher yn agos i un o'r gloch, pryd y darllenwyd, y canwyd mawl, ac y gweddiodd y Parch. W. Hughes, Dinas Mawddwy. Pregethodd y Parch. W. Williams, Wern, oddiwrth Esa. ix. 6; a'r Parch. David Jones, Treffynon, oddiwrth Ioan xiv. 16. Yna cadwyd cyfeillach neillduol gan y gweinidogion, yr hon a ddechreuwyd drwy weddi gan y Parch. H. Pugh, Brithdir, ac a ddiweddwyd drwy weddi gan y Parch. G. Lewis, Llanuwchllyn. Am 6 yr hwyr, dechreuwyd drwy fawl a gweddi gan y brawd Cadwaladr Jones. Pregethodd y Parch. P. Maurice, Ebenezer, oddiwrth 1 Pedr i. 16; a'r Parch. T. Jones, Saron, oddiwrth Dat. iii. 10. Boreu dydd Iau, am haner awr wedi 6, dechreuwyd drwy fawl a gweddi, gan y Parch. J. Evans, Amlwch, a phregethodd y brawd R. Jones, Llanfyllin, oddiwrth 1 Cor. vi. 20; a'r Parch. W. Jones, Trawsfynydd, oddiwrth Rhuf. i. 9. Am 10, dech, reuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, a phregethodd y Parch. T. Phillips, Neuaddlwyd, ar Natur y gyfraith, a dyben ei rhoddiad, oddiwrth Gal. iii. 19. (y rhan flaenaf), a'r Parch. M. Jones, Trelech, ar Natur ac ardderchawgrwydd yr efengyl, oddiwrth 2 Cor. iv. 4. Am 2, dechreuwyd drwy fawl a gweddi, gan y Parch. J. Lewis, Bala; a phregethodd y Parch. J. Lloyd, Henllan, oddiwrth Rhuf v. 20 a'r Parch. D. Williams, Llanwrtyd, oddiwrth 2 Cor. v. 17.

Bu cyfarfodydd yn yr hwyr yn y dref, yn Aberhosan, ac yn Pennal. Cawsom brofi neillduol diriondeb yr Arglwydd, a lle cysurus i gredu ei fod yn foddlon i'n Cymanfa. Rhoddodd hin ddymunol, ac arwyddion o neillduol gynorthwyon i eneuau cyhoeddus." Gwelir fod Mr. Williams, yn pregethu yn y Gymanfa uchod fis union cyn ei urddiad. Dengys hyn y safle uchel yr oedd efe wedi dringo iddi y pryd hwnw yn syniad y bobl am dano fel pregethwr arbenig.

Gan nad oedd yn ddefod yn mysg yr Annibynwyr y dyddiau hyny i osod o honynt eu dwylaw yn ebrwydd ac yn derfynol ar neb rhywun, bu Mr. Williams, yntau, yn llafurio yn y Wern a'r cylchoedd am yn agos i flwyddyn cyn cael ei ordeinio yn weinidog iddynt.

Ymddengys hyn yn rhyfedd yn ein dyddiau brysiog ni, ond pe y buasem fel enwad wedi parhau i rodio yn ol y rheol hon, buasai hyny wedi ein diogelu rhag cael achosion mewn rhai amgylchiadau i edifarhau, am ddarfod i ni ymadael â'n harferiad cyntaf. Fodd bynag, ni ordeiniwyd Mr. Williams hyd Hydref 28ain, 1808, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur pwysig hwnw fel y canlyn: Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. William Hughes, Dinas Mawddwy; pregethodd Dr. George Lewis, Llanuwchllyn, ar Natur Eglwys, a gweddiodd y Parch. William Jones, Trawsfynydd, yr Urdd-weddi. Traddododd y Parch. Jenkin Lewis, Wrexham, y Siars i'r gweinidog, oddiwrth Hebreaid xiii. 17: "Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch; oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megys rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hyny yn llawen, ac nid yn drist: canys difudd i chwi yw hyny;" a thraddododd y Parchn. John Roberts, Llanbrynmair, Gynghor i'r eglwys, oddi-wrth yr un geiriau. Pregethwyd y prydnawn a'r hwyr, gan y Parchn. James Griffiths, Machynlleth, a John Jones, Liverpool. Yr oedd teimladau Mr. Williams yn nodedig o ddrylliog yn ystod gwasanaeth ei ordeiniad; ac nid rhyfedd hyny, canys nid oedd efe heb feddu syniad ac ymdeimlad priodol am fawredd a phwysigrwydd y gwaith yr ydoedd efe y dydd hwnw yn cael ei neillduo iddo yn gyhoeddus.

Clywsom yr hynafgwr parchus a chrefyddol Mr. David Evans, Plas Buckley, yn dweyd ei fod ef yn blentyn bach gyda'i fam yn nghyfarfod ordeinio Mr. Williams, a'i fod yn cofio ei weled yn wylo, a gofynodd y bychan i'w fam "Beth mae Mr. Williams yn crio, mam?" Dichon mai Mr. Evans yw yr unig un sydd yn fyw heddyw o'r rhai oeddynt yn bresenol yn y cyfarfod uchod, a hyny yn mhen pedwar ugain a phedair o flynyddoedd wedi i'r amgylchiad fyned heibio. [1]

Bellach, y mae genym i'w ddal gerbron, ac i edrych ar ein gwrthddrych yn nghyflawniad dyledswyddau ei swydd aruchel o "weinidog da i Iesu Grist." Gwelwn iddo fedyddio merch fechan i Mr. Edward a Charlotte Griffiths, Caeglas; a hyny ar Hydref 30ain, 1808, sef yn mhen dau ddiwrnod ar ol ei ordeiniad, yr hon a alwyd yn Margaret. Yr oedd y Margaret uchod yn gyfnither i'r hon a ddaeth i gael ei hadnabod wedi hyny yn Mrs. Williams o'r Wern.

Nid oedd gan yr Annibynwyr yn sir Ddinbych, ar ddechreuad gweinidogaeth ein gwron, ond un ar ddeg o addoldai, sef Wrexham (Chester Street), Dinbych, Wrexham (Penybryn), Llanrwst, Capel Garmon, Llangwm, Wern Harwd, Moelfro, Pentrefoelas, a Rhuthyn. Ac nid oedd yn sir Fflint ond pump, sef Newmarket, Treffynon, Buckley, Bagillt, a Rhes-y-cae. Nid oedd y Wern a Harwd, ond megys dwy fesen newydd-blanedig yn y tir, ac yn dechreu ffrwytho, fel nad oedd ond cariad at ei Arglwydd yn llosgi yn nghalon Mr. Williams i'w gymhell i ofalu am danynt, gyda gofal a thynerwch, hafal i'r eiddo tad am ei blant anwyl ganddo. Fodd bynag, efe a ymwregysodd at ei waith mawr, gan roddi prawf eglur a buan, drwy ei lafur a'i ysbryd cyhoeddus, y ceid ynddo ef un galluog a ffyddlawn i'r Hwn a'i galwodd ac a'i gosododd yn y weinidogaeth, canys deallwyd yn ebrwydd fod yr Arglwydd wedi rhoddi iddo drysorau cuddiedig, ac wedi datguddio iddo guddfeydd dirgel yr Ysgrythyrau, a'i fod yntau yn meddu ar fedr arbenig i ddwyn allan o'i drysorau bethau newydd a hen, yn y fath fodd fel ag i swyno gwlad o bobl i ddyfod i wrando yr hyn a leferid ganddo. Yr ydym yn ei gael ddydd Llun y Sulgwyn, 1809, yn gwasanaethu gyda'r Parchn. T. Jones, Newmarket, a T. Jones, Moelfro, yn agoriad capel cyntaf Rhes-y-cae. Dywedir fod y cyfarfod hwnw yn un llewyrchus o ran poblogrwydd, a hynod iawn o ran yr effeithiau nefol a deimlid ynddo.

Hyd y gwelsom ni, dyma y cyfarfod cyntafi Mr. Williams bregethu ynddo wedi ei ordeinio. Teimlid ei fod yn angenrhaid bellach yn ngwyliau arbenig ei enwad, a daeth yr enw "Williams o'r Wern" ar unwaith yn anwyl a chysegredig ar aelwydydd Gwyllt Walia yn gyffredinol. Derbyniodd eglwys y Wern, hithau, enwogrwydd arhosol, na buasai byth yn bosibl iddi ei etifeddu oni buasai ei fod wedi ei roddi iddi drwy ei chysylltiad â'r Parchedig William Williams. Meddylia casglydd hanes 'Cymanfaoedd yr Annibynwyr," mai ein gwrthddrych oedd y Parch. W. Williams, Drefnewydd, yr hwn a bregethodd yn Nghymanfa Crugybar y dydd Iau olaf o Fehefin 1809; canys dywed ar waelod tudalen 167 o'r gwaith gwerthfawr hwnw, "Meddyliwn mai W. Williams, Wern, oedd hwn; yr oedd newydd gael ei urddo o Athrofa y Drefnewydd, ac felly heb gael amser i wneud enw y Wern yn ddigon enwog." Dichon y dylid nodi mai camgymeriad yw hyny, oblegid mai o Athrofa Wrexham yr urddwyd ein gwrthddrych, a bu yr Athrofa yn y dref hono hyd 1816, pryd y symudwyd hii Lanfyllin, ac oddiyno drachefn i'r Drefnewydd yn 1821. Diau mai y Parch. W. Williams, Drefnewydd, Morganwg, oedd yr un a bregethodd yn Nghymanfa Crugybar yr adeg a nodwyd, yr hwn a urddwyd Gorphenaf 21ain, 1808. Llwyddai eglwys y Wern yn gyflym dan weinidogaeth Mr. Williams. Yr oedd ychydig o frodyr a chwiorydd hefyd yn ymgynull yn nghyd i addoli Duw mewn lle o'r enw y Pant, yn Rhosllanerchrugog. Pregethid iddynt gan Mr. Williams, a'r myfyrwyr o Wrexham ar gylch, ac yn rheolaidd. Yn nechreu 1810, sefydlwyd hwy yn eglwys. Saith oedd eu nifer ar y pryd, ac yn Awst y flwyddyn hono, symudasent o'r Pant i ystafell arall yn y Rhos. Ymofynasent â'r Parch. J. Lewis yr athraw o Wrexham, am weinidog i'w bugeilio. Cynghorodd yntau hwy i roddi eu hunain o dan ofal Mr. Williams; ac wedi ymgynghoriad priodol, cydsyniodd yntau â'r gwahoddiad. Erbyn hyn yr oedd ganddo, yn ychwanegol at ofalu am y Wern a Harwd, i ofalu hefyd am y Rhos; ac fel yr oedd maes ei lafur yn eangu, yr oedd ei ddyddordeb yntau yn mhob symudiad daionus yn cynyddu. Er fod Mr. Williams wedi ymadael o'r Athrofa, eto ni phallodd ei ddyddordeb ynddi, a'i ofal am gysur, cynydd, a defnyddioldeb y myfyrwyr. Ymwelai yn fynych â'r athrofa, tra y bu y sefydliad heb ei symud i Lanfyllin. Fel y canlyn y dywed y Parch. Michael Jones, Llanuwchllyn, am yr ymweliadau bendithiol hyny o'i eiddo[2] —"Byddai yn dyfod yno at y myfyrwyr yn aml, nid fel un mewn swydd, ond fel cyfaill ac ewyllysiwr da i wybodaeth, a byddai yn cadw cyfarfodydd gyda'r gwŷr ieuainc am awr neu ddwy, a byddai rhyw fater dyrus yn aml mewn duwinyddiaeth neu anianyddiaeth yn cael ei olrhain mewn modd syml ac eglur, nes y byddai yn adeiladaeth fawr i feddyliau y myfyrwyr gwyddfodol. Byddai yr ymweliadau hyn o'i eiddo yn fendithiol iawn i eangu eu deall, ac i'w tueddu i fyw yn fwy duwiol, i wneuthur gwell defnydd o'u hamser, er eu cynydd eu hunain, lles eraill, a gogoniant Duw. O'm rhan fy hun, gallaf dystiolaethu fod hyn yn un o'r pethau mwyaf bendithiol a gefais tra yn yr Athro fa hono; yr ydwyf yn rhwym o ffurfio fy syniadau duwinyddol yn ol gair Duw, a'm syniadau anianyddol yn ol prawf achos ac effaith, ond bu efe yn offeryn da i ddwyn fy meddwl i weithredu ar y pethau hyn, a'i hwylio yn ei ymchwil i ddirnad drosto ei hun er graddau o foddlonrwydd. Diau genyf fod gradd helaeth o wybodaeth gyhoeddus wedi ei chyfranu trwy ei ymdrechion hyn gyda'r myfyrwyr; ond mwy na'r cwbl oedd, y byddai ei holl ymdrin â ni yn tueddu yn fawr er hunanymroddiad i Dduw, a'n dwyn i fyw yn fwy duwiol; dangosai yn eglur i ni mewn modd siriol a deniadol, y byddai ein bywyd gweinidogaethol yn ol ein bywyd athrofaol, ac y byddem yn sicr o fagu yr eglwysi dan ein gofal o'r un ysbryd ac chwaeth a ni ein hunain, am hyny, os mynem i'r eglwysi fod yn dduwiol, a'r byd i deimlo ein gweinidogaeth, y byddai yn rhaid i ni yn gyntaf fod yn yr unrhyw agwedd ein hunain; magai a meithrinai ni yn fawr yn y pethau hyn."

Ystyriwn fod y dystiolaeth uchod yn un werthfawr iawn, yn enwedig fel y mae wedi ei rhoddi gan un a fu ei hunan yn llygad-dyst o'r pethau a fynega efe i ni, ac yn arbenig felly pan gofiwn na byddai Mr. Jones byth yn cymeryd ei gario gan ei deimladau, fel ag i draethu pethau wrth eraill, heb yn gyntaf eu meddwl yn briodol ei hunan. Cydnebydd pawb a wyr ddim am y bywyd colegol, a'r rhyddfrydigrwydd brawdol a fodola cydrhwng yr efrydwyr a'u gilydd, y rhaid fod yn Mr. Williams rywbeth neillduol iawn, cyn y buasai yn gallu enill y fath ddylanwad ar y myfyrwyr, tra nad oedd efe eto ond ieuanc, ac heb fod ond ychydig amser wedi myned heibio er pan yr ymadawodd efe ei hun o'r athrofa. Heblaw hyny, nid dygwyddiad yn ei hanes, ond ei arferiad oedd hyn, canys y mae genym dystiolaeth bellach o eiddo y Parch. William Jones, Amlwch, yr hwn oedd yn yr Athrofa pan y symudwyd hi o Wrexham i Lanfyllin, ac fel y canlyn y dywed ef[3]—"Bu hefyd fel tad a brawd i'r myfyrwyr tra yr oedd yr Athrofa yn gyfagos iddo yn Wrexham, ac yn wir, ymwelai â hwynt yn fynych wedi ei symudiad o'r lle hwnw. Yr oedd ein hybarch athraw, y diweddar Barch. G. Lewis, D.D., yn wir hoff o hono. Pan y deuai i'r dref, wedi talu ymweliad â'n hathraw, rhoddai ei gyfeillach yn rhydd a siriol i'r myfyrwyr; cyrchem bawb yn dra awyddus i'r man lle y clywem ei fod, ac yn bur anfynych, os un amser yr ymwelai â ni, heb fod ganddo rywbeth pwysig i dynu ein sylw arno er ein gwir adeiladaeth, a byddai croesaw i ni osod o'i flaen unrhyw fater a ymddangosai yn anhawdd, neu yn ddyrus i ni, gwnai ei oreu bob' amser i'w chwalu a'i egluro i'n meddyliau. Trwy y byddem yn llafurio yn ei gapeli bob yn ail Sabbath âg ef, yn gynorthwyol iddo, byddem yn fynych yn cael yr hyfrydwch o letya gydag ef nos Sadwrn, neu nos Sabbath, a thrwy hyny yn cael bod yn dystion o'i weddiau taerion ar ein rhan. Cofus iawn genyf am ei weddi yn deuluaidd un—boreu Sabbath drosof fi a'm cydfyfyrwyr; nid yw yr argraffiadau a wnaed ar fy meddwl a'm teimlad y pryd hyny wedi eu dileu hyd yr awr hon; ac y mae yn dra sicr genyf, mai nid pan y byddem yn bresenol yn unig y cofiai am danom, ond ein bod yn cael rhan helaeth yn ei weddiau yn wastadol; oblegid gwyddom fod y weinidogaeth ag oedd yn codi i fyny yn cael lle dwys ar ei feddyliau ef, fel un ag oedd mor helaeth yn ei ysbryd cyhoeddus, ac mor wresog yn ei gariad at achos yr Arglwydd.

Hefyd, nid oedd neb ag a lawenhai yn fwy nag ef yn ein cynydd a'n llwyddiant mewn addysg, er bod yn ddefnyddiol yn ein hoes. Ar derfyniad amser pob myfyriwr yn yr Athrofa, cynelid cyfarfod neillduol rhyngddo ef a'i frodyr cyn ei ymadawiad, i weddio dros eu gilydd, ac i gynghori y y naill y llall; Mr. Williams a fyddai ein cadeirydd bob amser ar yr achlysuron hyny; ac wedi i bob brawd draethu y cynghor a fyddai ar ei feddwl i'r brawd a fyddai ar ymadael, ac iddo yntau roddi ei. gynghorion iddynt hwythau a fyddent yn aros ar ol, yna rhoddai y cadeirydd iddo gynghorion, a'i anogaethau difrifol, a therfynai y cyfarfod drwy weddi yn wresog a thaer ar ei ran. Nid peth hawdd a fyddai anghofio yn fuan y cyfarfod hwn. Yn y modd hwn yr oedd y caredigrwydd mwyaf a'r cyfeillgarwch penaf yn bod rhwng y myfyrwyr a Mr. Williams dros y blynyddau a dreuliasent yn gymydogaethol iddo; ac nid wyf yn cofio am y gradd lleiaf o oerfelgarwch yn neb o honom tuag ato, nag am un arwydd o hyny ynddo yntau tuag atom ninau, a diau genyf fod hyn wedi gosod i lawr sylfaen cyfeillgarwch am eu hoes rhyngddo ef a'r rhai a gawsent y fraint o dreulio eu hamser yn yr Athrofa yn gymydogaethol iddo. Byddem weithiau yn cael cyfleusdra i'w wrando yn pregethu, yr hyn a fyddai yn dra hyfryd genym, ac yn wir adeiladaeth i'n meddyliau."

Nid oes angen ychwanegu dim at yr uchod, er dangos ei wasanaeth anmhrisiadwy i'r Athrofa a'r myfyrwyr, ond yn unig fynegu nas gellir byth amgyffred hyd a lled y dylanwad daionus a gyrhaeddodd efe drwy y gwasanaeth hwn o'i eiddo i'w enwad. Er na adawodd Mr. Williams gofnod-lyfr ar ei ol, fel ag i'n galluogi i'w ddilyn yn fanwl yn ei holl symudiadau cyhoeddus, eto gwelwn y byddai "mewm teithiau yn fynych," yn nechreuad ei dymhor gweinidogaethol. Rhaid cofio hefyd fod teithio y wlad yn y dyddiau hyny, yn beth gwahanol iawn i'r hyn ydyw yn ein dyddiau ni, oblegid nid oedd y cledrffyrdd wedi eu gweithio fel rhwydwaith dros wyneb ein Talaeth, ar hyd pa rai yn awr y rhed y cerbydresi clyd, bron i bob cilfach a chwm, yn gystal ac i'r trefydd mawrion, a'r mân bentrefi yn y wlad, gan dywallt o honynt ein cenadon hedd, bron wrth ddrysau ein haddoldai, a hyny mewn ychydig oriau ar ol iddynt gychwyn o'u cartrefi. Ond nid oedd yn y dyddiau gynt dynged well i'n hefengylwyr na cherdded oddiamgylch, os na byddai ffawd wedi eu galluogi i bwrcasu anifail i'w cludo. Fodd bynag, rhaid oedd myned drwy wynt a gwlaw, haf a gauaf, oerni a gwres, ac ar fynyddoedd uchel, ffyrdd a llwybrau anhygyrch, y gwelid gynt draed yr efengylwyr, cyhoeddwyr heddwch, a'r rhai oeddynt yn mynegu daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth, ac yn dywedyd wrth Seion, dy Dduw di sydd yn teyrnasu. Trwy ymdrech ddiball y tadau i deithio ein gwlad fel hyn, a'r nerth dwyfol oedd yn nodweddu mor amlwg eu cenadwri, yr effeithiwyd ar ein Tywysogaeth mor lwyr a thrwyadl, nes mewn cymhariaeth y mae y wlad oedd o'u blaen yn ddiffaethwch annhreithiedig, ar eu hol fel gardd baradwys; a bu gan ein gwron law arbenig mewn dwyn oddiamgylch y cyfnewidiadau grasol, y rhai a barasent i'r anialwch a'r anghyfaneddle lawenychu o'u plegid, ac i'r diffaethwch orfoleddu a blodeuo fel rhosyn. Yn nghymanfa Sir Gaernarfon, yr hon a gynaliwyd yn Salem, Llanbedr, Gorphenaf 4ydd, 1810, gweinyddwyd fel y canlyn: Am 9, dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio gan Mr. H. Williams, Cheltenham. Pregethodd y Parchn. J. Lewis, Bala, oddiwrth 1 Ioan iv. 9; a B. Jones, Pwllheli, oddiwrth 2 Pedr i. 10. Yn y prydnawn, pregethodd y Parchn. W. Williams, Wern, oddiwrth Dat. xxii. 20; a G. Lewis, Llanuwchllyn, oddiwrth Heb. ix. 28. Yn yr hwyr, pregethodd y Parchn. D. Davies, Rhes-y-cae, oddiwrth Luc xx. 31; a W. Hughes, Brynbeddau, oddiwrth Ioan x. 27. Hefyd pregethwyd y nos flaenorol gan y Parchn. T. Jones, Newmarket, a D. Jones, Treffynon. Methasom a gweled ddarfod i Mr. Williams weinyddu mewn cymanfa ar ol ei ordeiniad cyn yr uchod. Yr oedd amgylchiadau yr achos y fath, fel y gorfodid gweinidogion yn yr oes hono i deithio llawer i gasglu at ddiddyledu addoldai. Cefnogai Mr. Williams y cyfryw ymwelwyr yn garedig, fel y dengys y nodyn gwerthfawr a ganlyn, yr hwn a anfonwyd i ni gan Mr. T. Thomas, Ty'nywern,—"Bu Mr. Hughes o'r Groeswen, a Mr. D. Beynon o Ferthyr, (wedi hyny o Lanerchymedd), ar daith drwy y Gogledd yn casglu at Gapel Llantrisant, Morganwg. Cychwynasent yn Ebrill, 1811, a buont ar eu taith am tua naw wythnos. Dilynodd Mr. Williams o'r Wern hwy am oddeutu wythnos, a dywedai ar ol y bregeth y noson olaf, gan godi ei ddwylaw i fyny, "Wel, Hughes dragwyddol,' gan gyfeirio at ddawn diderfyn ac hyawdledd Ilifeiriol y llefarwr. Yr oedd Mr. Hughes, mae'n debyg, yn pregethu pregeth wahanol yn mhob oedfa. Arwyddodd Mr. Williams ei enw wrth lyfr casglu Mr. Hughes fwy nag unwaith. Y mae y llyfr hwnw genyf, a chadwaf ef tra fyddaf byw. Mae ynddo enwau amryw o enwogion y pulpud Cymreig yn nechreu y ganrif hon, megys Mri. Griffiths, Caernarfon; Roberts, Llanbrynmair; Michael Jones, Llanuwchllyn; Powell, Rhosymeirch; a'r mwyaf o'r oll, "Mr. Williams o'r Wern." Gwelir mai yn mhen tua dwy flynedd a haner wedi ordeiniad Mr. Williams, y cymerodd yr amgylchiad uchod le. Megys y gwna haiarn hogi haiarn, a gwr wyneb ei gyfaill, felly hefyd, nis gallasai dilyn pregethwr mor drydanol, ag ydoedd Mr. Hughes o'r Groeswen, lai nag effeithio yn ddyrchafol ar ein gwron fel pregethwr. Erbyn hyn yr oedd doniau dysglaer a nerthol Mr. Williams yn ad-dynu y lluaws yn nghyd i'w wrandaw yn mha le bynag y byddai yn pregethu, a'r achosion yn y Wern a'r Rhos yn cynyddu yn gyflym. Gorlenwid yr ystafell yn y Pant, fel yr aeth yn rhy gyfyng gan breswylwyr.

Yn y flwyddyn 1812, penderfynodd yr eglwys a ymgyfarfyddai yn y Pant, Rhos, adeiladu capel iddi ei hun, yr hwn a gwblhawyd yn y flwyddyn a nodwyd, a symudodd yr eglwys i'w chapel newydd. Tybiai llawer y pryd hyny, mai rhan o'r portread nefol, yr hwn a ddangoswyd yn y mynydd i bob cenad anfonedig o eiddo Duw, ydoedd iddynt fyned yn gyfrifol am ddyledion addoldai newyddion, a chasglu at eu diddyledu hefyd, ac mai prawf o'u ffyddlondeb i wneuthur o honynt bob peth yn ol y cyfryw bortread, oedd eu mynych deithiau casglyddol llafurus a thrafferthus, ond nid oedd y dyb hono ond mantell, o dan ba un yr ymesgusodent rhag cymeryd eu cyfran gyfreithlawn o'r baich eu hunain. Fodd bynag, gweithiodd Mr. Williams yn egnïol drwy fyned o amgylch i gasglu at ddi-ddyledu addoldy newydd y Rhos, a bu yn llwyddianus yn ei waith.

Nodiadau[golygu]

  1. Wedi i ni ysgrifenu yr uchod. bu Mr. Evans yntau farw Tachwedd 15fed, 1892, yn 91 mlwydd oed.
  2. Cofiant Mr. Williams, gan Dr. Rees, tudal, 91—92.
  3. Cofiant Mr. Williams, gan Dr. Rees, tudal. 109, 110.