Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/O Adeiladiad Capel Cyntaf Y Rhos Hyd Gymanfa Horeb

Oddi ar Wicidestun
O'i Ymsefydliad Yn Y Wern Hyd Adeiladiad Capel Cyntaf Y Rhos Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

O Gymanfa Horeb Hyd Yr Oedfa Yn Aberdaron

PENNOD VI.

O ADEILADIAD CAPEL CYNTAF Y RHOS HYD GYMANFA HOREB. 1812—1820.

Y CYNWYSIAD.—Dechreu achosion newyddion yn Llangollen a Rhuabon—Rhywbeth heblaw rhagrith—Yr eglwysi ag eithrio Harwd, yn cynyddu dan weinidogaeth Mr. Williams—Ei arddull bregethwrol—Oedfa yn Nhowyn, Meirionydd—Y dadleuon duwinyddol— Hergwd i Arminiaeth—Mr. Williams yn Galfiniad lled uchel yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth —Gwasanaeth Mr. Roberts o Lanbrynmair, a Mr. Williams—Tystiolaeth yr Hybarch W. Daniell, Knaresborough, am y cyfnewidiad a gymerodd le yn marn ein gwrthddrych ar bynciau athrawiaethol crefydd—Rheswm Mr. Williams dros newid ei farn—Ei atal i bregethu yn Sir Fynwy—Ei gyd-gynorthwywyr—Y"Prynedigaeth," a'r "Galwad Ddifrifol" Rhoddi ystyr fasnachol i'r Iawn— Ystyried y rhai a gilient oddiwrth yr Athrawiaeth hono yn gyfeiliornwyr peryglus—Poblogrwydd Mr. Williams fel pregethwr—Ei briodas Myned i drigianu i Langollen—Yr achos Annibynol yno —Agoriad capel Llangollen—Yr ysbryd cenadol yn deffroi yn y wlad—Y Deheudir yn blaenori—Cymanfa y Groeswen, a Chyfarfod Cenadol Aber— tawe—Cychwyniad yr achos Cenadol yn y Gogledd Cyfarfodydd Llanfyllin a Threffynon Ein gwrthddrych yn cymeryd dyddordeb yn y Cymdeithasau Beiblaidd a Chenadol—Apeliad y Parch. Richard Knill—Effaith yr apeliad ar MR. a MRS. Williams—Ei Araeth nodedig yn Llangollen— Cymanfa Horeb, Sir Aberteifi—Tystiolaethau yr Hybarch W. Evans, Aberaeron, y Parch. J. B. Jones, B.A., a Hiraethog, am y nerthoedd rhyfedd oedd yn cydfyned â phregeth ein gwrthddrych yn y Gymanfa hono

HEBLAW gofalu am ddyfrhau yr eglwysi oeddynt yn uniongyrchol dan ofal gweinidogaethol Mr. Williams, yr adeg hon, ymchwyddai afon ei weinidogaeth bur dros ei cheulanau arferol, gan ymledu a llifeirio tua Llangollen a Rhuabon. Dechreuodd ef yr achosion yn y lleoedd a nodwyd, y naill yn 1811, a'r llall yn 1813. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn Rhuabon yn 1813, oddiwrth Luc xxiv. 47: "A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef yn mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem." Dywed Dr. W. Rees, yn gofiant i Mr. Williams, tudalen 21ain, y "Bu y bregeth hon yn allu Duw er iachawdwriaeth i rai eneidiau. Dygwyddodd i un dyn tra annuwiol ac erlidgar ddyfod heibio i'r ty ar amser y bregeth, a throes i mewn. Ymaflodd y gwirionedd yn ddwys yn ei feddwl, a chaled oedd iddo geisio gwingo yn erbyn y symbylau; ac efe oedd un o'r rhai cyntaf a ddaethent yn mlaen i ymofyn am aelodaeth eglwysig yn Rhuabon; yr oedd yn un o'r ychydig nifer yn ffurfiad cyntaf yr eglwys yno. Yr oedd Mr. J. Breese, ag oedd yn fyfyriwr y pryd hyny, yn cynorthwyo Mr. Williams yn yr amgylchiad hwn." Adeiladwyd y capel yma yr un flwyddyn ag y dechreuwyd yr achos. Erbyn hyn, yr oedd ganddo bump o eglwysi i ofalu am danynt, a gwnaeth hyny yn ffyddlon nodedig, yn enwedig wrth gymeryd i ystyriaeth ei lafur cyhoeddus yn yr holl enwad, a phellder ei eglwysi oddiwrth eu gilydd. Elai i wahanol gyfarfodydd wythnosol yr eglwysi gyda chysondeb diball, ag eithrio yr adegau pan y byddai ar ei deithiau pregethwrol. Cyddeithiai ef a'i letywr ffyddlon, Mr. Joseph Chaloner, yn aml adref o gyfeillachau y Wern. Dychwelent un tro, ar noson dywell iawn, gan gymeryd y llwybr llithrig o'r Nant i fyny at y Coedpoeth y tro hwnw, pryd y cwympodd y ddau, gan ymlithro yn mhell yn ol, ond ni dderbyniasent unrhyw niwed. Wedi iddynt gyfodi, ac ail gychwyn, dywedodd Mr. Williams, "Wel Joseph, y mae yn rhaid fod rhywbeth heblaw rhagrith, yn ein cymhell i ddyfod i foddion gras ar y fath noson mor dywell." Y mae yn sicr mai cariad at eu Harglwydd Crist Iesu oedd y "rhywbeth" hwnw a gymhellai y gwyr rhagorol i'w gwaith.

Cynyddai eglwysi ei ofal, ag eithrio Harwd, mewn rhifedi a dylanwad beunydd; ac arferai Mr. Williams ddywedyd, ddarfod i Harwd wneuthur mwy o les iddo ef nag a allodd efe wneuthur i Harwd, oblegid y byddai meddwl am Harwd nychlyd yn tueddu i gadw ei feddwl yn ostyngedig, pan y byddai yn gweled y bobl yn ymdyru ar ei ol mewn lleoedd eraill wrth y canoedd. Diau fod gan natur ac anian ddylanwad dystaw ac effeithiol i ddeffroi athrylith, a pheri ei bod megys yn ymffurfio yn ei meddianwyr i'r un a'r unrhyw ddelw, a golygfeydd cylchynol natur ei hunan. Ymddengys fod arddull bregethwrol Mr. Williams yr adeg hon yn dwyn arni ei hun nodau o arucheledd dirodres, hafal i natur yn amgylchoedd Cwmeisian Ganol, yn mynydddir Meirionydd. Tybiai rhai mai buddiol fuasai iddo ffrwyno ei athrylith, fel nad ymddangosai mor ddilywodraeth a hyf ger bron hen saint gofalus yr oes hono. Ond ni wna perchenogion athrylith gref ufuddhau yn ebrwydd, drwy ymwisgo yn ol dull dychymyg dynol i foddio dynion. Felly yntau, yr oedd ganddo arddull arbenig o'i eiddo ei hun, ac nid oedd gywilydd ganddo ymwisgo ynddi; ac yr oedd yn nodedig o effeithiol fel pregethwr yn y cyfnod hwn ar ei fywyd. Er cael gweled prawf o ddilysrwydd ein gosodiad, darllener a ganlyn allan o "Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd," tud. 188—189: "Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i grefyddwyr amlhau, yr oedd llawer o bregethwyr dyeithr yn teithio drwy Dowyn, Meirionydd. Adroddir hanesyn dyddorol gan y Parch. D. Cadvan Jones, am ymweliad cyntaf Mr. Williams o'r Wern, â'r dref, Aeth dau o'r brodyr a berthynent i'r Annibynwyr i'w gyfarfod, a chyfarfyddasent â gwr ieuanc o edrychiad ysmala, dirodres, a difater, ar gefn merlyn bychan. Yr oedd y naill a'r llall o'r ddau aethent i'w gyfarfod yn lled ofni nad efe oedd y gwr dyeithr, gan nad oedd ymddangosiad pregethwrol ganddo. Boed a fo, gofynwyd iddo, 'Ai chwi yw y gwr dyeithr sydd i bregethu gyda'r Dissenters heno?' 'Ie,' ebe fe, 'beth am hyny?'

'O, dim Syr, ond ein bod wedi dyfod i'ch cyfarfod.' Aeth ef a'r ddau arweinydd yn mlaen, ac erbyn cyrhaedd y dref, dygwyddodd amgylchiad eto o flaen ty penodol, a barodd iddynt amheu ai efe oedd y pregethwr. Modd bynag, ni ddywedasent ddim i amlygu eu drwgdybiaeth. Y noson hono, yr oedd Mr. Griffith Solomon i bregethu gyda'r Methodistiaid, a chafwyd drwy fawr gymhell a chrefu, ganiatad i roddi y gwr dyeithr i bregethu gydag ef, gan y tybiai yr ychydig frodyr na chaent neb i'w wrandaw pe y cedwid y ddwy oedfa ar wahan. Aeth y ddau arweinydd tua'r capel, ac yr oedd Griffith Solomon ychydig yn ddiweddar, a Mr. Williams wedi dechreu. Pan y daeth Griffith Solomon i mewn, edrychodd i fyny, rhuthrodd i'r pulpud, ac ymaflodd yn y gwr dyeithr yn ddiseremoni, a chymerodd ei le ef. Wel, wel,' ebai y ddau arweinydd ynddynt eu hunain, 'does dim amheuaeth bellach nad twyllwr ydyw y gwr ieuanc, ac y mae y Methodist yn ei 'nabod.' Yr oedd y Methodist yn ei 'nabod, a dyna'r pa'm y mynai y blaen. Cafwyd oedfa y cofiwyd am dani byth gan y sawl a'i clywsent hi, ac er mawr lawenydd i'r ddau frawd, yr oedd yr hen Edward Williams, oedd mor wrthwynebol i adael i'w pregethwr gyd-bregethu â phregethwr y Methodistiaid, y cyntaf ar ei draed, ac yn uwch ei gloch na neb.'

Nodweddid y blynyddoedd hyn, fel rhai ag yr oedd dadleuon duwinyddol brwdfrydig yn cael eu dwyn yn mlaen yn Nghymru rhwng y gwahanol bleidiau crefyddol a'u gilydd. Bu ymsefydliad y Wesleyaid yn y Dywysogaeth yn 1800, yn ddychryn i'r rhai a dybient mai hwy oedd yn cadw gwirionedd yn ddilwgr, ac mai gyda hwy yr oedd trigle y wir athrawiaeth; ac nad oeddynt, wrth geisio ymlid Wesleyaeth o'r terfynau, ond yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. Bu ein gwrthddrych Parchedig yn rhodio y ffordd hon ar ddechreuad ei weinidogaeth. Y fath ydoedd nodwedd y weinidogaeth ar y pryd, fel y dywedodd Mr. Williams ei hun wrth Dr. Owen Thomas, "Nid oedd pregeth yn werth dim gynt, os na byddai ynddi ryw hergwd i Arminiaeth; ac mi fydda'i yn cywilyddio wrth gofio fel y bu'm fy hunan yn fynych yn ei phaentio." [1] Dywed Dr. W. Rees, yn ei gofiant iddo, tud. 15: "Yr oedd o ran ei farn a'i athrawiaeth yn Galfiniad lled uchel yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth; dyna oedd tôn y weinidogaeth yn mhlith yr Annibynwyr yn y dyddiau hyny. Buasai dyfodiad y Wesleyaid i Gymru ychydig flynyddau cyn hyn, yn achlysur yn ddiau i'r Trefnyddion Calfinaidd, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, i sefyll yn dynach dros yr athrawiaeth Galfinaidd nag y gwnaethent cyn hyny; neu yn hytrach, i beri iddynt gilio oddiwrth Galfiniaeth gymhedrol i dir uchel-Galfiniaeth, er mwyn ymgadw ac ymddangos yn ddigon pell, fel y tybient, oddiwrth yr heresi Arminaidd, fel yr edrychent arni, pan mewn gwirionedd, yr oeddynt yn myned yn llawer nes ati o ran egwyddorion, tra yn cilio yn mhellach oddiwrthi mewn ymddangosiad arwynebol, a swn geiriau yn unig. Cyn y dyddiau hyny, yr oedd y Corff Trefnyddol mor wresogfrydig dros yr athrawiaeth o gyffredinolrwydd yr Iawn, a galwedigaeth yr Efengyl, ag y daethant wedi hyny yn erbyn y golygiadau hyny. Y Parch. J. Roberts o Lanbrynmair, oedd un o'r rhai cyntaf yn Ngogledd Cymru a gyfododd i fyny dros yr athrawiaethau a fuasent yn foddion i ddeffroi, a chynyrchu y diwygiadau nerthol yn nyddiau Lewis Rees, Howell Harris, a Daniel Rowlands, William Williams, Pantycelyn, ac eraill, a gwrthddrych y cofiant hwn oedd un o'r rhai cyntaf a ddaeth allan i'w gynorthwyo. Y mae yn debygol fod hyn o wahaniaeth rhwng y ddau dô yma o weinidogion â'u gilydd, nid oedd gan dadau y tô blaenaf unrhyw system benodol o athrawiaeth wedi ei chasglu a'i chrynhoi, a'i gosod yn drefnus wrth ei gilydd, ond ymollyngent yn ffrwd ymadroddion y Beibl, heb ofalu cymaint am fanwl ddangos cysondeb y naill gangen o athrawiaeth â'r llall; ac yn wir, fe ymddengys eu bod yn hollol yn eu lle, nid oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser yn galw am nemawr o hyny; yr oeddynt yn gwynebu ar y wlad pan oedd yn gorwedd mewn tywyllwch, anwybodaeth, a difrawder, a gwaith eu tymhor hwy oedd seinio yr alarwm uwch ei phen, er ei deffroi o'i marwol gwsg trwm; ac at y gwaith hwn yr oedd eu meistr mawr wedi eu haddurno â galluoedd corfforol a meddyliol i raddau helaeth iawn. ail dô yr ochr arall, a ddechreuasent osod trefniad o'u golygiadau wrth eu gilydd, gan ymdrechu dangos cydffurfiant a chysondeb y naill athrawiaeth a'r llall, ac yr oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser hwythau, a mwy o alw am hyn nag oedd o'r blaen; yr oedd y wlad erbyn hyn wedi ei goleuo i raddau, ac egwyddorion yr efengyl yn cael eu gosod gerbron mewn dullweddau gwahanol, nes oedd mwy o ysbryd ymofyniad wedi ei gyffroi ynddi, ac ymholi pa fodd y cysonid y peth hwn a'r peth arall â'u gilydd. Gwnaeth Roberts gyda'i ysgrifell yn benaf, a Williams yn yr areithfa, lawer iawn o wasanaeth yn y ffordd hon." Wrth ysgrifenu yn 1888 at ei frawd, Mr. Edward Daniell, Wern Farm, dywedai yr Hybarch William Daniell, Knaresborough, fel y canlyn:— I cannot tell you anything more about Williams of Wern than what Dr. Rees said in his memoir. My memory is very bad. It is between 60 and 70 since I used to write the heads of his sermons. I can just say that I was told that he began his ministry as a pretty stiff Calvinist, but I know that he gradually grew more liberal, and at last I d'ont think he was a Calvinist at all. Y mae y dystiolaeth uchod wedi ei rhoddi gan un hollol gymhwys i farnu—un a ddygwyd i fyny yn y Wern pan yr oedd Mr. Williams yn ei lawn nerth, ac un a'i hedmygai yn ddiderfyn, ac un sydd wedi cael help gan Dduw, yn aros gyda ni hyd y dydd hwn.

Newidiodd Mr. Williams ei farn am y teimlai anhawsder i gysoni y gyfundraeth dduwinyddol gyntaf a fabwysiadodd â gwahanol ranau o Air Duw. Bu darllen y gwaith a elwir yn "True Religion delineated," gan Dr. Bellamy, yn foddion effeithiol i'w ddwyn allan o'r dyryswch yr ydoedd yn cael ei hunan ynddo. O herwydd y cyfnewidiad a gymerodd le yn ei farn ar bynciau athrawiaethol crefydd, ac iddo gael ei adnabod fel Calfiniad cymedrol, tybiodd llawer mai eu dyledswydd hwy yn ngwyneb hyny, ydoedd cau drysau eu pulpudau rhagddo. Yn ei lythyr atom cyfeiria yr Hybarch Isaac Thomas, Towyn, at hyn,—"Pan yr oeddwn yn llanc yn sir Fynwy, y gwelais ac y clywais Mr. Williams. Ei destun oedd, 'Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid; tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.' Rhoddai bwys mawr ar Air Duw yn nychweliad pechadur; ac o herwydd hyny, amheuid gan rai pobl, a gyfrifid eu bod yn selog dros y wir athrawiaeth yn y cyfnod hwnw, nad oedd y gwr mawr o'r Gogledd yn iach yn y ffydd, ac am hyny, ataliwyd ef i bregethu mewn un, os nad mewn mwy, o leoedd ar y daith hono."

Nis gall yr athrawiaeth sydd yn cynyrchu ysbryd erledigaethus yn ei chofleidwyr fod yn ol duwioldeb. Ni ddigalonodd ein gwrthddrych, canys yr oedd ei farn gyda'r Arglwydd, a'i waith gyda'i Dduw; ac efe a aeth rhagddo, gan bregethu yr un golygiadau gyda nerth a goleuni mawr. Cyfnerthwyd ef a Mr. Roberts, o Lanbrynmair, hefyd, gan waith y Parchedigion Dr. Everett, y pryd hyny o Ddinbych, ond wedi hyny o America, Michael Jones, Llanuwchllyn; John Breese, o Liverpool; James Griffiths, Ty Ddewi; a David Morgan, Llanfyllin, ac eraill, yn dyfod allan i ysgrifenu yn gryf a goleu o'u plaid. Gwelsent yr athrawiaethau yr erlidid hwynt gynt o'u plegid, yn gweithio eu ffordd, yn cael eu credu a'u gwerthfawrogi yn gyffredinol. Ceir syniad lled gywir a chlir am y pynciau y dadleuid gynt yn eu cylch yn y "Prynedigaeth," gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, ac yn y "Galwad Ddifrifol," gan y Parch. John Roberts o Lanbrynmair. Mae y ddau lyfr uchod wedi eu dwyn allan yn un llyfr gwerthfawr a rhadlawn. Hefyd ceir y wybodaeth helaethaf a manylaf am ddadleuon duwinyddol yr oes hono yn mhob agwedd arnynt, yn "Nghofiant y Parch. J. Jones, Talsarn, mewn cysylltiad â Hanes Duwinyddiaeth a Phregethu Cymru," gan y Parch. Owen Thomas, D.D., tudalen 262—537. Mynai un blaid roddi ystyr fasnachol i'r lawn, gan egluro nad oedd yn golygu ond lawn ar gyfer nifer neillduol o bechaduriaid oeddynt i gael eu cadw, ac nad oedd modd gwaredu neb ond y rhai oeddynt yn nghyfamod y pryniad. Rhoddai y blaid arall ystyr eangach iddo, gan edrych ar yr Iawn yn agor ffordd anrhydeddus i Dduw faddeu, ac achub y rhai oll a'i derbyniant, a heb i hyny anurddo gogoniant llywodraeth Duw. Edrychid ar y rhai a gilient oddiwrth athrawiaeth yr Iawn masnachol, yn gyfeiliornwyr peryglus, yn mhlith pa rai yn amlwg y rhestrid ein gwron. Y mae duwinyddiaeth wedi rhoddi camrau breision mewn cynydd, o'r man lle yr ydoedd yn flaenorol i ddyddiau y "system newydd," hyd ein dyddiau ni, ac yn sicr ni ddylid llesteirio dim, yn y mesur lleiaf, ar ymdrech meddylwyr duwinyddol yn eu gwaith yn ceisio deall gwirionedd yn well; ond yn hytrach, dylid cefnogi pob ymchwiliad gonest er deall yr Ysgrythyrau yn gywirach. Y fath oedd poblogrwydd Mr. Williams erbyn hyn, fel yr oedd arogl hyfryd enaint ei weinidogaeth efengylaidd yn cyflym lenwi y Dywysogaeth, ac oblegid hyny, nis gellid ei lethu i ddinodedd, oblegid yr athrawiaethau a bregethai, er y dymunasai llawer allu gwneuthur hyny. Ychydig flynyddau cyn hyn yr oedd wedi ffurfio cydnabyddiaeth â boneddiges o'r enw Miss Rebecca Griffith, o Gaer; ac ar ddydd Mawrth, Gorphenaf 22ain, 1817, drwy drwydded yn eglwys St. John the Baptist yn y ddinas hono, priodwyd hwynt. Gweinyddwyd ar yr achlysur dedwydd hwnw gan y Parch. R. Caunce. Y tystion, neu y gwas a'r forwyn oeddynt Robert a Sarah Fletcher. Boneddiges amddifad oedd Mrs. Williams cyn priodi. Bu Mr. James Griffith, ei thad, farw Tachwedd 2il, 1793, yn 36 oed, a bu Mrs. Elizabeth Griffith ei mam farw Rhagfyr 27ain, 1813, yn 60 oed. Claddwyd hwynt yn mynwent Capel Annibynol, Heol y Frenhines yn Nghaer. Brodorion oeddynt hwy o ardal y Wern. O ran coethder meddyliol, diwylliant addysgol, lledneisrwydd ei moes, a chrefyddolder ei hysbryd, ei chyfoeth, a'i haelioni, yr oedd Mrs. Williams, yn gymhwys i droi yn nghylchoedd uwchaf ac urddasolaf cymdeithas, heb droseddu yn erbyn rheolau manylaf "Manners of Modern Society;" a hi a wnaeth iddo yntau les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. Bu iddynt bedwar o blant—Elizabeth, James, Jane, a William. Aethant i drigianu i Langollen. Yr oedd Mr. Williams wedi cychwyn achos i'r Annibynwyr yn y dref hono er's chwe' blynedd cyn hyn, pryd y pregethodd mewn ystafell helaeth yn y Royal Oak, oddiwrth Salm cxix. 113, "Meddyliau ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffais." Buont yn cydymgynull yn y Royal Oak am beth amser, wedi hyny symudasant i dŷ Mr. Thomas Simon. Ond ni chafwyd capel hyd y flwyddyn 1817, yr hwn a agorwyd Hydref 8fed, y flwyddyn a nodwyd. Pregethwyd ar achlysur ei agoriad gan y Parchn. M. Jones, Llanuwchllyn; R. Williams, Rhesycae; C. Jones, Dolgellau; R. Everett, Dinbych; D. Jones, Treffynon; T. Lewis, Bala; D. Griffith, Talsarn, a W. Hughes, Dinasmawddwy. Yr oedd yr ysbryd cenadol wedi deffroi, ac yn cynyrchu gweithgarwch yn yr eglwysi yr adeg hon. Yr oedd y Deheudir wedi blaenori y Gogledd yn y gwaith da hwnw, oblegid mewn cymanfa yn y Groeswen, yr hon a gynaliwyd ar y dyddiau Ebrill 12fed a'r 13eg, 1814, ar gynygiad y Parch. David Davies, Abertawe, penderfynwyd yn unfrydol, fod Cymdeithas Genadol Gynorthwyol yn cael ei sefydlu yn Nghymru, mewn cysylltiad â'r un yn Llundain, ac mai Abertawe oedd y lle cyfaddasaf i gynal y cyfarfod cyntaf. Datganodd yr holl weinidogion oeddynt yn bresenol (a Mr. Williams yn eu mysg) yn y Groeswen, mai buddiol iawn fyddai i'r holl Gristionogion o bob enwad ymuno â'u gilydd yn y symudiad, fel na byddai i unrhyw gyfarfodydd eraill gael eu cynal ar y dyddiau hyny. Cynaliwyd y cyfarfod a nodwyd yn Abertawe ar y dyddiau Mercher a Iau cyntaf yn Awst dilynol. Yr oedd y cyfarfod Cenadol hwnw yn un hynod, nid yn unig am ei fod y cyfarfod Cenadol cyntaf yn y Dywysogaeth, ond am fod presenoldeb yr Arglwydd i'w deimlo ynddo mewn modd nerthol iawn. Nis gallasai y fath ysbryd bendigedig lai nag ymledu, ac enyn sel genadol danllyd yn yr enwad yn y Gogledd hefyd, ac felly y bu. Ymroddodd Mr. Williams, Mr. Jones, Treffynon, ac eraill, a'u holl egni i gychwyn a chefnogi y Gymdeithas Genadol yn y Gogleddbarth. Cynaliwyd cyfarfod yn Llanfyllin, Ebrill 8fed, 1817, i ymddyddan yn nghylch y priodoldeb o sefydlu Cymdeithas Genadol yn Ngogledd Cymru. Nid yw manylion cyfarfod Llanfyllin genym, ond gwyddom ddarfod iddynt benderfynu ynddo, mai yn Nhreffynon yr oedd y cyfarfod nesaf i'w gynal, a hyny mewn cysylltiad â'r Cyfarfod Cenadol oedd i'w gynal yn Nghaer, yn Awst y flwyddyn hono. Cynaliwyd Cyfarfod Cenadol Treffynon ar y dyddiau Awst 12fed a'r 13eg, 1817, yr hwn a elwid "The First Anniversary of the North Wales Missionary Society." Gan fod manylion trefniadau y cyfarfod hwnw ger ein bron,[2] ac o'r fath ddyddordeb, dodwn hwynt yma yn llawn:—Dechreuwyd y dydd cyntaf am ddau yn y prydnawn yn nghapel yr Annibynwyr, pryd y pregethodd y Parch. T. Raffles, D.D., Liverpool, yn Saesonaeg, oddiwrth Mathew ix. 37, 38; a'r Parch. William Williams, Wern, oddiwrth Caniad Solomon viii. 8. Yn yr hwyr pregethodd Dr. Winter, Llundain, yn Saesonaeg, oddiwrth Luc xiv. 23; a'r Parch. J. Griffith, Caernarfon, yn Gymraeg, oddiwrth Phil. i. 27. Am ddeg dranoeth, pregethodd y Parch. Combes, Haxton Academy, yn Saesonaeg, oddiwrth Mathew vi. 10; a Dr. Lewis, Llanfyllin, yn Gymraeg; oddiwrth Esaiah lv. II. Am haner awr wedi dau, yn yr un lle, cymerwyd y gadair gan D. F. Jones, Ysw., Caer. Gweddiodd Dr. Winter, a darllenodd Dr. Lewis yr adroddiad. Pasiwyd amrai benderfyniadau pwysig. Galwyd sylw y gynulleidfa fawr at sefyllfa y Paganiaid, ac at yr addewidion am lwyddiant yr efengyl, a'r pwys mawr o wneud ymdrechion yn nglŷn â'r genadaeth. Anerchodd Dr. Winter, Llundain; Mri. Reynolds, Caer; Charrier a Philips, Liverpool; Combes, Jones, Treffynon; a Dr. Lewis, y cyfarfod yn Saesonaeg; a'r Parchn. W. Williams, Wern, a T. Jones, Syrior, yn Gymraeg. Yn yr hwyr, pregethodd Y Parchn. P. S. Charrier, yn Saesonaeg, oddiwrth Actau ii. 14, a T. Jones, Syrior, yn Gymraeg, oddiwrth Matthew xxiv. 14. O herwydd gorlawnder, bu raid cynal cyfarfod mewn dau le ar yr un adeg. Yn Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd y nos gyntaf, pregethodd y Parchn. C. Jones, Dolgellau (ni roddir ei destun ef), a W. Hughes, Dinasmawddwy, oddiwrth Ioan iii. 30. Am haner awr wedi chwech boreu dranoeth, pregethodd y Parchn. J. Reynolds, yn Saesonaeg, oddiwrth 1 Tim. i. 15, a J. Lewis, Bala, yn Gymraeg, oddiwrth Marc xvi. 15. Am ddeg pregethodd y Parchn. M. Jones, Llanuwchllyn, oddiwrth Deut. xxxiv. 10; a D. Morgan, Machynlleth, oddiwrth Dat. xiv. 6. Am haner awr wedi dau, pregethodd y Parchn. D. Beynon, Llanerchymedd, oddiwrth Gen. xlix. 10; a P. Griffith, Llanrwst, oddiwrth Ephes. i. 4. Ac yn yr hwyr pregethodd y Parch. D. Roberts, Bangor, oddiwrth Titus ii. 11; ac i derfynu gwaith y dydd, gweinyddwyd Swper yr Arglwydd dan lywyddiaeth Dr. Winter, a chymerwyd rhan gan amrai o weinidogion eraill hefyd. 'Da yw i ni fod yma,' oedd iaith y gweinidogion a'r bobl oll. Cafwyd cyfarfodydd anghyffredin a hynod iawn."

Y mae yn achos o lawenydd mawr i ni fel enwad, am fod y Genadaeth yn cael cymaint o sylw yn ein mysg y dyddiau hyn, ac yn sicr, gall holl gefnogwyr Cymdeithas Genadol Llundain, pan y maent yn parotoi at ddathlu ei chanmlwyddiant, gymeryd cysur wrth edrych yn ol ar ei gweithredoedd nerthol, a dywedyd, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen.' Cymerodd ein gwrthddrych Parchedig ddyddordeb arbenig yn y Gymdeithas Beiblau a'r Gymdeithas Genadol drwy ei oes. Dygwyddodd iddo ddarllen araeth nodedig iawn o eiddo y Cenadwr enwog y Parch. Richard Knill, yn yr hon yr apeliai efe yn daer iawn ar fod i'r Cristionogion yn y wlad hon aberthu rhyw gymaint o'u moethau, megys myglys, a phethau eraill, a chyflwyno yr arian a werid am danynt, i gael Beiblau i'r Paganiaid. Dangosai y gallasai y Pagan druan gael dalen o Feibl argraphedig y pryd hwnw â'r arian a werid ganddynt mewn ychydig oriau am fyglys.

Arferai Mr. Williams ysmygu ychydig yn feunyddiol cyn hyn, ac wedi darllen apeliad toddedig Mr. Knill, parotoai fel arfer, i lenwi ei bibell â myglys, pryd yr edrychodd Mrs. Williams arno, yn nodedig o awgrymiadol, ac mewn llais tyner ac effeithiol iawn, dywedodd wrtho, "Ah! Mr. Williams, dyna ddalen arall o Feibl y Pagan tlawd yn myned i'r tân." Teimlodd yntau y sylw i'r byw, a dywedodd, "Wel, beth a fyddai i mi ei roddi heibio, a rhoddi arian y myglys yn ychwanegol at Gymdeithas y Beiblau," ac felly y gwnaeth efe. Gwel y darllenydd yn nrych yr uchod, nad yw y self denial" a argymhellir mor briodol ar yr eglwysi y dyddiau hyn ddim yn beth hollol newydd. o ran yr egwyddor a'r ymarferiad o hono yn Nghymru, yn gystal a bod yr hanesyn yn ddangosiad o dynerwch cydwybod Mr. a Mrs. Williams. Dadleuodd ac areithiodd Mr. Williams lawer, yn alluog a medrus, o blaid y Cymdeithasau Beiblaidd a Chenadol. Ceir a ganlyn am dano mewn un o gyfarfodydd y Feibl Gymdeithas a gynaliwyd yn Llangollen, i'r hwn y gwahoddwyd ef i gymeryd rhan ynddo,[3] "Yr oedd y Parch. J. Elias a'r Parch. R. Richards, Caerwys, yno fel dirprwyon pwyllgor y Gymdeithas yn Llundain. Hwnw oedd y tro cyntaf i Mr. Williams fod mewn cyfarfod cyhoeddus o'r fath yn Llangollen. Wedi traethu ar fawredd amcan y Gymdeithas o daenu yr Ysgrythyrau dros wyneb yr holl ddaear, cymerai olwg ar y moddion i gyflawni yr amcan hwnw, sef mai trwy gydweithrediad parhaol caredigion y Beibl, mewn cyfraniadau yn unig y gellid gwneud hyny.

"Meddyliwch am yr aber fach ar waelod y nant," meddai, "Ewch ati a gofynwch iddi, i ba le yr wyt ti yn myned mor brysur a diymdroi aber fach?" "Yr wyf yn myned i gludo llongau i India a China, a rhanau eraill o'r byd," atebai hi. "Ti'n myned i gludo llongau? yr wyt ti'n rhy wan i gludo gwialen, heb son am longau." "O," medd yr aber fach, "Y mae aber fach arall yn cyfarfod â mi ychydig yn mhellach, ac un arall draw, ac un arall drachefn, ac afon fawr o'n blaen, ac ni a awn gyda'n gilydd i hono, ac yn hono i'r môr, ac ni a gynorthwywn ein gilydd felly, ac fe gymer y môr ein help ni i gario'r llongau mawrion i holl borthladdoedd y byd. Gofynwch i'r ddimai sydd yn llaw'r eneth fach yna i'w dodi yn y casgliad heno, "I b'le yr wyt ti yn myned, ddimai druan?" Y mae ei thinc wrth ddisgyn ar y plat yn ateb, "I anfon Beiblau i'r holl fyd!" "Ti anfon Beiblau i'r holl fyd! Druan o honot." "O, y mae un arall i ddyfod i'm cyfarfod oddiwrth y bachgen bach acw, ac un arall oddiwrth yr eneth yna, ac un arall oddiwrth yr hen wraig weddw yn y fan draw; ac ni awn gyda'n gilydd i drysorfa y Gymdeithas yn Llundain, ac mi ddaw llaweroedd yno i'n cyfarfod ni o bob cwr i'r deyrnas; ac i gyd gyda'n gilydd, drwy barhau o flwyddyn i flwyddyn, nyni a lanwn holl wyneb y ddaear â Beiblau o'r diwedd." Yna, rhoddodd siars ddifrifol i rieni plant ar iddynt eu dysgu i gadw eu dimeiau i'w cyfranu at achosion da, yn lle eu gwario ar felusion. "Hwyrach mai y ddimai a rydd yr eneth fach yna ar y plat heno," meddai, "A dala am argraffu adnod y caiff rhyw bagan yn Affrica fywyd tragwyddol wrth ei darllen." Yr oedd yn Llangollen y pryd hwnw glochydd oedd yn oracl y dref o ran synwyr a gwybodaeth; sylwai hwnw ar ol y cyfarfod, "Bachgen rhyfeddol ydyw bachgen y Wern yna, yr oedd ei araeth heno yn drech o ddigon na'r un o'r lleill." Cafodd Dr. Raffles afael ar chwedl yr aber a'r ddimai, a gwnaeth ddefnydd da o honi; adroddodd hi mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llundain; aeth oddiyno drosodd i'r cyfandir, ac adroddwyd hi lawer gwaith yn y naill wlad a'r llall yn nghyfarfodydd y Feibl Gymdeithas." Yn sicr, "Few and far between," yw y dynion hyny a allant gynyrchu dywediadau ac areithiau a fyddant yn werth eu hadrodd drosodd drachefn a thrachefn, yn ngwahanol wledydd y byd, ond yr oedd ein gwrthddrych wedi ei freintio â'r ddawn arbenig hono, fel y dengys yr uchod.

Yr oedd Mr. Williams erbyn hyn yn anterth ei boblogrwydd fel pregethwr, a galw cyffredinol am dano o bob cwr o'r wlad, ac anrhydeddid ei weinidogaeth gan Dduw, mewn modd amlwg, yn y nerthoedd dwyfol oeddynt yn cydfyned â hi, yn neillduol felly mewn rhai lleoedd. Adroddir ddarfod iddo gael rhyw oedfa nodedig iawn yn Nghymanfa Horeb, sir Aberteifi. Gan i ni glywed llawer o bethau am dano yn y gymanfa hono, nad oeddym yn gallu gweled profion digonol o'u dilysrwydd, ymofynasom a'r Hybarch William Evans, Aberaeron, fel yr un tebycaf o bawb y sydd heddyw yn fyw, o fod yn gwybod hyd sicrwydd yr hyn a geisiem. Anfonodd Mr. Evans yn garedig ac ar unwaith, yr hyn a ganlyn—"Nid oeddwn yn Nghymanfa Horeb, yn y flwyddyn 1820, a phe y buaswn, yr oeddwn yn rhy ieuanc yr amser hwnw i allu gwybod am ddim oedd yn myned yn mlaen yno. Ond clywais lawer o son am y Gymanfa wedi hyny. Yr oedd Mr. Williams wedi derbyn cais oddiwrth Mr. Griffiths, y gweinidog, yn gofyn iddo bregethu ar "Dduwdod Crist," am y rheswm fod llawer o Undodiaid yn yr ardal, y rhai a fyddent debygol o fod yn y Gymanfa. Pregethodd Mr. Williams yn anarferol o rymus a dylanwadol. Ysgubai y cwbl o'i flaen fel llifeiriant mawr gan nerth ei ddawn ac ardderchawgrwydd ei bethau. Dywedir fod yr Undodiaid wedi colli pob llywodraeth arnynt eu hunain wrth ei wrando. Oedfa i'w chofio oedd hono am oes pawb oedd yn bresenol. Ond nid gwir a glywsoch ddarfod i Mr. Williams syrthio i freichiau Dr. Phillips, ond clywais ei fod yn bryderus iawn cyn dechreu pregethu, ac i Dr. Phillips ei galonogi, drwy ei sicrhau fod gweddiau lawer o'i du. Yr oedd ei bwnc yn un pwysig, a dysgwyliad mawr wrtho, a thorf anarferol o luosog o'i flaen. Dywedai wrth ddechreu pregethu, na safodd erioed o'r blaen gerbron cynulleidfa mor fawr, ond gwyddai y byddai yn wynebu un fwy yn y dydd olaf. Ychydig o droion y cefais fantais i'w glywed, ac ar rai o'r adegau hyny, yr oedd yn ddylanwadol iawn."

Gwelir yn "Nghymanfaoedd yr Annibynwyr," tud. 320, i'r Gymanfa uchod gael ei chynal ar y dyddiau Mehefin 7fed a'r 8fed, 1820, a hyny yn y drefn a ganlyn—"Y dydd raf am 11, bu cyfeillach gan y gweinidogion i ystyried amgylchiadau yr eglwysi. Cafwyd hanes cysurus iawn am lwyddiant crefydd yn ein plith. Am 3, dechreuodd y Parch. S. Price, Llanedi; a phregethodd y Parch. H. George, Brynberian, I Cor. i. 23; a'r Parch. D. Peter, Caerfyrddin, 2 Cor. x. 4; a'r Parch. D. Jones, Crygybar, Ioan iii. 7. Am 7 yr hwyr, bu 18 o bregethau yn y naill fan a'r llall trwy'r ardaloedd. Yr ail ddydd, am 9, dechreuodd y Parch. J. Phillips, Bethlehem; a phregethodd y Parch. D. Williams, Llanfair, Heb. vi. 18; a'r Parch. W. Williams, Wern, Matthew i. 23. Am 2, dechreuodd y brawd D. Davies, Trefgarn (Zion's Hill wedi hyny), a phregethodd y Parch. D. Griffiths, Trefgarn, 2 Pedr iii. 14; a'r Parch. J. Rowlands, Llanybri, Col. iii. 4. Aeth llawer i'w ffordd yn llawen wedi derbyn blaenbrawf o gymanfa y cyntafanedigion yn y nef, lle na bydd rhaid ymadael mwy." Ceir profion fod yr effeithiau yn wahanol, ac yn rhyfedd ar y dyrfa pan y pregethai Mr. Williams y tro hwnw; canys dywed y Parch. J. B. Jones, B.A., Aberhonddu, yn y Cenad Hedd am 1892, tudal 79—80, fel y canlyn: "Yr oedd Mr. Williams o'r Wern, yn ei lawn glod fel pregethwr yr adeg hono. Daeth torf aruthrol yn nghyd ar yr ail ddydd, prif ddiwrnod yr uchelwyl yn y Deheudir yr amser hwnw. Yn eu plith yr oedd y Parch. D. Davies, Castellhywel; yn dynesu at ei 80 mlwydd oed. Yr oedd wedi cyflawni gweinidogaeth faith yn y cylch hwnw, ac yn barchus iawn. Drwy ei oes cadwasai Ysgol Ramadegol nodedig. Yr oedd yn ysgolhaig gwych, a chyrchai gwŷr ieuainc o bell ato, amrai o honynt a fynent fod yn offeiriaid; ond gan ei fod yn anghredu yn ngwir Dduwdod yr Arglwydd Iesu, gwaharddodd Esgob Ty Ddewi yn y diwedd i offeiriaid fyned ato am addysg. Yn yr oedfa ddeg o'r gloch y pregethai W. Williams, a'i destun ydoedd, 'Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar Fab, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyda ni.' Yr oedd D. Davies yn wr corffol a mawr iawn, yn pwyso oddeutu tri chan pwys. Daeth yn ei gerbyd i'r Gymanfa, yr hwn a gyfleodd ar y maes o flaen areithfa y pregethwr, ac yn agos iawn ato. Cylchynid ef gan y gynulleidfa fawr. Ymaflodd y pregethwr yn ei bwnc gorbwysig gyda nerth anarferol. Yr oedd yn berffaith ystyriol o bwysigrwydd ei waith, ac awyddai argyhoeddi y canoedd gwrthgredwyr oedd o'i flaen, o'r pwys tragwyddol iddynt eu hunain i feddu syniadau gwir am Berson y Gwaredwr. Ni chlywais pa un a lwyddodd i ddychwelyd yr un o honynt i'r wir ffydd am Fab Duw, ond mae yn hysbys iddo effeithio yn ddwys ar y gwr mawr oedd yn y cerbyd o'i flaen. Teimlodd D. Davies yn bur fuan fod yr ymadroddion yn rhy galed iddo allu eu gwrando, a chychwynodd i fyned yn mhellach o'u swn. Trodd ben y ceffyl oddiwrth y pregethwr nes yr oedd ei gefn ei hun ato, ac yna arosodd. Ond pan ddelai ymadroddion grymus ar ol eu gilydd, rhoddai awgrym i'r ceffyl a'r ffrwyn i symud allan, yna arosai eilwaith. Gwnaeth hyny mor aml hyd nes yr aeth i gŵr pellaf y dorf, ac arosodd yno hyd y diwedd a'i gefn ar yr areithle, a'r pregethwr grymus ynddo. Wedi gorphen yr oedfa, aeth D. Davies i'w gartref yn ymyl addoldy Llwynrhydowen. Dywedai ar y ffordd, 'Os yw y dyn yna yn dywedyd y gwir, mae yn annichonadwy i neb o honom ni fod yn gadwedig.' Y traddodiad ydyw, iddo ochelyd dywedyd dim am Berson Crist ar ol hyny am y saith mlynedd olaf yn ei weinidogaeth." Terfynwn y benod hon, heb ychwanegu am yr oedfa dan sylw ond yr hyn a ganlyn drwy ganiatad Mr. Isaac Foulkes (Llyfrbryf), o "Rydd Weithiau Hiraethog," tud. 82—83, "Taflodd y pregethwr olwg ddifrifol dros y dyrfa fawr oedd yn sefyll o'i flaen ar ol darllen ei destun, yna gostyngai ei ben, a chadwai ei lygaid ar y Beibl agored ger ei fron. Dechreuai ymadroddi fel un yn teimlo y tir o dan ei draed, ac yn pwyso ei frawddegau â'i eiriau wrth eu traethu. Cyn pen ychydig funydau, yr oedd yn amlwg fod yr ofn, y petrusder, a'r cryndod wedi ei adael, a'i fod yn teimlo ei draed tano, a'i gerddediad yn cael ei hwylio. Cododd ei wyneb i wyneb y gynulleidfa, heb un arwydd o ofn na phryder arno,—cyn pen y deng munyd yr oedd y dyrfa fawr yn ei law, pob clust wedi ei sicrhau, a phob meddwl wedi ei gyffroi. Aeth yn mlaen i egluro a phrofi y gwirionedd y daethai i ddadleu drosto gyda rhwyddineb, goleuni, a nerth mawr, nes oedd gwynebau y Sosiniaid yn y dorf yn gwelwi, a llawenydd yn pelydru yn llygaid a gwedd eu gwrthwynebwyr. Wedi myned trwy ran ddadleuol y bregeth, trodd at y rhan gymhwysiadol, ac yno torodd yr argeuau; tywalltai allan y fath ffrwd o hyawdledd tanllyd a ysgubai bob peth o'i flaen fel lifeiriant dyfroedd mawrion. Anghofiodd y ddwyblaid yn y dyrfa eu holl ddadleuon ar yr adeg, a gwelid yr Undodwr a'r Trindodwr yn cydwylo, ac yn cydgymysgu eu dagrau â'u gilydd dan y dylanwad. Ni chymerodd y pregethwr arno o'r dechreu i'r diwedd ei fod yn gwybod fod digter na dadl wedi bod erioed rhwng Cristionogion ar y pwnc; er hyny, oedfa oedd hono y cafodd Undodiaeth Sir Aberteifi deimlo hyd ei henaid oddiwrthi. Gostyngodd ei banerau yn y fro hono am amser hir ar ol hyny." Y mae yn rhaid fod rhyw ddylanwadau rhyfedd a hynod iawn yn cydfyned â'i weinidogaeth yn y Gymanfa hono, cyn y buasent yn cynyrchu y fath effeithiau ar y dyrfa fawr, ac yn sier, nid oeddynt yn ddim llai na "nerthoedd yr Arglwydd."

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel Gofiant y Parch. John Jones, Talsarn, tudalen 291,
  2. Allan o'r Evangelical Magazine.
  3. Allan o Ryddweithiau Hiraethog drwy ganiatad Mr Isaac Foulkes (Llyfrbryf) Liverpool.