Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/O Gymanfa Horeb Hyd Yr Oedfa Yn Aberdaron

Oddi ar Wicidestun
O Adeiladiad Capel Cyntaf Y Rhos Hyd Gymanfa Horeb Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

O'r Oedfa Yn Aberdaron Hyd Yr Oedfa Yn Nghapel Y Wesleyaid Yn Y Rhos

PENNOD VII.

O GYMANFA HOREB HYD YR OEDFA YN ABERDARON. 1820—1823.

Y CYNWYSIAD—Mr Williams yn y Deheudir yn casglu at gapel newydd Llangollen—Adgofion y Parch. D. Jones, Gwynfe, am y daith hono—Cynghorion Mr Williams iddo—Mr. Jones yn methu a'i gael yn Williams o'r Wern fel oedd ganddo ef yn ei feddwl—Yn ei gael yn Nghrugybar i fyny â'r syniad oedd ganddo am dano cyn y daith hono—Dr. Thomas, Liverpool, yn ysgrifenu adgofion Mr. Jones—Parch. Richard Knill a John Angel James—Dr. William Rees—Cymanfa y Rhos—Ymddyddan ynddi ar y priodoldeb o gychwyn y "Dysgedydd Crefyddol" Penderfynu gwneuthur hyny mewn cyfarfod yn Ninbych—Arwyddo y Cytundeb—Dull a threfn ei gychwynwyr o'i ddwyn yn mlaen—Gwyr galluog wedi bod yn ei olygu o'i gychwyniad—Ei ddylanwad yn ddaionus ar y wlad—Cyfarfod Cenadol yn Nghaernarfon—Rhoddi Llangollen a Rhuabon i fyny—Pregethu pregeth Genadol yn Llundain—Oedfa hynod yn Aberdaron—Y gweinidogion a gyfodwyd i bregethu dan weinidogaeth Mr Williams—Ein dyled i Harwd YN y bennod flaenorol, rhoddasom hanes agoriad Capel Llangollen. Bu Mr. Williams yn y Deheudir yn casglu at ddyled yr addoldy hwnw, a chredwn mai cyfeiriad at y daith hono sydd yn Adgofion. y Parchedig D. Jones, Gwynfe, am Mr. Williams fel pregethwr, y rhai a ysgrifenwyd gan Dr. John Thomas, Liverpool. Gan eu bod yn dal perthynas â'r cyfnod sydd yn awr dan ein sylw, rhoddwn hwynt yn y bennod hon—"A glywsoch chwi Williams o'r Wern lawer gwaith Mr. Jones," meddwn i wrth y diweddar Barchedig D. Jones, Pant—arfon, pan yn ei ystafell fechan gydag ef ryw noson yn ngauaf 1847? "Do, mi clywes o lawer gwaith, ac mi weda i chi yr holl hanes y tro i mi i wel'd e a'i glywed e. Biddy (canys felly y galwai efe Mrs. Jones), gwedwch wrth un o'r merched yna am dd'od a thipyn ar y tan yma." Gwelais yn union fod ganddo stori hir i'w hadrodd ac felly gosodais fy hun mewn cyflwr i wrando yn fanwl gan benderfynu cofio yr oll a allwn. "Rown i wedi clywed lawer gwaith am Williams, Wern, taw pregethwr noted oedd e, ac 'rown i'n awyddus am i glywed. 'Roedd son mawr i fod e a'r hen Roberts, Llanbrynmair, a gwyr y North i gyd yn y system newydd. 'Doedd yma neb yn i phregethu hi yn blaen, ond 'roedd Davies, Pantteg, a Griffiths Tyddewi, yn cael i doubto eu bod nhw ynddi—'roen nhw i dau wedi bod yn y North, ond ta beth ryw Sabbath, dyma gyhoeddiad Williams y Wern yn d'od i Gapel Isaac, i fod yno y Sabbath wed'yn. Rwy'n meddwl fod hyn tua'r flwyddyn 1819, ond alla i ddim bod yn siwr. Yr oedd Mr. Williams yn casglu at ryw dŷ cwrdd y daith hono. Doedd dim ryw lawer yma wedi clywed am dano, ond yr oedd yma rai; ac wedi clywed i fod e yn y system newydd. A doe'n nhw yn blasu fawr pan cawson nhw i gyhoeddiad e. Yr oedd Morgan y crydd, tadcu y Stephenses, ac un neu ddau eraill, yn dipyn o Baxterians. Ac roe'n nhw o blaid y system newydd, a gwŷr y North. Rown i wedi dechreu pregethu tipyn er's tro, ac yr oedd yr achos yn cychwyn tua Phontargothi yna, ac mi glywn o Dy'nycoed fod Williams Wern i fod yn pregethu nos Sadwrn yn (nis gallaf gofio enw y ffarm), Llanegwad. Mi benderfynais y buaswn i yn myn'd nos Sadwrn i'w glywed e; a heb weyd dim wrth neb mi gyfrwyais y pony, ac mi aetho yno. Yr oedd Mr. Williams wedi cyrhaedd yno dipyn o mlaen i, ac yn eistedd ar y scrin yn ymyl y tan. Yr oedd e yn llai dyn nag own i yn ei ddysgwyl, ac yn edrych yn ieuengach. Falla i fod e yn ddeunaw ar hugain, ond 'doedd e ddim yn edrych dros ddeg ar hugain. Mae yn eistedd yn ddystaw fel un mewn myfyrdod dwfn, a'r bobl yn dyfod i fewn o un i un. Ond 'doedd e yn gwneud un sylw o neb. "Mae'n bryd dechre," medde rhywun yn mhen tipyn, ac y mae ynte yn codi ac yn myned at ben y bwrdd, ond yn gomedd myned i ben stol. Fe roddodd benill i'w ganu, mewn swn dwfn, bâs yn odds i ddim own i wedi glywed; ac felly y mae yn darllen ac yn gweddïo heb godi na chyfnewid dim ar ei lais, oddigerth gostwng tipyn weithiau i ryw dôn leddf. Darllenodd ei destun, 'Na ddyweded neb pan demtier ef, gan Dduw y'm temtir.' Siarad yn dawel fel 'rych chi a mina fan yma 'roedd e, a phrofi nad oedd Duw yn temtio neb i bechu. 'Down i 'rioed wedi clywed y pethau gan neb, ac eto 'roen nhw yn bethau cyffredin hefyd. Newydd, ac eto 'roen nhw yn hen; clirio Duw nad oedd dim bai arno fe, a rhoi yr holl fai ar y dyn yr oedd e. Wedi iddo orphen es i'r stabl i nhol y pony, ac adre a mi: a dyna Williams y Wern, meddwn i ynof fy hun, y mae nhw yn son cymaint am dano. Dyw hwna ddim yn bregethwr felly chwaith, ac eto mae rhywbeth ynddo. Mae yn hawdd cofio ei bregeth yr own i yn teimlo nad oedd dim modd ei hanghofio. Aetho i Gapel Isaac boreu Sabbath, 'doedd yno neb ond y fi wedi glywed e, a wydda neb yno mod ina wedi glywed e; yr oedd yr hen gapel yn llawn, llawnach nag arfer o lawer: neb o leoedd eraill chwaith; ond pawb yn treio d'od i glywed y dyn mawr o'r North. Yr oedd y bobl i gyd yn y capel cyn ei fod e yno, ac rown nhw am i mi ddechreu y cwrdd, ond gyda hyny, dyma fe i fewn, ac i'r pwlpud heb weyd un gair wrth neb, ac yn rhoi gair ma's i ganu—

'Ymddyrcha O Dduw y nef uw chlaw
Oddi yno daw d' arwyddion.'

yn edrych yn well na'r nos o'r blaen, ei lais yn fwy bywiog, a'i ysbryd fel wedi ei gyffroi gan y gynulleidfa. Ei destun ydoedd 'Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw yn Dywysog ac yn Iachawdwr i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.' Bu yn desgrifio Duw yn dyrchafu ei Fab o'r bedd, ac i'w ddeheulaw, ac yn darlunio yr osgordd o angylion yn myned adref, nes yr oedd pawb yn synu at ei brydferthwch, ond 'doedd e ddim yn nerthol, nac mor effeithiol ag y clywswn i ambell un, ond 'doedd dim ymdrech ynddo, 'doedd e yn fforsio dim, ond yn gweyd yn doddedig. Daeth yn mlaen at y bendithion oedd yn canlyn ei ddyrchafiad. 'Edifeirwch a maddeuant pechodau.' Dyna y tro cyntaf i mi glywed y sylw fod yr un pethau yn ras yn eu perthynas â Duw, ac yn ddyledswydd yn eu perthynas â'r dyn. Taw dyledswydd pechadur oedd edifarhau, ond taw gras Duw oedd yn rhoddi yr edifeirwch. Yr oedd e yn gweyd ambell i sylw i beri gwên, ond rhyw air wrth basio fyddai hyny. Yr oedd pawb wedi eu boddio ynddo, er 'doedd neb chwaith yn meddwl ei fod i fyny â'r son oedd am dano. Nid oedd neb o'r rhai oedd yn erbyn y system newydd yn gwel'd bai yn y byd ar y bregeth. Yr oedd ei fod yn Salem am 2, ac mi benderfynais yr aethwn i yno wed'yn i gael ei glywed e drachefn boed a fyno. Daeth rhai o Gapel Isaac i Salem, ond llai o lawer nag fuasech chi'n feddwl i wrando Williams, Wern. Ei destun e yn Salem oedd, 'A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.' 'Doedd e ddim agos cystal a'r nos o'r blaen, ac yn mhell iawn islaw y peth oedd e yn Nghapel Isaac, ac eto yr oedd rhywbeth yn mhob peth oedd e'n weyd. 'Roedd e yn myn'd i Abergorlech y nos, ac yn myn'd i de i Brisgen, ac fe geisiodd Mr. Davies gan inau i fyn'd yno i de gydag e. Ar de fe wedodd Mr. Davies wrtho mod ina yn pregethu tipyn. 'O, ai e yn wir,' meddai, A welis i monoch ch'i yn yr odfa neithiwr?' 'Do syr,' meddwn ina. 'Wel 'roeddwn i yn meddwl pan welis i ch'i bore heddyw mod i wedi'ch gwel'd chi o'r blaen.' Dyna i gyd fu o siarad am dana i na mhregethu. Ar ol te mae e yn gofyn i Mr. Davies, 'Pa ffordd yr äf i i'r lle yna yr ydw i, i fod heno? Dowch ch'i ma's gyda mi i'r clos (buarth), mi ddangosa i y ffordd i ch'i,' ebe Mr. Davies. A ma's a ni, a ch'i ellwch wybod nad oedd yr hen Ddavies, Brisgen, yn meddwl fawr o hono, ne fe fuase yn anfon y gwas i'w hebrwng. Ar y clos y mae Mr. Davies yn dangos y pwynt iddo, ac yn ei gyfarwyddo pa fodd i gadw y ffordd. 'Mae hi yn ffordd go ddrwg ond ydi hi?' meddai Mr. Williams. Wel, meddwn i phrisia fawr d'od gyda ch'i, bydda yn ol cyn y bydda nhw yn y gwely.' 'Diolch i ch'i yn wir os dewch,' ebe ynte. Ymaith a ni, ond 'doedd e yn gweyd fawr ddim nes'n bod ni ar y mynydd uwch ben Abergorlech, fe ddechreuodd fy holi faint o amser oedd er yr own i wedi dechreu pregethu, ac a own i yn meddwl am weinidogaeth, ac yna fe roddodd i mi ychydig o gynghorion gyda golwg ar bregethu. Dyma nhw mor agos ag y galla i gofio fel y gwedodd e nhw, Treiwch ddeall beth fydd y gwirionedd fydd yn y testun fydd genych. Ei feddwl ei hun yn y gwirionedd a fendithia Duw, ac nid ein meddyliau ni ar y gwirionedd. Cedwch ochr Duw bob amser yn glir. Gellwch fod yn sicr nad oes perygl yr ochr yna—nis gall yr athrawiaeth sydd yn cymylu character Duw fod yn wirionedd. Peidiwch ag ofni traethu y gwirionedd. Nid yr athrawiaeth fwyaf derbyniol gan ddynion, fydd wrth fodd Duw bob amser, ac nid y peth sydd oreu ganddynion yn aml, sydd oreu iddynt. Cofiwch mai lles eneidiau ddylai fod eich amcan yn wastad yn y pulpud. Nid mountebank i ddifyru pobl ydi pregethwr i fod, ond cenad Duw atynt yn achos eu heneidiau.' Diolchais iddo am ei gynghorion. Aeth yntau fel i ryw fyfyrdod ynddo ei hun, ac ni ddywedodd air wrthyf nes bod yn ymyl Ty Cwrdd Abergorlech. Yr oeddwn yn meddwl hwyrach y buasai yn gofyn i mi ddechreu y cwrdd yn Abergorleeh, ond ddaru e ddim, ac yr oedd yn dda gen i hyny, er y buaswn yn gneud pe buasai yn gofyn. Nid oedd pobl Abergorlech yn ymddangos yn gwybod fawr am dano, rhagor na bod rhyw ddyn dyeithr o'r North. Cynulleidfa fechan oedd Gweddiodd yn ddwys iawn ar ddechreu y cwrdd, yn fwy hynod nag y clywswn ef o gwbl. Ei destun ydoedd, 'Os chwychwi gan hyny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich tad o'r nef yr ysbryd Glan i'r rhai a ofynant ganddo.' Dyna y bregeth oreu o'r pedair. Yr angenrheidrwydd am yr ysbryd Glan, a pharodrwydd Duw i'w roddi. Nid oedd mor hwyliog a'r boreu, ond yr oedd yn llawn mor ddifrifol. Pe buasai y bregeth y nos yn cael ei phregethu mewn llawer man, fe fuasai yr effeithiau yn nerthol iawn. Arhosais ef i lawr o'r pulpud i gael siglo llaw âg ef, a diolchodd i mi am dd'od gydag ef, ac ychwanegodd, os byth dewch chi i'r Gogledd, fe fydd yn dda gen i y'ch gwel'd.' Daethum adref, ond yn y myw nis gallaswn gael y dyn na'i bregethau oddiar fy meddwl. 'Roedd e yn wahanol i bawb own i wedi glywed 'rioed, ond doedd e mor peth own i yn ei ddysgwyl 'chwaith. Yr oedd rhywbeth wedi fy nghlymu wrtho, ac eto, down i ddim yn ei gael y peth own i yn ei ddysgwyl. 'Doedd y Williams Wern oedd gen i yn fy nychymyg, a'r Williams Wern glywswn i nos Sadwrn a'r Sul, ddim yr un peth; a dyna lle yr own i yn meddwl am dano, a pho fwyaf feddyliwn, ucha' i gyd yr oedd e yn myn'd yn fy meddwl; ac am ei bregethau 'doedd dim modd peidio i cofio," ac wrth adfeddwl yr own i yn gwel'd mwy yn y pethau oedd e wedi weud. Yr own wedi clywed Davies fawr o Abertawe; ac yn ddigon cyfarwydd a Davies, Sardis; a Williams, Llanwrtyd; a Hughes, Groeswen; a Jones, Trelech, a'r holl rai yna; a dysgwyl rown i gael Williams, Wern, yn debyg o ran dawn iddynt, ond 'doedd dim byd yn debyg ynddo i'r un o honynt, ond yr own i ei wel'd hefyd mewn rhai pethau yn rhagori arnynt oll. Allswn i ddim cael y dyn a'i bregethau oddiar fy meddwl. Yr oedd Jones, Crugybar, wedi cael cyhoeddiad Williams, Wern, i fod gyda hwy yno boreu Mawrth, a beth wnaeth yr hen Jones, ond cymeryd mantais ar ddyfodiad Williams, Wern, i gael cwrdd gweinidogion yn Nghrugybar ddydd Llun a dydd Mawrth. Yr oedd Williams yn myn'd i Esgairdawe a Ffald-y-brenin dydd Llun, ac yn d'od i Grugybar dydd Mawrth. Mi benderfynais yr aethwm i Grugybar, boed a fyno, i'w glywed e wed'yn unwaith, ac yr own i yn dysgwyl y daetha fe ma's yno ar ei oreu.

Yr oedd Crugybar yn lle twymn iawn, yr oedd Nansi Jones a Dai Sion Edmunds, a'r hen bobl yno, yn rhai tanllyd dros ben, fel yr own ni yn meddwl, taw, dyna y lle i mi gael ei glywed ei hunan. Erbyn yr oedfa ddeg yr es i yno, ac mi ddeallais yn union fod yno ddysgwyliad mawr am dano. Yr oedd Jenkin Morgan, Pentretygwyn, a Davies, Sardis, wedi pregethu y prydnawn o'r blaen; ac yr oedd rhai o'r wags yno, yn gweyd taw ofn pregethu gas e. Peter Jenkins o Brychgoed, bregethodd yn gyntaf, a Jones, Rhydybont, Abertawe yn awr, yn Saesonaeg, yn y canol. Yr oedd rhai o dylwyth y Brunant, wedi d'od yno i'r cwrdd, a rhyw Saeson gyda nhw; ac ar ol i'r bregeth ddarfod dyna Williams, Wern, yn codi ar ei draed, ac anghofia i byth mo'i olwg e. Yr oedd yn hawdd gwel'd arno fod pwysau mawr ar ei feddwl, yr oedd yn ddifrifol, yn brudd o ddifrifol, fel y teimlais i ryw beth yn myn'd trwyddo i pan y cododd i fyny. Rhodd air ma's i ganu,

'Rhwng Piahiroth a Baalsephon
Mewn cyfyngder mwy 'rioed."

A chyn ei fod wedi gorphen y ddwy line gyntaf, yr oedd hen bobl Crugybar a'u penau yn agored fel adar bach yn dysgwyl. Ges i ofn y buase nhw yn tori ma's i folianu ar y canu, fel y gwelis i nhw yn Nghrugybar lawer gwaith, gan mor fywiog yr oe'n nhw pan rows e y gair ma's; ond yr oedd awydd clywed Williams, Wern, mor gry fel na bu yno fawr dyblu. Darllenodd ei destyn, 'Eto ti ydwyt Dduw parod i faddeu. Dyma hi, meddwn wrtho fy hunan, heddyw y gwnaiff hi. 'Doedd ganddo ddim rhagymadrodd. 'Mater y testun ydyw parodrwydd Duw i faddeu," meddai gyda'r gair cyntaf. Yr oedd e fel pe y buasai wedi dyfod yno dros Dduw o bwrpas i ddweyd hyny wrth y bobl; ac yn ymddangos mor awyddus am weyd ei neges fel nas gallasai ymdroi gyda dim arall. Duw yn barod i faddeu, a chael dynion i gredu hyny oedd y cwbl ganddo. Ni chlywais erioed bregeth yn rho'i cymaint o help i feddwl yn dda am Dduw, ac yr oedd yn ei ddarlunio mor barod i faddeu, nes rown i yn meddwl y buase yn dda gan bawb yn y lle droi ato. Bu yn dal ei hwyrfrydigrwydd i gospi, a'i barodrwydd i faddeu ar gyfer eu gilydd. Dyna y tro cyntaf erioed i mi glywed y sylw—nad ydyw arfau dial ddim yn barod, fod eisiau hogi y cleddyf, anelu y bwa, a pharotoi y saethau, a'i fod yn dysgwyl i bechadur pan yn clywed swn y parotoi i ddial i ddychwelyd. Mi glywes hyny lawer gwaith ar ol hyny, ond efe oedd y cyntaf glywes i yn ei weyd. Aeth drwy hanes y mab afradlon yn gadael ty ei dad, a'r croesaw mawr a gafodd pan ddaeth adref, i osod allan barodrwydd Duw i dderbyn pechadur na fu dim erioed yn fwy naturiol. Ch'i allsech feddwl taw darlunio mab afradlon i ryw gentleman farmer yn y wlad yma yr oedd e, gan mor debyg yr oedd e yn wneud o i blant drwg yn gyffredin. Nid oedd dim ymdrech i'w weled ynddo o gwbl, ac yr oedd ei bethau yn llyncu pawb i fyny mor llwyr, fel nad oedd neb yn meddwl am ei lais na'i ddawn. Ryw dôn leddf oedd ganddo yn fwyaf effeithiol pan yn disgyn yn isel, ond yr oedd ganddo floedd rymus, ac nid bloedd 'chwaith, ond rhyw dôn gref yn llanw yr holl le, ac yn myn'd dros bob teimlad. Nid oedd yr ungwyneb sych yn y fan, ond drwy eu dagrau yr oedd pawb yn gwenu. Mi glywais yr amenau a'r diolch yn uwch lawer gwaith, ac mi sylwais fod rhai fyddai yn arfer amenu yn uchel wedi anghofio eu hunain yn lan, ac yn methu gwneud dim ond gwrando ac wylo. 'Doedd e yn rhoi dim lle i Amen. Nid oedd dim o'r dymuniadau sydd gan lawer yn eu pregethau ganddo fe—fel 'doedd e ddim yn rhoi bwlch i Amen. Nid gwneud hwyl oedd ei bwnc, ond cael y bobl i gredu fod Duw yn barod i faddeu, a throi ato am faddeuant. Ond pan 'roedd e o fewn ryw bum' mynud i'r diwedd, fe drodd at y gynulleidfa, ac a ofynodd mewn llais tyner, caredig, 'Wrandawyr anwyl, a dreiwch ch'i Dduw am drugaredd? Mi wn fod y diafol am eich rhwystro, ac edliw eich holl bechodau i chwi, ond y mae yma un gair rydd daw byth arno, eto, eto, eto. Dywedodd ef dair gwaith yn uwch, yn gliriach, ac yn dynerach bob tro, ac erbyn y trydydd tro mi welwn Nansi Jones ar ei thraed, ac yn taflu ei breichiau ar led, a'r 'O diolch' cynhes, clochaidd, yn echo yr holl le, a Dai Sion Edmund yn ei dilyn a phawb yn cydymollwng i ganmol am yr uchaf, ac felly y terfynodd y cwrdd. Gweddiodd Williams, ond chlywodd neb yr un gair wedodd e, ond yr own i yn gwel'd ei wefusau yn ysgwyd, ac ar ol y cwrdd mi es i tuag adre wedi clywed Williams, Wern, mor uchel ag y gallasai un dyn ffaeledig mewn cnawd fod. Dyna i ch'i fy hanes i am Williams, Wern. A dyna i'r darllenydd yr hanes mor gywir a chyflawn ag y gallaf finau yn mhen tair blynedd ar hugain gofio adgofion y Parch. D. Jones, Gwynfe, am Williams o'r Wern. [1]"

Yn Hanes Bywyd y Parch. Richard Knill, tud. 257, dywed y Parch. John Angel James fel y canlyn: "In some of the paintings of the old masters there is the work of more hands than one. The more important and prominent subjects of the picture were elaborated by the artist who designed the piece, while the subordinate 'parts were left for others to finish." Felly yma, nid yn unig yr oedd Mr. Jones wedi dilyn Mr. Williams yn ddyfal, a sylwi arno yn fanwl, ond gwelir hefyd, ol llaw fedrus Dr. Thomas yn perffeithio llinellau y picturei orpheniad, fel rhwng y ddau, anrhegwyd ni â darlun rhagorol o Mr. Williams, drwy gyfrwng pa un y galluogir ni i weled yn gliriach y fath un ydoedd fel pregethwr. Pan ddarllenodd Dr. William Rees yr "Adgofion" blaenorol, gresynai am na buasent yn ei feddiant ef pan yr ydoedd yn ysgrifenu Cofiant Mr. Williams fel y gallasai eu rhoddi ynddo. Er mai fel pregethwr o'r radd flaenaf yr enillodd Mr. Williams y fath enwogrwydd, eto, na feddylied neb ei fod yn cyfyngu ei wasanaeth yn unig i'r pulpud; na, yr oedd ei ofal ef yn ymestyn i bob cyfeiriad. Ei dalentau dysglaerwych, a'i arian yn cael eu cyflwyno yn ewyllysgar, er cynorthwyo a chefnogi pob symudiad daionus yn y tir. Yn yr adeg hon teimlai Mr. Williams yn arbenig, yn nghyda'r Parchn. C. Jones, Dolgellau; J. Roberts, o Lanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth, ac eraill o arweinwyr yr enwad Annibynol yn y Gogledd yn wyneb y camgyhuddiadau a'r camddarlunio oedd arnynt, fod ar yr enwad angen mawr am gyhoeddiad enwadol i egluro a dysgu ei egwyddorion yn eglwysig ac yn wladol i'r Dywysogaeth; ond yn y Gymanfa a gynaliwyd yn y Rhos ar y dyddiau Medi 26ain a'r 27ain, 1820, yr ymddyddanwyd gyntaf yn gyhoeddus ar y priodoldeb o gychwyn y Dysgedydd Crefyddol, fel y gelwid ef ar y dechreu. Dychrynai rhai wrth feddwl am y fath ymgymeriad, ond erbyn y cyfarfod a gynaliwyd yn Ninbych, Tachwedd 1af, 1821, i hyrwyddo yr amcan teilwng hwnw, yr oedd pethau wedi addfedu i'r fath raddau, fel y tynwyd allan gytundeb ysgrifenedig cydrhwng cychwynwyr y Dysgedydd, ac arwyddwyd ef ganddynt. Wele gopi o hono:—"Articles of Agreement," &c., 1821, Nov. 1st.

1. We, whose names are underwritten, have all and severally agreed, to publish a monthly Magazine, to be called Dysgedydd Crefyddol, Price 6d. per No.

2. That we shall forward to the Editors, some Article or other for insertion, monthly, and encourage our friends in our respective neighbourhoods to do the same.

3. That in case of loss attending the undertaking, we will bear it share and share alike; but if it should produce any gain, we shall consider ourselves entitled, severally, to a portion thereof, and the rest at our discretion to be applied towards religious purposes.

  • D. JONES, Holywell.
  • D. MORGAN, Machynlleth
  • R. EVERETT, Denbigh.
  • C. JONES, Dolgelley.
  • W. WILLIAMS, Wern.
  • J. EVANS, Beaumaris.
  • BENJ. EVANS, Bagillt.
  • D. ROBERTS, BANGOR.
  • ROB. ROBERTS, Treban.
  • EDW. DAVIES, Rhoslan.

JOHN ROBERTS, Llanbrynmair.
WM. HUGHES, Dinas.
These two were present, but left the place without signing their names to the document.
 C. JONES.[2]

Er mantais i'r rhai na chawsent, ac fe ddichon, na chant byth, weled y rhifyn cyntaf o'r Dysgedydd,[3] yr hwn a ddaeth allan yn Tachwedd, 1821, dodwn yma yr hyn a geir ar glawr y rhifyn hwnw, yr hwn oedd i wasanaethu fel specimen copy o'r hyn oedd y Dysgedydd i fod, os y ceid cefnogaeth ddigonol gan yr enwad i'w ddwyn allan:—

"AT Y CYMRY,—SYLWER.

1. Fod y Dysgedydd Crefyddol i ymddangos yn nechreu Ionawr, 1822, a rhan bob mis o ganlyniad, pris Chwech Cheiniog, ar yr un fath bapyr a llythyrenau a'r rhan hon; os ceir digon o enwau erbyn y 15fed o Ragfyr. Dymunir, gan hyny, ar bob gweinidog yn mhlith yr Anymddibynwyr i ymofyn enwau yn ddioed, a'u danfon i'r derbynwyr ysgrifau, fel y gallont hwythau eu danfon i'r Golygwyr erbyn yr amser uchod.

II. Fod gweinidogion yr eglwysi Cynulleidfaol yn gyffredinol i gael eu hystyried y cyhoeddwyr, a bod llywyddiaeth y gwaith yn meddiant deuddeg o honynt fel Dirprwywyr, dau yn mhob sir, sef,

  • Trefaldwyn, John Roberts, a David Morgan.
  • Dinbych, William Williams, a Robert Everett.
  • Meirionydd, Cadwaladr Jones, a Michael Jones.
  • Caernarfon, David Roberts, a Edward Davies.
  • Mon, John Evans, Beaumaris, a Robert Roberts, Ceirchiog.
  • Fflint, David Jones, a Benjamin Evans.

III. Fod y gwaith i gael ei ranu yn ddosbarthiadau, fel y crybwyllir isod; gan hyny, dysgwylir i bob un o'r cyhoeddwyr i anfon ysgrifau ar unrhyw fater a ddewisant, er cynysgaeddu y naill ddosbarth a'r llall; ond dysgwylir i bersonau neillduol gymeryd y gwaith arnynt, a bod yn sicr o ddanfon ysgrifau bob mis yn y drefn ganlynol:—

Dosbarth 1. Hanes Bywydau, &c.:—J. Roberts, Llanbrynmair; Dr. Lewis, Drefnewydd.

2. Traethodau ar Dduwinyddiaeth, a sylwadau beirniadol ar ranau o'r Ysgrythyrau:—B. Jones, a T. Lewis, Pwllheli; W. Williams, Wern; E. Davies, Drefnewydd; W. Jones, Caernarfon; T. Jones, Newmarket, &c.

3. Hanes yr Eglwys o ddyddiau yr Apostolion:—D. Morgan, Machynlleth, a E. Davies, Rhoslan..

4. Hanes dechreuad a chynydd Sefydliadau Crefyddol, &c. :—D. Roberts, Bangor, a J. Breese, Liverpool.

5. Hanes Cenadaeth yr Efengyl yn mhlith y Paganiaid:—D. Jones, Treffynon; R. Everett, Dinbych.

6. Hanesion Gwladwriaeth yn bur fyrion, sef y pethau mwyaf hynod, ac yn enwedig y pethau y byddo un berthynas rhyngddynt a chrefydd:—C. Jones, Dolgellau, a J. Jones, Machynlleth.

7. Barddoniaeth,—W. Hughes, Dinas Mawddwy; T. Williams, Rhes-y-cae: J. Thomas, Chwilog; T. Jones, Liverpool; Gwilym Cawrdaf a Morris Davies o Ddolgellau, &c.

8. Amrywiaeth,—

Sylwer yma, nad yw nodi materion neillduol i bersonau neillduol, megys uchod, yn atal y personau hyny i ysgrifenu ar bethau eraill, ar un cyfrif, ond dysgwylir iddynt hwy (a phawb a ewyllysio) wneud eu goreu ar y materion eraill hefyd. Heb ffyddlondeb yn y personau uchod, nid all y gwaith fyned yn mlaen yn rheolaidd.

IV. Fod un yn cael ei osod yn mhob sir yn dderbynydd ysgrifau, oddiwrth y rhai a fyddo yn danfon i'r DYSGEDYDD yn y gwahanol siroedd, sef yn Sir Drefaldwyn, John Roberts, Llanbrynmair:—

Sir Gaernarfon, David Roberts, Bangor:—Sir Fon, John Evans, Beaumaris:—

Sir Feirionydd, Michael Jones, Llanuwchllyn:—Sir Ddinbych, Robert Everett:—

Sir Fflint, David Jones, Treffynon.

V. Dysgwylir i bob eglwys i benodi rhyw un crefyddol yn eu plith i fod yn Ddosbarthwr y Rhifynau, ac i dderbyn tal am danynt, ac i ddanfon yr arian at y derbyniwr ysgrifau yn ei sir ei hunan, bob tri mis yn y Gogledd, a phob chwech mis yn y Deheudir.

VI. Fod dymuniad a dysgwyliad ar i'r brodyr yn y Deheudir i roddi pob cymhorth a allant i fyned a'r gwaith yn mlaen, drwy anfon defnyddiau ac ymdrechu i'w gwerthu.

VII. Fod y dirprwywyr i gyd—ddwyn y golled, os felly y bydd. Ond os bydd y gwaith yn troi allan yn dda, er enill wedi talu pob traul, fod yr enill i gael ei ddefnyddio, dan olygiad y dirprwywyr yn y ffordd y barnant oreu er helaethiad achos Iesu Grist.

VIII. Fod y cyfrifon a berthyn i'r cyhoeddiad i gael eu sefydlu yn flynyddol gan y dirprwywyr.

Hysbysir yma fod i bawb ddanfon eu hysgrifau yn ddidraul,"

Yn ngoleuni yr uchod, gwelir mor ddeheuig a gofalus oedd cychwynwyr y Dysgedydd yn eu hymgymeriad pwysig. Diau mai angenrhaid oedd iddynt fod felly, canys nid anturiaeth fechan mewn un modd oedd cychwyn cylchgrawn misol ac enwadol y pryd hwnw, a'i bris yn chwe'cheiniog y rhifyn. Dechreuwyd cyhoeddi y Dysgedydd yn rheolaidd yn Ionawr, 1822. Cyfarfyddodd â gwrthwynebiadau lawer, ond daliodd ei dir, ac ychwanegodd gryfder a dylanwad daionus yn mhob cyfeiriad, a heddyw, ar ol gwasanaethu am ddeuddeg mlynedd a thriugain, y mae ei dderbynwyr yn fwy niferus nag erioed o'r blaen, a dylent fod yn lluosocach eto. Bu gwŷr galluog yn Olygwyr arno, o'r Hybarch. C. Jones, ei Olygydd cyntaf, hyd y gwr galluog a phoblogaidd sydd yn ei olygu yn awr mor fedrus a llwyddianus, a phell iawn fyddo y dydd pan yr ymddeola y Prifathraw E. Herber Evans, D.D., o'r Olygiaeth. Ymroddai Mr. Williams â'i holl egni i wasanaethu achos yr Arglwydd yn mhob modd gartref ac oddicartref yn y cyfnod hwn. Anghofiai ei gysuron cartrefol a theuluaidd yn hollol, gan yr awyddfryd oedd ynddo i wneuthur daioni yn gyffredinol. Cawn ef mewn cyfarfod cenadol pwysig yn Nghaernarfon, Hydref 5ed, 1821, yr hwn a gynaliwyd yn Llysdy y Sir; a thraddododd araeth effeithiol iawn yn y cyfarfod hwnw, sylwedd yr hon sydd fel y canlyn:—"Pan oedd Gedeon yn myned i ryfel, yr oedd yn gorchymyn i'w lu udganu yn yr udgorn o amgylch y gwersyll, "Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon," ni allasai Gedeon wneud dim heb gleddyf yr Arglwydd, ac nid ai cleddyf yr Arglwydd ei hunan, heb ro'i yr anrhydedd i Gedeon i ddyfod gydag ef. Mae pob peth yn cydlefain am ein bywiog gydweithrediad i anfon yr efengyl at y paganiaid; mae mur gwahaniaeth rhwng Iuddewon a Chenedl—oedd wedi myned i lawr, mae y meirw sydd yn eu beddau yn gwaeddi am i ni wneud eu colled hwy i fyny―y genedl sydd yn dyfod ar ein hol, megys yn gwaeddi am i ni ro'i esiampl deilwng o'u blaen hwythau yr holl greadigaeth fawr i gyd yn cydruddfan o eisiau i'r gwaith yma fyned yn mlaen yr haul megys yn dweyd, yr wyf fi wedi tywynu 1800 o flynyddoedd ar Affrica er pan groeshoeliwyd y Gwaredwr, a ydych chwi ddim am anfon gwybodaeth o hono bellach yma? Pob deilen o de yr India, a phob gronyn o goffi y Tyrciaid, a phob llwchyn o siwgr yr India arall megys yn dywedyd, danfonwch efengyl yn ein lle; y mae coed y maes fel yn gwaeddi, ni a wnawn longau; y carth, gwnawn ninau hwyliau; y llin, gwnawn ninau bapyr i argraffu Beiblau; y môr bob tro y daw ei lanw dros fanciau Caernarfon, fel yn gofyn a oes neb yn foddlon i fyned drosodd i gyhoeddi yr efengyl dragwyddol; angylion y nef yn galw; ymysgaroedd trugarog Duw, ïe, gwaed y Cyfryngwr bendigedig yn galw arnom i ddeffroi o gwsg pechadurus, ac anfon yr efengyl i'r holl fyd. Ond wrth wneud pob ymdrechiadau, ystyriwn yr angenrheidrwydd o ddwys weddi at Dduw am ddylanwadau y Tragwyddol Ysbryd i orphwys yn fwy helaeth ar bob gweinidog, ac ar bob Cristion yn gyffredinol.

Yn y flwyddyn 1822, dymunodd Mr. Williams am gael ymryddhau o'i ofal gweinidogaethol yn Llangollen a Rhuabon, ac yn ol ei gynghor i'r ddwy eglwys, cytunasant â'u gilydd i roddi galwad i Mr. Davies o Athrofa y Drefnewydd i ddyfod i'w bugeilio. Cynaliwyd cyfarfod yn Llangollen i'w ordeinio, Awst 29ain, 1822. Ychydig cyn hyn y symudodd Mr. Williams o Langollen, gan fyned i fyw i'r Talwrn, anedd dawel a hyfryd rhwng y Wern a'r Rhos. Profodd y symudiad hwn o'i eiddo yn fanteisiol iddo ef, ac yn fendithiol iawn i eglwysi y Wern a'r Rhos, y rhai a flodeuent yn brydferth, ac a gynyddent beunydd dan ei weinidogaeth gyfoethog. Teithiai hefyd i leoedd pell oddiwrth eu gilydd yr adeg hon. Cawn ddarfod iddo, Mai 9fed, 1823, bregethu pregeth genadol hynod iawn yn Llundain oddiar Haggai i. 2—6. Oddiwrth lyfr cofnodion y diwedd—ar Mr. Richard Griffith, Ty mawr, Aberdaron, yr hwn oedd yn hanesydd, hynafiaethydd, a chofnodydd campus, gwelir ddarfod i Mr. Williams bregethu Tachwedd 17eg, 1823, yn Aberdaron, oddiar y geiriau "Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant

ganddo arwydd o'r nef." Gan nad oedd yno gapel, bwriedid cynal yr oedfa mewn ty anedd o'r enw Hen Blas, ond pan welwyd y bobl yn dylifo i lawr o'r Rhiw a thrwy Ben y Caerau, deallwyd yn fuan mai ofer oedd meddwl am bregethu yn y ty. Er mai Tachwedd ydoedd, eto yr oedd yr yr hin yn hyfryd y dydd hwnw. Ceisiwyd gan Mr. Williams ddyfod allan i bregethu, a chydsyniodd yntau â hyny. Gweithiwyd rhyw fath o fanllawr ar unwaith; ac erbyn hyny, yr oedd y pentref yn llawn o bobl, yn awyddus am ei glywed. Dangosai y pregethwr, a hyny mewn modd goleu ac eglur iawn,. fod gan y dyn ei hunan rywbeth i'w wneuthur er ei gadwedigaeth, cyn meddwl am arwydd ychwanegol o'r nef. Dychrynodd yr uchel—Galfiniaid oedd yno wrth glywed y fath athrawiaeth yn cael ei thraddodi iddynt. Wedi myned adref, a meddwl llawer am y pethau a wrandawsai, methai yr hen John Williams, Deuglodd, a gofyn bendith ar y bwyd; ac a defnyddio geiriau Mr. Richard Griffith, ei gâr, "yr oedd yr hen ffwlcyn yn sefyll wrth y bwrdd, ac yn ymsgrwtian gan ofyn, "Dyn, dyn, beth fedr dyn wneud, beth fedr dyn wneud?" Beth bynag am hyny, cafwyd rhyw oedfa eneiniedig, a grymus nodedig y tro hwnw yn Aberdaron, yr hon a barodd i lawer un ofyn o ddifrif, "Beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig?" Heblaw bod yn wasanaethgar ei hunan, anrhydeddwyd Mr. Williams, a'r eglwysi o dan ei ofal, â'r fraint o gael codi a chychwyn pregethwyr, y rhai a fuont yn wir ddefnyddiol i'r enwad Annibynol, ac i grefydd yn gyffredinol. Yn nhymhor ei weinidogaeth ef yn y Wern, y cyfodwyd yno i bregethu y gweinidogion defnyddiol a ganlyn, y Parchn. Robert Morris, Saron, Tredegar; a Moses Ellis, Mynyddislwyn; ac un o'r Wern yw yr Hybarch William Daniell, Knaresborough; ond yn Manchester y dechreuodd ef bregethu. Yn eglwys y Rhos y dechreuodd yr hynod Ismael Jones, a'r Parchn. Robert Thomas, Hanover, a Samuel Evans, Llandegla, bregethu. Yn eglwys Harwd y cyfodwyd y Parch. Edward Davies, M.A., yr hwn a fu Athraw galluog yn Ngholeg Aberhonddu gyfnod maith; ac yn Harwd hefyd y cyfodwyd y Parch. William Thomas, yr hwn a fu yn weinidog cymeradwy yn Nwygyfylchi, ac wedi hyny yn Beaumaris. Er cymaint a sonir am aflwyddiant eglwys Harwd yn nyddiau Mr. Williams, eto yr ydym yn ystyried ein bod yn ddyledus iddi, pe na buasai wedi gwneuthur dim ond rhoddi i ni y dynion ardderchog a nodwyd.

Nodiadau[golygu]