Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/O'r Oedfa Yn Aberdaron Hyd Yr Oedfa Yn Nghapel Y Wesleyaid Yn Y Rhos

Oddi ar Wicidestun
O Gymanfa Horeb Hyd Yr Oedfa Yn Aberdaron Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

O'r Oedfa Yn Nghapel Y Wesleyaid Yn Y Rhos Hyd Ei Ymadawiad O'r Talwrn

PENNOD VIII.

O'R OEDFA YN ABERDARON HYD YR OEDFA YN NGHAPEL Y WESLEYAID YN Y RHOS 1823—1831

Y CYNWYSIAD—Cyfnod arbenig yn hanes MR. WILLIAMS—Cymanfa Llanerchymedd—Darluniad Gwalchmai o'n gwrthddrych yn pregethu ynddi ar y "wlad well" Helaethu Capel y Wern i'w faintioli presenol— Eglwys Rhuthyn mewn helbul—MR. WILLIAMS yn gwasanaethu mewn angladd yn Rhuthyn—Rhoddi Harwd i fyny—Llythyr at y Parch. C. Jones, Dolgellau—Crynodeb o bapyr yr Hybarch S. Evans, Llandegla—Nodwedd MR. WILLIAMS fel gweinidog a bugail—Llythyr y Parch. R. Roberts, Rhos—MR. WILLIAMS yn addaw myned i bregethu i'r Beast Market, Wrexham—Cael oedfa hynod yno—Gweinidog perthynol i'r Ranters yn tystio mai o dan bregeth MR. WILLIAMS yr argyhoedd— wyd ef—Merch ieuanc o'r Frondeg yn ymuno â'r Ranters yn Wrexham—Ei mam yn pryderu yn ei chylch MR. WILLIAMS yn tawelu ei meddwl— Tystiolaeth y Parch. J. Rowlands, Talsarn, am "Bregeth y mamau" yn y Rhos

YR ydym yn awr yn nesau at gyfnod arbenig ac amlwg iawn yn hanes ein gwrthddrych parchedig, ac yn dyfod i edrych ar un o'r oedfaon hynod, yr hon a adwaenir hyd y dydd heddyw, fel yr un a gododd yr enwad Annibynol i fwy o sylw a pharch drwy holl Ynys Mon, nag oedd iddo yn y wlad cyn hyny. Cyfeirio yr ydym at Gymanfa Llanerchymedd, yr hon a gynaliwyd Mehefin 16eg a'r 17eg, 1824; am yr hon y clywsom lawer, yn enwedig am yr effeithiau grymus a nefol a deimlid ynddi, pan bregethai Mr. Williams ar y "wlad well." Gan fod amseriad y Gymanfa hono yn dal perthynas a'r cyfnod hwn, nis gallwn ymatal heb roddi yma y darluniad campus a ganlyn o'r oedfa hono gan y Parch. R. Parry, (Gwalchmai), yr hwn a welir yn y Dysgedydd Hydref, 1877, tudalen 295, 296. "Gellid golygu ei ymweliad â Mon yn amser y Gymanfa hynod hono yn Llanerchymedd, fel cyfnod arbenig yn ei fywyd. Y mae yr amgylchiadau ar gof a theimlad nifer yn yr Ynys hyd y dydd hwn. Yr oedd yn nghanolddydd ei boblogrwydd y pryd hwnw, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano, a'r son am ei fod i bregethu yn y gymanfa wedi cyrhaedd pob man. Nid oedd y cyffredin yno wedi ei weled na'i glywed erioed; ac yr oedd yn naturiol dysgwyl y byddai nifer y gwrandawyr yn lluosocach nag arferol. Pregethodd y nos gyntaf yn Nghapel y Methodistiaid; ni addawai bregethu ddwywaith ar y maes, ac yr oedd yn eglur ei fod yn cadw ei nerth erbyn dranoeth. Ei bwnc oedd addysgiaeth gref—yddol yr ieuainc, oddiwrth Salm lxxviii., "Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchymynodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant, fel y gwybyddai yr oes a ddel, sef y plant a enid, a phan gyfodent, y mynegent hwy i'w plant hwythau, fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchymynion ef."[1] Enillodd serch y bobl yn lan ar y bregeth gyntaf. Yr oedd y cynulliadau dranoeth yn lluosocach na dim a welwyd o'r blaen gyda'r enwad. Pregethai Mr. Williams am 2 o'r gloch; yr oedd yr hin yn frwd, yr awel yn drymllyd, a theimladau y dorf yn swrth. Pregethai un Mr. Lewis, o Bwllheli, o'i flaen, ac er ei fod yn traddodi gwirioneddau digon teilwng, eto, nid oedd yn gallu enill un math o sylw, ac ymollyngai lluaws mawr o'r bobl i orweddian yn wasgarog ar y maes. Ymddangosai Mr. Williams yn dra anesmwyth ar hyd yr amser; aeth i lawr o'r areithfa, dro neu ddau, cerddai ychydig o amgylch, ond dychwelai yn fuan, ac yr oedd fel pe buasai wedi ei orchuddio gan bryder. Terfynodd y bregeth gyntaf. Daeth yntau yn mlaen at y ddesg; edrychai yn lled gyffrous, gan dremio yn o wyllt dros y dorf, ar y naill law a'r llall, a'i enaid yn eglur ar dân gan wres ei bwnc, a'i galon wedi ei llanw â meddyliau byw; yr oedd yn hynod gweled y dorf yn codi, a phawb yn ymsypio at eu gilydd, o'r braidd, gan yr olwg arno yn dychymygu ei glywed yn dywedyd gydag Elihu, "Yr ydwyf yn llawn geiriau, y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymhell i, wele fy mynwes fel gwin, nid agorid arno; y mae hi yn hollti fel costrelau newyddion," &c. Yr oedd pob wyneb ger ei fron fel pe buasai wedi ei wisgo âg arwyddion dysgwyliad wrtho. Darllenodd ei destun yn lled eofn a chyflym, "Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwenych, hyny ydyw, un nefol." Daeth yn fuan i afael âg enaid ei weinidogaeth, gan dywallt ffrwd o ddarluniad swynol o Ganaan, ac Abraham yn teithio ar ei hyd a'i lled, i gael golwg ar ei holl ddolydd lysion, a'i llethrau dengar, gan chwilio yn awyddus am y man lle y gallai adeiladu tref iddo ei hun a'i olynwyr, a'i galw "TREF ABRAM," &c. Yn ddiau, yr oedd ei ddarluniad dyddorol o'r hen batriarch mewn iaith mor ddestlus a theuluaidd, mewn parabl mor berseiniol, ac mewn lliwiau mor naturiol, a'i sylwadau hudolus ar y naill lethr a bryn, a gardd a pherllan; a'r llall, yn ddigon i syfrdanu teimlad y gwrandawr mwyaf clauar ei farn, a pheri iddo anghofio pa le yr oedd yn sefyll; gollyngodd y fath ddiluw o hyawdledd cerddorol i chwareu ar bob clust a chalon, fel cyn pen ugain munyd yr oedd holl deimladau y dorf yn gwbl at ei law a'i alwad; a phan yr oedd y bobl felly, fel pe buasent wedi colli pob hunanfeddiant, trodd yn sydyn, a gwaeddodd, "Na, na, dim o'r fath beth nid am y wlad hono yr ymofynai, gwlad well oedd yn ei olwg ef o hyd," a dilynodd, wedi hyny, mewn darluniad o'r Ganaan nefol, yn ei thra rhagoroldeb, nes yr oedd pawb fel pe buasent yn dychymygu fod y ddaear lle y safent yn symud o dan eu traed. Wedi hyny daeth rhagddo at yr athrawiaeth a'r addysgiadau bwriadol, gyda dylanwad dihafal ar y dorf. Tro i'w hir gofio ydoedd.

Dywedodd un amaethwr cyfrifol o'r gymydogaeth am ei deimlad ar y pryd, "Yn wir, welwch chwi, yr oeddwn o'r braidd wedi anghofio nad yn Nghanaan yr oeddwn, yn cydgerdded âg Abraham, gan ei weled a'i glywed, pan yn edrych ansawdd y wlad, rhwng y bryniau a'r nentydd, ac yn gwneud ei adolygiad ar holl gyrau y fro." Arosodd y syniadau yn fyfyrdod byw gan bawb yn hir; yr oedd ef ei hun yn ystyried hwn yn un o droion hynotaf ei oes, canys buwyd yn ymddyddan âg ef am y bregeth flynyddau wedi hyny. Bernir fod ei bregeth am y nefoedd y tro hwn wedi bod yn foddion i godi sylw at yr enwad drwy yr ynys o'r bron. Yn gyferbyniol â'r bregeth hon, traddododd un yn mhen y ddwy flynedd wedi hyny, mewn cymanfa yn Amlwch, ar uffern, allan o'r ddameg ar y gwr goludog. Yr oedd hi Yr oedd hi yn adeg o ddiwygiad crefyddol drwy y wlad gyda phob enwad ar y pryd, a thorodd allan yn fath o orfoledd dan y bregeth. Nid oedd Mr. Williams yn gweled hyny yn gydweddol âg amcan ei genadwri, a throdd i roddi cynghor tyner i'r bobl, i ystyried ei weinidogaeth gyda myfyrdod dwys, a rhwng y naill beth a'r llall, ni chafod y tro hwnw mor hwyl a'r dylanwad a gawsai y tro blaenorol. Yr oedd ei amcan yn y ddwy bregeth i ddwyn bywyd ac angeu, nefoedd ac uffern, yn ddigon effeithiol gerbron, i adael argraph er daioni, ond aeth y bobl i wres teimladau yn rhy fuan, fel na chafodd ef weithio ei ffordd trwy y deall at y galon, fel y dymunasai, er mor effeithiol a hapus oedd ei draddodiad ar y pryd. Y mae y cyfeiriadau uchod yn ddigon i roddi mantais i bob sylwedydd craff weled yn mha ffordd yr oedd rhagoriaethau Mr. Williams yn dyfod i'r golwg egluraf."

Er y byddai Mr. Williams yn fynych oddicartref yn y cyfnod hwn, eto cynyddai yr eglwysi yn nghylchoedd neillduol ei ofal yn amlwg, ac yr oedd eglwys y Wern wedi cynyddu cymaint, fel erbyn y flwyddyn 1825, bu yn rhaid helaethu y capel i'w faintioli presenol, a phrynwyd hefyd ddarn o dir i'w ychwanegu at y fynwent. Ymestynai ei ofal hefyd, am yr eglwysi yn gyffredinol, fel os y goddiweddyd rhyw eglwys wan yn rhywle nes ei bod yn druan a helbulus gan dymhestl, ac yn ddigysur, byddai ef y parotaf o bawb i'w hamddiffyn a'i dyddanu. Bu yn helbulus iawn ar eglwys Rhuthyn pan chwythodd tymhestl oddiwrth yr adeiladydd arni, ond bu Mr. Williams yn noddydd ffyddlon iddi yn nydd ei chyfyngder, fel y dengys

yr hyn a ddywed Mr. John Hughes, Rhuthyn, am y dymhest hono:—"Bu angenrhaid ar Mr. Williams i fyned i'r llys gwladol yn Liverpool, yn dyst yn achos Capel Rhuthyn. Efe a fu y prif offeryn yn y gwaith o brynu y tir gan Mr. Froude, Plasmadog, Wrexham, i adeiladu y capel arno. Teimlai Mr. Williams ddyddordeb dwfn, ac anarferol iawn yn eglwys Rhuthyn. Byddai yma yn aml yn ystod yr adeg yr oeddis yn adeiladu y capel, a hyny er mwyn gweled pa fodd yr oedd y gwaith yn myned yn mlaen. Hysbyswyd ef nad oedd yr adeiladydd ddim yn gweithredu fel y dylasai, a daeth yntau yma yn ddioedi. Gwelodd fod yr adeiladydd ar y ffordd i golledu yr eglwys fechan yn fawr, drwy wneuthur gwaith twyllodrus ar y capel. Ataliwyd ef rhag myned ddim yn mhellach gyda'r adeiladu. Penderfynodd fyned a'r achos i'w benderfynu mewn llys barn; ac nid oedd gan yr eglwys hithau ond myned yn mlaen i amddiffyn ei hunan. Dewiswyd Mr. Williams o'r Wern; Mri. Edward Jones, Post Office; a Thomas Jones, Draper, Rhuthyn, i dystiolaethu drosti yn y llys. Wedi gwrando tystiolaethau cedyrn, a galw y tystion, ni chafodd y rheithwyr un drafferth i benderfynu yn mhlaid yr eglwys. Bu raid i'r adeiladydd dalu swm mawr o iawn i'r eglwys, ac hefyd orphen y capel yn ol y cymeriad cyntaf. Nid oedd neb yn dyfod o Liverpool yn fwy llawen ei galon na Mr. Williams, a hyny am ddarfod iddynt enill buddugoliaeth i'r chwaer fechan oedd heb fronau iddi yn Rhuthyn. Cymerodd un amgylchiad neillduol arall le yn Rhuthyn yn nglŷn â Mr. Williams, nad oes un crybwylliad am dano yn unman, na neb yma, oddieithr un hen chwaer a minau fy hun yn unig, yn cofio dim yn ei gylch. Yr oeddym ni yn llygaid dystion o'r hyn a gymerodd le. Daeth Mr. Williams i Rhuthyn yr adeg hono hefyd, ar ryw neges yn nglŷn a'r capel, fel llawer tro arall. Yr oedd teulu duwiol, ac hefyd adnabyddus iawn iddo ef, mewn trallod chwerw o herwydd marwolaeth merch anwyl iddynt. Nid oedd yr ymadawedig wedi ei bedyddio yn Eglwys Loegr, ac oblegid hyny, daeth gair oddiwrth y Parson, foreu dydd y claddedigaeth, yn hysbysu na wnelai ef ddim ei chladdu, am y rheswm nad oedd wedi ei bedyddio yn yr Eglwys. Ychwanegodd hyny eu trallod yn fwy byth. Ond cyfododd iddynt ymwared o le arall. Eglurodd Mr. Edward Jones, Post Office, yr amgylchiadau i Mr. Williams, gan ei hysbysu fod Mr. Evan Thomas (tad y ferch) mewn trallod blin. Dywedodd yntau am iddo anfon gair i'r tad trallodus, i orchymyn iddo barotoi at gychwyn yr angladd, ac y byddai ef wrth y ty yn gwasanaethu; ac felly fu, gweddiodd yn nodedig o effeithiol. Aethpwyd a'r corff i'r fynwent, a rhoddwyd ef yn y bedd, yr hwn nad oedd ond mur y fynwent yn gwahanu rhyngddo a'r ffordd fawr oddiwrth eu gilydd. Safai Mr, Williams ar risiau hen dy a elwir y Goat yr ochr arall i'r ffordd, gan wasanaethu o'r fan hono, canys nid oedd rhyddid iddo fyned i'r fynwent. Wedi gorphen y gwasanaeth, gorchymynodd i'r Rector a'r clochydd ddyfod ato i dderbyn y tâl arferol, a thalodd o'i logell ei hun holl draul y claddedigaeth. Edrychid ar Mr. Williams y pryd hwnw, fel un diystyr o'r defodau Eglwysig, a cheblid ef am hyny, ond yr oedd ganddo ef ddigon o nerth, fel nad oedd un perygl iddo lwfrhau yn amser cyfyngder. Er y gorfodir ni i ymgydnabyddu â ffeithiau. o'r fath a nodwyd, eto nis gallwn ymatal heb ymlawenhau yn y rhyddid eangach sydd genym ni, yr hwn a enillwyd i ni â mawr swm o ymdrechion a helbulon o eiddo cefnogwyr rhyddid gwladol a chrefyddol, ac yn arbenig wrth gofio fod i ni etifeddiaeth eangach yn y golwg, a hyny heb fod yn mhell oddiwrthym, ac yn y dyddiau hyny, ni bydd yn rhaid i weinidogion yr Arglwydd sefyll o'r tu allan i'r eglwys, chwaithach y tu allan i'r fynwent, wrth weinyddu mewn angladdau, canys eu traed a safant o fewn ei phyrth hi ar ddydd gogoneddus cydraddoldeb a brawdgarwch crefyddol.

Yn y flwyddyn 1828 rhoddodd Mr. Williams eglwys Harwd i fyny, a chymerodd y Parch. Jonathan Davies ei gofal mewn cysylltiad â Phenuel. Erbyn hyn, nid oedd gan ein gwrthddrych ond y Wern a'r Rhos yn uniongyrchol i ofalu am danynt. Arferai draethu ei syniadau ar wahanol faterion yn eofn a diamhwys, ac oblegid hyny, ystyriai rhai brodyr gochelgar ei fod weithiau yn myned i eithafion." Anfonodd ei gyfaill y Parch. C. Jones, Dolgellau, lythyr ato unwaith, yn ei anog i fwy o ochelgarwch, a chafodd oddiwrtho yr atebiad canlynol:—

"Wern, Medi 26ain, 1829. [2]

FY ANWYL FRAWD,—

Yr wyf yn rhwymedig i chwi am y cynghor iachusol a gynwysai eich llythyr diweddaf. Awgrymasoch fy mod i yn dueddol i fyned i eithafion am bersonau a phethau, a rhoddasoch i mi gynghor difrifol i gymeryd gofal am fod yn gymedrol, ac i beidio meddwl a llefaru yn rhy fyrbwyll am bersonau neu bethau. Amen, ac Amen. Yr enghraifft a roddasoch oedd yr hyn a ddywedais yn Llanbrynmair; a thybiwn eich bod wedi rhoddi y gryfaf a allasech gofio i'm hargyhoeddi o'm bai. Ond yr wyf fi yn y tywyllwch, ac heb wybod pa le y mae yr eithafion yn yr ymadrodd hwnw. Ni honais unrhyw anffaeledigrwydd ar y pwnc. Ni roddais fy marn yn gyfraith i neb. Ni chondemniais neb. Dim ond amlygu fy nheimladau fy hun ar y mater. Prin yr wyf yn meddwl y buasai offeiriad Pabaidd yn ei deimlo. Yn eich llythyr nesaf, nid wyf yn amheu na byddwch mor deg a dangos mai rheol y Testament Newydd, a'r Hen hefyd, ydyw, fod i ni dderbyn plant i'r eglwys yn ddirgel, a bod holl ddybenion Bedydd yn cael eu cyrhaeddyd yn y ffordd hono; a dangos yn mhellach pa mor bell y gwyrais i oddiwrth y rheol hono tuag eithafion. Yr ydych chwi yn fy anog i fynu cael barn Mrs. Williams ar y pwnc; ond yr wyf yn ofni nad yw hi yn ddigon diduedd i roddi barn deg ar y mater. Yr ydych yn fy anog i fod yn ochelgar a chymedrol yn fy nodiadau ar bersonau. Er hyny, dywedasoch chwi am A. Jones; 'yr wyf yn credu yn gryf ei fod wedi gwneud yr hyn sydd o'i le yn ddiamheu.' Arferwn feddwl ein bod i farnu am bersonau wrth eu hymddygiadau, ac os gwnaethant yn ddiamheu bethau sydd yn feius ac o'u lle, y dylem ymdrechu eu hargyhoeddi o hyny, ac os na lwyddwn, nad ydym i ddal cysylltiad â hwynt; ond dywedwch chwi nad wyf fi i wneud felly. Cymerwch ofal, byddwch gymedrol, hyny yw, os na chredaf fi fod amcanion pobl sydd a'u gweithredoedd yn hollol ddrwg yn amcanion da, yr wyf fi yn myned i eithafion. Dymunwn wybod trwy eich llythyr nesaf, pa un ai wrth eu hymddygiadau, neu ynte wrth eu hamcanion yr ydym i farnu personau? Mi a feddyliais wrth eich llythyr mai eu hamcanion yw eich rheol chwi i farnu am danynt, ac y dylwn inau briodoli amcanion da ddynt, er fod eu hymddygiadau yn hollol ddrwg yn ddiamheuol; ac os na wnaf hyny, yr wyf yn euog o fyned i eithafion, ac o lefaru yn rhy fyrbwyll am bersonau. Dysgwyliaf i chwi roddi i mi well eglurhad ar bethau na rhywbeth fel yna. Ein cofion caredicaf at Mrs. Jones, a derbyniwch yr unrhyw eich hunan.

Ydwyf, yn parhau yn gymaint cyfaill i chwi ag erioed,

W. WILLIAMS."

O.Y. "Nid ydych yn dywedyd gair am eich bwriad i ddyfod i'n Cymanfaoedd. Ymdrechwch ddyfod, a threfnwch eich taith fel y galloch fod am un noswaith yn ein ty ni."

Nid oes angen prawf eglurach o gyfeillgarwch pur o bobtu, na'r hyn a ddangosir i ni drwy gyfrwng y llythyr blaenorol.

Edrychasom ar ein gwrthddrych Parchedig hyd yma yn nghyflawniad ei waith fel pregethwr, ac yn nglŷn â symudiadau cyhoeddus ei enwad yn gyffredinol; ond o hyn i ddiwedd y bennod hon, nyni a edrychwn arno fel gweinidog a bugail yn ei gylchoedd cartrefol. Gwnawn hyny yn ngoleuni cynwys papyr gwerthfawr a ddarllenodd yr Hybarch Samuel Evans, Llandegla, yn nghyfarfod sefydliad y Parch. T. E. Thomas yn Nghoedpoeth, Medi 24ain, 1887:—"Mae enw Mr. Williams wedi ei argraffu yn ddwfn yn hanes ein gwlad a'n cenedl, ac yn enw y cyfeirir ato yn ddiau gyda pharch diledryw, ac edmygedd mawr am oesau eto i ddyfod. Nid oes yn ngweddill yn awr neb y gellir yn briodol eu galw yn gydoeswyr iddo. Ychydig o'r rhai a'i gwelsant, ac a'i clywsant, sydd yn aros heddyw ar y maes. Dichon fod ysgrifenydd y llinellau hyn, ac un neu ddau eraill yn eithriad yn hyn o beth. Adwaenwn Mr. Williams fel dyn er y flwyddyn 1827, pan nad oeddwn eto ond deng mlwyddd oed. Yn mhen rhyw ddwy flynedd wedi hyny, dygwyd fi i gyfleusdra i gael bod o dan ei weinidogaeth yn Rhosllanerchrugog; a phan yn un ar bymtheg oed, derbyniwyd fi ganddo ef yn gyflawn aelod o'r eglwys barchus hono. O'r pryd hwnw hyd adeg ei ymadawiad i Liverpool, cefais ef fel tad a chyfaill, a pharhaodd y gydnabyddiaeth drwy ystod ei arosiad byr yn Liverpool, ac ar ol ei ddychweliad i hen faes ei lafur hyd derfyn ei oes. Wrth hyn, fe wel y darllenydd fy mod wedi cael braint y chwenychasai llawer sydd yn awr yn fyw fod wedi ei chael. Nid ydwyf byth wedi maddeu i mi fy hun am fy niofalwch a'm hesgeulusdod dybryd, yn peidio defnyddio y cyfleusdra neillduol a gefais i fanteisio ar yr agosrwydd a'r cysylltiad agos a fu rhyngwyf â'r fath ddyn rhagorol. Clywais ganddo bregethau cynhyrfus, mwynheais lawer o gyfarfodydd eglwysig dan ei weinidogaeth, a threuliais lawer o amser yn ei gwmni buddiol ac adeiladol, ac o herwydd fy niofalwch a'm hesgeulusdra dirfawr, y mae arnaf gywilydd hysbysu fy mod yn un o ddisgyblion Williams o'r Wern, er y cyfrifasid hyny yn anrhydedd uchel gan lawer, ac felly yn ddiau yr wyf finau fy hun yn ei chyfrif. Er mai fel pregethwr neu efengylydd y rhagorai Mr. Williams, a phregethu a enillodd iddo y fath enwogrwydd fyth barhaol; eto yr oedd yn weinidog a bugail da a gofalus, yn enwedig gellid edrych arno felly wrth gymeryd eangder maes ei lafur i ystyriaeth. Talai ymweliadau achlysurol â'r holl aelodau, yn enwedig y rhai cystuddiol, profedigaethus ac oedranus; ac amcanai at adael argraff ddymunol a daionus ar ei ol yn ei holl ymweliadau. Rhoddai bwys mawr yn ei bregethau a'i ymddyddanion, ar yr angenrheidrwydd o feithrin crefydd bersonol, fel prif gymhwysder i ddefnyddioldeb dros Dduw, ac fel safon i gymeradwyaeth yn ngolwg dynion. Pan yn cyfeirio at hyn, dywedodd unwaith, 'Ni bydd gan neb ffansi o'r leg futton oreu oddiar ddysgl fudr—yn ngweinyddiad dysgyblaeth eglwysig, arferai bwyll, doethineb, a ffyddlondeb dihafal.

Cymerai ei lywodraethu yn ei farn i raddau go bell, gan natur y cyhuddiad a ddygid yn erbyn y troseddwr, a'i farn bersonol am gymeriad cyffredinol y cyhuddedig. Gallai beri i'r fflangell ddisgyn, yn drom, pan y barnai fod yr achos yn galw am hyny, yn enwedig pan y canfyddai ysbryd anhywaeth yn yr hwn a ddysgyblid. Ond ei nod ef yn wastad fyddai ceisio edrych ar yr ochr dyneraf i'r achos. Safai yn gryf yn erbyn diarddeliad, os oedd diwygiad neu adferiad mewn un modd yn bosibl. Rhoddai i'r cyhuddedig fantais pob amheuaeth yn ei achos. Dywedai, gwell genyf oddef yn yr eglwys bump o ragrithwyr, na throi un Cristion allan o'r eglwys. Rhoddaf yma enghraifft o'i waith a'i ddull yn gweinyddu dysgyblaeth. Yn yr ymdrech gyffredinol a wnaed i ddileu dyledion addoldai yr Annibynwyr yn Nghymru, bu Mr. Williams yn Lloegr yn casglu am fisoedd at yr amcan hwnw. Yn ystod ei absenoldeb, dygwyddodd i ryw chwaer led afrywiog ei thymherau ymrafaelio gyda chymydoges iddi, ac yn ystod yr ymrafael, bygythiodd hi a'r haiarn smwddio. Yn y cyfarfod parotoad cyntaf wedi dychweliad Mr. Williams adref, hysbyswyd ef gan un o'r swyddogion, fod achos y chwaer i gael ei ddwyn yn mlaen am ei bygythiad â'r haiarn smwddio. 'Oh,' ebai yntau, Gwell i ni gymeryd pwyll, ac amser, y mae ymladd â hararn smwddio yn beth anarferol i'w ddwyn o flaen yr eglwys.'

Gohiriwyd i gael amser i weled yr effaith a gawsai yr hysbysiad hwnw o'i eiddo ar y droseddwraig. Atebodd y dyben yn dda, oblegid enciliodd y wraig waedwyllt hono o'r gyfeillach, ac yr oedd ei hymadawiad yn waredigaeth fawr i'r eglwys. Wrth dderbyn aelodau newyddion, arferai fanyldra anghyfffredin, pan yn egluro iddynt amodau y Cyfamod Eglwysig.' Gwasgai arnynt yr angenrheidrwydd am gydymffurfiad manwl a'i holl fanylion. Yr wyf yn ofni fod cryn ddiofalwch yn awr mewn llawer lle yn nglŷn â'r mater pwysig hwn. Llywodraethid Mr. Williams yn hyn hefyd i ryw fesur, gan yr ystyriaeth o oedran, gwybodaeth, sefyllfa, a chymeriad blaenorol yr ymgeisydd. Cofiaf byth y cynghor byr, ond tra chynwysfawr, a roddodd wrth estyn i mi ddeheulaw cymdeithas—' Ymarfer lawer, fachgen, â gweddi ddirgel.' Nid yw y cynghor ond byr, a chynghor a roddir yn bur gyffredin i rai wrth eu derbyn. Ond dywedodd Mr. Williams ef y tro hwnw gyda'r fath deimlad a difrifoldeb, fel nad yw tri ugain mlynedd wedi ei ddileu o'm cof. Rhoddai siars dra difrifol, pan y dygwyddai rhai fod yn ymadael o'r ardal, ac yn newid eglwys. Yr oedd gwr ieuanc unwaith yn gadael y Rhos i fyned i faelfa berthynol i ewythr cyfoethog iddo, a drigai yn y Brifddinas, ac wedi rhoddi iddo luaws o gynghorion buddiol, diweddodd drwy ddweyd, 'Gwell i ti fod yn golier duwiol yn dy glocs yn y Rhos yma, na bod yn wr boneddig digrefydd yn dy goach yn Llundain.' Wylai mam y gwr ieuanc yn chwerw wrth wrando yr ymadroddion hyny yn cael eu llefaru wrth ei mab, a hyny am y gwelai ynddo arwyddion gwrthgiliad. Goddefer i mi eto gyfeirio at ddull cyffredin Mr. Williams o gario yn mlaen y gyfeillach eglwysig. Yn aml, cynygid gan rai o'r frawdoliaeth, ryw fater ysgrythyrol, athrawiaethol, neu ymarferol i ymddyddan arno. Weithiau dymunai brawd neu chwaer arno bregethu ar ryw destun neillduol, neu ar bwnc o athrawiaeth arbenig, a braidd bob amser, treulid y gyfeillach mewn rhyddymddyddan ar y mater hwnw, a phregethai yntau arno y Sabbath dilynol. Yr oedd arferiad fel hyn yn sicrhau gwell sylw i'r bregeth, ac yn deffroi mwy o ddyddordeb yn ei chynwysiad. Heblaw hyny, yr oedd y cyfryw ddefod yn fanteisiol i fagu yr eglwys yn holl egwyddorion crefydd. Teimlai ambell frawd a chwaer yn llawen iawn, pan glywent Mr. Williams, yn ei bregeth y Sabbath, yn cyfeirio at ryw ddywediad a ddywedasant hwy yn y gyfeillach, pan yn ymdrin â'r pwnc dan sylw. Sicrhai y drefn hon o gadw cyfeillach gydymdeimlad rhwng y pregethwr a'r bobl, a rhwng y bobl a'r pregethwr. Cofiwyfi'r pwnc o weddi gael ei osod i lawr un tro, i fod yn destun ymdriniaeth yn y gyfeillach eglwysig, sef gweddi ddirgel, a gweddi gyhoeddus. Treuliwyd un gyfeillach i ymddyddan ar ddull a threfn gweddi gymdeithasol. Condemniai Mr. Williams feithder mewn gweddi gyhoeddus. Fodd bynag, yr oedd yn bresenol un brawd a adnabyddid fel un diarhebol am ei feithder wrth weddio yn gyhoeddus, ond prin iawn ydoedd efe o ran dim eneiniad oedd arno yn ei holl gyflawniadau cyhoeddus. Pan glywodd efe Mr. Williams yn beio gweddiau hirion, tybiodd y gallai efe ei orchfygu ar dir yr Ysgrythyr, drwy ddywedyd fod gweddi Jacob wedi parhau drwy y nos. 'Wel, ïe, onide,' meddai Mr. Williams, 'Ond cofia di mai gweddi bersonol oedd hono. Gweddia dithau am ddeng munyd yn y capel, a dos adref, a gweddia drwy y nos fel Jacob os myni.' Diau i'r gwr hwnw ddeall oddiwrth y wers uchod, mai un peth yw gweddio yn faith yn gyhoeddus, ac mai peth arall yw gweddio yn faith yn y dirgel. Camgymerir y naill am y llall yn aml. Hyderaf fod yr hyn a grynhoais yma o'm hadgofion am Mr. Williams, a thuedd ynddynt i roddi rhyw syniad aneglur i'r darllenydd o'r hyn ydoedd efe fel gweinidog a bugail, yn enwedig i'r rhai hyny na chawsant erioed gyfleusdra i'w adnabod yn bersonol. Nid yn unig yr oedd Mr. Williams yn weinidog a bugail rhagorol, ond gellid ar amrai gyfrifon edrych arno fel math o esgob yn yr enwad Annibynol yn Nghymru, a hyny oblegid y dyddordeb dwfn, a'r pryder dwys ac eang a ddangosai, ac a deimlai dros yr holl eglwysi yn y Dywysogaeth. Bu yn offerynol yn llaw Duw i blanu llawer o eglwysi, ydynt erbyn heddyw yn llwyddianus, a'r rhan fwyaf o honynt yn alluog i gynal gweinidogaeth eu hunain."

Yn y Wern yn 1803 yr hauwyd yr hedyn Annibynol Cymreig cyntaf yn y cylch hwn, yr hwn a eginodd ac a dyfodd, nes myned yn bren mawr a changhenog, a'i geingciau yn cerdded i wahanol gyfeiriadau cylchynol, ac o'r cyfryw, gellir enwi mewn modd arbenig, yr eglwysi a ganlyn:— Brymbo, Rhosllanerchrugog, Llangollen, Rhuabon, Wrexham (Queen Street), Rhosymedre, Trefor, Fron, Bwlchgwyn, Coedpoeth, Ponkey, Talwrn, Brynteg, Nant, Rhostyllen a'r Gwersyllt. Gyda phriodoldeb y gall yr eglwysi uchod gyfeirio at Eglwys y Wern, gan ddywedyd, "Hon yw yw ein mam ni oll." Yn amser Mr. Williams, yr oedd yn ei eglwys dri o ddiaconiaid, y rhai oeddynt yn sefyll yn amlwg yn mhlith eu cydswyddogion, a hyny o herwydd dysgleirdeb eu cymeriad, cryfder eu synwyr cyffredin, a'u ffyddlondeb digyffelyb yn nghyflawniad eu gwaith, ac yn y rhai yr ymddiriedai Mr. Williams yn drwyadl—sef Mr. Joseph Chaloner yn y Wern, Mr. Richard Pritchard yn y Rhos, a Mr. Robert Cadwaladr yn Harwd. Nis gellir enwi Harwd heb fod llawenydd a diolchgarwch yn llenwi ein calonau, wrth weled fod hon a fu yn llesg, ac yn agos i ddiflanu, wedi myned yn ddwy eglwys lewyrchus. Dyma y rhandir helaeth o'r wlad ag y bu y seraph—bregethwr o'r Wern yn cyhoeddi efengyl Crist ynddo, a hyny mewn anedddai, ysguboriau, ystafelloedd, ac yn y meusydd agored, flynyddau cyn adeiladu y rhan luosocaf o'r capelau a enwyd, na meddwl erioed am danynt. Trwy ymdrech mawr o helbulon yr enillwyd i ni y fath etifeddiaeth deg, a bydded bendith Duw yn gorphwys Ar randir ein hetifeddiaeth ni holl ddyddiau y ddaear." Rhoddwn yma eto, yr hyn a ddywedir gan y Parch. R. Roberts, Rhos, Mr. Williams, yn mhlith pobl ei ofal:—"Nid oedd ymweliadau bugeiliol mewn cymaint bri yn mysg yr Ymneillduwyr, ac yn enwedig yr Annibynwyr yn ei amser ef. Yr oedd ei deithiau mor fynych a meithion, ei lafur yn cychwyn achosion newyddion yma a thraw mor fawr, a'i egni ddiddyledu capeli mor ddiorphwys, a chylch ei weinidogaeth mor eang, yn peri nas gallai ymweled yn fynych â phobl ei ofal. Ond ni omeddai fyned pan y byddai angen am dalu ymweliad â'r rhai a garai mor fawr, oblegid yr oedd efe yn gwir ofalu am y praidd. Gwnai sylw arbenig o blant mewn teuluoedd. Gofalai am ddyfrhau yr egin grawn. Ymddygai yn serchog a thadol at wasanaethyddion, gan ddangos fod ganddo wir ofal am eu buddianau tymhorol ac ysbrydol. Mae rhai cynghorion a roddodd i'r dosbarth yma yn parhau i gyflawni eu gweinidogaeth mewn teuluoedd hyd y dydd hwn. Rhoddai gyfarwyddiadau i rieni ar pa fodd i ddwyn eu plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Clywsom gan hen bobl yr ardal rai o'i gyfarwyddiadau iddynt, ac y maent yn werthfawrocach na gemau. Cyfranai i'r tlawd, rhybuddiai yr esgeuluswyr, dyddanai y claf, a chysurai y methedig. Yr oedd mor llawn o ddoethineb a thynerwch, fel y cyfranai i holl aelodau y teulu yn ol eu hangen. Croesawid ef fel angel Duw ar aelwydydd ei bobl. Dydd y farn yn unig a ddengys ddylanwad da Mr. Williams yn nheuluoedd ein cenedl."

Cefais rai o'r ffeithiau a ganlyn gan y diweddar Mr. Samuel Rogers, Nant, hen bererin anwyl ac aeddfed, a fu farw ychydig amser yn ol, ac efe yn dair neu bedair a phedwar ugain mlwydd oed. Yr oedd ei edmygedd o Mr. Williams tu hwnt i fesur. Ychydig o eisteddleoedd oedd yn nghapel y Wern y pryd hyny, ac am flynyddoedd lawer ar ol hyny, eithr llenwid y llawr gan mwyaf a meinciau, ac yr oedd yno ystof hefyd i gynhesu y capel, a mawr fyddai y crynhoi o amgylch hono pan y byddai yr hin yn oerfelog. Ar nosweithiau yr wythnos yn y gauaf, byddai y praidd bychan yn glwm am hon. Ond yn yr haf eisteddent yma ac acw yn ol eu cyfleusdra, neu eu dymuniad. Nid oedd Mr. Williams mewn un modd yn ofalus am brydlondeb yn dyfod i foddion gras, a byddai yn gyffredin wedi pasio yr amser arno cyn y cyrhaeddai y capel. Marchogaeth y byddai efe fynychaf, a hyny am fod ei ffordd yn mhell. Deuai i mewn yn bwyllus, ac wedi cyrhaedd y set fawr, rhoddai ei ffon o'i law, tynai ei gob uchaf oddi am dano, ac wedi taflu cipdrem ar y defaid oedd eisoes yn y gorlan yn dysgwyl eu bugail, eisteddai yn ei gadair, a phlygai ei ben mewn gweddi ddystaw am fendith Duw ar y cyfarfod. Yna rhoddai benill i'w ganu, darllenai a gweddiai yn fyr ac i bwrpas. Wedi hyny, gofynai i'r brodyr cryfaf ddweyd gair, yr hyn a wnaent yn rhwydd a pharod bob amser. Taflai yntau air rhyngddynt fyddai yn oleuni, yn gysur, ac yn adeiladaeth i'r saint, ac yr oedd yn hynod o fedrus a deheuig i guro yr hoelion adref. Wedi hyny, drachefn, cymerai ei ffon, gan ei gosod drwy ei freichiau ar draws ei gefn, a cherddai yn hamddenol i'r llawr at y defaid a'r wyn gwanaf. Edrycher ar y bugail hwn, gwna gynyg teg at ddwyn yr wyn yn ei fynwes, ac i goleddu y mamogiaid. Symudai rhwng y meinciau gan ofyn adnod, neu air o brofiad, neu benill, neu sylw wedi ei gofio o'r bregeth y Sabbath blaenorol. Nid oedd neb yn cael dianc. Rhoddai wedd deuluol ar y gyfeillach, a byddai yntau ei hun fel tad tyner yn cyfranu i gyfreidiau y teulu yn ddoeth a medrus. Gwyddai amgylchiadau ei bobl mor dda, a meddai adnabyddiaeth mor ddwfn o'r galon ddynol, a gwyddai drwy brofiad beth oedd ymdrechu a llygredd yn ei galon ei hun, fel yr oedd ynddo gymhwysder neillduol i oleuo, cynorthwyo, dyddanu, a chadarnhau y credinwyr. Wedi rhoddi i bawb ei ddogn galwai ar frawd i ddiweddu y gyfeillach. Tystiai yr henafgwr parchus a nodwyd y byddai y cyfarfodydd hyn yn fynych yn fath o nefoedd ar y llawr, ac y byddai ynddynt yn cael ei wroli a'i arfogi i ymladd â Satan, cnawd, a byd. Bellach, maent wedi cyfarfod mewn gwlad lle na bydd y gelynion a grybwyllwyd, na'r un gelyn arall byth yn eu poeni.

Yr oedd yr elfen wleidyddol yn gymharol dawel yn Nghymru yn ei ddyddiau ef, ac ni wyddid nemawr am y Radicaliaeth sydd erbyn heddyw mor amlwg yn y byd a'r eglwys hefyd. Teyrnasai gweinidogion y cyfnod hwnw fel breninoedd yn eu heglwysi, ac anfynych iawn y byddai neb yn cwyno ei fod yn cael ei yspeilio o'i ryddid a'i hawliau. Barnai aelodau y dyddiau hyny, mai eu dyledswydd a'u braint hwy oedd byw yn dduwiol yn Nghrist Iesu, ond tybia llawer yn ein dyddiau ni, eu bod wedi eu galw i lywodraethu. Er fod yr eglwysi oeddynt yn uniongyrchol dan ei ofal, wedi cynyddu gydag ef, yr oeddynt yn meddu y parch dyfnaf iddo, a'r ymddiriedaeth lwyraf ynddo, eto dywedir ei fod mor deg a boneddigaidd, ac yn gweithio allan egwyddorion ein Cynulleidfaoliaeth yn ymarferol mor ddibartïaeth ac esmwyth, fel na feddyliodd neb yn maes ei lafur erioed ei fod yn chwenych y blaen." Yr oedd y llywodraeth mor esmwyth, fel na wyddid ei bod. Teyrnasai Mr. Williams mewn cyfiawnder, doethineb, cariad, a phwyll, ac am hyny bu heddwch mawr.

Er ei fod yn Annibynwr argyhoeddedig a chryf, eto yr oedd yn hynod rydd a diragfarn at enwadau eraill. Y mae Dr. Owen Thomas, Liverpool, yn ei gofiant ardderchog i'r diweddar Barch. John Jones, Talsarn, yn cyfeirio at hyn, ac yn dywedyd ei fod "Yn un nodedig o rydd a diragfarn, heb wybod dim, gan belled ag y gallwn ni ganfod, am deimlad sectol," ac ystyriai Dr. Thomas mai "rhagorfraint fawr" ydoedd iddo ddyfod i gyffyrddiad âg ef yn y dref hono." Er dangos mor ryddfrydig ydoedd efe at enwadau eraill, ni raid ond hysbysu ddarfod iddo addaw myned i bregethu i'r Primitive Methodists yn y Beast Market, Wrexham, ond pan ddeallodd y cyfeillion Annibynol yn y dref hono am ei fwriad, anfonasant ddau genad ato i'r Talwrn i ddeisyfu arno yn daer i alw ei addewid yn ol, a pheidio a myned i'r Beast Market. Buont yn ymliw âg ef yn hir, ond nid oedd dim a ddywedent wrtho yn llwyddo i beri iddo newid ei gwrs. Ei destun yno ydoedd, "Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes," &c. Arddelwyd y gwirionedd o'i enau yn Wrexham y tro hwnw mewn modd nerthol iawn. Yn mhen blynyddoedd ar ol hyny. daeth gweinidog perthynol i'r Ranters i Wrexham i areithio, ac yn nghwrs ei araeth, dywedodd, mai o dan bregeth o eiddo Mr. Williams yr argyhoeddwyd ef; a thybir yn lled sicr mai o dan y bregeth hono yn y Beast Market y cymerodd hyny le. Yr oedd un o'r enw Mrs. Mary Griffiths yn byw yn y Frondeg tua'r adeg yma, yr hon oedd yn fodryb chwaer ei dad i Mr. B. Harrison, C. C., Coedpoeth, ac i'r hon yr oedd merch yn gwasanaethu ar y pryd yn Wrexham; yr hon pan yno a ymunodd â'r Ranters, ond pan ddeallodd ei mam dduwiol hyny, teimlodd i'r byw, a phwysodd y peth mor drwm ar ei meddwl, nes ei bod mewn pryder dwys iawn yn nghylch ei merch, ond cadwasai y cwbl yn ei mynwes ei hun hyd nes nad allasai ymatal yn hwy, ac ymaith a hi, gan fynegu ei thrallod i Mr. Williams. Dywedodd yntau, "Y maent yn rantio tua'r nefoedd, ac ni allwn ninau yr Annibynwyr, ddysgwyl lle gwell; felly Mari, gad iddi." Ac ar hyny, tawelodd meddwl y fam drallodus, ac ni chafodd achos i fod yn athrist mwy yn nghylch y mater hwnw. Yr oedd Mr. Williams yr un mor ryddfrydig a pharod i gynorthwyo pob enwad gartref yn gystal ac oddicartref, fel y dengys yr hyn a ganlyn, a anfonwyd i ni gan y Parch. J. Rowlands, Talsarn—"Yn wyneb prinder gweinidogion i orphen cyfarfod pregethu perthynol i'r Wesleyaid yn y Rhos, ceisiwyd gan Mr. Williams bregethu y noson olaf gydag un o weinidogion yr enwad parchus hwnw. Pregethai y gwr dyeithr yn nghyntaf, yn ddoniol a hyawdl. Wedi iddo orphen, esgynodd Mr. Williams i'r areithfa, a phregethodd "bregeth y mamau," fel y gelwid hi. Un o'r pethau dynodd ei sylw gyntaf wedi dechreu pregethu, ydoedd gweled un o'i wrandawyr cyffredin yn y Rhos, yn eistedd ar ymyl yr oriel, ac yn gwrando yn y modd mwyaf astud, ac wrth fyned yn mlaen taflai ei lygaid yn awr a phryd arall ar ei hen wrandawr, a pharhai yntau i wrando yr un mor astud, ac yn y man gwelai ddagrau yn rhedeg o'i lygaid, a llawenhai yr hen weinidog wrth weled un o'i wrandawyr cyson dan y fath deimladau gobeithiol. Daeth y dyn ato ar derfyn y gwasanaeth. Cyfarchai Mr. Williams ef yn garedig, a datganai ei lawenydd o herwydd iddo ei weled yn gwrando mor astud, a than y fath dimladau. "Yn wir," ebai y dyn, "Yr oeddwn i yn teimlo yn angerddol hefyd. Yr oedd y gwr dyeithr yna wedi pregethu mor rhagorol o'ch blaen, fel yr oedd arnaf ofn yn fy nghalon i chwi fethu cael hwyl, ac yr oeddwn yn wylo o lawenydd wrth eich gweled yn cael nerth." Dengys yr amgylchiad uchod, nid yn unig ryddfrydigrwydd a nerth Mr. Williams, fel pregethwr, ond hefyd, sel un o'i wrandawyr cyson dros anrhydedd ei weinidog mewn adeg a ystyriai efe oedd iddo yn awr danllyd o brawf, ac wylai o lawenydd wrth ei weled yn dyfod drwy ei brawf mor ogoneddus.

Nodiadau[golygu]

  1. Testun Mr. Williams yn yr oedfa hon oedd 1 Pedr i. 18—19. Dichon mai yn y Gymanfa a gynaliwyd yn Llanerchymedd yn 1828 y pregethodd efe oddiwrth y testun uchod.
  2. Gwel Cofiant y Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau, tudal. 157—158.