Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/O'r Oedfa Yn Nghapel Y Wesleyaid Yn Y Rhos Hyd Ei Ymadawiad O'r Talwrn

Oddi ar Wicidestun
O'r Oedfa Yn Aberdaron Hyd Yr Oedfa Yn Nghapel Y Wesleyaid Yn Y Rhos Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

O'i Ymadawiad O'r Talwrn Hyd Ei Symudiad i Liverpool

PENNOD IX.

O'R OEDFA YN NGHAPEL Y WESLEYAID YN Y RHOS HYD EI YMADAWIAD O'R TALWRN. 1831—1834.

Y CYNWYSIAD—Tystiolaeth yr Hybarch Humphrey Ellis, Llangwm, am MR. WILLIAMS fel pen teulu—Ysgrifau y Parch. J. Thomas, Leominster, ar Robert Jones, Y Stryd—Llythyr yr Hybarch D. M. Davies, Talgarth—M. Williams yn pregethu yn Nghapel Iwan, Sir Gaerfyrddin Cymanfa Trelech —Mr. Davies, Talgarth, yn pregethu yn y Wern—Morwyn Mr. Williams yn ceisio ganddo ail adrodd un pen o'i bregeth iddi—Tystiolaethau Miss Jones, Plas Buckley, a Mr. William Jones, Rossett, am grefyddolder Mr. Williams yn ei deulu—Tystiolaeth Mrs. Mason am bregethau effeithiol o eiddo Mr. Williams Dau ddyn annuwiol yn teimlo cywilydd o'u buchedd wrth ei wrando yn pregethu—Teithiau mynych ein gwrthddrych yn y cyfnod hwn—Pregethu yn Nghwmeisian ganol—Marwolaeth bruddaidd y Parch. David Jones, o Dreffynon—Mr. Williams yn Swyddi Meirionydd a Threfaldwyn yn areithio dros ryddhad y caethion yn y West Indies—Cymanfa Colwyn—Marwolaeth y Parch. John Roberts o Lanbrynmair—Miss Williams yn cychwyn "Boarding School" yn ei chartref Mr. Williams a'i deulu yn symud i fyw o'r Talwrn i Fryntirion Bersham—Gweddi effeithiol o'i eiddo wrth ymadael

YN y bennod flaenorol, cawsom olwg ar Mr. Williams yn nghyflawniad ei waith fel gweinidog a bugail yr eglwysi. Trwy garedigrwydd yr Hybarch Humphrey Ellis, Llangwm, galluogir ni yma i weled ei ymddygiad tadol yn ei deulu, a chariadlawn at bawb a drigent yn ei dŷ. "Bu'm yn was i'r anwyl Barchedig William Williams o'r Wern a'i deulu yn y flwyddyn 1831, ac am ran o'r flwyddyn 1832. Arferai godi am chwech ar y gloch yn yr haf, ac am saith yn y gauaf. Darllenai am awr a haner cyn ei foreubryd bob dydd. Yn ddioedi ar ol boreubryd, ymgynullem oll i gegin y teulu i'r addoliad teuluaidd—Mr. a Mrs. Williams, y ddwy ferch, Eliza a Jane, a'r ddau fab, James a William, a'r ddwy forwyn, Margaret a Beti, ac Wmffra y gwas. Eisteddai Mr. Williams wrth ben y bwrdd, a darllenai ran o'r Ysgrythyr yn bwyllog ac ystyriol. Gwnelai sylw eglurhaol a chymhwysiadol yn aml ar ol Yn darllen, yna gweddïai yn syml ac yn daer. Saesonaeg y cynelid yr addoliad boreuol, a hyny am fod Mrs. Williams a'r plant oll yn fwy cynefin â'r aeg hono nag oeddynt â'r Gymraeg. Diolch heddyw am Saesonaeg eglur a dirodres Williams o'r Wern. Yr oedd yn hawdd i'r gwas a'r forwyn ddeall am ba beth y gweddïai, a thra rhagorai ar y Saesonaeg cyffredin oedd i'w glywed y pryd hwnw o Rhosllanerchrugog i Benarlag. Wedi yr addoliad boreuol, treuliai Mr. Williams ei amser yn ei fyfyrgell i ddarllen a myfyrio hyd haner dydd. Arferai ysgrifenu prif sylwadau ei bregeth ar lechen ddeublyg ar ffurf llyfr, ac wedi ei chau, byddai y bregeth yn ddiogel ar y ddau wyneb mewnol y rhagymadrodd a'r casgliadau ar y ddau wyneb allanol. Cedwid hwynt yno hyd foreu Llun, ac os byddai yn eu gweled o werth, ysgrifenai hwynt ar ddernyn o babyr bychan, a golchid y llechen er gwneuthur lle i ysgrifenu y gweledigaethau ar gyfer y Sabbath dyfodol. Yn y Gymraeg y dygid yn mlaen yr addoliad teuluaidd nos Sabbath. Wedi i'r addoliad fyned drosodd, byddai Mr. Williams yn holi y plant a'i wasanaethyddion am waith y dydd. Un tro holai ei fab William beth oedd y pwnc a drinid yn yr ysgol, ac hefyd, am ba beth y gweddiwyd, ac y pregethwyd yn ystod y dydd; ac a oedd rhyw sylw wedi aros yn ei gof ef? Nid oedd y bachgen ond o wyth i naw oed ar y pryd, ac nid oedd wedi dal na chofio dim oll a fu dan sylw yn ystod y Sabbath hwnw—dim, pa fodd bynag, fel ag i allu adrodd dim o'r hyn a wrandawodd. Yr oedd gan y plant fules fechan i'w cario i'r capel, a lleoedd eraill. Ymdrechai y tad argraffu ar feddwl y bachgen, fod ganddo ddeall a chof, ac y dylasai eu harfer, a'i fod tra heb gofio dim felly, yn darostwng ei hunan yn debyg i'r fules fechan oedd yn eu cario hwy i'r capel. Dywedai y tad, 'Pe y bawn yn myned a hi i'r capel, ni wnai hithau ond dyfod oddiyno heb ddeall na chofio dim.' 'Wel, ïe, tada,' meddai y bychan, 'byddwn yn debyg iddi, os gwnai hi beidio a brefu, yr oeddwn i yn ddystaw yno.' Ar hyny, chwarddodd Mrs. Williams, ac hefyd ninau oll, a bu dipyn yn galed ar Mr. Williams wrth geisio llywodraethu ei hun. Trwy yr arholiadau hyn ar yr aelwyd, dyfnheid, ac argreffid yn y meddwl y pethau fuont o dan sylw yn y cysegr. Wrth adgofio y dyddiau hyny, yr wyf yn teimlo fod yr addoliad teuluaidd ar aelwyd Williams o'r Wern, yn arbenig ar nos Sabbathau, yn gyfryw fel y caem ynddo y gwin goreu yn olaf yn aml.

aml. Daliasom grwydryn unwaith, yr hwn oedd wedi ymwthio drwy ffenestr—ddrws i'r ysgubor, a bu yn cysgu yn y gwellt dros y nos, heb fod neb perthynol i'r ty yn gwybod dim am dano. Pan aethom yno yn y boreu, gan nad oedd wedi cwbl oleuo, dychrynwyd ni yn ddirfawr. Rhedodd William, y bachgen ieuengaf, i hysbysu ei dad o'r ffaith. Daeth Mr. Williams yno yn bwyllog iawn, a gofynodd amrai gwestiynau i'r dyn yn hynod o dyner a charedig, ac wedi cael boddlonrwydd yn ei gylch, rhoddodd gynghorion buddiol iddo, ac aethpwyd ag ef i'r ty i gael cwpanaid o botes cynhes. Ymadawodd y crwydryn druan, dan ddiolch a bendithio pawb a phob peth perthynol i'r teulu hwnw. Yr oedd ffair y gwanwyn yn ffair fawr a phwysig iawn yn Wrexham driugain mlynedd yn ol. Parhai am o ddwy i dair wythnos. Byddai gwneuthurwyr a gwerthwyr nwyddau masnachol Gogledd Lloegr a Gogledd Cymru yn dyfod iddi i brynu nwyddau at yr haf. Arferai arddangosfeydd ddyfod i'r ffeiriau crybwylledig, a mawr oedd y cyrchu iddynt. Daeth yno ddwy yn ystod fy arosiad i gyda 'gwr Duw.' Trwy fod Mr. Williams o gartref ar daith bregethwrol tua'r Bala a Dolgellau ar y pryd, gofynais i Mrs. Williams am ryddid i fyned i'r ffair, a hyny wrth gwrs ar Ddydd Llun pawb, fel y gelwid ef, a chaniatawyd i mi fy nghais. Wrth syllu ar newydddeb golygfeydd yr arddangosfa, arosais yn rhy hir yn ffair gwagedd y bobl ieuainc, tebyg i Vanity fair John Bunyan, fel erbyn i mi gyrhaedd adref, yr oedd yn naw ar y gloch. Ac i wneuthur fy ynfydrwydd yn fwy atgas yn fy ngolwg, ac yn waeth, dygwyddodd fod Mr. Williams wedi dyfod adref yn gynar y prydnawn hwnw, ac yr oedd ef a'r ferlen yn dra lluddedig ar ol eu taith. Wedi deall ei fod ef wedi cyrhaedd adref, aethum ato i'r ystabl yn euog nodedig. Gofynodd yn ddifrifol iawn i mi, Ai dyma'r amser yr wyt ti yn dyfod o'r ffair?' Dywedais inau mai fel hyn y dygwyddodd, a bod yn ddrwg iawn gennyf am y tro, ac os y gwelai yn dda ganiatau i mi, y gwnawn i orphen ymgeleddu a phorthi y ferlen. 'Wel, gan dy fod ti fel ene, mi gei wneud, ond pe y buaset ti o ysbryd arall, buaswn yn ysgrifenu boreu yfory at dy hen dad duwiol, i'w hysbysu fy mod yn ofni dy fod yn ymwylltio.' Ac wedi hyny aeth pob peth drosodd. Ceryddai yn ddifrifol, grasol, ac enillgar. Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar heddyw am ei gerydd i mi dros driugain mlynedd yn ol, 'Cured y rhai cyfiawn fi yn garedig, a cheryddant fi, ac na thored eu holew penaf hwynt fy mhen na fy nghalon.' Ymwelai â chleifion yr eglwysi wrth alwad, ac nid arferai dreiglo o dŷ i dŷ yn ddibwrpas, ac i wag siarad. Ymweliadau Gwr Duw' ydoedd ei ymweliadau ef â phobl ei ofal. Byddai yn rhydd a chartrefol nodedig yn mysg ei swyddogion a'r holl aelodau. Bum unwaith mewn wylnos yn y Rhos gyda Mr. Williams. Ychydig iawn oedd wedi dyfod yn nghyd, a hyny am fod clefyd peryglus yn y ty, ac nid oedd neb o'r rhai a ddaethent i'r cyfarfod yn fedrus ar ddechreu canu. Dechreuodd yr hen ddiacon ffyddlon Mr. Richard Pritchard ganu penill, a hyny heb roddi y geiriau allan yn gyntaf. Rhoddwch benill allan Richard, gael i ni ganu gyda chwi,' meddai Mr. Williams. Dyrysodd hyny y dechreuwr yn hollol, ac nis gallodd fyned yn mhellach. Wrth fyned tuag adref, dywedodd Mr. Williams, 'Wel, dechreuwr canu sal iawn ydych chwi, Richard.' Yr wyf gystal a chwi bob dydd,' meddai Mr. Richard Pritchard, yn llon ddigon. Yn Llanbrynmair y bu tro go ryfedd yn fy hanes i,' meddai Mr. Williams. 'Yr oedd y capel yn orlawn bobl, a'r fynwent wedi ei gorchuddio gan y dyrfa fawr, a minau yn y ffenestr. Yr oedd y dechreuwr canu oddifewn i'r capel, a phan ddechreuodd y dôn, cymerais inau hi megys o'i enau drwy y ffenestr, er mwyn i'r gynulleidfa oddiallan ei deall, a bu yno ganu mawr arni." Dywedodd Mr. Richard Pritchard dan wenu, Yr ydych fel Seintiau y dyddiau diweddaf, bydd y rhai hyny yn gwneuthur gwyrthiau rhyfedd draw yn mhell tua Merthyr Tydfil, ond yn gwneuthur dim tua'r Rhos yma.' Ar hyny cydchwarddodd y ddau, canys yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol ac anwyl iawn. Cydgerddwn dro arall o'r gyfeillach grefyddol o'r Rhos gyda Mr. Williams. Ar y ffordd gwelai ymladdfa ffyrnig a chywilyddus yn myned yn mlaen cydrhwng dau ddyn ieuainc a adwaenai yn dda. Penderfynodd yn y fan gyfryngu rhyngddynt. Gofynodd i un o honynt, 'Aros di, ai nid hon a hon yw dy fam di?' Wedi cael atebiad cadarnhaol gan y bachgen, dywedodd, Dear me, beth pe bai dy fam dduwiol yn dy weled yn y drefn yma?' drefn yma? Erfyniodd yn daer ar y bachgen i fyned adref, ac wedi hir berswadio, cychwynodd, ond gwaeddai y lleill ar ei ol, gan ddanod iddo ei lwfrdra. Dywedodd y bachgen wrth Mr. Williams, Y maent yn gwaeddi llwfryn arnaf Mr. Williams.' 'Na hidia mo honynt' meddai yntau, 'tyred di gyda mi.' Ac er mor anhawdd oedd hyny i'r gwr ieuanc, eto, bu yn ddigon gwrol a doeth i fyned i ganlyn 'Gwr Duw,' nes ei fod allan o olwg ei wrthwynebydd, a'r hen gwmni drygionus. Yn awr, nid dyn cyffredin a allasai ymyryd yn y fath gweryl, heb i hyny beryglu llwyddiant ei amcan, a lleihau ei ddylanwad, ond llwyddodd ef. Yn wir, yr ydoedd ef yn fath o Ynad Heddwch mewn byd ac eglwys. Yr oedd gwynfydedigrwydd y tangnefeddwyr (peacemakers) yn eiddo arbenig iddo ef. Er fod dros driugain mlynedd wedi myned heibio er pan yr oeddwn yn ei wasanaeth, yr wyf heddyw yn diolch am fanteision a bendithion y tymhor a dreuliais dan gronglwyd yr enwog William Williams o'r Wern." [1] Gellir ychwanegu yr un gyffelyb werthfawr dystiolaeth o eiddo eraill a fuont yn ngwasanaeth yr un gwr, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn o ysgrifau dyddorol y Parch. J. Thomas, Leominster (gynt o'r Wern) ar "Robert Jones Y Stryd," y rhai a welir yn y Dysgedydd am Chwefror a Mehefin, 1875:—'Yr oedd y blynyddoedd y bu R. Jones yn ngwasanaeth Mr. Williams yn gyfnod arbenig yn ei fywyd—yn gyfnod yr edrychai yn ol arno fel rhan ddedwyddaf ei oes y soniai lawer am dano, ac yr ymffrostiai ychydig ynddo. Nid oedd dim yn sirioli ei feddwl yn fwy na'i introducio i weinidog dyeithr fel hen was i Mr. Williams o'r Wern, ac ni welsom yr un nad oedd yn dda ganddo gael ysgwyd llaw âg ef. Y mae yn gof genym ddweyd wrtho unwaith, Y buasai yn dda gan fy nghalon pe buasai pawb sydd yn proffesu eu bod yn ngwasanaeth Iesu yn teimlo mor falch o'i wasanaeth ag y teimlai ef ei fod wedi bod yn ngwasanaeth Williams o'r Wern.' 'Yr oedd Mr. Williams yn feistr da, da iawn,' oedd yr ateb, ond yn right siwr, y mae yr Iesu yn llawer gwell. Mr. Williams oedd y meistr tebycaf iddo a welais erioed; ond y mae yr Iesu mawr wedi gwneud mwy drosof, a rhoddi mwy i mi nag a fedrai ef, er cystal oedd. Y mae yn rhaid i mi ddweyd yn dda am Mr. Williams, ac yn llawer iawn gwell am yr Iesu." Meddyliais ar y pryd, a llawer gwaith wedi hyny, fod cysylltiad penau teuluoedd crefyddol â'u gwasanaethyddion yn gyfleusdra nodedig iddynt i ddyrchafu crefydd, ac mor ddymunol y buasai pe y gallasai pob gwas a morwyn edrych yn ol ar gyfnodau eu gwasanaeth mewn teuluoedd crefyddol gyda y fath barch i'w meistr ac i'w grefydd ag yr edrychai ef ar gyfnod ei arosiad yn nheulu Mr. Williams. Bu y cysylltiad hwnw yn fantais anmhrisiadwy iddo fel crefyddwr yn mhob ystyr. Y diwrnod cyntaf wedi ei ddyfodiad i'r Talwrn, daeth Mr. Williams ato cyn iddo gychwyn allan ar ol ciniaw, a dywedodd, Robert, cais dy Feibl, a 'dos i'r ysgubor (yr hon oedd ar ganol cae ychydig oddiwrth y ty), a chymer awr ar ol dy giniaw bob dydd i'w ddarllen, ac na hidia ar yr awr hono, beth fyddo eisiau ar y merched yma. Tydi pia hi, a gwna yn fawr o honi i ddarllen dy Feibl.' Mynych yr adroddai y ffaith uchod gyda'r dyddordeb mwyaf. Byddai, yn ei gylch, yn cael cymeryd ei ran yn y ddyledswydd deuluaidd, a byddai Mrs. Williams yn bur aml, meddai, yn ei gadw ar ol yn yr ystafell i wastadhau y camsyniadau fuasai wedi eu gwneud yn y darllen, ac yr oedd parch yn ei galon iddi hyd ei fedd am wneuthur hyny. Un boreu yr oedd yn darllen Rhuf. xiii. 8, ac fel hyn dygwyddodd iddo ddarllen, 'Na fyddwch yn nyled neb o ddimai, ond o garu bawb eich gilydd,'—o ddimai yn lle o ddim. Wedi gorphen y ddyledswydd, a'r teulu fyned allan, ceisiodd Mrs. Williams ganddo droi i'r adnod a'i darllen drachefn, ac yntau yn llai hunanfeddianol na'r tro cyntaf, am y gwyddai fod gwall yn rhywle, a ddarllenodd yr un modd yn union drachefn. 'Nid fel yna y mae Robert,' ebai Mrs. Williams, 'Ond na fyddwch yn nyled neb o ddim.' 'Ie, yn right siwr, meistres bach, felly y mae hefyd.' 'Wel, Robert,' ebe hithau, Y mae llawer wedi gwneud mwy o gam â'r Ysgrythyr na'r un a wnest di y boreu hwn, ond y mae meddwl y darlleniad cywir yn well na meddwl dy ddarlleniad di hefyd. Y mae o ddim yn llai nag o ddimai. Dro arall darllenai Mat. vi. 19: Na thrysorwch iwch drysorau ar y ddaear.' Swniai y gair'iwch' yn 'uwch,' gan roi sain u pur eglur i'r i. Cafodd ei athrawes ychydig mwy o drafferth y tro hwn i'w gael i weled ei gamsyniad, ond fe'i deallodd, ac fe'i cofiodd. Daeth yn ddarllenwr rhwydd a deallus ar ol hyn, ac yn wir fe ddylasai, wedi bod flynyddau dan ddysgyblaeth; ac y mae yr engreifftiau a nodwyd yn rhoddi rhyw syniad am ei natur a'i manylwch. Yr oedd pwys yn cael ei roddi, nid yn unig ar ddarllen y Beibl, ond ar ei ddarllen yn iawn. Byddai yn aml yn adrodd y wers a roddodd Mr. Williams iddo ar weddïo yn gyhoeddus. mae dysgu dynion i weddïo yn sicr yn beth pur bwysig, ac yn bur anhawdd i'w wneud. Y mae digon o eisiau yn aml, ond bydd genym ofn gwneud mwy o ddrwg i'r gweddïwr nag o les i'r weddi. Y mae y wers hon mor nodweddiadol, fel y bydd yn dda gan y darllenydd ei chael, hyd y gallom, yn ngeiriau yr athraw a'i rhoddai, a'r dysgybl a'i derbyniai:—Yr oeddwn un boreu,' ebai R. Jones, 'wedi defnyddio enw y Brenin Mawr yn rhy aml yn fy ngweddi, nid oeddwn yn gwybod hyny ychwaith ar y pryd. Yn mhen dwy awr daeth Mr. Williams ataf i'r ysgubor, yn siriol iawn ei feddwl, ac wedi eistedd i lawr ar swp o wair, dywedodd, "Wel, Robert, gorphwys ychydig, a gâd i ni ymddyddan tipyn am grefydd; ac wedi i mi droi y gwaith o'm llaw, ac eistedd, dywedai, 'Beth feddyliet ti pe cymerem weddi a gweddio yn destun i ymddyddan arno?' Boddlawn iawn yn right siwr, Mr. Williams, ebai finau, ac yn dechreu meddwl hefyd fy mod wedi gwneud camgymeriadau y boreu hwnw mewn rhywbeth na wyddwn i ar y ddaear beth. A ddarfu i ti sylwi erioed,' meddai, 'ar weddi yr Arglwydd, fel y gelwir hi? Y mae yn cael ei galw yn weddi yr Arglwydd, cofier, nid am fod yr Arglwydd Iesu yn ei harfer yn llythyrenol a dieithriad, fel y mae wedi ei chofnodi yn ei weddiau ei hun. Nid oes genym yr un enghraifft iddo ei defnyddio felly gymaint ag unwaith. Y mae yn cael ei galw gweddi yr Arglwydd, ni feddyliwn, am ei bod yn gynllun addas o drefn a materion gweddi a ddysgodd yr Arglwydd i'w ddysgyblion. A ddarfu i ti sylwi erioed nad yw enw y Brenin Mawr yn cael ei ddefnyddio ynddi ond unwaith o gwbl, a hwnw yr enw sydd yn dynodi y berthynas anwylaf ac agosaf sydd rhyngddo a'i bobl—"Ein Tad".' Y mae llawer iawn wrth weddio—o ddiffyg ystyriaeth yn ddiau yn defnyddio yr enw goruchel yn rhy aml fel geiriau llanw—yn aml ddweyd Ein Tad nefol, i aros i gael rhywbeth arall i'w ddweyd; a byddaf yn ofni y bydd hyny yn un ffordd y cymerir ei enw yn ofer gan ddynion.' 'Wel, Mr. Williams anwyl, feddyliais i erioed am y peth yna o'r blaen; ac yr wyf yn gweled y peth yn right yr enw oleu,' meddwn inau. 'Wel, machgen i,' meddai yntau, 'ti weddiaist ti yn dda iawn heddyw y bore, ond yr oeddwn i yn teimlo dy fod yn arfer yr enw goruchel yn rhy aml o lawer. Mi wn y cymeri di yr awgrymiad yn garedig a diolchgar; a chan ein bod yn ymddyddan am weddio, y mae yn beth. gweddus iawn i ni bob amser drefnu ein mater ger ei fron, er yr edrych efe heibio i lawer o annhrefn lle y byddo calon ddidwyll a gwresog. ydym yn trefnu ein ceisiadau gerbron dynion, a dylem drefnu ein gweddïau yn sicr gerbron Awdwr pob trefn; trefnu ein cyfaddefiadau, ein herfyniadau, a'n diolch; a threfnu y cwbl yn y geiriau mwyaf priodol; nid amgylchu môr a thir, a dweyd pob peth ar draws ac ar hyd, ac heb ddweyd ond ychydig neu ddim wrth Dduw, wedi y cwbl. Mae yr Iesu, sylwa di, yn anghymeradwyo gweddiau hirion gweddiau yr amleiriau. Y mae y weddi yn myned yn hir, fynychaf, am nad yw wedi ei threfnu. Lle y mae gwir deimlad o'r angen, gellir dweyd y neges mewn amser byr, ac mewn geiriau byr. Y mae llawer yn nacâu myned i weddi yn gyhoeddus am yr ofnant na fedrant weddio yn ddigon hir: craffa di, nid yw yr Arglwydd erioed wedi achwyn gymaint ag unwaith fod gweddi neb yn rhy fyr, ond y mae yn cwyno yn aml fod gweddiau llawer yn rhy hir. Peth gwrthun iawn hefyd yw rhoddi hysbysiadau (informations) o wahanol bethau i'r Hollwybodol; yr wyf wedi teimlo lawer gwaith fod dynion pan yn gwneud felly am wneud show o'u gwybodaeth yn fwy na dim arall; a buom yn meddwl droion pe buasai pagan o Affrica yn dygwydd clywed llawer Cristion yn gweddio, y buasai raid iddo feddwl mai rhyw Dduw anwybodus iawn yw ein Duw ni. Dylid bod yn wyliadwrus iawn, cofier, rhag defnyddio geiriau sathredig ac isel mewn gweddi. Gallant weithiau daro yn hapus ar y teimlad mewn adegau hwylus a chynhyrfus, ond, yn y cyffredin, dolurio teimlad y gynulleidfa a darostwng y gweddiwr a'r weddi a wnant. Gad di i'r teimlad didwyll bob amser ddethol y fendith, a gofala fod y deall yn dethol y geiriau mwyaf priodol a gweddus i'w cheisio gan Dduw. Enaid y weddi yw enaid yn teimlo. Bellach y mae yn rhaid i mi fyned; dos dithau at dy waith, a meddwl lawer am y pethau hyn." Felly y terfynodd cyfeillach yr ysgubor y boreu hwnw, wedi rhoddi cyfeiriad da i feddwl y llanc, a gadael argraff arno barhaodd yn fyw yn ei brofiad hyd ddydd ei farwolaeth.

Dengys yr uchod mai meistr ardderchog oedd ein gwrthddrych, ac mai bendigedig yw y gweision a'r morwynion hyny y disgyna eu llinynau mewn lleoedd mor hyfryd a manteisiol er meithrin pob rhinwedd a daioni ag ydoedd y teulu dan sylw. Gan fod yr Hybarch D. M. Davies, Talgarth, mewn llythyr gwerthfawr o'i eiddo atom, yn cyfeirio at yr arferiad o arholi y gwasanaethyddion yn nhy Mr. Williams, am waith y Sabbath, dod- wn yr eiddo yntau yn y benod hon, "Gwrandewais Mr. Williams amryw droion. Yr wyf yn meddwl fod dros driugain mlynedd er y clywais ef yn pregethu yn nghapel Iwan, Sir Gaerfyrddin. Aeth amryw o ieuenctyd o ardal y Drewen un boreu Sabbath yno i'w wrando. Bu raid iddo bregethu yn y ffenestr. Ei destun oedd, 'Ac âr yr annuwiol sydd bechod, aberth yr annuwiol sydd ffiaidd, pa faint mwy pan yr offrymant gyda meddwl drwg.' Dywedodd fod yr annuwiol yn. pechu wrth aredig, sef wrth gyflawni y gwaith mwyaf di-brofedigaeth i bechu gydag ef o bob gwaith. Gall dyn weddio o un cwr i'r cae, nes myned i'r cwr arall, ond fod yr annuwiol yn pechu wrth aredig, ac wrth bob gwaith arall hefyd. Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd, y mae yn pechu wrth weddio. Wel, meddai y dyn, os wyf yn pechu wrth weddio, mae yn well i mi beidio a gweddio o gwbl. O, na, yr wyt yn pechu mwy wrth beidio, yr wyt felly yn rhoddi dau gam i uffern yn lle un. Wel, os wyf fi yn pechu wrth weddio, ac yn pechu mwy wrth beidio, beth a wnaf? I'r fan yna yr wyf am dy gael, ac y mae yr ateb wrth law, 'Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi.' Pregethai mor nerthol. y waith hono, nes y crynai y rhai a wrandawent arno. Nid wyf yn cofio gwell oedfa erioed. Wedi hyny, cafwyd cymundeb nodedig o effeithiol, Y pryd hwnw y clywais gyntaf hanes y ferch ieuanc hono, yn rhedeg dros y mynydd i gyfarfod ei chyfeillion mewn rhywle dirgel i gofio Angeu y Groes. Yr oedd dynion y pryd hyny yn hela crefyddwyr i'w cosbi. Cyfarfu hithau â dau o'r erlidwyr, a gofynasent iddi, I ba le yr oedd hi yn myned? O, ebe hi, 'brawd i mi sydd wedi marw, a heddyw y maent yn darllen ei ewyllys, ac yr wyf finau yn myned i glywed beth y mae ef wedi ei adael i mi.' Trydanodd yr hanesyn hwnw yr holl dorf. Pwy ond yr Arglwydd a allasai gyfarwyddo y ferch ieuanc hono i ateb mor ddoeth. Clywais Mr. Williams yn pregethu mewn cymanfa yn Nhrelech,[2] a hyny ar ddiwrnod gwlawog anghyffredin. Yr oedd y gweinidogion a'r bobl oll yn ddigalon nodedig. Bu Mr. Rowlands, Cwmllynfell, dri mis yn parotoi pregeth ar Gyfiawnhad, ac yr oedd dysgwyl mawr am y bregeth, a phregethwr rhagorol ydoedd Mr. Rowlands hefyd, ond yn y gymanfa hono, yr oedd yn llai nag ef ei hunan. Pwnc Mr. Williams y tro hwnw oedd, Mawredd Duw'—Mawredd naturiol Duw, a Mawredd moesol Duw. Traethail bethau gogoneddus ar y naill adran a'r llall o'i bwnc pwysig. Cyfododd yr oedfa hono y gymanfa i enwogrwydd anghyffredin, ac nid ä byth yn anghof gan neb oedd yno yn gwrando. Pan oeddwn yn yr ysgol yn y Neuaddlwyd, aethum i a brawd arall ar daith i bregethu, ac ar un Sabbath yr oeddwn yn ardal y Wern, ac yn pregethu yno. Dygwyddodd i mi fod yn aros yn y Rhos gydag un o aelodau yr eglwys Annibynol yno. Ar ol yr oedfa gwelwn ferch ieuanc yn rhedeg ar fy ol, ac yn gofyn yn ostyngedig iawn, a wnawn i ddywedyd wrthi un pen o'r bregeth, yr hwn a fethodd ei gael yn ei chof. Bydd fy meistr,' meddai, 'yn gofyn i mi heno am y testun a'r bregeth, ac yr wyf yn cofio y cwbl ond un pen i'r bregeth.' Synais at y ferch ieuanc, a theimlais barch mawr iddi. Erbyn deall, morwyn i Mr. Williams ydoedd y ferch hono. Gwynfyd na bai pob pen teulu yn arfer defod o'r fath gyda phob gwas a morwyn. Diau y ceid ffrwyth lawer oddi- wrth y cyfryw arferiad."

Soniasai y ddiweddar Miss Sarah Jones, o Blas Buckley, yn aml am rinweddau amlwg a lluosog y teulu hwn, ac am y manteision crefyddol uwch- raddol a dderbyniodd ei hunan, yn ystod y pum' mlynedd y bu hi yn gweinyddu fel athrawes i blant Mr. Williams. Clywsom ninau ein hunain yr henafgwr parchus, Mr. William Jones, Rossett, yr hwn yntau hefyd a fu yn was i Mr. Williams, yn adrodd ddarfod iddo weled ei feistr lawer tro yn dyfod o'r ysgubor a'i wynebpryd fel angel Duw, gan danbeidrwydd y dysgleirdeb a lewyrchai ynddo, ac ychwanegai mai nid rhywbeth wedi iddo ymwisgo ynddo, fel mewn gwisg Sabbathol, ydoedd y difrifwch a'i nodweddai ar amserau yn yr areithfa, ond rhywbeth oedd yn amlwg iddynt ar ei wyneb- pryd yn y ty er's dyddiau, yr hyn oedd iddynt hwy yn arwydd sicr o Sabbath anghyffredin iawn. Pa ryfedd ei fod mor effeithiol wrth draddodi ei genadwri dros Dduw yn y cyhoedd. Mynegwyd i ni gan Mrs. Mason, Manchester, yr hon sydd yn henafwraig grefyddol a deallus, ac yn ferch i Mr. Joseph Chaloner yr henaf, y byddai Mr. Williams yn pregethu ar ambell nos Sabbath mor ddifrifol, nes effeithio cymaint arni hi, fel y ciliodd ei chwsg oddiwrthi lawer noswaith, ac nis gallasai ymryddhau oddiwrth y pethau sobr a wrandawsai ganddo. Gallai ef ymlid ar ol pechadur i'w noddfeydd gau, gan ei ddangos iddo ei hunan yn ffynhonell o bob dychryn ac arswyd ar wahan oddiwrth Grist. Yn yr adeg yr oedd hen waith plwm Minera yn llawn bywiogrwydd, cyn iddo sefyll am lawer blwyddyn wedi hyny, yr oedd y gweithwyr yn derbyn cyflogau rhagorol am gwaith, ond o ddiffyg ystyriaeth a darbodaeth briodol, yr oedd llawer o honynt yn gwario eu hamser a'u harian am oferedd. Un tro, yr oedd dau ddyn adnabyddus yn yr ardal, wedi treulio wythnos gyfan mewn gloddest annuwiol. Cytunent â'u gilydd wrth ymadael bob nos, yn mha le yr oeddynt i gyd-gyfarfod dranoeth, a pha amser ar y dydd. Pan ddaeth nos Sadwrn, dywedodd un o honynt wrth y llall, 'Yr wyf fi wedi blino ar y spri yma'— Felly finau,' meddai ei gyfaill,—'I ba le yr awn ni foru?' 'Wel, beth a fyddai i ni fyned i'r Wern boreu foru i wrando beth fydd gan Mr. Williams i'w ddweyd?' Felly y bu, aethant yno. Dygwyddodd (os dygwyddiad hefyd), fod Mr. Williams yn y bregeth y boreu Sabbath hwnw yn darlunio yn gywir ddynion, wedi treulio eu hamser, fel yr oeddynt hwy wedi bod yr wythnos flaenorol. Cawsent eu hunain druain, wyneb yn wyneb, megys a'u hymddygiadau annuwiol y dyddiau o'r blaen. Yr oedd y bregeth iddynt hwy yn llosgi megys ffwrn, a'r lle yn annyoddefol iddynt. Rhoddasent eu penau i lawr, gan guddio eu hwynebau mewn cywilydd, a meddylient fod rhywun wedi adrodd eu hanes i'r pregethwr, ac felly fod yr holl gymydogaeth yn gwybod am danynt. Wrth fyned allan o'r oedfa, gofynodd un o honynt i un o'r aelodau, 'Pwy a fu yn dweyd am danom ni wrtho?' 'Beth ydych yn 'Beth ydych yn ei feddwl.' 'Wel, yn 'doedd ef yn ein darlunio ni, ac yn dweyd sut yr oeddym wedi bod yn berffaith gywir.' 'Wel, un fel yna yn hollol ydyw Mr. Williams,' meddai y dyn yr ymddyddanai âg ef. Hoffasent allu ymguddio eu dau o ŵydd y pregethwr y boreu hwnw. Beth a ddaeth o honynt ar ol hyny, nis gwyddom—gobeithiwn y goreu am danynt. Teithiai Mr. Williams yn y cyfnod hwn, yn ddibaid yn achos yr efengyl. Gwyddai beth oedd myned drwy wynt a gwlaw, oerni a gwres, yn y gauaf a'r haf, gan deithio y wlad o Gaergybi i Gaerdydd, ac o Lan Andras i Dŷ Ddewi. Ceid ef hefyd yn aml yn Llundain, a threfydd eraill Lloegr, ac yn Aberdaron yn nherfyn eithaf gwlad Lleyn, ac wedi hyny yn ngheseiliau mynyddoedd Meirionydd. Gallasai aros yn dawel yn ei gartref' clyd, yr hwn oedd yn llawnach o elfenau mwyniant bywyd, nag ydoedd y rhan fwyaf o gartrefi gweinidogion yn yr oes hono. Ond anghofiai efe ei lesâd a'i esmwythyd ein hunan, wrth geisio llesâd llaweroedd. Dysgwyliai y cynulleidfaoedd am dano, yn mhob tref, pentref, a chwm, fel am y gwlaw. Breintid cymoedd anghyspell ein gwlad yn fynych â'i weinidogaeth nerthol. Clywsom Mr. John Morris, Berth Ddu, yr hwn sydd ddiacon ffyddlon a pharchus yn yr eglwys Annibynol yn Nhre'rddol, gerllaw Corwen, yn adrodd fel adrodd fel y bu ef yn gwrando ar Mr. Williams, unwaith yn pregethu yn Nghwmeisian Ganol, ei hen gartref. Ei destun y tro hwnw ydoedd, "Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini genym ni, wedi ei ysgrifenu nid âg ingc, ond âg Ysbryd y Duw byw, nid mewn llechau ceryg, eithr mewn llechau cnawdol y galon." Yr oedd ei fam enwog yn gwrando arno yn yr oedfa hono, er yn orweddiog gan lesgedd a henaint. Fel rhwng pob peth, oedd yr oedfa yn un o'r rhai mwyaf anghyffredin o effeithiol a wrandawyd erioed, ac yn un y cofir byth am dani gan yr ychydig sydd eto yn aros o'r rhai oeddynt yn ei gwrando. Blwyddyn golledus i Annibyniaeth, a Chymru oll o ran hyny, oedd y flwyddyn 1831, canys ar ddydd Iau y 25ain o Awst y flwyddyn hono, pan yn Liverpool ar ei daith i gasglu at Gapel Gartside Street, Manchester, y cwympodd y Parch. David Jones, Treffynon, drwy lawr-ddrws masnachdy yn Ranleagh Street, wrth fyned i dŷ ei gyfaill Mr. Gresson, a bu farw yn mhen ychydig oriau, heb allu dywedyd ond "I know that I am accepted"—Gwn fy mod yn gymeradwy. Teimlodd Mr. Williams yn anghyffredin o herwydd marwolaeth dra sydyn a phruddaidd ei anwyl gyfaill, ac nid rhyfedd hyny, oblegid yr oedd Mr. Jones yn un o ragorolion y ddaear. Meddai ysbryd cyhoeddus iawn. Bu yn ysgrif— enydd i ganghen Swydd Fflint o Gymdeithas y Beiblau am ddeunaw mlynedd; i ganghen Gwynedd o Gymdeithas Genadol Llundain am naw mlynedd, ac Undeb Cynulleidfaol Swyddi Fflint a Dinbych naw mlynedd. Cydweithiodd ef a Mr. Williams lawer gyda phob achos daionus. Gwyddai y bobl ar wynebpryd Mr. Williams yn yr areithfa yn y Rhos y boreu Sabbath dilynol i farwolaeth Mr. Jones, a hyny cyn iddo hysbysu dim, fod rhywbeth neillduol wedi cymeryd lle. Wedi iddo roddi emyn i'w ganu, hysbysodd y gynulleidfa o'r am— gylchiad sobr, yr hyn a effeithiodd yn ddwys iawn ar yr holl dyrfa. Ond er maint y golled a'r galar a deimlai, nid ymollyngodd efe, ond ymnerthodd ac ymwrolodd i gyflawni ei waith gyda mwy o egni nag erioed. Cymerai ddyddordeb yn y cynhyrfiadau gwleidyddol a gynhyrfent y deyrnas hon y blynyddoedd hyny. Yn 1833 yr ydym yn ei gael ef a'r Parch. Samuel Roberts, M.A., Llanbrynmair, yn tramwy drwy Drefaldwyn a Meirionydd, gan areithio yn alluog, er cynhyrfu y wlad i ymdrech dros Ryddhad y Caethion yn y West Indies. Y fath ydoedd dylanwad yr areithiau hyny ar y rhai a'u gwrandawsent, fel y teimlent eu gwaed megys yn fferu yn eu gwythienau, wrth glywed ganddynt am ddyoddefaint y caethion; ond gwawriodd dydd gogoneddus eu rhyddhad, a bu gan ein gwron ran yn nygiad hyny oddiamgylch. Pregethodd Mr. Williams yn Nghymanfa Colwyn, yr hon a gynaliwyd Gorphenaf 24ain a'r 25ain, 1833, a chafodd oedfa hynod iawn, ond gan y bydd angenrhaid arnom i gyfeirio eto, yn mhellach yn mlaen yn y gwaith hwn, at yr oedfa hono, nid ymhelaethwn yma. Bu marwolaeth yr Hybarch. John Roberts o Lanbrynmair; yr hyn a gymerodd le ddydd Sabbath, Gorphenaf 20fed, 1834, yn achos o alar dwys iawn i wrthddrych y cofiant hwn, yn gystal ac i'r holl genedl yn gyffredinol. Aeth Mr. Williams i angladd Mr. Roberts, drwy rwystrau mawrion, ac anhawsderau lawer. Arosasent yn hwy na'r amser arferol i gychwyn angladdau yn yr ardal gan ddysgwyl am dano ef, a phan yr oeddynt bron wedi rhoddi i fyny bob gobaith y gallai gyrhaeddyd, o'r diwedd gwelid ef yn d'od, ac wedi iddo gyrhaedd i'r ty, cyn dweyd gair wrth neb, rhoddodd ei ben ar y bwrdd, ac ymollyngodd i wylo yn dost, am yr hwn a garai efe mor fawr. Yr oedd yr holl wasanaeth angladdol yn wir effeithio!, ond clywsom "J. R.," yn dweyd, fod gweled Mr. Williams yn wylo yn y ty yr olygfa effeithiolaf a welodd efe erioed, ac yr oedd pawb oedd yn bresenol wedi cydymollwg mewn wylofain a galar mawr am eu cyfarwyddwr galluog a diogel. Anfonodd Mr. Williams y llythyr canlynol at feibion yr Hybarch John Roberts, ar yr achlysur o farwolaeth eu hanwyl dad. Ystyriwn fod y llythyr yn cynwys rhai llinellau ydynt yn ddarluniad mor gywir o nodweddau Mr. Williams ei hun, ag ydynt fel desgrifiad o gymeriad Mr. Roberts, fel nad oes angen am i ni wneuthur unrhyw esgusawd dros ei ddodi yn y gwaith hwn: "Anwyl gyfeillion,—Un o'r pethau sydd yn rhoddi yr hyfrydwch penaf i'm meddwl ydyw gweled hiliogaeth pobl dduwiol yn dyfod i lenwi eu lle yn nhŷ yr Arglwydd. Y mae yn llawenydd mawr genyf feddwl eich bod chwi wedi eich dewis yn lle eich Parchedig dad. Yr ydych yn cael dyfod i mewn i'w lafur ef, i gael medi yr hyn a hauodd efe mewn dagrau a diwydrwydd. Mawr yw eich braint. Nid wyf yn gwybod am un caritor ar y ddaear ag y dymunwn yn fwy ei efelychu, na'r eiddo eich anwyl dad, a bydd yn llawenydd mawr gan laweroedd, heblaw fi, i weled ychydig o hanes ei fywyd. Er mwyn fy mrodyr ieuainc yn y weinidogaeth ac eraill, nodaf rai o'r pethau hyny yn ei nodweddiad ag y byddai yn dda i ni eu hefelychu:—

1. Ei brif addurn oedd ei dduwioldeb—ofni pechu. Yr oedd yn gadael arogl santaidd a duwiol ar ei ol yn mhob man lle yr elai, ac ar bob cyfeillach y byddai ynddi. Yr oedd cymaint o nefolrwydd yn ei agwedd a'i ymddyddanion, fel na bu'm erioed yn ei gyfeillach heb deimlo mwy o awydd i fyw yn santaidd. Yr oedd yn iechyd i enaid gyddeithio àg ef, a mynych feddyliais mai gwyn eu byd y rhai oedd yn bwyta bara ar ei fwrdd. Ni chyfarfum â neb erioed mwy parod i gydnabod llaw yr Arglwydd yn mhob goruchwyliaeth nag ef, a mwy teimladwy o'i ymddibyniad beunyddiol ar Dduw.

Yr oedd yn dysgleirio yn fawr yn ei ostyngeiddrwydd, a'i lareidddra. Ni welais neb erioed yn cythruddo llai yn ngwyneb celwyddau a chableddau anfoneddigaidd a chwerwon. Fel Michael yr Archangel, ni oddefai ei lareidddra iddo ddysgu y gelfyddyd o gablu, ond fel y wenynen, tynai fêl o'r llysieuyn chwerwaf. Felly yr oedd yr holl gyhuddiadau anghywir a ddygwyd yn ei erbyn, a'r enwau dirmygedig a roddwyd arno, yn ei yru yn nes at Dduw, ac i weddio dros ei wrthwynebwyr. Mynych y clywais ef yn dywedyd, "Wel, os cyfarfyddwn yn y nefoedd, ni a ysgydwn ddwylaw yn garedig iawn, ac fe dry ein dadleuon i ryfeddu y gras a'n dygodd yno."

3. Peth arall oedd yn llewyrchu yn rhagorol yn ei nodweddiad oedd, ei awyddfryd i wneuthur lles i eraill. Nid oedd fel llawer yn meddwl fod ei holl waith yn yr areithle, ond yn mhob ty, ac yn mhob cyfeillach yr oedd yn chwilio am gyfleustra i roi gair i mewn dros Grist er gwneuthur daioni. Y fath oedd ei ffyddlondeb yn hyn, fel yr oedd ofn ei gyfarfod ar y ffordd ar rai, am y gwyddent y dywedai yn ffyddlawn wrthynt am eu bai a'u perygl. Cydymdeimlai yn dyner iawn â'r rhai oedd mewn adfyd. Cynghorai yn dirion y rhai fyddai mewn dyryswch. Yr oedd yn barod iawn i estyn cymhorth i'r gwan yn y ffydd, ac hyfforddiai bob plentyn y cai afael arno. Darfu i laweroedd o'r cyfryw wylo eu dagrau tyneraf pan y clywsent am ei farwolaeth. Y maent yn hiraethu ar ei ol, a diau y cofiant ei gynghorion tra byddant yn y byd. Nid ymadawai o dŷ heb adael rhyw gynghor buddiol ar ei ol yno; a byddai pawb yn y ty, ac yn enwedig y plant, am ei weled yno drachefn. Gwyddom am rai gweinidogion a fuont o les mawr i'r cyhoedd, ond a esgeulusasent eu teuluoedd gartref, ond nid felly y bu Mr. Roberts. Gallesid ei anerch ef, a'r eglwys oedd yn ei dŷ.' Nid oedd na gwas morwyn nad oedd efe yn teimlo gofal am eu heneidiau. Yr oedd ei deulu mor barod i ymddyddan am bregethau a phethau crefydd ag oeddynt i siarad am amgylchiadau y byd hwn; oblegid ei fod ef wedi eu harfer at hyny. Llawer gwas a morwyn sydd ag achos ganddynt i fendithio Duw iddynt erioed gael y fraint o ddyfod dan ei gronglwyd.

4. Yr oedd ei ofal yn fawr am achos Crist yn gyffredinol. Nid llawer, er dyddiau Paul, allasai ddweyd yn fwy priodol—Heblaw y pethau sydd yn dygwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd—y gofal dros yr holl egiwysi.' Os oedd efe yn anghymedrol mewn dim, yn hyn yr oedd felly. Yr oedd ei ddwys ofal yn gwanhau ei natur, ac yn mynych effeithio ar ei iechyd. oedd achos ei holl frodyr yn y weinidogaeth yn agos iawn at ei galon, ac yr oedd yn ei wneuthur fel ei achos ei hun. Yr wyf yn teimlo am ei golli; oblegid fy mod wedi colli un ag oedd yn beunyddiol weddio drosof fi a'm brodyr. Nid anghofiaf byth y cynghorion dwys a gefais ganddo, ac y mae yn drwm genyf feddwl na chaf gynghor o'i enau byth mwyach.

5. Yr oedd bob amser yn wyliadwrus i ymddwyn yn ddoeth a gochelgar. Ychydig o weinidogion yn Nghymru, os neb, oedd yn fwy anwyl a pharchus gan ei eglwys gartref, a chan ei frodyr yn gyffredinol. Yr oedd ei dduwioldeb, a'i ddoethineb yn llawn wneuthur i fyny y diffyg oedd yn ei ddoniau.

6. Fel Duwinydd yr oedd Mr. Roberts o olygiadau cyson ac eglur ar y Beibl.

Nid oedd yn rhwymo ei gred wrth unrhyw gyfundraeth ddynol, ond wrth Air Duw yn unig. Y mae dynion yn gyffredin iawn, fel y maent yn heneiddio, yn cau eu drysau yn erbyn pob peth newydd, yn erbyn pob diwygiad; eu harwyddair yw, 'Hyn a gredais, a hyn a gredaf.' Nid oes braidd ddim yn fwy o rwystr ar ffordd rhydd-redfa gwybodaeth na'r ysbryd dilafur yma; a thyma y rheswm fod llawer o bregethwyr yn myned mor wael a diddefnydd yn eu henaint.

Nid felly yr oedd Mr. Roberts, eithr yr oedd yn dyfod yn mlaen gyda'r oes, a safodd yn un o'r rhai blaenaf ar ei rwn hyd ddiwedd ei oes. Er, dichon ei fod yn un o'r rhai olaf yn nechreuad ei dymhor, yr oedd ei feddwl yn iraidd a bras yn ei henaint. Treuliodd gryn lawer o ddiwedd ei amser ar faes dadleuaeth. Nid oedd neb yn fwy annhebyg i fyned i'r maes hwnw nag ef, eithr cafodd ei wthio iddo. Fel dadleuwr yr oedd yn deg a llednais. Yr oedd ei resymau yn eglur a grymus, ond yr oedd gwawdiaeth a chabledd islaw ei foneddigeiddrwydd Cristionogol. Efe oedd un o'r rhai cyntaf a dorodd y garw yn erbyn gorlif Antinomiaeth yr oes, a dyoddefodd erledigaeth nid bychan o herwydd hyny; ond y mae llu o ol—fyddin yn awr yn ei ddilyn a fedrant saethu at drwch y blewyn. Buasai yn dda iawn genyf pe y buasai rhyw un yn cymeryd mewn llaw y gorchwyl o roddi darluniad llawnach o gymeriad Mr. Roberts nag y medraf fi wneud, er gwneuthur cyfiawnder âg ef, ac er anogaeth i'm brodyr ieuainc i rodio yn ei lwybrau, wrth weled mai duwioldeb, diwydrwydd, a phwyll, ddarfu ei wneuthur ef mor ddefnyddiol ac mor gymeradwy. A gellid crybwyll, mai dyma y prif gymhwysiadau ddylai fod mewn golwg gan eglwys wrth alw dynion ieuainc i waith mawr y weinidogaeth.

Heb y rhai hyn nid yw pob cymhwysderau era ill yn werth dim. Ond gyda'r rhai hyn gall ychydig o'r lleill wneud y tro.

Gan ddymuno eich llwydd, a hyderu yr erys ôl llafurus weinidogaeth eich duwiol dad am oesau hir yn Llanbrynmair.

Ydwyf, anwyl gyfeillion,
Yr eiddoch,
William Williams.—1834." [3]

Tua'r pryd hwn penderfynodd Miss E. Williams, merch henaf ein gwrthddrych ymgymeryd â chadw Boarding School, i addysgu boneddigesau ieuainc. Y mae yn awr o'n blaen gopi o lythyr a ysgrifenwyd ganddi at Miss Owens, Tyddyncynal, gerllaw Conwy (Mrs. Griffiths, Merchlyn, wedi hyny), a hyny er's yn agos i driugain mlynedd yn ol. Yn mysg pethau eraill, crybwylla ynddo am yr ymddyddan a fuasai rhwng ei thad a'r Parch. R. Rowlands, Henryd, yn nghylch yr ysgol, ac yn ol awgrym a roddasai Mr. Rowlands ar y pryd, fod tebygrwydd y buasai Miss Owens yn hoffi myned atynt i dderbyn addysg. Bodolai cyfeillgarwch pur ac anwyl iawn cydrhwng Mr. Williams, a theulu Tyddyncynal. Yr oedd Mr. Owens yn ddiacon ffyddlon yn Henryd, ac yr oedd llawer o wreiddioldeb yn perthyn iddo. Dywedodd wrth Mr. Williams un tro, "Gallaf fi gadw seiat yn well na chwi, ond gallwch chwithau bregethu yn well na minau." Nid ydym yn gwybod a fu Mrs. Griffiths yn y Boarding School gyda Miss Williams, ai naddo. Bu Mrs. Evans, Llandegla, yn yr ysgol hon; ac y mae y tymhor hwnw byth yn un euraidd yn ei golwg. Ni waeth heb gelu mai bychander y gydnabyddiaeth a roddid i Mr. Williams am ei lafur gweinidogaethol, ydoedd un rheswm o eiddo Miss Williams dros ymgymeryd â r gwaith o gadw ysgol.

Yr oedd Mr. Williams, mewn llawer o bethau, yn mhell o flaen gweinidogion yr oes hono fel dysgawdwr ei bobl. Ond ni ddarfu iddo erioed eu dysgu i gyfranu at grefydd yn deilwng, ac oblegid hyny, nid oedd y swm mwyaf a dderbyniodd efe am ei wasanaeth gwerthfawr, ond cywilyddus o fychan. Er mwyn cario gwaith yr ysgol yn mlaen yn effeithiol, yr oedd yn angenrheidiol iddynt wrth dŷ helaethach na'r Talwrn; a symudasent i Fryntirion, Bersham. Teimlai Mr. Williams

BRYNTIRION, BERSHAM

mai nid hawdd oedd ymadael o'r Talwrn, lle y treuliodd efe flynyddoedd dedwyddaf ei oes. Fodd bynag, gwawriodd y dydd ar yr hwn yr oedd hyny i gymeryd lle. Wedi i'r llwyth olaf o'r dodrefn fyned ymaith, dywedodd Mr. Williams, fod yn rhaid iddo gael cadw dyledswydd am y waith olaf am byth iddo ef, yn y lle hwnw fel ei gartref, a hyny a wnaeth efe yn ddwys ac effeithiol iawn. Diolchai am y bendithion lluosog a dderbyniasent fel teulu yn yr anedd hono. Erfyniai yn daer am arweiniad yr Arglwydd yn eu mynediad oddiyno. Dymunai am i fendith Duw orphwys ar y teulu oedd yn dyfod yno i'w holynu, ac ar fod i'r Beibl gael ei ddarllen ar yr aelwyd, tra y byddo careg ar gareg o'r hen gartref yn aros heb ei falurio. Tystiai Mr. Richard Pritchard, Rhos, yr hwn oedd wedi ei alw yno i gynorthwyo yn yr ymadawiad, fod y lle yn ofnadwy iawn pan yr oedd Mr. Williams yn gweddio.

Dymunol oedd gweled y teulu enwog yn ymadael yn swn y weddi deuluol, ac yn ngolwg mwg yr hen allor gysegredig; ac o dan arweiniad dwyfol Ragluniaeth, gweinyddiadau yr hon a deimlai Mr. Williams yn ddwys iawn fel yr amlygir hwynt yn yr Ysgrythyrau, ac yn amgylchiadau beunyddiol bywyd, yn gymaint felly, fel y dywed y Parch. Owen Evans, D.D., yn ei lyfr rhagorol ar Merched yr Ysgrythyrau, tudal 99, "Yr arferai ein gwrthddrych ddweyd na byddai ef byth yn gallu darllen hanes Ruth a Naomi heb golli dagrau uwch ei ben." Gwelai law Rhagluniaeth yr un mor amlwg yn symudiadau plant dynion yn barhaus, a chydnabyddai hyny yn ostyngedig a diolchgar.

Nodiadau[golygu]

  1. Yn fuan wedi ysgrifenu yr uchod, bu yr Hybarch Humphrey Ellis farw ddydd Iau, Medi 7fed, 1893, yn ei 83 mlwydd o'i oedran.
  2. Ar y dyddiau Mehefin 6ed a'r 7fed, 1832, y cynaliwyd y Gymanfa hon,
  3. Gwel Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair, tudalen 28—30.