Cofiant Richard Jones Llwyngwril/Ei Ddoniau a'i Lafur Cyn Iddo Ddechreu Pregethu

Oddi ar Wicidestun
Helyntion Boreuddydd Ei Fywy Cofiant Richard Jones Llwyngwril

gan Evan Evans, Llangollen

R. J. Yn Dechreu Pregethu

Pen. II

EI DDONIAU A'I LAFUR CYN IDDO DDECHREU PREGETHU.

Cyn y gwnelom sylwadau arno ef fel teithiwr, efallai y byddai yn fwy priodol sylwi arno o ran ei ddoniau yn nghyda'i lafur a'i helyntion yn ardaloedd Llwyngwril cyn iddo droi allan fel pregethwr teithiol. Yr oedd yn dra nodedig yn mawredd ei gof, cyflymdra a threiddgarwch ei ddeall, a helaethrwydd ei wybodaeth, yr hon a gyrhaeddodd trwy ei ddiwydrwydd mewn darllen, myfyrio, ymresymu, a holi.

Mae cof cryf yn gyneddf fanteisiol ragorol i'r neb a fo'n awyddus i ystorio gwybodaeth. Gwelir y gyneddf hon yn dra nerthol gan lawer nad ydynt wedi eu cynnysgaeddu ond â deall bychan mewn cymhariaeth. Mynych y canfyddir dynion yn enwog mewn cyflymder i ddeall ac i dreiddio i ddyfnderoedd gwybodaeth, ac eto yn dra egwan o ran eu côf, ac o herwydd hyny llafuriant dan radd o anfantais, gan y bydd raid iddynt golli amser i edrych dros destynau eu hymchwiliad drachefn a thrachefn. Ond yr oedd Richard Jones nid yn unig yn gryf ac yn gyflym ei amgyffrediadau, ond yr oedd ef yn ddiarhebol o ran cryfder ei gof. Yr oedd son am gof Dic Tŷ Du trwy yr ardaloedd, a hyny yn mhell cyn bod son am dano ef fel pregethwr. Dywedai yr hen Robert Roberts, Tyddyn-y-felin, Llanuwchlyn, mewn ymddyddan â rhai o'i gymydogion yn nghylch pregethwyr mawr, pe cawsid tri pheth i gyd ymgyfarfod yn yr un dyn, sef gwybodaeth Thomas Davies, côf Dic Tŷ Du, a thafod William Cwmheisian, y buasai hwnw yn sicr o fod y mwyaf yn y byd, a bron yn fwy na dyn. Gan fod ei syched a'i ddiwydrwydd gymaint am wybodaeth, yr oedd ei gôf cryf yn dra manteisiol iddo i gyrhaedd yr enwogrwydd y daeth iddo. Adroddai gyda rhwyddineb y pregethau a glywsai, yn enwedig os byddai ynddynt ryw bwnc o ddadl. Ac os byddai rhywun mewn gofid o herwydd anghofio rhyw sylw o'r bregeth, ni byddai raid iddo ond rhedeg i'r gweithdy at Dic Siôn, na chaffai ei ddwyn o'i drallod yn ebrwydd. Yr oedd yn hyddysg dros ben yn yr ysgrythyrau drwyddynt oll, fel y gallesid yn hawdd ei ystyried fel mynegeir byw y gymydogaeth. Pe gofynasid iddo pa le yr oedd unrhyw adnod , dy wedai yn y fan, ac yn gyffredin efe a'i hadroddai yn lled gywir. Erbyn iddo ef fyned yn bregethwr, yr oedd ei gôf mawr yn nodedig o fanteisiol iddo, gan na fedrai efe ysgrifenu cymaint â llythyren. Efallai fod y rhai sydd yn alluog a chyflym i ysgrifenu, yn gwneud gradd o gam â'u côf trwy ymddiried gormod i'w hysgrif, fel mae'r côf trwy ddiffyg ymarferiad yn gwanhau. Nid oedd y gelfyddyd hon ganddo ef, ac oblegid hyny, nis gallasai ymddiried cadwraeth ei ddrychfeddyliau i neb nac i ddim ond i'w gôf ei hunan yn unig. Mae'n rhaid ei fod yn gofiadur rhagorol dda gan ei fod yn alluog i gofio yr holl bregethau a gyfansoddasai. Parhaodd ei gôf hyd ddiwedd ei oes heb wanychu ond ychydig iawn. Nid llai enwog oedd efe ychwaith o ran

Ei ddeall treiddgar. Yr oedd efe yn hyn hefyd uwchlaw y cyffredin, sef yn nghryfder a chyflymdra ei ddeall, fel y cydnabyddid gan bawb a'i hadwaenent, nid yn unig gan y bobl gyffredin, eithr gan ddynion o ddysg a gwybodaeth, ei fod yn un o'r dynion galluocaf ei amgyffrediadau. Pa faint enwocach a fuasai efe mewn gwybodaeth pe cawsai fanteision dysg yn moreu ei oes, nis gwyddom; eithr yn ol y manteision oedd ganddo, yr oedd y wybodaeth ddofn a chyson a feddiannai yn brawf ei fod yn wr o amgyffrediadau cyflym a nerthol. Nid oedd un gangen o dduwinyddiaeth nad oedd ganddo ef gan helaethed gwybodaeth ynddi â nemawr yn Nghymru. Yr oedd yn deall trefn iachawdwriaeth yn ei hamrywiol ganghenau a'i chysondeb yn rhagorol; a'i olygiadau ar ei phrif bynciau, megys iawn, prynedigaeth, gwaith yr Yspryd, eiriolaeth a mechnïaeth Crist, &c. oeddynt hynod o eglur. A rhoddi pob tegwch i'w gymeriad fel dyn deallus yn yr Ysgrythyrau, anhawdd fyddai cael neb tuhwnt iddo yn hyn. Pe buasai yn gyfreithlon i'r naill ddyn adael ar ddyn arall i farnu trosto mewn duwinyddiaeth, gallesid ymddiried y gorchwyl hwnw i Richard Jones gyda'r cyntaf. Ni ymfoddlonai un amser ar syniadau cymylog ac aneglur i'w feddwl ar ddim, ond efe a chwiliai ac a ymofynai yn ddiflino nes cyraedd boddlonrwydd arno.

Mae ei ddarllengarwch hefyd yn un o'r prif bethau a hynodent ei gymeriad. Gan na ddysgasai efe ddarllen ond yr iaith Gymraeg yn unig, yr oedd ei fanteision i gasglu gwybodaeth yn fychan iawn, yn enwedig yn moreuddydd ei oes, wrth y manteision sydd gan hyd yn nod y Cymro uniaith yn awr. Ond y fath oedd ei y syched ef am wybodaeth, a chymaint oedd ei hyfrydwch mewn darllen, fel y daliai ar bob cyfleusderau o fewn ei gyraedd i feddiannu llyfrau, naill ai drwy eu prynu neu eu benthyca, yn enwedig llyfrau ar dduwinyddiaeth, oblegid yn y gangen hono yn benaf yr oedd ei feddwl ef yn llafurio. Pan oedd efe yn ymyryd a'i grefft fel crŷdd, nid yr esgid a welid yn ei law ef amlaf, ond y llyfr, yn enwedig y Beibl. Arosai ar ei draed yn hwyr i ddarllen, ac ni ofalai pa bryd yr elai efe i'w wely; a dweyd y gwir i gyd, ni ofalai gymaint ychwaith pa bryd y cyfodai o bono, oblegid ni buasai'r hen frawd erioed yn enwog fel boreu-godwr. Rhai o'i brif awdwyr oeddynt Watts a Doddridge, (Dodricth, fel y dywedai yntau.) Yr oedd yn hoff iawn o hymnau y ddau hyn; yr oedd y rhan fwyaf o hymnau Watts yn ei gôf. Darllenai lawer ar Ddechreuad a Chynnydd Crefydd yn yr Enaid, gan Doddridge: Gurnal ar y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth. Crybwyllai yn fynych ddrychfeddyliau yr hen Gurnal wrth ymdrin â phrofiadau y saint yn y cyfeillachau eglwysig. Galwad Difrifol Roberts o Lanbrynmair oedd un o'i brif lyfrau. Yr oedd hwnw i'w gael bob amser, naill ai yn llaw'r Hen Lanc, neu ar y fainc weithio yn nghanol celfi y gryddiaeth. Y mae'r olygfa a gafodd yr ysgrifenydd arno oddeutu tair blynedd ar ddeg ar hugain yn ol, yn ymrithio y mynyd hwn ger bron ei feddwl. Dyma fo yn ei hen arffedog ledr, a'r llyfr glâs yn ei law , a'r bibell yn ei ben, ac â'i fys bach yn chwalu y lludw o honi yn gawod am ben y cwbl, a'i weithdy yn mygu fel odyn. "Dyma fo'n widdionedd i," ebe efe, gan chwerthin o fodd ei galon uwchben y pwnc yn y llyfr glâs, "mae o'n deyd yn dda aflawen, ydi'n widdionedd i; mi dyffeia nhw byth i ateb hwn." Yn meddiant pwy bynag y mae y llyfr hwnw, efe a genfydd arwyddion bod darllen nid ychydig wedi bod arno. Yr oedd Henry hefyd mewn bri mawr ganddo ef, ac yr oedd ganddo gryn feddwl o Esboniad Phillips ar y Testament Newydd, er yr achwynai yn dost arno weithiau am na buasai yr hen Ddoctor wedi bod yn fanylach ar rai pethau. "Mae gan ydd hen Phil ethboniad ar ambell adnod," ebe efe, "gwell na chan neb a welath i eddioed." Yr oedd ganddo lawer o lyfrau Cymreig eraill, nad ellir yn awr eu henwi bob yn un ac un. Yr oedd yn ddarllenwr cyson ar у DYSGEDYDD er ei ddechreuad, yn enwedig pan byddai dadl ar droed. Parhaodd yn ddarllengar trwy ei oes, er na oddefai adfeilion henaint iddo allu aros uwchben un llyfr cyhyd ag yr arferasai yn mlodau ei ddyddiau.

Nid darllenwr mawr yn unig oedd R. J. ond yr oedd yn fyfyriwr mawr hefyd. Dichon fod un yn ddarllengar iawn, gan sychedlu am lyfrau newyddion, a phethau newyddion yn y rhai hyny, ac wedi ei holl lafur felly, fod yn fyfyriwr bychan. Mae gan ambell un ystafellaid o lyfrau, a'r rhai hyny o'r fath werthfawrocafyn y byd, ac er hyn i gyd, nid yw eu perchenog ond myfyriwr gwael. Yr oedd yr hen Lwyngwril yn feddylgar nodedig, byddai ganddo ryw ddefnyddiau neu gilydd yn cael eu malu yn melin ei fyfyrdod yn wastadol. Nid oedd yn ddigon ganddo ef wybod beth oedd barn rhai eraill ar unrhyw beth, ond triniai a phwysai ef y i cyfryw bwnc drosto ei hun, yn enwedig os byddai rhyw newydd-deb ynddo. Anfynych y gwelid neb yn meddylio mwy drosto ei hun nag ef. Mae côf cryf wedi bod yn achlysur i laweroedd esgeuluso myfyrdod, gan fyw drwy eu hoes yn gwbl ddifyfyr ar ffrwyth y côf mawr, fel y gellid ystyried eu meddwl fawr well na'r ystyllod a gynnalient eu llyfrau. Ond nid felly y gwnai Richard Jones, eithr yr oedd ef yn gofiadur mawr, yn ddarllenwr mawr, ac yn fyfyriwr mawr, fel y dywed pawb a'i hadwaenent ef.

Yr oedd ei awydd am wybodaeth yn amlygu ei hun gymaint hefyd yn ei hyfrydwch mewn ymresymu a dadleu. Treuliodd lawer noson yn nhai ei gyfeillion i ymddadleu, nid yn gecrus, ond er mwyn cyraedd gwybodaeth ychwanegol ar bynciau crefydd. Mae amryw o'r hen gyfeillion hyny wedi myned, fel yntau, i fro dystawrwydd, a rhai o honynt yn fyw eto. Yr oedd efe yn feddiannol ar yspryd amyneddgar a boneddigaidd yn ei ddadl yn wastad; ni chyffroid ef i dymherau anaddas. Ac os collai ei wrthddadleuydd lywodraeth arno ei hun, chwarddai am ei ben, ac a daflai y pwnc heibio nes yr oerai y cyfryw a dyfod i'w iawn bwyll. Yr oedd yn gampus fel dadleuwr. Ac am ei ysbryd ymofyngar, da y gwyddai y gweinidogion a lafuriasant yn ei gymydogaeth, sef Morgan, Llanfyllin; Griffiths, Tyddewi; Lloyd, Towyn; ac eraill a ddeuent heibio yn achlysurol, oblegid nid oedd iddynt heddwch tra yn ei gymdeithas, gan ei holiadau a'i wrthddadleuon; diammau iddo roddi eithaf prawf lawer gwaith ar eu gwybodaeth a'u hamynedd drwy ei ymofynion di ddiwedd am rywbeth neu gilydd bob cyfle a gai. Dilynai Dic hwynt o'r naill fan i'r llall, fel prin y caent seibiant rhwng oedfaon i feddwl ond ychydig am eu pregethau. Yroedd yr enwogion hyn yn canfod awydd yr hen frawd am wybodaeth Ysgrythyrol gymaint, a hwythau yn ymhyfrydu gymaint mewn cyfranu gwybodaeth, fel trwy y ddau beth hyn y cedwid eu hamynedd rhag pallu, arhag iddynt edrych arno fel "corff y farwolaeth" iddynt. Daeth Richard fodd bynag trwy y pethau hyn, yn feddianol ar wybodaeth ëang yn athrawiaeth yr efengyl. Ac nid llawer llai oedd ei ymofyngarwch drachefn gyda chyfeillion yn y weinidogaeth, ar ol iddo droi allan yn bregethwr teithiol. Byddai ganddo ryw bwnc i ymdrin ag ef, neu ryw adnod eisiau esboniad arni, a "beth y mae hwn a hwn yn ddeyd arni, edrych fachgian." Daeth trwy yr holl bethau hyn yn adnabyddus âg enwau rhai o'r prif awdwyr a ysgrifenasant ar y Beibl, ac ar wahanol ganghenau athrawiaeth gras.

Nodiadau[golygu]