Cofiant Richard Jones Llwyngwril/R. J. Yn Dechreu Pregethu
← Ei Ddoniau a'i Lafur Cyn Iddo Ddechreu Pregethu | Cofiant Richard Jones Llwyngwril gan Evan Evans, Llangollen |
Hynodrwydd R. J. yn Cadw Cyfeillachau Eglwysig → |
Pen. III.
R. J. YN DECHREU PREGETHU.
Pan ddechreuodd bregethu, nid oedd y gorchwyl yn beth hollol ddyeithr iddo ef, oblegid arferasai ei ddawn i esbonio cyn hyny am flynyddoedd o dan y pulpud; nid oedd ond megys newid y lle y safai arno, neu dair bedair o risiau yn uwch. Nid oedd efe ar ei gychwyniad ond canolig iawn fel pregethwr, mewn cymhariaeth i'r hyn a ddaeth yn mhen ychydig o flynyddoedd wedi hyn, yn enwedig yn ei ddull yn trin ei faterion. Ond derbyniai bob cynghor neu sylw a gaffai gan bawb, ar yr hyn a fernid yn wrthun yn ei ddull, neu yn annghywir yn ei ymadroddion. Yr oedd felly hefyd bob amser cyn hyn. Pan oedd yn dechreu dweyd ychydig dan y pulpud, dywedai rhyw wraig wedi bod yn gwrando arno, wrth ei chymydogion, "Wel, y mae hi wedi darfod ar Dic yn lân, rhaid iddo ymrôi ati, neu ei rhoi i fyny." Pan fynegwyd hyn iddo, aeth fel saeth i'w galon, a dywedodd, "Wel yn widdionedd ina, oth yw Neli William Thiôn yn deyd felly am danaf, y mae wedi myn'd yn wan ofnadwy addnaf." Ond yn hytrach na ffyrnigo wrthi, a digaloni, efe a ymroes â'i holl egni i ddiwygio a chynnyddu. "Dyro addysg i'r doeth , ac efe a fydd doethach." Ar ol myned yn bregethwr cyhoeddus, arferai ambell air neu frawddeg gymysgedig o Gymraeg a Saesonaeg ac weithiau air Saesonaeg pur, pan ar yr un pryd nad oedd yr hen frawd yn deall yn gywir beth oedd eu priodol ystyr. Wrth son am brofedigaeth Daniel yn cael ei daflu i ffau y llewod am ei ddiysgogrwydd yn ei grefydd, efe a ddarluniai y llewod yn ei gyfarfod dan ei foesgyfarch ef; "Dacw un llew yn dwad ato, ac yn gofyn iddo, How di dŵ, thyr; a hen lew mawdd addall yn deyd wrtho gan ethtyn ei bawan, How di dŵ, how di dŵ Printh o Wêlth. Dywedwyd wrtho ar ol hyn gan gyfaill a garai ei les, "Richard Jones, rhaid i chwi ofalu am iaith well yn eich pregeth onide chwi ewch yn wrthddrych chwerthiniad y rhai a garant ddal ar feiau pregethwr." "Wel,beth yw'dd matedd?" "Dywedasoch fod un o'r llewod yn galw Daniel yn Prince of Wales. A wyddoch chwi beth yw hyny?" "Wel, beth yw o, dwad?" "Beth yw o yn wir, ond Tywysog Cymru ydyw! ac ni bu Daniel yn Dywysog Cymru erioed." "Taw, fachgian," ebe efe, "ai dyna ydi o?" dan synu, gwenu, a chywilyddio. "Ië yn wir," ebe hwnw. "Wel, ni thonia i byth am ei enw ond hyny." Derbyniodd y sylw yn garedig iawn. Yr oedd ganddo ambell hen gyfaill go ddidderbyn wyneb a ddywedai wrtho am ei ffaeleddau yn y pulpud, er na byddai y cyfryw i'w gystadlu ag ef mewn gwybodaeth ysgrythyrol. Hawdd fyddai ganddo ef weithiau wrth ymdrin â rhyw bwnc o ddadl, grybwyll syniadau yr hen awdwyr enwog, gan ddweyd, "Wel hyn y mae Doctodd Dodricth yn golygu, ac wel hyn y mae Doctodd Owen yn deyd, ac y mae Henddy yn deyd wel hyn, a Doctodd Watts ydd un fath; ond wel yma ddwy I yn deyd." Meddylid y gwnaethai gam â'i fraich gan mor angerddol y byddai yn adrodd— "ond wel yma ddwy I yn deyd." Dywedai hen gyfaill wrtho ef, "Richard, y mae eich dull yn son am farn awdwyr a'ch barn eich hun, yn ym ddangos yn lled hunanol. Beth ydych chwi o ddyn wrth Henry, Doddridge, Owen a Watts, dynion mawrion mewn dysg a gwybodaeth? Pan soniosh fod eich barn chwi yn wahanol i'r eiddynt hwy, dywedwch hyny bob amser yn fwy gostyngedig ac hunanymwadol." Efe a dderbyniai y cynghor mewn sirioldeb, ac a ddiwygiai yn y peth hwnw, er y glynai ryw gymaint o'i weddillion wrtho trwy ei oes, oblegid arferai ddweyd wrth grybwyll ei farn ar ambell bwnc, "'Wyi yn ffyddaeo â nhw yn y fan yma, ' wy i yn ffyddaeo â'r gwydd da add y pwnc yma." Eithr trwy ei ymroad a'i ddiwydrwydd, daeth yn mlaen o radd i radd nes cyrhaeddodd enwogrwydd mawr, ac ystyried ei fanteision.