Cofiant Richard Jones Llwyngwril/Parhad o Helyntion Teithiol R. J.

Oddi ar Wicidestun
Yn Bregethwr Teithiol Cofiant Richard Jones Llwyngwril

gan Evan Evans, Llangollen

Dychweliad R. J. o'i Daith Olaf

Pen. VI.
PARHAD O HELYNTION TEITHIOL R. J. A'I LAFUR GARTREF RHWNG EI DEITHIAU.

Digwyddodd iddo weithiau yn ei oes fyned ar ei hynt yn llawn digon agos ganddo i gyffiniau y Saeson, gan deimlo yr anfanteision oedd iddo oddiwrth anadnabyddiaeth o'r iaith saesonaeg. Ceir engraifft o hyn yn yr hanesyn a ganlyn, yr hwn a dderbyniwyd oddi wrth Mr. Thomas o Benarth. " Arferai Richard Jones ddyfod i bregethu yn flynyddol i Benarth, Jerusalem, &c. ac yr oedd pawb yn hoffi ei wrandaw. Yr oedd y Gweinidog yn y flwyddyn 1844, yn llettya mewn tyddyn hyfryd o'r enw Brynelan, hen gartref cysurus gweision Crist am lawer o flynyddau. Yr oedd y teulu yn neillduol hoff o gyfeillach R. Jones, ac o wrandaw arno yn pregethu. Daeth ei gyhoeddiadau i law i fod yn Penarth, Jerusalem, &c. ac yn nhý rhyw foneddiges grefyddol ar ororau y Cymry a'r Saeson ger y Trallwm. Nid oedd un amser yn caru myned yn agos i'r Saeson; ond wedi hir grefu arno, efe a addawodd fyned i Allt-y-ceiliog a'r Trallwm. Pregethodd yn Mhenarth yn gyntaf, a thranoeth daeth i lawr i Brynelan. Nid oedd gwr na gwraig y tý gartref y pryd hwnw, na'r gweinidog ychwaith; neb ond y forwyn a Mr. Williams y meistr tîr. Ar ei fynediad i'r ty, gofynai R. Jones iddi am ei Meistr a'i Meistres, ac am y Gweinidog. Nid ydynt gartref yn awr, Sir, ebe hithau, ond hwy ddeuant adre cyn hir. Oeth yma gyhoeddiad i mi heno, dwad? Oes, Sir, ebe hithau. O'dd goreu, da iawn. Ar hyn eisteddoedd ar y gadair wrth y tân gyferbyn â'r Landlord cysglyd. Yr oedd hwnw yn hoff iawn o siarad, a holi pawb, ond ni fedrai air o Gymraeg. O'r diwedd deffrôdd, a chan edrych ar Jones yn ymddangos yn esgobaidd iawn yn y gong! arall, efe a ddywedodd wrtho, " Good morning, Sir", "Good moddnin, thyr," attebai yntau. "It is a very fine morning, Sir," meddai y Landlord. "Good moddnin", ebe'r Hen Lanc. "Did you see Mr. and Mrs. Davies any where?" "Good moddnin". "I am the Proprietor of this farm" ( ebe y Landlord ) "and I intend to improve it, do you know something about drainage?" "Wel wfft i ti, taw bellach, good moddnin," "dim thathneg." Ar hyn torodd y forwyn allan i chwerthin er ei gwaethaf. Trôdd yr hen frawd ati ac a ddywedodd wrthi (nid yn y modd sobraf, debygid) Wfft i tithau, lodath gellweruth, ai chwerthin am fy mhen i yn ceithio thiarad thaethneg yr wyt ti? Ni ddoe i byth ar gyfyl dy glawdd Offa di mwy." Pan ddaeth y Gweinidog adref, ac ymgyfarch â Richard Jones, aethant ill dau i ystafell o'r neilldu; ac yno mynegodd Richard Jones iddo pa fodd y buasai rhyngddo â'r Landlord a'r forwyn; ac ychwanegai, " Ydd wyf yn dy rybuddio yn awdd, Thomoth, nad â i ddim i dŷ Mrs. Roberts nôth y fory oth na ddoi di yno gyda mi bob cam, ac oth na thicrhei di na thyriadant un gair o thaesneg âmi." Felly y bu. A dyma y tro olaf iddo fod yno mwy. Bwriadodd ddyfod, ond nis gallodd.

Mawrhäed y gwŷr ieuainc hyny a ymgyflwynant i'r weinidogaeth, eu breintiau mawrion, a gofalant fod yn ddiwyd i wneuthur iawn ddefnydd o honynt, fel y byddont gymmwys, o bydd raid, i ddal cymdeithas â Landlords a ddigwyddant deimlo ar eu calon holi cwestynau iddynt, ac fel y byddo ganddynt ychwaneg ' i'w hateb na " good morning, Sir;" ac yn enwedig y medront i bregethu Crist nid yn unig yn agos i glawdd Offa, ond y tu hwnt iddo hefyd; ac fel na byddo raid iddynt, fel Richard Jones, dynghedu neb i attal y saeson rhag agor eu genau wrthynt.

Ar ol myned yn fanwl trwy ei gylchdaith dychwelai adref. Arosai ychydig wythnosau, gan bregethu ar y Sabbathau a nosweithiau yr wythnos yn ei hen ardaloedd, a byddai yn dda gan bawb ei weled a'i glywed. Ei arferiad cyffredin fyddai cyfansoddi tair neu bedair o bregethau newyddion yn y cyfnod hwn, fel darpariaeth gogyfer a'i daith nesaf. Yr oedd ei fyfyrgarwch yn ei ddiogelu ef rhag byw ar hen ystôr, oblegid gwyddis ei fod yn parhau trwy ei oes i gyfansoddi pregethau newyddion, ac ni fynasai er dim draddodi yr un bregeth fwy nac unwaith yn yr un man. Dygwyddai i ambell un ofyn iddo cyn cychwyn i'r addoldy, " Beth a gawn ni heno Richard Jones?" " Tydd di yno fachgian, mae gen i bregeth newydd." Ni bu yr ysgrifenydd erioed yn ei gymdeithas ef na byddai yn teimlo adnewyddiad yn ei awydd i fod yn debycach i R. Jones mewn ysbryd myfyrgar, ac ymestyniad am newydd-deb. Yr oedd ganddo ddawn a medrusrwydd rhagorol yn newisiad testynau at wahanol achosion ac amgylchiad Er mwyn rhoddi engraifft o hyn, dodir hanes yr amgylchiad canlynol, yr hwn a ddigwyddodd pan oedd efe gartref.

Ar fynediad yr ysgrifenydd i gymydogaeth Llwyngwril i ymweled â'i dad oedranus, yr hwn oedd yn gorwedd ar ei wely angau, dywedai R. Jones wrtho, "Evanth, y mae eich tad yn bur thâl, mae o'n debyg o fyned i lawdd yn fuan fuan. O'r holl gyfeillion ag oedd yn dechreu'r achoth yma ac yn ardaloedd Llanegryn a Thywyn, 'doeth neb o honynt yddwan yn fyw ond eich tad a minau. Ac oth bydd yntau faddw o'm mlaen i, mi fydda i wedi fy ngadael fy hunan." Yna gorchfygwyd ei deimladau ef am funud neu ddau; ac wedi ymiachau ronyn, dywedai, "Evanth, mae gen i dethdyn rhagorol at bregeth angladd eich tad." Pa un ydyw, R. Jones? "Wel, y geiddiau acw yn 1 Bren. 19. a'r rhan olaf o'r ddegfed adnod--" a mi fy hunan a adawyd, a cheithio y maent fy einioeth inau." Dyna fo, R. Jones, eb ei gyfaill wrtho, gwnaiff y tro yn rhagorol. Ac nid yn ofer a fu ei ddewisiad o'i destyn, na'i ragfyfyrdod arno, canys marw wnaeth ei hen gyd-bererin yn "fuan fuan " ar ol hyn. Ac yn mrydnhawn dydd ei gladdedigaeth, tra ddododd Richard Jones ei bregeth ar y testyn hwn i dyrfa luosog ynghapel yr Annibynwyr yn Llwyngwril, yn hynod o effeithiol. Dywedai fod ei sefyllfa ef yn dra gwahanol i'r eiddo Elias, ond fod ei destun yn briodol a chymwys iawn i'r amgylchiadau y dygid ef iddynt ar y pryd hwn. Yna efe a roddai fyr hanes dechreuad yr achos ymhlith yr Annibynwyr yn yr ar daloedd cyfagos, ac yn enwedig yn ei ardal ei hun. "Ond", ebe efe, "pa le y mae fy hen gyfeillion oedd yn cydgychwyn â mi ar y daith grefyddol? Ydyn 'nhw wedi ngiadel i gyd? " A chan droi ei lygaid dyfrllyd at yr arferasai ei hen gyfaill trancedig eistedd, dywed ai dan wylo, Ydyw ef yna? Nac ydyw, nac ydyw, mae yntau hefyd wedi myned,

"Gan fy nghadael yn ymddifad
Wel peddeddin wrtho'i hun."

"A mi fy hunan a adawyd, a cheithio y maent fy einioeth inau." Ond medd rhywun, pwy sydd yn ceithio dy einioeth di? A ydyw Victoddia yn ceithio dy einioeth di, fel yr oedd Jethebel yn ceithio einioeth Eliath? Nac ydyw, nac ydyw, 'dyw ein brenhineth diddion ni ddim i'w gothod longthide â'dd hen Jethe bel hono, nid yw hi yn ceithio einioeth neb oblegid ei grefydd; caiff pawb yn ein gwlad ni grefydda wel y myno heb beddyglu ei einioeth. Pwy ynte thydd yn ceithio dy einioeth? Ai y gyfddaith wladol? A wnêst ti ryw ddrwg thy'n galw am i'th einioeth fod yn ythglyfaeth iddi? Naddo trwy drugaredd, rwyf yn ddigon thâff rhagddi." Ar ol iddo grybwyll amryw bethau nad oeddynt yn ceisio ei einioes ef, cyfeiriai wedi'n at genhadon angau, y rhai oeddynt fel cynifer o filwyr iddo yn chwarau am ei einioes o bryd i bryd. " Ac yn ddiweddar," ebe efe, " daeth un o honynt ataf, ac a'm taddawodd yn fy mhen, neth oeddwn mewn llethmair, gan geithio fy einioeth. Ond meddai yr Arglwydd wrtho, Tha' draw, tha' draw, mae'u rhy fuan eto, chei di mo'i einioeth yddwan, mae hono yn fy llaw i. Ond, gyfeillion, mae'r amther yn ymyl y caiff angau gomandth gan fy Arglwydd i daddo ei eddgyd maddwol. Ond diolch ! y mae gan y Crithtion "fywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw." A chan annog y gynnulleidfa mewn modd difrifol i ymofyn am hwnw cyn y darfyddai eu heinioes, terfynodd ei bregeth.

Teimlai yn ddwys bob amser dros lwyddiant achos yr Arglwydd yn gartrefol a thramor, yn enwedig yn misoedd diweddaf'ei oes. Yn ngwresogrwydd ei weddiau, llywodraethid ei sêl yn gyffredin gan wybodaeth a doethineb. Ond un tro yn Llwyngwril ar foreu Sab bath, pan oedd efe yn gweddio dros Achos Crist tu draw i'r moroedd mewn gwledydd pellenig, ac yn enwedig yn Madagasgar, tywalltai ei galon mewn erfyniau taerion dros y brodyr a'r chwiorydd oeddynt yn dyoddef yno anfanteision ac erledigaeth. Yna dug achos yr hen frenhines ger bron Duw : ac mewn eiddigedd duwiol dros ei ogoniant, a thosturi cyffrous dros ei gyfeillion gorthrymedig, ac o gasineb calon at greulonedd ei Mawrhydi, dywedodd, " Ydd ydym yn dymuno arnat roddi calon newydd iddi, Arglwydd; dyro galon newydd i hen frenhineth annuwiol a chyddeulawn Madagathgadd! OND—oth bydd hi ar ffordd dy achoth di i fyned yn mlaen, i'r fflamia a hi!! I'r fflam ia a hi!! Nid oedd yno neb o'r cyfeillion a feiddient ddweyd Amen wrth y fath ddeisyfiad â hwn, ond yr oedd pawb yn ddistaw fel y bedd, a bron a chwysu gan arswyd a dychryn. Hwyrach y buasai meibion Zebedëus yn angerdd eu sêl yn gwaeddi gydag ef, Arglwydd a fyni di ddywedyd o honom am ddyfod tan i lawr o'r nef a'i difa hi? "A phe digwyddasai i'r enwog genhadwr Eliot fod ar y pryd yn nghapel Llwyngwril, a deall deisyfiad yr hen frawd, fe allai mai cryn orchest fuasai iddo yntau allu ymattal, yn mhoethder ei sel dros achos ei Dduw, rhag gwaeddi yn uwch na'r tri, " Amen, Lord, kill her!!" Ar ol diweddiad y moddion, aeth rhai o'r cyfeillion at Richard Jones gan ofyn iddo mewn syndod, paham y gweddïasai mor arswydus dros frenhines Madagascar? Ac yn mha le yn yr Ysgrythyr y cawsai ef sail i ddeisyfu ei herchyll gospedigaeth felly? Yntau yn ymwybodol fod ei sêl y tro hwn wedi tori dros ei derfynau priodol, ni chynygiai ymresymu â hwynt ar y mater, ond gan brysur hwylio tuag adref, a ddywedodd wrthynt, " Mae yno ddifai lle i'w thiort hi, oeth yn widdionedd inau. Mae llawedd o'i gwell hi wedi myned yno." Os nad yw yr hen frenhines wedi myned yno, gobeithir gan filoedd y, rhydd yr Arglwydd "galon newydd iddi," fel y gwasanaetho hi ef mewn ofn, ac yr ymlawenhäo mewn dychryn, rhag iddo ddigio a'i dyfetha o'r ffordd pan gyneuo ei lîd ef, ie, ond ychydig."

Cynlluniai ei daith drachefn, ac anfonai ei gyhoeddiadau, ac elai ymaith ar y dydd penodedig fel arferol; ac ar ol ei gychwyniad, dywedai ei gymydogion,"Dacw Richard Jones yn myned eto, ni welwn mo hono am chwarter blwyddyn."

Un o rinweddau disglaer Richard Jones, fel pregethwr teithiol, oedd ei ofal rhag ymyryd â materion rhai eraill, a rhag cludo chwedlau o'r naill fan i'r llall. Nid gorchest fechan oedd hyn; ond gellir dweyd am dano ef yn ystod yr holl flynyddoedd y bu yn teithio, na chyhuddid ef o fod yn chwedleugar ac yn gludydd newyddion drwg ac anghysurus am weinidogion, eglwysi, na theuluoedd. Pan y dygwyddai iddo eistedd weithiau yn mysg y rhai a geisient hela rhywbeth o'i ben ef, medrai yr hen gyfaill droi y chwedl heibio, a'i gollwng yr un ffordd a mŵg ei bibell; îe, mynych y clybuwyd ef yn amddiffyn gweinidogion pan y clywai rywrai yn eu gwarthruddo yn eu habsenoldeb.

Ac nid llai disglaer oedd ei rinwedd hwn hefyd yn ei gartref ei hun; oblegid y mae y Gweinidogion parchus a fuont yn llafurio yn ei gymydogaethau yn dystion byw o wirionedd hyn. Ac at y tystiolaethau a gafwyd eisoes ganddynt, cymerir y cyfle presenol i chwanegu eiddo Mr. Griffiths, gynt o Lanegryn, ond yn awr o America. "Cefais ef yn gyfaill didwyll, dirodres, a ffyddlawn yn ystod yr amser y bum yn gweinidogaethu yn Llanegryn, Llwyngwril, &c. Cefais ef yn gydymaith yn caru bob amser, ac yn ymddwyn yn ddihoced yn fy absenoldeb fel yn fywyneb. Ni byddai arnaf ofn adrodd fy helyntion iddo, ac ni welais achos yn ystod mwy na thair blynedd ar ddeg, i gelu oddiwrtho fy nhrallodau fel gweinidog. Byddai bob amser yn cefnogi y weinidogaeth gartrefol yn nghyda phob diwygiad."

Yr oedd gan Richard Jones ofal tyner bob amser am fechgyn ieuainc yn dechreu pregethu. Da pe byddai llawer yn y dyddiau presenol yn dilyn ei esampl efyn hyn, yn hytrach na'u difrïo a'u digaloni. Yr oedd ganddo ef gystal barn â neb am gymwysderau angenrheidiol i fod mewn pregethwr; ac ar yr un pryd pan y gwelai ambell un go ganolig yn ei ddechreuad, ni byddai efe boddlawn er dim i daraw hwnw yn ei dalcen yn ebrwydd, heb fynu eithaf prawf yn gyntaf ar alluoedd y cyfryw. Yn y flwyddyn 1824, yr oedd gwr ieuanc, tair ar hugain oed, aelod perthynol i'r eglwys Annibynol yn Nolgellau yr hwn oedd wedi pregethu ychydig yn y gymdeithas eglwysig yno, ac heb fod erioed eto yn y pulpud. Aeth hwn ar nos sadwrn i ymweled â'i rieni yn ardal Llwyngwril. Mynegwyd iddo y cai efe glywed Richard Jones, Tŷ Du, boreu dranoeth : yr oedd yn llawen gan y llanc ddeall hyny, ohlegid ni chlywsai ef mo hono erioed o'r pulpud. Boren dranoeth, aeth y teulu i'r Capel, ac eisteddodd y llanc a'i dad wrth y bwrdd dan y pulpud, pryd yr oedd у R. Jones yn darllen Salm; ac ar ol hyny rhoddai bennill i'w ganu, a thra yr oedd y gynnulleidfa yn canu, dyma ef yn agor drws yr areithfa, ac yn taro ei law ar ysgwydd y bachgen, gan ddywedyd wrtho— "Tyr'd i i fynu, machgen i, tyr'd yma i dd'eyd tipyn o'm mlaen i." Dychrynodd y llanc trwy ei galon ac attebodd dan y grynu, Na ddof fi yn wir, mae arnaf fi ofn.Yna ymaflodd Richard Jones yn yngholer ei gôt ef, ac a ddywedodd wrtho, Mae'n ddhaid i ti ddwad." A gorfu ar y gwan crynedig fyned ato, a thrwy lawer o drafferth y medrodd ef gael ryw ychydig i'w ddweyd wrth y bobl. Ar ol gorpheniad y moddion, ar y ffordd wrth fyned ymaith, yn absenoldeb y bachgen, wele'i dad yn ofidus yn galw ar Richard Jones, ac yn dywedyd wrtho, " Richard, ni ddylasech er dim wneud iddo ddyfod i'r pulpud i geisio pregethu. 'Does ganddo ef ddim dawn i fyn'd yn bregethwr, ac fe fydd wedi tori ei galon." Ebe yntau, "Cymeddwch bwyll, cymeddwch bwyll, 'doedd dim coel addno heddyw, oblegid ei fod mor thwil. Peidiwch a deyd dim wrtho, cymerwch ofal, da chwi. Dewch i ni gael tyddeial addno am un flwydd yn beth bynag, fe ddaw rhywbeth o hono eddbyn hyny, neu fe fydd wedi myned i'dd dim." Diolch iddo am gyngor.

Mae llawer o blant yr Arglwydd ag ydynt yn awr wedi myned adref, ac eraill sydd yn fyw, yn adgofio gydag hyfrydwch y cynghorion gwerthfawr a gawsant ganddo ef yn eu trallodau a'u helbulon. Yr oedd efe wedi ei gymhwyso yn rhagorol at y gorchwyl hwn, mewn dawn, gwybodaeth a phrofiad. Dywed un o'r teulu lluosog a fu gynt yn byw yn y Bwlchgwyn, ond ydynt yn awr yn wasgaredig yn nau chwarter y byd, fel hyn am dano ef—"Yr oedd Richard Jones gyda ni pan oedd ein hanwyl fam yn marw. Yr oedd deg o honom o'i gwmpas yn wylofain, ac yn ei gofleidio; ac nis annghofiaf byth ei gynghorion gwerthfawr i ni, a'i weddiau taerion trosom ni a'n hanwyl dad, yn yr amgylchiad difrifol hwnw. Yr oedd fy mrawd hynaf pryd hyny yn Llundain yn casglu at gapel yr Annibynwyr yn y Bermo."

Byddai ein cyfaill yn dra defnyddiol gartref ac ar ei deithiau nid yn unig yn yr areithfäau, ond hefyd yn yr Ysgol Sabbathol. Dygai fawr sel dros y rhan yma hefyd o waith yr Arglwydd. Byddai pob dosbarth pan y gwelent ef, yn ei wahodd am y cyntaf i'w plith er mwyn cael ei esboniadau rhagorol ar y rhanau o'r gair a ddarllenent. Llawer math o ymofynwyr am y gwirionedd a'i cwestiynent yn y cyfryw gylch. Rhai a'i holent ef oddiar yspryd cywreingarwch; eraill er mwyn dadlu yn unig; ac ambell un, ysywaeth, er mwyn cael digrifwch. Yr oedd yr hen athraw yn ddigon llygadgraff yn gyffredin i'w hadnabod, ac yn eithaf medrus i roddi i bob un ei gyfran briodol. Gofyn ai rhyw eneth ieuanc iddo pan yn darllen Mat. xix. 12, gan gymeryd arni fod yn ddidwyll a difrifol, "Beth sydd i ni ddeall, R. J. wrth yr enw digrif yma sy bum waith yn yr adnod hon?" " Dyw o ddim o futhneth merched ieuainc i holi yn nghylch pethau wel hyn."

Ac am ei haelioni at achosion crefyddol, yr oedd hefyd yn ganmoladwy.

Nodiadau[golygu]