Cofiant Richard Jones Llwyngwril/Dychweliad R. J. o'i Daith Olaf

Oddi ar Wicidestun
Parhad o Helyntion Teithiol R. J. Cofiant Richard Jones Llwyngwril

gan Evan Evans, Llangollen

Englynion Coffa

Pen. VII.
DYCHWELIAD R. J. O'I DAITH OLAF, I FYNED I FFORDD YR HOLL DDAEAR.

Ar ol cylchymdeithio trwy holl Gymru am flynyddoedd lawer, gwelwn ein hen gyfaill yn dychwelyd adref o'r diwedd i rodio llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelai.

Nid oedd fawr o bryder ynddo un amser gyda golwg lle y byddai farw ynddo, pa un ai gartref, ynte ar ei daith, y cyfarfyddai ag angau. Gofynodd chwaer hynaf yr ysgrifenydd iddo pan ar ei gychwyniad i un o'i deithiau, " Richard Jones, a fydd arnoch chwi ddim ofn marw oddicartref?" "Dim Betsy, dim," ebe yntau,"dyw obwyth yn y byd yn mha le na pha bryd, y mae'r pàu bach yn barod; ffarwel i ti yddwan." Teimlodd rhywun awydd hysbysu i dywysogaeth Cymru, a hyny flynyddoedd yn gynt na phryd, fod Richard Jones Llwyngwril, wedi marw, Fe allai mai nid oddiar un bwriad maleis ddrwg y gwnaed hyn, ond yn unig oddiar ddifyrwch anystyriol. Fodd bynag am hyny, gormod oedd hyn i'w wneyd â neb, yn enwedig â gŵr o gymeriad mor gyhoeddus ag ef. Achosodd y gau -hysbysiad hwn drallod nid bychan i gannoedd, ac yn enwedig i Richard Jones ei hun ac i'w berthynasau. Dywedodd rhyw gyfaill wrtho ef, " Wel Richard Jones, mi glywais i eich bod wedi marw ! " Wel yn widd " ebe yntau "clywais inau hyny hefyd, ond mi wyddwn i gynted ag y clywaith i mai celwydd oedd o." Ond yn awr y gwir yw fod ei angau gerllaw.

Ni chafodd ond byr gystudd, yr hyn ydoedd yn fraint fawr iddo. Awgrymasai ychydig amser cyn hyn fod awr ei ymddattodiad ef yn agosâu. Pan fynegwyd iddo fod ei frawd, yr hwn fu yn byw yn yr un tŷ ag ef, wedi marw, cyfododd o'i wely, ac aeth i gwr ei ystafell, gan ddywedyd yn wylofus, "Wel, wel, Guto bach, dyma di wedi mynd, dof finnau ar d'ol di dethd yn union." Gofynai ei chwaer iddo cyn iddo gael un o'i lesmeiriau marwol, " Dic bach, leiciet. ti fyw dipyn etto gyda ni?" "Dim o bwyth," eb efe. "A fyddai yn well gen 'ti farw?" " Wel y gwelo Fo'n dda," ebe yntau. Llawer a soniasai efe yn ei fywyd wrth eraill am weinidogaeth angeu, a gwerthfawredd crefydd erbyn myned iddi; dyma ef ei hun yn awr ar fîn yr afon heb arswydo ei chenllif. Ië, yr hwn a deithiasai ddwy filldir o gwmpas yn hytrach na chroesi cornant dros bontbren ganllawiog—ie, yr hwn a gwmpasai ar ei draed ugain milldir o ffordd i fyned o Abermaw i Lwyngwril, yn hytrach na chroesi yr aber gûl honó mewn bâd, gan yr arswyd oedd ynddo rhag croesi dyfroedd,—wele ef yn awr, pan yn dechreu gwlychu ei draed yn afon angeu, yn mynegu wrth ei gyfeillion, a hyny gyda sirioldeb a gwrolder, nad ofnai ef niwaid, gan y gwyddai fod ei fywyd yn " thâff " yn Nghrist cyn dyfod yno. Felly ymadawodd â'r bywyd hwn, Chwefror 18, 1853, yn 73 oed, ac aeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Traddodwyd areithiau effeithiol wrth ddrws ei dŷ gan y brodyr J. Owen, Llanegryn; J. Thomas a H. Lloyd, Tywyn, i'r dorf fawr a ymgynnullasai yno, ac yna hebryngwyd a dodwyd ef i orwedd yn ei fedd hyd udganiad yr udgorn yn y dydd diweddaf.

Nodiadau[golygu]