Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Yr Hen Bobl
← Pobl y Mawr Gam | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Y Bobl Ieuaingc → |
YR HEN BOBL.
DYN ydyw dyn yn holl dymorau ei oes. Ceir gweled prif ddeddfau ei natur yn gweithredu o'i febyd i'w fedd. Câr ei ddedwyddwch ei hun, a chymeradwyaeth ei gydddynion, gydol ei daith trwy byd. Y mae yn wir er hyny fod rhyw bethau yn fwy tueddol iddo yn blentyn, a phethau eraill yn ganol oed; ac odid, os gwel ddyddiau henaint, na bydd ganddo deimladau gwahanol i'r hyn oedd ganddo yn nechreu a chanol oes. Efallai nad yw y rheol hon heb ryw gymaint o eithriadau iddi fel rheolau cyffredinol eraill. Gwelir weithiau fachgen yn synied ac yn teimlo fel dyn mewn oed, ac ambell henafgwr yn parhau yn ieuengaidd ei yspryd, ac yn cydgerdded â'r oes bresenol, er fod ei gyfoedion naill ai yn y bedd neu fel y llong y mordwyai Paul ynddi i Rufain, pen blaen yr hon a lynodd ac a safodd yn ddiysgog, nes i'r pen ôl ddattod a myned yn chwilfriw.
Hawdd gan henaint erioed feio ar yr amser presenol, ac megys yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon. Gellir barnu oddiwrth eu cân fod y byd yn myned yn waeth bob oes wedi y dylif. Mae hyd yn nod natur ddifywyd yn newid er gwaeth. Nid yw yr hîn càn deced,' medd yr henŵr, a phan yr oeddwn i yn ieuanc. Byddid y pryd hwnw yn gollwng yr ychain am oriau lawer ganol dydd wrth hau haidd yn niwedd Ebrill a dechreu Mai: a phrin y gellid codi eu penau o'r glaswellt gan y tyfu yr oedd y braenar; ond yrŵan, y mae yn oer ddigon bymthegnos o hâf.' Un o'r hen dadau hyn a ddywedai fod cyfnewidiadau rhyfedd yn cymeryd lle yn y byd, fod y bobl yn y dyddiau hyn yn siarad yn îs, yn cerdded yn gyflymach, ac yn bwyta yn gynt; a bod y cerig yn drymach; ac hyd yn nod y tân,' meddai, mae yntau yn altro; mae yn llawer oerach na phan oeddwn i yn fachgen.' Gwaith ofer yw dywedyd wrth y gwŷr hên, sydd o flaen y tŷ,' mai ynddynt hwy y mae y cyfnewidiad, sef eu bod wedi colli y gallu i fwynhau pethau fel y buont gynt; nad oes ganddynt mo yr archwaeth at degwch a phrydferthwch fel pan oeddynt yn ieuainc; eu bod yn clywed yn drymach; ac ar ol colli mwy na haner eu danedd, eu bod yn hwy yn bwyta; a'u bod yn wanach i gerdded yn gyflym i ganlyn y fintai. Nage,' medd fy ewythr, y byd sydd yn newid; nid wyf fi ond yr un un.' Mae yn drwm genyf weled pob peth yn myned ar ei hên sodlau: pa beth a ddaw o'r byd, ni's gwn.
Yr oeddwn yn gwybod am un hen gyfaill oedranus, pur independent—nid oedd waeth ganddo pwy na pha beth a fyddai neb. Yr oedd tua phymtheg-a-thriugain oed, yn iach a sionc. Yr oedd ganddo hefyd arian a gasglasai ef ei hun, llôg y rhai oedd yn llawn ddigon i'w gadw yn gysurus, càn belled ag y gwna arian hyny. Yr oedd, pa fodd bynag, wedi dyfod er ys tro i ddosbarth yr Hen Bobl. Efe oedd gynghorwr ar bob achos yn mron yn y pentref lle yr oedd yn byw. Yr oedd yn hynod lân ei drwsiad o'i goryn i'w sawdl, a gallai y gath weled ei chysgod wrth edrych ar ei esgidau, gan mor ddysglaer yr oeddynt wedi eu blackio â'r blacking goreu oedd i'w gael am arian. Nid oedd bin o'i le mewn unman, na chymaint a botwm yn eisieu. Ei grys oedd càn wyned a'r eira, a'i hosanau yn lanach na chadach gwddf llawer un. NI welid ysmotyn ar ei goat, na tholc yn ei het; ac am hyny o wallt oedd ganddo, yr oedd yn ei gribo a'i osod mewn trefn bob dydd càn sicred a chodi haul. Am eirwiredd ac onestrwydd cyffredinol, nid oedd neb yn sefyll yn uwch. mewn un gymydogaeth o Gaergybi i Gaerdydd. ddeallasom ei fod yn gofidio oblegyd dryllio Joseph, nac yn pryderu oblegyd ei bechod; ac am nad yw y byd yn meddwl llawer am hyny, yr oedd yr henwr, fel yr oedd, yn hynod o barchus a mawr ei ddylanwad. Eisteddai mewn cadair freichiau yn yr un parlwr bob amser yn y gwest-dŷ mwyaf yn y pentref lle y trigai; ac mor gymeradwy oedd ei berson yn ngolwg y tafarnwr, nes y mynodd gael tynu ei lun, a'i osod yn y mur uwch ben y tân yn y parlwr mawr. Yr oedd ganddo air i'w ddywedyd ar bron bob peth a ddygwyddai ddyfod o'i flaen; ac yr oedd llyfr coffawdwriaeth yr amseroedd yn dra hysbys iddo ef; ac os dygwyddai rhyw bethau weithiau gael eu taflu i lawr yn yr ymddyddan ar nad oedd efe yn ei ddeall, cymerai arno ei fod; ac yr oedd hyny yn ateb bron yr un dyben gyda'r cwmni yr oedd ef yn eistedd yn benaf yn eu mysg a phe buasai yn eu gwybod yn drwyadl.
Yr oedd, pa fodd bynag, yn barnu fod doethineb wedi marw gyda'r hen bobl, heblaw oedd yn aros ynddo ef; ac fe dyngai nad oedd nac areithwyr na phrydyddion yn awr fel cynt; a bod adfeiliad a malldod ar bob peth yn mhob man, o'r orsedd i'r bwthyn. Pa le,' meddai, 'y mae swyddogion gwladol fel Fox a Pitt? Ac am brydyddion, y mae yr oes wedi myned yn ei gwrthol tu hwnt i fesur. Pa le y cewch neb yn y dyddiau hyn cyffelyb i Goronwy Owen o Fôn, a llawer o'i flaen; ac nid hwyrach un neu ddau ar ei ol?' Dywedai ambell un wrtho, Onid oedd Dafydd Ionawr, awdwr Cywydd y Drindod, yn fardd campus, ac yn gwario ei dalent ar y goreu? A pheth am Dewi Wyn, y bardd o'r Gaerwen, awdwr yr Awdl ar Elusengarwch, ac Englynion Pont Menai, a llawer o gyfansoddiadau eraill, nerthol a chyffrous? Llewyrchodd y rhai hyn, a llawer eraill yn fy oes i, ac y mae yn fyw brydyddion campus.' 'Lol i gyd,' ebe yntau, nid oes genych farn am brydyddiaeth, onide ni siaradech fel yna. Mae yn wir ddarllenais i mo waith y prydyddion a enwasoch; oblegyd nid ydynt yn werth eu darllen, mwy na bagad o'u cyffelyb sydd yn rhyw rigymu yn y dyddiau hyn. Mae un linell o waith Goronwy Owen yn werth y cwbl. Prydyddion, yn wir, yn yr oes yma! na choeliaf fi, na dim yn debyg chwaith. Ni waeth i chwi un gair na chant; mae gogoniant Prydain yn ymadael.' Ond, fy hen gâr,' meddai rhywun, gadewch i hyny fod; y mae celfyddyd yn myned rhagddi yn hynod. Y mae llawer peth y gellir dywedyd am dano, Edrych ar hwn dyma beth newydd.' Ho, mi welaf eich bod yn cyfeirio at yr agerdd-longau, agerdd-gerbydau ar y ffyrdd haiarn, a'r cyffelyb bethau. Rwy'n dyweyd yn hyf mai melldith gwlad a thref yw y pethau hyn oll. Siaradwch chwi am lestr agerdd os mynwch; ond rhowch i mi long dda, a hwyliau da arni, a gwynt teg, a mawr dda i chwi ar eich llongau tân, hefo eu boilers mawrion, yn y perygl o dori a chwythu pawb i ddinystr bob mynyd. Ac am y ffyrdd haiarn, nid oes i mi a wnelwyf â hwynt, mwy na'r agerdd longau. Cefn y ffordd fawr i mi, cerbyd a cheffylau, tafarndai yma ac acw ar bob llaw, tròlyn o goachman gwridgoch, a chàn dewed a'r facrell, y guard a'i gornet a'i chwibanogl, a'r ddau càn hapused a phe baent dywysogion. Steam Coaches yn rhodd! pwy a all ymddiried nad allent redeg eu gilydd, a dryllio naill y llall càn faned ag y gallai yr hen wragedd glywed arnynt hel y coed i fyned adre i ferwi y tea—kettle; heblaw yr enbydrwydd y sydd i'r teithwyr gael dryllio eu holl esgyrn, a chwythu aelodau rhai o honynt i fyny i'r cymylau yn ddisymwth fel mellten? Dywedir hefyd eu bod yn teithio mor gyflym ag y bydd y maesydd a'r coedydd yn ymddangos yn troi fel chwrligwgan. Pa gysur yw teithio fel hyn? Ni bum i mewn steam coach erioed, ac nid âf yn fy oes. Gwaith ffol i'r oes hon fostio o'i steam, ni ddaw dim daioni oddiwrtho fo beth bynag.' 'Ond, syr,' ebe un wrtho, 'bernwch fod teithio fel hyn yn beryglus, eto, gan ei fod yn gyflym, mae yn dwyn y dynol deulu yn nes at eu gilydd, ac y mae dynolryw drwy hyny yn llyfnhau rywfaint ar eu gilydd fel ceryg yr afon wrth ymrwbio y naill yn y llall.' Syr,' ebe yntau, 'nis caniatâf fi fod unrhyw ddaioni yn cael ei wneyd trwy hyny. Gwir ein bod yn cario ein gwareidd-dra i blith cenhedloedd anwar; ond yr ydym yn cario ein drwg arferion a'n hafiechyd hefyd i ganlyn hyny, fel y mae yn anhawdd dywedyd a ydynt ronyn gwell gyda ni nag hebddom ni. Cyn ein dyfod, yr oeddynt yn rhydd, yn gryfion, ac yn iach; ac nid oedd arnynt ond ychydig eisieu; a'r peth mwyaf a wnawn ni yw gweithio angen i'w natur ar nad oedd o'r blaen. Ac wedi hyny, maent yn methu diwallu yr anghenion gwneuthuredig; a thrwy hyny, maent yn cael eu gwneyd yn fwy truenus. Na; gwell iddynt ein lle na'n cwmni.' Ddarllenydd, y mae yr hen frawd hwn wedi marw er ys tro bellach, ond y mae llawer o'i gyffelyb eto ar y ddaear.
Nid yw y gyfrinach a berthyn i'r dymher hon yn anhawdd ei chael allan. Sonia ein hen gyfeillion am lygredigaeth yr oes, a chymerant yn ganiatâol na lygrasant hwy i ganlyn yr oes; a disgwyliant fod eraill yn synied yr un peth. Y mae hunanoldeb y natur ddynol yn ddeddf gref, ac ni bydd farw yn yr hen ŵr heb i ryw egwyddor well ei threchu; ac yn wir, er ei marweiddio, y mae heb farw yn y goreu o ddynion tra byddont byw. Yn nyddiau henaint, y mae dynion yn gadael yr esgynlawr lle y mae llawer math o orchestion, ac oddiar lawr edrychant i fyny gyda rhyw gymaint o ragfarn, mwy neu lai, wrth fel y maent yn bleidiol i'w cyflawniadau eu hunain. Mae yn anhawdd gochel pleidgarwch yn yr achosion hyn o herwydd grymusder y ddeddf o hunanoldeb yn ein natur. Côf genym glywed am un hen fenyw yn rhoi gorchymyn nghylch ei hwylnos a'i chynhebrwng: Gwnewch,' meddai hi, y ddiod boeth yn dda, a rhowch ddigon o spices ynddi, a gofalwch am ei chadw yn gynhes; rhowch y bwrdd mawr yn y gegin oreu, a'r llian bwrdd goreu arno erbyn ciniaw; a byddwch siwr o wneud cacenau wylnos dda, beth bynag; ond o ran hyny, ni bydd fawr o drefn ar ddim, oni buasai fy mod i yno fy hunan.'
Arferiad maith unrhyw beth a bair weithiau fod gwahaniaethu oddiwrtho yn ymddangos yn fai erchyll. Soniai rhywun wrth hen ddysgybles o Faptist, er ys tro yn ol, fod lle i fedyddio yn cael ei wneyd oddifewn i lawer o'u capelydd y dyddiau hyn. Mae hyny yn burion gan ryw fath,' ebai hi, ond afon i mi.' Nid yw henaint yn gyffredin yn hoffi nemawr ddim o'r newydd. Hen dy lle y treuliodd ganolddydd ei oes i'r hên ŵr, yn hytrach na phalas newydd; yr hen gongl iddo ef, hyd yn nod pe byddai yr huddygl yn disgyn yn fynych am ei ben ac weithiau i'w fwyd. Hen ddodrefn, a hen bobpeth, i hen ddyddiau. Gan rym rhagfarn, gwrthodai yr holl feddygon oedd dros ddeugain oed, meddir, ddarganfyddiad y Doctor Harvey am gylchrediad y gwaed yn y corph dynol, yr hyn a barodd i'r Doctor golli ei barch fel meddyg i raddau mawr. Fel hyn, i raddau, y mae mewn crefydd: hen gapel, hen bulpud, hen benill, ac yn enwedig hen fesurau, i'r hen bobl. Dywedai un na chlywodd ef neb erioed yn gorfoleddu ar fesur newydd. Y mae yn rhaid hefyd pregethu yn ngeiriau a dull yr unfed—ganrif—ar—bymtheg, os amgen bydd y pregethwr yn gyfeiliornwr, pe byddai cân iachused ei gredo â'r deuddeg apostol. Bu rhagfarn enbyd yn erbyn yr Ysgol Sabbothol yn y dechreu. Dirwest, hithau a dderbyniodd gyfryw ddywedyd yn ei herbyn gan rai henafgwyr, yn unig am ei bod yn beth newydd.
Dedwydd benwyni a fo mewn ffordd cyfiawnder! Gwyn ei fyd yr hên ŵr mwynlan a fyddo mor ddoeth a deallus a chadw ei ben yn agored i dderbyn pob gwir, ïe, pe byddai mewn rhyw ddull yn newydd; ac y byddo ei galon mor rasol a gonest fel y gwrthodai bob drwg, pe byddai càn hened a Methusaleh. Ond garw amled y mae yn y gwrthwyneb! Nid ydym byth yn blino wrth glywed canmawl ein hen dadau, a'u gwenidogaeth nerthol a gwlithog. Ond paham y gwneir hyny er diraddu y rhai sydd yn fyw? Nid yw hyny ond moli y sawl a fu ar draul y rhai sydd. Rhoddodd Duw i'n tadau at eu hamser hwy, ac atebodd y dyben mewn gradd helaeth; a hyderwn ei fod yn rhoddi yn ein dyddiau ninau genadwri addas i'r amgylchiadau presenol. Ar yr un pryd, pell ydym oddiwrth feddwl nad oes arnom wir angen am ychwaneg o ddawn ac yspryd y weinidogaeth; ac O! disgyned graddau eraill o'r eneiniad oddiwrth 'y Sanctaidd hwnw' ar ei weinidogion yn y dyddiau hyn, i wybod pob peth a berthyn i waith eu tymmor hwy! Troër hefyd galonau y tadau at y plant, fel trwy hyny y troër calonau y plant atynt hwythau, rhag i ni gael ein taro â melldith, o eisieu rhodio mewn cariad y naill tuag at y llall.
O! Mor hyfryd yw gweled henafgwr wedi ei goroni â gwallt gwyn yn ngwasanaeth ei Arglwydd, ac wedi ei ddigoni a hir ddyddiau, yn dirf ac iraidd yn ei henaint, ac yn blodeuo eto yn nghynteddau ein Duw ni, ei fronau yn llawn llaeth i'r rhai ieuainc, â'i esgyrn yn iraidd gan fêr. Cofiwch, henaint, pa faint bynag yw y cyfnewidiadau y sydd, ac er fod rhai pethau fe allai er gwaeth, fod Duw yr un. 'Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd.' Ni bu yr efengyl erioed yn fwy gogoneddus ynddi ei hun nag ydyw heddyw. Y fraint o wasanaethu Duw sydd lawn cymaint ag erioed, a pho hwyaf y byddom byw, mwyaf yw ein dyled iddo.
Hen frawd, a hen chwaer! deuwn ninau yn lled fuan i'ch plith, os arbedir ein bywyd ond am ychydig o flynyddoedd. A chyfarfod da i ni. Yn y diwedd ein gollwng a gaffom mewn tangnefedd, a'n llygaid yn gweled iachawdwriaeth Duw.[1]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gwel "Traethodydd," Gorphenaf, 1845.