Defnyddiwr:AlwynapHuw/Camau Cymorth/Y Dudalen Indecs

Oddi ar Wicidestun
Uwchlwytho ffeiliau Camau Cymorth

gan Alwyn ap Huw

Y Dudalen Gwaith

Y Dudalen Indecs

Ar ddiwedd yr erthygl ddiwethaf cyhoeddwyd tudalen indecs ar gyfer y ffeil Plant y Goedwig.PDF. Dyma fo:

Tabiau ar frig y ddalen[golygu]

Dyma drosolwg o ddefnydd y tabiau sydd ar frig y ddalen

  • Mynegai: Yw tab yr olwg yma. Os ydych yn agor un o'r tabiau eraill, gellir dychwelyd i'r dudalen yma trwy roi clec i'r tab hwn.
  • Sgwrs: Mae'n agor tudalen i gychwyn neu gyfrannu at drafodaeth am y dudalen indecs penodol. Os ydych yn ddechrau sgwrs, rhowch nodyn ar y Sgriptoriwm i roi gwybod bod sgwrs wedi ei gychwyn yma.
  • Styles. Mae'r dudalen yma ar gyfer defnyddio CSS i newid gwedd pob tudalen sy'n deillio o'r indecs. Mae'n bwnc sydd uwch na'm, nirnad i. Mae yna dudalen sydd yn egluro sut i'w ddefnyddio ar Wikisource Saesneg i'r sawl sy'n deall beth yw CSS. Help:Page styles
  • Darllen: Fel Mynegai yn cael ei ddefnyddio i ddarllen y dudalen yma.
  • Golygu cod: Mae'r tab yma yn ail agor y tudalen a grëwyd wrth osod y ffeil ar Wicidestun. Mae'n cael ei ddefnyddio i newid neu ychwanegu gwybodaeth (ee categorïau newydd) i'r dudalen.
  • Gweld hanes: Yn rhoi gwybodaeth am unrhyw newidiadau a wnaed i'r tudalen
  • Seren: Yn gosod neu'n tynnu tudalen o'ch restr wylio. Os yw tudalen ar eich rhestr wylio cewch neges gan Wikimedia i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i'r ddalen.
  • View in Bookreader. Bydd y tab yma dim ond yn bresennol os yw rhaglen bookreader wedi ei osod ar eich proffil rhyngwici. Gweler User:Indic-TechCom/Script/BookReader.js Mae Wiki Bookreader ar gael ar bob tudalen indecs trwy roi clec i'r icon llyfr agored ar ochr dde'r sgrin

Mae hwn yn eich galluogi i ddarllen pob un o’r 200+ llyfr sydd ar y safle ond sydd heb eto eu trawsysgrifio fel "rhith lyfr" tebyg i lyfrau'r Internet Archiver, neu app e-lyfrau.

  • Rhagor: Restr o opsiynau sydd dim ond i'w gweld gan weinyddwyr y safle.

Corff y ddalen[golygu]

Ac eithrio delwedd o lun y clawr (sy'n cael ei greu yn awtomatig) mae'r rhan fwyaf o'r ddalen yn cynnwys rhestr o rifau dolen. Mae'r rhifau yn goch ar hyn o bryd, gan nad yw'r tudalennau wedi eu creu eto. O roi clec ar un o'r dolenni bydd modd inni agor tudalen gwaith er mwyn creu tudalen.

Dyna fydd destun yr erthygl nesaf

[[Categori:Tudalennau Cymorth]]