Diliau Meirion Cyf I/Myfyrdod y Bardd yn ei 70 mlwydd oed, 1850

Oddi ar Wicidestun
Anerchiad i'r Dysgedydd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Priodas H. J. Reveley

MYFYRDOD Y BARDD
YN EI 70 MLWYDD OED, 1850

DYGYFOR mae adgofion—olynol,
Lonaid fy meddylion,
Mal dw'r yn taflu aml dòn
Frigog, o'r dyfnfor eigion.

Para i redeg rai prydiau—'n ormodol,
Wna'r mud fyfyrdodau,
Mor bell a thymhor borau
Ieuenctyd a mebyd mau.


Golygaf, cadwaf mewn co '—y mirain
Dymhorau aeth heibio;
Ffur yw'r drych, a phair ar dro
Wneud i f'awen adfywio.

Ond agwedd enwedigol—y meddwl
Yw moddus arganmol
Lluosawg freintiau llesol
Ge's fwynâu flynyddau'n ol.

'Rwy'n cofio y ter amserau—dyddan,
A'r dedwyddawl oriau,
Cerddem yn nghyd i'r cyrddau—eglwysig,
Yn dorf unedig, dirfion eneidiau.

Llewychus gyfeillachau—yn gydwedd,
A gadwem am oriau;
Caem gyd yn hyfryd fwynhau
Da wyneb Duw a'i wenau.

Ymddyddan mewn modd addas—y byddem,
Er budd i'r Gymdeithas,
Am gyfoeth hardd—ddoeth urddas
Tragwyddawl, waredawl ras.


Ein llon ddybenion beunydd—oedd esgud
Addysgu ein gilydd,
Gweini er dwyn ar gynnydd,
Hoff waith, y gwan yn y ffydd.

Son am groes a mawr loesau—ein Iesu,
A'i aneisor glwyfau,
Oedd wledd werthfawr, glodfawr, glau,
Hynodawl, i'n heneidiau.


'Rwy' weithion yn hiraethu—gan fynych
Gwynfanus alaru;
Deolwyd yr hen dealu
Ar wasgar i'r ddaear ddu.


Hen ddifyr frodyr iawnfryd—wych arwyr,
A chwiorydd hefyd,
Gorwedd mae'n awr mewn gweryd
Eu breuon gyrff bron i gyd.


Dyddiawl, nosweithiawl nesâu—mae oerddig
A mawrddwys awr angau,
A'r funyd y rho'ir finnau
I orwedd mewn cuddfedd cau.

Er rhoi tadau a hen famau
Yn eu beddau, hyn wybyddir,
Ie'nctyd ddegau'n llenwi'r bylchau,
Wiwgain foddau, a ganfyddir.

Meibion mâd yn lle'r tadau—a'r merched
Yn lle'r parchus famau,
A morwynion mawr rinau
Yn nheml Iôr sydd yn amlhau.


Duw Ion, yr union Arweinydd—digoll,
A'u dygo ar gynnydd,
Mewn gwastad gariad gwiwrydd,
A gobaith, a pherffaith ffydd.


Nodiadau[golygu]