Diliau Meirion Cyf I/Priodas H. J. Reveley

Oddi ar Wicidestun
Myfyrdod y Bardd yn ei 70 mlwydd oed, 1850 Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Ysgol Frutanaidd Dolgellau

PRIODAS H. J. REVELEY, YSW.,
BRYNYGWIN, DOLGELLAU

HENFFYCH hoff ddydd rhydd i'w fawrhau—Wawriodd
Ar oror Dolgellau;
Gwenawl y ceir ugeiniau
A llon hwyl yn llawenhan.

Wele iawn achos i lawenychu,
Heddyw priodwyd, gwaith hawdd yw prydu,
Hugh Reveley, Yswain, a'i fungain fwyngu,
Ein beirdd hyfedrus wnan' beraidd fydru
Eu priodasgerdd, felusgerdd lwysgu,
A mil a unant i ymlawenu,
Gan weddaidd deg weinyddu—yn barchus,
Ar duedd ddawnus, er eu dyddanu.

Clych ein gorawr, gan erfawr gynhyrfu,
Clir ddiattal eu clywir o ddeutu,
Rhai yn prysur hoff eglur fonffaglu,

Rhyw amgen olwg, a rhai'n magnelu,
Eraill yn talgryf, loewgryf gyflegru,
Pawb ar dda fwriad i'w pybyr ddifyru,
Pob anrhydedd ceinwedd cu—ymdrechid
Roi fel y dylid i REVELEY a'i deulu.

Ein corau gwiwnod sy'n cywir ganu
Alawon llafar, seingar, cysongu,
O wraidd eu mynwes, gan rydd emynu,
Llwyr ymroddant oll er mawreddu
Y ddau anwyliaid, yn addien hoywlu,
Dewis hefyd y maent, a deisyfu
I'w hil ddaionus dan hylwydd wenu,

Fwyneiddiawl gyfanneddu—mewn tangnef,
Yn Mrynygwin haddef, a mawr gynhyddu.

Dedwyddwch hyd eu dyddiau—a gaffont,
Heb gyffwrdd â drygau;
Boed hir oes ddiloes i'r ddau,
A'u hil yn fyrdd o'u holau.

Gwedi hir oesi'n rasawl—a gorfod
Eu gyrfa ddaearawl,
Duw mad i goethwlad y gwawl
A'u dygo'n gadwedigawl.

Nodiadau[golygu]