Duw anfeidrol yw dy enw

Oddi ar Wicidestun
Oruchel Lywydd nef a llawr Duw anfeidrol yw dy enw

gan William Williams, Pantycelyn

Fy nymuniad, paid â gorffwys
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


76[1] Ymofyn am Dduw.
87. 87. 47.

1.DUW anfeidrol yw dy enw,
Llanw'r nefoedd, llanw'r byd;
F'enaid innau sy'n dy olrhain
Trwy'r greadigaeth faith i gyd:
Ffaelu â'th ffeindio
I'r cyflawnder sy arna'i chwant.

2.Dwed a ellir nesu atat,
Dwed a ellir dy fwynhau,
Heb un gorchudd ar dy ŵyneb,
Nac un gwg i'm llwfwrhau:
Dyma'r nefoedd
A ddeisyfwn tu yma i'r bedd.

3.Ffaelu'r wyf fi â'th orddiwes,
Ffaelu â'th gyrraedd Di yn lân,
Er fy mod yn gweld dy gamre
Perffaith, hyfryd, draw o'm blaen:
Doed yr amser
Na bo awr heb dy fwynhau.

1.Yn y man 'r wyt Ti'n cartrefu
Y cyweiriaf fi fy nyth;
Gwedd dy wyneb fydd fy nefoedd.
Yma ac oddi yma byth:
Nid oes bleser
A gyflawna byth dy le.

William Williams, Pantycelyn.


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 79, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930