Fy nymuniad, paid â gorffwys

Oddi ar Wicidestun
Duw anfeidrol yw dy enw Fy nymuniad, paid â gorffwys

gan William Williams, Pantycelyn

Nid oes eisiau un creadur
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


77[1] Syched am Dduw.
87. 87. 47.

1.FY nymuniad, paid â gorffwys
Ar un tegan is y nef
Eto 'rioed ni welodd llygad
Wrthrych tebyg iddo Ef:
Cerdda rhagot,
'R wyt ti bron a'i wir fwynhau.

2. Ffárwel, ffárwel oll a welaf,
Oll sydd ar y ddaer yn byw ;
Gedwch imi, ond munudyn,
Gael yn rhywle gwrdd â'm Duw :
Dyna leinw
'Nymuniadau oll yn un.

3.D'air a wnaeth y moroedd helaeth,
D'air a wnaeth y ddaear fawr,
D'air a greodd lu'r ffurfafen
Sydd yn hongian uwch y llawr:
'Mysg a greaist,
'D oes gyffelyb it dy Hun.

4.Tyrd, yr Hwn wyt yn hawddgarach
Na'th greaduriaid maith eu rhi';
Pryd y doi, y gwnei dy drigfan
Bob munudyn gyda mi ?
Tyrd yn fuan,
Arglwydd, at y sawl a'th gâr.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 77, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930