Neidio i'r cynnwys

Oruchel Lywydd nef a llawr

Oddi ar Wicidestun
Mae'n llond y nefoedd, llond y byd Oruchel Lywydd nef a llawr

gan John Hughes (Glanystwyth)

Duw anfeidrol yw dy enw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


75[1] Duw yn Dad.
86. 86. 88. 86.

1.ORUCHEL Lywydd nef a llawr,
Rhown iti fyth fawrhad;

Ti sydd anfeidrol nerthol Nêr,
Ac annwyl dyner Dad :
Tad tragwyddoldeb, Tad pob dawn,
Yn rasol gawn trwy'n hoes i gyd;
Mae calon Tad tu ôl i'r fraich
Sy'n cynnal baich y byd.

John Hughes (Glanystwyth)

.

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 75, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930