Mae'n llond y nefoedd, llond y byd

Oddi ar Wicidestun
Enaid gwan, paham yr ofni? Mae'n llond y nefoedd, llond y byd

gan Edward Jones, Maes y Plwm

Oruchel Lywydd nef a llawr


74[1] Mawredd Duw.
86. 86. 88. 86.

1.MAE'N llond y nefoedd, llond y byd,
Llond uffern hefyd yw ;
Llond tragwyddoldeb maith ei hun,
Diderfyn ydyw Duw ;
Mae'n llond y gwagle yn ddi-goll,
Mae oll yn oll, a'i allu'n un,
Anfeidrol annherfynol Fod
A'i hanfod ynddo'i Hun.

2.Clyw, f'enaid tlawd, mae gennyt Dad
Sy'n gweld dy fwriad gwan,
A Brawd yn eiriol yn y nef
Cyn codi o'th lef i'r lan:
Cred nad diystyr gan dy Dad
Yw gwrando gwaedd dymuniad gwiw,
Pe byddai d'enau yn rhy fud
I'w dwedyd gerbron Duw.

Edward Jones, Maes y Plwm

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 74, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930