Enaid gwan, paham yr ofni?

Oddi ar Wicidestun
Ollalluog! nodda ni O Arglwydd Dduw rhagluniaeth

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)

Mae'n llond y nefoedd, llond y byd


Elfed

73[1] Gofal Duw.
8. 33. 6.

1.ENAID gwan, paham yr ofni?
Cariad yw
Meddwl Duw;
Cofia'i holl ddaioni.

2.Pam yr ofni'r cwmwl weithian?
Mae Efe
Yn ei le
Yn rheoli'r cyfan.

3.Os yw'n gwisgo y blodeuyn,
Wywa'n llwyr
Gyda'r hwyr,
Oni chofia'i blentyn?


5.Duw a ŵyr dy holl bryderon,
Agos yw
Dynol-ryw
Beunydd at ei galon.

5.Er dy fwyn ei Fab a roddodd;
Cofia'r groes
Ddyddiau d'oes-
Canys felly carodd."

6.Bellach rho dy ofnau heibio;
Cariad yw
Meddwl Duw ;
Llawenycha ynddo.
—Howell Elvet Lewis (Elfed)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 73, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930