Dyddgwaith/Cysgu a Deffro
← Amser a Lle | Dyddgwaith gan Thomas Gwynn Jones |
Y Breuddwyd Effro → |
CYSGU A DEFFRO
DYWEDODD cyfaill wrthyf unwaith na
fynnai ef anfarwoldeb personol pe cawsai
ei gynnig. Hyd y gallwn i ddeall, y peth oedd
yn ei feddwl wrth sôn am "anfarwoldeb personol" oedd anfarwoldeb personoliaeth, a thybio'r
oeddwn mai'r hyn y gellid synio amdano fel
peth cyferbyn fyddai anfarwoldeb mater. Ni
buasai gan fy nghyfaill, felly, ddim yn erbyn i
ddeunydd ei gorff fod yn anfarwol. Y peth nad
oedd arno awydd amdano oedd bod yn y deunydd
hwnnw ryw elfen a fyddai'n ymwybod â'r anfarwoldeb. O'm rhan fy hun, ni allwn innau
synio am anfarwoldeb heb yr elfen honno. Ni
wn i ba le yr aethom cyn diwedd yr ymddiddan.
Nid wyf yn meddwl bod gennym erbyn hynny
syniad clir iawn am na mater na phersonoliaeth.
Er hynny, parodd yr ymddiddan i mi gofio
wedi hynny am syniad a fu gennyf yn hogyn
bychan gynt. Rhwng chwech a saith oed oeddwn
mi wn, canys yr wyf yn cofio'r fan a'r lle y daeth y
syniad i'm meddwl, ac yr oeddwn yn y lle hwnnw
ynglŷn â digwyddiad y gallaf ei amseru—
marwolaeth perthynas.
Yr oeddis wedi fy nysgu y byddem fyw am byth yn y nefoedd. Ar y cyntaf yr oedd y syniad hwnnw yn un wrth fy modd. Yn enwedig gan fod cwlwm agos rhyngddo a'r sôn am y delyn aur a'r gwisgoedd gwynion. Ond yn araf deg, daeth newid dros fy meddwl. Clywais ganu emyn "Y Delyn Aur," ac nid llawen fyddwn wrth wrando arno. Oni bai mai gwendid oedd wylo yn ôl ffilosoffi'r teulu, buaswn yn gadael i ddagrau ddyfod i'm llygaid pan fyddid yn canu na ddôi byth ddiwedd ar sŵn y Delyn Aur.
Felly, ond odid, y dechreuais amau ai peth hyfryd i'w fawr ddymuno fyddai byw'n dragywydd. Oni flinem yn ofnadwy? O gam i gam euthum i led obeithio nad gwir mo'r gred y byddai raid i ni fyw am byth yn sŵn y Delyn Aur. Ni feiddiwn ddywedyd y pethau hyn wrth neb byw, dim ond holi ambell un am y byw'n dragywydd. Yn ôl pob ateb a gawn, nid oedd un amheuaeth ar y pen hwnnw. Ac yn y benbleth honno yr oeddwn pan ddaeth y syniad y soniais amdano i'm meddwl.
Diwrnod hyfryd o haf ydoedd hi, a phan euthum allan yn y bore, yn gynharach nag arfer, meddyliais na allai fod unpeth mor odidog â'r heulwen felen oedd yn tywynnu ar y coed yr ochr draw i'r afon a redai heibio'r buarth. Yr oedd y brain yno eisoes yn crawcian ac yn cychwyn ymaith ar eu taith am y dydd, ac ambell ysguthan gyflym a distaw yn codi o'r coed ar ei neges hithau. Yr oedd y llyn yn yr afon mor loyw, a'r briallu a dyfai ar ei dorlan mor annwyl. Daeth drosof ryw chwithdod wrth feddwl y byddai hi'n braf felly drwy'r dydd yno, a minnau wedi mynd ymaith, fel na byddai yno neb i wybod mor hyfryd oedd y lle hwnnw. A chyda hynny, dyma'r meddwl am y byw'n dragywydd, a'r drybini i'w ganlyn. Nid oedd fodd ei oddef ac ni wyddwn ba beth a wnawn. Ond yn sydyn, dyma'r syniad. Gallem fyw yn hir iawn, a blino. Yna, wedi'n blino, caem gysgu'n hir a deffro eilwaith. Gwelwn ryw fath o fynedfa hir (pasaij oedd y gair cyffredin a glywswn am y peth y pryd hwnnw), a drysau'n agor ohono ar bob llaw. Pan fyddai enaid wedi byw yn hir a blino yn arw iawn, dôi Duw ac agor un o'r drysau iddo. Ai yntau i mewn i ganol miloedd o eneidiau blinedig eraill a fyddai yno'n cysgu. Cysgai yntau am amseroedd maith. A phan fyddent wedi bwrw eu blinder, dôi Duw ac agor y drws iddynt. Doent allan, byddent wedi dadflino, a gallent fyw yn hir hir eilwaith. Ac felly o hyd, pan flinent, aent at Dduw a gofyn iddo a gaent gysgu. Agorai yntau'r drws iddynt. Aent i mewn. Cysgent. A phan ddeffroent o'r hun honno drachefn, agorai iddynt ddyfod allan wedyn. A byddent yn ddiolchgar i Dduw, ac yn hapus, ac felly gallent fyw'n dragywydd.
Pa fodd y daeth y syniad i'm pen, nis gwn i, onid mai cysgu y bydd hogyn bach wedi blino; a'r modd y cwsg, nis gŵyr efô. Na neb.
Bellach? Ni wn i ddim, ond pe caniateid i mi gysgu a deffro eilwaith, mi anturiwn.