Dyddgwaith/Y Breuddwyd Effro

Oddi ar Wicidestun
Cysgu a Deffro Dyddgwaith

gan Thomas Gwynn Jones

Pellter



Y BREUDDWYD EFFRO



Y MAE'N ddigon tebyg fod y breuddwyd effro, ymhlith plant a phobl ieuainc, ac efallai rai hŷn a freiniwyd â'r gynneddf a geidw ddôr y breuddwydfyd yn agored yn hwy na'r cyffredin, yn un o gyfryngau diymwybod datblygiad y meddwl. Yr wyf yn cofio un hen wraig fy meddwl i ar y pryd oedd ei bod yn hen iawn, beth bynnag-a fyddai'n edrych ar f'ôl pan oeddwn yn bur fychan, ac a fyddai, yn ôl fel yr ymddengys i mi bellach, yn breuddwydio'n effro pan fynnai. Pa faint o bethau yr oedd hi yn eu deall, ni wn i ddim, ond yr oedd hi yn deall plant. Efallai iddi hi adael arnaf innau ddylanwad na chofiais ddim amdano, heb sôn am ei ddeall, neu feddwl am geisio'i ddeall, am gyfnod sy'n edrych fel oesau ac nid fel rhyw res o Alynyddoedd a fydd, pan edrycher arnynt o gyfeiriad neu mewn meddylstad arall, yn debycach i ychydig ddyddiau.

I ddechrau, diau mai'n llwyr ddiarwybod i ni y daw'r breuddwyd dydd, fel y llall sy'n cerdded y nos, ac nid peth hawdd yw dyfod o hyd i brawf sicr pa mor gynnar y bydd plentyn yn gallu agor y ddôr pan fynno, hynny yw, yn medru cymryd arno drwy ymwybod ac o'i wir fodd. Dywedodd f'ŵyres fach wrthyf, pan oedd hi rhwng pedair a phump oed, y byddai hi weithiau'n cymryd arni fod pethau na byddant, a bûm yn ei gwylio cyn hynny heb yn wybod iddi, yn byw am yn agos i awr ar y cloc, gartref yng Nghymru, yng nghanol ieir a defaid a chŵn, yn galw wrth eu henwau ar bobl a chŵn nas gwelodd ers blwyddyn, a ninnau'n dau ar y pryd. mewn tŷ yn Llundain.

Gallaf gofio gwneuthur peth tebyg fy hun pan oeddwn rhwng pump a chwech, a chyfarfum â rhai o dro i dro a'i gwnâi yn fwy neu lai cyson. ar hyd eu hoes.

Un o'r atgofion cyntaf am freuddwydio felly o'm bodd yw hwn: Yr oedd fy nhad a minnau'n cerdded adref o ffair, ar hyd llwybr sy'n cyd-redeg. â godre craig am gryn bellter. Ffordd, draw ar y chwith. Ar y dde, craig yn ymgodi'n syth hyd gryn uchter-craig ag arni enw prydferth, "Craig y Forwyn." Y llwybr, rhwng y graig a'r ffordd, ar hyd llain o dir oedd gynt yn llawn eithin a rhedyn a chlychau'r bugail. Lle go anial, heb odid dŷ yn y golwg y pryd hwnnw. Efallai fod yno "bentref gardd" erbyn hyn, a phobl anghyweithas, yn siarad Saesneg mor annaturiol ag y medrant.

Fel y cerddem ar hyd y llwybr, gwelwn ddau ddyn a dau gi i'w canlyn, yn symud yn araf gyda godre'r graig, ryw led cae go lew oddi wrthym.

Yn sydyn yn fy meddwl i, dyma'r dynion a'r cŵn hynny yn mynd yn rhai a rhyw ryfeddod o'u cwmpas, rhai'n byw yn y lle anial hwnnw ers amseroedd maith, ac yn hela yno gyda'u cŵn o hyd. Ni allai pawb eu gweled. Tybed a welai fy nhad hwynt? Yr oeddwn ar ofyn iddo, ond peidiais. Hwyrach mai dywedyd a wnâi nad oedd yno neb, neu ynteu mai dynion cyffredin, yr un fath â rhywrai eraill oeddynt. Yr oedd yn well gennyf innau ddal i feddwl eu bod hwy yno erioed, yn byw yn y graig, ni wyddai neb ym mha le, ac yn hela gyda'u cŵn wrth odre 'r graig, bob dydd y byddai'r haul yn tywynnu a'r lle, fel yr oedd ar y pryd, yn edrych mor braf yn yr heulwen nes codi hiraeth ar rywun wrth ei weled y mae arnaf, o ran hynny, hiraeth hyd heddiw am y golau melyn hwnnw, a'r eiddew gwyrdd yn tyfu yma ac acw hyd wyneb y graig. Nid oedd dim ym maint na dillad y dynion i beri i mi feddwl nad oeddynt fel rhywrai eraill, ond yr oeddynt rywfodd fel pe buasent ymhell oddi wrthym ni, fel pe buasai hi'n heddiw arnom ni'n dau, ac yn ddoe neu echdoe neu ryw ddiwrnod pell yn ôl arnynt hwythau. Efallai nad oeddynt yn siarad yr un fath â ni; na byddent byth yn mynd i ffair nac yn blino wrth gerdded adref; na byddent byth yn myned i eglwys na chapel ar ddydd Sul, ac na buont erioed yn gorfod mynd i ysgol; na byddent yn gwneud dim ond hela pan fyddai'r haul yn tywynnu; na ddoent i'r golwg ar rew nac eira, na glaw, ond byw mewn ogof yn rhywle yn y graig, a chysgu ar wely o redyn coch esmwyth, a'u cŵn yn eu hymyl, lle na wyddai neb amdano, lle ni byddai ond golau coch, fel golau lleuad . . .

Ni chofiais fy mod wedi blino wedyn nes cyrraedd adref.

Wedi hynny, yn llanc deunaw oed, byddai'n hoff gennyf ymollwng o'm bodd i freuddwydio'n debyg, pan welwn graig blom ag iorwg yn tyfu arni a hithau'n huno megis mewn heulwen felen, heb na thŷ na thwlc na dyn byw yn y golwg, ac awel fach gyfeiliorn wrth lithro drwy redyn yn eich ymyl yn rhoi uchenaid neu chwerthiniad, fel pe buasai'n ceisio torri gair wrthych, a chwithau rhwng trist a llawen. A byddai'r teimlad am heddiw a'r diwrnod pell yn ôl yno bob amser, rhyw ymdeimlad mai'r byd hwnnw oedd bod mewn gwirionedd, bod tawel, parhaus, nid rhyw res o sbonciau darfodedig.

Adnabûm eraill a gyfaddefai'r gwendid hwn. Er y byddai gosodiad a manylion y breuddwydion yn amrywio, byddai'r ymollwng o wirfodd, a'r ymdeimlad o'r trychiad ar amser yn bethau cyffredin i'r rhan fwyaf ohonynt. Mynych y gofynnais i mi fy hun, neu y gofyn nodd un wedd arnaf i fy hun i'r wedd arall, onid coll amser fyddai rhyw wlana felly. "Drwy'r gwlana hwnnw," meddai'r Wedd Arall, "y dysgaist ti 'r iaith anhawsaf a wyddost, ar lawer llai o drafferth na'r lleill." Efallai, yn wir. "Get mad on" oedd y cyngor a gefais gan un, pan oeddwn yn dysgu'r iaith honno, a hithau'n dyfod i mi fel pe buaswn wedi bod yn ei medru ryw dro o'r blaen. Pan fynnem chwarae gynt, gofynnid, "Ai o ddifrif ai o fregedd?" Pa un bynnag fyddai'r dewis, ni welais i erioed nemor wahaniaeth yn y chwarae, ond y trewid y farblen lawn cyn amled pan fynnem fod o fregedd â phan ddewisem fod o ddifrif.

Nodiadau[golygu]