Dyddgwaith/Pellter

Oddi ar Wicidestun
Y Breuddwyd Effro Dyddgwaith

gan Thomas Gwynn Jones

Crwydro



PELLTER



DIBRIS pob cynefin, medd hen air. A pha un bynnag ai gwir dilys yw hynny ai peidio, â'r hen air hwnnw, neu rywbeth tebyg, gan ei lefaru â'r dôn sech a'r olwg ddoeth honno sy'n gweddu at roi clo ar bopeth petrus, y bydd y rhan fwyaf ohonom yn troi at ryw chwedl arall.

Ond pam y dibrisiai dyn y peth cynefin? Cof gennyf glywed am wr o'r De a ddaethai i eistedd fod yng Nghaernarfon. Aethai am dro tua Llanbeblig a throi ar hyd y llwybr drwy'r Caeau Bach, ac yno gweled yr Eifl yn y pellter, mor araul a mawreddog yng ngogoniant heulwen yr hwyr, teilwng Barnasws i'r duwiau sydd eto yno, am ddim a wyddom ni.

Safodd y dyn mewn syndod i edrych ar y rhyfeddod balch hwnnw, a bu raid iddo gael dywedyd gair am y peth wrth y cyntaf a ddaeth heibio, rhyw frodor oedd yn ymlusgo tua chartref "o glun i glun," chwedl Dafis Castell Hywel. Tebyg ddeall o'r brodor wrth ei leferydd mai gŵr dieithr oedd yno.

"Ydi," meddai, â rhyw ysgydwad ar ei ben, "ydi, y mae hi yn o lew, ond ydi hi?"

Credodd y gŵr dieithr yn y fan mai pobl â phennau pylion a chalonnau oerion oedd yn byw yn nhre Gaernarfon. Nid gwir mo hynny, wrth gwrs. Onid yn ei gynefin ei hun yr oedd y gwladwr? Ac ni fynasai, efallai, ddangos balch ter anweddus oblegid y peth cartref, yn ôl arfer dynion wedi eu myned yn gynghorwyr tref neu geidwaid siopau a thai bwyta. Efallai yn wir mai cymryd y ffordd honno o falchio yr oedd y gwladwr, y ffordd a fydd naw balchach oherwydd ei lleferydd sych a didaro. Neu efallai ei fod wedi blino, a bod arno eisiau swper. A llonydd. Ac anghofio pethau cynefin . . .

Eto, er nad anwir mo'r dywediad mai dibris. pob cynefin, nid cwbl wir mono chwaith.

Littora nativos per se dant picta lapillos,
Et volucres nullâ dulcius arte canunt,

meddai un prydydd gynt. Diau. Ond rhaid myned i rywle arall, efallai, cyn y gwypo dyn hynny. Profiad felly, ond odid, a barodd i fardd arall cynilach na'r cyntaf ddywedyd:

"'Nôl blino'n treiglo pob tref,
Teg edrych tuag adref."


Eto, cyn bod un yn gwybod ond y nesaf peth i ddim hyd yn oed am yr hyn fo agos ato a chynefin iddo, fe ddysg rywfodd roi mawr bris ar y pell a'r anghynefin. Nid rhaid bod y pell hwnnw yn bell iawn i gychwyn, ond pellhau beunydd y bydd, a diau mai'r gwir am ddyn, pa le bynnag y bo, yw mai ei awydd tragywydd fydd bod yn rhywle arall.

Y mae, yn wir, ryw swyn yn y gair pell ei hun, yn enwedig o'i lefaru ag e hir, fel y gwneir yn y De, ac y mae ar bellter lawer mesur. Bellach nid oes ar yr hen ddaear hon un man pell iawn of unman arall efallai mai'r pellter rhyngom a'r dyn fydd a'i sawdl ar flaen ein troed yw'r mwyaf. Unwaith yr oedd Cil Erwain, nad oedd lawn dri lled cae o'm cartref, yn bell i mi. Tyfai yno erwain (neu frenhines y weirglodd) a rhedyn, cerddin, cyll a chelyn, banadl hefyd a bedw arian. Rhyngddynt yr oedd mân leiniau o borfa na welais i ddim mor fân, mor wastad, mor wyrdd byth wedyn.

Cof da gennyf fy nghael fy hun yno am y tro cyntaf. Dieithrwch a syndod. Daeth i'm pen nad oedd fodd bod yno ddim cas na dim drwg. Yr oedd hi'n ddistaw yno ac yn lân, yn brydferth, yn rhyfeddol. Nid oedd arnaf ddim ofn yno, dim ond rhyw wyleidd-dra synedig. Braidd na fyn sech dynnu'ch esgidiau cyn dodi troed ar borfa mor lân ac esmwyth. A golau'r haul ar y perthi draw, bron fel pe buasent ar dân. Ni wyddech pa beth a allai ddigwydd yno un funud. Gwiwer yn llithro heibio o fewn dwylath i chwi. Cwnhingen yn rhyw neidio o gwmpas, ac yna'n eistedd ac yn edrych arnoch â llygaid llawn of syndod, yna'n hopian yn ei hôl i'r llwyn. Bronrhuddyn, â phen cam, yn syllu ym myw eich llygaid. Pioden hyd yn oed yn edrych fel pe na buasai arni'ch ofn, nac awydd ehedeg ymaith gan eich rhegi. Rhyw awel fach wylaidd yn suo drwy'r dail braidd yn drist a hiraethus, fel pe byddai arni eisiau sisial rhywbeth yn eich clust, ond ei bod hi'n gwybod na ddeallech moni. Nid hynny'n unig. Rhywbeth nas gwelech ac nas clywech ddim, ond y gwyddech ei fod yno, yn rhywle, ym mhobman, bob amser. Ni wyddech ai ei galon ef ai 'ch calon eich hun a glywech yn curo. Gwyddech y byddai arnoch hiraeth am y lle ar ôl myned ymaith. Yr oedd popeth yno mor newydd, mor ddieithr, mor bell... A chwithau mor newydd, mor ddieithr,—tybed mai chwi oeddych chwi?

Ond fel y dôi Cil Erwain yn nes, âi'r lle pell yn bellach. Dyfod o hyd i leoedd eraill rhyfeddol, rhaeadr bychan, Pistyll Brido wrth ei enw; llain bach o raean ar ryw dro yn yr afon, lle'r oedd cerrig mân i'w cael a wnâi farciau prydferth o goch a melyn a glas ar lechen neu bapur; craig uchel yn ymgodi fel y gallech ei dringo o ris i ris hyd ben y marian, ac oddi yno ar y chwith weled y môr mawr glas yn y pellter, a llongau arno, yn hwylio i wledydd pell; a thraw ar y dde, llechweddau moelion, creigiog, a fyddai pan dywynnai'r haul arnynt yn edrych fel y gwelsoch liw mêl tenau mewn potel o wydr gloyw—ar rai o fryniau deheubarth Iwerddon yn unig y gwelais lewych tebyg.

Rywfodd, yr oedd gogoniant Cil Erwain fel pe buasai'n ymgolli yn y pethau hyn y naill ar ôl y llall, a'r pell yn mynd o hyd yn bellach. Dechreuodd gymryd enwau newyddion, dieithr, pell—India, Affrig, lle'r oedd main gwyrth yn disgleirio yn yr afonydd, meddai barddoniaeth Saesneg, a dirgelwch yn nofio drwy ei hun mewn fforestydd diddiwedd. Llawer enw, dim ond enw, na wyddid na'i ystyr na'i hanes, dim ond clywed ei sŵn ac araf lunio o'r seiniau hynny bethau a welid, nid â'r tu blaen i'r llygaid, ond megis â'r tu cefn iddynt, neu â rhywbeth yn eu canol. Paham yr oedd pob godidowgrwydd yn y lleoedd hynny, yn y gwledydd pell, yn eithafoedd byd, ac awydd anesmwyth yng nghalon dyn o hyd am fynd ar eu holau? Dau neu dri haf, a chymdeithion o wlad arall, wrth wraidd y cof, a gaeaf neu ddau, oerach nag arfer, yn ystod rhyw gyfnod byr, pum mlynedd ar y gorau, eira a rhew a niwl digysur?

Cil Erwain, Morocco, Travancôr; Estremadura, Vallombrosa, Eldorado, Elysium, Afallon, Tir na n-Og; Deffrobani, Broseliawnd, Celyddon; Ros Ailithir, Ros Aluinn, Cuan Dor— ble y mae'r godidowgrwydd pell? A yw dianc o le i le yn dragywydd, neu a yw ef fyth i'w gael pan fynner yn lleindir Cil Erwain, ai gaeaf oer ac eira digysur sydd yno mwy?

Pan euthum i edrych ar Gil Erwain am y tro olaf, yn gynnar un bore ym Mai, y diwrnod yr oeddym yn gadael yr hen gartref am byth, daeth ei holl ogoniant yn ôl fel y byddai gynt. Ac er bod pellter pellach nag erioed erbyn hyn yn disgwyl amdanaf, draw, nid hawdd oedd gadael Cil Erwain am byth. Troi ymaith yn syn, gan ddywedyd wrthyf fy hun y dychwelwn yno, ryw dro. Nid euthum byth. Nid af mwy . . .

Nodiadau[golygu]