Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Abbot, John

Oddi ar Wicidestun
Aaron Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Abel, John

ABBOT, JOHN, ydoedd weinidog y Bedyddwyr o'r flwyddyn 1651, i'r flwyddyn 1660. Yr oedd yn cymeryd rhan yn y ddadl gyhoeddus ar fedydd yn eglwys St. Mary, Abergavenny, yn y flwyddyn 1653, rhwng Mr. Toombs, dros fedydd y crediniol yn unig, â Mr. Cragg, dros fedydd plant â bedydd y crediniol. Ymddengys mai un o'r Bedyddwyr oedd gweinidog y plwyf yn y Fenni yr amser hwnw. Yn hanes yr ymddadleu uchod gelwir ef Mr, Abbot, "preacher resident" a nodir ei fod wedi ei drochi. Tebygol iddo aros yno hyd yr erledigaeth; oblegyd y mae Dr. Calamy yn nodi ei droi ef allan o'r Fenni o gylch 1660. Y mae Mr. Crosby yn ei enwi yn mlaenaf o bump o wyr dysgedig a ymadawsant a'r Eglwys Sefydledig, ac a ymunasant â'r Bedyddwyr trwy drochiad. Cafodd ei droi ymaith o'r eglwys, meddir, yn 1660