Gwaith Dafydd ap Gwilym/Rhagymadrodd
← Gwaith Dafydd ap Gwilym | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Cynhwysiad → |
Rhagymadrodd.
AMRYW flynyddoedd yn ol, yn agos iawn i ugain, addewais roddi casgliad o waith Dafydd ab Gwilym i'r werin. Gohiriais o dro i dro, gan ddisgwyl egwyl i chwilio am y llawysgrifau hynaf. Yr wyf wedi hen anobeithio medru gwneyd hynny, ac y mae'r gwaith yn fwy o lawer nag y tybiais yn fy anwybodaeth ei fod.
Nis gwn ond am un sy'n fyw a fedd y cyfleusderau a'r medr i roddi i ni gywyddau Dafydd ab Gwilym mor agos ag y gellir i'r fel y canodd y bardd hwy. Ers blynyddau y mae Dr. J. Gwenogfryn Evans yn casglu cywyddau Dafydd yn ol y llawysgrifau hynaf ar gael o bob un ohonynt. Pan ymddengys y casgliad hwn, ceir gwaith Dafydd ab Gwilym yn gyflawn am y tro cyntaf, ac mewn dull y gall hanesydd iaith yn ogystal a hanesydd llenyddiaeth ymddiried ynddo.
Y mae fy ngwaith i yn fwy distadl, er nad yn llai gwasanaethgar. Fy ngwaith i yw rhoddi casgliad bychan o gywyddau Dafydd ab Gwilym mewn dull y deallo y darllenydd eu rhediad, ac y delo i gymundeb â chariad athrylithgar at geinder tlysni. Codais hwy o wahanol ysgriflyfrau lle y ceir cywydd neu ddau i Dafydd yn dechreu casgliad o geinion wnaethai rhyw fardd iddo ei hun. Codwyd llawer, os nad y rhan fwyaf, o wahanol ysgriflyfrau Lewis Morris, ac o argraffiad Owen Jones a William Owen yn 1789.[1] Er cymaint fu gwasanaeth y gwŷr ardderchog hyn, dewisais gopiau ereill hŷn, lle y gallwn, yn hytrach na'u copiau hwy. Trwsiasant ormod; i'r efrydydd, eu copiau hwy yw y mwyaf diwerth.
Ni raid i mi ddweyd nad yw yr oll o waith Dafydd ab Gwilym yn y gyfrol hon. Yr wyf yn amheus ynghylch awduriaeth amryw gywyddau briodolir i Ddafydd yn argraffiad 1789. Mewn un llawysgrif priodolir i Gruffydd Llwyd ab D ab Einion y cywydd i ddiolch i wŷr Morgannwg am dalu dirwy'r Bwa Bach; mewn un arall priodolir i Robin Ddu y
"Saith gywydd i Forfudd fain,
Seth hoew-gorff, a saith ugain."
Gadewais aml gwpled, nad oeddwn yn sicr ohonynt,
allan; dewisais y dull byrraf fel rheol; ni roddais
ond darn o ambell gywydd. Ni newidiais ddim ond
"y" ac "yn" yn "ei" ac "ein," a "glaw" yn
"gwlaw." O'm hanfodd y gwnawn hynny; ond os
creithiau ar yr iaith yw y rhai hyn, danghosant ol
dwylaw cymhwynasgar William Salesbury a Dr. W.
Owen Pughe. Cyfleais y cywyddau i ddangos hanes
Dafydd,—yr ymhyfrydu yn nhlysni natur a merch,
ymgartrefu gydag Ifor Hael, caru Morfudd, y briodas
yn y llwyn, colli ac ail ennill a cholli Morfudd, canu i
Gruffydd Grug, prudd-der cysgodau'r hwyr.
Os teimla ambell un cyfarwydd mai bwngler ydwyf, cofied fy esgus,—y mae pobl ieuainc Cymru yn dechreu yr ugeinfed ganrif heb argraffìad o waith eu prif fardd yn eu cyrraedd.
Yn hanner olaf y bymthegfed ganrif, rhwng Llywelyn ac Owen Glyndŵr, y bu Dafydd ab Gwilym byw. Yr oedd bywyd Lloegr a'i masnach a'i moethau yn llawn dylanwad ar Gymru. Yr oedd yr urddau cardod,—y brawd du a'r brawd llwyd,—yn dirywio rhagor bured ac anwyled fuasent gynt. Yr oedd adfywiad dysg, fel awel gwanwyn, yn y byd. Yr oedd meibion llafur yn dod yn rhydd o rwymau oesol. Yr oedd bryd pob dyn ar fywyd y byd yr oedd yn byw ynddo. Trodd addoli Mair yn addoli merch dlos, trodd nerth crefyddolder yn ymhyfrydiad yn nhlysni anian; y goedwig yw teml Dafydd ab Gwilym, a'r ehedydd ei offeiriad.
O gyfeiriadau ato mewn beirdd eraill, y mae llenorion wedi dadblygu hanes rhamantus iddo,—ei eni yn yr eira, ei fedyddio ar arch Ardudfyl ei fam, ei grwydr oddiwrth lysfam at noddwr tan ymddisgleiriodd ei awen yn amlwg i bawb. Gwelir ef yn ei gywyddau,—yn wr teimladwy yn hytrach na dewr, yn dioddef ac eto yn llawn llawenydd, yn ymhyfrydu yng ngwynder alarch neu felynder banadl neu gân bronfraith neu dlysni hoew fedwen haf, yn ymgolli yng nghyfoeth prydferthwch coedwig ac adar, yn ddianwadal ei barch i Ifor a'i gariad at Forfudd.
Y mae i Ddafydd ab Gwilym le pwysig yn hanes meddwl Cymru. Dengys ambell gyfeiriad at Sais beth oedd natur gwladgarwch Cymru rhwng y ddwy ymdrech galetaf am anibyniaeth. Ond y peth mwyaf dyddorol yw y berthynas rhwng y bardd a chrefydd ei oes. Yr oedd o ysbryd crefyddol, iaith addoliad yw iaith ei ddesgrifiadau o aderyn a llwyn. Saif fel cynrychiolydd naturioldeb a chydymdeimlad yn erbyn gorthrwm rhagrithiol yr eglwys. Ofnai Dduw, addolai Fair, ond ni fynnai gredu fod cariad yn bechod a fod tlysni yn beth i ymswyno rhagddo. Darlunia seremonïau addoli, darlunia bererindod i Dyddewi, ond o hanner difri hanner chwarae. Mae eglwys y canoloesoedd wedi colli ei dylanwad, mae dydd Wycliff a Walter Brute yn ymyl. Mae natur ddynol iach wedi gwrthryfela yn erbyn mynachaeth a gorthrwm llys eglwysig.
Faint fu ei ddylanwad ar Gymru? Tystied gwaith beirdd pob oes yn ysgrifennu ei gywyddau fel eu trysorau pennaf. Ac oni ddylai ei gywyddau fod yn rhan o feddwl pob un y mae tlysni gwaith Duw yn hyfryd iddo?
OWEN M. EDWARDS.
Llanuwchllyn, Awst 21ain, 1901.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Cafodd y llyfryn yma o Gyfres y Fil ei gyhoeddi cyn i Griffith John Williams profi bod Iolo Morganwg wedi ffugio rhan o gorpws gwaith DapG. Mae o leiaf naw cerdd yn y casgliad hwn yn waith Iolo:—tt 31, 37, 50, 52, 69, 75, 97, 101 a 104. Mae nifer o gerddi eraill yn y llyfr sy ddim yn cael eu hystyried gan ysgolheigion bellach i fod yn rhai gan Dafydd ap Gwilym