Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf I/Marwnad Marged Morys

Oddi ar Wicidestun
Cywydd y Gem, neu'r Maen Gwerthfawr Gwaith Goronwy Owen Cyf I

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Bywyd yn Donnington

MARWNAD MARGED MORYS.

[At William Morris, Rhag. 8, 1752]

CHWI gawsech glywed oddi wrthyf yn gynt, ond odid, oni buasai y rhew tost a fu'n ddiweddar. Nid yw 'r Awen ond fferllyd ac anystwyth ar yr hin oer yma. Ni chaiff dyn ychwaith mo'r amser i brydyddu, gan fyrred y dyddiau, a chan ymsgythru ac ymwthio i gonglau; a pha beth a dal crefft heb ei dilyn? Pa wedd bynnag, dyma i chwi ryw fath o'r bwt of gywydd o "Goffadwriaeth" am yr hen wraig dda o Bentref Eriannell gynt. Hoff oedd gennyf fi hi yn ei bywyd; a diau fod rhywbeth yn ddyledus i goffadwriaeth pobl dda ar ol eu claddu; yr hyn, er nad yw fudd yn y byd iddynt hwy, a eill ddigwydd fod yn llesol i'r byw, i'w hannog i ddilyn camrau y campwyr gorchestol a lewychasant mor hoew odidog yn y byd o'u blaen hwynt. Nid yw cymaint fy rhyfyg i a meddwl y dichon fod ar law dyn o'm bathi ganu iddi fal yr haeddai. Beth er hynny ? "Melusaf y cân Eos, ond nid erchis Duw i'r Frân dewi." Yr asyn a gododd ei droed ar arffed ei feistr, ac nid llai ei ewyllys da ef na 'r colwyn, er nad hawddgar ei foesau. Fe all Bardd Du ddangos ei ewyllys; ac nid all Bardd Cock amgen cyd bai amgen ei gywydd. Os gwyddoch pa le y mae, rho'wch fi ar sathr y brawd Llywelyn Ddu. Yr wyf yn tybio ei fyned i Lundain cyn hyn; ac os felly, yn iach glywed na siw na miw oddi wrtho hyd oni ddychwelo.

Ai byw yr hen Gristiolus wydn fyth? Is the curacy of Llanrhuddlad disposed of? What other curacy is vacant? Waethwaeth yr a'r byd wrth aros yma. Prin y gellir byw yr awrhon—a pa fodd amgen, tra bo'r brithyd am goron y mesur Winchester, a'r ymenyn am saith geiniog, a'r caws am dair a dimai'r pwys? A pha sut y gellir byw tra cynydda'r teulu ac na chynydda'r cyflog? Y llanciau a ant fwyfwy 'r clwt, fwyfwy'r cadach, ac ymhell y bwyf, ie, pellach o Fon nac ydwyf, os gwn i pa 'r fyd a'm dwg. Nis. gwybûm i mo'm geni nes dyfod i fysg y Saeson drelion yma. Och finnau! Mi glywswn ganwaith son am eu cyneddfau, a mawr na ffynasai gennyf eu gochel. Mi allaf ddywedyd am danynt fal y dywaid Brenhines Seba am Solomon, "Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad fy hun am danynt, eto ni chredais y geiriau nes im' ddyfod ac i'm llygaid weled; ac wele ni fynegasid imi 'r hanner.

Nid oes gennyf fi lid yn y byd i'r Doctor Es. Mae yn rhydd iddo fo ddictatio fal y fynno, onid fod yn rhydd i minnau wneuthur yn fy newis ai canlyn ei ddictat ef ai peidio; a pheidied o a digio oni chanlynaf, ac yno fe fydd pob peth o'r gorau. Cenawes ystyfnig ydyw'r Awen. Ni thry oddi ar ei llwybr ei hun er ungwr. Ac yn wir nid yw ond digon afresymol i wr na fedd nag Awen na 'i chysgod gymeryd arno ddysgu un a'i medd, pa fodd i'w harfer ai rheoli. Fe ellir gwneuthur pwt o bregeth ar y testyn a fynno un arall; ond am gywydd, ni thal draen oni chaiff yr Awen ei phen yn rhydd, ac aed lle mynno. A phwy bynnag a ddywedo amgen, gwybydded fod ganddo Awen ystwythach na 'm Hawen i, yr hon ysgatfydd sydd mor wargaled o ddiffyg na buaswn yn ei dofi yn ieuangach. Cennad i'm crogi onid wyt yn meddwl fod yr Awen, fal llawer mireinferch arall, po dyenaf a diwytaf ei cerir, murseneiddiaf a choecaf fyth ei cair. Nis gwn, pe 'm blingid, pa un waethaf ai gormod gofal, ai gormod diofalwch.

CYWYDD MARWNAD MARGED MORYS,
O BENTRE EIRIANNELL.

MAWR alar, trwm oer wylaw,
A man drist, sydd ym Mon draw;
Tristyd ac oerfryd garwfrwyn
Llwyr brudd, a chystudd a chŵyn;
Tristaf man Pentre 'riannell;
Ni fu gynt un a fâi gwell.
Ni fu chwerwach, tristach tro
I Fon, nag a fu yno;

Lle bu ddien lawenydd,
Ubain a dwys ochaín sydd;
Digroew lif, deigr wylofain,
Am Farged y rhed y rhain;
Didaw am Farged ydynt,
Marged, law egored gynt;
Bid hapus haelionus law,
Ffrawddus i fil ei phriddaw.
Rhy fawr san ar Forys yw,
Oer adwyth i'w gŵr ydyw;
Deuddyn un enaid oeddynt,
Dau ffyddlon un galon gynt.
Mad enaid! chwith am dani,
A phrudd hwn o'i phriddo hi;
Ac o'i herwydd dwg hiraeth
Ormod; ni fu weddwdod waeth.
Toliant ar lawer teulu
Ar led am Farged a fu;
Ymddifaid a gweiniaid gant,
Uchenawg, a achwynant
Faint eu harcholl a'u colled,
Farw gwraig hael lle bu cael ced
Llawer can-torth o borthiant
Roe hon lle bâi lymion blant;
Can hen a ddianghenodd;
I'r un ni bu nag o rodd:
Gwiwrodd er mwyn goreu-Dduw
Gynnes weinidoges Duw.
Gwraig dd gymar oedd Marged
I'w plith am ddigyrrith ged;
A ched ddirwgnach ydoedd,
Parod, heb ei dannod oedd.
Di ball yn ol ei gallu,
Rhwydd a chyfarwydd a fu;

Rhyfedd i'w chyrredd o chaid
Ing o unrhyw angenrhaid;
Rhoe wrth raid gyfraid i gant,
Esmwythai glwyfus methiant;
Am gyngor doctor nid aeth
Gweiniaid, na meddyginiaeth.
Dilys, lle bâi raid eli,
Fe'i caid. Nef i'w henaid hi!
Aed i nef a thangnefedd,
Llawenfyd, hawddfyd, a hedd.
Nid aeth mad wraig deimladwy
O'n plith a gadd fendith fwy;
Bendith am ddiragrith rodd;
Hoff enaid! da a ffynnodd.
Os oes rhinwedd ar weddi,
Ffynnu wna mil o'i hil hi.
Pa lwysach epil eisoes?
Ei theulu sy 'n harddu 'n hoes;
Tri mab doethion tirionhael;
Mawr ei chlod, merch olau hael;
Tri—mab o ddoniau tramawr,
Doethfryd a chelfyddyd fawr;—
LEWIS wiwddysg, lwys, addwyn,
Athraw y gerdd fangaw, fwyn;
Diwyd warcheidwad Awen,
Orau gwaith, a Chymraeg wen.
RHISIART, am gerdd bêr hoewsain
Hafal ni fedd Gwynedd gain;
Anhebyg, tra bo 'n hybarch
Y Beibl, na bydd iddo barch.
Allai fod, felly ei fam,
Deilen na nodai WILIAM?
Chwiliai ef yr uchelion,
Y môr a thir am wyrth Ion.

Tradoeth pob brawd o'r tri-dyn,
Doeth hyd y gall deall dyn;
Tri gwraidd frawd rhagorawl;
Haeddant, er na fynnant fawl.
Da 'r had na newid eu rhyw,
D'wedant ym Mon nad ydyw
Cyneddfau, doniau dinam,
ELIN, ei merch, lai na 'i mam.
Da iawn fam! diau na fu
Hwnt haelach perchen teulu;
Rhy dda i'r byd ynfyd oedd,
lawn i fod yn nef ydoedd.
Aeth i gartref nef a'i nawdd,
Duw Iesu a'i dewisawdd.
Uniawn y farn a wna fo:
Duw Funer, gwnaed a fynno!
Dewisaf gan Naf i ni
Oedd ddeisyf iddi oesi,
Hir oesi, cael hwyr wysiad
Adref i oleunef wlad."
Gwae'r byd o'r ennyd yr aeth!
Oer bryd oedd ar brydyddiaeth;
Achles i wen Awen oedd,
A nesaf i'r hen resoedd.
Cynnes i feirdd, tra cenynt,
Oedd canu ffordd Gymru gynt.
Cael braint cân o ddadanhudd,
A chler er yn amser Nudd.
Boed heddwch a byd diddan
Byth it! ti a gerit gân;
Ac yna 'n entrych gwiwnef,
Cydfydd a cherdd newydd nef.
Ni 'th ludd cur, llafur, na llid;
Da yn Nuw yw dy newid:

Newidio cân, enaid cu,
Monwysion am un Iesu.
Clywed llef y côr nefawl;
Gwyn dy fyd! hyfryd dy hawl!
Lleisiau mawrgerth lleismeirgerdd,
Côr o saint cywraint eu cerdd,
Cu eu hodlau, cyhydlef,
Gwynion delynorion nef.
Can-llef dwsmel tra melys,
Fal gwin, ar bob ewin bys.
Dedwydd o enaid ydwyi!
Llaw Dduw a'n dyco lle 'dd wyt!
A'n hannedd, da iawn honno,
Amen, yn nef wen a fo!

[At Richard Morris, Rhag. 18, 1752.]

MI glywais fyned o Dduw â'ch mam; a saeth I'm calon oedd y newydd. Da iawn i laweroedd a fu hi yn ei hamser, ac ym mysg eraill, i minnau hefyd pan oeddwn yn blentyn. Hoff iawn fyddai gennyf redeg ar brydnawn Sadwrn o ysgol Llan Allgo i Bentref Eriannell, ac yno y byddwn yn sicr o gael fy llawn hwde ar fwyta brechdanau o fel, triagl, neu ymenyn, neu 'r un a fynnwn o'r tri rhyw; papur i wneud fy nhasg, ac amryw neges arall, a cheiniog yn fy mhoced i fyned adref, ac anferth siars, wrth ymadael, i ddysgu fy llyfr yn dda; a phwy bynnag a fyddai yn y byd, y ceid rhyw ddydd fy ngweled yn glamp o berson. Poed gwir a fo y gair; ac nid yw yn anhebyg gan weled o Dduw yn dda ffynnu ganddi adael meibion o'r un meddwl â hi ar ei hol. Duw fo da wrth ei meibion! Dacw i chwi y tu draw i'r ddalen ryw fath ar "gywydd o goffadwriaeth" am dani. Da y gwn na ddichon fod ar law dyn o'm bath i ganu iddi fel yr haeddai; eto mi allaf ddangos yr ewyllys; ac nid eill y goreu ddim yn ychwaneg. Mi allaswn, yr wyf yn cyfaddef, siarad geiriau mwy; ond yr oedd arnaf weithiau ofn dywedyd y gwir i gyd, rhag i neb dybied fy mod yn gwenieithio, yr hyn sydd gasbeth gan fy nghalon. Fe ŵyr pawb a'i hadwaenai hi nad ydwyf yn celwyddu nag yn gwenieitho o'i phlegid.

Am y lle y crybwyllais eich enw chwi, esgusodwch fi. Nis gwyddwn pa beth i ddywedyd am danoch, ac nis clywais erioed amgen na 'ch bod yna yn Llundain, a rhai o'ch mân gampiau a'ch mwynion chwedlau gynt, pan oeddych yn fachgen, a glywswn gan fy mam; pa fodd y cymmerasoch fwyall fechan gyda chwi i dorri'r ysgol erbyn y Gwyliau, a'r cyffelyb. Mi welais hefyd. er ys gwell na deunaw mlynedd ym meddiant fy ewythr, Robert Gronow, lythyr, ac ynddo ryw nifer o englynion cywreinddoeth a yrasech gynt oddi yna at fy nhaid, yr hen Ronw; ac heblaw hynny nid cof gennyf glywed na siw na miw yn eich cylch. Pa wedd bynnag, yr wyf yn dyall wrth hynny fod gennych eich rhan o naturioldeb gwreiddiol yr hen gelfyddyd, a gobeithio na thybiwch i mi wneuthur dim cam â chwi. Mi a yrrais y cywydd i Mr. William Morris o Gybi, ac i fy athraw o Allt Fadog hefyd; ond nis clywais eto pa 'r un ai da ai drwg ydyw. Yr wyf yn coelio pe cymeraswn lai o ofal yn ei gywreinio, mai llawer gwell a fuasai; canys sicr yw, fod gormod gofal cynddrwg a gormod diofalwch. Llyma 'r cywydd fel y mae.

GORONWY DDU, GYNT O FON.


Nodiadau

[golygu]