Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Englynion i Ofyn Cosyn

Oddi ar Wicidestun
Cyfieithiadau o Anacreon Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Marwnad John Owen

ENGLYNION I OFYN COSYN LLAETH GEIFR
GAN WILLIAM GRUFFYDD, DRWS Y COED, A DROS DOMAS HUWS. 1754

DYNYN wyf a adwaenoch—er ennyd,
A yrr annerch atoch;
Rhad a hedd ar a feddoch,
I'ch byw, a phoed iach y boch.
I chwi mae, i'ch cae uwch cyll,
Geifr, hyfrod, bychod, heb wall;
Llawer mynnyn, milyn mwll,
Rhad rhwydd a llwydd ar bob llill.

Mae iwch gaws liaws ar led—eich annedd,
A'ch enwyn cyn amled;
Y mwynwr, er dymuned,
Rhowch i'm gryn gosyn o ged.

Cosyn heb un defnyn dwfr,
Cosyn ar wedd picyn pefr,
Cosyn o waith gwrach laith, lofr,
Cosyn o flith gofrith gafr.

Blysig, aniddig ei nâd—yw meistres,
A mwstrio mae'n wastad;
Ni fyn mwy un arlwyad
Na gwledd, ond o gaws ein gwlad,

Myn Mair, onis cair y caws
Ar fyr, y gŵr difyr dwys,
Ni bydd swydd, na boddio Sais,
Na dim mwy hedd i Dwm Huws.

Os melyn gosyn a gaf,—nid unwaith.
Am dano diolchaf;
Milwaith, wr mwyn, y'ch molaf,
Hau'ch clod ar bob nod a wnaf.


Nodiadau

[golygu]