Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Gwalia fy ngwlad
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Pwy a ddengys | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Ystorm ar y Bryniau gan William Thomas (Islwyn) |
Y Diluw |
GWYLLT WALIA, FY NGWLAD
GWYLLT Walia, fy ngwlad,
A mangre fy nhadau,
Mae'th feibion yn caru
Cysgodion dy fryniau.
Dy fryniau argraffant
Eu herfawr gysgodion
Fel delw gwroldeb
Yn enaid dy feibion.
Boed adsain gorfoledd
O hyd ar dy dannau ;
A her mawrfrydigrwydd
Yn urddo dy fannau.
O bydded dy fryniau
Yn wylltion o hyd,
Yn erchyll a gwylltion
Fel geirwon bileri y byd.